Arwain Abertawe Rhifyn 93
Medi 2014 tu mewn
Papur newydd Dinas a Sir Abertawe
eich dinas: eich papur
Canol y Ddinas Paratoi ar gyfer adfywio economaidd a hefyd
tudalen 3
CDLI • SYNIAD GWYCH SY'N DWYN FFRWYTH: Sut gall pawb hau hadau dyfodol cynaliadwy yn eu iardiau cefn. Gweler tudalen 7 Llun gan Jason Rogers
GOFYNNIR i breswylwyr y ddinas ymuno yn y drafodaeth am ddyfodol gwasanaethau eu cyngor. Mae pobl leol yn cael cyfle i ddweud eu dweud am ddyfodol gwasanaethau'r ddinas ac ystyried pa wasanaethau y byddent yn fodlon ymgymryd â nhw, gan adeiladu ar enghreifftiau o weithredu cymunedol sydd eisoes i'w gweld ar draws Abertawe. Bydd Abertawe Gynaliadwy: Yn Addas i'r Dyfodol, Parhau â'r Sgwrs yn mynd â rhaglen drawsnewid uchelgeisiol y cyngor i'r cam nesaf. Ei nod yw sicrhau bod y gwasanaethau a ddarparwn yn diwallu anghenion preswylwyr ac yn fforddiadwy, gan ystyried yr heriau ariannol sylweddol sy'n wynebu'r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Meddai Dean Taylor, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, "Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth gynghorau lleol i ddisgwyl 4.5% o doriadau mewn grantiau bob
gwybodaeth
Trawsnewid gwasanaethau wrth wraidd y drafodaeth fawr BYDD Cyngor Abertawe'n mynd allan i gwrdd â grwpiau cymunedol yn eu cymdogaethau dros yr wythnosau nesaf i barhau â'r drafodaeth am Abertawe Gynaliadwy - yn Addas i'r Dyfodol. Bydd nifer o ddigwyddiadau a chyfleoedd yn cael eu darparu i grwpiau cymunedol mewn canolfannau ar draws y ddinas. Bydd aelodau'r cyhoedd hefyd yn cael cyfle i ymuno yn y drafodaeth drwy fynd i un o'r cyfarfodydd cymunedol hynny, cymryd rhan ar-lein neu drwy gyfrannu at arolwg ar-lein. Bydd taflenni'n cael eu dosbarthu yn yr wythnosau nesaf i lyfrgelloedd, canolfannau hamdden, adeiladau cymunedol a lleoliadau eraill. Caiff gwe-dudalennau arbennig y cyngor yn www.abertawe.gov.uk/sustainableswansea eu diweddaru dros yr wythnosau nesaf hefyd, neu gallwch e-bostio sustainableswansea@swansea.gov.uk os hoffech wahodd tîm Abertawe Gynaliadwy - yn Addas i'r Dyfodol i roi cyflwyniad.
blwyddyn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Yn Abertawe, ar ben y galw cynyddol am wasanaethau megis cefnogaeth ar gyfer pobl hŷn, mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni nawr arbed o leiaf £70m yn y tair blynedd nesaf o'i gymharu â £45m o arbedion, sef y swm roeddem yn meddwl bod rhaid i ni ei arbed y llynedd. Meddai, "Mae'n rhaid i ni i gyd
wynebu'r realiti anodd hwn ac mae'n hollbwysig i ni ofyn i bobl leol beth yw'r blaenoriaethau yn eu barn nhw, pa ran gallan nhw ei gwneud wrth ddarparu rhai gwasanaethau yn y dyfodol a pha wasanaethau dylem eu lleihau neu roi'r gorau i'w darparu. Yn ôl Mr Taylor, roedd y cyngor wedi torri miliynau o bunnoedd o'i gyllidebau ers lansio Abertawe
Gynaliadwy: Yn Addas i'r Dyfodol y llynedd, drwy leihau costau rheoli, prynu'n effeithlon ac arbedion penodol mewn gwasanaethau. “Ond mae llawer o waith i'w wneud o hyd ac mae angen i'n preswylwyr, ein staff, busnesau lleol a sefydliadau eraill edrych i'r dyfodol ac ymuno yn y drafodaeth am yr hyn y dylai'r cyngor ei wneud yn y blynyddoedd nesaf, oherwydd bydd rhaid i'r cyngor drawsnewid ei ffordd o wneud pethau yn y dyfodol. "Rydym hefyd am dderbyn syniadau gan breswylwyr a chymunedau am yr hyn y maent yn barod i'w wneud dros eu hunain ac eraill yn hytrach na disgwyl i'r cyngor ei wneud bob tro, a'r rôl y gall asiantaethau eraill ei chyflawni ar yr un pryd.” Meddai Mr Taylor, "Byddwn yn gofyn i'n preswylwyr hefyd pa wasanaethau na ddylai'r cyngor eu darparu bellach, efallai am y gallant gael eu cyflwyno yn fwy effeithlon neu'n fwy cynaliadwy gan rywun arall.”
Y cam diweddaraf ar gyfer glasbrint cynllunio'r ddinas tudalen 2
Taclus Plant yn arwain gwaith glanhau cymunedau tudalen 4
Ysgolion i elwa o waith adnewyddu gwerth £73m tudalen 5