Arwain Abertawe Rhifyn 96
Mawrth 2015 tu mewn
Papur newydd Dinas a Sir Abertawe
eich dinas: eich papur
Canol y Ddinas Cynlluniau adfywio yn cael canmoliaeth gan ddatblygwyr
a hefyd
tudalen 7
Sioe awyr • DYSGU FEL TEULU Bydd Ryan ac Andrea Smith yn treulio prynhawn ddydd Mercher yn gweithio gyda'i gilydd yn yr ysgol gyda chefnogaeth gwasanaeth Dysgu fel Teulu'r cyngor. Mwy o wybodaeth ar dudalen 11.
Sioe awyr yn dychwelyd i’r ddinas dros yr haf
Llun gan Jason Rogers
MAE Cyngor Abertawe yn bwriadu gwario miliynau o bunnoedd yr wythnos yn cefnogi cymunedau lleol, gan roi blaenoriaeth resymol i ysgolion a gofal cymdeithasol. Bydd y cyngor yn gwario tua £1.5m y dydd yn diogelu pobl ddiamddiffyn, yn cefnogi cyrhaeddiad disgyblion ac yn mynd i'r afael â thlodi i hyrwyddo economi leol a chymunedau cynaliadwy. Bydd dros £127m yn cael ei wario yn ein hysgolion, £105m ar ofal cymdeithasol yn ogystal â £52.5m ar wasanaethau megis llyfrgelloedd, canolfannau hammden, parciau, strydoedd a thoiledau. Ar ben hynny, mae miliynau mwy o bunnoedd wedi cael eu clustnodi ar gyfer gwelliannau i dai cyngor ac adeiladau ysgol newydd. Dywedodd Dean Taylor, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
gwybodaeth
Miliynau i gefnogi blaenoriaethau rheng flaen CYNHALIWYD ymgynghoriad ar raglen Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i'r Dyfodol a chynigion cyllideb penodol dros bedwar mis ac roedd yn cynnwys 10 sioe deithiol i staff, 15 sgwrs gymunedol a 5 digwyddiad dros dro ym Marchnad Abertawe, archfarchnadoedd a'r Ganolfan Ddinesig. Dosbarthwyd miloedd o lyfrynnau ymgynghori i dros 60 o lyfrgelloedd, canolfannau hamdden a chanolfannau cymunedol. Denodd y cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrch ar y we lawer o sylw gan filoedd o bobl. Hefyd cynhaliwyd 'Sgwrs Fawr' ar gyfer pobl ifanc, cyfarfodydd ag undebau llafur ac ymgynghoriad â phenaethiaid ysgolion. Ymatebodd 16 ysgol yn unigol hefyd. Ceir manylion llawn yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn www.abertawe.gov.uk/democratiaeth Hefyd ceir mwy o wybodaeth ar dudalen 4 a 5.
Corfforaethol, fod y cyngor yn ymdrechu i fod yn gallach, yn fwy effeithiol ac effeithlon wrth iddo geisio arbed o leiaf £81m o'i gyllideb dros y tair blynedd nesaf. Dywedodd fod cymaint o'r gyllideb flynyddol â phosib yn cael ei wario ar flaenoriaethau rheng flaen a nodwyd gan drigolion Abertawe. Meddai, "Rydym wedi bod yn parhau i drafod rhaglen Abertawe
Gynaliadwy – Yn Addas i'r Dyfodol y cyngor â phreswylwyr, grwpiau a sefydliadau lleol dros y misoedd diwethaf. "Gwnaethom ofyn am farn pobl, cawsom sylwadau ganddynt ac mae'r cyngor wedi ymateb i'w syniadau a'u hawgrymiadau." Mae cynigion sydd wedi newid o ganlyniad i ddau ymgynghoriad a gynhaliwyd dros bedwar mis yn
cynnwys y penderfyniad i beidio â chodi tâl i breswylwyr barcio. Mae adborth hefyd wedi sbarduno penderfyniad i ddatblygu adolygiadau ehangach o feysydd megis gofal cymdeithasol i oedolion, casglu gwastraff, toiledau cyhoeddus a threfniadau parcio ceir. Mae'r cyngor eisoes wedi arbed miliynau ar gostau rheoli dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys lleihau nifer y cyfarwyddwyr o saith i bedwar. Mae'r cyngor hefyd yn ymdrechu i symleiddio gwasanaethau gweinyddol, cyflwyno ffyrdd callach o weithio a lleihau gorbenion drwy fuddsoddi mwy mewn technoleg ddigidol. Mae hefyd yn ystyried gwerthu asedau, gan gynnwys adeiladau nad oes eu hangen arno bellach, buddsoddi'r gweddill i gefnogi gwasanaethau yn ogystal â lleihau mwy ar gostau.
tudalen 3
Gŵyr Gwyllt Ap am ddim i'ch arwain o gwmpas Penrhyn Gŵyr tudalen 9
Cyfle i ennill gwobrau am ailgylchu tudalen 11