Arwain Abertawe Gorffennaf 2015

Page 1

Arwain Abertawe Rhifyn 98

Gorffennaf 2015 tu mewn

Papur newydd Dinas a Sir Abertawe

eich dinas: eich papur

Sioe Awyr Y diweddaraf am uchafbwyntiau'r haf a hefyd

tudalen 3

•AMSER BRECWAST: Mae’r cyngor ac ysgolion ar draws y ddinas yn gwneud eu gorau glas i barhau i ddarparu brecwastau i blant ysgolion cynradd y ddinas bob bore o fis Medi. Mwy ar dudalen 9. Llun gan Jason Rogers

MAE pobl mewn tair ardal yn Abertawe'n arloesi newid sylweddol yn y ffordd mae'r cyngor a chymunedau'n gweithio gyda'i gilydd i gefnogi pawb yn ei gymdogaeth i barhau'n iach, yn ddiogel ac yn hapus. Mae Abertawe'n arwain y ffordd yng Nghymru gyda ffordd newydd o gefnogi pobl o'r enw cydlynwyr ardaloedd lleol. Bydd y fenter mewn tair ardal i ddechrau; Gorseinon, gan gynnwys Pentre'r Ardd a Chasllwchwr, Sgeti a St Thomas/Bonymaen. Mae pobl sy'n byw, yn gweithio ac yn cael eu haddysgu yn yr ardaloedd hyn wedi bod yn helpu i lywio'r ffordd mae eu cymunedau'n dod yn fwy gofalgar a chadarn i gefnogi pobl y mae angen cefnogaeth arnyn nhw. Erbyn hyn, maen nhw wedi bod yn helpu'r cyngor i sicrhau bod cydlynu ardaloedd lleol yn gallu digwydd. Mae'r prosiect wedi deillio o raglen Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i'r

gwybodaeth

Arloeswyr lleol yn barod i helpu i wneud gwahaniaeth MAE cydlynu ardaloedd lleol wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol yn Awstralia lle dechreuodd, ac mae'n cael effaith gadarnhaol mewn mannau eraill yn y DU lle mae wedi cael ei fabwysiadu. Ar hyn o bryd, mae'n cael ei ariannu gan Gronfa Atal Cyngor Abertawe i gefnogi pobl i bennu eu gweledigaeth ar gyfer bywyd da. Mae Abertawe wedi gwneud cryn dipyn gyda'r broses hon o'i chymharu â rhannau eraill yng Nghymru. Bydd y Sefydliad Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe'n archwilio pa mor dda mae'r broses yn gweithio yma fel bod profiad mewn un ardal o'r ddinas yn gallu helpu i wella'r gwasanaeth mewn un arall.

Dyfodol ac mae'n annog preswylwyr i weithio gyda'i gilydd i ofalu amdanyn nhw eu hunain, meithrin cryfderau a brwdfrydedd personol a chymunedol i ddatrys problemau'n gyflym. Mae atal yn llinyn allweddol o Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol, ymdrech y cyngor i arbed o leiaf £81m dros y blynyddoedd sydd i ddod. Nod gwaith cydlynwyr ardaloedd lleol yw dod â chymunedau at ei gilydd fel bod preswylwyr yn gallu cefnogi ei gilydd a gwneud

gwahaniaeth yn eu cymdogaethau. Helpodd preswylwyr lleol i gyfweld â thri chydlynydd ardaloedd lleol a'u recriwtio i'r cyngor i helpu i feithrin partneriaethau rhwng cymunedau ac asiantaethau i ddiwallu anghenion pobl a'u teuluoedd. Mae'r cydlynwyr, a fydd yn ganolog i'r rhwydwaith cefnogi cymunedol, eisoes yn adeiladu rhwydweithiau yn eu hardaloedd perthnasol. Nhw yw Jon Franklin yn Sgeti, Dan Morris yn St Thomas a

Bonymaen a Ronan Ruddy yng Ngorseinon a Chasllwchwr. Yn y cyfamser, mae'r bobl leol a helpodd nhw ar y dechrau'n defnyddio'u syniadau a'u gwybodaeth am eu cymdogaethau eu hunain i arwain y cyngor a'r cydlynwyr ardaloedd lleol. Un ohonyn nhw yw Mandy Harvey o Sgeti, a oedd yn rhan o'r broses gyfweld a benododd Jon Franklin. Meddai, “Rydyn ni'n gwybod bod cydlynu ardaloedd lleol wedi gweithio yn Awstralia ac mewn rhannau eraill o'r DU. “Rydyn ni eisiau rhoi cynnig arno yma fel bod cymunedau'n dod yn ddiogelach ac yn iachach yn y ffordd sydd fwyaf addas iddyn nhw a chyn i bobl gyrraedd y fath argyfwng sy'n golygu bod angen i'r gwasanaethau cymdeithasol neu'r gwasanaeth iechyd ymyrryd. “Rydyn ni'n gwybod bod cymunedau gwych yn Abertawe. Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar y cryfder hwnnw i sicrhau bod pawb yn parhau'n gysylltiedig.”

Canol y ddinas Paratoi at ddyfodol llewyrchus tudalen 5

Dim bwyd mewn sachau du Gadewch i ni anelu at gadw bwyd allan o sachau du tudalen 7

Bwyd i’r bin, nid i’r adar #abertawedaclus tudalen 11


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Arwain Abertawe Gorffennaf 2015 by City and County of Swansea - Issuu