Ardal fasnachu achlysurol newydd Fel rhan o’r datblygiad hwn, bydd masnachwyr achlysurol yn gallu defnyddio ardal stondinau bwrpasol newydd, a chanddi nodweddion defnyddiol a hyblyg. Lleolir hyn ger y rotwnda gocos, ar hyd eil boblogaidd sy’n weladwy o’r ardal fasnachu achlysurol bresennol.
Wal gefn ar gyfer brandio a chyfleoedd ychwanegol ar gyfer bwydlenni ac arwyddion.
Bydd masnachwyr dydd presennol hefyd yn elwa o amrywiaeth o fanteision a fydd yn eu cefnogi i symud i’r ardal newydd. Dyma rai delweddau o sut gallai’r stondin hon edrych a sut y gellid ei defnyddio.
Sinc dur gwrthstaen a basn golchi dwylo.
Arwyddion wynebfwrdd du mewn modiwlau fel y gall tenantiaid eu haddasu’n rhwydd.
Lle a phŵer ar y cownteri cefn ar gyfer cyfarpar coginio masnachwyr.
Lle a phŵer ar gyfer oergell/rhewgell y tenant.
Pedwar modiwl cownter ar gyfer amrywiaeth o silffoedd a gosodiadau arddangos.