NEWYDDION
ABERTAWE ACTIF well am Croeso i ail gylchlythyr Abertawe Actif - sy’n ceisio eich hysbysu’n canolfan y campau a’r gweithgareddau iechyd y gallwch eu mwynhau yn eich leol ac yn eich ardal.
MAE’R HAF AR Y FFORDD! Gyda gwyliau’r haf yn prysur nesáu, mae ein nodau ffitrwydd yn dechrau symud o gynnal corff a meddwl iach i gael gwared ar ein bloneg cyn i ni ddatgelu ein cyrff ar y traeth. Yn anffodus, does dim ots faint rydym am gredu’r miloedd o erthyglau mewn cylchgronau ac ar-lein, nid oes deiet na chynllun ymarfer corff ‘cyflym’ a fydd yn newid siâp eich corff yn gyfan gwbl mewn ychydig wythnosau; fodd bynnag, mae ffyrdd mwy clyfar ac effeithiol i ymarfer corff a bwyta’n iachach, a fydd yn eich helpu i edrych a theimlo’n fwy hyderus, mewn pryd ar gyfer eich datgeliad mawr. Yma rydym yn gobeithio rhoi ysbrydoliaeth i chi fel y gallwch ddechrau cymryd camau cadarnhaol at gael y corff rydych yn dymuno ei gael ar y traeth.
NEWYDD! Byddwch ar flaen y gad a chymerwch ran yn ein sesiynau ffitrwydd TRX newydd yn Llandeilo Ferwallt, Penlan, Treforys a Phenyrheol. Mae ffitrwydd TRX yn ymarfer corff cyflawn i’r corff lle’r ydych yn defnyddio pwysau eich corff fel gwrthiant. Gyda thros 300 o ymarferion i chi eu gwneud, ni fyddwch yn diflasu! Edrychwch am fanylion yn y canolfannau cyn bo hir.
My Swansea Fy Abertawe
PROFFIL STAFF
Enw: Jodie Clarke, Hyfforddwr Nofio. Eich canolfan: Canolfannau Hamdden Penlan a Threforys yn bennaf. Eich Gwaith: Rwy’n athrawes nofio ac rwy’n dysgu nodweddion sylfaenol nofio i blant hyd at y technegau nofio datblygedig. Pam rydych chi’n hoffi’ch swydd: Rwy’n mwynhau gweld plentyn heb unrhyw hyder yn y dw ˆr yn datblygu i ennill sgil achub bywyd a’r gallu i fwynhau’r sgil fel amser hamdden hefyd. Mae gweithio i Abertawe Actif yn caniatáu i mi gwrdd â phobl ddiddorol a’u helpu i feithrin eu hyder a’u sgiliau yn y dw ˆr. Y cyflawniad gorau yn eich bywyd: Fy nghyflawniad gorau yn fy mywyd yw fy mhlant.