Abertawe Ar Gyfer Gwaith Ymchwil I Dreftadaeth Ddiwydiannol

Page 1

‘Milltir Euraid’ Abertawe Ar Gyfer Gwaith Ymchwil I Dreftadaeth Ddiwydiannol Mae gan Gymru le i hawlio taw hi oedd cenedl ddiwydiannol gynta’r byd. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd de Cymru’n benodol wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel canolfan ar gyfer diwydiannau trwm, cynhyrchu glo a’r fasnach forwrol. Gadawodd y crynhoad hwn o ddiwydiant ac arloesedd etifeddiaeth gref o adnoddau mewn print, ac archifau y gellir eu defnyddio ar gyfer pob math o waith ymchwil hanesyddol, economaidd a diwylliannol. Mae chwe llyfrgell ac archif ymchwil pwysig yn Abertawe. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn creu un o’r cyfleusterau ymchwil gorau un o ran treftadaeth ddiwydiannol Cymru. Lleolir y rhan fwyaf o’r rhain o fewn milltir i’w gilydd yn ardal forwrol hanesyddol Abertawe. Mae’r llyfryn hwn yn rhoi amlinelliad cryno o gryfderau allweddol pob un o’r sefydliadau.

1


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Abertawe Ar Gyfer Gwaith Ymchwil I Dreftadaeth Ddiwydiannol by City and County of Swansea - Issuu