Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor Haf 2015

Page 1

Newyddlen

Cynaliadwyedd@Bangor Tymor yr Haf 2015 LAB Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor Faint ohonoch sydd wedi sylwi fod ‘Y Labordy Cynaliadwyedd’ yn amlygu ei hun ar draws y Brifsygol? Wel, dyma gyflwyniad. Yng nghynllun Strategol 2015-2020 y Brifysgol mae ‘Cynaliadwyedd’ yn cael ei nodi fel un o’r ‘galluogwyr strategol’. Ein nod yw dod yn 'Brifysgol Gynaliadwy' ym mhob agwedd ar hynny. Mae ein huchelgais yn cynnwys nid yn unig isadeiledd a gweithrediad safleoedd y Brifysgol, ond sut mae'r Brifysgol yn cynllunio ar gyfer twf, yn ogystal â'n rôl yng Nghymru a thu hwnt.

  

cynaliadwyedd ar draws yr holl Golegau ac Adrannau Gwasanaeth datblygu fframwaith a gydnabyddir yn fyd-eang i adrodd ar faterion cynaliadwy sicrhau negeseuon clir, cryno a phriodol i'w cynulleidfa ar gynaliadwyedd ymwneud â busnesau a sefydliadau eraill ar ddatblygu busnes cynaliadwy a defnyddio adnoddau'n effeithlon lleihau ôl-troed carbon y Brifysgol

Bydd y gweithgareddau, y gwefannau ag ati yn parhau gyda’r brandio newydd yn digwydd fesul dipyn.

O ran dysgu, addysgu a phrofiad myfyrwyr mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ‘Sicrhau bod Mae SBBS, oedd yn rhan o’r hen Sefydliad datblygiad ein cwricwlwm yn adlewyrchu ein Cymreig ar gyfer Adnoddau Naturiol wedi bod yn hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy a gweithio tu ôl i’r llenni ers blynyddoedd ond dinasyddiaeth fyd-eang. bellach, mewn ymateb i’r cynllun Strategol mae’r Brifysgol wedi ail-enwi’r uned yn ‘Labordy O ran ymchwil mae’n amcan i ‘feithrin diwylliant Cynaliadwyedd’ fydd yn gweithredu fel sy'n gwerthfawrogi a hyrwyddo cynaliadwyedd canolbwynt corfforaethol amlwg i arwain ar ochr yn ochr â gweithgareddau busnes a ddatblygu cynaliadwy. menter’. Un ffordd gyffrous o wneud hyn fydd ‘Cryfhau profiad Myfyrwyr, Staff a'r Gymuned o Yn y misoedd a’r blynyddoedd sy’n dod fe gynaliadwyedd yn ei holl gyfanrwydd drwy fyddwn yn cydweithio gyda phob un ohonoch er Ymchwil Weithredol - 'dysgu trwy wneud'. mwyni: Yn y cyfamser rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig sy’n awyddus i fod yn rhan o’r Labordy – o  cyd-ddatblygu cynllun gweithredu ar bob cwr o’r Brifysgol beth bynnag yw’ch cefndir gynaliadwyedd  sefydlu cynaliadwyedd yn gadarn yn ein holl academaidd neu adran gefnogi.

swyddogaethau i integreiddio pob agwedd ar gynaliadwyedd yn ein gwaith bob dydd cynnal rhaglen o adolygiadau

Cofiwch gysylltu! Efallai gallwn gynnwys eich hanes chi yn y rhifyn nesaf.

www.bangor.ac.uk/sustainability

Cytundeb prifysgolion dros ddatblygu cynaliadwy cyfandiroedd Teithiodd arbenigwyr o Brifysgol Bangor draw i Brifysgol Makerere, Kampala, Uganda (MUK) yn Chwefror 14-19 i lofnodi cytundeb pum mlynedd i gydweithio ar ddatblygu cynaliadwy. Bydd Prifysgol Bangor yn cyfrannu arbenigedd ar gyfer rhoi datblygu cynaliadwy ar waith.

amgylcheddol a cymdeithasol o ddifri." Ychwanegodd Dr Young, "O ganlyniad i'n hymroddiad cyson i geisio bod yn fwy cynaliadwy mae Prifysgol Bangor yn awr ymhlith y 10% uchaf o Brifysgolion gwyrddaf yn y byd mewn cynghrair ryngwladol o sefydliadau sy'n llesol i'r amgylchedd.

Bydd y Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth (MODd) rhwng Prifysgolion Bangor a Makerere yn llwyfan ar gyfer cydweithredu i ddenu cyllid gan raglenni megis y Rhaglen Cyd-Ymchwil rhwng Affrica ac Ewrop ar yr Agenda Arloesi Rheoli Gwastraff. Bydd hyn yn ffordd o hybu ymchwil ac arloesi cydweithredol. Y gobaith yw y bydd bartneriaeth yn ffordd o ddenu myfyrwyr o Uganda ac o ddwyrain Affrica i ddewis Bangor wrth ystyried astudio yn y Deyrnas Unedig.

"Rydym yn datblygu enw da’n rhyngwladol fel arbenigwyr mewn datblygu cynaliadwy, nid yn unig ar gyfer corfforaethau mawr a chyrff cyhoeddus ond hefyd ar gyfer busnesau bach lle mae arbed pob ceiniog yng ngheg y sach yn hanfodol. Gobeithio y bydd y berthynas â Makerere yn ffynnu ac y bydd llawer o fyfyrwyr o Uganda sy'n teithio i'r DU ar gyfer astudio ac ymchwil uwch yn cryfhau’n perthynas drwy ddewis dod i Fangor. "

Mae dwy thema posib ar gyfer cydweithio: i) Mae defnyddio adnoddau’n fwy effeithiol o bwys mawr iddyn nhw fel ninnau ac mae Prifysgol Makerere wedi sefydlu rhwydwaith arloesol ar gyfer busnesau ar ffurf Rhaglen ‘Glwstwr’ sy’n rhan o Fforymau Cystadleurwydd Pan-Affrica a Dwyrain yr Affrica. Y gobaith yw y gallwn rannu’n harbenigedd gyda’r clystyrau yma. ii) Mae Prifysgol Makerere yn bwriadu efelychu Prifysgol Bangor drwy ymgorffori cynaliadwyedd yn ei holl waith, dysgu, addysgu, ymchwil yn ogystal â datblygu atebion ymarferol i fusnesau yn Uganda a byddwn yn trafod sut i gydweithio ar yr elfen hon hefyd

Daeth aelodau’r ddirprwyaeth aeth ar y daith i Uganda i osod y sylfeini o SBBS a’r Ganolfan Bio-Gyfansoddion. Mae SBBS wedi arbenigo ar ymgorffori cynaliadwyedd o fewn sefydliadau ac wedi datblygu i fod yn ganolbwynt corfforaethol yr agenda cynaliadwyedd o fewn Prifysgol Bangor – Y Labordy Cynaliadwyedd. Mae Bio-Gyfansoddion yn defnyddio bioddeunyddiau, gan gynnwys gwastraff a phlanhigion, i lunio bio-gynnyrch ar gyfer diwydiant fel ffordd i leihau effeithiau negyddol ar yr amgylchedd.

Dywedodd arweinydd tîm yr ymwelwyr, Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor, "Mae cynaliadwyedd a'r amgylchedd yn symud i frig yr agenda rhyngwladol. Gall ein harbenigedd fel Prifysgol fod o fudd i fusnesau a sefydliadau i’w helpu i fabwysiadu dulliau cynaliadwy gwahanol fydd yn arwain at leihau costau, cynyddu cynhyrchiant a’u herio i gymryd eu cyfrifoldeb

Dywedodd yr Athro John Ddumba Ssentamu, Is-ganghellor Prifysgol Makerere, "Bydd cydweithio â Phrifysgol Bangor yn ein galluogi i gynnig i'n myfyrwyr a’n partneriaid busnes fynediad at ei harbenigedd addysgol ac ymarferol. Maent yn bartneriaid delfrydol ar ein cyfer, ac ymhlith prifysgolion gorau’r byd ar gymhwyso atebion effeithiol i faterion fel effeithlonrwydd ynni, rheoli gwastraff, ailgylchu cynaliadwy ac ailddefnyddio deunyddiau."


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.