LLYFRYN BWYD A DIOD CAERFFILI
- cynnyrch llafur cariad!
Gan rannu ein brwdfrydedd dros fwyd a diod lleol, mae’r llyfryn hwn yn gydweithrediad rhwng cynhyrchwyr lleol a Chynllun Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd Caerffili. Mae’n gyfle i ddathlu’r cynnyrch bendigedig sydd i’w gael ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Yn y llyfryn hwn, mae rhestr o’r cynhyrchwyr, y manwerthwyr a’r marchnadoedd sy’n tyfu, cynhyrchu a gwerthu cynnyrch lleol yma yng Nghaerffili. Os mai bwyd sy’n mynd â’ch bryd, mae yma ambell awgrym am weithgareddau addas sy’n cael eu cynnal gydol y flwyddyn hefyd!
Mae’n cynhyrchwyr wrth eu bodd yn rhannu eu brwdfrydedd am eu cynnyrch ac yn y llyfryn mae proffiliau o ambell gynhyrchydd sy’n rhoi wyneb i’r hyn sydd gan y mae’r Cymoedd i’w gynnig.
Felly chwiliwch am damaid blasus!