Y Barcud
News from RSPB Cymru

Curlew recovery
This species is making a comeback on Anglesey
This species is making a comeback on Anglesey
Effective biosecurity is essential for the survival of our seabirds
The best nature reserves to see winter spectacles
Winter/Spring
In 1986, RSPB Cymru recorded 250–350 breeding pairs of Curlew on Anglesey. Now, the population is likely to be in single figures. As part of nationwide species conservation project Natur am Byth! we started working with farmers to conserve the remaining nesting Curlew.
This spring we found four nests on private farmland in the Cefni Valley, and another on our RSPB nature reserve at Cors Ddyga. With the farmers’ permission, we put up electric fencing around the nests to protect them from predators and were delighted to see all five broods hatch successfully.
We continued to work closely with the farmers to provide suitable habitat during the chickrearing stage and were pleased to
have three chicks reach fledgling age. If landowners continue to produce 0.6 fledglings per pair on average, this would sustain the breeding population in Wales.
Thank you
We would like to thank all farmers in the Cefni Valley for their cooperation during the breeding season and our funders, for helping us to provide a future for breeding Curlew on Anglesey: the National Lottery Heritage Fund, the Welsh Government, the Esmée Fairburn Foundation, the Welsh Government’s Landfill Disposals Tax Communities Scheme administered by Wales Council for Voluntary Action (WCVA), and the Arts Council of Wales.
As regular readers of Y Barcud, you will know that bird of prey persecution continues in Wales. The RSPB Birdcrime Report 2023, is a review of the past 15 years and tells a story of criminality and suffering. Between 2009–2023 there were 102 confirmed bird of prey persecution incidents in Wales: 65% poisoning related. Undoubtedly, many more went undetected and unreported. In 2012, we were involved in the most significant wildlife poisoning case ever recorded in Wales when eight Buzzards, five Red Kites and two Ravens, along with a number of pheasant baits, were found on an estate in Powys. Despite clear evidence of multiple offences, it was insufficient to prosecute.
The valuable habitat which Wales has to offer makes it a significant stronghold for many birds of prey, but persecution means the continued recovery of many of these species is seriously threatened.
Through commitment on the ground and calls for legislative change, we remain determined to put an end to these barbaric crimes. Poisoning, trapping and shooting of these magnificent birds must stop now.
To read the report online, visit rspb.org.uk/birdcrime
How to help... Report bird crime
If you notice a dead or injured bird of prey in suspicious circumstances, call the police on 101 and fill in the RSPB’s online reporting form.
As the frost creeps in and the days get shorter, our nature reserves offer the perfect retreat for you to discover our wildlife this winter. Capture the dramatic scenes and crisp landscape of RSPB South Stack, where Chough can be seen swooping along the cliffs. Stroll along our boardwalks, through the reedbeds at RSPB Conwy and listen out for the squealing sounds of Water Rail. Get up close and personal with Wales’ only wintering population of Greenland White-fronted Geese at RSPB Ynys-hir.
Take a winter’s stroll to the spectacular Rhiwargor Waterfall at Lake Vyrnwy, where Dippers bob up and down along
the river. Head to Newport Wetlands as dusk falls to watch thousands of Starlings take to the sky for their beautiful winter murmurations.
RSPB Cymru manages 18 nature reserves across Wales, all home to incredible wildlife. Our very own Welsh rainforest is vital habitat for birds and lichen. Ffridd, a habitat unique to Wales, is a critical corridor for wildlife. And offshore islands are crucial for internationally important colonies of seabirds, including Manx Shearwaters. So, if there’s one thing you do this winter, make sure you visit one of our stunning reserves and get a glimpse of the magnificent wildlife that lives there.
Below: Swift
Big Garden Birdwatch is back on 24–26
January. Last year, 29,495 nature lovers in Wales got involved, counting an impressive 560,978 birds. Taking part couldn’t be simpler: relax and watch the birds in your garden, from your balcony or at your local park for an hour and tell us what you’ve seen. Even if you see very few birds – or none at all – it all helps us to see how our beloved garden birds are faring. Register now to take part and help us break the 30,000 people barrier: www.rspb.org.uk/birdwatch Get involved
The State of Nature Report 2023 was a wake-up call for governments, businesses and landowners. But has anything changed a year later? Wales remains one of the most nature-depleted countries on Earth. Nature is still in decline. Swift numbers have fallen 76% since 1995 and the Curlew is at risk of becoming extinct as a breeding bird in Wales if things don’t change fast. However, our work to restore our precious peatlands, one of nature’s greatest superpowers, has increased. At Lake Vyrnwy, in partnership with Hafren Dyfrdwy, we have now built 38,381 dams, blocked 89km of gullies and 125km of ditches, and reprofiled 37km of eroding hags, as we aim to re-wet and restore the
2,000ha that we manage there. Key policies that we talked about a year ago, including the Sustainable Farming Scheme and the Nature
Positive Bill (now the Environmental Principles and Biodiversity Bill) are progressing, but time is of the essence. We continue to work with the Welsh Government and other stakeholders to ensure policies are fit for purpose and up to the challenge of reversing species declines and restoring nature in Wales. Campaigning
In our last issue we shared the importance of restoring nature through the Sustainable Farming Scheme. We don’t just want nature-friendly farming. We need it. All Welsh funding for agriculture comes from the UK treasury and any cuts would be a false economy and a huge backward step for nature and the long-term resilience of farming.
Sign our petition to UK Chancellor Rachel Reeves and together we can call on the UK Government to invest in nature-friendly farming so our Welsh farmers, our wildlife and all of us can reap the rewards in the future. Just scan the code to support nature today.
Protecting our vulnerable seabird colonies from predators through biosecurity measures is one way of making sure they don’t disappear
Our breeding seabirds are now out at sea, with most not touching land again until spring, but then the islands that dot the Welsh coastline will come alive with the sounds and smells of around 700,000 birds coming back to breed. Some nest on the towering cliffs, while others nest underground in burrows. Many of these islands are free from mammalian predators, like rats, that eat eggs and chicks. It’s no coincidence then that these islands – designated as Special Protection Areas (SPAs) or Sites of Special Scientific Interest (SSSI) – hold important seabird colonies. However, the threat of invasive species reaching our islands adds fatal pressures to populations already facing climate change and disease.
For the last six years, the EU-funded Biosecurity for LIFE project, then subsequently the Biosecurity for Wales project, have been working to safeguard our seabird islands against predators. We’ve worked with island managers, boat owners and communities to prevent arrivals of such predators across 13 Welsh islands, from the tern-filled Skerries to Wales’ only Gannet colony on RSPB Grassholm.
As part of our monitoring and surveillance, we use Jinx, a Conservation Detection Dog (CDD), to help us with our island biosecurity here in Wales. Jinx is a four and half year-old working Cocker Spaniel, who has been trained to sniff out Brown Rats. He provides us with an active method of detecting the presence of rats and enables us to cover large areas of ground. He checks for stowaways in confined places on boats and barges, and on passenger ferries he’s able to check people’s bags as they board.
When it comes to island biosecurity, time matters and Jinx allows us to investigate signs of any predators far quicker than we could without him.
Many of our offshore islands are globally important for breeding seabirds. Over half the world’s population of Manx Shearwater nest underground in burrows across these Welsh islands, including on RSPB Ramsey. The Manx Shearwater population increased from a few hundred pairs in 2000 to over 6,000 pairs by 2022 after the eradication of rats.
Biosecurity for Wales is funded by the Nature Networks Programme. It is being delivered by the Heritage Fund, on behalf of the Welsh Government.
Above: Puffin and Razorbill colonies Below: Jinx, the Conservation Detection Dog, sniffing out Brown Rats with his handler, Greg Morgan
A single pregnant female Brown Rat can produce a colony of 300 individuals in just over eight months. Seabirds have not evolved to defend themselves against these opportunistic hunters, and a population of invasive predators can quickly wipe out entire breeding colonies by eating eggs, chicks and adult birds. So it’s vital to stop them reaching islands where seabirds breed, and ensure systems are in place that guarantee early detection followed by swift and effective response.
The fourth-largest gannetry in the world can be found on RSPB Grassholm, just off the Pembrokeshire coast. Up in north Wales, The Skerries, a rocky island group situated off the northwestern tip of Anglesey, and managed by RSPB Cymru, is home to the largest Arctic Tern colony in the UK.
Biosecurity is the practice of protecting important wildlife and the places it lives from a range of threats, including incursions by predatory mammals, such as Brown Rats, that do not naturally occur there. Seabirds often nest on islands (on the ground or in burrows) and are particularly vulnerable to the accidental introduction of predators against which they have little or no defence.
The three steps of biosecurity:
1. Prevention is the first step to stopping predatory mammals reaching seabird islands and the most cost-effective means of ensuring islands are kept free of predators.
2. Early Detection is the second line of defence. It’s critical to establish early warning systems to enable a swift, controlled response to any incursion of predators.
of the global population of Manx Shearwater is in Wales
species of seabirds are on the Red List in Wales, including Puffin, Gannet and Kittiwake
Wales’ islands combined support a diverse range of other seabirds too including Storm Petrels, Razorbills, Guillemots, Puffins, gulls, terns, Fulmars, Cormorants and Shags. Some of these populations are becoming increasingly important as their numbers decline in northern Britain.
Our islands are havens for seabirds thanks to the natural absence of predators on most of them. However, if predators were to become established the impact would be devastating. In order to keep our islands predator-free, which is vital for the future survival of seabirds in Wales, biosecurity is vital.
The Welsh Government has committed to the Global Biodiversity Framework (GBF), which we expect to see reflected in the forthcoming Environmental Principles and Biodiversity Bill. We have called for this vital piece of legislation for many years.
The GBF includes a target for countries to effectively protect and manage 30% of land and seas for nature by 2030 (known as the 30 by 30 target). Safeguarding our seabird islands and maintaining effective biosecurity
3. Response is the third element – responding quickly before any predator population establishes on an island is key.
measures to keep these breeding grounds free from invasive predators will be critical in ensuring the Welsh Government meets its biodiversity commitments and targets.
However, our seabirds face escalating challenges from a range of pressures, and biosecurity alone will not safeguard their populations. The Welsh Government has also committed to developing a Welsh Seabird Conservation Strategy, one that must provide funding for island biosecurity, improve the Marine Protected Area Network and ensure that marine development proposals work with wildlife. We are at a critical time and urgency of action is paramount. We will continue to be a voice for nature and advocate for legislation that is both ambitious and robust and drive the range of actions needed to protect our vulnerable seabird populations.
It’s wonderful to be able to say that this summer was our most successful year to date for breeding Bitterns here, with eight chicks fledging the nests. It was also a very good season for Shrill Carder Bumblebees. We saw a vast number of queens during early spring, followed by plenty of worker bees and males during August. As winter gets under way, our wader numbers are looking good. We’ve had Water Voles (pictured) swimming across our lagoons and, of course, the Starlings have returned, taking to the sky as dusk falls for their spectacular winter murmuration displays.
Lake Vyrnwy
In collaboration with Hafren Dyfrdwy, we are benefiting from The Woodland Investment Grant (TWIG), a Welsh Government programme aimed at creating, restoring and enhancing woodlands in Wales. Working hand in hand with our partners, we are improving the opportunity for visitors and local communities to connect with and benefit from our woodlands and the wildlife found within them. There will be a better-quality accessible trail and interpretation linking the arboretum to the wider treescape. We hope this will bring to life the importance of woodlands and the work we are collectively delivering to create a better place for people and for nature.
To get in touch, please use our main email address: cymru@rspb.org.uk
Find us online and follow us on social media: rspb.org.uk / @RSPBCymru
There are lots of nature-filled events for all ages to enjoy on our nature reserves. Find them at events.rspb.org.uk/ Cymru
Gwenffrwd Dinas
It was quite a busy summer, with Nofence cattle collars helping us manage grazing of the woodlands and a drone survey of the uplands that helped identify habitat restoration opportunities. We’ve carried out a detailed bryophyte survey, while providing expert training for a small group of RSPB staff and guests from the Wildlife Trust of South and West Wales and the National Botanic Garden of Wales. None of this could have happened without generous individual or corporate donations. Excitingly, we have also been closely following a family of Pine Martens (pictured) on the nature reserve, with some lucky visitors even catching a glimpse of them.
Our season has now come to an end but what a season it was. As well as a successful breeding year for our seabirds and Grey Seals, we’ve had some exciting marine discoveries, too. During a snorkelling session at the end of summer, we rediscovered a rare marine species not recorded on the island since the 1970s. Thymosia Guernei, also known as Cold Mash Potato Sponge (pictured) due to its appearance, is a feature of our Site of Special Scientific Interest. It’s only found on offshore islands around the British Isles and we were delighted to confirm its continued presence here at Ramsey.
Newyddion RSPB Cymru
Mae bioddiogelwch effeithiol yn hanfodol i oroesiad ein hadar môr
Adferiad y Gylfinir
Mae’r rhywogaeth hon yn ailymddangos ar Ynys Môn
Golygfeydd gaeafol
Y gwarchodfeydd natur gorau i weld rhyfeddodau’r gaeaf ynddynt
Gaeaf/Gwanwyn 2025
Rhywogaeth
Yn 1986, cofnododd RSPB Cymru 250-350 o barau o Ylfinirod yn bridio ar Ynys Môn, ond mae’n debygol nad oes mwy na deg aderyn ar ôl bellach. Fel rhan o’r prosiect cadwraeth rhywogaethau cenedlaethol Natur am Byth! dechreuom weithio gyda ffermwyr i gadw gweddill y Gylfinirod sy’n nythu.
Yn ystod gwanwyn eleni, daethom o hyd i bedair nyth ar ffermdir preifat yn nyffryn Cefni, ac un arall yng ngwarchodfa natur RSPB Cors Ddyga. Gyda chaniatâd y ffermwyr, codasom ffensys trydan o amgylch y nythod i’w hamddiffyn rhag ysglyfaethwyr. Roeddem wrth ein boddau yn gweld pob un o’r pum nythaid yn deor yn llwyddiannus.
Parhaom i weithio’n agos â’r ffermwyr i ddarparu cynefin addas yn ystod y cyfnod
magu cywion, ac roeddem yn hapus i weld tri chyw yn magu plu. Petai dirfeddianwyr yn parhau i gefnogi 0.6 cyw ifanc fesul pâr ar gyfartaledd, byddai’n cynnal y boblogaeth fridio yng Nghymru.
Diolch
Hoffem ddiolch i holl ffermwyr dyffryn Cefni am eu cydweithrediad yn ystod y tymor bridio, ac i’n harianwyr am ein helpu ni i greu dyfodol ar gyfer Gylfinirod sy’n bridio ar Ynys Môn: Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Esmée Fairburn, Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, a weinyddwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Rhywogaeth
Fel darllenwyr rheolaidd Y Barcud, byddwch yn gwybod bod adar ysglyfaethus yn parhau i gael eu herlyn yng Nghymru. Mae adroddiad Birdcrime 2023 RSPB yn adolygu’r 15 o flynyddoedd diwethaf ac mae’n adrodd hanes o droseddoldeb a dioddefaint.
Rhwng 2009–2023, cafwyd 102 achos a gadarnhawyd o erlyn adar ysglyfaethus yng Nghymru. Roedd 65% ohonynt yn gysylltiedig â gwenwyn. Heb os, cafwyd llawer o achosion eraill na ddaethpwyd o hyd iddynt neu eu hadrodd. Yn 2012, roeddem yn rhan o’r achos mwyaf arwyddocaol o wenwyno bywyd gwyllt a gofnodwyd yng Nghymru erioed, pan ddaethpwyd o hyd i wyth Boda, pum Barcud a dwy Gigfran, ynghyd a nifer o abwydau ffesant, ar ystâd ym Mhowys. Er y dystiolaeth amlwg o droseddau lawer, nid oedd yn ddigon i ddwyn erlyniad cyfreithiol.
Mae’r cynefin gwerthfawr sydd gan Gymru i’w gynnig yn ei gwneud yn gadarnle i lawer o adar ysglyfaethus, ond mae’r erlyniad ohonynt yn golygu bod adferiad parhaus
llawer o’r rhywogaethau hyn dan fygythiad sylweddol. Trwy ymrwymiad ar lawr gwlad a galwadau am newid i ddeddfwriaeth, rydym yn parhau i fod yn benderfynol o roi diwedd ar y troseddau barbaraidd hyn. Rhaid rhoi terfyn ar wenwyno, maglu a saethu’r adar godidog hyn.
I ddarllen yr adroddiad ar-lein, ewch i rspb.org.uk/birdcrime
Sut i helpu... Cofnodwch drosedd yn erbyn adar
Os welwch chi aderyn ysglyfaethus wedi marw neu wedi brifo dan amgylchiadau amheus, ffoniwch yr heddlu ar 101 a chwblhewch ffurflen adrodd ar-lein RSPB.
Pan fydd y tywydd yn oeri a’r nosweithiau’n tynnu i mewn, mae ein gwarchodfeydd natur yn cynnig encilfa berffaith ichi ddarganfod ein bywyd gwyllt y gaeaf hwn. Dewch i gipio golygfeydd dramatig a thirwedd iach RSPB Ynys Lawd, lle cewch weld Brain Coesgoch yn plymio trwy’r awyr ar hyd y clogwyni.
Ewch am dro hamddenol ar hyd ein llwybrau pren trwy welyau cyrs RSPB Conwy a chlustfeinio am wichian y Rhegen Ddŵr. Dewch o fewn trwch blewyn i’r unig boblogaeth o Wyddau Talcenwyn yr Ynys Las sy’n gaeafu yng Nghymru yn RSPB Ynys-hir.
Ewch am dro hamddenol i bistyll ysblennydd Rhiwargor yn Llyn Efyrnwy, lle mae Bronwennod y Dŵr yn siglo i
fyny ac i lawr ar hyd yr afon. Ymwelwch â Gwlyptiroedd Casnewydd wrth iddi nosi i wylio miloedd o Ddrudwy yn hedfan trwy’r awyr yn eu murmuriadau gaeafol hardd.
Mae RSPB Cymru yn rheoli 18 o warchodfeydd natur ar draws Cymru, bob un ohonynt yn gartref i fywyd gwyllt anhygoel. Mae ein fforest law yng Nghymru yn gynefin hanfodol i adar a chen. Mae Ffridd, cynefin sy’n unigryw i Gymru, yn goridor hollbwysig i fywyd gwyllt.
Ac mae’r ynysoedd ar y môr yn hollbwysig i nythod adar môr o bwys rhyngwladol, gan gynnwys Adar Drycin Manaw. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld ag un o’n gwarchodfeydd ysblennydd y gaeaf hwn, i gael cipolwg o’r bywyd gwyllt godidog sy’n byw ynddynt.
Chwith: Murmuriad o Ddrudwy Isod: Gwennol Ddu
Roedd Adroddiad Sefyllfa Natur 2023 yn agoriad llygaid i lywodraethau, busnesau a thirfeddianwyr. Ond oes unrhyw beth wedi newid flwyddyn yn ddiweddarach?
Mae Cymru’n parhau’n un o’r gwledydd mwyaf prin ei natur yn y byd. Mae natur yn parhau i ddirywio. Mae niferoedd Gwenoliaid Duon wedi disgyn 76% ers 1995 ac mae’r Gylfinir dan fygythiad difodiant fel aderyn sy’n bridio yng Nghymru os na fydd pethau’n newid yn gyflym.
Fodd bynnag, mae ein gwaith yn adfer ein mawndiroedd gwerthfawr, un o uwchrymoedd natur, wedi cynyddu.
Mewn partneriaeth â chwmni Hafren Dyfrdwy, rydym wedi adeiladu 38,381 o argaeau, wedi cau 89km o wlïau a 125km o ffosydd, ac wedi ail-broffilio 37km o
fignoedd sy’n erydu, wrth inni geisio ail-wlychu ac adfer y 2,000ha o dir a reolir gennym yn Llyn Efyrnwy.
Mae’r polisïau allweddol y buom yn eu trafod flwyddyn yn ôl, gan gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’r Bil Natur
Bositif (y Bil Egwyddorion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth erbyn hyn) yn symud ymlaen, ond mae amser yn brin. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod y polisïau’n addas i’r diben ac yn ddigon cryf i wrthsefyll yr her o wrthdroi dirywiadau rhywogaethau ac adfer natur yng Nghymru.
Cymryd rhan
Bydd arolwg Gwylio Adar yr Ardd yn ôl ar 24–26 Ionawr. Y llynedd, cymerodd 29,495 o naturgarwyr yng Nghymru ran, gan gyfrif 560,978 o adar, sy’n nifer drawiadol. Mae’n hawdd cymryd rhan: ymlaciwch a gwyliwch yr adar yn eich gardd, o’ch balconi neu yn eich parc lleol am awr, wedyn dywedwch wrthym ni beth a welsoch. Hyd yn oed os gwelwch ychydig iawn o adar neu ddim o gwbl, mae popeth yn cyfri i’n helpu ni i weld beth yw sefyllfa ein hadar hoff. Cofrestrwch nawr i gymryd rhan ac i’n helpu ni i ddenu 30,000 o gyfranogwyr: www.rspb.org.uk/gwylioadar
Sut
allwch chi helpu
Cefnogi ffermio er lles natur
Yn ein rhifyn diwethaf, gwnaethom rannu pwysigrwydd adfer natur trwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Nid eisiau ffermio sy’n ystyrlon o natur ydyn ni –mae arnom ei angen. Daw holl gyllid amaethyddiaeth Cymru o drysorlys y DU a byddai unrhyw doriadau’n economi ffug ac yn gam enfawr gwag i natur a chydnerthedd ffermio yn yr hirdymor. Llofnodwch ein deiseb at Ganghellor y DU Rachel Reeves a gyda’n gilydd gallwn alw ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn ffermio o lles natur, fel bod ffermwyr Cymru, ein bywyd gwyllt a phawb ohonom yn gallu elwa ohono yn y dyfodol. Sganiwch y cod i gefnogi natur heddiw.
Mae diogelu trwy fesurau bioddiogelwch nythod ein hadar môr sy’n agored i niwed gan ysglyfaethwyr yn un ffordd o sicrhau nad ydynt yn diflannu
Mae ein hadar môr sy’n bridio wedi hedfan allan i’r môr erbyn hyn. Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn aros i ffwrdd o’r tir tan y gwanwyn, pan fydd yr ynysoedd ar hyd arfordir Cymru yn llawn synau ac arogleuon oddeutu 700,000 o adar yn dychwelyd atynt i fridio. Bydd rhai ohonynt yn nythu ar y clogwyni aruchel, ac eraill mewn tyllau tanddaearol. Nid oes ysglyfaethwyr mamalaidd fel llygod mawr, sy’n bwyta wyau a chywion, yn byw ar lawer o’r ynysoedd hyn. Nid yw’n gyd-ddigwyddiad felly bod yr ynysoedd hyn – a ddynodwyd yn Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) neu’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) – yn gartref i nythod pwysig o adar y môr. Fodd bynnag, mae’r bygythiad y bydd rhywogaethau goresgynnol yn cyrraedd ein hynysoedd yn rhoi pwysau angheuol ar boblogaethau sydd eisoes yn wynebu newid hinsawdd a chlefydau. Ers chwe blynedd, mae prosiect Bioddiogelwch am OES a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, ac wedyn prosiect Bioddiogelwch i Gymru, wedi bod yn gweithio i warchod ynysoedd ein hadar môr rhag ysglyfaethwyr. Buom yn gweithio gyda rheolwyr ynysoedd, perchnogion cychod a chymunedau i atal ysglyfaethwyr tebyg rhag cyrraedd 13 o ynysoedd
Cymru, o Ynysoedd y Moelrhoniaid yn llawn Môr-wenoliaid i unig nythfa Huganod Cymru ar RSPB Gwales.
Cŵn cadwraeth
Fel rhan o’n gwaith monitro a gwyliadwriaeth, rydym yn defnyddio Jinx y Ci Olrhain Cadwraeth (COC) i’n helpu ni gyda bioddiogelwch yma yng Nghymru. Mae Jinx yn Sbaengi pedair a hanner blwydd oed a hyfforddwyd i ganfod Llygod Ffyrnig. Mae’n cynnig ffordd weithredol o ganfod presenoldeb Llygod Ffyrnig ac yn ein galluogi ni i fonitro darnau mawr o dir. Mae’n edrych am lygod sy’n cuddio mewn lleoedd cyfyng ar gychod, a gall gwirio bagiau pobl wrth iddynt fynd ar fferi. Mae amser yn bwysig pan fydd bioddiogelwch ynysoedd yn y fantol, ac mae Jinx yn ein galluogi ni i archwilio arwyddion ysglyfaethwyr llawer yn gynt nag y gallwn ni ei wneud hebddo.
Pwysigrwydd bioddiogelwch
Mae llawer o’n hynysoedd o bwys byd-eang i adar y môr sy’n bridio. Mae dros hanner poblogaeth Adar
Drycin Manaw’r byd yn nythu mewn tyllau ar draws yr ynysoedd hyn yng Nghymru, gan gynnwys RSPB Ynys Dewi. Aeth poblogaeth Adar Drycin Manaw i fyny o
Caiff Bioddiogelwch i Gymru ei ariannu gan Raglen Rhwydweithiau Natur, a’i gyflenwi gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.
Uchod: Nythod
Palod a Llursod
Isod: Jinx y Ci Olrhain Cadwraeth yn chwilio am Lygod Ffyrnig gyda’i feistr, Greg Morgan
Gall un Llygoden Ffyrnig feichiog gynhyrchu cytref o 300 o unigolion mewn ychydig dros wyth mis. Nid yw adar y môr wedi esblygu i amddiffyn eu hunain rhag yr helwyr manteisgar hyn, a gall poblogaeth o ysglyfaethwyr goresgynnol dileu nythod bridio cyfan yn gyflym trwy fwyta wyau, cywion ac adar yn eu llawn dwf. Felly mae’n hanfodol ein bod ni’n eu hatal nhw rhag cyrraedd yr ynysoedd lle bydd adar y môr yn bridio, ac yn sicrhau bod systemau ar waith sy’n gwarantu datgeliad cynnar ohonynt cyn ymateb yn gyflym ac yn effeithiol.
gwpl o gannoedd o barau yn 2000 i dros 6,000 o barau erbyn 2022 ar ôl inni gael gwared ar y Llygod Ffyrnig.
Mae’r nythfa Huganod mwyaf ond tri yn y byd ar RSPB Gwales, ar arfordir Sir Benfro. Mae’r Moelrhoniaid yn y gogledd, sef grŵp o ynysoedd creigiog ar ben gogledd-orllewin Ynys Môn a reolir gan RSPB Cymru, yn gartref i’r nythfa fwyaf o Fôr-wenoliaid y Gogledd yn y DU.
Gyda’i gilydd, mae ynysoedd Cymru yn cefnogi ystod amrywiol o adar môr eraill hefyd gan gynnwys Pedrynnod Drycin, Llursod, Gwylogod, Palod, gwylanod, môr-wenoliaid, Adar Drycin y Graig, Mulfrain a Mulfrain Gwyrdd. Mae pwysigrwydd rhai o’r poblogaethau hyn yn tyfu wrth i’r niferoedd gostwng yng ngogledd Prydain.
Bioddiogelwch yw’r arfer o amddiffyn bywyd gwyllt pwysig a’r lleoedd mae’n byw ynddynt o ystod o fygythion, gan gynnwys tresmasu gan famaliaid ysglyfaethus fel Llygod Ffyrnig, nad ydynt yn bodoli yno’n naturiol. Mae adar y môr yn aml yn nythu ar ynysoedd (ar y llawr neu mewn tyllau) ac yn agored iawn i niwed o ganlyniad i gyflwyno ysglyfaethwyr yn ddamweiniol, nad oes gan yr adar fawr o amddiffyniad yn eu herbyn, os o gwbl.
Tri cham bioddiogelwch:
1. Atal yw cam cyntaf atal mamaliaid ysglyfaethus rhag cyrraedd ynysoedd adar y môr, a’r ffordd fwyaf cost-effeithiol o sicrhau nad oes unrhyw ysglyfaethwyr ar yr ynysoedd.
2. Darganfod yn gynnar yw’r ail amddiffyniad. Mae’n hollbwysig sefydlu systemau rhybudd cynnar er mwyn sicrhau ymateb cyflym, rheoledig i unrhyw dresmasiad gan ysglyfaethwyr.
3. Ymateb yw’r drydedd elfen - mae’n hollbwysig ymateb yn gyflym cyn i unrhyw boblogaeth o ysglyfaethwyr ymgartrefu ar ynys.
Mae 13 o adar y môr ar y Rhestr Goch yng Nghymru, gan gynnwys Palod, Huganod a Gwylanod Coesddu
Mae ein hynysoedd yn hafanau i adar y môr oherwydd absenoldeb naturiol ysglyfaethwyr ar y rhan fwyaf ohonynt. Fodd bynnag, byddai’r effaith yn ddinistriol petai ysglyfaethwyr yn ymgartrefu arnynt. Er mwyn cadw ein hynysoedd yn rhydd rhag ysglyfaethwyr, sy’n hollbwysig i oroesiad adar môr Cymru i’r dyfodol, mae bioddiogelwch yn hanfodol.
Beth nesaf i fioamrywiaeth ac adar y môr?
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang (FfBB), yr ydym yn disgwyl i’r Bil Egwyddorion Amgylchedd a Bioamrywiaeth sydd ar y gweill ei adlewyrchu. Rydym wedi galw am y darn hanfodol hwn o ddeddfwriaeth ers blynyddoedd lawer. Mae’r Fframwaith yn cynnwys targed i wledydd diogelu a rheoli’n effeithiol 30% o’r tir a’r môr ar
gyfer natur erbyn 2030 (o’r enw targed 30 erbyn 30). Bydd amddiffyn ein hynysoedd adar môr a chynnal mesurau bioddiogelwch effeithiol i gadw ysglyfaethwyr goresgynnol draw o’r tiroedd bridio hyn yn hanfodol i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn diwallu ei hymrwymiadau a’i thargedau o ran bioamrywiaeth. Fodd bynnag, mae ein hadar môr yn wynebu heriau cynyddol gan ystod o bwysau, ac ni fydd bioddiogelwch ar ei ben ei hun yn ddigon i ddiogelu eu poblogaethau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr yng Nghymru. Bydd rhaid i’r strategaeth ddarparu arian ar gyfer bioddiogelwch yr ynysoedd, gwella’r Rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig, a sicrhau bod cynigion datblygu morol yn gweithio gyda bywyd gwyllt.
Mae’n amser tyngedfennol arnom ac mae gweithredu ar frys o’r pwys mwyaf. Byddwn yn parhau i fod yn llais dros natur ac i eirioli dros ddeddfwriaeth uchelgeisiol a chadarn, ac yn gyrru’r ystod o gamau gweithredu sydd eu hangen i amddiffyn ein poblogaethau adar môr sy’n agored i niwed.
Gwlyptiroedd
Casnewydd
Hyfryd yw dweud ein bod ni wedi cael ein haf mwyaf llwyddiannus eto o ran Adar y Bwm yn bridio, gydag wyth cyw yn gadael y nyth. Roedd hefyd yn dymor da iawn ar gyfer y Gardwenynen Feinlais. Gwelsom nifer helaeth o freninesau ar ddechrau’r gwanwyn, a digonedd o wenyn gweithgar a gwrywod yn ystod mis Awst. Wrth i’r gaeaf ddychwelyd, mae niferoedd ein hadar hirgoes yn edrych yn dda. Mae Llygod y Dŵr (llun) wedi bod yn nofio ar draws ein merllynnoedd, ac wrth gwrs daeth y Drudwy yn ôl, yn ymddangos yn yr awyr ar gyfer eu murmuriadau gaeafol anhygoel wrth iddi nosi.
Ar y cyd â chwmni Hafren Dyfrdwy, rydym yn elwa o arian
Grant Buddsoddi mewn Coetir, sef rhaglen Llywodraeth Cymru â’r nod o greu, adfer a gwella coetiroedd yng Nghymru. Gan weithio llaw yn llaw â’n partneriaid, rydym yn gwella’r cyfle i ymwelwyr a chymunedau lleol gysylltu â’n coetiroedd a’r bywyd gwyllt sydd ynddynt, ac i elwa ohonynt. Bydd llwybr hygyrch o ansawdd gwell a deunyddiau dehongli’n cysylltu’r goedardd â’r goedwig ehangach. Gobeithiwn y bydd hyn yn ysgogi pwysigrwydd coetiroedd a’r gwaith a wnawn ar y cyd i greu lle gwell i bobl ac i natur.
Gwenffrwd Dinas
Roedd yr haf yn eithaf prysur, gyda choleri Nofence ar y gwartheg yn ein helpu ni i reoli’r pori yn y coetiroedd. Hefyd, cynhaliwyd arolwg o’r ucheldiroedd gan ddrôn, a wnaeth ein helpu ni i bennu cyfleoedd ar gyfer adfer cynefin. Cynaliasom arolwg manwl o fryoffytau, gan roi hyfforddiant arbenigol i grŵp bach o staff RSPB, a gwesteion o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Ni fyddai hyn yn bosibl heb roddion hael gan unigolion a chorfforaethau. Yn gyffrous, rydym hefyd wedi bod yn dilyn teulu o Feleod (llun) yn y warchodfa natur. Llwyddodd rhai ymwelwyr lwcus i gael cipolwg ohonynt hefyd.
I gysylltu â ni, defnyddiwch ein prif gyfeiriad ebost: cymru@rspb.org.uk
Cewch hyd i ni ar-lein a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol: rspb.org.uk /@RSPBCymru
RSPB yn elusen gofrestredig yn Lloegr a Chymru 207076, yn Yr Alban SC037654
Mae digonedd o ddigwyddiadau
llawn natur i bawb eu mwynhau ar ein gwarchodfeydd natur. Dewch o hyd iddynt yn events.rspb.org. uk/Cymru
Ynys Lawd
Daeth ein tymor i ben ond roedd hi’n dymor a hanner. Yn ogystal â blwyddyn fridio lwyddiannus i’n hadar môr a’r Morloi Llwyd, cawsom ddarganfyddiadau morol cyffrous. Yn ystod sesiwn snorcela ar ddiwedd yr haf, ail-ddarganfyddom rywogaeth forol brin na chafodd ei chofnodi ar yr ynys ers y 1970au. Mae Thymosia Guernei, neu’r ‘Sbwng Stwnsh Tatws Oer’ (llun) oherwydd ei olwg, yn nodwedd o’n Hardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Dim ond ar ynysoedd oddi ar dir Ynysoedd Prydain y ceir hyd iddo, ac roedden ni wrth ein boddau i gadarnhau ei bresenoldeb parhaus yma ar Ynys Lawd.
I glywed mwy am ddigwyddiadau grwpiau leol yr RSPB, cysylltwch â
Gogledd Cymru group.rspb.org.uk/northwales
Abertawe a’r Ardal group.rspb.org.uk/swanseaanddistrict
Mae cwmni Our Media yn gweithio i sicrhau bod ei holl bapur yn dod o goedwigoedd sydd wedi’u rheoli’n dda ac wedi’u hardystio gan yr FSC® a ffynonellau rheoledig eraill. Mae’r cylchgrawn hwn wedi’i argraffu ar bapur ardystiedig Forest Stewardship Council® (FSC®). Gellir ailgylchu’r cylchgrawn hwn, i’w ddefnyddio mewn