News from RSPB Cymru

News from RSPB Cymru
Find out more about Puffins and other seabirds in our guide
Nature champions
Peatland restoration work recognised by industry
From waste to wetland
RSPB Conwy’s transformative 30-year journey
Wonderful things can happen when we work with nature in mind, and RSPB Conwy is proof of this.
What was once waste material, dug out when the A55 road tunnel was built between 1986 and 1991, has been transformed into a haven for wetland wildlife and a brilliant place for family adventures. First opened to the public in April 1995, the reserve is on the east side of the Conwy estuary in north Wales and is home to a variety of warblers, waders and wildfowl. What once looked like a muddy moonscape is now a mixture of awe-inspiring habitats, including grassland, scrubland, saltmarsh, reedbeds and mud flats.
This summer, why not stroll along its boardwalk, through the reedbeds, to the sound of Reed Warblers. Or follow the trails through mixed scrub and grassland, dotted with pools, looking out for dragonflies, butterflies and colourful orchids. With monthly farmers’ markets and a calendar full of events, make RSPB Conwy your choice of nature reserve to visit this summer.
It’s promising to be a busy summer as we prepare to visit two key events in the Welsh calendar. First, we’ll be making our yearly pilgrimage to the Royal Welsh Show on 21–24 July. The Sustainable Farming Scheme is still a hot topic in both the agricultural and environmental sector, and we’re keen to help get it right for farmers, for people and for nature. Our attendance at the show will provide an opportunity for us to talk to farmers, landowners, other environmental charities and rural stakeholders about the scheme. It will also provide a chance to remind the Welsh Government about the importance of securing enough budget for nature-friendly farming across Wales. Then, in August, we’ll make our way to Wrexham, north Wales, for the biggest Welsh language festival in the country –the National Eisteddfod. Our stand at the Science Village will offer fun-filled nature activities for all the family. If you plan on attending either of these festivals this summer, do drop in to see us.
Our places
The St David Awards are the national awards of Wales. Each year there are 11 St David Awards, the first 10 of which are nominated for by the public. This year, the Lake Vyrnwy Peatland Restoration Team were worthy nominees of the Environment Champion Award for delivering one of Wales’s largest peatland restoration projects. The diverse team comprises of staff from RSPB Cymru, Hafren Dyfrdwy, Owen Environmental and RG Evans. Peatlands are a vital asset in our fight against the nature and climate emergency. Blanket bogs store carbon, improve water catchment resilience and are home to unique Sphagnum moss and lichens, as well as rare upland breeding birds.
The project team’s work involves restoring 1,500 hectares of peatland into a productive blanket bog eco system. By restoring
degraded peatlands, we can prevent carbon release and improve habitats for iconic upland species such as Hen Harrier and Golden Plover, as well as improving water quality by naturally filtering water and reducing sedimentation. We’re proud to be part of a project whose impact will be sustained for decades to come.
Celebration Woods are special places to commemorate the lives of our loved ones, while also giving back to nature. Our Welsh supporters now have the opportunity to plant a tree in memory of their loved one at Lake Vyrnwy, mid-Wales. The Celebration Wood is located near the scenic route to Rhiwargor Waterfall. What better way to commemorate a loved one than by dedicating a corner of Wales’ woodland to their memory.
Your tree will come with a Welsh slate tag that will be affixed to the tree fencing, along with a short message of your choosing. In addition, you’ll receive your own Welsh slate keepsake, with the tree’s unique grid reference.
We’ll do all we can to make your planting day as special as possible. You’re welcome to attend the planting
and watch in the tranquillity of the wood or be involved in the planting itself. If for any reason you’re unable to attend the planting, our team can plant your chosen tree on your behalf and send a picture to you. Scan the QR code for more information.
Curlew conservation in north Wales recently received a boost, thanks to funding from the Nature Networks Fund. Along with project partners National Trust Cymru, and with support of the Welsh Government and the National Lottery Heritage Fund, we can continue our Curlew recovery work on the uplands of Ysbyty-Ifan and Hiraethog. We’re working with farmers and graziers to ensure that management across multiple farms benefits Curlews. We’ll also be managing predation through nest-fencing, diversionary feeding and predator control, as well as tracking the fortunes of chicks. Read more about Curlews in your issue of The RSPB Magazine
Thank you to everyone who signed the petition that called for legislation to ensure that Swift bricks are installed in all new buildings in Wales. Over 10,000 of you responded to our call to action and the petition was considered by the Senedd Petition committee on 10 March. The petition has remained under review while the committee writes to the Deputy First Minister and other relevant Cabinet Secretaries, asking for a co-ordinated response from Welsh Government on what was acknowledged as an important topic. Check our social media channels for more updates.
Explore the spectacular wildlife of the Welsh coast this season as thousands of seabirds return to our shores
Every summer our islands and cliffs come to life with many thousands of returning seabirds. Each one is on their own journey back from far-off lands and seas but they join together on their way towards our land once more. It’s a bird-like, city centre rush-hour, with plenty of noise, bickering and drama as they journey home. Several of their homes, offshore islands in Wales, are globally important for some of these iconic species. Indeed, Wales remains the most important country in the world for breeding Manx Shearwaters, with over half of the global population nesting in underground burrows on our islands. One of the largest Gannet colonies in the world can be found on RSPB Grassholm nature reserve, and Wales is also home to the largest Arctic Tern colony in the UK, on the lower-lying Skerries, an islet off the coast of Anglesey.
Why do seabirds matter?
Our seabirds are a key indicator of the overall health of our marine ecosystem. However, seabird populations
globally are declining faster than any other bird group as they face increasing threats to their survival, such as climate change, invasive non-native species and lack of food due to overfishing. Seabirds rely on key locations in Wales for ample nesting sites to rear their chicks, as well as plentiful feeding opportunities. To save them we urgently need: to prevent invasive species from reaching key seabird islands; an effective network of Marine Protected Areas; sustainable marine planning and fisheries and ambitious action on the nature and climate emergency. Action for seabirds is paramount.
As the nest sites fill with a cacophony of sound, there is something on the horizon to celebrate for these birds. The long sought-for Welsh Seabird Conservation Strategy is due to be finalised soon by the Welsh Government. The strategy will be vitally important to improving the resilience of and securing the future of our globally important populations of seabirds, as well as ensuring that safe breeding sites are provided.
A visit to a seabird colony is a sensory adventure, as the sound, smell and the movement of thousands of birds fills the air and the cliff sides. It’s also a great way to appreciate their magnificence and understand why it’s so vitally important to have legislation in place to protect them. We’re asking anyone travelling to one of Wales’ offshore islands to take some important steps to ensure the islands remain predator-free:
• Check your baggage for signs of stowaways
• Store food in mouse-proof containers
• Pack food on the day you travel
100m
Razorbills can dive to depths of over 100m in search of food
30m 40
Gannets can dive from 30m high and reach speeds of 60mph
Fulmars can live up to 40 years in the wild
55mph
can fly at 55mph
• If you see a stowaway on board your transport to an island, report it to the boat operator and the island owner and never throw it overboard (rats are great swimmers!)
• Dispose of your rubbish and waste materials in bins.
Also known as the ‘Clowns of the Sea’, these charismatic birds are small – around 30cm. Famed for their bright-coloured bills and bright-orange feet, but they’re also great swimmers and can dive to incredible depths.
Best place to see: Anglesey, Pembrokeshire coast
Gannet
Breeding adults are bright-white with black wingtips, whereas juveniles are dark brown. They’re distinctively shaped, with a long neck, long pointed beak, long pointed tail and long pointed wings. At sea they flap and then glide low over the water.
Best place to see:
Foraging out at sea across Wales
If you’re planning on visiting the coast or a seabird colony this summer, use this handy ID guide to tell some of our visitors apart and find the best places to spot them
One of the most common birds of the ‘seabird city’, they’re chocolate-brown and white, rather than black, with long, pointed beaks. Some have a white stripe and ring around the eye and are known as ‘bridled’.
Best place to see: Cliffs, stacks and islands
A small shearwater with straight slim wings which are black above and white below. It flies with rapid stiff-winged flaps followed by long glides over the sea’s surface, occasionally banking or ‘shearing’ (tilting in flight, with one wing held higher).
Best place to see: Pembrokeshire coast at sea
A medium-sized seabird, black on top and white below, with a thick, black beak that’s deep and blunt. They can catch multiple fish on a single dive, although they also steal from other seabirds such as Puffins.
Best place to see: Cliffs, stacks and islands
Almost gull-like, this grey-andwhite seabird is distantly related to the Albatrosses. The Fulmar flies low over the sea on stiff wings, with shallow wingbeats, gliding and turning to show its white underparts then grey upperparts.
Best place to see: Welsh coast path cliffs
Wales Red-Listed
Wales Amber-Listed
Mostly white, with a black cap on their head, a yellow-tipped black bill and short black legs. In flight they show grey wedges on their wing tips, and they have a forked tail.
Best place to see: Cemlyn Bay, Anglesey
Not really a black-headed bird, the Black-headed Gull’s head is more chocolate-brown. In fact, for much of the year, it has a white head with a black spot. It has a pale grey body, black tips to the primary wing feathers, and a red bill and legs.
Best place to see: North Wales coast, Anglesey
Annie Smith has been Head of Nature Policy and Casework for RSPB Cymru for over 15 years and is a leading voice on environmental campaigning Contact
As nature comes under ever-greater pressure from all sides, nature needs us to be at our very best; to be a voice that rises to face the challenges, to find the big solutions that work with and for nature, instead of against it. Better decision-making for nature in the development of policy and legislation is key for long-term recovery of our natural environment.
One area we’ve been working hard on has been Wales’ response to the Global Biodiversity Framework. This sets out targets for urgent action so that the loss of biodiversity is reversed by 2030, and by 2050 nature is thriving, to the benefit of all people. One of these targets is known as ‘30 by 30’ – to effectively protect and manage 30% of land and sea for nature by 2030. Over recent years the Welsh Government has looked into what this means for Wales, which RSPB Cymru has been part of. While some important progress has been made, many key actions to improve and expand our suites of protected areas (land and sea) have yet to be delivered. We were delighted when the long fought-for ‘Nature
Positive Bill’ – the Environmental Principles, Governance and Biodiversity Bill – was finally included in the Welsh Government’s legislative programme last summer. The Bill will create a new environmental watchdog for Wales,
To get in touch, please use our main email address: cymru@rspb.org.uk
Find us online and follow us on social media: rspb.org.uk / @RSPBCymru
bring core environmental principles into Welsh law and introduce legally binding targets for nature’s recovery.
After numerous discussions with Welsh Government officials and Senedd members, we’re hopeful that the Bill will be introduced in the Senedd this summer and that it will embed high ambition for biodiversity.
Farming policy is also crucial to restoring nature’s decline, with over 80% of land in Wales farmed. Wales is nearly there with the development of the Sustainable Farming Scheme, and while we’re supportive of its aims we want to ensure it can really help Welsh farmers to implement the right actions in the right places to save nature. The final details of the scheme will be decided in the coming months. This includes which actions and advice will be available and, crucially, how the budget will be allocated so it’s an effective means of helping farmers meet Wales’ biodiversity targets, as well as tackling climate change and producing food sustainably. This only scratches the surface of setting the direction to ensure a Wales richer in nature. But we believe in a shared world where wildlife, wild places and people thrive. We’ll continue to do all we can to effect the change nature needs and we’ll look to you, our supporters, to help us on our journey. Together we fly.
To hear more about RSPB Cymru’s local group events, please contact North Wales group.rspb.org.uk/northwales Swansea &
Dysgwch fwy am Balod ac adar môr eraill yn ein canllaw
Hyrwyddwyr natur
Gwaith adfer mawndir yn cael ei gydnabod gan ddiwydiant
O wastraff i wlyptir
Trawsnewid RSPB Conwy dros 30 o flynyddoedd
lleoedd
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru. Ceir 11 o Wobrau Dewi Sant bob blwyddyn, a’r cyhoedd sy’n enwebu enillwyr 10 ohonynt. Eleni, cafodd Tîm Adfer Mawndir Llyn Efyrnwy ei enwebu’n haeddiannol ar gyfer Gwobr Pencampwr yr Amgylchedd, am gyflawni un o’r prosiectau adfer mawndir mwyaf yng Nghymru. Mae gan y tîm aelodau amrywiol gan gynnwys staff RSPB Cymru a chwmnïau Hafren Dyfrdwy, Owen Environmental a RG Evans. Mae mawndiroedd yn ased hanfodol yn ein brwydr yn erbyn yr argyfwng natur a hinsawdd.
Ariannwyd y prosiect gan y Gronfa
Rhwydweithiau Natur. Caiff ei rhoi gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran
Llywodraeth
Cymru.
Mae gorgors yn storio carbon, yn gwella gwytnwch dalgylchoedd dŵr ac yn gartref i figwyn a chen unigryw, yn ogystal ag adar prin yr ucheldir sy’n bridio.
Mae tîm y prosiect yn gweithio i adfer 1,500 o hectarau o fawndir a’u troi’n ôl yn
ecosystem orgors gynhyrchiol. Trwy adfer mawndiroedd a ddirywiwyd, gallwn atal carbon rhag cael ei ollwng, a gwella cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau ucheldir eiconig fel y Bodaod Tinwyn a’r Cwtiad Aur. Hefyd, gallwn wella ansawdd dŵr trwy ei hidlo’n naturiol a lleihau gwaddodi. Rydym yn falch i fod yn rhan o brosiect y bydd ei effaith yn cael ei chynnal am ddegawdau i ddod.
Ein
Diolch i gyllid gan y Gronfa Rhwydweithiau
Natur, cafodd gwaith cadwraeth y Gylfinir yng ngogledd Cymru hwb yn ddiweddar. Ynghyd â’n partneriaid prosiect yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gallwn barhau â’n gwaith i adfer y Gylfinir ar ucheldiroedd Ysbyty Ifan a Hiraethog. Rydym yn gweithio gyda ffermwyr a phorwyr i sicrhau y bydd y Gylfinirod yn elwa o waith rheoli ar draws nifer o ffermydd. Hefyd, byddwn yn rheoli ysglyfaethu trwy godi ffensys o amgylch nythod, defnyddio dulliau dargyfeiriol o fwydo a rheoli ysglyfaethwyr, ynghyd ag olrhain y cywion. Darllenwch fwy am y Gylfinirod yn eich rhifyn o gylchgrawn RSPB.
Mae Coetiroedd Coffa’n lleoedd arbennig ar gyfer coffau bywydau ein hanwyliaid, a rhoi rhywbeth yn ôl i natur. Bellach mae cyfle i’n cefnogwyr yng Nghymru blannu coeden er cof am eu hanwyliaid ger Llyn Efyrnwy, canolbarth Cymru. Mae’r Coetir Coffa wedi’i lleoli yn ymyl y llwybr at Bistyll Rhiwargor, sy’n llawn golygfeydd hardd. Pa ffordd well o gofio am eich anwyliaid na neilltuo cornel o goetir Cymru er cof amdanynt.
Caiff darn o lechen Cymru ei rhoi ar ffens eich coeden, gyda neges fer o’ch dewis chi. Byddwch hefyd yn derbyn darn o lechen i’w gadw, gyda chyfeirnod grid unigryw’r goeden arno.
Byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud eich diwrnod plannu mor arbennig â phosibl.
Mae croeso ichi ddod i’r digwyddiad plannu, naill ai i’w wylio yn nhangnefedd
y goedwig neu i gymryd rhan yn y gwaith. Os na allwch fod yn bresennol, gall ein tîm blannu’r goeden a ddewisoch ar eich rhan ac anfon llun ohoni atoch. Sganiwch y cod QR i gael mwy o wybodaeth.
Diolch i bawb a lofnododd y ddeiseb yn galw am ddeddfwriaeth i sicrhau y bydd pob adeilad newydd yng Nghymru’n cynnwys briciau Gwenoliaid Duon. Ymatebodd mwy na 10,000 ohonoch i’n galw dros weithredu. Cafodd y ddeiseb ei hystyried gan bwyllgor Deisebau’r Senedd ar 10 Mawrth ac mae’n parhau i gael ei hadolygu. Ysgrifennodd y pwyllgor at y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol eraill yn gofyn am ymateb gydgysylltiedig gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn a gydnabuwyd yn bwnc pwysig. Ewch i’n sianelau ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf.
Ewch i weld bywyd gwyllt anhygoel arfordir Cymru y tymor hwn wrth i filoedd o adar môr ddychwelyd i’n glannau
ae ein hynysoedd a chlogwyni’n ferw o fywyd bob haf, wrth i filoedd o adar môr ddychwelyd i Gymru. Mae pob un ohonynt wedi teithio o wledydd a moroedd pell, gan ymuno â’i gilydd ar eu ffordd yn ôl i’n tiroedd ni unwaith eto. Mae’n debyg i ganol ddinas brysur yn ystod yr oriau brig, gyda’r adar yn creu digonedd o sŵn, ffraeo a drama wrth iddynt deithio adref.
Mae sawl un o’u cartrefi, ynysoedd alltraeth yng Nghymru, yn bwysig yn fyd-eang ar gyfer rhai o’r rhywogaethau eiconig hyn. Yn wir, Cymru yw’r wlad bwysicaf yn y byd o hyd i Adar Drycin Manaw sy’n bridio, gyda dros hanner poblogaeth y byd yn nythu mewn gwalau dan ddaear ar ein hynysoedd. Mae un o nythfeydd mwyaf y byd o Huganod ar warchodfa natur RSPB Ynys Gwales, ac mae nythfa fwyaf Môr-wenoliaid y Gogledd y DU yng Nghymru hefyd, ar Ynysoedd y Moelrhoniaid, ar arfordir Ynys Môn.
Pam fod adar môr yn bwysig?
Mae ein hadar môr yn ddangosydd allweddol o iechyd ein hecosystem forol yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae poblogaethau adar môr yn fyd-eang yn dirywio’n gynt
nag unrhyw grŵp arall o adar, wrth iddynt wynebu bygythiadau cynyddol gan gynnwys newid hinsawdd, rhywogaethau estron goresgynnol, a diffyg bwyd oherwydd gorbysgota. Mae adar môr yn dibynnu ar leoliadau allweddol yng Nghymru am eu safleoedd nythu helaeth lle gallant fagu eu cywion, ynghyd â’r cyfleoedd toreithiog i fwydo. I’w hachub, mae angen arnom: atal rhywogaethau goresgynnol rhag cyrraedd ynysoedd adar môr allweddol; rhwydwaith effeithiol o Ardaloedd Morol Gwarchodedig; cynllunio morol a physgodfeydd cynaliadwy, a chamau gweithredu uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd. Ac mae angen gweithredu ar frys, gan fod adar môr o’r pwys mwyaf.
Newid ar y gweill
Wrth i dwrw’r adar lenwi’r safleoedd nythu, mae rhywbeth ar y gorwel i’w dathlu dros yr adar hyn. Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi’r wedd derfynol ar Strategaeth Gadwraeth Adar Môr Cymru, y bu disgwyl hir amdani. Bydd y strategaeth yn hanfodol i wella gwytnwch ein poblogaethau adar môr sy’n bwysig yn fyd-eang, ac i sicrhau eu dyfodol. Bydd hefyd yn sicrhau y caiff safleoedd nythu diogel eu darparu.
Beth allwch chi ei wneud i helpu?
Mae ymweld â nythfa adar môr yn antur i’r synhwyrau, gyda sŵn, arogl a symudiadau miloedd o adar yn llenwi’r awyr ac ochrau clogwyni. Mae hefyd yn ffordd dda o werthfawrogi eu hysblander ac i ddeall pwysigrwydd cael deddfwriaeth ar waith i’w hamddiffyn. Gofynnwn i unrhyw un sy’n teithio i un o ynysoedd alltraeth Cymru i gymryd camau pwysig er mwyn sicrhau na fydd ysglyfaethwyr yn eu cyrraedd:
100m
Gall Llursod blymio i ddyfnderau dros 100m yn chwilio am fwyd
30m
Gall Huganod blymio 30m a chyrraedd cyflymder o 60mya
40
Gall Adar Drycin y Graig fyw hyd at 40 oed yn y gwyllt
55mph
Gall Palod hedfan ar gyflymder o 55mya
• Gwiriwch eich bagiau am arwyddion o deithwyr cudd
• Cadwch unrhyw fwyd mewn cynwysyddion nad yw llygod yn gallu mynd iddynt
• Paciwch eich bwyd ar ddiwrnod y daith
• Os welwch chi deithiwr cudd ar fwrdd eich trafnidiaeth i ynys, rhowch wybod i weithredwr y cwch a pherchennog yr ynys. Peidiwch byth â’i daflu i’r dŵr (mae llygod mawr yn nofwyr da!)
• Taflwch eich sbwriel a’ch gwastraff i’r bin.
Os ydych chi’n bwriadu ymweld â’r arfordir neu nythfa adar môr yr haf hwn, defnyddiwch y canllaw defnyddiol hwn i adnabod rhai o’n hymwelwyr, ac i ddod o hyd i’r lleoedd gorau i’w gweld
Pâl
Enw arall ar yr adar carismatig hyn yw ‘Clowniaid y Môr’. Mae’r adar bach hyn oddeutu 30cm, ac yn adnabyddus am eu pigau lliwgar a’u traed oren. Maent yn nofwyr gwych ac yn gallu plymio i ddyfnderoedd anhygoel.
Lleoedd gorau i’w gweld: Ynys Môn, arfordir Sir Benfro
Hugan
Mae’r adar llawn dwf sy’n bridio’n wyn llachar â blaenau du ar eu hadenydd, ac mae’r adar ifanc yn frown. Mae ganddynt siâp unigryw, gyda gwddf hir, pig hir a miniog, a chynffon ac adenydd hir a phigfain. Ar y môr, byddant yn fflapio eu hadenydd cyn hedfan yn esmwyth dros wyneb y dŵr.
Lleoedd gorau i’w gweld: Chwilio am fwyd yn y môr o amgylch Cymru
Un o adar mwyaf cyffredin ‘dinas’ yr adar môr, maent yn frown lliw siocled a gwyn, yn hytrach na du, gyda phigau hir, miniog. Mae gan rai ohonynt streipen wen a chylch o amgylch y llygad – yr enw ar y rhain yw Gwylogod ‘ffrwynog’.
Lleoedd gorau i’w gweld: Clogwyni, staciau ac ynysoedd
Aderyn Drycin Manaw
Aderyn drycin bach ag adenydd syth a thenau, gyda rhannau uchaf du a rhannau isaf gwyn. Mae’n hedfan trwy fflapio’i adenydd stiff yn gyflym cyn hedfan yn esmwyth dros wyneb y môr, gan droi o dro i dro (yn gwyro wrth hedfan, gan ddal un adain yn uwch na’r llall).
Lleoedd gorau i’w gweld: Ar y môr ar arfordir Sir Benfro
Aderyn môr maint canolig, gyda rhannau uchaf du a rhannau isaf gwyn, a phig trwchus, du sy’n ddwfn a blaenbwl. Gallant ddal llawer o bysgod wrth blymio unwaith, er eu bod yn dwyn pysgod oddi wrth adar môr eraill fel Palod hefyd. Lleoedd gorau i’w gweld: Clogwyni, staciau ac ynysoedd
Aderyn Drycin y Graig
Yn edrych yn debyg i wylan, mae’r aderyn môr llwyd a gwyn hwn yn perthyn o bell i’r Albatrosiaid. Mae Aderyn Drycin y Graig yn hedfan yn isel dros y môr ar adenydd stiff, gan eu curo’n ysgafn, ac yn hedfan yn esmwyth a throi i ddangos ei rhannau isaf gwyn a’i rhannau uchaf llwyd.
Lleoedd gorau i’w gweld: Clogwyni Llwybr Arfordir Cymru
Rhestr Goch Cymru
Rhestr Oren Cymru
Morwennol Pigddu
Yn wyn gan fwyaf, gyda chap du ar ei phen, pig du â blaen melyn, a choesau byr du. Yn yr awyr, maent yn dangos darnau llwyd ar flaenau eu hadenydd ac mae ganddynt gynffon fforchog.
Lleoedd gorau i’w gweld: Bae Cemlyn, Ynys Môn
Gwylan Benddu Mae pen yr Wylan Benddu yn fwy o frown lliw siocled, ac felly nid yw’n aderyn gwirioneddol benddu. Yn wir, am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, mae ganddi ben gwyn â smotyn du. Mae ei chorff yn llwyd golau gyda blaenau du ar brif blu ei hadenydd, ac mae ganddi big a choesau coch.
Lleoedd gorau i’w gweld: Arfordir gogledd Cymru, Ynys Môn
Mae Annie Smith
wedi bod yn
Bennaeth Polisi
Natur a Gwaith
Achos RSPB Cymru ers dros 15 o flynyddoedd, ac mae’n llais blaengar ym maes ymgyrchu amgylcheddol
Gyda’r pwysau ar natur yn cynyddu o bob tu, mae ar natur angen inni fod ar ein gorau; i fod yn llais sy’n codi i wynebu’r heriau, i ddod o hyd i’r datrysiadau mawr sy’n gweithio gyda natur a throsti, yn hytrach nag yn ei herbyn. Mae gwneud penderfyniadau gwell dros natur wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth yn allweddol i’r broses o adfer ein hamgylchedd naturiol yn yr hirdymor. Maes y buom yn gweithio’n galed arno yw ymateb Cymru i’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang. Mae’r fframwaith yn pennu targedau ar gyfer gweithredu ar frys er mwyn gwrthdroi colli bioamrywiaeth erbyn 2030, a sicrhau y bydd natur yn ffynnu erbyn 2050, er budd pawb. Yr enw a roddir i un o’r targedau yw ’30 erbyn 30’ - i amddiffyn yn effeithiol a rheoli 30% o’r tir a’r môr dros natur erbyn 2030. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, edrychodd Llywodraeth Cymru ar beth mae hyn yn ei olygu i Gymru, a buodd RSPB Cymru yn rhan o’r gwaith hwn. Er bod rhywfaint o gynnydd pwysig wedi cael ei wneud, nid oes llawer o’r camau gweithredu allweddol i wella ac ymestyn ein hardaloedd gwarchodedig (ar y tir ac ar y môr) wedi’u cyflawni hyd yma. Ar ôl brwydro’n hir amdano, roeddem wrth ein boddau pan gafodd y Bil Egwyddorion Amgylcheddol, Trefniadau Llywodraethu a Thargedau Bioamrywiaeth, neu’r ‘Bil Natur Bositif’, ei gynnwys o’r diwedd yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru haf diwethaf. Bydd y Bil yn creu corff gwarchod amgylcheddol newydd i Gymru, yn cynnwys egwyddorion amgylcheddol craidd yng nghyfraith
Igysylltu â ni, defnyddiwch ein prif gyfeiriad ebost: cymru@rspb.org.uk
Cewch hyd i ni ar-lein a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol: rspb.org.uk /@RSPBCymru
Cymru, ac yn cyflwyno targedau wedi’u rhwymo mewn cyfraith ar gyfer adfer natur. Yn dilyn nifer fawr o drafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac Aelodau’r Senedd, rydym yn obeithiol y bydd y Bil yn cael ei gyflwyno i’r Senedd yr haf hwn, ac y bydd yn ymwreiddio uchelgais uchel dros fioamrywiaeth. Mae polisi ffermio hefyd yn hollbwysig i’r gwaith o adfer natur, gan fod mwy na 80% o dir Cymru’n dir amaethyddol. Mae Cymru ar fin cyrraedd diwedd proses ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Er ein bod yn cefnogi nodau’r cynllun, hoffem sicrhau y bydd yn gallu helpu ffermwyr Cymru i weithredu’r camau cywir yn y lleoedd cywir ar yr adegau cywir er mwyn achub natur. Caiff manylion terfynol y cynllun eu penderfynu yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y rhain yn cynnwys pa gamau gweithredu a chyngor a fydd ar gael, ac yn hollbwysig, sut caiff y gyllideb ei dyrannu er mwyn iddi fod yn ffordd effeithiol o helpu ffermwyr i gyrraedd targedau bioamrywiaeth Cymru, ynghyd â mynd i’r afael â newid hinsawdd a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Dim ond cyffwrdd wyneb y gwaith o bennu’r cyfeiriad ar gyfer sicrhau y bydd gan Gymru natur fwy cyfoethog yw hyn. Ond credwn mewn byd a rennir lle mae bywyd gwyllt, lleoedd gwyllt a phobl yn ffynnu. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau’r newid sydd ei angen ar natur, a byddwn yn edrych arnoch chi, ein cefnogwyr, i’n helpu ni i gyrraedd yno, ac Hedfan Fel Un.
I glywed mwy am ddigwyddiadau grwpiau leol yr RSPB, cysylltwch â
Gogledd Cymru group.rspb.org.uk/northwales
Abertawe a’r Ardal group.rspb.org.uk/swanseaanddistrict
Mae RSPB Cymru yn rhan o’r RSPB, elusen gadwraeth natur fwyaf y DU. Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yn Lloegr a Chymru 207076, yn Yr Alban SC037654
Mae cwmni Our Media yn gweithio i sicrhau bod ei holl bapur yn dod o goedwigoedd sydd wedi’u rheoli’n dda ac wedi’u hardystio gan yr FSC® a ffynonellau rheoledig eraill. Mae’r cylchgrawn hwn wedi’i argraffu ar bapur ardystiedig Forest Stewardship Council® (FSC®). Gellir ailgylchu’r cylchgrawn hwn, i’w ddefnyddio mewn papurau newydd a phecynnu.