Dragonflies and damselflies are vital indicators of ecosystem health – look out for them this summer
Counting on you
The results of the Big Garden Birdwatch are in
Raptors on the rise
New study shows Hen Harrier numbers increasing
Action for nature
Science
We can always count on you!
Saving nature through people is at the heart of what we do. When it comes to the Big Garden Birdwatch, your input is invaluable in helping us get a snapshot of how Wales’ garden birds are faring. This year – the survey’s 45th – not much has changed in the top 10. The House Sparrow once again reigned supreme in the top spot, with the Blue Tit pipping the Starling to second post this time round. The Great Tit made great strides, climbing from eighth to fifth place, and the Woodpigeon returned to the fold, bumbling back in at number 10.
We were really heartened to see the number of people taking part in the Big Garden Birdwatch rising this year, to over 29,000 – up by more than 3,000 on last year. At a time when it seems there’s so much we need to do to address the nature emergency in Wales, we thank every single one of you who got involved in this wonderful annual hour of citizen science, fun and fascination.
RSPB Cymru hits the road
It’s promising to be another busy summer as we prepare to visit two key events in the Welsh calendar. Firstly, we’ll be making our yearly pilgrimage to the Royal Welsh Show on 22–25 July. The Sustainable Farming Scheme has been a topic of high interest in both the agricultural and environmental sector over the last few months. Our attendance at the show will provide an opportunity for us to engage with farmers, landowners, other environmental charities and rural stakeholders about this very important topic and how it shouldn’t be a choice between food and nature but rather looking at management that does both. The scheme must work for farmers, people and nature, and this kind of event is essential in enabling these delicate yet vital conversations.
Finally, in August we’ll make our way to Pontypridd, South Wales, for the biggest Welsh language festival in
the country – the National Eisteddfod. Our stand will once again be at the Science Village, where we’ll offer fun-filled nature activities for the family. If you attend either of these festivals this summer, drop in to see us.
Above: Taking part in the Big Garden Birdwatch Left: Look for us at one of these events this summer
Species Hen Harriers on the up
A new Hen Harrier study has shown that numbers of this striking raptor have increased from 35 to 40 pairs since 2016. The survey, led by the RSPB and funded by Natural Resources Wales (NRW), found that 95% of pairs were found on heatherdominated moorland, up from 86%. The number of Hen Harriers remained stable across the Migneint–Arenig–Dduallt Special Protection Area (SPA) in Gwynedd, while there was a promising increase of six pairs on the Berwyn SPA in Denbighshire/Powys.
Despite this good news, numbers are still well below those recorded in 2010,
and the 2023 data represents only 16% of the potential population that the suitable habitat should support across Wales.
The amazing display of Hen Harriers in springtime is a sign of a healthy moorland and it is encouraging that numbers have increased nationally as part of their longterm recovery. Restoring the Welsh uplands for a suite of precious wildlife, as well as benefiting society by storing water and carbon to tackle the climate emergency, must be a key outcome for Welsh Government policy. We will continue to work collaboratively to achieve this.
Get involved
Celebrating our volunteers
Volunteers are at the heart of everything we do at RSPB Cymru. The RSPB’s annual President’s Award, a flagship event recognising volunteers, held at National Volunteer’s week in June, saw Ashleigh Thomson (above) nominated in the Most Outstanding Voluntary Action category.
Ashleigh regularly volunteers as a Wildlife Explorer club leader at RSPB Conwy nature reserve, helping with everything from pond dipping and bug safaris to guided walks in search of Chough.
Having young people involved in all aspects of our work gives us great insight into how we can connect and inspire the next generation with the wonder of nature. The more of us who get involved, the bigger, more diverse and powerful our support for nature will be.
We are incredibly grateful to all our volunteers across Wales who are helping us in the fight to save nature. The actions of each and every one is crucial for our work and our vision of a world richer in nature. Nature is in crisis but, by working together, we can save it.
If you’d like to volunteer, fundraise for us or join a local group, find nearby opportunities at volunteer.rspb.org.uk
Over 850 of you added your voices to our e-action in response to the Welsh Government’s White Paper calling for a Nature Positive Bill – a new law to drive nature recovery in Wales. Connecting people with nature is at the heart of what we do and we will continue to do all we can to ensure it is safeguarded and allowed to thrive. Check out our twominute film, created by Climate Cymru, on what nature means to the people of Wales.
In the Spring/Summer issue of Y Barcud we told you about the sad decline of Black Grouse in Wales. Since 2018 we’ve lost almost half of lekking males here. But we’re delighted to announce that we’ve received £244,000 from the Nature Networks Fund to continue our Black Grouse recovery project in collaboration with Natural Resources Wales on the uplands of north-east Wales. This wouldn’t be possible without the support of the Welsh Government and the National Lottery Heritage Fund. The funds will be used to work with partners on a big conservation plan for the area, as well as creating sites of sustainable upland management to help Black Grouse and other upland species.
Left: Hen Harrier Right (bottom): Black Grouse Below: Ashleigh Thomson
Let’s boost biodiversity
By measuring the abundance and variety of living things, including insects such as dragonflies and damselflies, we can gauge the health of our ecosystems
Many declines in bird populations have been linked to the catastrophic loss of insects from our countryside – an essential food source for iconic species such as the Cuckoo, Swift and more. In order to see more in the skies, we need to rebuild our ecosystems from the bottom up.
Aerial acrobats of the insect world, dragonflies are a surprising indicator of a healthy aquatic ecosystem. With their striking colours shimmering in the sun, the summer months are the best time to spot these tropical-looking creatures. If they are thriving, then it’s likely that the smaller insects they feed upon are also abundant, suggesting a high local level of biodiversity.
Up to 95% of the life cycle of a dragonfly is spent underwater, so access to good-quality fresh water is vital. The females lay eggs in or near water and these hatch after a few weeks, although the eggs of some species lie dormant over winter. The hatched larvae feed on live prey, including small fish which might be bigger than they are. As the larvae grow, they moult and shed their skin up to 15 times. When the water
Dragonfly or damselfly?
Often referred to collectively as dragonflies, there are actually two different sub-orders.
Dragonflies are larger, stronger fliers that can be found away from water. Their large eyes usually touch, and their back wings are often shorter and broader than the front. At rest, they hold their wings out at right-angles.
Damselflies are smaller, weaker at flying and tend to stay close to water. All four of their wings are of similar size and shape, their eyes never touch, and, when resting, they fold their wings back along the length of their bodies.
warms up and days get longer, the fully-grown larvae climb up marginal vegetation or out onto a bank and shed their skin one last time to emerge as an adult. The newly emerged dragonfly takes a while to pump fluid into its wings and abdomen. It can take several hours for their wings to harden before they can take their first flight and find a mate. The life expectancy of an adult is typically no more than a week or two, but can last up to six to eight weeks.
Over the last 100 years, it’s estimated that one million ponds have been filled in across Britain. Despite being expert flyers and hunters, this scale of habitat loss – as well as water pollution and climate change – are all threatening the survival of some dragonfly and damselfly species.
Where to see dragonflies
We are excited to announce that two of our nature reserves have been designated as Dragonfly Hotspots by the British Dragonfly Society. Both RSPB Conwy and Newport Wetlands were made ‘Hotspots’ this spring during Dragonfly Week, making them only the second and third sites across Wales to be given the status.
Dragonfly Hotspots are chosen for the range of dragonfly and damselfly species they support, their ease of access, and for the opportunity they afford to learn more about these insects. RSPB Conwy is home to around 18 species and Newport Wetlands home to around 20, many of which depend on the abundant networks of reeds and ditches both sites provide.
How nature-friendly farming can help
Changes in agriculture over the last century means fewer ponds are used to water livestock. These ponds were really good habitats for dragonflies, as well as other species. Healthy hedgerows also support small mammals and insects, while providing birds with nest sites, shelter and food. This is why we’ve been calling for nature-friendly hedgerow management and for the protection and provision of wet features as part of the upcoming Sustainable Farming Scheme here in Wales.
Photos: Ben Andrew, David Chandler, Nick Upton, Rob Carmier, Jodie Randall, Sam Turley, Matt Wilkinson (rspb-images.com)
Numbers recorded in Wales
What to look for
Four garden visitors
Emperor Dragonfly
Male: bright blue with black central line down abdomen
Female: green with black central line
Flying season: late May to early September
Size: 76–78mm
Broad-bodied Chaser dragonfly
Male: powdery blue with yellow side spots
Female: yellow-brown
Flying season: May to end of July
Size: 44–46mm
Large Red Damselfly
Male: mainly red with black at the end of the abdomen
Female: red, but blacker on the lower segments of the abdomen
Flying season: mid-April to early Sept Size: 35–36mm
Common Blue Damselfly
Male: bright blue
Female: black with blue or dull green
Flying season: mid-May to late September Size: 32mm
How to help Boost biodiversity where you are
Dig a pond
Even small ponds can support dragonflies and damselflies as well as other insects. Use a variety and abundance of native aquatic plants. Submerged plants put oxygen into the water and provide habitat for the larvae; emergent and marginal vegetation provide a place for dragonflies to perch, roost and lay their eggs. Provide sheltered vegetation around the pond for newly emerged adults to hunt and rest.
Plant insect-friendly flowers and herbs
Plants such as wild herbs and lavenders support pollinators and other insects that birds and bats can feed on.
Put up bird boxes
Bird boxes help to compensate for the loss of natural nest sites and will bring birds into your garden. Plenty of safe places to nest will encourage them to return year after year.
Out & about
Highlights from our nature reserves
Ynys-hir
There is an exciting mix of habitats to be explored at RSPB Ynys-hir this time of year. Keep an eye out for Grass Snakes basking in the summer sun, dragonflies darting alongside the waters’ edge, and Ospreys perching as they begin their journey back south. Relax in one of our hides as you try and spot one of the many beautiful butterflies that call Ynys-hir their home, such as the Purple Hairstreak, found mainly on and around our Oak trees. The reserve is full of fledged birds, many of whom visit our bird feeders right outside the visitor centre.
Newport Wetlands
The summer holidays are almost here, and Newport Wetlands is the perfect place to come and enjoy some close encounters of the wildlife kind. Discover the wonders of the underwater life at the pond-dipping platforms. Join in the hunt for Wales’ rarest bumblebee, the Shrill Carder. Walk along the water’s edge, where dense green swathes of reeds sway in the summer breeze. Look out for Bittern, Bearded Tits and Otters. Then sit back and take a break in the café with a coffee and slice of mouth-watering cake.
Contact us
To get in touch, please use our main email address: cymru@rspb.org.uk
Find us online and follow us on social media: rspb.org.uk / @RSPBCymru
There’s lots of nature-filled events for all ages to enjoy on our nature reserves. Find them at events.rspb.org.uk/ Cymru
South Stack
Come and discover the patchwork of purple and yellow heather and gorse on our lowland coastal heathland. Surrounded by rich wildflower meadows, summer is the best time to see RSPB South Stack alight with colour and humming with bees, butterflies and dragonflies zipping along. Look out to sea and you might be lucky enough to spot passing Risso’s and Bottlenose Dolphins. Head on a seabird safari, picnic with Porpoise, or stroll along the clifftops for a glimpse of the resident Peregrines and the rare red-billed member of the crow family, the Chough.
Conwy
Late summer is a great time to see waders at RSPB Conwy. Natural evaporation and transpiration of the lagoons have reduced the water level by mid-July so there is insectrich mud for waders. Highlights include Little Ringed Plover, Greenshank, Black-tailed Godwit, Whimbrel, Common Sandpiper, Oystercatcher and huge flocks of Curlew. Follow the trails through mixed scrub and pasture, dotted with temporary pools – loved by dragonflies and butterflies –and where orchids carpet the grasslands. Let the kids run off some steam in Y Maes, a landscaped area designed for natural play.
To hear more about RSPB Cymru’s local group events, please contact Cardiff & District group.rspb.org.uk/cardiff North Wales group.rspb.org.uk/northwales Swansea & District group.rspb.org.uk/swanseaanddistrict
Photos: Jake Stephen, Ben Andrew (rspb-images.com)
Y Barcud
Newyddion gan RSPB Cymru
Amser cyfrif
Gweision y neidr yn gwibio
Mae gweision y neidr a mursennod yn ddangosyddion hollbwysig o iechyd ecosystem – edrychwch allan amdanynt yr haf hwn
Adar ysglyfaethus ar gynnydd
Mae canlyniadau Gwylio
Adar yr Ardd wedi cyrraedd
Astudiaeth newydd yn dangos cynnydd mewn niferoedd Bodaod Tinwyn Haf/Hydref
Gweithredu dros natur
Gwyddoniaeth
Gallwn ddibynnu arnoch chi i gyfrif!
Mae achub natur trwy bobl yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae eich mewnbwn i arolwg Gwylio Adar yr Ardd yn rhan amhrisiadwy o’r gwaith i’n helpu ni gael ciplun o sefyllfa bresennol adar yr ardd yng Nghymru. Prin yw’r newid i’r deg uchaf eleni, wrth inni ddathlu pen-blwydd yr arolwg yn 45 oed. Aderyn y To oedd ar frig y rhestr unwaith eto, gyda’r Titw Tomos Las yn hedfan dros y Drudwy i’r ail safle y tro hwn. Mae’r Titw Mawr wedi dringo o rif wyth i rif pump, a phigodd yr Ysguthan ei ffordd yn ôl i’r deg uchaf yn y degfed safle. Roedd yn galonogol iawn gweld nifer y bobl a gymerodd rhan yn arolwg Gwylio Adar yr Ardd yn codi eleni i dros 29,000, sef cynnydd o 3,000 ers llynedd. Ar adeg pan fo’n ymddangos bod gymaint gennym i’w wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng natur yng Nghymru, diolchwn i bob un ohonoch chi a gymerodd ran yn yr awr flynyddol ryfeddol hon o wyddoniaeth dinasyddion, hwyl a chyfaredd.
RSPB Cymru’n mynd ar y ffordd
Mae’n mynd i fod yn haf prysur arall wrth inni baratoi i ymweld â dau ddigwyddiad allweddol yng nghalendr Cymru. Yn gyntaf, byddwn yn mynd ar ein pererindod flynyddol i Sioe Frenhinol Cymru ar 22-25 Gorffennaf.
Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi bod yn bwnc llosg yn y sector amaethyddiaeth a’r sector amgylcheddol yn ystod y misoedd diwethaf.
Bydd ein presenoldeb yn y sioe yn gyfle inni ymgysylltu â ffermwyr, tirfeddianwyr, elusennau amgylcheddol eraill a rhanddeiliaid gwledig i drafod y pwnc pwysig hwn, a sut na ddylai fod yn ddewis rhwng bwyd a natur. Yn hytrach, dylem edrych ar ddulliau rheoli sy’n cyflawni dros y ddau.
Rhaid i’r cynllun weithio er lles ffermwyr, pobl a natur, ac mae’r math hwn o ddigwyddiad yn hanfodol i’r broses o ennyn y sgyrsiau tringar ond hollbwysig hyn. Yn olaf, byddwn yn teithio i Bontypridd, de Cymru, ym mis Awst, ar gyfer gŵyl Cymraeg mwyaf y wlad,
yr Eisteddfod Genedlaethol. Unwaith yn rhagor, bydd ein stondin yn y Pentref Gwyddoniaeth, lle byddwn yn cynnig gweithgareddau llawn natur i’r teulu oll.
Os ydych yn mynd i’r naill ŵyl yr haf hwn, cofiwch alw heibio i’n gweld.
rhan yn arolwg
Gwylio Adar yr Ardd
Chwith: Cadwch
lygad allan amdanom yn y digwyddiadau hyn yr haf hwn
Pobl
Clawr: Gwas Neidr Eurdorchog gan Ben Andrew (rspb-images.com). Y dudalen hon: Katie Nethercoat,
Uwchben: Cymryd
Rhywogaethau
Dangosodd astudiaeth newydd o Fodaod Tinwyn bod niferoedd yr aderyn ysglyfaethus trawiadol hwn wedi cynyddu ers 2016, o 35 i 40 o barau. Nododd yr arolwg, a arweiniwyd gan RSPB ac a ariannwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, bod 95% o’r parau wedi’u gweld ar rostir grugog, i fyny o 86%. Arhosodd nifer y Bodaod Tinwyn yn sefydlog ar draws Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) Migneint–Arenig–Dduallt yng Ngwynedd, a chafwyd cynnydd addawol o chwe phâr ar AGA Y Berwyn yn Sir Ddinbych/Powys.
Er y newyddion da, mae’r niferoedd yn parhau’n sylweddol is na’r rhai a gofnodwyd
Niferoedd y Boda Tinwyn ar gynnydd Dathlu
Mae gwirfoddolwyr yn galonogol i bopeth a wnawn yn RSPB Cymru. Digwyddiad blaenllaw sy’n cydnabod gwirfoddolwyr yw gwobr flynyddol arlywydd y RSPB, a gynhelir yn ystod Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr ym mis Mehefin. Cafodd Ashleigh Thomson (uchod) ei enwebu yn y categori Gweithred Wirfoddol Fwyaf Rhagorol.
Mae Ashleigh yn gwirfoddoli’n rheolaidd fel arweinydd clwb Anturwyr
Bywyd Gwyllt yng ngwarchodfa natur RSPB Conwy, gan helpu gyda phopeth o trochi pyllau a saffaris pryfed i deithiau cerdded tywysedig yn chwilio am y Frân Goesgoch.
yn 2010, ac mae data 2023 yn cynrychioli dim ond 16% o’r boblogaeth arfaethedig y dylai’r cynefin addas ei gefnogi ledled Cymru. Mae arddangosfa anhygoel Bodaod Tinwyn yn y gwanwyn yn arwydd o rostir iach, ac mae’n galonogol bod niferoedd wedi cynyddu’n genedlaethol, fel rhan o’u hadferiad hirdymor. Rhaid i’r gwaith o adfer ucheldir Cymru ar gyfer cyfres o fywyd gwyllt gwerthfawr, ynghyd â’r buddion i gymdeithas o ran storio dŵr a charbon er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, fod yn ganlyniad allweddol i bolisi Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i weithio’n gydweithredol i’w gyflawni.
Ymgyrchoedd Cefnogi Cymru Natur-bositif
Ychwanegodd mwy na 850 ohonoch eich lleisiau i’n e-weithrediad mewn ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru yn galw am Fil Natur-bositif - cyfraith newydd i yrru adferiad natur yng Nghymru. Mae cysylltu pobl â natur yn galonogol i bopeth a wnawn a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y caiff natur ei warchod ac y caniateir iddo ffynnu. Gwyliwch ein ffilm dwy funud o hyd a grëwyd gan Climate Cymru, i weld beth mae natur yn ei olygu i bobl Cymru.
Rhywogaethau
Chwith: Boda Tinwyn
De (gwaelod): Grugiar Ddu
Isod: Ashleigh Thomson
Mae cynnwys pobl ifanc ymhob agwedd ar ein gwaith yn rhoi inni ddealltwriaeth dda o sut y gallwn gysylltu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf â rhyfeddodau natur. Po fwyaf ohonom sy’n cymryd rhan, y mwyaf, mwy amrywiol a phwerus bydd ein cefnogaeth o natur.
Rydym yn hynod ddiolchgar i’n holl wirfoddolwyr ledled Cymru sy’n ein helpu ni yn y frwydr i achub natur. Mae gweithgareddau pob un ohonynt yn hollbwysig i’n gwaith a’n gweledigaeth o fyd mwy cyfoethog o ran natur. Mae natur yn wynebu argyfwng, ond gallwn ei hachub trwy weithio gyda’n gilydd.
Os hoffech wirfoddoli inni, codi arian neu ymuno â grŵp lleol, gallwch weld eich cyfleoedd lleol yn volunteer.rspb.org.uk
Yn rhifyn Gwanwyn/Haf Y Barcud, soniasom am ddirywiad trist y Rugiar Ddu yng Nghymru. Ers 2018, rydym wedi colli bron hanner yr adar gwryw sy’n defnyddio mannau paru (leks) yma. Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi ein bod ni wedi derbyn £244,000 gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur i barhau â’n prosiect i adfer y Rugiar Ddu, mewn cydweithrediad â Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ucheldir gogledd ddwyrain Cymru. Ni fyddai’r gwaith hwn yn bosibl heb gymorth Llywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Caiff yr arian ei ddefnyddio i weithio gyda phartneriaid ar gynllun cadwraeth mawr yn yr ardal, ynghyd â chreu darnau o ucheldir a reolir yn gynaliadwy, er mwyn helpu Grugieir Du a rhywogaethau eraill yr ucheldir.
Rhoi hwb i fioamrywiaeth
Drwy fesur toreithrwydd ac amrywiaeth pethau byw, gan gynnwys pryfed
fel gweision y neidr a mursennod, gallwn fesur iechyd ein hecosystemau
Cysylltir dirywiad llawer o boblogaethau adar i’r golled catastroffig o bryfed yng nghefn gwlad - sef ffynhonnell fwyd hanfodol i rywogaethau eiconig fel y Gog, Gwenoliaid Du ac eraill. Er mwyn gweld mwy o fywyd uwch ein pennau, rhaid inni ailadeiladu ein hecosystemau o’r gwaelod i fyny.
Fel acrobatiaid awyrol byd y pryfed, mae gweision y neidr yn ddangosydd annisgwyl o ecosystem ddyfrol iach. Gyda’u lliwiau trawiadol yn sgleinio yn yr haul, misoedd yr haf yw’r amser gorau i weld y creaduriaid hyn â’u golwg trofannol. Os ydynt yn ffynnu, mae’n debygol bod y pryfed llai o faint sy’n fwyd iddynt yn doreithiog hefyd, gan awgrymu lefel uchel o fioamrywiaeth yn lleol.
Mae gweision y neidr yn treulio hyd at 95% o’u cylch oes dan ddŵr, felly mae mynediad i ddŵr croyw o ansawdd uchel yn hollbwysig. Mae’r benywod yn dodwy wyau yn y dŵr neu’n agos ato a bydd y rhain yn deor ymhen ychydig o wythnosau, er bod wyau rhai rhywogaethau’n aros ynghwsg dros y gaeaf. Mae’r larfau newydd ddeor yn bwyta ysglyfaeth byw, gan gynnwys pysgod bach a allai fod yn fwy na nhw. Wrth i’r larfau dyfu, maent yn bwrw croen hyd at 15 o weithiau. Pan fydd y dŵr yn cynhesu a’r diwrnodau’n ymestyn, mae’r larfau yn eu llawn dwf yn dringo’r llystyfiant ar ochr y
Gwas y neidr neu fursen?
Er y cyfeirir atynt yn un swp fel gweision y neidr yn aml, mae dau is-ddosbarth gwahanol mewn gwirionedd.
Mae gweision y neidr yn hedfanwyr cryfach, mwy o faint, y gellir eu gweld i ffwrdd o ddŵr. Mae eu llygaid mawr yn cyffwrdd fel arfer, ac mae eu hadenydd ôl yn aml yn fyrrach ac yn lletach na’r adenydd blaen. Wrth orffwys, maent yn dal eu hadenydd allan ar ongl sgwâr.
Mae mursennod yn llai o faint, yn hedfanwyr gwannach ac yn tueddu i aros yn agos at ddŵr. Mae maint a siâp y pedair adain yn debyg, nid yw eu llygaid byth yn cyffwrdd, ac wrth orffwys, maent yn plygu eu hadenydd yn ôl ar hyd eu cyrff.
dŵr ac yn bwrw croen am y tro olaf cyn ymddangos fel oedolyn. Gall gymryd sawl awr i’r adenydd galedu a chyn gall y pryfyn hedfan am y tro cyntaf a dod o hyd i gymar. Fel arfer, nid yw disgwyliad oes yr oedolyn yn fwy nag wythnos neu ddwy, ond gall oroesi am hyd at chwech i wyth wythnos.
Dros y ganrif ddiwethaf, amcangyfrifir bod un filiwn o byllau dŵr wedi’u llenwi i mewn ar draws Prydain. Er eu bod yn arbenigo mewn hedfan a hela, mae colli cynefin ar y raddfa hon - ynghyd â llygredd dŵr a newid hinsawdd - yn bygwth goroesiad rhai rhywogaethau o weision y neidr a mursennod.
Ble i weld gweision y neidr Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod dwy o’n gwarchodfeydd natur wedi’u dynodi’n fannau arbennig ar gyfer gweision y neidr gan Gymdeithas Gweision y Neidr Prydain. Rhoddwyd statws ‘Hotspot’ i warchodfeydd RSPB Conwy a RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd yn ystod Wythnos Gweision y Neidr y gwanwyn hwn, sef yr ail a thrydydd safle yng Nghymru i dderbyn y statws hwnnw.
Caiff mannau arbennig gweision y neidr eu dewis oherwydd yr ystod o rywogaethau o weision y neidr a mursennod a gefnogir ganddynt, hwylustod y mynediad iddynt, a’r cyfleoedd maent yn eu cynnig i ddysgu mwy am y pryfed. Mae RSPB Conwy yn gartref i oddeutu 18 o rywogaethau ac mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn gartref i oddeutu 20. Mae llawer ohonynt yn dibynnu ar y rhwydweithiau toreithiog o gyrs a ffosydd ar y ddau safle.
Sut all ffermio sy’n ystyrlon o natur helpu
Mae newidiadau i amaethyddiaeth yn ystod y ganrif ddiwethaf yn golygu nad oes cymaint o byllau’n cael eu defnyddio i roi dŵr i dda byw. Roedd y pyllau hyn yn gynefin da iawn i weision y neidr, ynghyd â rhywogaethau eraill. Mae gwrychoedd iach hefyd yn cynnal mamaliaid bach a phryfed, ac yn rhoi safleoedd nythu, cysgod a bwyd i adar. Dyna pam ein bod ni wedi bod yn galw am ddulliau rheoli gwrychoedd sy’n ystyrlon o natur ac am warchod a darparu nodweddion gwlyb fel rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd ar y gweill yma yng Nghymru.
Niferoedd a gofnodwyd yng Nghymru
o rywogaethau o weision y neidr
o rywogaethau o fursennod
Ffotograffau: Ben Andrew, David Chandler, Nick Upton, Rob Carmier, Jodie Randall, Sam Turley, Matt Wilkinson (rspb-images.com)
Tudalen gyferbyn (top): Mursen Fawr Goch
Beth i edrych allan amdano
Ymerawdwr
Gwryw: glas llachar â llinell du lawr canol yr abdomen
Benyw: gwyrdd â llinell du lawr y canol
Tymor hedfan: diwedd Mai i ddechrau
Medi
Maint: 76–78mm
Picellwr Praff
Gwryw: glas powdrog â smotiau
melyn ar hyd yr ochr
Benyw: melynfrown
Tymor hedfan: Mai i Orffennaf
Maint: 44–46mm
Mursen Fawr Goch
Gwryw: coch gan fwyaf â du ar ddiwedd yr abdomen
Benyw: coch, ond yn fwy du ar segmentau isaf yr abdomen
Tymor hedfan: canol Ebrill i ddechrau
Medi
Maint: 35–36mm
Mursen Las Gyffredin
Gwryw: glas llachar
Benyw: du â glas neu wyrdd afloyw
Tymor hedfan: canol Mai i ddiwedd
Medi
Maint: 32mm
Sut i helpu
Hybu bioamrywiaeth yn eich ardal chi
Cloddio pwll
Gall hyd yn oed pyllau bach o ddŵr gynnal gweision y neidr a mursennod, ynghyd â phryfed eraill. Defnyddiwch amrywiaeth a chyfoeth o blanhigion dyfrol cynhenid. Mae planhigion wedi suddo yn rhoi ocsigen yn y dŵr ac yn cynnig cynefin i’r larfau; mae llystyfiant sy’n tyfu allan o’r dŵr ac ar hyd ei ymyl yn cynnig lle i weision y neidr glwydo a dodwy eu hwyau. Tyfwch lystyfiant cysgodol o amgylch y pwll i’r oedolion sydd newydd ymddangos hela a gorffwys arno.
Plannwch flodau a pherlysiau sy’n gyfeillgar i bryfed
Mae planhigion fel perlysiau gwyllt a lafantau’n cynnal peillwyr a phryfed eraill gall adar ac ystlumod fwydo arnynt.
Gosod bocs adar
Mae bocs adar yn helpu i wneud iawn am golli’r safleoedd nythu naturiol ac yn denu adar i’ch gardd. Bydd cael digon o leoedd diogel i nythu yn eu hannog i ddychwelyd blwyddyn ar ôl blwyddyn.
Crwydro’r wlad
Uchafbwyntiau o’n gwarchodfeydd
natur
Ynys-hir
Ceir cyfuniad cyffrous o gynefinoedd i’w crwydro yn RSPB Ynys-hir yr adeg hon o’r flwyddyn. Cadwch lygad allan am Nadroedd y Gwair yn torheulo yn heulwen yr haf, gweision y neidr yn gwibio ar hyd ymyl y dŵr, a Gweilch y Pysgod yn clwydo cyn iddynt ddechrau ar eu taith yn ôl i’r de. Ymlaciwch yn un o’n cuddfannau wrth ichi geisio cael cipolwg o’r gloÿnnod byw niferus sy’n byw yn Ynys-hir, fel y Brithribin Porffor sydd i’w gweld gan fwyaf ar ein coed Derw neu o’u cwmpas. Mae’r warchodfa’n llawn adar a hedfanodd y nyth, ac mae llawer ohonynt yn ymweld â’r bwydwyr adar tu allan i’r ganolfan ymwelwyr.
Gwlyptiroedd
Casnewydd
Mae’r gwyliau haf ar y ffordd, a Gwlyptiroedd Casnewydd yw’r lle perffaith i ddod a mwynhau eich hun yng nghanol bywyd gwyllt. Darganfyddwch ryfeddodau bywyd dan y dŵr ar y platfformau trochi pyllau. Dewch i chwilio am y wenynen bŵm fwyaf prin yng Nghymru, y Gardwenynen Feinlais.
Cerddwch ar hyd ymyl y dŵr, lle mae ystodau trwchus o gyrs yn siglo yn awel yr haf. Cadwch lygad allan am Adar y Bwn, Titwod Barfog a Dyfrgwn, cyn eistedd i lawr a chymryd hoe yn y caffi gyda phaned a darn blasus o gacen.
Ynys Dewi
Dewch i weld clytwaith y grug porffor a’r eithin melyn ar ein rhostir iseldir arfordirol. Wedi’i hamgylchynu â dolydd blodau gwyllt blodeuog, yr haf yw’r adeg gorau i weld RSPB Ynys Dewi yn fwrlwm o liw yn llawn suo’r gwenyn, gloÿnnod byw yn dawnsio a gweision y neidr yn gwibio heibio.
Edrychwch i’r môr ac efallai y byddwch yn ddigon lwcus i weld Dolffiniaid Risso a Dolffiniaid Trwyn Potel yn nofio heibio. Ewch ar saffari adar môr, neu bicnic gyda Llamhidyddion, neu ewch am dro ar hyd pennau’r clogwyni i gael cipolwg o’r
Hebogiaid Tramor sy’n trigo yno, ac aelod prin o deulu’r frân, y Frân Goesgoch.
Mae digonedd o ddigwyddiadau
llawn natur i bawb eu mwynhau ar ein gwarchodfeydd natur. Dewch o hyd iddynt yn events.rspb.org. uk/Cymru
Conwy
Mae diwedd yr haf yn adeg wych i weld adar hirgoes yn RSPB Conwy. Mae anweddiad a thrydarthiad naturiol y morlynnoedd wedi gostwng lefel y dŵr erbyn canol mis Gorffennaf, gan adael llaid llawn pryfed i’r adar hirgoes. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y Cwtiad Torchog Bach, Pibydd Coeswyrdd, y Rhostog Cynffonddu, y Coegylfinir, Pibydd y Dorlan, y Bioden Fôr, a heidiau mawr o Ylfinirod. Dilynwch y llwybrau trwy glytwaith o brysgwydd a thir pori sy’n frith o byllau dŵr dros dro - lle mae gweision y neidr a gloÿnnod byw yn heidio a’r glaswelltir yn garped o degeirianau. Gadewch i’r plant losgi eu hegni yn Y Maes, ardal a dirluniwyd ar gyfer chwarae naturiol.
Cysylltwch â ni
I gysylltu â ni, defnyddiwch ein prif gyfeiriad ebost: cymru@rspb.org.uk
Cewch hyd i ni ar-lein a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol: rspb.org.uk /@RSPBCymru
yn Lloegr a Chymru 207076, yn Yr Alban SC037654
I glywed mwy am ddigwyddiadau grwpiau leol yr RSPB, cysylltwch â
Caerdydd a’r Ardal group.rspb.org.uk/cardiff
Gogledd Cymru group.rspb.org.uk/northwales
Abertawe a’r Ardal group.rspb.org.uk/swanseaanddistrict
Ffotograffau: Jake Stephen, Ben
Andrew (rspb-images.com)
Mae RSPB Cymru yn rhan o’r RSPB, elusen gadwraeth natur fwyaf y DU. Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig