Y Barcud Spring/Summer 2025

Page 1


News from RSPB Cymru

Nature cure

How prescribing time in nature is helping people

Curlew calling

Our collaborative work in north Wales shows there is hope for a Curlew recovery

Big Garden Birdwatch

Find out how our garden birds are faring this year

Action for nature

Our people

Volunteer for nature

Following great success in England and Northern Ireland, the RSPB Species Volunteer Network (SVN) has expanded to Wales and Scotland. This exciting project, made possible thanks to the generosity of players of People’s Postcode Lottery, will support species recovery projects outside of our nature reserves, and will aim to restore some of Wales’ most vulnerable birds.

The main goal is to support species recovery projects in Wales by building diverse, experienced volunteer teams, led by volunteer coordinators. The project will see these dedicated teams develop to become self-sufficient and create a legacy for species recovery projects across Wales.

The Species Volunteer Network project has hit the ground running, and over the coming months will be supporting three projects in north Wales: Curlew and Black Grouse recovery on the North Wales Moors, and Chough recovery in Eryri, Llŷn and Ynys Môn.

Volunteers will be crucial for the success of this project, and opportunities to take part will include bird surveys, nest monitoring and protection, data collection and management. To find out more, please email speciesvolunteernetwork@rspb.org.uk or visit rspb.org.uk

Our places

Securing our seabird

islands

Despite the end of the Biosecurity for Wales project last month, vital work continues thanks to additional funding secured at the turn of the year.

Biosecurity of our seabird islands is essential for protecting vulnerable seabird populations against the threat of invasive mammalian predators such as rats. Our breeding seabird populations have been declining over recent years and face a growing list of threats and pressures. These include changes in prey availability due to climate change and overfishing, entanglement in fishing gear, disease, poorly sited offshore renewable energy development, climate impacts on nesting and breeding success, as well as invasive predators.

Over the next few months, the project team will continue active surveillance of the islands with the help of Jinx, our Conservation Detection Dog, while working

with key stakeholders to help ensure effective, longterm biosecurity measures are established across Wales to protect our precious colonies of breeding seabirds.

Cover photo: Curlew by David Ormerod (Alamy Stock Photo). T his page: Greg Morgan (rspb-images.com); Katie Waller
Above: Project Officer Katie in north Wales Left: Conservation Detection Dog Jinx, sniffing out Brown Rats with his handler, Greg Morgan

Our people

Plug in to nature

Connection with nature can improve our wellbeing and health, such as combating low mood, lowering blood pressure and reducing stress and anxiety. As nature supports and nurtures us, we often become inspired to take action to protect it.

RSPB Nature Prescriptions enable health and associated professionals to support people’s wellbeing by encouraging connections to nature in a personal and meaningful way. It can be as simple as listening to birdsong. The prescriptions include a calendar of simple prompts to help people notice the nature around them.

Nature Prescriptions started in Shetland in 2018, leading to a successful pilot in Edinburgh. Since 2023, it has been developed across England. Now, made possible by players of People’s Postcode Lottery, we are developing them in Wales. Initial focus areas include Cardiff and Newport, with a further opportunity centred

at Lake Vyrnwy, mid-Wales, and we’re hoping to explore opportunities elsewhere. If you work for an organisation that supports wellbeing and are interested in offering RSPB Nature Prescriptions, please get in touch: natureprescriptions@rspb.org.uk

Funding farming for nature

Each year about £340 million has been ringfenced to support Welsh farming. However, last October the UK Treasury included agriculture funding for Wales within a £21 billion block grant. This means the Welsh Government now decides how this money is used, including whether it should be spent supporting agriculture at all.

We believe this money (ideally more), should be used for Wales’ new Sustainable Farming Scheme (SFS) to pay farmers for environmental land management that restores nature and tackles climate change. This would be really good value for money, as it will also secure a wide range of environmental benefits for society and protect and enhance the natural resources, like soils, we need to maintain food production.

Scan the code for more information and make your voice heard for Wales’ nature and our farmers. Our projects

You can help us secure a brighter

future for Wales’ wildlife and farming communities by signing and sharing our Wales-specific petition to ensure the SFS delivers for nature and climate while preparing Welsh farming for a sustainable future. Together, we can call on the Welsh Government to provide more support for farming that safeguard’s nature, builds resilience for farming communities, and supports sustainable food production for generations to come.

Events Rise and shine for the dawn chorus Science

Set your alarm for International Dawn Chorus Day on Sunday 4 May. This worldwide celebration of nature’s greatest symphony is not to be missed. Across the world, people will rise early to revel in the sound of birdsong, and our nature reserves offer the perfect setting for you to experience it. Listen out for the soulful Song Thrush and the rippling notes of the Robin. Check out our dawn chorus events and tune in for a morning of sweet song – we promise the early start is worth it: events.rspb.org.uk

The results are in

We kicked off the year with one of our most popular activities. Big Garden Birdwatch brought thousands of people together right across Wales for one hour to count our much-loved garden birds.

This annual citizen science event is one of the largest in Europe and is critically important in understanding how our garden birds are faring.

This year, the number one spot was once again given to the House Sparrow (female pictured), which is no surprise, given that this is its 22nd year running as the most-spotted species in our gardens and green spaces. In second place was the Blue Tit and finishing up in the top three was the Starling.

The call of the Curlew

As the UK-wide Curlew LIFE project ends, we look at what’s been achieved for this threatened breeding species in Wales by the Cri’r Gylfinir project

After four years the LIFE project Curlews in Crisis has come to a conclusion, achieving a positive outcome to help stabilise Curlew breeding populations in five priority landscapes across the UK. Here in Wales, our project – Cri’r Gylfinir –covered 7,060ha in Mynydd Hiraethog and Ysbyty Ifan Important Curlew Areas in north Wales.

The project was aimed at tackling the poor breeding success of Curlew, based on previous trial management work and local landowners’ wealth of existing knowledge about this iconic species in Wales. We wanted to provide emergency intervention to increase the numbers of chicks fledging, by working with farmers and land managers to secure longer-term habitat improvements.

The challenge

The breeding success of Curlews in Wales has faltered over the decades. Causes include long-term habitat loss and degradation, unsuitable land management and loss of eggs and chicks to predators such as Fox and Carrion Crow. The project worked with a large number of farmers across the area to improve existing habitat condition and create new habitats; establish effective grazing routines; remove conifers that can harbour predators; protect nests with temporary electric fencing and control Foxes and crows.

What did we learn?

Curlews in Crisis achieved considerable success in protecting Curlew eggs to hatching. However, in Wales the fledging rate was lower than needed to maintain the population. Radio-tracking chicks in 2023 showed that predation by birds was a major cause of mortality and so, in 2024, targeted diversionary feeding was trialled to see if it could reduce predation levels. Buzzards and Red Kites took the alternative food, but numerous other factors – particularly cold, wet weather during brood-rearing – meant that Curlew fledging success remained low.

Working with farmers, we learned what did and didn’t work in terms of vegetation management. The radio-tracking showed that some chicks moved into pasture that contained less vegetation cover, where they were predated. In response, we funded farmers to exclude grazing adjacent to nesting areas to create a longer grass sward and give chicks valuable cover.

Other species helped by Cri’r Gylfinir

1. Lapwing 2. Golden Plover

Pivotal to the project’s success was the community and volunteer engagement that built support for Curlew conservation as a crucial legacy in the area. This included outreach programmes with local schools, site visits, talks, farmer drop-in sessions and engagement at agricultural shows and festivals, as well as the recruitment of 30 volunteers.

Multiple benefits

Habitat management within the project area also had other positive effects, including nesting success of Lapwing; the return of Golden Plover to an area of restored peatland; doubling of the dragonfly diversity from seven to 14 species using wet features in an area of the project habitat; and improved vegetation structure and diversity of plant species through grazing and cutting. There is also good evidence that management for Curlews can prevent carbon release from soils, reduce downstream flooding and improve water quality.

What’s next?

Our collaborative work in north Wales shows there is hope for Curlew recovery, despite the challenges. The Curlews in Crisis project showed the need for targeted and co-ordinated action at scale.

This requires expertise on the ground to support farmers and Curlew-friendly land-management policies, particularly through the Sustainable Farming Scheme in Wales and woodland management. It’s essential that these actions are recognised for their multiple benefits.

Most importantly, it needs long-term commitment and funding. We’ll continue to look at ways to work with stakeholders in the area to maintain the work already started and work towards wider policy changes so that the call of the Curlew can resonate across Wales for many years to come.

How you’re helping

Thank you

What did we achieve?

2,000m

of new livestock fencing and two cattle crossing points installed on 112ha of farmland to enable Curlew-friendly grazing management.

Cattle or mixed pony/ cattle grazing introduced to...

55ha

and temporary grazing breaks planned during breeding season on 12ha, in response to improved knowledge of how chicks use the habitats.

66ha

of conifers and scrub removed to improve breeding habitat and reduce predation.

291ha

of rush or gorse cut to make it more suitable for nests and chick movements.

4,000m

of permanent electrified fencing, providing 42ha of land with low risk of nest and chick predation by larger mammals. At least six Curlew pairs nested here in 2023 and 2024, with 16 Lapwing pairs.

76% increase

16–23 nests protected each year with temporary electric fencing to reduce predation, giving an increased hatching rate of 76%.

Built vital relationships with

78 farmers

who managed approximately 90% of the project area. This scale of support was critical as the food needed by Curlew adults and chicks is rarely within the boundaries of one farm holding.

The work in Hiraethog and Ysbyty Ifan would not have been possible without the hard work of many dozens of people, including volunteers, farmers, landowners, gamekeepers and others in the local community, and staff from the National Trust, Natural Resources Wales and Eryri National Park. We couldn’t do what we do without your valuable ongoing support.

volunteers recruited and trained to carry out surveys, monitor nests and champion Curlew conservation in their communities. 30

2,200

wet features, like ponds, created for invertebrates to thrive and chicks to feed.

We’re here for nature, thanks to you

Alun

Prichard has been Director of RSPB Cymru since 2021, steering us through some of nature’s most urgent challenges.

He looks ahead to how we can evolve to help nature – and be more Osprey

I love spring. Days get longer and nights get shorter. Trees ‘wake up’ and display a kaleidoscope of colour, flowers bloom, birds chirp and baby animals are born. The air is charged with optimism and possibility – but timing is key.

One species that knows all about good timing is the Osprey. The worldwide distribution of this majestic raptor marks it as one of nature’s most successful bird species. On a personal note, it’s one of my favourites.

Each spring it travels from its warm over-wintering grounds in West Africa to its breeding grounds in Europe, of which Wales is one. It’s crucial it gets the timing right to achieve the best breeding productivity.

If it gets back too early, it risks a cold spring where food is harder to find, and it’ll have difficulty finding a mate as few others will have arrived. If it gets back too late, nest sites and prospective partners will already be taken.

A major factor in its success is the way it has adapted to its environment to survive. It has transparent eyelids that work like goggles, nostrils that keep out of the water, barbed pads like Velcro to increase grip, a unique

Contact us

To get in touch, please use our main email address: cymru@rspb.org.uk

Find us online and follow us on social media: rspb.org.uk / @RSPBCymru

RSPB Cymru is part of the RSPB, the UK’s largest nature conservation charity. The RSPB is a registered charity in England & Wales 207076, in Scotland SC037654

intestine to reduce the need to cough up bones, oily plumage for waterproofing and a reversible toe to better hold a slippery fish. It is also faithful to its mate and loyal to its home. Some nests are used for centuries, but it never takes them for granted, constantly adding to and improving its nest for future offspring.

So what can the awe-inspiring Osprey teach us as an organisation? There is no shying away from the challenges we will face, from tackling the nature and climate emergency to facing testing economic pressures, to name just two.

With so much external change, we’ve had to reflect inwards and take a closer look at what we do, how we do it and where – so we all, as the RSPB Cymru Team, face a great deal of change and our own evolution over the coming months too.

If we work to evolve as the Osprey has, we can and will adapt for greater success, staying faithful to where we have come from, and where we live, while constantly looking to the future.

Thank you for another year of support in 2025. Let’s continue to raise our voices for nature together.

To hear more about RSPB Cymru’s local group events, please contact North Wales group.rspb.org.uk/northwales Swansea & District group.rspb.org.uk/swanseaanddistrict

Prichard

Newyddion RSPB Cymru

Gwella trwy natur

Helpu pobl trwy ragnodi

treulio amser ym myd natur

Cri’r Gylfinir

Ein gwaith ar y cyd yng

ngogledd Cymru yn cynnig

gobaith i adfer y Gylfinir

Arolwg Gwylio

Adar yr Ardd

Beth yw sefyllfa ein hadar eleni?

Gwanwyn/Haf 2025

Gweithredu dros natur

Ein pobl ni

Gwirfoddoli dros natur

Yn dilyn ei llwyddiant mawr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Rhywogaethau (SVN) RSPB wedi ehangu i gynnwys Cymru a’r Alban. Bydd y prosiect cyffrous hwn, sy’n bosibl trwy garedigrwydd chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, yn cefnogi prosiectau adfer rhywogaethau tu hwnt i’n gwarchodfeydd natur, gyda’r nod o adfer rhai o’r adar sydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Prif nod y prosiect yw cefnogi prosiectau adfer rhywogaethau yng Nghymru trwy adeiladu timau o wirfoddolwyr amrywiol a phrofiadol wedi’u harwain gan gyd-gysylltwyr gwirfoddolwyr. Bydd y timau ymroddedig hyn yn datblygu i fod yn hunangynhaliol ac yn creu etifeddiaeth i brosiectau adfer rhywogaethau ledled Cymru.

Mae prosiect Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Rhywogaethau wedi bwrw ati’n syth, a bydd yn cefnogi tri phrosiect yng ngogledd Cymru yn ystod y misoedd nesaf: adfer y Gylfinir a’r Rugiar Ddu ar Rosydd Gogledd Cymru, ac adfer y Frân Goesgoch yn Eryri, Llŷn ac Ynys Môn.

Bydd gwirfoddolwyr yn hollbwysig i lwyddiant y prosiect hwn, a bydd y cyfleoedd i gymryd rhan yn cynnwys arolygon adar, monitro ac amddiffyn nythod, casglu data a rheoli. I gael mwy o wybodaeth, anfonwch neges ebost at speciesvolunteernetwork@rspb.org.uk neu ewch i rspb.org.uk

Ein lleoedd ni

Er gwaethaf diwedd prosiect Bioddiogelwch i Gymru fis diwethaf, mae gwaith hanfodol yn parhau diolch i gyllid ychwanegol a sicrhawyd ar ddechrau’r flwyddyn newydd. Mae bioddiogelwch ein hynysoedd adar môr yn hanfodol i ddiogelu poblogaethau adar môr sy’n agored i niwed o fygythiad ysglyfaethwyr mamalaidd goresgynnol fel Llygod Ffyrnig. Dirywiodd poblogaethau ein hadar môr sy’n bridio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Maent hefyd yn wynebu rhestr gynyddol o fygythiadau a phwysau, gan gynnwys newid yr ysglyfaeth sydd ar gael iddynt oherwydd newid hinsawdd a gorbysgota, cael eu dal mewn offer pysgota, heintiau, datblygiadau ynni adnewyddadwy ar y môr mewn lleoliadau gwael, effeithiau’r hinsawdd ar lwyddiant nythu a bridio, yn ogystal ag ysglyfaethwyr ymledol. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd tîm y prosiect yn parhau i gadw golwg ar yr ynysoedd gyda chymorth

Jinx, ein Ci Olrhain Cadwraeth, ac yn gweithio gyda randdeiliaid allweddol er mwyn helpu i sicrhau y caiff mesurau bioddiogelwch effeithiol, hirdymor eu sefydlu ledled Cymru er mwyn diogelu ein nythod gwerthfawr o adar môr sy’n bridio.

Uchod: Katie, Swyddog Prosiect yng ngogledd Cymru Chwith: Jinx y Ci Olrhain Cadwraeth, yn dod o hyd i Lygod Ffyrnig gyda’i feistr, Greg Morgan

Ein pobl ni

Budd Byd Natur

Mae cysylltu â natur yn gallu gwella ein llesiant a’n hiechyd, megis mynd i’r afael â hwyliau isel, gostwng pwysau gwaed, a lleihau straen a gorbryder. Wrth i natur ein cynnal a’n meithrin, rydym yn aml yn cael ein hysbrydoli i gymryd camau gweithredu i’w amddiffyn.

Mae Presgripsiynau Natur RSPB yn galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig i gynnal llesiant pobl trwy annog cysylltiadau â byd natur mewn ffordd bersonol ac ystyrlon. Mae’n gallu bod mor syml â gwrando ar sŵn adar yn canu. Mae’r presgripsiynau’n cynnwys calendr o syniadau syml er mwyn helpu i bobl sylwi ar y natur sydd o’u cwmpas.

Dechreuodd cynllun Presgripsiynau Natur ar Ynysoedd Shetland yn 2018, a arweiniodd at gynllun peilot llwyddiannus yng Nghaeredin. Cafodd ei ddatblygu ar draws Lloegr ers 2023. Trwy garedigrwydd

chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, rydym yn ei ddatblygu yng Nghymru. Byddwn yn canolbwyntio ar ardaloedd Caerdydd a Chasnewydd yn gyntaf, gyda chyfle arall wedi’i leoli yn Llyn Efyrnwy yn y canolbarth. Rydym yn gobeithio edrych ar gyfleoedd mewn mannau eraill hefyd.

Os ydych chi’n gweithio i sefydliad sy’n cefnogi llesiant, ac mae gennych ddiddordeb mewn cynnig Presgripsiynau

Natur RSPB, cysylltwch â: natureprescriptions@rspb.org.uk

Ein prosiectau

Ariannu ffermio dros natur

Neilltuwyd oddeutu £340 miliwn bob blwyddyn i gefnogi ffermwyr Cymru. Fodd bynnag, roedd yr arian a roddwyd gan Drysorlys y DU i ariannu amaethyddiaeth yng Nghymru fis Hydref diwethaf yn rhan o grant bloc gwerth £21 biliwn. Felly Llywodraeth Cymru sy’n penderfynu ar sut caiff yr arian hwn ei ddefnyddio, os caiff ei wario ar gefnogi amaethyddiaeth o gwbl.

Credwn y dylid defnyddio’r arian hwn (a mwy, yn ddelfrydol) ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd Cymru, yn talu ffermwyr i reoli tir yn amgylcheddol er mwyn adfer natur a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Byddai hyn yn dangos gwerth da iawn am arian, oherwydd byddai hefyd yn sicrhau ystod eang o fuddion amgylcheddol i gymdeithas ac yn amddiffyn ac yn gwella’r adnoddau naturiol fel priddoedd sydd eu hangen arnom i gynnal ein prosesau cynhyrchu bwyd.

Gallwch ein helpu i sicrhau dyfodol mwy disglair i fywyd gwyllt a chymunedau ffermio Cymru drwy lofnodi a rhannu ein deiseb benodol i Gymru, er mwyn sicrhau y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n cyflawni dros natur a’r hinsawdd ac yn paratoi ffermio yng Nghymru ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Gyda’n gilydd, gallwn alw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o gefnogaeth i’r diwydiant ffermio a fydd yn diogelu natur, yn adeiladu cadernid cymunedau ffermio, ac yn cynnal prosesau cynhyrchu bwyd cynaliadwy am genedlaethau i ddod.

Digwyddiadau

Codwch gyda’r wawr i glywed côr y bore bach

Gosodwch eich larwm ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Côr y Bore Bach ar ddydd Sul 4 Mai. Peidiwch â methu’r dathliad bydeang hwn o symffoni orau natur. Ar draws y byd, bydd pobl yn codi’n gynnar i fwynhau sŵn canu’r adar, ac mae ein gwarchodfeydd natur yn cynnig lleoliadau perffaith i chi ei glywed. Gwrandewch ar felys gân y Fronfraith a nodau’r Deryn Du yn dawnsio. Chwiliwch am ein digwyddiadau côr y bore bach, ac ymunwch â ni am fore o bêr ganeuon. Mae’n werth ichi godi’n gynnar amdano, wir yr: events.rspb.org.uk

Gwyddoniaeth Mae’r canlyniadau wedi’n cyrraedd

Dechreuodd ein blwyddyn gydag un o’n gweithgareddau mwyaf poblogaidd. Daeth miloedd o bobl ledled Cymru at ei gilydd am awr yn ystod arolwg Gwylio Adar yr Ardd, i gyfri’n holl adar yn yr ardd. Mae’r digwyddiad gwyddoniaeth dinasyddion blynyddol hwn yn un o’r mwyaf yn Ewrop ac mae’n hanfodol bwysig er mwyn deall sefyllfa bresennol ein hadar yn yr ardd. Aderyn y To oedd ar frig y rhestr unwaith eto eleni (llun o’r aderyn benyw) Nid yw hyn yn syndod o ystyried dyma’r ail flwyddyn ar hugain yn olynol i’r rhywogaeth hon gael ei gweld mwyaf aml yn ein gerddi a’n mannau gwyrdd. Titw Tomos Las oedd yn yr ail safle, gyda’r Drudwen yn drydydd.

Sganiwch y cod i gael mwy o wybodaeth, a chodwch eich llais dros natur Cymru a’n ffermwyr.

Cri’r Gylfinir

Gyda phrosiect Curlew LIFE yn tynnu at ei derfyn, edrychwn ar yr hyn a gyflawnwyd dros y rhywogaeth fridio hon sydd dan fygythiad yng Nghymru gan brosiect Cri’r Gylfinir

Ar ôl pedair blynedd, mae prosiect Curlew LIFE, Curlews in Crisis, wedi dod i ben. Cafodd canlyniad cadarnhaol gan helpu i sefydlogi poblogaethau bridio’r Gylfinir mewn pum tirwedd o flaenoriaeth ar draws y DU. Yma yng Nghymru, cynhaliwyd ein prosiect - Cri’r Gylfinir – ar 7,060ha o Ardaloedd sy’n Bwysig i’r Gylfinir ym Mynydd Hiraethog ac Ysbyty Ifan, gogledd Cymru.

Nod y prosiect oedd mynd i’r afael â llwyddiant bridio gwael y Gylfinir, yn seiliedig ar waith rheoli a dreialwyd yn flaenorol, a’r cyfoeth o wybodaeth oedd gan dirfeddianwyr lleol am y rhywogaeth eiconig hon yng Nghymru. Roeddem arnom eisiau gwneud ymyrraeth argyfwng i gynyddu niferoedd y cywion a fagai plu, trwy weithio gyda ffermwyr a rheolwyr tir i sicrhau gwelliannau hirdymor i’r cynefin.

Yr her

Mae llwyddiant bridio’r Gylfinir yng Nghymru wedi arafu dros y degawdau. Mae’r rhesymau’n cynnwys colli a dirywio cynefin yn yr hirdymor, rheoli tir yn anaddas a cholli wyau a chywion i ysglyfaethwyr fel y Llwynog a’r Frân Dyddyn. Bu’r prosiect yn gweithio gyda nifer fawr o ffermwyr ar draws yr ardal i wella cyflwr y cynefin presennol ac i greu cynefinoedd newydd; sefydlu arferion pori effeithiol; tynnu coed coniffer sy’n gallu cysgodi ysglyfaethwyr; defnyddio ffensys trydan i amddiffyn nythod, a rheoli Llwynogod a brain.

Beth wnaethom ei ddysgu?

Cafodd prosiect Curlews in Crisis cryn lwyddiant yn amddiffyn wyau’r Gylfinir hyd at y cam deor. Fodd bynnag, roedd y gyfradd o gywion a fagai plu yng Nghymru yn is na’r hyn yr oedd ei angen i gynnal y boblogaeth. Trwy ddefnyddio system radio i olrhain cywion yn 2023, dangoswyd mai ysglyfaethu gan adar a achosodd nifer fawr o’r marwolaethau. Felly yn 2024, treialwyd dulliau dargyfeiriol o fwydo er mwyn ceisio lleihau’r lefelau ysglyfaethu. Bwytaodd Bodaod a Barcutiaid y bwyd amgen, ond roedd nifer o ffactorau eraill - yn enwedig tywydd oer a gwlyb yn ystod cyfnod magu’r nythaid - yn golygu bod llwyddiant cywion y Gylfinirod i fagu plu wedi parhau’n isel.

Gan weithio gyda ffermwyr, dysgasom yr hyn a weithiai a’r hyn nad oedd yn gweithio o ran rheoli llystyfiant. Yn ôl y system olrhain-radio, symudodd rhai o’r cywion at dir pori â llai o lystyfiant, lle cawsant eu hysglyfaethu. Felly rhoesom arian i ffermwyr beidio â

Rhywogaethau eraill a gynorthwywyd gan Gri’r Gylfinir

1. Cornchwiglen

2. Cwtiad Aur

3. Gwas Neidr Eurdorchog

yn

Ffotograffau
Jake Stephen, Ben Andrew, Graham Goodall
(rspb-images.com)

phori eu hanifeiliaid yn ymyl y mannau nythu er mwyn gadael i’r glaswellt dyfu’n hirach a rhoi cysgod gwerthfawr i’r cywion.

Roedd y gwaith ymgysylltu â’r gymuned a gwirfoddolwyr yn greiddiol i lwyddiant y prosiect, gan iddo feithrin cefnogaeth i gadwraeth y Gylfinir fel etifeddiaeth hollbwysig yn yr ardal. Roedd y gwaith yn cynnwys rhaglenni gwaith maes gydag ysgolion lleol, ymweliadau safle, sgyrsiau, sesiynau galw heibio i ffermwyr ac ymgysylltu mewn sioeau amaethyddol a gwyliau, yn ogystal â recriwtio 30 o wirfoddolwyr.

Buddion amryfal

Cafodd y gwaith rheoli cynefin yn ardal y prosiect effeithiau cadarnhaol eraill, gan gynnwys llwyddiant nythu’r Gornchwiglen; dychweliad y Cwtiad Aur i ddarn o fawndir a adferwyd; dyblu amrywiaeth Gweision y Neidr o saith rhywogaeth i 14 trwy ddefnyddio nodweddion gwlyb darn o gynefin y prosiect; a gwella strwythur llystyfiant ac amrywiaeth rhywogaethau planhigion trwy bori a thorri. Hefyd mae tystiolaeth dda bod rheoli’r Gylfinir yn gallu atal rhyddhau carbon o briddoedd, lleihau llifogydd lawr yr afon a gwella ansawdd dŵr.

Beth nesaf?

Mae ein gwaith ar y cyd yng ngogledd Cymru’n dangos bod gobaith adfer y Gylfinir, er gwaethaf yr heriau. Dangosodd y prosiect Curlews in Crisis yr angen am weithredu wedi’i dargedu a’i gydgysylltu ar raddfa fawr.

Mae hyn yn galw am arbenigedd ar lawr gwlad i gefnogi ffermwyr a pholisïau rheoli tir sy’n ystyrlon o’r Gylfinir, yn enwedig trwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru a rheoli coetir.

Mae’n hanfodol ein bod ni’n cydnabod buddion amryfal y gweithgareddau hyn. Yn bwysicaf oll, mae angen arnynt ymrwymiad ac arian yn yr hirdymor. Byddwn yn parhau i edrych ar ffyrdd o weithio gyda randdeiliaid yn yr ardal i gynnal y gwaith a ddechreuwyd, ac i weithio tuag at newidiadau polisi ehangach er mwyn i gri’r Gylfinir barhau i atseinio ledled Cymru am flynyddoedd mawr i ddod.

Sut rydych chi’n helpu

Diolch yn fawr

Ni fyddai’r gwaith yn Hiraethog ac Ysbyty Ifan wedi bod yn bosibl heb waith caled dwsinau o bobl, gan gynnwys gwirfoddolwyr, ffermwyr, tirfeddianwyr, ciperiaid ac eraill yn y gymuned leol, a staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri. Ni allem wneud yr hyn a wnawn heb eich cefnogaeth werthfawr barhaus.

Beth wnaethom ei gyflawni?

2,000m

66ha

Cyflwyno pori da byw neu gyfuniad o bori merlod/da byw ar...

55ha

o ffensys da byw newydd a dwy groesfan i wartheg wedi’u gosod ar ffermdir er mwyn sicrhau dulliau rheoli pori sy’n ystyrlon o’r Gylfinir. o goed coniffer a phrysgwydd wedi’u tynnu er mwyn gwella’r cynefin bridio a lleihau ysglyfaethu.

a seibiannau pori wedi’u cynllunio yn ystod y tymor bridio ar 12ha, yn ymateb i’r ddealltwriaeth well o sut y defnyddir y cynefinoedd gan y cywion.

4,000m

o ffensys trydan parhaol, yn cynnig 42ha o dir â risg isel o ysglyfaethu nythod a chywion gan famaliaid mwy o faint. Nythodd o leiaf chwe phâr o Ylfinir yma yn 2023 a 2024, ynghyd â 16 o barau Cornchwiglen.

291ha

o frwyn neu eithin wedi’u torri i wneud y tir yn fwy addas i nythod a symudiadau’r cywion.

Cynnydd o 76%

16–23 o nythod wedi’u hamddiffyn bob blwyddyn gan ffensys trydan dros dro er mwyn lleihau ysglyfaethu, yn rhoi cyfradd ddeor uwch o 76%.

Wedi meithrin perthynas hollbwysig â

78 ffermwyr

a reolai oddeutu 90% o ardal y prosiect. Roedd cymorth ar y raddfa hon yn hollbwysig. Anaml iawn bydd y bwyd sydd ei angen ar oedolion a chywion y Gylfinir ar gael o fewn ffiniau un fferm yn unig.

30

o wirfoddolwyr wedi’u recriwtio a’u hyfforddi i gynnal arolygon, monitro nythod a hyrwyddo cadwraeth y Gylfinir yn eu cymunedau.

2,200

o nodweddion gwlyb, fel pyllau dŵr, wedi’u creu i infertebratau ffynnu ac i fwydo cywion.

Rydyn ni yma i natur trwy eich caredigrwydd chi

Bu Alun Prichard yn Gyfarwyddwr RSPB Cymru ers 2021, yn ein llywio ni trwy rhai o heriau mwyaf taer byd natur. Mae’n edrych ymlaen at sut y gallwn ddatblygu i helpu natur – a bod yn fwy o Walch

Alun Prichard, Cyfarwyddwr

RSPB Cymru

Dwi wrth fy modd â’r gwanwyn. Mae diwrnodau’n ymestyn a’r nosau’n byrhau. Mae coed yn ‘deffro’ ac yn dangos eu henfys o liwiau, mae blodau’n blodeuo ac adar yn trydar a chaiff anifeiliaid bach eu geni. Mae’r awyr yn llawn gobaith a phosibiliadau - ond amseru yw popeth.

Mae’r Gwalch yn rhywogaeth sy’n deall amseru da i’r dim. Mae dosbarthiad byd-eang yr aderyn ysglyfaethus urddasol hwn yn ei nodi’n un o rywogaethau adar mwyaf llwyddiannus byd natur. Ac mae’n ffefryn personol.

Bob gwanwyn, mae’n teithio o’r tiroedd gaeafu cynnes yng ngorllewin Affrica i’w tiroedd bridio yn Ewrop, gan gynnwys Cymru. Mae’n hollbwysig iddo amseru’r daith yn gywir er mwyn sicrhau’r canlyniadau bridio gorau.

Os daw yn ôl yn rhy gynnar, gall wynebu gwanwyn oer lle bydd yn anoddach iddo ddod o hyd i fwyd, a bydd yn anodd iddo ddod o hyd i gymar gan na fydd llawer o Weilch eraill wedi cyrraedd. Os daw yn ôl yn rhy hwyr, ni fydd lleoliadau nythu a darpar bartneriaid ar ôl iddo.

Ffactor mawr o’i lwyddiant yw’r ffordd y mae wedi addasu i’w amgylchedd er mwyn goroesi. Mae ganddo amrantau clir sy’n gweithio fel goglau, ffroenau sy’n cadw’r dŵr allan, padiau pigog fel Felcro i wella’i afael,

Cysylltwch â ni

I gysylltu â ni, defnyddiwch ein prif gyfeiriad ebost: cymru@rspb.org.uk

Cewch hyd i ni ar-lein a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol: rspb.org.uk /@RSPBCymru

Mae RSPB Cymru yn rhan o’r RSPB, elusen gadwraeth natur fwyaf y DU. Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yn Lloegr a Chymru 207076, yn Yr Alban SC037654

cwmni Our Media

coluddyn unigryw i leihau’r angen i boeri esgyrn allan, plu olewog sy’n dal dŵr a bys troed cildroadwy i ddal pysgod llithrig yn well. Mae hefyd yn ffyddlon i’w gymar ac yn deyrngar i’w gartref. Caiff rhai nythod eu defnyddio am ganrifoedd, ond ni fydd yr adar byth yn eu cymryd yn ganiataol, gan ychwanegu at y nyth a’i wella o hyd ar gyfer cywion y dyfodol.

Felly beth all y Gwalch godidog ein dysgu ni fel sefydliad? Does dim cuddio o’r heriau a wynebwn, o fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd, i wynebu pwysau economaidd anodd, i enwi ond dau.

Gyda chymaint o newid allanol, bu rhaid inni edrych yn fewnol ac archwilio’n fanwl yr hyn a wnawn, sut yr ydym yn ei wneud a ble. Felly rydyn ni fel holl dîm RSPB Cymru yn wynebu llawer o newid, a’n datblygiad ein hunain, yn ystod y misoedd nesaf hefyd.

Os gweithiwn i esblygu fel y Gwalch, gallwn addasu at lwyddiant ychwanegol, gan aros yn driw i le y daethom ohono, a lle rydym yn byw, gan edrych yn gyson i’r dyfodol.

Diolch am flwyddyn arall o gefnogaeth yn ystod 2025. Dewch inni barhau i godi ein lleisiau dros natur gyda’n gilydd.

I glywed mwy am ddigwyddiadau grwpiau leol yr RSPB, cysylltwch â

Gogledd Cymru group.rspb.org.uk/northwales

Abertawe a’r Ardal group.rspb.org.uk/swanseaanddistrict

Alun
Prichard

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.