Y Barcud
News from RSPB Cymru

While most upland species choose to be hidden within the heather, bogs and woodland edge, the male Black Grouse stands out with distinct plumage of iridescent black, a white tail and bright red ‘eyebrows’. Each morning, males gather within their leks and make a cacophony of bubbling noises in hopes of attracting a mate.
Unfortunately, like many upland birds, the Black Grouse is struggling. Since 2018, there has been an estimated 45% decline in lekking males in Wales. However, we know targeted conservation management works and, as well as sustaining and increasing numbers, can provide multiple other benefits including carbon storage, habitat creation for other wildlife and prevention of wildfires.
To safeguard the uplands, we must ensure the survival of its long-time guardians – like this iconic bird. As a new lekking season starts, we’re currently sourcing funding, with our partners, to continue this important piece of work. The money will be used to deliver sustainable upland management for a plethora of species, as well as developing a landscapescale conservation strategy, which works for the uplands, woodlands and communities.
Based at beautiful Lake Vyrnwy and funded by the National Lottery Community Fund, Vibrant Vyrnwy is a community project delivered in partnership between RSPB Cymru, Hafren Dyfrdwy and the Llanwddyn Community Council. Our aim is to build a brighter future for nature and people in the area, by upskilling and providing events that explore and connect people to its rich natural heritage. Since its launch in July 2021, we’ve worked closely with communities to provide people with opportunities to learn about and contribute to the natural heritage of the site – from planting
a community woodland to visiting our amazing peatland restoration work. The support of our dedicated team of volunteers and local Llanfyllin Mencap group have been fundamental to our success.
In autumn, we launched our new agricultural training programme, based on our organic upland farm. We plan to train and equip six young people with the skills and knowledge to put nature-friendly farming at the heart of what they do in the future.
This exciting project is re-establishing the connections between people and their landscape; building communities that value and take actions that benefit both nature and people.
Get involved
To save nature, we must make it as accessible as possible for everyone. Our research showed that young people are far less likely to visit our nature reserves, especially 16- to 24-year-olds who are disproportionately affected by cost-ofliving pressures, lack of access to green spaces and poor mental health. So back in November we started offering free access to our nature reserves for this age group. We’ve been encouraged by the number of young people taking up our offer across our paid nature reserves. By removing our entry charge for young people, we hope many will connect with the great outdoors in new ways and create a
sense of connection to Welsh nature that might inspire them to take action to save it.
The offer is available for two years initially, as we create new opportunities for this age group to engage with nature in a mindful way.
Places
One
year
of saving our wild isles
The launch of the BBC’s Wild Isles in March 2023, presented by Sir David Attenborough, was the starting point for a busy year of collaboration with WWF Cymru and National Trust Cymru on Save Our Wild Isles. The campaign led to some exciting projects, including a uniquely Welsh film using footage from the series. This was projected onto a huge 360o dome screen at a special event in Cardiff last May. We also went on the road and visited St David’s in Pembrokeshire to showcase a giant illuminated Manx Shearwater sculpture. In July we worked with the series’
Above: We want more young people to engage with nature
Left: A Save Our Wild Isles event in Cardiff Right (top): Jinx and Greg
Right: Ffridd tree planting
producers to bring a panel discussion to the Royal Welsh Show, and in November we invited politicians to an event in Cardiff Bay. We look forward to seeing how upcoming projects funded by Save Our Wild Isles develop, with the potential to make a real, lasting difference for nature through community collaboration in Newport, Neyland and Pwllheli.
The calls to action set out by the People’s Plan for Nature continue to resonate too, with the People’s Plan champions spreading the word in our communities, businesses and to Welsh Government.
Jinx, the Biosecurity for Wales detection dog, has been busy. After keeping some of our sea islands safe from rats, and visiting local schools to showcase his amazing skills, the four-year-old Cocker Spaniel was awarded a ‘Hamper for Heroes’ by the children of Ysgol Penrhyn Dewi, Pembrokeshire. He was over the moon, and will be visiting more schools next year, as well as safeguarding more sea islands with his handler, Greg.
Places
The team at Lake Vyrnwy recently secured funding from Powys County Council’s Local Places for Nature Challenge Fund. It will be used to reintroduce native trees into the valleys and stream corridors, creating a rich mosaic of habitats that will support key upland species. The project will engage with new and existing community groups, help connect more people to nature, and enable greater action for nature locally, growing skills and communities.
The image of a Curlew on page 2 in the Winter/Spring issue of Y Barcud should have been credited to Jake Stephen.
Warmer, longer days, birdsong and blooming flowers – spring is here and it’s a reason to celebrate. Let’s take a look at some highlights of the changing season
A walk through a sun-dappled wood among a carpet of Bluebells is a wonderful way to lift your spirits. They’re in full bloom in April, and their deep blueviolet shade and unmistakable strong, sweet scent provide an escape from day-to-day life. Almost half of the world’s Bluebells are found in the UK – they’re rare elsewhere. They’re so important that they are classed as a protected species and it is illegal to intentionally pick, uproot or destroy them. It’s tempting to walk into the middle of the sea of blue, but colonies take around five to seven years to establish and can take years to recover from footfall damage, so please stick to the paths. Lake Vyrnwy and RSPB Ynys-hir are particularly good places to see them.
The Cuckoo’s unmistakable call is rarer than it once was but is still likely to be heard in the uplands and boggy areas of Wales. They spend winter in Africa but make their way here to breed, arriving from mid-April. Once they’ve mated, the female looks for a nest to lay her egg in, specifically choosing the same species that raised her. She’ll spend hours looking for the perfect nest, taking note of the comings and goings of the host bird. She must lay her egg when the host’s own clutch has started and, when that time comes, lay her egg, removing one of the host’s eggs in her bill before disappearing. By the time the chick hatches, its parent
How to help
If you see Swifts coming and going into holes in buildings, or see a screeching party in your area, record it on Swift Mapper, a web-based mapping system and app developed with our partners. This helps us protect existing nest sites and, where we can, work with local authorities and developers to integrate nest sites into new developments.
will be long gone. Equally intriguing is how a young Cuckoo knows how and when to set off on its long migration to Africa. If you’re looking to hear or see your first Cuckoo this spring, RSPB Carngafallt is one of the best places to go.
Nothing says spring like the screaming of Swifts. They spend their lives almost entirely on the wing, feeding, sleeping and mating in flight. Each year, Swifts return to Wales from Africa to breed, but numbers declined 74% across Wales between 1995 and 2021. They like gaps high up on homes and other buildings, but these important nooks and crannies can be lost through renovations. The area around Cardiff Bay Barrage is an ideal spot to see them this spring.
Brown Hares are very distinct with their golden-brown fur and long ears. They can reach up to 45 miles per hour, making them the country’s fastest land mammal. You can see them year-round, but their unique boxing behaviour is most visible in early spring, as breeding gets under way. The males are put through their paces by the females, in what can only be described as an uncompromising selection process. First comes a battle of wills, as they engage in a frantic boxing session. Next, his stamina is put to the test with a high-chase pursuit. Then the male must show his commitment by fending off rival males. The best time to see hares is either first thing in the morning or early evening, with RSPB South Stack being a popular place.
Wales’ Oak woodlands are the breeding stronghold for this spring visitor. Like many migratory birds, they face complex challenges in both their breeding and wintering areas, such as more regular extreme weather events linked to climate change. Wales holds the majority of the UK population (68–76%), and, due to the recent decline in their breeding population across the UK, they are a priority species for us. In Wales, Highland cattle grazing creates the right habitat for them in the Celtic Rainforest, and we’re working with volunteers at several of our nature reserves, including Lake Vyrnwy and RSPB Gwenffrwd Dinas, to provide nest boxes.
800km
Swifts can fly up to 800km (500 miles) a day on their migration to Africa
10 seconds
The Cuckoo has only about 10 seconds to lay its egg
Pied Flycatchers plan their spring migration to arrive just in time to feed their young with emerging caterpillars
Research shows that listening to birdsong can improve our mental health and wellbeing, so set the alarm for International Dawn Chorus Day on Sunday 5 May. Our nature reserves are the perfect place to head to and hear birds singing brightly throughout spring, with many running special dawn chorus events in April and May. You can find more information at rspb.org.uk
Our education programme has had another successful year, with over 1,800 students immersing themselves in the wonders of nature in 2023. These visits not only offer a break from the classroom but also provide students with hands-on experience that transcends textbooks, allowing them to witness the beauty and complexity of the natural world up-close. From birdwatching to looking for minibeasts, students explore diverse habitats and broaden their understanding of ecosystems while developing a deep appreciation for the delicate balance that sustains the rich tapestry of life.
Ramsey Island has reopened for 2024, so if you’re looking for the perfect destination to combine spectacular landscapes with incredible wildlife, make sure you pay us a visit this spring. We’re one of the best sites to see the red-billed member of the crow family, the Chough, as well as a host of other seabirds such as Razorbills, Guillemots and Manx Shearwaters. We’re also a great choice for seeing Grey Seals, with the island being one of the most important breeding colonies in Wales. The island is open until the end of September and the team is looking forward to another busy and successful season.
To get in touch, please use our main email address: cymru@rspb.org.uk
Find us online and follow us on social media: rspb.org.uk / @RSPBCymru
There’s lots of nature-filled events for all ages to enjoy on our nature reserves. Find them at events.rspb.org.uk/ Cymru
Seven years ago, we embarked on an ambitious project to halt the decline of breeding waders here. For the first two years, existing pipe dams and sluices were updated, and the dominance of rush across the fields was reduced. In 2019 we went on to construct two anti-predator fences around the breeding fields. We saw all our efforts pay off in 2023 as we celebrated a successful breeding year, with 43 pairs of breeding Lapwing and 45 pairs of breeding Redshank – the highest total for several years. Here’s hoping 2024 is just as successful for our breeding waders.
2023 was a great year for birds on the nature reserve, with highlights including six fledged Bittern chicks and a first brood for an immature pair of Marsh Harriers. The winter Starling murmurations were also incredible, with flocks of around 100,000 putting on beautiful displays full of twists and turns. Spring will see the return of Cetti’s Warblers, our reedbeds will be alive with song and there’ll be plenty of opportunities to spot swans, ducks, Eurasian Coots and grebes on the pools. You might also catch a glimpse of our displaying Lapwings and Avocets.
To hear more about RSPB Cymru’s local group events, please contact Cardiff & District group.rspb.org.uk/cardiff North Wales group.rspb.org.uk/northwales Swansea & District group.rspb.org.uk/swanseaanddistrict
RSPB Cymru
Gwanwyn/Haf 2024
Rhywogaethau
Er bod y rhan fwyaf o rywogaethau’r ucheldir yn dewis
cuddio yn y grug, mewn corsydd ac ar ymylon coetir, mae aderyn gwryw’r Rugiar Ddu yn sefyll allan gyda’i blu amlwg du symudliw, cynffon wen ac ‘aeliau’ coch llachar. Bob bore, mae’r adar gwryw yn ymgasglu yn eu mannau paru (leks) ac yn codi twrw o synau byrlymus yn y gobaith o ddenu cymar. Yn anffodus ac yn debyg i lawer o adar yr ucheldir, mae’r Rugiar Ddu yn ei chael yn anodd. Ers 2018, amcangyfrifwyd bod nifer yr adar gwryw sy’n defnyddio mannau paru wedi gostwng 45% yng Nghymru. Fodd bynnag, gwyddom fod dulliau rheoli cadwraethol wedi’u targedu yn gweithio, ac yn ogystal â chynnal a chynyddu niferoedd, gallant gynnig lawer o fuddion eraill gan gynnwys storio carbon, creu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt eraill ac atal tannau gwyllt.
Er mwyn diogelu’r ucheldiroedd, rhaid inni sicrhau goroesiad eu gwarcheidwaid hirfaith – fel yr aderyn eiconig hwn. Wrth i’r tymor paru ddechrau o’r newydd, rydym wrthi gyda’n partneriaid yn ceisio sicrhau cyllid i barhau â’r gwaith pwysig hwn. Caiff yr arian ei ddefnyddio i gyflawni gwaith rheoli cynaliadwy o’r ucheldir ar gyfer llu o rywogaethau, yn ogystal â datblygu strategaeth cadwraeth ar raddfa tirwedd, sy’n gweithio i’r ucheldiroedd, y coetiroedd a’r cymunedau.
Wedi’i leoli yn ymyl llyn hardd
Efyrnwy ac wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, caiff prosiect cymunedol
Efyrnwy Fywiog ei gyflawni gan bartneriaeth rhwng RSPB Cymru, Hafren Dyfrdwy a Chyngor Cymuned Llanwddyn.
Ein nod yw adeiladu dyfodol gwell i natur a phobl yn yr ardal, drwy uwchsgilio a chynnal digwyddiadau sy’n ymchwilio ac yn cysylltu pobl â’u hetifeddiaeth naturiol cyfoethog. Ers ei lansio ym mis Gorffennaf 2021, rydym wedi gweithio’n agos â chymunedau er mwyn rhoi i bobl cyfleoedd i ddysgu am etifeddiaeth naturiol y safle a chyfrannu ato - o blannu coetir
cymunedol i ymweld â’n gwaith arbennig yn adfer mawndir. Mae cefnogaeth ein tîm ymroddedig o wirfoddolwyr a’r grŵp Mencap lleol o Lanfyllin wedi bod yn hanfodol i’n llwyddiant. Yn yr hydref, lansiasom ein rhaglen hyfforddiant amaethyddol newydd, yn seiliedig ar ein fferm ucheldir organig. Bwriadwn hyfforddi ac arfogi chwe pherson ifanc â’r sgiliau a gwybodaeth i roi ffermio sy’n ystyrlon o natur wrth galon yr hyn a wnânt yn y dyfodol. Mae’r prosiect cyffrous hwn yn ailsefydlu’r cysylltiadau rhwng pobl a’u tirwedd; yn adeiladu cymunedau sy’n gwerthfawrogi natur a phobl, ac yn cymryd camau sydd o fudd iddynt.
Cymryd rhan
Er mwyn achub natur, rhaid inni sicrhau ei fod mor hygyrch â phosibl i bawb. Dangosodd ein hymchwil fod pobl ifanc, yn enwedig rhai 16-24 oed, yn llawer llai tebygol o ymweld â’n gwarchodfeydd natur. Mae’r grŵp hwn wedi’i effeithio’n anghymesur gan bwysau costau byw, diffyg mynediad i fannau gwyrdd ac iechyd meddwl gwael.
Felly nôl ym mis Tachwedd, dechreuasom gynnig mynediad am ddim i’n gwarchodfeydd natur ar gyfer y grŵp oedran hwn. Mae nifer y bobl ifanc a fanteisiodd ar ein cynnig yn ein gwarchodfeydd natur lle codir tâl wedi bod yn galonogol. Drwy ddileu’r ffi mynediad i bobl ifanc, ein gobaith yw y bydd llawer ohonynt yn ymgysylltu’r â’r
awyr agored mewn ffyrdd newydd ac yn creu ymdeimlad o gysylltu â natur Cymru a allai eu hysbrydoli i weithredu er mwyn ei achub.
Mae’r cynnig ar gael am ddwy flynedd i ddechrau, wrth inni greu cyfleoedd newydd i’r grŵp oedran hwn ymgysylltu â natur mewn ffordd ystyriol.
Uchod: Hoffem i fwy o bobl ifanc ymgysylltu â natur
Chwith: Digwyddiad Achub ein Hynysoedd Gwyllt yng
Nghaerdydd
Dde (brig): Jinx a Greg
Dde: Plannu coed yn Ffridd
Lansiad cyfres Wild Isles gan y BBC ym mis Mawrth 2023, a gyflwynwyd gan Syr David Attenborough, oedd dechrau blwyddyn brysur o gydweithredu â WWF Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ar ymgyrch Achub ein Hynysoedd Gwyllt. Arweiniodd yr ymgyrch at gynnal prosiectau cyffrous, gan gynnwys creu ffilm unigryw i Gymru yn defnyddio darnau o’r gyfres. Cafodd y ffilm ei daflunio ar sgrin cromen enfawr 360o mewn digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd fis Mai diwethaf. Aethom ar daith hefyd ac ymweld â Thyddewi yn Sir Benfro i arddangos cerflun enfawr wedi’i oleuo o Aderyn Drycin Manaw. Ym mis Gorffennaf, buom yn gweithio gyda
chynhyrchwyr y rhaglen i gynnal trafodaeth banel yn Sioe Frenhinol Cymru, ac ym mis Tachwedd gwahoddasom wleidyddion i ddigwyddiad ym Mae Caerdydd. Edrychwn ymlaen at weld sut bydd y prosiectau a ariennir gan Achub ein Hynysoedd Gwyllt sydd ar y gweill yn datblygu. Mae potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, parhaol i natur trwy gydweithredu â chymunedau yng Nghasnewydd, Neyland a Phwllheli. Mae’r galwadau i weithredu a nodwyd yng Nghynllun y Bobl dros Natur yn parhau i atseinio hefyd, gyda hyrwyddwyr Cynllun y Bobl yn lledu’r gair yn ein cymunedau a’n busnesau, ac i Lywodraeth Cymru.
Prosiectau Jinx yn ennill calonnau a meddyliau ifanc
Bu’n cyfnod prysur i Jinx, ci synhwyro Bioddiogelwch
Cymru. Ar ôl gwarchod rhai o’n hynysoedd morol rhag
llygod mawr, ac ymweld ag ysgolion lleol i arddangos ei sgiliau anhygoel, cafodd y Llamgi pedair oed ‘Fasged Arwyr’ gan blant Ysgol Penrhyn Dewi, Sir Benfro. Roedd Jinx wrth ei fodd, a bydd yn ymweld â mwy o ysgolion blwyddyn nesaf, yn ogystal â gwarchod mwy o ynysoedd morol gyda’i feistr, Greg.
Lleoedd
goeden iawn yn y lle iawn
Mae’r tîm yn Llyn
Efyrnwy wedi sicrhau cyllid yn ddiweddar gan Gronfa
Her Lleoedd
Lleol ar gyfer
Natur Cyngor
Sir Powys. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ailgyflwyno coed brodorol i’r dyffrynnoedd a choridorau’r nentydd, gan greu clytwaith cyfoethog o gynefinoedd i gefnogi rhywogaethau ucheldirol allweddol. Bydd y prosiect yn ymgysylltu â grwpiau cymunedol hen a newydd, yn helpu i gysylltu mwy o bobl â natur, ac yn galluogi mwy o weithredu dros natur yn lleol, gan dyfu sgiliau a chymunedau.
Jake Stephen oedd yn gyfrifol am ddelwedd y Gylfinir ar dudalen 2 rhifyn Gaeaf/Gwanwyn Y Barcud
Mae’r diwrnodau’n cynhesu ac yn ymestyn, mae’r adar yn canu a’r blodau’n agor – mae’r gwanwyn
wedi cyrraedd ac mae’n rheswm dathlu. Dewch inni edrych ar rai o uchafbwyntiau’r tymor sy’n newid
1. Carpedi o Glychau’r Gog
Mae mynd am dro trwy goedwig sy’n frith o heulwen a charped o Glychau’r Gog yn ffordd hyfryd i godi’ch ysbryd. Mae’r blodau ar eu llawn dwf ym mis Ebrill, a’u lliw glas-fioled dwys a’u persawr digamsyniol melys a chryf yn cynnig dihangfa o fywyd beunyddiol. Mae bron hanner Clychau’r Gog y byd yn y DU - maent yn brin ymhob man arall. Mae’r blodau mor bwysig mae’n rhywogaeth a warchodir, ac mae’n anghyfreithlon i’w pigo, eu codi o’r gwraidd neu eu dinistrio’n fwriadol. Mae’n demtasiwn cerdded i ganol y môr o las, ond mae’n cymryd rhwng pump a saith blwyddyn i’r clystyrau’n sefydlu eu hunain a gall gymryd blynyddoedd iddynt ymadfer o ddinistr ôl traed, felly peidiwch â chrwydro oddi ar y llwybrau. Mae Llyn Efyrnwy a RSPB Ynys-hir yn lleoedd arbennig o dda i’w gweld.
Mae cri ddigamsyniol y Gog yn brinnach nag y bu, ond mae’n dal i’w glywed yn ucheldiroedd ac ardaloedd corslyd Cymru. Maent yn treulio’r gaeaf yn Affrica ac yn dod yma i baru, gan gyrraedd o ganol mis Ebrill ymlaen. Ar ôl paru, mae’r aderyn benyw yn chwilio am nyth i ddodwy ei hwy ynddi, gan ddewis yn benodol yr un rhywogaeth a fu’n ei magu hi. Bydd yn treulio oriau’n chwilio am y nyth berffaith, gan nodi symudiadau’r aderyn lletyol. Rhaid iddi ddodwy ei hwy pan fydd nythaid yr aderyn lletyol wedi cychwyn. Pan ddaw’n amser, rhaid iddi ddodwy’r wy a thynnu un o wyau’r aderyn lletyol o’r nyth yn ei phig cyn diflannu. Bydd
Os welwch Wenoliaid Duon yn hedfan i mewn ac allan o dyllau mewn adeiladau, neu os glywch eu sgrechian yn eich ardal chi, dylech ei gofnodi ar Swift Mapper, system mapio ar y we ac ap a ddatblygwyd gyda’n partneriaid. Mae hyn yn ein helpu ni i warchod y safleoedd nythu presennol ac, lle y gallwn, i weithio gydag awdurdodau lleol a datblygwyr i gynnwys safleoedd nythu mewn datblygiadau newydd.
y rhiant wedi hen ymadael erbyn i’r cyw deor. Hefyd yn ddiddorol yw’r ffordd mae’r Gog ifanc yn gwybod sut a phryd i fynd ar ei hymfudiad hir i Affrica. RSPB Carngafallt yw un o’r lleoedd gorau i fynd os hoffech weld neu glywed eich Cog gyntaf y gwanwyn hwn.
3. Sgrechiadau’r Gwenoliaid Duon
Heb os, sŵn y gwanwyn yw sgrechiadau’r Gwenoliaid Duon. Treuliant eu bywydau cyfan bron yn yr awyr, gan fwydo, cysgu a pharu tra’n hedfan. Bob blwyddyn, mae Gwenoliaid Duon yn dychwelyd i Gymru o Affrica i fridio, ond gostyngodd y niferoedd 74% ar draws Cymru rhwng 1995 a 2021. Mae’r adar yn hoffi bylchau uchel ar gartrefi ac adeiladau eraill, ond gellir colli’r tyllau pwysig hyn oherwydd gwaith adnewyddu. Mae’r ardal o amgylch Morglawdd Bae Caerdydd yn le delfrydol i’w gweld y gwanwyn hwn.
4. Ysgyfarnogod yn Bocsio
Mae ysgyfarnogod yn rhywogaeth amlwg gyda’u blew eurfrown a chlustiau hir. Gallant redeg ar gyflymdra o hyd at 45 milltir yr awr a nhw yw mamal cyflymaf y tir yng Nghymru. Gallwch eu gweld drwy gydol y flwyddyn, ond mae eu hymddygiad bocsio unigryw i’w weld yn y gwanwyn gan fwyaf, wrth i’r tymor bridio ddechrau. Mae’r benywod yn herio’r gwrywod i wneud eu gorau glas mewn proses dethol digyfaddawd. Brwydr grym ewyllys a ddaw yn gyntaf, wrth iddynt ymgymryd â sesiwn o focsio gorffwyll. Ei stamina sydd dan brawf nesaf, wrth iddo redeg ar ei hôl nerth ei draed. Rhaid i’r gwryw ddangos ei ymroddiad wedyn, trwy gadw’r gwrywod eraill sy’n cystadlu i ffwrdd o’r fenyw. Yn gynnar yn y bore neu gyda’r nos yw’r amserau gorau i weld ysgyfarnogod ac mae RSPB Ynys Lawd yn le poblogaidd.
5. Dychweliad y Gwybedog Brith
Coetiroedd Derw Cymru yw cadarnle bridio’r ymwelydd gwanwynol hwn. Fel llawer o adar sy’n mudo, maent yn wynebu heriau cymhleth yn eu hardal bridio a’u hardal gaeafu, megis tywydd eithafol mwy rheolaidd yn gysylltiedig â newid hinsawdd. Cymru sy’n cynnal y rhan fwyaf o boblogaeth y DU (68-76%), ac oherwydd dirywiad ym mhoblogaeth fridio’r DU yn ddiweddar, mae’n rhywogaeth â blaenoriaeth inni. Yng Nghymru, mae pori gwartheg yr Ucheldir yn creu’r cynefin cywir iddynt yn y Fforest Law Celtaidd, ac rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr mewn nifer o’n gwarchodfeydd natur, gan gynnwys Llyn Efyrnwy a RSPB Gwenffrwd Dinas i osod blychau nythu.
800km
Gall Gwenoliaid Duon hedfan hyd at 800km (500 o filltiroedd) bob dydd ar eu hymfudiad i Affrica
10 eiliad
Mae gan y Gwcw oddeutu 10 eiliad i ddodwy ei hwy
Mae’r Gwybedog Brith yn cynllunio ei ymfudiad yn y gwanwyn er mwyn cyrraedd mewn union bryd i fwydo lindys newydd ddeor i’w gywion
Mae ymchwil yn dangos bod gwrando ar adar yn canu’n gallu gwella ein hiechyd meddwl a’n llesiant, felly gosodwch larwm ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Côr y Bore Bach ar ddydd Sul 5 Mai. Mae ein gwarchodfeydd natur yn lleoedd delfrydol i fynd a chlywed yr adar bach yn canu’n iach drwy gydol y gwanwyn, ac mae llawer ohonynt yn cynnal digwyddiadau arbennig i ddathlu Côr y Bore Bach ym misoedd Ebrill a Mai. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn rspb.org.uk
Cafodd ein rhaglen addysg flwyddyn lwyddiannus arall, gyda mwy na 1,800 o fyfyrwyr yn ymgolli eu hunain yn rhyfeddodau natur yn ystod 2023. Mae’r ymweliadau hyn yn cynnig hoe o’r ystafell ddosbarth ac yn rhoi i’r myfyrwyr brofiad ymarferol sy’n mynd y tu hwnt i werslyfrau, a’u galluogi nhw i weld yn agos harddwch a chymhlethdod y byd naturiol. O wylio adar i chwilio am fwystfilod bach, mae myfyrwyr yn archwilio cynefinoedd gwahanol ac yn ehangu ar eu dealltwriaeth o ecosystemau, gan ddatblygu gwerthfawrogiad dwfn o’r cydbwysedd bregus sy’n cynnal gwead cyfoethog bywyd.
Mae Ynys Dewi wedi ailagor ar gyfer 2024, felly os ydych chi’n chwilio am y cyrchfan delfrydol sy’n cyfuno tirweddau syfrdanol â bywyd gwyllt anhygoel, cofiwch alw heibio’r gwanwyn hwn. Ni yw un o’r safleoedd gorau i weld aelod pig-goch teulu’r frân, y Frân Goesgoch, ynghyd â llu o adar morol eraill fel Llursod, Gwylogod ac Adar Drycin Manaw. Rydym hefyd yn le da i weld Morloi Llwyd - yr ynys yw un o’u cytrefi bridio mwyaf pwysig yng Nghymru. Mae’r ynys ar agor hyd ddiwedd mis Medi ac mae’r tîm yn edrych ymlaen at dymor prysur a llwyddiannus arall.
Saith blynedd yn ôl, dechreuasom brosiect uchelgeisiol i atal dirywiad yr adar hirgoes sy’n bridio yma. Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, cafodd yr argaeau pibell a llifddorau eu diweddaru a lleihawyd trechedd Brwyn ar draws y caeau. Yn 2019, aethom ati i adeiladu dwy ffens gwrthysglyfaethwyr o amgylch y caeau bridio. Gwelwyd ffrwyth ein llafur yn 2023 wrth inni ddathlu blwyddyn fridio lwyddiannus, gyda 43 o barau o Gornchwiglod a 45 o barau o Bibyddion Coesgoch yn bridio - y cyfanswm uchaf ers sawl blwyddyn. Gobeithio y bydd 2024 yr un mor llwyddiannus.
I gysylltu â ni, defnyddiwch ein prif gyfeiriad ebost: cymru@rspb.org.uk
Cewch hyd i ni ar-lein a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol: rspb.org.uk /@RSPBCymru
Mae RSPB Cymru
SC037654
Mae digonedd o ddigwyddiadau
llawn natur i bawb eu mwynhau ar ein gwarchodfeydd natur. Dewch o hyd iddynt yn events.rspb.org. uk/Cymru
Roedd 2023 yn flwyddyn ardderchog i adar ar y warchodfa natur. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys chwe chyw Aderyn y Bwn yn magu plu a nythaid gyntaf i bâr anaeddfed o Fodaod y Gwerni. Roedd murmuriadau gaeafol y Drudwennod yn anhygoel hefyd, gydag oddeutu 100,000 o adar yn cynnig arddangosfeydd hardd a throellog. Daw Telorion Cetti yn ôl yn y gwanwyn a bydd ein gwelyau cyrs yn llawn adar yn canu. Bydd digon o gyfle i weld Elyrch, Hwyaid, Cwtieir a Gwyachod ar y pyllau, ac efallai y cewch chi gipolwg o’n Cornchwiglod a Chambigau’n arddangos eu hunain.
I glywed mwy am ddigwyddiadau grwpiau leol yr RPSB, cysylltwch â
Caerdydd a’r Ardal group.rspb.org.uk/cardiff
Gogledd Cymru group.rspb.org.uk/northwales
Abertawe a’r Ardal group.rspb.org.uk/swanseaanddistrict