Y Barcud Autumn/Winter 2024

Page 1


Y Barcud

News from RSPB Cymru

Farming for nature

How managing land for wildlife can benefit nature and people

Danger zone

Avian flu puts Gannets on the Red List in Wales Saving the oaks

How we’re using fungus to help these giants Autumn/Winter

Action for nature

Species

Gannets join the Red List in Wales

The loss of almost half of the Welsh breeding population of Gannets at their established colony on RSPB Grassholm, Pembrokeshire, has led to the species being added to the Red List of Birds of Conservation Concern in Wales (BoCCW).

The population crash occurred between 2022 and 2023 as a result of avian flu (HPAI), reducing the colony to its lowest level since 1969.

The review also confirmed that Wales remains the most important country in the world for breeding Manx Shearwaters, with up to 64% of the global population nesting here. Encouragingly, the Black Guillemot was moved to the Green List as a result of increased numbers in north Wales.

The one-off review of the breeding seabirds on the BoCCW list was undertaken by the RSPB on behalf of Natural Resources Wales, the British Trust for Ornithology and Welsh Ornithological Society and published in the journal Milvus. An updated BoCCW list can be found here: birdsin.wales

Marking 30 years of National Lottery support

We have achieved some amazing things across RSPB Cymru in the last 30 years with the help of funding from the National Lottery, enabling us to take action for nature on a greater scale. Most recently in mid-Wales, through the Vibrant Vyrnwy project, we’ve brought communities together to celebrate the natural and cultural heritage of the area through volunteering, wildlife experiences, and wellbeing and art events. A partnership project funded by the National Lottery Community Fund, it has also seen young people gain experience in conservation farming techniques, showcasing how farming and nature can work together to benefit people and support a rich, biodiverse landscape. It has provided upskilling opportunities, enabled practical conservation skills to be gained, and has also been a space for like-minded people to meet and participate in shared experiences.

The National Lottery continues to be a vital source of funding for us and we hope to continue having an even greater impact across Wales’ most precious landscapes in the years to come.

Above: Gannets
Left: A Vibrant Vyrnwy project supported by the National Lottery

Our places

Funding success on the Gwent Levels

The Gwent Levels is a living, working, evolving landscape next to the Severn Estuary between Cardiff and Chepstow in south Wales. It’s a unique Welsh landscape with abundant wildlife, rich history and productive farming. The Living Levels Landscape Partnership brings together 12 like-minded stakeholders to work together to collectively recapture, enhance and celebrate the historic area for all to enjoy. Having formed in 2014, much has been achieved by the partnership. This includes 26km of open field ditches restored, allowing the recovery of aquatic plant and animal communities; 27ha of land has been managed for the Shrill Carder Bee and other pollinators; and hundreds of fruit

trees have been planted and traditional orchards restored and restocked.

This is just a fraction of the work completed over the last 10 years and there’s still more to do to realise our goal of protecting this special landscape. The recently awarded grant of £451,000 from the National Lottery Heritage Fund will enable us to continue our work on the historic Gwent Levels. Over the next 18 months, the Living Levels team will work with a number of stakeholders to design a scheme that builds on its previous success, including a citizen science programme to record wildlife, a landscape and nature recovery strategy, and initiatives to stimulate the local economy and support local farmers.

Bringing back Oak Polypore

A priority species in Wales, the Oak Polypore fungus can be found on old oak trees. It is now mostly restricted to southern England, with very few recent records in Wales. We’ve been working with the Welsh Marches, the Natur am Byth project team and Cardiff University on the translocation of this rare fungus at RSPB Carngafallt.

Habitat reduction, particularly the loss of big, old oak trees, is a key factor in the species’ decline. The partnership project aims to re-establish the species in Wales through translocation to a number of sites. RSPB Cymru and Natur am Byth staff have worked together to identify and prepare a number of trees within Carngafallt woodlands for inoculation with Oak Polypore. Although

a timeconsuming process, it has been successful elsewhere and, as well as enabling the fungus to become established in the tree’s heartwood, it brings a robustness to the trees, allowing them to stay upright and achieve a greater age.

Along with inoculation, further suitable trees were ring barked, creating more suitable deadwood habitat for successive generations of Oak Polypore to inhabit, as well as supporting communities of specialist deadwood-loving species. We’ll keep you updated on their progress in a future issue.

Threats to our natural world are huge, with one in six species threatened with extinction in Wales. But there is hope. We know what we need to do but we can’t do it without you, our wonderful and loyal members and supporters. RSPB Cymru would like to thank you for supporting us during the nature and climate emergency we all face. Together, we will continue to work with the same determination and passion to save nature as that of our founders over 100 years ago.

Building renovation has left Swifts homeless when they arrive back in the UK to nest and breed. Without more options, this species will disappear from our skies. The latest figures from the BTO/JNCC/RSPB Breeding Bird Survey show that for every four Swifts in the mid-1990s, there is now only one in Wales.

Cardiff Swift enthusiast Julia Barrell has set up a Senedd petition calling on the Welsh Government to require all new buildings in Wales to incorporate Swift bricks. These purpose-built nesting cavities, built into the fabric of a house, require no maintenance but provide essential nesting sites.

RSPB Cymru is urging supporters to sign the petition – it needs 10,000 names to be debated in the Senedd.

Scan the code to sign Julia’s petition and help Swifts recover.

Species

Restoring nature: why it’s needed now

Restoring habitats provides multiple environmental, economic and social benefits for people and for nature

The benefits of nature are well understood: it provides the air we breathe, the water we drink and soils to produce our food.

Nature can help us reduce flood risk and tackle climate change. Our best places for nature also store huge amounts of carbon and can make an important contribution to meeting Wales’ 2050 net zero target.

The multiple benefits to us of restoring nature clearly show the need and justification of directing public money to deliver these environmental benefits for society. The best way to do this is through the Sustainable Farming Scheme (SFS). Investing in nature will also directly benefit agriculture by making it more resilient to threats such as extreme weather events from droughts to floods. Farming with nature is often shown to be more profitable too, as it is less reliant on expensive animal feed and artificial fertilisers.

In the face of a nature emergency, earlier this year we expressed our disappointment at the Welsh Government’s decision to delay the launch of the Sustainable Farming Scheme until 2026. Having made this decision, we’re now urging the Welsh Government to work closely with farmers and rural stakeholders, including RSPB Cymru, to use this time to develop a scheme that will help Welsh agriculture transition to a sustainable future, where nature thrives once more.

How farming can help restore nature

Wales’ new Sustainable Farming Scheme provides a unique opportunity to support farmers across Wales to help turn around the dramatic loss of nature. To be effective and make a difference, the new scheme must help farmers to manage the right types and amounts of habitats, in the right places. While this might sound like a daunting prospect, we have identified three key actions they can take that will help to save nature, and we are calling on the Welsh Government to ensure its new scheme supports farmers to deliver them:

1. Recreate a patchwork of habitats

Traditional, family farming once provided these across Wales in abundance. The ideal patchwork includes flower and seed-rich habitats, well-managed hedgerows, scrub, trees, rough grassy areas, and water features such as ponds and streams. The mix of habitats is required to halt the ongoing loss of nature, to boost common species, and provide the foundation for nature’s recovery. To be effective, farmers must be supported to manage a minimum of 10% of their enclosed land (where habitat losses have been the greatest) as part of this vital mix. Where farms also have unenclosed or upland habitats, they should be well-managed for nature too.

79%

90% decline in Yellowhammers from 1995–2021. This farmland bird would be helped by a naturefriendly Sustainable Farming Scheme

of Wales is farmed, so farmers have a crucial role to play in nature’s recovery

Photos: Ben Andrew, Jake Stephen (rspb-images.com)
‘Farming needs nature as much as nature needs farming. This is about management that does both – a scheme that delivers for farmers, nature and people’

2. Manage our Sites of Special Scientific Interest (SSSIs)

These are among our most valuable places for nature and it’s essential that farmers are fully supported to maintain and manage them from the start of the new scheme. In some parts of Wales, pollution from unsustainable agriculture (eg, slurry and manure) and effluent from sewage works is causing many of our SSSI rivers to be in poor condition. We are calling on the Welsh Government to make sure its rules to protect water, including to control agricultural pollution, which underpin the Sustainable Farming Scheme, are improved so they are effective.

3. Develop and implement plans to save threatened species Delivery needs to be prioritised for those species most at risk, such as Curlew, which could be lost as a breeding bird from Wales in the next 10 years.

In addition to these three actions, it’s likely the SFS will have to support farmers to manage other areas of semi-natural habitats to help Wales meet its biodiversity targets, including ensuring that 30% of land is well-managed for nature by 2030.

What will it take to deliver this?

As well as restoring nature, the new scheme asks farmers to tackle climate change and to produce food sustainably. To achieve all these objectives in a joinedup and balanced way, it’s vital that farmers receive appropriate advice and guidance from qualified sources throughout their contracts.

All of this is also going to cost money, so it’s essential there’s an adequate multi-annual budget for the scheme to provide Welsh farmers with the confidence to engage in nature-friendly farming practices for the long term. Our work shows Wales needs to secure at least £594 million per annum to invest in farmers to save nature and secure wider

environmental benefits for society.

Collaboration is also key to saving nature, especially our most threatened species, and will often require farmers to work together to manage large enough areas of habitats to maintain populations. It’s absolutely essential the scheme facilitates and funds long-term collaborative working. We also believe the Welsh Government should be supporting pilot projects now, so we can learn how to do this well.

Farming needs nature as much as nature needs farming. This isn’t about one or the other but about management that does both. A scheme that delivers for farmers, for nature and for people.

The 10% farm

The vital mix of habitats that nature needs to recover

Left: Curlew Above: A patchwork of habitats can help multiple species

Out & about

Highlights from our nature reserves

Cors Ddyga

Despite a grey, damp spring, Lapwing are thriving. There are 72 breeding pairs (up from 61 in 2023), close to the numbers before serious flooding started on the nature reserve. Lapwings (pictured) seem to be adapting well to the new conditions and productivity is higher than ever. The 72 pairs have reared 120 young, smashing the previous record of 102 chicks from 2023.

But it’s not all good news. Predation at Morfa Dinlle and Valley Wetlands nature reserves led to no chicks fledging from either site. They are becoming more concentrated on a handful of sites and one bad season can have ramifications for the whole population. Here’s hoping for a better outcome next year.

Contact us

RSPB Ynys-hir

Redshank numbers are up from 45 pairs last year to 59 this year and Lapwing numbers have increased to 47 pairs. However, by far our most exciting news is that, for the first time ever, we have had a pair of Marsh Harriers (pictured) nesting successfully here – the first breeding pair in Ceredigion. The pair laid their eggs in May and, after a suspense-filled few weeks, successfully fledged three chicks in late July. With Marsh Harriers typically living until the age of six and starting to breed at three years old, we hope this will be just the start of breeding Marsh Harriers returning to the area.

To get in touch, please use our main email address: cymru@rspb.org.uk

Find us online and follow us on social media: rspb.org.uk / @RSPBCymru

There’s lots of nature-filled events for all ages to enjoy on our nature reserves. Find them at events.rspb.org.uk/ Cymru

Lake Vyrnwy

Earlier this year we were delighted to be shortlisted, with our partners Hafren Dyfrdwy, for the Chartered Institute of Ecology and Environmental Management Large Scale Nature Conservation Best Practice Award. We were nominated for our peatland restoration work which, since 2020, has seen 38,321 dams built, 214km of drainage ditches and gullies blocked, and 37km of hags reprofiled. There are around 3,000ha of peatland at Lake Vyrnwy, storing carbon equivalent to nearly half of Wales’ annual carbon footprint. In June we were announced as the winners of this prestigious award. With 1,000ha restored already, our work continues, with plans to restore another 1,000ha over the next four years.

Ramsey Island

Summer is always a busy season on the island, with a full programme of seabird and Chough surveys, as well as monitoring the numbers of Grey Seals. We had a record 12 pairs of Chough holding territory, of which 10 successfully fledged 25 chicks. It’s looking like a good year for Manx Shearwaters (pictured), back after their winter off the coast of Argentina. Excitingly, we had 25 pairs using our productivity plots, all of which laid eggs. We are also expecting large numbers of seal pups, with 429 recorded last year on our study beaches. If you didn’t get a chance to visit us yet this year, make sure it’s on your list for the upcoming season.

Photos: Les Bunyan, Greg Morgan, Alex
Falkingham, Ben
Andrew (rspb-images.com)

Y Barcud

Newyddion RSPB Cymru

Mewn perygl

Ffermio dros natur

Sut all rheoli tir ar gyfer bywyd gwyllt fod o fudd i natur a phobl

Ffliw adar yn rhoi Huganod ar y Rhestr Goch yng Nghymru

Achub coed derw

Sut rydym ni’n defnyddio ffwng i helpu’r cewri hyn

Hydref/Gaeaf 2024

Gweithredu dros natur

Rhywogaeth

Huganod yn cael eu cynnwys

ar y Rhestr Goch yng Nghymru

Mae colli bron hanner poblogaeth bridio Huganod Cymru yn eu nythfa sefydlog ar RSPB Gwales, Sir Benfro, wedi arwain at ychwanegu’r rhywogaeth at Restr Goch yr Adar o Bryder Cadwraethol yng Nghymru.

Plymiodd y boblogaeth rhwng 2022 a 2023 o ganlyniad i ffliw adar (HPAI), gan leihau’r nythfa i’w lefel isaf ers 1969.

Cadarnhaodd yr adolygiad hefyd bod Cymru yn parhau i fod y wlad bwysicaf yn y byd i Adar Drycin Manaw sy’n bridio, gyda hyd at 64% o’r boblogaeth fyd-eang yn nythu yma. Yn galonogol, symudwyd yr Wylog Ddu i’r Rhestr Werdd o ganlyniad i’r cynnydd yn ei niferoedd yng ngogledd Cymru.

Cynhaliwyd yr adolygiad un-tro o’r adar môr sy’n bridio a welir ar y Rhestr Adar o Bryder Cadwraethol yng Nghymru gan RSPB ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Adaryddiaeth Prydain a Chymdeithas Adaryddol Cymru, a chafodd ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn Milvus. Mae rhestr wedi’i diweddaru o’r Adar o Bryder Cadwraethol ar gael yma: birdsin.wales

Dathlu 30 o flynyddoedd o gymorth gan y Loteri Genedlaethol

Rydym wedi cyflawni pethau anhygoel ledled RSPB Cymru yn ystod y 30 o flynyddoedd diwethaf gyda chymorth arian y Loteri Genedlaethol, sydd wedi ein galluogi ni i weithredu dros natur ar raddfa fwy. Yn fwyaf diweddar, trwy brosiect Efyrnwy Fywiog yn y canolbarth, daethom â chymunedau at ei gilydd i ddathlu etifeddiaeth naturiol a diwylliannol yr ardal trwy wirfoddoli, profiadau bywyd gwyllt a digwyddiadau llesiant a chelf.

Mae’r prosiect partneriaeth a ariannir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol hefyd wedi gweld pobl ifanc yn cael profiad o dechnegau ffermio cadwraethol, gan ddangos sut all ffermio a natur cydweithio er budd pobl a chynnal tirwedd gyfoethog, fioamrywiol. Mae wedi cynnig cyfleoedd i uwchsgilio, galluogi i bobl ennill sgiliau cadwraethol ymarferol, a hefyd wedi bod yn le i bobl o’r un meddwl gwrdd a chymryd rhan mewn profiadau a rennir.

Mae’r Loteri Genedlaethol yn parhau’n ffynhonnell

arian hollbwysig i ni, a gobeithiwn y gallwn barhau i gael effaith hyd yn oed yn fwy ar dirweddau mwyaf gwerthfawr Cymru yn y blynyddoedd i ddod.

a

gefnogir gan y Loteri Genedlaethol

Codi arian
Turley (rspb-images.com);
Uwchben: Huganod
Chwith: Prosiect
Efyrnwy Fywiog

Ein lleoedd ni

Llwyddo i ddenu cyllid i Wastadeddau Gwent

Tirwedd fyw sy’n gweithio ac esblygu yn ymyl aber afon Hafren rhwng Caerdydd a Chas-gwent yw Gwastadeddau Gwent. Mae’n dirwedd unigryw i Gymru â bywyd gwyllt toreithiog, hanes cyfoethog a ffermio cynhyrchiol. Mae’r Bartneriaeth Tirwedd Lefelau Byw yn dwyn ynghyd 12 o randdeiliaid o’r un meddwl i gydweithredu ar gyfer ail-gipio, gwella a dathlu’r ardal hanesyddol ar y cyd, er mwyn i bawb ei mwynhau.

Mae’r bartneriaeth wedi cyflawni llawer ers ei sefydlu yn 2014, gan gynnwys adfer 26km o ffosydd cae agored a alluogodd i gymunedau planhigion ac anifeiliaid dyfrol cael eu hadennill; rheoli 27 hectar o dir ar gyfer y Gardwenynen Feinlais a pheillwyr eraill; plannu cannoedd

o goed ffrwythau, ac adfer ac ail-stocio perllannau traddodiadol.

Dim ond rhan fach o’r gwaith a gyflawnwyd dros y deng mlynedd diwethaf yw hyn, ac mae mwy i’w wneud o hyd er mwyn gwireddu ein nod o warchod y dirwedd arbennig hon. Bydd y grant gwerth £451,000 a ddyfarnwyd yn ddiweddar gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ein galluogi ni i barhau â’n gwaith ar y Gwastadeddau Gwent hanesyddol. Yn ystod y 18 mis nesaf, bydd y tîm Lefelau Byw yn gweithio gyda nifer o randdeiliaid i lunio cynllun sy’n adeiladu ar ei lwyddiant blaenorol, gan gynnwys rhaglen gwyddoniaeth dinasyddion i gofnodi bywyd gwyllt, strategaeth adfer tirwedd a natur, a mentrau i danio’r economi lleol a chefnogi ffermwyr lleol.

Rhywogaeth

Dod ag Ysgwydd y Derw yn ôl

Yn rhywogaeth â blaenoriaeth yng Nghymru, mae ffwng Ysgwydd y Derw i’w weld ar hen goed derw. Mae’r ffwng wedi’i gyfyngu’n bennaf i dde Lloegr, gyda chofnodion prin iawn ohono yng Nghymru. Buom yn gweithio gyda’r Gororau, tîm prosiect Natur am Byth a Phrifysgol Caerdydd ar drawsleoli’r ffwng prin hwn yn RSPB Carngafallt.

Mae lleihau cynefin, a cholli hen goed derw mawr yn benodol, yn ffactor allweddol yn nirywiad y rhywogaeth. Nod y prosiect partneriaeth yw ailsefydlu’r rhywogaeth yng Nghymru trwy ei thrawsleoli i nifer o safleoedd. Mae staff RSPB Cymru a’r prosiect Natur am Byth wedi cydweithredu i ganfod a pharatoi nifer o goed yng nghoetiroedd Carngafallt ar gyfer eu inocwleiddio â Ysgwydd y Derw.

Er yn llafurus, mae’r broses

wedi bod yn llwyddiannus

mewn mannau

eraill. Yn ogystal â galluogi’r ffwng i ymsefydlu yn rhuddin y goeden, mae’n rhoi cadernid i’r coed, gan eu galluogi i aros yn syth a thyfu’n hŷn. Ynghyd â’r gwaith inocwleiddio, torrwyd cylchoedd rhisgl ar fwy o goed addas, gan greu mwy o gynefin pren marw addas i genedlaethau olynol Ysgwydd y Derw fyw ynddo, ynghyd â chynnal cymunedau o rywogaethau arbenigol sy’n hoffi pren marw. Byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf ichi am eu cynnydd mewn rhifyn diweddarach.

Ein pobl Dathlu ein haelodau

Mae ein byd naturiol yn wynebu bygythiadau enfawr, gydag un ymhob chwe rhywogaeth dan fygythiad difodiant yng Nghymru. Ond mae yna obaith. Gwyddom yr hyn sydd angen arnom ei wneud ond ni allwn ni ei wneud heboch chi, ein haelodau a chefnogwyr anhygoel a theyrngar. Hoffai RSPB Cymru ddiolch i chi am ein cefnogi ni yn ystod yr argyfwng natur a hinsawdd mae pawb ohonom yn ei wynebu. Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i weithio gyda’r un ymroddiad ac angerdd i achub natur a oedd gan ein sylfaenwyr dros 100 o flynyddoedd yn ôl.

Sut allwch chi helpu Datrys argyfwng tai’r

Gwenoliaid Duon

Mae gwaith adnewyddu ar adeiladau yn gadael Gwenoliaid Duon yn ddigartref pan fyddant yn cyrraedd yn ôl i nythu a bridio yn y DU. Heb fwy o opsiynau, bydd y rhywogaeth hon yn diflannu o’r awyr yma. Dengys ffigurau diweddaraf Arolwg Adar Bridio Ymddiriedolaeth Adaryddiaeth

Prydain/Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur/ RSPB am bob pedair Gwennol Ddu oedd yng Nghymru yng nghanol y 1990au, dim ond un sydd yma bellach.

Mae’r cefnogwr Gwenoliaid Duon, Julia Barrell o Gaerdydd, wedi sefydlu deiseb i’r Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i’w wneud yn ofynnol i’r holl adeiladau newydd yng Nghymru gynnwys briciau Gwenoliaid Duon. Nid oes angen unrhyw waith cynnal a chadw ar y ceudodau nythu hyn a adeiladir yn bwrpasol yn adeiladwaith y tŷ, ond maent yn cynnig safleoedd nythu hanfodol.

Mae RSPB Cymru yn annog ei gefnogwyr i lofnodi’r ddeiseb - mae angen 10,000 o enwau arni er mwyn ei thrafod yn y Senedd. bit.ly/briciauGD

Adfer natur: pam fod angen ei wneud yn awr

Mae adfer cynefinoedd yn cynnig nifer o fuddion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol i bobl ac i natur

Mae pobl yn deall buddion natur: mae’n darparu’r aer rydym yn ei anadlu, y dŵr rydym yn ei yfed a’r priddoedd i gynhyrchu ein bwyd. Gall natur ein helpu ni i leihau perygl llifogydd a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae ein lleoedd gorau ar gyfer natur hefyd yn storio meintiau enfawr o garbon ac yn gallu gwneud cyfraniad pwysig i’r broses o gwrdd â tharged sero net Cymru erbyn 2050. Mae buddion adfer natur i bawb ohonom yn dangos yn glir yr angen a’r cyfiawnhad dros gyfeirio arian cyhoeddus at gyflawni’r buddion amgylcheddol hyn i gymdeithas. Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw’r ffordd orau o wneud hyn. Bydd buddsoddi mewn natur hefyd o fudd uniongyrchol i amaethyddiaeth drwy gryfhau ei allu i wrthsefyll bygythiadau fel tywydd eithafol, o sychder i lifogydd. Yn aml, gwelir bod ffermio gyda natur yn fwy proffidiol hefyd, gan nad yw’n dibynnu cymaint ar fwyd drud i anifeiliaid a gwrtaith artiffisial. Yn wyneb argyfwng natur, yn gynharach eleni mynegasom ein siom am benderfyniad Llywodraeth Cymru i ohirio lansiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy hyd 2026. Wedi i Lywodraeth Cymru wneud y penderfyniad hwn, rydym bellach yn ei hannog i weithio’n agos â ffermwyr a rhanddeiliaid gwledig, gan gynnwys RSPB Cymru, i ddefnyddio’r cyfnod hwn i ddatblygu cynllun a fydd yn helpu amaethyddiaeth Cymru i drawsnewid at ddyfodol cynaliadwy, lle bydd natur yn ffynnu unwaith eto.

Sut mae ffermio’n gallu helpu i adfer natur

Mae Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd Cymru yn cynnig cyfle unigryw i gefnogi ffermwyr ledled Cymru er mwyn iddynt helpu i wrthdroi’r golled ddifrifol o ran natur. I fod yn effeithiol ac i wneud gwahaniaeth, rhaid i’r cynllun newydd helpu ffermwyr i reoli’r mathau a meintiau cywir o gynefinoedd, yn y mannau cywir. Er bod hynny efallai’n swnio’n ddigon i godi ofn ar rywun, rydym wedi nodi tri cham gweithredu allweddol iddynt eu cymryd a fydd yn helpu i achub natur. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd ei chynllun newydd yn cefnogi ffermwyr i’w cyflawni:

1. Ail-greu clytwaith o gynefinoedd

Roedd dulliau ffermio teuluol, traddodiadol yn cynnig toreth o’r rhain ledled Cymru ar un adeg. Mae’r clytwaith delfrydol yn cynnwys cynefinoedd blodeuog a hadog, gwrychoedd a reolir yn dda, prysgwydd, coed, ardaloedd o laswellt garw, a nodweddion dŵr fel pyllau a nentydd. Mae angen y cymysgedd o gynefinoedd er mwyn dod â’r golled barhaus o ran natur i ben, i hybu rhywogaethau cyffredin, a chreu’r sylfaen ar gyfer adfer natur. I fod yn effeithiol, rhaid cefnogi ffermwyr i reoli 10% o leiaf o’u tir caeedig (lle cafwyd y colledion mwyaf o ran cynefin) fel rhan o’r cymysgedd hanfodol hwn. Lle mae gan ffermydd cynefinoedd agored neu ucheldir, dylid eu rheoli’n dda ar gyfer natur hefyd.

79%

Cafwyd dirywiad o 79% yn niferoedd Breision Melyn rhwng 1995–2021. Byddai Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy’n ystyrlon o natur yn helpu’r aderyn ffermdir hwn

90%

Mae 90% o dir Cymru yn ffermdir, felly mae gan ffermwyr rhan hollbwysig i’w chwarae yn y gwaith o adfer natur

Ffotograffau:
Ben Andrew, Jake Stephen (rspb-images.com)

‘Mae ffermio angen natur cymaint ag y mae

natur angen ffermio.

Mae’n fater o ddull rheoli

sy’n gwneud y ddaucynllun sy’n cyflawni dros ffermwyr, dros natur a dros bobl’

2. Rheoli ein Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Mae’r safleoedd hyn ymysg y rhai mwyaf gwerthfawr i natur, ac mae’n hollbwysig y caiff ffermwyr eu cefnogi’n llawn i’w cynnal a’u rheoli o ddechrau’r cynllun newydd. Mewn rhai rhannau o Gymru, mae llygredd amaethyddiaeth anghynaliadwy (e.e., slyri a thail) ac elifion gweithfeydd trin carthion yn golygu bod llawer o’n hafonydd SoDdGA mewn cyflwr gwael. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd yn gwella ei rheolau diogelu dŵr sy’n sylfaen i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, fel eu bod yn effeithiol. Bydd y rhain yn cynnwys y rheolau ar gyfer rheoli llygredd amaethyddol.

3. Datblygu a gweithredu cynlluniau i achub rhywogaethau dan fygythiad Rhaid blaenoriaethu’r gwaith hwn ar gyfer y rhywogaethau dan y bygythiad mwyaf, fel y Gylfinir, a ellid ei golli fel aderyn sy’n bridio yng Nghymru yn ystod y 10 mlynedd nesaf.

Yn ogystal â’r tri cham gweithredu hyn, mae’n debygol y bydd angen i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gefnogi ffermwyr i reoli ardaloedd eraill o gynefinoedd llednaturiol er mwyn helpu i Gymru gwrdd â’i thargedau o ran bioamrywiaeth, gan gynnwys sicrhau bod 30% o dir wedi’i rheoli’n dda ar gyfer natur erbyn 2030.

Beth sydd angen ei wneud i gyflawni hyn?

Yn ogystal ag adfer natur, mae’r cynllun newydd yn gofyn i ffermwyr fynd i’r afael â newid hinsawdd ac i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Er mwyn cyflawni’r holl amcanion hyn mewn ffordd gydgysylltiedig a chytbwys, rhaid i ffermwyr dderbyn cyngor a chanllawiau priodol oddi wrth ffynonellau cymwys trwy gydol cyfnod eu contractau.

Bydd hyn oll hefyd yn costio arian, felly mae’n hollbwysig neilltuo cyllid aml-flwyddyn digonol i’r cynllun, er mwyn rhoi i ffermwyr Cymru yr hyder i ddefnyddio arferion ffermio sy’n ystyrlon o natur yn y

tymor hir. Dengys ein gwaith bod angen i Gymru sicrhau £594 miliwn y flwyddyn o leiaf i’w fuddsoddi mewn ffermwyr er mwyn achub natur a sicrhau buddion amgylcheddol ehangach i gymdeithas.

Mae cydweithredu hefyd yn allweddol i achub natur, a’n rhywogaethau sydd dan y bygythiad mwyaf yn arbennig, ac yn aml bydd angen i ffermwyr weithio gyda’i gilydd i reoli darnau digon mawr o gynefinoedd i gynnal poblogaethau. Mae’n hollbwysig i’r cynllun hwyluso ac ariannu gweithio cydweithredol yn yr hirdymor. Credwn hefyd y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi projectau peilot yn awr, er mwyn inni ddysgu sut i wneud hyn yn dda.

Mae ffermio angen natur cymaint ag y mae natur angen ffermio. Nid yw’n fater o’r naill neu’r naill, ond yn hytrach dull rheoli sy’n gwneud y ddau. Cynllun sy’n cyflawni dros ffermwyr, dros natur a dros bobl.

Y fferm 10%

Chwith: Gylfinir

Uwchben: Gall clytwaith o gynefinoedd helpu llawer o rywogaethau

Y cymysgedd hanfodol o gynefinoedd sydd eu hangen ar natur i ymadfer

Crwydro’r wlad

Uchafbwyntiau o’n gwarchodfeydd natur

Cors Ddyga

Er gwaethaf y gwanwyn llwyd a thamp, mae’r Cornchwiglod yn ffynnu. Mae 72 o barau’n bridio (i fyny o 61 yn 2023), sy’n agos i’r niferoedd a gafwyd cyn i’r llifogydd difrifol ddechrau ar y warchodfa natur. Ymddengys bod y Cornchwiglod (uwchben) yn addasu’n dda i’r amodau newydd ac mae cynhyrchiant yn uwch nag erioed. Mae’r 72 o barau wedi magu 120 o gywion, gan dorri’n yfflon y record flaenorol o 102 o gywion yn 2023. Ond nid yw’r newyddion yn dda i gyd. Ni fagodd unrhyw gywion eu plu yng ngwarchodfeydd Morfa Dinlle na Gwlyptiroedd y Fali oherwydd ysglyfaethu. Mae’r adar yn crynhoi mwy ar nifer fach o safleoedd, a gall un tymor gwael fod â goblygiadau i’r boblogaeth gyfan. Dyma obeithio am ganlyniadau gwell y flwyddyn nesaf.

Cysylltwch â ni

RSPB Ynys-hir

Cafwyd cynnydd yn niferoedd y Pibydd Coesgoch, o 45 o barau y llynedd i 59 eleni, a chynnydd yn niferoedd y Cornchwiglod i 47 o barau. Fodd bynnag, ein newyddion mwyaf cyffrous o bell ffordd yw bod pâr o Fodaod y Gwerni (uchod) wedi nythu’n llwyddiannus yma am y tro cyntaf erioed – y pâr cyntaf i fridio yng Ngheredigion. Dodwyodd y pâr ei wyau ym mis Mai, ac wedi ychydig o wythnosau llawn gwewyr, magodd tri chyw eu plu’n llwyddiannus ar ddiwedd mis Gorffennaf. Mae Bodaod y Gwerni fel arfer yn byw hyd at chwech oed ac yn dechrau bridio’n dair oed, felly rydym yn gobeithio mai megis dechrau eu gweld yn dychwelyd i’r ardal hon i fridio yw hyn.

I gysylltu â ni, defnyddiwch ein prif gyfeiriad ebost: cymru@rspb.org.uk

Cewch hyd i ni ar-lein a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol: rspb.org.uk /@RSPBCymru

Mae RSPB Cymru yn rhan o’r RSPB, elusen gadwraeth natur fwyaf y DU. Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yn Lloegr a Chymru 207076, yn Yr Alban SC037654

Llyn Efyrnwy

Yn gynharach eleni, roeddem ni a’n partneriaid Hafren Dyfrdwy wrth ein boddau i gyrraedd rhestr fer Gwobr Arfer Gorau Cadwraeth Natur ar Raddfa Fawr y Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol. Cawsom ein henwebu ar gyfer ein gwaith adfer mawndir sydd wedi cynnwys, ers 2020, adeiladu 38,321 o argaeau, blocio 214km o ffosydd draenio a gwlis, ac ail-broffilio 37km o fignoedd. Mae oddeutu 3,000ha o fawndir ar safle Llyn Efyrnwy, sy’n storio carbon cyfwerth â bron hanner ôl-troed carbon blynyddol Cymru. Cyhoeddwyd ym mis Mehefin ein bod ni wedi ennill y wobr hon, sy’n uchel ei bri. Rydym eisoes wedi adfer 1,000ha o fawndir ac mae ein gwaith yn parhau i fynd rhagddo. Rydym yn bwriadu adfer 1,000ha arall yn ystod y pedair blwyddyn nesaf.

Mae digonedd o ddigwyddiadau

llawn natur i bawb eu mwynhau ar ein gwarchodfeydd natur. Dewch o hyd iddynt yn events.rspb.org. uk/Cymru

Ynys Dewi

Mae tymor yr haf bob amser yn brysur ar yr ynys, gyda rhaglen lawn o arolygiadau adar morol a Brain Coesgoch, ynghyd â gwaith monitro niferoedd Morloi Llwyd. Gwelwyd 12 o barau o Frain Coesgoch yn dal tiriogaeth, sy’n record, a magodd 25 o gywion eu plu yn llwyddiannus o nythod 10 ohonynt. Mae’n edrych fel blwyddyn dda i Adar Drycin Manaw (uchod), sydd wedi dychwelyd yma ar ôl treulio’r gaeaf oddi ar arfordir yr Ariannin. Yn gyffrous, defnyddiodd 25 o barau ein lleiniau cynhyrchiant, a dodwyd wyau gan bob un. Rydym hefyd yn disgwyl nifer fawr o forloi bach, ar ôl cofnodi 429 ohonynt ar ein traethau astudio y llynedd. Os na chawsoch chi gyfle eto i ymweld â ni eleni, gwnewch yn siŵr bod ymweliad ar eich rhestr ar gyfer tymor nesaf.

I glywed mwy am ddigwyddiadau grwpiau leol yr RSPB, cysylltwch â

Gogledd Cymru group.rspb.org.uk/northwales

Abertawe a’r Ardal group.rspb.org.uk/swanseaanddistrict

Ffotograffau: Les Bunyan, Greg Morgan, Alex
Falkingham, Ben
Andrew
(rspb-images.com)

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.