News from RSPB Cymru

Growing numbers
Record sightings from our nature reserves
These ancient Celtic habitats are important for woodland birds
You can help make the Environment Bill stronger
![]()
News from RSPB Cymru

Growing numbers
Record sightings from our nature reserves
These ancient Celtic habitats are important for woodland birds
You can help make the Environment Bill stronger

It’s all too easy to focus on the challenges and constraints that face us during a nature and climate crisis. But it’s nice to be reminded of the glimmers of hope that arise from the dedication of our staff and volunteers who work tirelessly to maintain fantastic havens for wildlife on our sites.
On The Skerries, we had good news for Puffins, with a record-breaking 1,213 occupied burrows counted. These charismatic birds are on the Birds of Conservation Concern Wales Red List, so it’s fantastic that they’re doing so well. We’ve also had the highest number of booming Bitterns (pictured) on Anglesey, with eight recorded between our Valley Wetlands and Cors Ddyga nature reserves. For a bird that bred for the first time in Wales for over 200 years in 2020, it’s exciting to see their numbers rising. At Newport Wetlands, home to Wales’ only breeding colony of Avocets, we’ve counted a whopping 13 chicks this year. RSPB Ynys-hir had two records this season, with four churring Nightjars and four singing male Spotted Crakes heard on the reserve. These are just a handful of the good news stories coming out of our reserves. To find out more, follow us on social media @RSPBCymru

The RSPB President’s Awards recognise amazing people working tirelessly across the UK to protect nature. Wales had some fantastic nominees this year and our very own Ashleigh Thompson was a worthy winner in the Young Volunteer of the Year category. Ashleigh volunteers for RSPB Cymru in many ways, from connecting children to nature as Main Leader for the Wildlife Explorers club at Conwy, to protecting seabirds on Puffin Island and monitoring Black Grouse camera trap footage for our Species Volunteer Network project in north Wales.
Ashleigh is keen to share her passion for volunteering with others and recently took part in a university freshers’ fayre, recruiting young people to sign-up as volunteers. Ashleigh would’ve previously avoided a noisy and busy environment like that, but the skills she’s built in volunteering, and through her own perseverance, have helped her to grow.
We’d like to say a huge thank you to Ashleigh and all the volunteers across Wales for their continued efforts and passion for protecting our natural world. It’s inspiring to see the incredible work being done and the real difference it’s making. If you’d like to volunteer with us, scan the QR code or visit: rspb.org.uk/volunteer


Ian was a stalwart of the RSPB. His career with RSPB Cymru was varied to say the least, and began in 1978 at South Stack as a summer warden. From here, Ian went on to work across many RSPB sites before moving to Ramsey Island in 1993, where he stayed for the next decade. His work was largely focused on Choughs, and he was instrumental in optimising their foraging habitat and minimising disturbance to their nesting sites. He also played a key role in the development of
the Pembrokeshire Marine Code, which still benefits seabirds today.

However, his richly deserved legacy was the undertaking of the largest island rat-eradication programme of its time in the UK on Ramsey. A once-thriving Puffin population was driven to extinction and Manx Shearwater numbers were decimated by Brown Rats that had arrived on shipwrecks in the 1800s. The precision with which Ian and his team carried this out meant the rats were eradicated in a single winter. Manx Shearwater numbers grew from 850 pairs in 1998 to 6,200 at the last survey in 2022 and European Storm Petrels bred for the first time in 2008, now a small but well-established, thriving colony (see Islands feature in Autumn/Winter The RSPB Magazine for more information). Our condolences go out to his family and friends.
Think of gin, and tonic might follow. But for those in the know, there’s also the heather and Water Mint of Ramsey!
In 2018, our friends and neighbours across Ramsey Sound at St Davids Distillery created a new product steeped in their company ethos of local provenance and high-quality produce: Ramsey Island Gin was born.
St Davids Distillery has since donated over £30,000 to RSPB Ramsey Island nature reserve from the sales of their gin. This has paid for the installation of a UV filter in the reserve’s shop to allow visitors to refill their own drinking bottles. It has also funded vital conservation work for Choughs and Manx Shearwater on the island and to protect Gannets on Grassholm, which were devastated by bird flu in recent years.

St Davids Distillery is now relaunching Ramsey Island Gin in a new bottle, but with the same great taste. You can support our conservation work on the island while enjoying a refreshing drink by going to tinyurl.com/RSPBRAMSEY
Any sales using this link will see St Davids Distillery donate 25% to RSPB.

Nature is in decline. Only a fraction of our protected areas are in good condition, and less than half of our rivers are healthy. The new Environment Bill, introduced to the Senedd on 2 June, is an opportunity to reverse these trends but it needs to be stronger and clearer. We need your help to make this happen. If enough of us speak up, we can tell the Senedd that nature can’t wait. Scan the QR code to take action now or visit bit.ly/4mi99Bv


Hen Harrier are the most persecuted bird of prey in the UK today, relative to their national population size. In an effort to maximise Red Grouse numbers and increase shoot profitability, some individuals kill birds of prey. Their aim is to remove any potential threat of predation to the grouse stocks and to prevent disturbance to the grouse on shoot days. A recent RSPB Hen Harrier report highlighted the plight of these majestic raptors in the UK, including the loss of four tagged Hen Harriers in Wales between 2018 and 2024, all of which sent their last transmission on or near Ruabon Moor. This is the only area managed intensively for grouse shooting in Wales. However, there’s no direct evidence as to who may have been involved. Scotland introduced licensing of grouse shoots in 2024 and we’d like to see licensing of gamebird shooting in Wales, too.

Temperate Rainforests, unlike Tropical Rainforests, are found in cooler climates at higher latitudes.
Shining a light on one of the rarest and most threatened habitats on Earth
When you hear the word ‘rainforest’, it’s natural for the mind to wander to faraway places like the Amazon. But there’s no need to venture so far, as we have rainforests right on our doorsteps. These ancient, magical woodlands are carpeted with green mosses that climb up tree trunks. Leaves of all shapes and sizes and curly ferns raise their heads through this carpet. Some mosses look like feathers, others are star-shaped, and each one is a different shade of green. Look closely and you’ll see a kaleidoscope of lichens: green, orange, purple, grey, black and red. Some are cabbage-like, others have spots and there are even hairy ones. All around is water. Rain falls down around them, streams flow through them and everywhere in between is soaking wet. These spellbinding temperate rainforests need perfect conditions to survive and thrive: regular rainfall, mild temperatures, constant humidity and clean air. Wales ticks all these boxes, especially in the west, providing a unique home for plants and wildlife.
These woodlands once covered large tracts of Wales but are a rare habitat today. Only fragmented areas of Celtic rainforests remain; most can be found on steep slopes or in narrow gorges where they’ve been sheltered from the overgrazing of the past centuries.
Historic traditions of sourcing timber and bark from woodlands for tanning, followed by the planting of non-native conifer plantations to boost tree cover, has added to the rarity of these precious habitats. And those that remain are still under threat from
general neglect as well as the problem of invasive species such as Rhododendron Ponticum
Invasive species
Rhododendron Ponticum can form a widespread and endless canopy layer which casts a heavy shade over existing ground flora. This means flowering plants, ferns, lichens and more are outcompeted, and tree seedlings are unable to form. This can be disastrous for woodland regeneration and those lower plants that depend on mature native trees to survive.
Rhododendron Ponticum leaves are also unsuitable for most mammals, birds and insects found in the UK. If we want to see woodlands flourish with species such as Pied Flycatchers, Wood Mice, shrews, woodpeckers, Wood Sorrel, ferns, mosses, toadstools and oak saplings – all of which are an essential part of a healthy functioning woodland ecosystem – then
768,000 hectares
– the area covered by Welsh rainforest landscape
Above: Lush woodland at Lake Vyrnwy nature reserve
These Welsh habitats: are home to nearly 20% of British mosses and liverworts support up to 400 species of lichen are important for woodland birds such as Pied Flycatcher, Wood Warbler and Redstart (pictured on the front cover) are especially important for rare woodland specialist bats such as the Barbastelle and the Lesser Horseshoe Bat are full of plants and lichens which provide food and shelter for a range of rare insects, fungi and molluscs, such as the Calosoma Inquisitor beetles, Plated Snails and tooth fungi.
The Welsh rainforest landscape is home to 20% of Britain’s lichen and moss species
Rhododendron Ponticum must be eliminated from these places and prevented from returning.
Our native woodlands were once grazed by livestock or wild animals, creating some of our most valuable habitats. However, just decades ago, livestock numbers increased and many areas became overgrazed. Some sites, especially those seen as ecologically important, were fenced off in order to stop grazing animals getting in. In the case of woodlands, this resulted in large quantities of bramble, Ivy and other species overgrowing. Although these plants can make great habitat and provide a food source for wildlife, too much can have a negative effect on the precious lichens and mosses of our rare Celtic rainforests.
Only 25% of the Special Areas of Conservation sites surveyed are currently in favourable condition of sites require action to tackle invasive species
Conservation grazing is an important tool in managing our native woodlands but it’s important the right animal is found to graze the right site. Sheep, cattle and ponies graze the land in different ways and alter the lay of the land. Both overgrazing and undergrazing are undesirable outcomes, but if the right balance is found, along with the right animals, the impact on habitat diversity can be positive.
Many tree species in our Celtic rainforests, such as Sitka Spruce and Larch, are not considered native; they’ve been introduced either accidentally or purposefully for timber production and aesthetic reasons.
Although non-native species can play an important role in modern day forestry, when it comes to Celtic rainforests they can have a negative impact. The flora, trees and soils of this type of woodland all need protection from excess shading, or conversely too much light, as well as over- or undergrazing. But, with careful management, it is possible for these sites to become both a sustainable timber source and habitat that is rich in nature.

3. Coed Cwm Elan
4. Coed Cwm Doethie –Mynydd Mallaen
Collaboration is key
Back in 2018 we teamed up with Eryri National Park Authority and Coed Cadw to create the Celtic Rainforest Wales project – the biggest rainforest restoration of its kind in the UK. The project runs right through to 2027 and focuses on protecting the four temperate rainforest Special Areas of Conservation (SACs) across Wales and ridding them of invasive species, finding ways of improving their management by changing how the woods are grazed and by removing non-native tree species.
We’re also proud to be part of The Alliance for Welsh Rainforests – a partnership of organisations dedicated to safeguarding these precious habitats.
We look forward to continuing working with our partners to restore, protect and preserve these special places and the nature that calls them home.





Julian Hughes has worked for the RSPB since 1992 and is currently Head of Species for RSPB Cymru. Based in north Wales, he also writes the Bird Notes column weekly for the Daily Post
We have a strong track record in making a real difference: consider the first watchers who protected Roseate Terns on Anglesey’s Ynys Llanddwyn from 1911, the decades of effort by landowners and enthusiasts to prevent extinction of Red Kites (pictured above) and the improved management of Celtic Rainforest for rare lichens and special birds such as Wood Warbler. Environmental policy word salad can leave people cold. Ecosystem resilience. Nature-based solutions. Restoration ecology. It can feel a world away from the ladybirds in your garden, Swifts screaming down your street or Black Grouse lekking on a Denbighshire moor. Species are the basic currency of our lands and seas, by which we can measure whether we are living sustainably on Planet Earth. Without species, there is no nature.
This month clocks up one-third of a century of my working for the RSPB. Since I joined in the early 1990s, the world has changed. Political devolution was for the future. We didn’t have a scheme to monitor our common bird species, so couldn’t even assess Wales’ birds of conservation concern. Awareness of and support for nature has grown considerably, but so have the challenges faced by wildlife.
No two species are the same. Each has its own ecological niche. For those in trouble, the critical first
To get in touch, please use our main email address: cymru@rspb.org.uk
Find us online and follow us on social media: rspb.org.uk / @RSPBCymru
RSPB Cymru is part of the RSPB, the UK’s largest nature conservation charity. The RSPB is a registered charity in England & Wales 207076, in Scotland SC037654
To get involved in species recovery projects, visit rspb. org.uk/volunteer. If you can’t see a role to suit your skills, email SpeciesVolunteerNetwork @rspb.org.uk and we’ll help you find the right one.
stages of recovery are understanding what makes it tick, the point in its life cycle that it’s struggling and what is driving that change. From this we design and trial solutions. Rarely will one change make the difference. Human demands make it more complicated than that.
What gets me up in the morning is knowing that the RSPB can marshal effort at the right scale: the tiny part of an Anglesey fen inhabited by Clubbed General, a black-and-yellow soldierfly that lives in only two other places in Britain; managing coastal heath at Ramsey and South Stack that supports one in 12 pairs of Wales’ Choughs; working with communities across Mynydd Hiraethog to improve the life chance of Curlew chicks; supporting a member petitioning Welsh Government to require Swift nesting ‘bricks’ to be put in all new buildings; influencing policies to steer public funding in favour of nature in woodlands, farmland and the sea. It happens through the energy and expertise of our volunteers and staff.
The next third of a century will doubtless bring challenges we haven’t yet thought of. So long as there are passionate RSPB supporters who care about the future, the state of species in Wales will be brighter.
To hear more about RSPB Cymru’s local group events, please contact North Wales group.rspb.org.uk/northwales Swansea & District group.rspb.org.uk/swanseaanddistrict
Newyddion RSPB Cymru

Mae’r cynefinoedd Celtaidd
hynafol hyn yn bwysig i adar y coetir
Niferoedd yn codi
Gweld mwy o adar nag erioed yn ein gwarchodfeydd natur
Codi llais dros fywyd gwyllt
Gallwch helpu i gryfhau Bil yr Amgylchedd

Ein rhywogaethau
Peth hawdd yw canolbwyntio ar yr heriau a’r cyfyngiadau a wynebwn yn ystod argyfwng natur a hinsawdd. Ond da o beth yw cael ein hatgoffa o’r llygedyn o obaith a ddaw o ymroddiad ein staff a gwirfoddolwyr, sy’n gweithio’n ddiflino i gynnal hafanau gwych i fywyd gwyllt ar ein safleoedd.
Cawsom newyddion da iawn eleni am y Palod ar Ynysoedd y Moelrhoniaid, lle cyfrwyd 1,213 o dyllau wedi’u meddiannu, y nifer uchaf erioed. Mae’r adar hyn sy’n llawn cymeriad, ar Restr Goch yr Adar o Bryder Cadwraethol yng Nghymru, felly mae’n wych eu gweld yn gwneud cystal. Rydym hefyd wedi gweld y nifer uchaf erioed o Adar y Bwn (gweler y llun) yn Ynys Môn, gydag wyth wedi’u cofnodi rhwng ein gwarchodfeydd natur yng Ngwlyptiroedd y Fali a Chors Ddyga. Wedi i’r aderyn hwn fagu yng Nghymru am y tro cyntaf ers mwy na dwy ganrif yn 2020, mae’n gyffrous i weld y niferoedd yn codi. Yng Ngwlyptiroedd Casnewydd, sy’n gartref i’r unig nythfa o Gambigau yng Nghymru, rydym wedi cyfrif 13 o gywion eleni, sy’n nifer syfrdanol. A chafwyd dau gofnod o bwys yn RSPB Ynys-hir y tymor hwn hefyd, pan glywyd pedwar Troellwr Mawr a phedair Rhegen Fraith gwrywaidd yn canu yn y warchodfa. Dim ond detholiad o newyddion da’r gwarchodfeydd yw’r rhain. I glywed mwy, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @RSPBCymru
Ein pobl

Mae Gwobrau Llywydd yr RSPB yn cydnabod pobl anhygoel sy’n gweithio’n ddiflino i warchod natur ledled y DU. Enwebwyd nifer o bobl wych o Gymru eleni, ac roedd Ashleigh Thompson yn enillydd haeddiannol yng nghategori Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn. Mae Ashleigh yn gwirfoddoli dros RSPB Cymru mewn sawl ffordd, o gysylltu plant â natur fel Prif Arweinydd yr Archwilwyr
Bywyd Gwyllt yng Nghonwy, i warchod adar y môr ar Ynys Seiriol, a monitro lluniau trap camera o’r Rugiar Ddu ar gyfer ein prosiect Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Rhywogaethau yng ngogledd Cymru. Mae Ashleigh yn awyddus i rannu ei hangerdd dros
wirfoddoli gyda phobl eraill. Yn ddiweddar, cymerodd rhan mewn ffair wythnos glas mewn prifysgol, yn recriwtio pobl ifanc i gofrestru fel gwirfoddolwyr.
Byddai Ashleigh wedi osgoi amgylchedd swnllyd a phrysur tebyg yn y gorffennol, ond mae’r sgiliau a ddatblygodd trwy wirfoddoli, a’i dyfalbarhad ei hun, wedi’i helpu i ddatblygu. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Ashleigh a’r holl wirfoddolwyr ledled Cymru am eu hymdrechion parhaus a’u hangerdd dros amddiffyn ein byd naturiol. Mae gweld y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud a’r gwahaniaeth gwirioneddol sy’n cael ei gyflawni yn ein hysbrydoli. Os hoffech wirfoddoli gyda ni, sganiwch y cod QR neu ewch i: rspb.org.uk/volunteer


Roedd Ian yn un o hoelion wyth yr RSPB. Cafodd yrfa amrywiol iawn gyda RSPB Cymru, gan ddechrau fel warden haf yn Ynys Lawd yn 1978. Bu’n gweithio ar nifer o safleoedd RSPB cyn symud i Ynys Dewi yn 1993, lle bu’n gweithio am y deng mlynedd nesaf. Roedd gwaith Ian yn canolbwyntio’n bennaf ar y Frân Goesgoch. Chwaraeodd ran flaenllaw yn y gwaith o wneud y defnydd gorau o’u cynefin bwydo a lleihau’r tarfu arnynt gymaint â phosibl. Roedd hefyd yn rhan allweddol o’r gwaith i ddatblygu Cod Morol
Sut i helpu
Sir Benfro, sy’n fuddiol i adar y môr hyd heddiw.

Fodd bynnag, ei rodd fwyaf oedd cynnal rhaglen fwyaf y DU ar y pryd i ddileu llygod mawr ar Ynys Dewi. Diflannodd poblogaeth ffyniannus o Balod a difrodwyd niferoedd yr Aderyn Drycin Manaw oherwydd Llygod Ffyrnig a gyrhaeddodd yr ynys o longddrylliadau yn ystod y 1800au. Roedd gwaith Ian a’i dîm mor fanwl gywir, gwaredwyd ar holl lygod mawr yr ynys yn ystod un gaeaf yn unig. Tyfodd niferoedd yr Adar Drycin Manaw o 850 o barau yn 1998 i 6,200 yn ystod yr arolwg diwethaf yn 2022. Ac ers iddynt fagu am y tro cyntaf yn 2008, mae nythfa ffyniannus, hirsefydlog o Bedrynnod Drycin ar yr ynys hefyd (gweler y brif erthygl yng nghylchgrawn Hydref/ Gaeaf RSPB am fwy o wybodaeth).
Anfonwn ein cydymdeimladau i’w deulu a’i ffrindiau.
Meddyliwch am jin ac efallai daw tonig i’r meddwl. Ond i’r rhai gwybodus, mae grug a Mintys y Dŵr Ynys Dewi yn bwysig hefyd!
Yn 2018, creodd ein ffrindiau a chymdogionar ochr arall i Swnt Dewi yn Nistyllfa Tyddewi gynnyrch newydd wedi’i drwytho yn ethos y cwmni o darddiad lleol a chynnyrch o ansawdd. A dyna ddechrau ar Jin Ynys Dewi. Ers hynny, mae Distyllfa Tyddewi wedi rhoi dros £30,000 o werthiannau’r jin i warchodfa natur RSPB Ynys Dewi. Talodd hyn am osod hidlydd UV yn siop y warchodfa sy’n caniatáu i ymwelwyr ail-lenwi eu poteli yfed. Mae hefyd wedi ariannu gwaith cadwraeth hanfodol ar gyfer y Frân Goesgoch ac Aderyn Drycin Manaw ar yr ynys, a gwaith i amddiffyn Huganod ar Ynys Gwales, wedi i ffliw adar cael effaith andwyol arnynt yn ystod y

blynyddoedd diwethaf.
Mae Distyllfa Tyddewi’n ail-lansio Jin Ynys Dewi mewn potel newydd, heb newid dim ar y blas hyfryd. Gallwch gefnogi ein gwaith cadwraeth ar yr ynys a mwynhau diod braf trwy fynd i tinyurl. com/RSPBRAMSEY. Bydd Distyllfa Tyddewi yn rhoi 25% o’r holl werthiannau a wneir trwy’r ddolen hon i RSPB.
i helpu Gweithredwch dros natur

Mae natur yn dirywio. Dim ond rhan fach o’n hardaloedd gwarchodedig sydd mewn cyflwr da, a llai na hanner o’n hafonydd sy’n iach. Mae’r Bil Amgylchedd newydd, a gyflwynwyd i’r Senedd ar 2 Mehefin, yn gyfle i wrthdroi’r tueddiadau hyn, ond mae angen iddo fod yn gryfach ac yn fwy eglur. Mae angen arnom eich help chi i wneud hynny. Os bydd digon ohonom yn codi ein lleisiau, gallwn ddweud wrth y Senedd na all natur aros.
Sganiwch y cod QR i weithredu yn awr neu ewch i bit.ly/4mi99Bv

O holl adar ysglyfaethus y DU, y Boda Tinwyn sy’n cael ei erlid fwyaf (o gymharu â maint ei boblogaeth genedlaethol). Mae rhai unigolion yn lladd adar ysglyfaethus er mwyn sicrhau’r niferoedd mwyaf posibl o Rugieir Coch a gwella’r elw a wneir o saethu. Eu nod yw dileu unrhyw fygythiad i stociau’r grugieir oherwydd ysglyfaethu, ac i atal unrhyw darfu ar yr adar ar ddiwrnodau saethu. Tynnwyd sylw at drafferthion yr adar ysglyfaethus godidog hyn yn y DU mewn adroddiad gan yr RSPB yn ddiweddar, gan gynnwys colli’r pedwar Boda Tinwyn a dagiwyd yng Nghymru rhwng 2018 a 2024. Daeth neges olaf y pedwar ohonynt ar neu yn ymyl Rhostir Rhiwabon, yr unig ardal yng Nghymru a reolir yn ddwys ar gyfer saethu grugieir. Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth uniongyrchol ynghylch pwy oedd yn gyfrifol. Cyflwynwyd system drwyddedu ar gyfer saethu grugieir yn yr Alban yn 2024, a hoffem weld system drwyddedu ar gyfer saethu adar helwriaeth yng Nghymru hefyd.


Yn wahanol i Fforestydd
Glaw Trofannol, ceir Coedwigoedd Glaw Tymherus mewn hinsoddau oerach ar ledredau uwch.
Taflu goleuni ar un o’r cynefinoedd mwyaf prin ar y blaned, sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf
Oglywed y geiriau ‘coedwig law’, mae’n naturiol i’r meddwl grwydro i leoedd pell fel yr Amazon. Ond does dim angen ichi fentro mor bell â hynnymae gennym goedwigoedd glaw ar ein stepen drws. Mae’r coetiroedd hudolus, hynafol hyn dan orchudd o fwsoglau gwyrdd sy’n dringo boncyffion coed, a dail o bob lliw a llun a rhedyn cyrliog yn codi eu pennau trwyddo. Mae rhai o’r mwsoglau’n edrych fel plu ac eraill fel sêr - a phob un ohonynt yn arlliwiau gwahanol o wyrdd. Edrychwch yn ofalus ac fe welwch enfys o gennau: gwyrdd, oren, porffor, llwyd, du a choch. Mae rhai’n debyg i fresych, rhai’n smotiog, a rhai’n flewog hyd yn oed. Mae dŵr ym mhob man. Disgynna glaw o’u cwmpas, llifa nentydd trwyddynt, ac mae pobman rhyngddynt yn wlyb ddiferol.
Mae angen ar y coedwigoedd glaw tymherus hudolus hyn amodau perffaith i oroesi ac i ffynnu: glaw rheolaidd, tymereddau mwyn, lleithder cyson ac aer glân. Mae gan Gymru bob un ohonynt, yn enwedig yn y gorllewin, sy’n cynnig cartref unigryw i blanhigion a bywyd gwyllt.
Difrod dros amser
Roedd darnau mawr o Gymru yn goetiroedd tebyg ar un adeg, ond maent yn gynefin prin erbyn hyn. Dim ond darnau tameidiog o goedwigoedd glaw Celtaidd sydd ar ôl; mae’r rhan fwyaf i’w gweld ar lethrau serth neu mewn ceunentydd cul lle cawsant eu cysgodi rhag gorbori gan anifeiliaid yn ystod y canrifoedd diwethaf.
Mae’r traddodiadau hanesyddol o gasglu coed a rhisgl o goetiroedd ar gyfer trin crwyn, cyn plannu planhigfeydd conwydd estron i hybu’r gorchudd coed,
wedi ychwanegu at brinder y cynefinoedd gwerthfawr hyn. Ac mae’r rhai sy’n weddill dan fygythiad o hyd wrth iddynt gael eu hesgeuluso’n gyffredinol, yn ogystal â phroblem rhywogaethau goresgynnol fel Rhododendron Ponticum.
Rhywogaethau goresgynnol
Gall Rhododendron Ponticum greu haen canopi helaeth a diddiwedd sy’n taflu cysgod trwm dros y fflora ar y llawr. O’r herwydd, mae’r planhigyn yn trechu planhigion blodeuol, rhedyn, cennau a mwy, ac nid yw eginblanhigion y coed yn gallu tyfu. Gall hyn fod yn drychinebus i broses aildyfu’r goedwig, ac i’r planhigion is hynny sy’n dibynnu ar goed brodorol aeddfed i oroesi.
Yn ogystal, mae dail Rhododendron Ponticum yn anaddas i’r mwyafrif o famaliaid, adar a thrychfilod yn y DU. Os ydym am weld ein coetiroedd yn ffynnu gyda rhywogaethau fel y Gwybedog Brith, Llygod y Coed,
768,000 o hectarau – arwynebedd tirwedd coedwigoedd glaw Cymru
Uchod: Coetir cyfoethog yng ngwarchodfa natur Llyn Efyrnwy
Mae’r cynefinoedd hyn yng Nghymru: yn gartref i bron 20% o fwsoglau a llysiau’r afu Prydain yn cynnal hyd at 400 o rywogaethau o gennau yn bwysig i adar coetirol fel y Gwybedog Brith, Telor y Coed a’r Tingoch (llun clawr) yn arbennig o bwysig i ystlumod coetirol arbenigol prin fel yr Ystlum Du a’r Ystlum Pedol Lleiaf yn llawn planhigion a chennau sy’n cynnig bwyd a chysgod i amrywiaeth o drychfilod, ffyngau a molysgiaid prin, fel chwilod Calosoma Inquisitor, Malwod Platiog a’r Cosyn Danheddog.
Pedwar Ardal Cadwraeth Arbennig: Coedwigoedd
Mae tirwedd
coedwigoedd glaw
Cymru yn gartref i 20% o fwsoglau a chennau Prydain
llygon, cnocellod, Suran y Coed, rhedyn, mwsoglau, caws llyffant a choed derw ifanc - y mae pob un ohonynt yn rhan hanfodol o ecosystem coetirol gweithredol iach - rhaid inni waredu Rhododendron Ponticum o’r lleoedd hyn a’i atal rhag dychwelyd.
Cydbwysedd pori
Mae ein coetiroedd brodorol wedi cael eu pori gan dda byw neu anifeiliaid gwyllt ar dros y blynyddoedd, gan greu rhai o’n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr. Fodd bynnag, dim ond ychydig o ddegawdau’n ôl, tyfodd niferoedd da byw a chafodd llawer o ardaloedd eu gorbori. Codwyd ffensys o amgylch rhai safleoedd, yn enwedig y rheiny a ystyriwyd yn bwysig yn ecolegol, er mwyn atal anifeiliaid sy’n pori rhag eu cyrraedd. Mewn coetiroedd, gordyfodd meintiau mawr o fieri, Eiddew a rhywogaethau eraill o’r herwydd. Er bod y planhigion hyn yn gallu bod yn gynefin da ac yn ffynhonnell fwyd i anifeiliaid, gall gormod ohonynt gael effaith negyddol ar gennau a mwsoglau ein coedwigoedd glaw Celtaidd prin.
1. Eryri a Meirionnydd
2. Coed Cwm Einion
3. Coed Cwm Elan
4. Coed Cwm
Doethïe – Mynydd
Malláen
negyddol ar goedwigoedd glaw Celtaidd. Mae angen gwarchod fflora, coed a phriddoedd y math hwn o goetir rhag gormod o gysgod, neu ormod o olau, a gorbori a thanbori hefyd. Ond o’u rheoli’n ofalus, mae’n bosibl i’r safleoedd hyn fod yn ffynhonnell gynaliadwy o bren ac yn gynefin llawn natur.
Mae cydweithredu’n allweddol
Dim ond 25% o’r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a arolygwyd sydd mewn cyflwr ffafriol ar hyn o bryd
Mae angen gweithredu ar 66% o’r safleoedd i fynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol
Mae pori cadwraethol yn arf bwysig yn y gwaith o reoli ein coetiroedd brodorol, ond mae’n bwysig dod o hyd i’r anifail cywir i bori ar y safle cywir. Mae defaid, gwartheg a merlod yn pori’r tir mewn ffyrdd gwahanol ac yn newid goleddf y tir. Nid yw gorbori na thanbori’n ganlyniadau dymunol, ond os deuir o hyd i’r cydbwysedd cywir, ynghyd â’r anifeiliaid cywir, mae’n gallu cael effaith gadarnhaol ar yr amrywiaeth gynefinoedd.
Adfer coetiroedd
Nid yw nifer o rywogaethau coed ein coedwigoedd glaw Celtaidd, fel y Sbriws Sitca a’r Llarwydden, yn cael eu hystyried yn rhai brodorol. Yn hytrach, cawsant eu cyflwyno naill ai ar ddamwain neu’n bwrpasol ar gyfer cynhyrchu pren ac am resymau esthetig. Er bod rhywogaethau estron yn gallu chwarae rhan bwysig mewn coedwigaeth fodern, gallant gael effaith

Nôl yn 2018, aethom ati i greu prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru, ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Coed Cadw. Hwn oedd y prosiect mwyaf o’i fath ar gyfer adfer coedwigoedd glaw yn y DU. Mae’r prosiect wedi’i gynllunio hyd at 2027 ac mae’n canolbwyntio ar warchod y pedwar Ardal Cadwraeth Arbennig sy’n goedwigoedd glaw tymherus yng Nghymru. Mae’r gwaith yn cynnwys dileu rhywogaethau goresgynnol, pennu ffyrdd o wella’r dulliau rheoli trwy newid sut mae anifeiliaid yn pori yn y coedwigoedd, a thrwy dynnu ymaith y rhywogaethau coed estron. Rydym hefyd yn falch i fod yn rhan o Gynghrair Coedwigoedd Glaw Cymru – partneriaeth o sefydliadau sydd wedi ymroi i ddiogelu’r cynefinoedd gwerthfawr hyn.
Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda’n partneriaid i adfer, gwarchod a chynnal y lleoedd arbennig hyn, a’r bywyd gwyllt sy’n byw ynddynt.





Julian Hughes
Mae Julian Hughes wedi gweithio i’r
RSPB ers 1992 ac mae’n Bennaeth
Rhywogaethau
RSPB Cymru ar hyn o bryd. Wedi ei leoli yng ngogledd
Cymru, mae hefyd yn ysgrifennu’r
golofn wythnosol
Bird Notes i bapur newydd y Daily Post.
Mae gennym hanes hir o wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ystyriwch y Gwylwyr cyntaf a warchododd y Môr-wenoliaid Gwridog ar Ynys Llanddwyn o 1911 ymlaen, ymdrechion gan dirfeddianwyr a chefnogwyr ers degawdau i atal diflaniad y Barcud Coch (llun uchod), a gwaith i wella’r ffordd caiff coedwigoedd glaw Celtaidd eu rheoli ar gyfer cennau prin ac adar arbennig fel Telor y Coed.
Mae jargon polisïau amgylcheddol yn gallu bod yn oeraidd iawn. Cydnerthedd yr ecosystem. Atebion ar sail natur. Ecoleg adferol. Gall deimlo fel byd hollol wahanol i’r buchod coch cwta yn eich gardd, Gwenoliaid Duon yn sgrechian uwchben eich stryd, neu Rugieir Duon yn paru ar rostir Sir Ddinbych. Rhywogaethau yw arian cyfred sylfaenol ein tiroedd a’n moroedd, sef yr hyn a ddefnyddiwn i fesur a ydym yn byw’n gynaliadwy ar y blaned. Does dim natur heb rywogaethau.
Y mis hwn, rydw i’n dathlu gweithio i RSPB ers traean canrif. Mae’r byd wedi newid ers i mi ymuno â’r elusen ar ddechrau’r 1990au. Nid oedd datganoli gwleidyddol wedi digwydd. Nid oedd gennym gynllun i fonitro ein rhywogaethau adar cyffredin, felly nid oeddwn yn gallu hyd yn oed asesu pa adar yng Nghymru oedd yn bryder cadwraethol. Mae’r ymwybyddiaeth o natur a chefnogaeth iddo wedi tyfu’n sylweddol, ond felly hefyd yr heriau y mae natur yn eu hwynebu.
Nid oes unrhyw ddwy rhywogaeth yr un peth. Mae gan bob un ei chornel ecolegol ei hun. I’r rhai sydd mewn
Cysylltwch â ni
Igysylltu â ni, defnyddiwch ein prif gyfeiriad ebost: cymru@rspb.org.uk
Cewch hyd i ni ar-lein a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol: rspb.org.uk / @RSPBCymru
I gymryd rhan mewn prosiectau adfer rhywogaethau, ewch i rspb.org.uk/ volunteer. Os na welwch rôl sy’n gweddu i’ch sgiliau, anfonwch neges ebost at SpeciesVolunteerNetwork@ rspb.org.uk a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r un gywir.
trafferth, camau cyntaf hollbwysig y broses adfer yw deall sut mae’r rhywogaeth yn gweithio, y pwynt yn ei chylch oes sy’n cael trafferth, a beth sy’n gyrru’r newid hwnnw. Rydym yn dylunio a threialu atebion ar sail hyn. Yn anaml y bydd un newid yn gwneud gwahaniaeth. Mae gofynion dynol yn ei wneud yn fwy cymhleth na hynny. Yr hyn sy’n fy nghodi o’r gwely bob bore yw gwybod bod RSPB yn gallu trefnu ymdrechion ar y raddfa gywir: y darn bach iawn o ffen yn Ynys Môn lle mae Stratiomys Chamaeleon yn byw, sef pryf milwrol du a melyn sy’n byw dim ond mewn dau le arall ym Mhrydain; rheoli’r rhostir arfordirol ar Ynys Dewi ac Ynys Lawd sy’n cefnogi un ym mhob 12 pâr o’r Frân Goesgoch yng Nghymru; gweithio gyda chymunedau ar draws Mynydd Hiraethog i wella’r tebygrwydd y bydd cywion y Gylfinir yn goroesi; cefnogi aelod sy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i wneud ‘briciau’ nythu Gwenoliaid Duon yn ofynnol mewn adeiladau newydd; dylanwadu ar bolisïau er mwyn llywio arian cyhoeddus er budd natur mewn coetiroedd, ar ffermydd ac yn y moroedd. Mae’n digwydd oherwydd egni ac arbenigedd ein gwirfoddolwyr a’n staff.
Yn ddi-os bydd heriau’n codi yn ystod y traean canrif nesaf nad ydym wedi meddwl amdanynt eto. Cyhyd â bod gan yr RSPB gefnogwyr angerddol sy’n malio am y dyfodol, bydd cyflwr rhywogaethau Cymru’n fwy disglair.
I glywed mwy am ddigwyddiadau grwpiau leol yr RSPB, cysylltwch â
Gogledd Cymru group.rspb.org.uk/northwales
Abertawe a’r Ardal group.rspb.org.uk/swanseaanddistrict
Mae RSPB Cymru yn rhan o’r RSPB, elusen gadwraeth natur fwyaf y DU. Mae’r RSPB yn elusen gofrestredig yn Lloegr a Chymru 207076, yn Yr Alban SC037654
Mae cwmni Our Media yn gweithio i sicrhau bod ei holl bapur yn dod o goedwigoedd sydd wedi’u rheoli’n dda ac wedi’u hardystio gan yr FSC® a ffynonellau rheoledig eraill. Mae’r cylchgrawn hwn wedi’i argraffu ar bapur ardystiedig Forest Stewardship Council® (FSC®). Gellir ailgylchu’r cylchgrawn hwn, i’w ddefnyddio mewn papurau newydd a phecynnu.