Taflen ffeithiau: Cymru - gwlad chwarae gyfeillgar

Page 1

Taflen ffeithiau: Cymru – lle chwarae-gyfeillgar Er gwaethaf holl fuddiannau cadarnhaol uniongyrchol a thymor hir chwarae, mae nifer o ffactorau mewn cymdeithas fodern sydd wedi cyfrannu at ostyngiad sylweddol mewn cyfleoedd ar gyfer chwarae’r tu allan: •

cynnydd mewn traffig

newidiadau i’r amgylchedd adeiledig

galwadau addysgol cynyddol

yr amser y mae disgwyl i blant ei dreulio mewn gweithgareddau wedi eu strwythuro

pryderon a phwyslais anaddas ar risg ‘perygl dieithriaid’.

Mae gan blant hawl i chwarae, fel y cydnabyddir yn Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Nid yw’r hawl i chwarae’n cael ei wireddu ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Mae plant yn dal i ddweud wrthym mai’r tu allan yw eu hoff le i chwarae. Ond, mai’r lle y maen nhw’n fwyaf tebygol o gael caniatâd i chwarae’r tu allan mewn gwirionedd, yw eu gardd gefn neu ardd gefn ffrind. Cafodd anghydraddoldebau chwarae ar gyfer plant BAME a phlant sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig eu datgelu’n ystod y cyfnod clo. Mae angen inni sicrhau ar fyrder bod mwy o blant yn gallu bod allan, yn weladwy, yn chwarae yn eu cymuned.

Pwysigrwydd chwarae Chwarae yw’r ffordd fwyaf naturiol a phleserus i blant fod yn egnïol, cadw’n iach a bod yn hapus. Gall chwarae helpu i hybu lles o ran helpu plant i: •

gyflawni a gwneud mwy na’r canllawiau gweithgarwch corfforol

cymdeithasu a chwrdd â’u ffrindiau a phobl eraill

ymdopi gydag ansicrwydd a newid

meithrin gwytnwch trwy hybu rheoleiddio emosiynol, creadigrwydd, perthnasau, datrys problemau a dysgu.

Chwarae yw un o agweddau pwysicaf a mwyaf uniongyrchol bywydau plant – maent yn gwerthfawrogi cael amser, lle a rhyddid i chwarae. Mae chwarae’n golygu gadael i blant wneud fel y mynnant yn eu hamser eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain. Mae’n cynnwys nodweddion allweddol hwyl, ansicrwydd, her, hyblygrwydd a pheidio â bod yn gynhyrchiol. Mae pob agwedd o fywyd plentyn yn cael ei dylanwadu gan eu hysfa i chwarae, ac mae’r chwarae hynny a gyfarwyddir ac a bennir yn bersonol a gynigir gan gyfleoedd chwarae o ansawdd yn cynyddu cyfleoedd plant i gynyddu eu gwytnwch eu hunain a chefnogi eu hiechyd a’u lles. Mae’n amlwg bod chwarae’n cael effaith cadarnhaol ar lu o ddeilliannau iechyd pwysig yn cynnwys cynnydd mewn gweithgarwch corfforol, lleihau gordewdra’n ystod plentyndod, gwella lles ymhlith plant a helpu i ddatblygu gwytnwch. Mae’n hanfodol hefyd oherwydd y mwynhad y mae’n ei gynnig i blant a’u teuluoedd yn eu bywydau bob dydd.

‘Roedden ni’n arfer gallu chwarae ar dir yr ysgol ond nawr maen nhw wedi’u cloi. Dim ond ein gardd sydd gennym ni i chwarae ynddi, fel arall mae rhaid i fy rhieni fynd a fi yn y car i fynd i rywle.’ ‘Mae pobl yn gyrru’n rhy gyflym i lawr y stryd, mae fy stryd i’n brysur iawn rŵan ... Mae’r ceir yn gyflym iawn. Alla’ i ddim mynd allan ar fy meic.’ ‘Fydda i ddim yn chwarae’r tu allan i fy ngardd heb mam, dad neu aelod o’r teulu yn cadw llygad arna’ i.’ ‘Fydd dim mannau gwyrdd ar ôl i ni chwarae. Fe fydd rhaid inni aros yn y tŷ ar ein cyfrifiaduron a chwarae ar-lein gyda’n ffrindiau yn lle.’


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Taflen ffeithiau: Cymru - gwlad chwarae gyfeillgar by Play Wales - Issuu