Mae’r daflen wybodaeth hon yn archwilio sut fydd chwarae’n cyfrannu at les corfforol plant a sut y gall ymarferwyr y blynyddoedd cynnar ddarparu caniatâd, amser a lle, yn ogystal â sicrhau bod deunyddiau ar gael, ar gyfer chwarae. Mae hefyd yn cynnig cyngor ymarferol ar gyfer bod yn synhwyrol ynghylch iechyd a diogelwch.
Mae’r daflen wybodaeth hon yn anelu i gefnogi ymarferwyr y blynyddoedd cynnar i ddarparu gweithgarwch corfforol trwy chwarae’r tu allan yn eu lleoliadau.