Ffocws ar chwarae - darparwyr ac ymarferwyr gofal plant

Page 1

Mawrth 2018

Ffocws ar chwarae

Darparwyr ac ymarferwyr gofal plant Mae’r papur briffio hwn ar gyfer darparwyr gofal plant yn cynnwys gwybodaeth ar sut i gefnogi cyfleoedd gwell i blant chwarae yn eu lleoliadau. Mae plant a phobl ifanc angen ac mae ganddynt hawl i gael amser a mannau o safon ar gyfer chwarae fel rhan o’u bywydau bob dydd.

Mae ymarferwyr a darparwyr gofal plant yng Nghymru mewn sefyllfa dda i fod yn hyrwyddwyr chwarae ar ran y cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. Yn aml, mae ganddynt wreiddiau dyfnion yn y gymuned ac mae gan rieni lawer o barch tuag atynt a ffydd ynddynt, gyda chysylltiadau cryfion gydag ysgolion a lleoliadau eraill. Ble fo ymarferwyr gofal plant wedi derbyn hyfforddiant gwaith chwarae, maent wedi adrodd yn ôl bod dealltwriaeth o agwedd gwaith chwarae yn cael effaith sylweddol ar y cyfleoedd chwarae y byddant yn eu cynnig.

byddant yn penderfynu ar y rheolau a’r rolau y byddant yn eu mabwysiadu yn eu chwarae ac yn creu bydoedd y gallant eu rheoli. Ddylen ni ddim ystyried amser rhydd, di-amserlen i’n plant fel elfen ddiangen. Mae’n hollbwysig i blant ar gyfer cael hwyl ac ymlacio yn ogystal ag ar gyfer eu hiechyd a’u lles. Mae’n rhan o’u ‘cydbwysedd bywyd/gwaith’. Gall ymarferwyr gofal plant weithredu mewn byd ble fo chwarae’n cael blaenoriaeth. Un o’r ffyrdd gorau y gallwn weithio i gefnogi plant i gael mynediad i’w hawl i chwarae yw trwy fwynhau’r broses chwarae. Y ffyrdd gorau i sicrhau amgylchedd ac awyrgylch ble caiff anghenion a hawl plant i chwarae eu cyflawni yw mwynhau chwarae am yr hyn ydyw, chwarae’n llawn brwdfrydedd pan dderbyniwn wahoddiad i chwarae, a bod yn eiriolwyr brwd dros chwarae.

Chwarae er mwyn chwarae

Pwysigrwydd chwarae

Bydd rhieni’n dewis lleoliadau gofal plant er mwyn eu galluogi i weithio, hyfforddi, neu oherwydd eu bod yn teimlo ei fod yn bwysig ar gyfer datblygiad eu plentyn. Mae mwy a mwy o rieni’n dweud wrthym eu bod yn chwilio am leoliadau plentyn-ganolog sy’n galluogi plant i chwarae am gyfnodau estynedig mewn amgylcheddau chwarae cyfoethog.

Mae chwarae’n ganolog i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Trwy chwarae, bydd plant yn datblygu gwytnwch a hyblygrwydd fydd yn cyfrannu at les corfforol ac emosiynol.

Er bod buddiannau chwarae yn sylweddol a phellgyrhaeddol i blant, a bod ei effaith yn cael ei deimlo ymhell i oedolaeth, mae chwarae’n rhan annatod o blentyndod ac mae plant yn gosod gwerth mawr ar gael digon o leoedd ac amser i chwarae. Pan gaiff amser plant ei drefnu’n ormodol gan bobl eraill, prin y gallwn ei ystyried yn amser y plant. Pan fydd plant yn cyfarwyddo eu chwarae’n bersonol,

I’r plant eu hunain, chwarae yw un o agweddau pwysicaf eu bywyd. Maent yn gwerthfawrogi cael amser, rhyddid a mannau o ansawdd da i chwarae. Mae chwarae’n cyfrannu at les a gwytnwch bodau dynol – yn enwedig plant. Mae cael mannau croesawus, digon o amser a chwmni pobl eraill i chwarae â nhw bob dydd, o bwys mawr i bob plentyn a pherson ifanc – fel oedolion, bydd angen inni feithrin amgylcheddau sy’n cefnogi hyn.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Ffocws ar chwarae - darparwyr ac ymarferwyr gofal plant by Play Wales - Issuu