Pecyn cymorth sydd wedi ei ddylunio i gynorthwyo penaethiaid, llywodraethwyr a mudiadau lleol i weithio gyda’i gilydd i ystyried sicrhau bod tiroedd ysgol ar gael i blant lleol y tu allan i oriau addysgu.
Mae’r pecyn cymorth hwn wedi ei ddylunio i ddarparu gwybodaeth eglur a chryno ar gyfer cymunedau ysgolion a’u partneriaid, er mwyn asesu ymarferoldeb gwneud yn siŵr bod tiroedd ysgol ar gael ar gyfer chwarae plant y tu allan i oriau addysgu.
Mae’r pecyn cymorth hwn yn edrych ar yr amrywiol faterion fydd angen eu hystyried. Mae’n cynnwys dyfyniadau gan benaethiaid sy’n seiliedig ar drafodaethau fu’n rhan o ddatblygiad y pecyn cymorth ac astudiaethau achos sy’n arddangos amrywiol fodelau. Mae hefyd yn darparu dulliau a thempledi cam-wrth-gam, ymarferol ar gyfer cwblhau gwaith sy’n gysylltiedig ag agor tiroedd ysgol ar gyfer chwarae’r tu allan i oriau addysgu.