Issuu on Google+

Chwarae: darpariaeth cynhwysol


Nid opsiwn yw cynhwysiant, mae hawl gan bob plentyn i chwarae ac i gael mynediad i ddarpariaeth chwarae lleol, ond sut allwn ni wneud i hyn weithio? Mae adroddiad Sefydliad Bevan ar chwarae a gweithgareddau hamdden wedi canfod bod: ‘Plant a phobl ifainc anabl yn wynebu rhwystrau oherwydd diffyg darpariaeth, diffyg cefnogaeth, diffyg mynediad i adeiladau ac agweddau negyddol sydd, er gwaethaf deddfwriaethau a pholisïau, yn eu hatal rhag cyfranogi yn yr un modd â phlant a phobl ifainc sydd ddim yn anabl.’ 1 Mae’r daflen wybodaeth hon, ar gyfer darparwyr chwarae, yn anelu i gynnig rhywfaint o gamau ymarferol y gellir eu defnyddio i oresgyn rhwystrau i gynhwysiant fel y gall plant a phobl ifainc anabl gael mynediad i ddarpariaeth chwarae.

Dywed Egwyddor Gwaith Chwarae 1: Mae pob plentyn a pherson ifanc angen chwarae. Mae’r awydd i chwarae’n un greddfol. Mae chwarae’n anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae’n hanfodol i ddatblygiad iach a lles unigolion a chymunedau. Dywed Erthygl 23 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP): Dylai plant sydd ag unrhyw fath o anabledd dderbyn gofal a chefnogaeth arbennig fel y gallant fyw bywyd llawn ac annibynnol. Dywed Sylw Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar Erthygl 23: Cydnabyddwyd mai chwarae yw’r ffynhonnell orau ar gyfer dysgu amrywiol sgiliau, yn cynnwys sgiliau cymdeithasol. Caiff cynhwysiant llawn plant ag anableddau mewn cymdeithas ei gyflawni pan roddir cyfle, lle ac amser i blant chwarae â’i gilydd (yn blant sydd ac sydd ddim ag anableddau). Dywed Erthygl 31 o GCUHP: Mae gan bob plentyn yr hawl i gael gorffwys a hamdden, i fwynhau chwarae a gweithgareddau adloniadol sy’n briodol i oedran y plentyn ac i gyfranogi’n llawn mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau. Dywed Erthygl 30 o’r Confensiwn ar Hawliau Personau ag Anableddau: Dylid sicrhau y caiff plant ag anableddau’r un lefel o fynediad â phlant eraill i gyfranogi mewn chwarae a gweithgareddau adloniadol, chwaraeon

a hamdden … Mae angen camau gweithredol i chwalu’r rhwystrau a hybu mynediad i, yn ogystal ac argaeledd, cyfleoedd cynhwysol i gyfranogi’n yr holl weithgareddau hyn. Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010: Mae rheidrwydd ar bob Awdurdod Lleol i asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer plant yn eu hardal. Mae chwarae’n allweddol ar gyfer iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant, ac o’r herwydd i’w teuluoedd ac i gymunedau’n gyffredinol. Mae gan blant ysfa reddfol i chwarae – mae gwaith ymchwil diweddar yn awgrymu bod chwarae’n effeithio ar ddatblygiad ffisegol a chemegol yr ymennydd – mae’n ‘dylanwadu ar allu plant i ymaddasu, i oroesi, ffynnu a mowldio eu amgylcheddau cymdeithasol a ffisegol’2. Mae gan bob plentyn hawl moesol a chyfreithiol i chwarae yn ei gymuned ei hun waeth beth fo’i ddiwylliant, nam, rhyw, iaith, cefndir, ymddygiad neu angen. Golyga chwarae cynhwysol y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn derbyn mynediad cyfartal i ddarpariaeth chwarae lleol o safon. Golyga hyn y gallant chwarae ag eraill, neu ar eu pen eu hunain fel y dymunant, mewn amgylchedd cyfoethog sy’n cefnogi eu anghenion chwarae ac sy’n rhoi mynediad iddynt i ystod eang o gyfleoedd chwarae.


Rhwystrau

Rhwystrau agweddol

Gall plant a phobl ifainc anabl wynebu rhwystrau sylweddol i gael mynediad i ddarpariaeth chwarae lleol, ond mae ganddyn nhw, ynghyd â’u cyfoedion heb anabledd, hawl i gael mynediad i ddarpariaeth ble y gallant brofi posibiliadau i chwarae’n rhydd a chymdeithasu â’u cyfoedion heb anabledd.

Gall rhwystrau agweddol gynnwys:

Mae’r term ‘plant a phobl ifainc anabl’ yn disgrifio’r rheini sy’n profi gwahaniaethu ar sail eu nam a / neu eu cyflwr meddygol. Gall arferion sy’n gwahaniaethu, fel agweddau negyddol, amgylcheddau anhygyrch a systemau sefydliadol ei gwneud yn anodd, ac weithiau’n amhosibl, i blant a phobl ifainc anabl brofi’r broses chwarae’n y modd arferol. Mae eu anghenion chwarae’r un fath â rhai plant a phobl ifainc heb anabledd – efallai eu bod am redeg o gwmpas, neidio a dringo, cymdeithasu a chwrdd â ffrindiau, creu pethau, gwrando ar gerddoriaeth, sgwrsio, chwarae ar eu pen eu hunain, synfyfyrio, dim ond bod, gwneud camgymeriadau, cymryd risg a chael eu herio. Mae gan blant a phobl ifainc anabl hawl i gael eu gwerthfawrogi am bwy ydynt ac am yr hyn sydd ganddynt hwy fel unigolion i’w gynnig ac yn enwedig i gael eu croesawu i ac i gael eu cynnwys mewn sefyllfaoedd chwarae lleol. Mae’n ddyletswydd ar ddarparwyr chwarae i wneud newidiadau rhesymol; i groesawu pob plentyn; i gynnig cymorth priodol; i ateb anghenion unigol plant a phobl ifainc.

Anablaeth – diffiniad Bydd Anablaeth yn digwydd pan fo unigolyn sydd â nifer o namau neu sydd â namau sylweddol, yn destun gwahaniaethu oherwydd y rhwystrau sy’n bodoli o fewn gweithgareddau a gwasanaethau bob dydd mewn cymdeithas prif ffrwd. Mae anablaeth, fel rhywiaeth a hiliaeth, yn ffurf penodol o wahaniaethu ac yn arwain at ormes. Er mwyn deall anablaeth bydd angen inni archwilio’r rhwystrau y gallai plant a phobl ifainc anabl, a’u teuluoedd, eu wynebu wrth gael mynediad i’n darpariaeth chwarae. Bydd y rhwystrau hyn yn cwympo’n gyffredinol i dri dosbarth – rhwystrau agweddol, rhwystrau amgylcheddol a rhwystrau sefydliadol.

Ein agweddau personol ni ac agweddau’r bobl eraill yr ydym yn gweithio â hwy, er enghraifft, diffyg gwybodaeth a phrofiad o ymwneud â, a gweithio â phlant a phobl ifainc anabl, y teimlad o’i ‘gael yn anghywir’ ac o ‘fethu ag ymdopi’ a meddwl mai darpariaeth ar wahân yw’r ateb.

Y bobl hynny sy’n defnyddio ein gwasanaeth, gan gynnwys rhieni / gofalwyr plant anabl, all deimlo na fydd modd i’n darpariaeth lwyddo i ateb ‘anghenion gofal’ eu plentyn.

Rhieni / gofalwyr plant sydd ddim yn anabl, allai gwestiynu os y bydd eu plentyn yn derbyn yr un lefel o sylw pe bae plant anabl yn mynychu ein darpariaeth.

Pobl broffesiynol eraill yr ydym yn gweithio â hwy, allai ystyried bod darpariaeth ar wahân yn well ac yn fwy addas na darpariaeth cynhwysol.

Y gymuned ehangach a’r modd y caiff pobl anabl eu stereoteipio, er enghraifft y modd y caiff pobl anabl eu portreadu’n y cyfryngau. Gall y ffactor ‘O, bechod!’ ddal godi pan welwn lun plentyn anabl yn y papur newydd yn derbyn gwobr.

Wrth herio a goresgyn rhwystrau agweddol, bydd angen inni ddechrau gyda fframwaith ein sefydliad ein hunain a mabwysiadu ethos cynhwysol sy’n sail i’n holl bolisïau, gweithdrefnau ac arferion, sy’n seiliedig ar y Model Cymdeithasol o Anabledd. Dylech ystyried: •

Ysgrifennu datganiad ethos sy’n adlewyrchu cynhwysiant.

Ysgrifennu datganiad cennad sy’n dweud sut y bydd eich sefydliad yn gweithredu mewn modd cynhwysol.

Ysgrifennu polisïau newydd, neu adolygu hen bolisïau, er mwyn sicrhau bod eu cynnwys a’u bwriad yn adlewyrchu cynhwysiant yn gwbl ddiamwys.

Cynnwys gweithdrefnau cymorth a gofal personol pwrpasol wrth ysgrifennu gweithdrefnau newydd, neu adolygu gweithdrefnau sy’n bodoli eisoes, ar gyfer ateb gofynion unigol plant anabl.

Datgan mewn deunyddiau recriwtio bod y ddarpariaeth yn gynhwysol a bod croeso i blant anabl.


Defnyddio iaith a thermau cadarnhaol sy’n adlewyrchu cynhwysiant mewn deunyddiau hyrwyddo.

Datgan yn groyw mewn cyhoeddusrwydd ar gyfer rhieni a gofalwyr, bod y ddarpariaeth yn gynhwysol a bod staff wedi eu hyfforddi mewn arfer chwarae cynhwysol.

Ysgrifennu cyhoeddusrwydd ar gyfer rhieni a gofalwyr mewn iaith eglur a hygyrch.

Bod yn barod i eiriol dros hawliau plant anabl mewn agendâu oedolion eraill, fel cyfarfodydd traws-sector.

Defnyddio iaith a thermau cadarnhaol wrth gyfeirio at blant a phobl ifainc anabl tra’n siarad ag eraill.

Ffurfio perthnasau gweithio da a chyfathrebu effeithlon ag eraill sy’n gweithio â phlant a phobl ifainc anabl, yn cynnwys eu teuluoedd, ysgolion arbennig, grwpiau anabledd a gweithwyr proffesiynol eraill megis gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr meddygol, therapyddion ac ymwelwyr iechyd.

Ymgynghori â phlant a phobl ifainc anabl am eu anghenion a’u dewisiadau chwarae a sut y gellir cyflawni eu gofynion mynediad penodol.

Rhwystrau amgylcheddol Wrth herio a goresgyn rhwystrau amgylcheddol bydd angen inni ystyried ein amgylchedd ffisegol ein hunain a’r amgylchedd y tu hwnt. Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (2005) a Deddf Cydraddoldeb (2010) yn mynnu y dylid gwneud addasiadau rhesymol i adeiladau cyhoeddus er mwyn sicrhau bod pobl anabl yn derbyn mynediad cyfartal – ’dyw hyn ddim yn cyfeirio at rampiau’n unig. Mae’r plant a’r bobl ifainc anabl ddaw i’n lleoliad ni’n unigolion ac mae’n bosibl y bydd ganddynt ofynion mynediad penodol eraill, ein dyletswydd ni fydd dysgu ganddyn nhw a’u teuluoedd y modd gorau y gallwn ateb y gofynion hynny. Dylech ystyried: •

Archwilio sut y gallai plant anabl deithio i’r lleoliad. Bydd llawer yn teithio’n yr un modd â’u cyfoedion heb anabledd, ond efallai y bydd eraill angen cymorth cludiant arbennig i gyrraedd y lleoliad. Os felly, dylech weld os yw hyn yn fforddiadwy ar gyfer plentyn unigol ac os nad yw, ceisiwch weithio gyda’r teulu i ystyried ffyrdd o’i wneud yn fforddiadwy.

Edrych ar y mynedfeydd cyhoeddus i’r lleoliad, gan gynnwys palmentydd, croesfannau cerddwyr, goleuadau stryd, arwyddion a pharcio hygyrch ger y lleoliad.

Astudiaeth achos Mae Sapphire yn blentyn sy’n dioddef o epilepsi, bydd yn cael trawiadau’n rheolaidd sy’n gofyn iddi dderbyn moddion ar unwaith. Cafodd ei chyfeirio at Brosiect Cynllun Chwarae Cynhwysol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cyfarfu Gweithiwr Datblygu Chwarae â’r teulu i drafod yr atgyfeiriad; roedd mam Sapphire yn bryderus ynghylch ei gweld yn mynd allan i chwarae heb oruchwyliaeth oedolion rhag ofn iddi gael trawiad. Trefnodd y Gweithiwr Datblygu Chwarae i Sapphire fynychu cynllun chwarae wedi ei reoli gan GBSW, ond nid oedd hyn yn ddelfrydol. Roedd y prosiect hwn yn cael ei gynnal mewn cymuned filltiroedd o gartref Sapphire ac roedd rhaid i’w mam ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i deithio i’r ddarpariaeth. Roedd rhaid iddi hefyd aros gyda Sapphire gan nad oedd y gweithwyr chwarae wedi eu hyfforddi i roi moddion i’r plant.

Cysylltodd y Gweithiwr Datblygu Chwarae ag Adran Chwarae Plas Madoc, sy’n cynnal prosiect chwarae stryd. Trefnwyd y byddai’r tîm yn cynnal sesiynau ar y stryd ble y mae Sapphire yn byw. Tawelodd hyn feddwl ei mam gan y gwyddai y byddai modd iddynt gael gafael arni’n syth mewn achos brys, ac y gallai roi moddion Sapphire iddi ar unwaith. Ers mynychu’r prosiect mae hyder ac annibyniaeth Sapphire wedi gwella’n sylweddol. Cred ei mam i’r prosiect gael effaith cadarnhaol ar fywydau’r ddwy ohonynt; trwy gwrdd â thîm Plas Madoc mae’r ddwy ohonynt bellach yn cael mynediad i brosiectau eraill a rhwydwaith cymdeithasol ehangach o lawer.


Addasiadau y gellir eu gwneud i fynedfa’r lleoliad. Dylai pob adeilad cyhoeddus fod â rampiau. Dylid sicrhau bod y fynedfa’n gwbl weladwy a bod arwyddion croeso’n cael eu harddangos ar ffurf geiriau yn ogystal â symbolau sy’n arwain at, ac i’w gweld ar y drws. Edrych ar yr hyn a welir pan ddewch i mewn i’r lleoliad. Mae’r argraff gyntaf yn un bwysig, ac mae pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu croeso cynnes. I rai gall hyn olygu mynedfa glir a syml ac amgylchedd tawel.

Defnyddio tramleiniau’r tu mewn i’r lleoliad fel y gall plant a phobl ifainc anabl symud o amgylch ag urddas. Defnyddio lliwiau, symbolau a chymhorthion synhwyraidd i ddiffinio ardaloedd o fewn y lleoliad, i ddynodi ble y cedwir adnoddau ac i ddangos ble y mae’r toiledau. Mae hyn yn wir am ardaloedd awyr agored yn ogystal â rhai dan do.

Sut a ble sydd orau ar gyfer anghenion gofal personol, er mwyn diogelu urddas y plentyn neu’r person ifanc unigol.

Darparu adnoddau y gellir eu defnyddio i greu mannau tawel a heddychlon yn y lleoliad. Mae pob plentyn a pherson ifanc yn mwynhau cyfle i orffwys a bod yn dawel. Addasu offer ac adnoddau a ble y caiff y rhain eu cadw. Dylid osgoi bod â man ‘arbennig’ ble y caiff offer ‘arbennig’ ei gadw. Dylai’r holl offer fod ar gael i bob plentyn a pherson ifanc. Cynnal archwiliadau mynediad a chynhwysiant rheolaidd o’r amgylchedd chwarae.

Rhwystrau sefydliadol Wrth herio a goresgyn rhwystrau sefydliadol bydd angen inni ddeall sut i ddefnyddio deddfwriaethau hawliau i gefnogi’r ddadl dros gynhwysiant. Mae’n bosibl bod rhwystrau sefydliadol yn bodoli yn ein polisïau a’n gweithdrefnau ni, neu rai’r corff sy’n rheoli’r adeiladau yr ydym yn eu defnyddio neu rai’r Awdurdodau Lleol yr ydym yn gweithio â hwy a rhai’r llywodraeth, all wrthdaro weithiau â’n ethos cynhwysol. Mae Deddf Plant (2004), Deddf Cydraddoldeb (2010) a CCUHP i gyd wedi hysbysu deddfwriaeth yng Nghymru trwy Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae hwn yn cynnwys plant a phobl ifainc anabl, a gallwn wneud defnydd effeithlon o’r ddeddfwriaeth yma i hysbysu ein polisïau a’n gweithdrefnau ni ac i eiriol dros, a dylanwadu ar eraill, i ystyried adolygu eu polisïau a’u gweithdrefnau er mwyn cynnal hawliau plant anabl i gael mynediad cyfartal i’n lleoliad. Dylech ystyried: •

Wybod am a deall deddfwriaethau sy’n cefnogi’r ddadl dros gynhwysiant trwy’r sefydliad yn gyffredinol.

Cynnal sesiynau a hyfforddiant cynyddu ymwybyddiaeth ar gyfer rheolwyr, staff a gwirfoddolwyr ar fabwysiadu ethos cynhwysol a chreu polisïau a gweithdrefnau cynhwysol sy’n sail i arfer cynhwysol.

Datblygu a gweithredu cynllun strategol er mwyn sicrhau bod cynhwysiant yn aros wrth galon gweithrediadau’r lleoliad i’r dyfodol.


Monitro a gwerthuso arferion y gweithle’n rheolaidd o ran cynhwysiant ac adolygu polisïau a gweithdrefnau sy’n sail i arfer cynhwysol.

Gweithio mewn partneriaeth ag eraill er mwyn rhannu arfer cynhwysol da.

Dylanwadu ar eraill i fabwysiadu ethos cynhwysol ac ennill eu cefnogaeth ar gyfer arfer cynhwysol.

Gweithwyr Chwarae Mae’n bwysig bod y tîm cyfan yn credu mewn cynnwys, ac yn cefnogi cyfranogaeth, plant anabl. Mewn darpariaeth chwarae cynhwysol wedi ei staffio, bydd gweithwyr chwarae wedi derbyn hyfforddiant ac ennill cymwysterau proffesiynol a datblygiad proffesiynol sy’n cefnogi chwarae cynhwysol. Byddant yn monitro a gwerthuso eu effeithlonrwydd wrth gyflawni anghenion chwarae’r plant i gyd, yn rheolaidd. Fel rhan o arfer da, bydd gweithwyr chwarae’n rhannu gwybodaeth a sgiliau.

Mae rhai gweithwyr chwarae wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol fel eu bod yn fwy abl i allu ateb gofynion penodol plant anabl unigol, fel cyflawni gofynion gofal personol. Fodd bynnag, mae’n arfer da bod y tîm gwaith chwarae cyflawn yn gallu, ac yn fodlon, gweithio mewn modd cynhwysol ac yn cydnabod y bydd rhai plant angen cymorth ar adegau penodol i wir ddiwallu eu anghenion chwarae. Dylai pob gweithiwr chwarae a rheolwyr lleoliadau chwarae ymgymryd â hyfforddiant gwaith chwarae cynhwysol er mwyn datblygu ethos cynhwysol; polisïau a gweithdrefnau cynhwysol; agweddau cynhwysol a dealltwriaeth eglur, cytûn o’r Model Cymdeithasol o Anabledd.

Astudiaeth achos Yn ystod haf 2010 atgyfeiriwyd Lewis, sy’n dioddef o awtistiaeth a phroblemau ymddygiad, at Wasanaethau Chwarae Torfaen. Mae hefyd yn ei chael yn anodd iawn i gyfathrebu; bydd yn defnyddio amneidiau a chyffyrddiadau ac ychydig o iaith arwyddion. Mae Lewis yn ei chael yn anodd i gymysgu â phlant a phobl ifainc eraill ac mewn rhai sefyllfaoedd gall ei ymddygiad gael ei ystyried yn anodd. Yn dilyn yr atgyfeiriad dechreuodd Lewis fynychu cynllun chwarae ac fe’i cyflwynwyd i weithiwr cymorth oedd wedi ei hyfforddi gan Wasanaeth Chwarae Torfaen i weithio â phlant a phobl ifainc sydd angen cymorth ychwanegol. Rôl y gweithiwr cymorth oedd helpu i reoli ymddygiad ac ymateb i anghenion penodol y person ifanc. Roedd Lewis yn ymateb yn dda i’r gweithiwr cymorth gan ddefnyddio amneidiau i gyfathrebu ag e’. Dechreuodd Lewis ymuno mewn chwaraeon fel pêl-fasged, oedd yn rhywbeth yr oedd ei rieni am iddo gael cyfle i’w brofi.

Byddai Lewis yn defnyddio sesiynau paentio fel modd o ymlacio a byddai’n paentio taflenni unigol o bapur A4 â phob lliw paent fyddai ar gael, cyn eu gosod yn llinell berffaith daclus ar lawr. Roedd rhaid i Lewis fynd trwy’r broses hon o’r dechrau i’r diwedd heb unrhyw ymyriadau na chysylltiad ag unrhyw un arall. O fewn cynllun chwarae prysur, roedd hyn yn gryn dasg i weithiwr cymorth Lewis. ’Doedd teulu Lewis erioed wedi credu y gallai fynychu cynllun chwarae integredig oherwydd lefel ei anghenion. Un o’r uchafbwyntiau pennaf i Lewis a’i deulu oedd iddo allu mynychu’r sinema am y tro cyntaf erioed, rhywbeth oedd y tu hwnt i’w gylch cysurus yn llwyr cyn hyn. Yn ogystal, cynorthwyodd y gweithiwr cymorth Lewis i gael mynediad i lawer o weithgareddau adloniadol a hamdden yn y gymuned, ar wahân i’r cynllun chwarae.


Casgliad Gallwn wneud i gynhwysiant weithio. Mae’n siwrnai ble na fydd fyth ddeuddydd sy’n union yr un fath. Mae’n galw am agwedd holistig, gyda phawb yn cyd-dynnu’n llawn penderfyniad, dychymyg a meddwl creadigol i sicrhau y gall plant a phobl ifainc anabl chwarae a chymryd rhan mewn pethau y bydd eraill, efallai, yn eu cymryd yn ganiataol. Fel darparwyr chwarae, os ydym i drosi polisïau a gofynion cyfreithiol yn realiti ymarferol, byddwn angen meddwl agored, gonestrwydd, penderfyniad, creadigedd a bod yn barod i weithio’n galed. Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i brofiadau chwarae o safon a’n rôl ni fydd sicrhau na chaiff yr un plentyn ei eithrio.

Cyfeiriadau Lester, S. a Russell, W. (2008) Play for a Change – Play, Policy and Practice: A review of contemporary perspectives. Biwro Cenedlaethol y Plant ar ran Play England: Llundain

1

Victoria Winckler (2011) Fair play for disabled children and young people in Wales. Glyn Ebwy: Sefydliad Bevan

2

Adnoddau

Deddf Plant (2004): www.legislation.gov.uk

Confensiwn ar Hawliau Personau ag Anableddau: www.ohchr.org/EN/Issues/Disability/Pages/ DisabilityIndex.aspx Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn: www.ccuhpgwneudpethauniawn.co.uk Deddf Cydraddoldeb (2010): www.legislation.gov.uk Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (2005): www.legislation.gov.uk

Disablism – SCOPE: www.scope.org.uk Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010: http://wales.gov.uk/?lang=cy Social model of disability – SCOPE: www.scope.org.uk Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ egwyddoriongwaithchwarae


Mawrth 2013 © Chwarae Cymru

Cynhyrchwyd y daflen wybodaeth yma mewn partneriaeth â Di Murray, Playworks UK a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

www.chwaraecymru.org.uk

Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae. Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru


Chwarae darpariaeth cynhwysol