Awgrymiadau anhygoel: Gwaith chwarae a coronafirws
Ar hyd a lled Cymru, mae gweithwyr chwarae yn dod i delerau gyda gweithio mewn ffordd wahanol i gefnogi chwarae plant. Efallai bod gennych ymdeimlad o golled a galar, a’ch bod yn colli’r plant yr ydych yn eu hadnabod ac yn gweithio gyda nhw. Efallai eich bod yn poeni am yr holl blant oedd yn defnyddio eich gwasanaeth. Dydych chi heb gael fawr o amser i baratoi a chynllunio ar gyfer hyn, ond byddwch am weithio allan sut y gallwch gefnogi plant yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
Dyma rywfaint o awgrymiadau i’ch helpu 1. Glynwch at yr Egwyddorion Gwaith Chwarae Mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae’n datgan bod chwarae’n anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol. Dylai eich rôl chi fel gweithiwr chwarae ddal olygu myfyrio ar yr Egwyddorion Gwaith Chwarae er mwyn eiriol dros a chefnogi plant i greu mannau ble y gallant chwarae – hyd yn oed os nad ydych yn gweithio â nhw wyneb-yn-wyneb bellach. Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae yw’r sail foesegol ar gyfer ein proffesiwn ac maent yn berthnasol, hyd yn oed pan ydym yn cefnogi chwarae plant mewn gwahanol gyd-destun. 2. Eiriolwch dros chwarae Gallwch fynd ati’n weithredol i atgoffa pobl yn y gymuned – rhieni a’r rheini sy’n dal i weithio gyda phlant – yn ystod cyfnodau’n llawn ansicrwydd, bod chwarae: • yn helpu i roi ymdeimlad o normalrwydd a llawenydd i blant yn ystod profi colled, unigrwydd a thrawma • yn helpu plant i oresgyn poen emosiynol ac adennill rheolaeth dros eu bywyd • yn helpu plant i ennill dealltwriaeth o’r hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, a’u galluogi i brofi hwyl a mwynhad
• yn cynnig cyfle i blant archwilio eu creadigedd eu hunain. 3. Cadwch mewn cysylltiad â darparwyr gwasanaethau Chwiliwch beth sy’n digwydd yn eich hardal chi ac ewch ati i gysylltu’n uniongyrchol gyda’r awdurdod lleol neu’r darparwr lleol i roi gwybod iddynt sut y gallwch chi helpu. Os ydych chi’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant, mae’n bosibl bod gennych wybodaeth bwysig ynghylch pwy sydd fwyaf bregus yn y cymunedau yr ydych yn gweithio ynddynt. Rydych mewn sefyllfa dda i sicrhau bod yr hawl i chwarae’n cael ei chydnabod ac i atgoffa pobl bod angen inni wneud yn siŵr nad yw hyn yn cael ei golli na’i sathru dan flaenoriaethau eraill yn ystod adegau’n llawn ansicrwydd. 4. Meddyliwch am adnoddau Gwnewch gyfrif o’ch stoc yn eich pen. A oes gennych ddeunyddiau neu offer sbâr allai fod o ddefnydd i ysgolion a lleoliadau eraill? A oes gennych adnoddau allai helpu plant pan maent yn treulio amser dan do? Bydd pethau fel pennau ysgrifennu, creonau, sialc, papur, cerdyn, sisyrnau yn annog creadigedd neu’n helpu gyda thasgau ysgol a byddant o ddefnydd mawr i lawer o blant ar hyn o bryd.