Awgrymiadau anhygoel: chwarae, ysgolion a coronafirws

Page 1

Awgrymiadau anhygoel: Chwarae, ysgolion a coronafirws

Mae staff ysgolion, darparwyr gwaith chwarae a gweithwyr chwarae ledled Cymru’n gweithio’n galed i ofalu am nifer o blant bregus neu blant gweithwyr allweddol fel rhan o’n hymateb ar y cyd i coronafirws. Er bod nifer o ysgolion yn cael eu defnyddio, mae’r ffocws ar ddarparu gofal ar gyfer nifer cyfyngedig o blant. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru’n pwysleisio ffocws ychwanegol ar ofal bugeiliol a gweithgareddau i gefnogi lles meddyliol a sicrhau bod y plant yn actif. Mae epidemigion, a chlefydau pandemig, wedi eu cynnwys fel sefyllfa argyfwng gan yr International Play Association (IPA) yn eu pecyn cymorth Access to play in situations of crisis. Caiff argyfwng, yn gyffredinol, ei ddiffinio fel sefyllfa anodd neu beryglus sydd angen sylw ar frys. Er gwaetha’r straen newydd y mae coronafirws yn ei greu, bydd plant yn dal eisiau ac angen chwarae. Yn ystod cyfnodau’n llawn ansicrwydd, mae chwarae: • yn helpu i roi ymdeimlad o normalrwydd a llawenydd i’r plant yn ystod profi colled, unigrwydd a thrawma • yn helpu plant i oresgyn poen emosiynol ac adennill rheolaeth dros eu bywyd • yn helpu plant i ennill dealltwriaeth o’r hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, a’u galluogi i brofi hwyl a mwynhad • yn cynnig cyfle i blant archwilio eu creadigedd eu hunain.

Dyma ein hawgrymiadau anhygoel er mwyn i ysgolion gefnogi chwarae’n ystod cyfnodau o straen: 1. Ymgyfarwyddwch gyda phecyn cymorth Access to play in situations of crisis Mae wedi ei gynhyrchu i gynorthwyo pobl a sefydliadau sy’n gweithio mewn sefyllfaoedd argyfwng fel eu bod yn gallu deall a chefnogi chwarae bob dydd plant yn well. Mae ar gael i’w lawrlwytho ar: www.ipaworld.org 2. Datblygwch ddatganiad sy’n egluro’r gwerth y mae’r lleoliad yn ei osod ar chwarae plant ac sy’n ategu’r ymrwymiad i gefnogi cyfleoedd chwarae plant Gallai hwn fod yn arbennig o ddefnyddiol os ydych yn gweithio mewn lleoliad anghyfarwydd neu gyda gwahanol staff. Bydd yn helpu i sicrhau bod pob aelod o staff yn darparu agwedd gyson tuag at ofal y plant, bod pawb yn glynu at y canllawiau diweddaraf ac y darperir ar gyfer chwarae plant.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Awgrymiadau anhygoel: chwarae, ysgolion a coronafirws by Play Wales - Issuu