Page 1

Amddifadedd chwarae: ei effaith, y canlyniadau a photensial gwaith chwarae


‘Y gwrthwyneb o chwarae – o’i ailddiffinio mewn termau sy’n pwysleisio ei optimistiaeth a’i gyffro atgyfnerthol – yw nid gwaith, ond iselder. Daw chwaraewyr allan o’u paradocsau chwareus … â chred o’r newydd ym mudd dim ond byw.’1

Brian Sutton-Smith

Os yw Sutton-Smith yn gywir, yna byddai absenoldeb chwarae o fywyd plentyn yn drychineb, nid yn unig ar gyfer y plentyn hwnnw ond i’w deulu, a chymdeithas yn gyffredinol. Mae’n amlwg y gall absenoldeb cyfleoedd chwarae, a elwir gan amlaf yn amddifadedd chwarae, ymddangos ar amrywiol ffurfiau ar y sbectrwm anfantais (neu esgeulustod, yn dibynnu ar eich safbwynt). Ar un pegwn byddai esgeulustod difrifol a cham-drin miloedd o blant amddifad yn sefydliadau gwladwriaethol y cynwledydd comiwnyddol2 tra ar begwn arall y sbectrwm ceir plant cymdeithasau modern y Gorllewin sydd, o bosibl, yn methu chwarae’r tu allan oherwydd yr hyn y mae Gill3 yn ei alw’n ‘gymdeithas sy’n ofn risg’.

Effaith amddifadedd chwarae Ers dechrau’r 1970au, pan gyflwynodd Suomi a Harlow4 grynodeb o’u gwaith ymchwil ar ymgysylltiad a datblygiad mewn papur yn dwyn y teitl Monkeys Without Play, rydym wedi bod yn ymwybodol o effaith amddifadedd chwarae. Heddiw, byddem yn ystyried bod eu dulliau ymchwilio’n annerbyniol (gweler The Costs and Benefits of Animal Experiments5 am drafodaeth drylwyr o’r materion hyn), ond nid yw hynny’n golygu y dylem anwybyddu eu canfyddiadau, sy’n dynodi’n gwbl eglur werth chwarae yn natblygiad cynnar mwncïod bychain. Nid yw’n afresymol felly, gan ystyried mai mwncïod yw’r rhywogaeth agosaf i homo sapiens o’r holl rywogaethau ar y raddfa esblygol, inni awgrymu y gellid cymhwyso eu casgliad, bod ‘chwarae o bwysigrwydd neilltuol i fwncïod’6 i fodau dynol hefyd. Magwyd mwncïod Harlow ar eu pen eu hunain ar wahân i bob mwnci arall, yn cynnwys eu mamau eu hunain. Cafodd hyn effaith niweidiol difrifol ar gyfleoedd y mwncïod bach i aeddfedu i fod yn oedolion gweithredol, sefydlog. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, pan oedd modd i’r mwncïod ifainc hyn chwarae â’u cyfoedion am gyfnodau byr yn ystod eu bodolaeth unig, fe wnaethant ddatblygu’n fwncïod glasoed normal, iach a chytbwys. O’r herwydd, awgrymodd Harlow a’i gydweithwyr fod chwarae, neu absenoldeb chwarae, yn ffactor cwbl allweddol o’r broses hon. Mae’n ymddangos bod ychydig o chwarae yn ystod y blynyddoedd datblygiadol yn negyddu drwg effeithiau cael eu cadw ar wahân. Mae brawddeg glo eu papur o 1971 yn arbennig o berthnasol yma:

‘Yna tosturiwch wrth y mwncïod sydd ddim yn cael chwarae, a gweddïwch y caiff pob plentyn wastad ganiatâd i chwarae.’7 Bu canlyniadau’r arbrofion hyn yn allweddol wrth newid y ffordd y byddwn yn magu plant. Profodd Harlow bwysigrwydd cariad a chyswllt corfforol clòs yn ystod y blynyddoedd cynnar, ac o ganlyniad mae’n anarferol iawn bellach i glywed unrhyw arbenigwr plant yn argymell y dylai mamau ymbellhau oddi wrth eu babi. Profodd Harlow bwysigrwydd chwarae yn natblygiad babanod, ac mae hwn yn gysyniad sydd bellach yn gyffredin yn y mwyafrif o sefyllfaoedd blynyddoedd cynnar, er yn aml iawn y ceir mwy o bwyslais ar yr ochr addysgol yn hytrach na’r ochr chwarae. Allwn ni honni, fel y gwnaeth Harlow, y gellir cymhwyso ei gasgliadau i fodau dynol? Mae nodweddion cyffredinol chwarae plant mor debyg i chwarae mwncïod fel nad oes fawr ddim amheuaeth am hyn. Mae ymchwil diweddarach gan Brown a Webb (2005), â phlant amddifad wedi eu cam-drin mewn ysbyty bediatrig yn Rwmania, fel pe bae’n cadarnhau’r elfennau tebyg hyn. Mae Harlow’n cyfeirio at y modd y bydd mwncïod bychain wedi eu magu mewn cewyll, sydd heb unrhyw gyfaill i chwarae â nhw ac i ddarparu symbyliad motor, yn datblygu ymddygiadau siglo cymhellol ac ystrydebol. Dynododd Brown a Webb batrwm ymddygiad tebyg iawn ymysg y grŵp yn Rwmania. Mae’n amlwg bod peidio â chwarae’n arwain at blentyn sy’n hynod o drwblus yn gymdeithasol. Mae Harlow’n awgrymu y gellid achub mwncïod bychain sydd wedi eu niweidio trwy eu gosod mewn cysylltiad â mwncïod newydd-anedig. Mae hwn yn ganfyddiad arall a gadarnhawyd gan yr astudiaeth yn Rwmania. Yn ddiddorol, yn wahanol i’r holl dystiolaeth o niwed cymdeithasol a chorfforol, canfyddodd Harlow bod ynysiad llwyr yn ‘cael fawr ddim effaith amlwg ar ddoniau deallusol y mwncïod’9. Unwaith iddynt gael eu gosod mewn amgylchedd ble y byddent yn wynebu heriau deallusol, fe wnaethant brofi eu bod yn gallu cyflawni’r dasg. Ar yr olwg gyntaf, mae hyn yn peri syndod, ond mae hwn eto’n ganfyddiad a gadarnhawyd gan waith ymchwil Brown a Webb10.


Pam fyddai’r prosesau deallusol yn parhau i fod yn gyflawn pan oedd holl agweddau eraill eu datblygiad wedi eu heffeithio mor ddifrifol? Mae llawer wedi awgrymu nad yw agweddau deallusol yr ymennydd yn cael eu tanio’n gyflawn tan fod plentyn tua chwech neu saith mlwydd oed11 ac yn y blynyddoedd diwethaf mae’r maes niwrowyddorau wedi cadarnhau hyn12. Efallai na chafodd agweddau deallusol yr ymennydd eu niweidio’n ddifrifol yn ystod yr arbrofion hyn gan nad oeddent wedi eu tanio’n gyflawn cyn hynny. A yw’n bosibl, er mwyn i swyddogaeth corfforol gael ei niweidio’n ddifrifol, bod rhaid iddo fod yn weithredol yn y lle cyntaf? Er enghraifft, mae’r swyddogaeth prifiant yn weithredol o enedigaeth plentyn, ond mae angen i’r plentyn chwarae er mwyn ymarfer ei gyhyrau. Heb chwarae, bydd gweithrediad normal y system cyhyrysgerbydol yn cael ei niweidio. Ar y llaw arall fodd bynnag, bydd system ddeallusol yr ymennydd yn syml iawn yn aros i gael ei thanio gan y math cywir o symbyliad.

Diffinio amddifadedd chwarae Mae llawer o awduron wedi amlygu cymhlethdod chwarae, a’r ystod o wahanol fathau o chwarae. Er enghraifft, dynododd Sutton-Smith13 saith ‘rhethreg’, ble y grwpiodd 308 o wahanol fathau o chwarae. Mae Hughes14 yn cynnig grwpiad o 16 o fathau chwarae. Arwyddocâd hyn yw y bydd angen, ym marn Hughes15, i blant brofi’r ystod cyflawn o fathau chwarae yn ystod eu plentyndod er mwyn sicrhau a chynnal cyflwr o les cadarnhaol. Ble fo plant yn methu gwneud hyn, gellid dweud eu bod yn dioddef o ddiffyg chwarae a’u bod yn debygol o brofi niwed parhaol. Mae’n awgrymu bod y rhesymau am y niwed yma’n ymddangos ar ddau ffurf cwbl wahanol, unai amddifadedd chwarae neu ogwydd chwarae. Mae Hughes16 yn egluro’r ddau gysyniad hwn fel a ganlyn: •

amddifadedd chwarae – sef canlyniad unai ‘diffyg arhosol o ryngweithio synhwyraidd â’r byd’, neu ‘ryngweithiad anwadal, niwrotig’ gogwydd chwarae – sy’n cyfeirio at ‘lwytho chwarae mewn un maes profiad neu’i gilydd, gan arwain at eithrio’r plentyn o rai agweddau o’r profiad chwarae cyflawn.’

Awgryma Hughes bod amddifadedd chwarae a gogwydd mewn chwarae plant yn llawer mwy cyffredin na’r hyn y mae cymdeithas yn ei gyfaddef, ac yn llawer mwy niweidiol. Mae hyn yn ganlyniad i nifer o ffactorau, yn cynnwys ofn traffig, perygl canfyddedig dieithriaid, ofn rhieni pan fydd plant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch sy’n cynnwys risg.

Amddifadedd chwarae ym mywyd plant heddiw Yn No Fear: Growing up in a risk averse society, mae Gill17 yn cyfeirio at ‘orwelion crebachol plentyndod’18. Mae’n ein hatgoffa am ganfyddiadau astudiaeth Hillman19 – sef bod wyth o bob deg plentyn ym 1971 yn mynd i’r ysgol ar ei ben ei hun; erbyn 1990 roedd y ffigwr hwnnw wedi disgyn i un mewn deg. Adroddodd Hillman eto ym 1999, gan nodi bod y sefyllfa bellach wedi gwaethygu eto. Aiff Gill20 ymlaen i amlinellu ystod o newidiadau cyfarwydd a welwyd yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf, y mae pob un ohonynt wedi cael effaith sylweddol ar ryddid plant i chwarae. Mae hefyd yn archwilio’r pechaduriaid – y ffactorau wnaeth greu’r ‘gymdeithas ofn risg’ a geir yn ei teitl. Mae’r rhain yn cynnwys: •

diffyg dealltwriaeth cyffredinol y gall risg fod yn gynhenid fuddiol

ofn cael eu dwyn i gyfraith, ar ran y rheini ddylai fod yn darparu cyfleusterau chwarae

y symiau anghymesur o arian a wariwyd ar arwynebau diogel ar gyfer meysydd chwarae plant, ar draul rhagor o offer chwarae da

straeon am ymddygiad gwrth-gymdeithasol gaiff eu gorbwysleisio’n y cyfryngau

ail-ddiffinio bwlio i gynnwys tynnu coes a phryfocio

camau amddiffyn plant eithafol sy’n arwain at weld llai o bobl yn barod i wirfoddoli i gynnal gweithgareddau ar ôl ysgol ar gyfer plant

rhieni sydd ofn dieithriaid, gaiff ei waethygu gan straeon yn y cyfryngau am bedoffilyddion

ofn y rhyngrwyd, gaiff ei ddwysáu gan fod plant gymaint yn fwy abl wrth ddefnyddio technoleg fodern na’u rhieni

Pan ychwanegir hyn i gyd at y cynnydd gwirioneddol mewn traffig ar ein strydoedd, mae’n amlwg bod y cyfleoedd i blant archwilio eu cymdogaeth fel rhan o weithgarwch chwarae rhodio’n rhydd, yn tyfu’n fwy a mwy cyfyngedig. Fel rhan o’i astudiaeth o chwarae plant yn ninas Belfast yn ystod cyfnod ‘Yr Helyntion’, cynhaliodd Hughes gyfweliadau strwythuredig â phobl rhwng 9 a 54 mlwydd oed, oedd yn byw yng nghanol dinas Belfast. Fe’u holodd am eu profiadau o ddechrau, canol a diwedd eu plentyndod. Ar sail y cyfweliadau hynny daeth Hughes i’r casgliad bod chwarae wedi cael ei ‘lygru gan oedolion’. ‘Llygru gan oedolion’ yw’r term y bydd Hughes21 yn ei ddefnyddio i ddisgrifio ‘effaith


negyddol oedolion ar chwarae plant.’ Canfyddodd bedwar prif effaith ar chwarae: 1. amddifadedd a chyfnewidiad mathau chwarae 2. trwytho mewn delweddau a digwyddiadau sydd wedi eu llygru gan oedolion 3. amddifadedd meistrolaeth, dewis ac ystod 4. halogiad niweidiol o’r broses chwarae. Mae Hughes yn awgrymu pedwar canlyniad niweidiol ar gyfer hyn i gyd: •

bod llygriad chwarae cymdeithasol gan oedolion yn meithrin ymlediad parhaus sectyddiaeth

bod natur milwrol profiadau amgylcheddol y plentyn yn annog mabwysiadu ystod gyfyngedig o naratifau chwarae ystrydebol

bod cyfyngu ar ystod ymddygiad rhodio’r plant yn creu gwendidau mapio meddyliol

bod straen, trawma ac amddifadedd chwarae mewn bywyd bob dydd yn arwain at newid niwrogemegol a niwroffisiolegol yn yr ymennydd.

Mae Hughes22 yn cyfeirio at waith Harlow (gweler uchod) ac at Einon et al23 gan awgrymu y ‘gall symptomau sy’n ganlyniad i amddifadedd chwarae mewn rhywogaethau eraill, gael eu lleihau’n sylweddol pan roddir cyfle i wrthrychau’r astudiaeth chwarae eto.’ O’r herwydd, mae’n cynnig rôl i weithwyr chwarae wrth leddfu drwg effeithiau amddifadedd chwarae, ond mae’n awgrymu y byddent angen hyfforddiant arbenigol ar effeithiau gwrthdaro ar chwarae.

Canlyniadau amddifadedd chwarae llwyr, a photensial gwaith chwarae Mae’n anarferol i ganfod plant sy’n dioddef o gamdriniaeth sefydliadol yn y mwyafrif o wledydd. Yn drist iawn, bydd wastad achosion ble y caiff plant unigol eu cam-drin mewn modd systematig gan y bobl hynny sy’n gyfrifol am ofalu amdanynt. Ceir cryn dystiolaeth am achosion o’r fath, ac maent yn tueddu i lanw tudalennau blaen ein papurau newydd am gyfnod. Efallai y byddai person sinigaidd yn awgrymu mai un o’r rhesymau am ddiddordeb y cyfryngau mewn achosion o’r fath yw eu prinder. Fodd bynnag, ar ddechrau’r 1990au wynebodd y byd Gorllewinol achos o gamdriniaeth plant ar raddfa nas gwelwyd ar y teledu o’r blaen. Yn dilyn disodli Ceausescu yn Rwmania, daeth yn amlwg bod mwy na chan mil o blant yn byw mewn cartrefi plant yn y wlad. Roedd nifer fawr iawn o’r plant hyn yn dioddef o esgeulustod erchyll, ac mewn

nifer o achosion roeddent yn dioddef camdriniaeth sefydliadol. Roedd hyn yn amddifadedd chwarae ar raddfa anferth. Cynhaliwyd astudiaeth ymchwil Brown a Webb24 yng nghanol y sefyllfa erchyll yma. Canolbwyntiodd eu gwaith ymchwil ar effaith prosiect gwaith chwarae ar grŵp o blant amddifad, oedd yn byw ar ward ysbyty bediatrig yn Rwmania. Prif ffocws eu hastudiaeth ymchwil, sy’n cynnwys nifer o elfennau tebyg i astudiaethau Harlow, oedd datblygiad chwarae dilynol y plant. Roedd y plant, oedd yn amrywio o un i ddeng mlwydd oed, wedi dioddef camdriniaeth ac esgeulustod difrifol. Roeddent wedi treulio’r mwyafrif o’u bywydau wedi eu clymu i’w cotiau; heb eu bwydo’n ddigonol a’u gadael mewn clytiau oedd ddim yn cael eu newid yn ddigon aml. Er eu bod yn gallu gweld a chlywed plant eraill, nid oedd modd iddynt adael eu cotiau, ac felly ’doedd ganddynt fawr ddim profiad o ryngweithio cymdeithasol. Dechreuodd y prosiect gwaith chwarae therapiwtig yn haf 1999 ac mae’n para hyd heddiw, er ar raddfa lawer llai. Yn ystod dyddiau cyntaf y prosiect roedd rhaid i’r gweithwyr chwarae ddatglymu’r plant yn y bore, eu ymolchi, newid eu clytiau a’u bwydo’n iawn, cyn mynd â hwy i’r ystafell chwarae. Yna, byddent yn gweithio â’r plant trwy’r dydd gan eu ymolchi, eu newid a’u bwydo fel oedd angen, a’u galluogi i gychwyn ar y daith hir i wella trwy chwarae. Pan gaiff plant eu hamddifadu rhag chwarae, bydd y canlyniadau’n drychinebus. Roedd emosiynau’r grŵp yma o blant yn gwbl gythryblus. Pan ddechreuodd y prosiect fyddai’r plant yn gwneud dim ond rhythu i’r gwagle gan siglo yn ôl a blaen mewn modd sy’n gwbl gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi gweithio mewn ysbyty meddwl. Yn gyffredinol, roeddent yn edrych llawer yn iau na’u gwir oed. Er enghraifft, gweithiodd y tîm â bachgen deng mlwydd oed (mewn clwt) allai fod wedi ei ystyried yn ddim ond plentyn bach dwy neu dair blwydd oed mewn meithrinfa ym Mhrydain. Roedd sgiliau motor bras y plant heb eu datblygu, ac roeddent yn meddu ar y nesaf peth i ddim o ran sgiliau motor manwl. Nid oeddent yn abl i ryngweithio’n gymdeithasol mewn unrhyw fodd ystyrlon, ac roeddent yn arddangos fawr ddim arwyddion o weithredu deallusol. Yn ystod camau cyntaf y prosiect roedd y tebygrwydd rhwng y plant yn yr astudiaeth yma a’r mwncïod yn astudiaeth Harlow yn amlwg: •

Roedd y ddau grŵp yn byw y tu ôl i fariau (mwncïod mewn cewyll; y plant wedi eu clymu i’w cotiau)

Roedd y ddau grŵp wedi eu magu dan amodau ble y gallent weld eu cyfoedion, ond nid oedd


wedi eu cam-drin a’u hesgeuluso’n ddifrifol, wedi sicrhau’r math o gynnydd ar eu taith at wella yr oedd llawer o arbenigwyr wedi cymryd fyddai’n amhosibl. Yn ystod cyfnod yr astudiaeth ymchwil yr unig newid ym mhrofiad bywyd y plant oedd y prosiect gwaith chwarae hwn. Felly, byddai’n rhesymol inni ofyn – pa elfen neu rinwedd o waith chwarae wnaeth gyfrannu at y newidiadau hyn? Ar wahân i rywfaint o waith penodol iawn oedd yn canolbwyntio ar agenda bersonol pob plentyn, y ffactor achosol mwyaf sylfaenol yn sicr oedd y ffaith bod gan y plant hyn bellach gyfeillion i chwarae â nhw – hynny, a’r esiampl a ddarparwyd gan weithwyr chwarae Menter White Rose, gafodd eu hannog i drin y plant â chariad a pharch bob amser.

Amddifadedd chwarae a ffurfiau eraill ar anfantais Bydd llawer o ddarparwyr chwarae sydd â bwriadau da, yn credu’n gyffredinol bod tlodi ac amddifadedd chwarae’n mynd law yn llaw â’i gilydd. O ganlyniad, gwariodd awdurdodau lleol, yn ogystal â grwpiau gwirfoddol, symiau mawr o arian ar osod offer chwarae yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.

modd iddynt chwarae na rhyngweithio â hwy mewn unrhyw fodd ystyrlon •

Roedd y ddau grŵp yn arddangos ymddygiadau siglo a gwau cymhellol ac ystrydebol yn ôl a blaen, yn ogystal ag osgoi cyswllt llygad, a rhythu i’r pellter

Roedd y ddau grŵp yn hunan-niweidio

Roedd y ddau grŵp yn ymddangos fel nad oedd eu doniau deallusol wedi eu niweidio, ar wahân i achosion pan oedd tystiolaeth o namau geni eraill

Pan oeddent yn yr ystafell chwarae am y tro cyntaf, byddai’r ddau grŵp yn gwrthod cyswllt agos â’u cyfoedion

Yn yr ystafell chwarae byddai’r ddau grŵp yn arddangos diffyg dealltwriaeth o reolau cymdeithasol

Yn yr ystafell chwarae byddai’r ddau grŵp yn arddangos ymddygiad afreolus ac anrhagweladwy.

Fodd bynnag, byddai’r ddau grŵp yn dangos budd o ryngweithio â babi (neu fwnci bychan) oedd yn mynd trwy gamau cyntaf ei ddatblygiad. Mewn llai na blwyddyn roedd y plant yma, oedd

Fodd bynnag, nid yw’n amlwg os yw’r cysylltiad rhwng amddifadedd chwarae a ffurfiau eraill o anfantais mor bwysig â hynny. Efallai bod rhywfaint o wirionedd yn y syniad bod rhieni mwy cefnog yn fwy tebygol o fynd â’u plant i weithgareddau ar ôl ysgol ond nid yw hynny, o reidrwydd, yn cwmpasu cymhlethdod llawn chwarae, ac ond yn cyfrif am tua un neu ddwy o oriau’r wythnos yn y mwyafrif o achosion. Beth am angen y plentyn i ymgysylltu â natur fel rhan o’i chwarae; i archwilio ei amgylchedd; i arbrofi â’i natur creadigol ei hun; i brofi rhyddid rhag goruchwyliaeth rhieni – yn fyr, yr holl elfennau sy’n ffurfio profiad chwarae cyflawn? Prin iawn yw’r astudiaethau sy’n delio â’r materion hyn. Fodd bynnag, mae un o’r astudiaethau prin yma’n canolbwyntio ar rai o’r plant tlotaf, mwyaf difreintiedig yn Ewrop, sef plant y Roma o Dransylfania. Ffocws yr astudiaeth yma oedd archwilio’n fanwl ffenomenon chwarae yn un o’r cymunedau bychan hyn. Mae’r astudiaeth gan Brown25 yn agor gyda dyfyniad o’i ddyddiadur ymchwil, sy’n crynhoi’n ddestlus themâu’r gwaith ymchwil. ‘Dyma fi, mewn pentref Roma yn Nhransylfania, yn meddwl os yw tlodi eu amgylchiadau’n effeithio ar ymddygiad chwarae’r plant. Dyma blant mwyaf difreintiedig Ewrop, o ran eiddo … Sut felly, mai’r plant yma yw’r plant hapusaf yr ydych yn debygol o’u cwrdd? (Dyfyniad o Ddyddiadur 5ed Awst 2009)’


Datgelodd astudiaeth Brown nifer o themâu, gafodd eu defnyddio’n hwyrach i sicrhau rhywfaint o gydlyniad i’r canfyddiadau. Roedd y themâu a ddynodwyd yn cynnwys: •

Y byddai’r plant yn chwarae yn unrhyw le a gydag unrhyw beth

Yr oedd ymgysylltiad eang â’r amgylchedd

Bod nifer fawr o enghreifftiau o greadigedd y plant

Bod y ddamcaniaeth rhannau rhydd26 yn amlwg iawn

Bod y plant yn cymryd rhan mewn llawer iawn o weithgarwch corfforol llawn hwyl

Bod gemau wedi eu lled-drefnu’n nodwedd rheolaidd

Bod y merched, yn benodol, yn treulio llawer o’u hamser yn cymryd rhan mewn gemau llafarganu

Beth mae hyn i gyd yn ei ddweud wrthym am y cysylltiad, neu’r diffyg cysylltiad, rhwng tlodi ac amddifadedd chwarae? Roedd yn gwbl amlwg bod y plant yn rhydd i archwilio ac arbrofi, ac roedd y doniau creadigol a welwyd yn sgîl hyn yn aml yn drawiadol. Mae’n ansicr os y cafodd eu sgiliau datrys problemau eu cyfoethogi ai peidio, ac mae’n debyg y byddai hyn yn galw am astudiaeth bellach. Cafodd ehangder a dyfnder eu rhwydweithiau cymdeithasol eu ehangu yn ystod eu chwarae. Gwelwyd llawer iawn o weithgarwch corfforol, â’i fuddiannau cysylltiedig o ran datblygiad sgiliau motor. Mae’n anorfod y bydd cymaint â hyn o ryngweithio a ddewisir o wirfodd â’r amgylchedd yn arwain at symbyliad deallusol. Roedd yn amlwg bod y plant, trwy eu rhyngweithio â nifer o’u cyfeillion chwarae, a’u defnydd dychmygus o’r amrywiaeth o rannau rhydd oedd ar gael yn y pentref, yn ymwneud ag elfennau o hunanddarganfyddiad. Mae’r rhain ymysg y plant tlotaf a mwyaf difreintiedig yn Ewrop, ac eto mae eu chwarae’n gyforiog o lawer o’r agweddau mwyaf sylfaenol o brofiad chwarae iach, er bod pryderon iechyd a diogelwch cysylltiedig ar gyfer plant fydd yn chwarae ar domenni sbwriel ac yn casglu’r mwyafrif o’u arteffactau chwarae o sgipiau. Dim ond casgliadau petrus y gellir eu ffurfio ar sail yr astudiaeth yma’n unig, ond yn sicr mae’n ymddangos nad yw’r cysylltiad rhwng tlodi ac amddifadedd chwarae cyn gryfed ag y byddem yn ystyried yn gyffredinol.

Amddifadedd chwarae: yr oblygiadau ar gyfer cymdeithas Ers dyddiau cyntaf dadansoddi seicolegol, a damcaniaethau cysylltiad ers hynny, crewyd cysylltiad rhwng profiadau plentyndod a phatrymau ymddygiad trwblus diweddarach mewn oedolion. Edrychodd Brown a Lomax27, yn eu hastudiaeth o lofruddion ifainc, ar y cysylltiad rhwng chwarae a niwrosisau mewn modd gwahanol – sef, chwarae fel ffactor achosol. Sbardunwyd eu hastudiaeth gan waith cynharach Brown ar achos Charles Whitman, y llofrudd drwg-enwog. Ym 1966 aeth Whitman, oedd yn ôl pob golwg yn berson ‘normal’, i mewn i dŵr oedd yn edrych dros gampws Prifysgol Texas, Austin, ac o’r fan honno saethodd 17 o bobl a’u lladd, ac anafu 41 arall. Stuart Brown gasglodd y data ymddygiadol ar gyfer y tîm oedd â’r dasg o chwilio am resymau ym mywyd Whitman am ei droseddau. Ffurfiwyd y tîm hwnnw o arbenigwyr o nifer o wahanol feysydd arbenigol, a’r syniad oedd bod angen iddynt lunio barn gytûn dros y rhesymau am weithredoedd Whitman. Roedd eu casgliadau’n rhai moel, ond trawiadol iawn, ar gyfer unrhyw astudiaeth ar amddifadedd chwarae: ‘Golygodd diffyg chwarae trwy gydol ei oes iddo gael ei amddifadu o gyfleoedd i ystyried bywyd ag optimistiaeth, i brofi atebion eraill, neu i ddysgu’r sgiliau cymdeithasol sydd, fel rhan o chwarae digymell, yn paratoi unigolion i ymdopi â straen bywyd. Daeth y pwyllgor i’r casgliad bod diffyg chwarae’n ffactor allweddol yng ngweithredoedd llofruddiol Whitman – pe bae wedi profi cyfnodau rheolaidd o chwarae digymell yn ystod ei fywyd, yn eu barn hwy, byddai wedi datblygu’r sgiliau, yr hyblygrwydd a’r nerth i ymdopi â sefyllfaoedd llawn straen heb droi at drais.’28 Ers hynny, mae Brown wedi astudio pobl o bob cefndir, o lofruddion i enillwyr Gwobr Nobel, gan fapio eu ‘hanes chwarae’. Yn achos llofruddion mewn carchardai yn Texas canfyddodd ‘bod absenoldeb chwarae yn ystod eu plentyndod cyn bwysiced ag unrhyw ffactor unigol arall wrth ddarogan eu troseddau.’29 Ar nodyn mwy cadarnhaol, canfyddodd hefyd y gallai plant oedd wedi eu cam-drin, oedd â thueddiad tuag at ymddygiad gwrth-gymdeithasol, weld yr ymddygiad hwnnw’n cael ei addasu trwy chwarae. Wrth gwrs, mae llawer o astudiaethau Brown yn ymwneud â phobl hynod o drwblus, ac yn sicr nid ydym yn awgrymu y bydd pob plentyn sy’n dioddef o gyfyngu ar eu chwarae’n tyfu fyny i fod yn llofrudd torfol. Er hynny, yn sicr dylai’r astudiaethau hyn ein hannog i feddwl yn ddwys am effaith


posibl amddifadedd chwarae ar unigolion, ac ar gymdeithas yn gyffredinol. Mae’r amddifadedd chwarae eang a ddynodwyd gan Hughes30 yn ffenomenon cymharol ddiweddar. Hyd yma, wyddon ni ddim yn iawn beth fydd yr effeithiau tymor hir. Fodd bynnag, mae gennym ddigon o dystiolaeth o

effeithiau amddifadedd chwarae difrifol ar unigolion, ac nid yw’n afresymol felly i feddwl y caiff ffurfiau ychydig yn ysgafnach o amddifadedd chwarae effaith negyddol ar seice cymdeithasol cyffredinol cymunedau Gorllewinol.

Cyfeiriadau 1. Sutton-Smith, B. (1999) Evolving a Consilience of Play Definitions: Playfully. Play and Culture Studies 2, 239-256 2. Webb, S. a Brown, F. (2003) Playwork in Adversity: Working with Abandoned Children. Yn: Brown, F. (gol.) Playwork: Theory and Practice. Buckingham: Gwasg Y Brifysgol Agored 3. Gill, T. (2007) No Fear: Growing Up in a Risk Averse Society. Llundain: Gulbenkian Foundation 4. Suomi, S. J. a Harlow, H. F. (1971) Monkeys without play. Yn Bruner, J. S., Jolly, A., a Sylva, K. gol. (1976) Play: Its role in development and evolution. Efrog Newydd: Basic Books 5. Knight, A. (2011) The Costs and Benefits of Animal Experiments. Basingstoke: Plagrave MacMillan 6. Monkeys without play. Play: Its role in development and evolution 7. Ibid 8. Brown, F. a Webb, S. (2005) Children without play. Journal of Education, no.35: 139-58 9. Monkeys without play. Play: Its role in development and evolution 10. Children without play. Journal of Education 11. Montessori, M. (1912) The Montessori Method, cyfieithwyd gan Anne Everett George. Efrog Newydd: Frederick A. Stokes & Company 12. Sunderland, M. (2006) What every parent needs to know. Llundain: Dorling Kindersley 13. Sutton-Smith, B. (1997) The Ambiguity of Play. Cambridge: Gwasg Prifysgol Harvard 14. Hughes, B. (2002) A Playworker’s Taxonomy of Play Types. (ail argraffiad). Llundain: PLAYLINK 15. Hughes, B. (2003) Play Deprivation, Play Bias and Playwork Practice. Yn F. Brown (gol.) Playwork – Theory and Practice. Buckingham: Gwasg Y Brifysgol Agored 16. Ibid

17. No Fear: Growing Up in a Risk Averse Society 18. Ibid 19. Hillman, M., Adams, J., a Whitelegg, J. (1990) One false move ... a study of children’s independent mobility. Llundain: Policy Studies Institute 20. No Fear: Growing Up in a Risk Averse Society 21. Hughes, B. (2000) A dark and evil cul-de-sac: has children’s play in urban Belfast been adulterated by the troubles? Traethawd MA heb ei gyhoeddi. Anglia Polytechnic University 22. Ibid 23. Einon, D.F., Morgan, M.J., a Kibbler, C.C. (1978) Brief period of socialisation and later behaviour in the rat. Yn: Developmental Psychobiology, 11, 3 24. Children without play, Journal of Education. 25. Brown, F. (2012) The Play Behaviours of Roma Children in Transylvania. International Journal of Play. Cyf.1 Abingdon: Taylor Francis 26. Nicholson, S. (1971) How not to cheat children, the theory of loose parts. Yn: Landscape Architecture Quarterly, Cyf. 62, Rhif 1, Hydref 1971, 30-34. Hefyd yn: Bulletin for Environmental Education, Rhif 12, Ebrill 1972. Llundain: Town & Country Planning Association 27. Brown, S. a Lomax, J. (1969) A pilot study of young murderers. Hogg Foundation Annual Report. Austin: Texas 28. NIfP (2011) Play deprived life – devastating result: a tortured soul explodes. [Rhyngrwyd], National Institute for Play. Ar gael ar: www.nifplay.org/whitman. html [Agorwyd 14 Mehefin 2011] 29. Brown, S. (2009) Play, how it shapes the brain, opens the imagination and invigorates the soul. London: Penguin 30. Play Deprivation, Play Bias and Playwork Practice. Yn F. Brown (gol.) Playwork – Theory and Practice.


Llyfryddiaeth ychwanegol Bowlby, J. (1944) Forty four juvenile thieves: Their characters and home life. International Journal of Psycho-Analysis, 25, 19-52, 107-127

Hughes, B. (2006) Play Types Speculations and Possibilities. Llundain: The London Centre for Playwork Education and Training

Brown, F. (2003a) Playwork: Theory and Practice. Philadelphia PA: Gwasg Y Brifysgol Agored

Klein, M. (1932) The psycho-analysis of children. Llundain: The Melanie Klein Trust

Hillman, M., Adams, J., a Whitelegg, J. (1990) One false move ... a study of children’s independent mobility. Llundain: Policy Studies Institute

Piaget, J. (1962) Play Dreams and Imitation in Childhood. Llundain: Routledge & Kegan Paul UNICEF (1991) Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Svenska: UNICEF Kommitten

Mawrth 2013 © Fraser Brown 2013 wedi ei ddal mewn ymddiriedolaeth wedi’i rannu ar y cyd rhwng Chwarae Cymru a’r Athro Fraser Brown

Ysgrifennwyd y daflen wybodaeth hon gan Fraser Brown ac mae wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

www.chwaraecymru.org.uk

Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.

Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru

Profile for Play Wales

Amddifadedd chwarae: ei effaith, y canlyniadau a photensial gwaith chwarae  

Mae’r daflen wybodaeth hon, a ysgrifennwyd gan Yr Athro Fraser Brown yn cynnig diffiniad o amddifadedd chwarae ac mae’n archwilio ei effaith...

Amddifadedd chwarae: ei effaith, y canlyniadau a photensial gwaith chwarae  

Mae’r daflen wybodaeth hon, a ysgrifennwyd gan Yr Athro Fraser Brown yn cynnig diffiniad o amddifadedd chwarae ac mae’n archwilio ei effaith...

Profile for playwales

Recommendations could not be loaded

Recommendations could not be loaded

Recommendations could not be loaded

Recommendations could not be loaded