Mae’r adroddiad effaith yn cynnig trosolwg o waith a chyflawniadau Chwarae Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf wrth eiriol dros chwarae plant. Mae’n cynnwys adrannau ar sut yr ydym wedi cefnogi blaenoriaethau cenedlaethol a sut yr ydym wedi ymgysylltu â’n cynulleidfa, darparu cyfleoedd a chynhyrchu cyhoeddiadau i sicrhau bod y gweithlu chwarae yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf, a sut yr ydym wedi cydweithio’n lleol ar draws Cymru.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys rhagair gan Gadeirydd Chwarae Cymru, Dr Mike Shooter CBE, yn ogystal ag adran ar ein cynlluniau i’r dyfodol i barhau i gefnogi a hyrwyddo chwarae plant er mwyn creu Cymru sy’n chwarae-gyfeillgar.