Page 1

April 2018

Rhagfyr 2018


#CareForMeToo

Nadolig Llawen oddi wrth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru! Croeso i e-fwletin mis Rhagfyr. Mae’r ffocws y mis hwn ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc a gynhelir ar 31 Ionawr 2019. Bob blwyddyn, mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn trefnu Diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc. Mae bod yn ofalwr ifanc yn ffactor risg o ran iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Dyna pam y bydd Diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc 2019 yn canolbwyntio ar iechyd meddwl. Bydd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn cefnogi ymgyrch#CareForMeToo. Mae misoedd prysur o’n blaenau gan fod Seminar Maeth a’r Blynyddoedd Cynnar yn digwydd ar 6 Chwefror 2019 a’n cynhadledd flynyddol yn cael ei chynnal ar 26 Mawrth 2019. Cynhelir Digwyddiad Arddangos blynyddol Ymchwil yng Nghymru yn Adeilad Hadyn Ellis ar 13 Mawrth 2019. Bydd manylion yr holl ddigwyddiadau hyn ar gael yn fuan a chânt eu lledaenu i holl aelodau’r Rhwydwaith.

@PHNetworkCymru

Cysylltwch â ni gydag unrhyw wybodaeth yr hoffech i ni ei chynnwys ar y wefan neu yn yr e-fwletin trwy gysylltu â ni yn publichealth.network@wales. nhs.uk


Diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc 2019 Dan Sylw

Nod Diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc yw adnabod a chodi ymwybyddiaeth o’r 700,00 godi ymwybyddiaeth, ein gobaith yw y bydd yn eu helpu i gael y gefnogaeth sydd ei hangen

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi arwain ar ddarn gymorth ar ofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc er mwyn i’w llais gael ei glywed a’u p

Yng Nghymru, mae gormod o ofalwyr ifanc yn parhau i deimlo’n unig ac wedi eu hynysu ac m

Gall gwasanaethau gofalwyr ifanc a gweithwyr proffesiynol eraill edrych ar #CareForMeToo a https://carers.org/young-carers-awareness-day-2019-wales


w

00 o ofalwyr ifanc ar draws y DU sy’n gofalu am aelod o’r teulu sydd yn sâl neu’n anabl. Trwy n arnynt gymaint.

nau allweddol o ymchwil l i Lywodraeth Cymru sydd wedi dangos yn glir bod angen mwy o pryderon i gael eu cydnabod gan weithwyr proffesiynol.

mae hyn yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd a’u lles meddwl.

am fwy o wybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i gymryd rhan yn yr ymgyrch hwn.


Gofalwyr ifanc Mae gofalwyr ifanc yn blant neu’n bobl ifanc sy’n ysgwyddo rôl arwyddocaol mewn gofalu am aelod o’r teulu. Gallai’r aelod o’r teulu fod yn dioddef problem iechyd corfforol neu feddyliol, anabledd neu broblemau cyffuriau ac alcohol. Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn cynnal gwaith mewn perthynas â gofalwyr ifanc ers 2002, pan gawsom ein gwahodd i ymuno â grŵp Ymgynghorol Strategaeth Gofalwyr Llywodraeth Cymru, i edrych ar sut gallai gofalwyr ifanc gael eu cynnwys yn weithgar yn y Strategaeth Gofalwyr. Mae Plant yng Nghymru yn credu bod gwaith i gefnogi gofalwyr ifanc yn hanfodol gan fod y bobl ifanc hyn ynghudd yn aml. Efallai na fydd gofalwyr ifanc yn cydnabod bod eu rôl o fewn y teulu yn wahanol i blant a phobl ifanc, ond yn aml maen nhw’n cario beichiau corfforol a seicolegol sylweddol. Yn aml ychydig neu ddim amser sydd gan ofalwyr ifanc iddyn nhw eu hunain ac mae’n gallu ymddangos fel petaent yn colli eu plentyndod. Mae gwaith presennol Plant yng Nghymru yn y maes hwn yn cynnwys: • Hwyluso Rhwydwaith Gofalwyr Ifanc • Eistedd ar weithgorau Llywodraeth Cymru i gynrychioli gofalwyr ifanc • Cefnogi prosiectau i gydweithio i ddatblygu gweithgareddau ar gyfer gofalwyr ifanc • Cynnal gwaith ymgynghorol ar ran Llywodraeth Cymru Am fwy o wybodaeth am unrhyw rai o’r materion hyn cysylltwch â: Lynne Hill, Cyfarwyddwr Polisi, ffôn: 029 2034 2434, e-bost: lynne.hill@childreninwales.org.uk

The Bear who Struggled to Care Ym mis Medi 2017, dechreuodd Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr gynnal Prosiect Ysgolion Gofalwyr Ifanc lle byddent yn mynd i mewn i ysgolion ac yn codi ymwybyddiaeth o rôl gofalwr ifanc. Canfuwyd bod plant iau yn ei chael hi’n anodd deall beth oedd gofalwr ifanc. Er mwyn goresgyn hyn, penderfynwyd defnyddio llyfr stori, ond wrth ymchwilio i hyn, sylweddolwyd nad oedd llyfr ar gael am ofalwyr ifanc. Trafodasant y mater hwn gyda grŵp Gofalwyr Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr a phenderfynwyd y byddent yn ysgrifennu un eu hunain. Gweithiodd deg gofalwr ifanc 9 - 25 oed gydag awdur a darluniwr dros chwe wythnos i greu ‘The Bear who Struggled to Care’. Mae’r llyfr yn dilyn stori Ben ac Ellie sydd yn ofalwyr a’r heriau y maent yn eu hwynebu. Mae’r llyfr bellach ym mhob ysgol gynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae copïau wedi cael eu prynu i bob ysgol ym Mro Morgannwg yn ddiweddar hefyd. Mae’r llyfr ar gael am £4.99 ac mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg trwy fynd i wefan Canolfan Gofalwyr Peny-bont ar Ogwr.


Cefnogi Byw ochr yn ochr â Gofalu – 19/06/19, Bangor Rhoi grym i Ofalwyr mewn Addysg a Gwaith Fel rhan o ddathlu Wythnos Gofalwyr 2019, bydd Canolfan Ehangu Mynediad Prifysgol Bangor, Ymestyn yn Ehangach a’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn cynnig cynhadledd yn canolbwyntio ar gefnogi gofalwyr mewn addysg a gwaith. Bydd y digwyddiad yn cynnwys rhai sy’n gyfrifol am benderfyniadau yn y maes, pobl broffesiynol byd addysg, cyflogwyr a gofalwyr er mwyn ystyried dulliau effeithiol o adnabod a chefnogi gofalwyr. Bydd anerchiadau cychwynnol gan rai o’r byd academaidd, gwleidyddion ac uwch gynrychiolwyr o sefydliadau gofalwyr arbenigol, cenedlaethol. Dilynir gan weithdai ymarferol yn canolbwyntio ar ddulliau o gefnogi gofalwyr mewn ystod o gyd-destunau megis: Addysg Bellach, Addysg Uwch, Ysgolion Uwchradd ac yn y byd gwaith. Bydd y digwyddiad yn cael ei noddi gan Brifysgol Bangor ac Ymestyn yn Ehangach a’r cyntaf i’r felin fydd hi o ran cael lle. Bydd tocynnau ar gael drwy Brifysgol Bangor yn y flwyddyn newydd.

Gofalu am rywun chefnogaeth i ofalwyr

gwybodaeth

a

Mae rhifyn Gyrfa Cymru o ‘Edrych ar ôl rhywun: Gwybodaeth a chymorth ar gyfer gofalwyr’ yn ganllaw ar gyfer unrhyw un sy’n gofalu am deulu neu ffrindiau. Mae’r canllaw yn amlinellu hawliau gofalwr ac yn rhoi trosolwg o’r cymorth ymarferol ac ariannol sydd ar gael. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys Canllaw i Ofalwyr, cyflwyniad i heriau gofalu, o wneud penderfyniadau anodd i ofalu am eich iechyd a’ch lles eich hun. • Mae’r daflen ffeithiau hon yn cynnwys gwybodaeth ar • Budd-daliadau : trosolwg o ba budd-daliadau efallai y byddwch chi neu y berson rydych yn gofalu am yn gallu hawlio a gwybodaeth am sut i gael archwiliad budddaliadau • Help ariannol arall: gan gynnwys help gyda’r cymorth treth cyngor, costau tanwydd, pensiynau a chostau iechyd • Cymorth ymarferol: yn cgynnwys asesiadau gofal cymunedol, asesiad anghenion gofalwyr a taliadau uniongyrchol • Technoleg: gwybodaeth ar technoloeg gofal iechyd a allai wneud bywyd yn haws i chi a’r person yr ydych yn gofalu amdano • Eich gweithle: eich hawliau yng nghwaith fel hawliau gweithio hyblyg • Cymorth arall: sut i ddod o hyd i help arall yn eith cymuned neu yn genedlaethol Canllaw Gofalwr: cyflwyniad darluniadol i heriau gofal, fel gwneud penderfyniadau anodd i ofalu am eich iechyd a lles.


Raising Awareness of Young Carers

Ideas for activities and lessons Outcomes for pupils l

l

l

l

Pupils will understand if they are a young carer and how to get help. Pupils will learn who young carers are and the sorts of caring responsibilities they may have. Pupils will learn the barriers and challenges faced by young carers and the impact, both positive and negative, of being a young carer. Pupils will gain insight into how young carers may feel.

Ten minute activities!

Ideas for an assembly or any ten minute slot! Play lifeinaspin.org/intro. l Run the Young Carer Quiz. l Invite a local young carers service to deliver an assembly or short talk. l

30 minute activities! Use one of the case studies as the basis for short role play scenarios in PSHE/PSE or drama lessons. l Create your own True/False quiz using the Carers Trust resources and the internet. l Read the case studies and/or other resources and write a ‘Day in the Life of a Young Carer’ in diary form or timetable format (06:00 Get up and make breakfast for Mum). Include the responsibilities, thoughts and feelings that a young carer may have. l

Teachers notes l

l

l

l

Raising awareness of young carers among pupils may encourage some pupils to consider issues relating directly to themselves for the first time. Carers Trust recommends support is readily available and promoted for pupils if required. By discussing these issues as part of the curriculum, the aim is to create a more accepting and understanding environment where young carers feel safe and confident to share their stories and where they are accepted for who they are and supported by peers. The message that young carers are first and foremost young people and that anyone could become a carer, should be paramount. Young Carers in Schools is a free initiative in England and Wales that makes it as easy as possible for schools to support young carers, and awards good practice. See www.youngcarersinschools.com.

Resources to use in the classroom l

l

l

l

Life in a Spin game: Our online game to encourage pupils to think about being in the shoes of a young carer. Suitable for individual pupils to play. Find it at lifeinaspin.org/intro. The Young Carer Quiz! How much do pupils know about young carers? Young Carer Case Studies: Real life stories from young carers to promote discussion. Be an Agony Aunt for a Young Carer!: Pupils can read and respond to a selection of problems from young carers.

50 minute activities! Invite your local young carers service to deliver a lesson about young carers. A young adult carer may be able to attend to talk about their experience. Visit Carers.org to find your nearest service. l Create your own infographic or poster about young carers. Use our infographic, case studies and the internet to research information. l Choose a case study, then draw a mind map of the young carer’s family in the centre of a page. In mind map form, write down different challenges a young carer and their family may be facing. Add to the map how you think each family member could be supported. If you have time, watch the Life in a Spin game at lifeinaspin.org/intro to help you, or visit Carers.org. l Research activity. Use the resources and the internet to research and present ten facts about young carers. Include the following: What do young carers do? How might being a carer affect a young person? What support is available for young carers? l Read Be an Agony Aunt for a Young Carer! Choose one problem and write a response to the young carer. l

Information

Watch the film and support Young Carers in Schools https://youngcarersinschools.com/

Carers Trust is a registered charity in England and Wales (1145181) and in Scotland (SC042870). Registered as a company limited by guarantee in England and Wales No. 7697170. Registered office: 32–36 Loman Street, London SE1 0EH. © Carers Trust 2018.


Gwyliwch, Gwrando a Dysgu Podlediadau


Ar y grawnwin

Ymagwedd Seicoleg Gadarnhaol ysgafn i wella lles yn y gweithle

Mae ffigurau cynyddol yr unigolion sy’n dioddef anhwylderau iechyd meddwl yn y gwaith a chostau cynyddol yr anhwylderau hyn, wedi arwain at fentrau gan Lywodraeth y DU sydd yn ceisio rhoi’r offer gorau i gyflogwyr i gefnogi unigolion yn y gwaith. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau, mae angen i’r ymyriadau hyn fod yn seiliedig ar dystiolaeth i helpu i gefnogi unigolion sydd mewn gwaith i ffynnu. Un strategaeth i gynyddu ffyniant yn y gweithle, sydd yn ymagwedd ysgafn ar draws y boblogaeth tuag at newid, yw Seicoleg Gadarnhaol. Seicoleg Gadarnhaol yw’r astudiaeth wyddonol o ffyniant dynol, sydd yn astudio’r cryfderau a’r rhinweddau sydd yn galluogi unigolion i ffynnu. Yn benodol, yn y gweithle mae’n canolbwyntio ar ddwy brif boblogaeth: Absennol a Phresennol. Absennol yw’r unigolion sydd i ffwrdd o’r gwaith yn yr hirdymor oherwydd salwch, tra bod y rhai Presennol yn y gwaith, ond yn cael anhawster. Un o brif nodau ymyriadau Seicoleg Gadarnhaol yn y gweithle yw cynyddu ffyniant yn y gweithle. Ffyniant yw’r sylweddoliad bod bywyd yn fwy nag absenoldeb salwch meddwl. Er mwyn ffynnu, mae Seligman yn dadlau bod pum elfen i gynyddu hapusrwydd. Caiff y rhain eu hesbonio ym model PERMA ac maent fel a ganlyn: Emosiwn Cadarnhaol, Ymgysylltu, Perthynas Ystyrlon, Ystyr a Chyflawniadau. Un ffordd o ffynnu, gwella ysgogiad, cynyddu cynhyrchiant, meithrin cadernid ac yn y pen draw, lleihau’r diwrnodau a gollwyd yn y gwaith yw canolbwyntio ar ddatblygu’r pum egwyddor hyn. Dros y 15 mlynedd diwethaf, Mae Seicoleg Gadarnhaol wedi datblygu cyfres o ymyriadau ysgafn, gyda’r nod o gynyddu ffyniant (Ymyriadau Seicoleg Gadarnhaol; PPI). Un enghraifft o PPI yw ymyrraeth dyddiadur, lle mae unigolion yn nodi eu profiadau dros wythnos, sydd wedi dangos ei fod yn cael effeithiau sylweddol ar lesiant. Mae’r rhain wedi profi i fod yn effeithiol wrth ganolbwyntio ar ‘3 Pheth Da’ sydd wedi digwydd bob dydd ynghyd â’u rhinweddau achosol, nodi digwyddiadau y mae rhywun yn ddiolchgar amdanynt a defnyddio cryfderau cynhenid person. Yn ogystal, mae dyddiadur ‘Affeithiol Cadarnhaol’ hefyd wedi cael ei roi ar waith yn y gweithle, sydd yn rhoi buddion tebyg.

Yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn gweithio gyda Strategaeth Dinas y Rhyl (RCS), menter gymdeithasol leol gyda’r nod o leihau salwch yn y gweithle. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, gyda’n gilydd, rydym wedi datblygu ‘pecyn cymorth’ o PPI ysgafn. Mae’r rhain yn cynnwys yr ‘ymyriadau dyddiadur’ y soniwyd amdanynt yn flaenorol, a ddyluniwyd i ganolbwyntio naill ai ar gyflawni anghenion seicolegol i wella ysgogiad, fel yr amlinellir gan y Ddamcaniaeth Hunanbenderfyniad, cyfeiriad rheolaeth neu bryder neu ddigwyddiadau cyffrous. Canfu dadansoddiad fod yr ymyriadau dyddiadur hyn yn cael rhai effeithiau buddiol ar les, cadernid ac ysgogiad cynhenid. Yn ogystal, cafodd cwrs Seicoleg Gadarnhaol, 6 wythnos newydd o’r enw BOOST! ei greu a’i roi ar waith ymysg poblogaethau di-waith ar draws Gogledd Cymru. Yn benodol ymysg yr unigolion sydd wedi cymryd rhan yn y cwrs, mae cyfran naill ai wedi cael gwaith neu gyfleoedd gwirfoddoli, ac mae’r unigolion yn priodoli’r llwyddiant i gymryd rhan yn y cwrs. Mae’r gwaith hwn yn dangos addewid ar gyfer datblygu ymyriadau ysgafn pellach fel strategaethau ymyrraeth gynnar i frwydro yn erbyn presenoldeb ac absenoldeb. Kate Isherwood, ymchwilydd PhD, Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor


Diwrnod Amser i Siarad 2019 Mae Amser i Newid yn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn Niwrnod Amser i Siarad (Dydd Iau 7 Chwefror 2019). Dyma un diwrnod o’r flwyddyn y mae Amser i Newid yn ceisio cael y genedl i siarad am eu problemau iechyd meddwl. Mae’r Diwrnod Amser i Siarad hwn yn ymwneud â dod â’r elfennau cywir ynghyd er mwyn cael sgwrs am iechyd meddwl. P’un ai bod hynny’n de, bisgedi a ffrindiau agos neu ddosbarth yn llawn myfyrwyr yn herio stigma iechyd meddwl, anogwch eich ysgol i siarad. Gydag 1 mewn 10 o bobl ifanc yn profi problem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn – mae hynny’n dri myfyriwr ym mhob dosbarth – mae’n bwysig parhau i gefnogi sgyrsiau agored yn eich ysgol. Cofrestrwch eich ysgol i dderbyn chatterbox sydd yn llawn gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol. Os byddwch yn ymuno, fe gewch e-bost ym mis Ionawr gyda chynllun gwasanaeth. Cofrestrwch nawr https://www.time-to-change.org.uk/order-your-materials-time-talkday


DIGWYDDIAD ARDDANGOS IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Dod ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghyd: Chwyldro mewn Trawsnewid Dydd Iau 8 Mawrth 2018 09:30 – 16:00 Adeilad Hadyn Ellis Caerdydd Mae Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol yn cynnal digwyddiad fydd yn dod ag ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd ar draws ICC, sectorau academaidd a sefydliadau eraill. Am y tro cyntaf yn y digwyddiad hwn, bydd sesiwn grŵp lle bydd gennych yr opsiwn i fynychu cyfres o sgyrsiau yn ymwneud â naill ai ‘Iechyd Digidol a Data Mawr’ neu ‘Hybu Ymddygiad Iach’. Bydd cyfle i gyflwyno crynodeb ar ffurf poster wrth gofrestru! Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM ac mae’n agored i holl staff Iechyd Cyhoeddus Cymru a chydweithwyr â diddordeb mewn ymchwil iechyd cyhoeddus.

@PHRWales #RIW2019 I neilltuo lle, ewch i Eventbrite drwy glicio yma E: Iechydcyhoedduscymru.ymchwil@wales.nhs.uk        T: 02920104452


Clywed Si

Gallai ymarfer corff helpu bregusrwydd: astudiaeth

i

wrthdroi

Yn yr astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd yn y British Journal of General Practice, cynhaliodd ymchwilwyr o Ddulyn adolygiad systematig ar astudiaethau yn ymwneud ag ymyriadau bregusrwydd.

Cyfraddau hunanladdiad ymysg dynion yng Nghymru yn ‘argyfwng cenedlaethol’ Dylai bod ffocws mawr ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol er mwyn lleihau nifer yr hunanladdiadau, dywed y pwyllgor iechyd, gofal cymdeithasol a chwaraeon.

Argyfwng hyder ymysg merched cynradd yn eu hatal rhag bod yn egnïol Mae data a gyhoeddwyd gan yr elusen plant, Youth Sport Trust (YST) yn dangos bod argyfwng hyder ymysg merched yn eu hatal rhag bod yn egnïol mor ifanc â saith oed.

Ymgyrch Make Your Mark Mae 1,106,788 o bobl ifanc wedi cymryd rhan yn Ymgyrch Make Your Mark eleni, sy’n ei wneud yn un o’r ymgynghoriadau ieuenctid mwyaf o’i fath yn hanes y DU, gydag 1 mewn 5 o’r holl bobl ifanc 11-18 oed yn cymryd rhan.

Astudiaeth WELCOM Mae WELCOM yn astudiaeth sydd yn archwilio’r cysylltiadau ar draws patrymau cymudo, bodlonrwydd teithio, lles goddrychol a chyffredinol.


Alcohol Plant a phobl ifanc Cymunedau addysg yr amgylchedd Gamblo rhyw digartrefedd ffordd o fyw iechyd mamau a’r newydd-anedig iechyd meddwl Clefydau anhrosglwyddadwy maeth pobl hyn iechyd y geg rhieni Pobl ag anableddau fferylliaeth gweithgaredd corfforol Polisi tlodi carcharorion ymchwil a thystiolaeth iechyd rhywiol rhywioldeb ysmygu camddefnyddio sylweddau diweithdra cyn-filwyr trais A chamdriniaeth gwaith


Beth sy’n digwydd ym mis

Ionawr 1

2

3

4

7

8

9

10

11

14

15

16

17

18

24

25

Gweithio gyda Grŵpiau

Rhoi Cymru Iachach ar Waith

Caerdydd

Caerdydd

21

28

22

29

23

Gwella Iechyd a Lles Meddwl

Rhoi Plant yn Gyntaf

Brwsel

Llundain

30

31 Cynhadledd Genedlaethol Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Llundain


CADWCH Y DYDDIAD ‘Dull am Oes’ – Maeth yn y Blynyddoedd Cynnar Dydd Mercher 6 Chwefror 2019 9.30-3.30pm Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (Campws Llandaf)


Yn y Rhifyn nesaf Iechyd Mudwyr

Profile for Public Health Network Cymru

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Rhagfyr 2018  

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Rhagfyr 2018  

Profile for phwprid