Page 1

Mehefin 2017


Croeso i’r e-fwletin Croeso i rifyn mis Mehefin o e-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Y testun dan sylw’r mis yma yw Gordewdra Plant. Cynhelir yr wythnos o 3 Gorffennaf i 9 Gorffennaf 2017. Erbyn 11 oed, mae dros 40% o blant Cymru naill ai’n ordew neu dros bwysau. Dengys ymchwil fod y mwyafrif helaeth o blant gordew yn tueddu i dyfu i fyny i fod yn oedolion gordew. Mae gordewdra yn cael effaith sylweddol ar yr economi. Yn 2011, amcangyfrifwyd bod gordewdra yn unig yn costio £73m i’r GIG yng Nghymru, gyda rhwng £1.4m a £1.65m yn cael ei wario bob wythnos ar drin clefydau sydd yn deillio o ordewdra. Mae Lucy Griffiths, aelod o’r Grŵp Cynghori, yn siarad â ni am ei meysydd arbenigedd hi mewn Ymchwil ac Iechyd Plant. Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau ein sioe deithiol flynyddol ledled Cymru sydd wedi cael adborth cadarnhaol. Rydym wrthi’n trafod ein seminar nesaf, bydd manylion hyn yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf. Yn olaf, os oes gennych unrhyw newyddion neu eitemau am ddigwyddiadau yr hoffech iddynt gael eu cynnwys yn rhifyn mis nesaf, anfonwch e-bost publichealth.network@ wales.nhs.uk


@PHNetworkcymru

/publichealthnetworkcymru

www.publichealthnetwork.cymru


Pwysau


ein Dyfodol Sylw i Ordewdra Plant

Mae’r e-fwletin y mis yma’n canolbwyntio ar Ordewdra Plant. Yn 2016, lansiodd swyddogion iechyd yng Nghymru rhestr wirio 10 cam i fynd i’r afael â gordewdra plant. Mae un mewn pedwar o blant yng Nghymru dros bwysau neu’n ordew pan fyddant yn dechrau’r ysgol. Mae’r 10 Cam i Bwysau Iach yn amlinellu camau cadarnhaol i atal y broblem. Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru ei fod eisiau i bob plentyn sydd wedi ei eni yng Nghymru i fod â phwysau iach pan fyddant yn cael eu pen-blwydd yn bump oed. Mae’r cyngor yn canolbwyntio ar dri ystod oedran gwahanol - cyn cenhedlu a beichiogrwydd, 0-2 oed a 2 - 5 oed. Mae wedi ei ddylunio i gefnogi gweithwyr proffesiynol ac i helpu teuluoedd ar draws Cymru i atal problem gynyddol gordewdra.


Gordewdra Plant yng Nghymru

Claire Beynon, Cofrestrydd Arbenigol, Iechyd Cyhoeddus Cymru Mae gordewdra plant yn fater iechyd y cyhoedd sylweddol ac amcangyfrifir bod gordewdra yn costio £5.1biliwn i’r GIG yn flynyddol ac mai 12% yw mynychder gordewdra plant yng Nghymru. Mae plant sydd yn ordew yn profi mwy o broblemau cymdeithasol ac emosiynol na phlant â phwysau iach. Gall canlyniadau hyn o ran iechyd pan yn oedolion gynnwys diabetes math 2, clefyd y galon, rhai canserau, clefyd yr iau a phroblemau gyda symudedd. Fel rhan o’m hyfforddiant arbenigol gwnes astudiaeth yn defnyddio data Arolwg Iechyd Cymru o 2008 i 2013 i bennu pa ffactorau risg oedd yn gysylltiedig â gordewdra plant. Defnyddiodd y dadansoddiad set ddata mawr o 11,279 o blant 4–15 oed. Cafodd amrywiadau eu hystyried mewn dau grŵp: ffactorau demograffig-cymdeithasol/economaidd-gymdeithasol (argaeledd cyfyngedig i newid y ffactorau hyn) ac amrywiadau ffordd o fyw (posibilrwydd o newid y ffactorau hyn). Roedd y ffactorau demograffig-cymdeithasol ac economaidd-gymdeithasol yn cynnwys: rhyw, oed, cwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru; Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol a deiliadaeth tai. Roedd yr amrywiadau ffordd o fyw a ystyriwyd fel ffactorau risg posibl ar gyfer gordewdra yn cynnwys: yfed diodydd wedi eu melysu’n ddyddiol; bwyta bwyd afiach h.y. bwyta creision, sglodion, melysion neu siocledi’n ddyddiol a bodloni’r canllaw gweithgaredd corfforol o awr o weithgaredd corfforol y dydd. Yn ogystal, cafodd statws iechyd y plentyn ei ystyried (sawl salwch oedd yn cael ei drin ar y pryd). Roedd cyfanswm o 1,582 o blant (19.6%) yn ordew. Y ffactor risg pwysicaf y gellir ei addasu oedd gweithgaredd corfforol. Roedd 33% yn fwy o risg o ordewdra ar gyfer plant nad ydynt yn bodloni’r argymhelliad o awr o weithgaredd corfforol y dydd. Ceir tystiolaeth gref fod bod yn egnïol yn gorfforol yn amddiffyn rhag gordewdra ac mae’r astudiaeth hon yn helpu i ategu pwysigrwydd pob plentyn yn bodloni’r argymhellion gweithgaredd corfforol. Dylai Arbenigwyr ar Ymarferwyr Iechyd y Cyhoedd sydd yn gysylltiedig â chomisiynu a chynllunio gweithgaredd corfforol ar gyfer plant gydnabod bod hyn yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r agenda ataliol a lleihau gordewdra yn y dyfodol. Canfu’r astudiaeth hefyd gysylltiad â salwch sy’n cael ei drin ar y pryd: cynnydd o 20% yn y perygl o ordewdra ar gyfer plant ag un salwch sy’n cael ei drin, a chynnydd o 50% yn y perygl o ordewdra ar gyfer plant â dau salwch neu fwy sy’n cael eu trin. Cefnogir hyn gan y llenyddiaeth sydd wedi ei gyhoeddi lle mae astudiaethau o salwch unigol a gordewdra yn nodi canlyniadau tebyg. Mae goblygiadau sylweddol yn hyn o beth i’r ffordd y mae’r GIG yn trin plant â salwch. Yr argymhelliad o’r astudiaeth hon yw y dylai plant â salwch gael cynllun gofal holistaidd sydd nid yn unig yn mynd i’r afael â’r salwch ond sydd hefyd yn helpu plant i atal neu reoli gordewdra. Ar gyfer y rheiny sydd yn comisiynu neu’n cynllunio Gwasanaethau Plant, mae’n bwysig ystyried hyn. Ydych chi’n comisiynu gwasanaethau holistaidd ar gyfer plant sydd yn mynd i’r afael â gordewdra hefyd? Cyhoeddir yr astudiaeth lawn yn y Journal of Nursing Children and Young People yn 2017 neu gallwch weld y crynodeb yn y Lancet Risk factors associated with childhood obesity in Wales: a secondary analysis of cross-sectional data from the Welsh Health Survey, neu chwiliwch ‘Lancet Claire Beynon Obesity’.

Prosiect newydd Ffit yn 5 yn ysbrydoli iechyd a llesiant Fel rhan o ymrwymiad parhaus i wella Iechyd a Llesiant disgyblion ysgol gynradd , mae prosiect newydd wedi cael ei lansio i roi mwy o gyfleoedd i ddatblygu eu hiechyd corfforol. Enw’r prosiect yw Ffit yn 5 ac mae’n gofyn i ysgolion wneud 5 munud o weithgaredd corfforol bob dydd yn yr ysgol – yn ogystal ag amserau chwarae a gwersi Addysg Gorfforol. Y llynedd, cyflwynodd ysgol yn yr Alban y Filltir Ddyddiol i gynyddu gweithgaredd corfforol plant. Yng Ngheredigion, mae Ceredigion Actif wedi bod yn trafod gydag athrawon mewn cyfarfod Ysgolion Iach parthed cynnal prosiect tebyg, ac wedi cael adborth gwerthfawr. Mae Ceredigion Actif wedi gweithio gydag


Ysgol Llwyn Yr Eos i ddatblygu ‘ymagwedd debyg’ oedd yn haws i’w gweithredu a’i chynnal ond yn bwysicach, oedd yn sicrhau cynhwysiant a datblygiad Llythrennedd Corfforol disgyblion. Dywedodd Lucy Davies, cydlynydd Cyfnod Sylfaen Ysgol Llwyn Yr Eos, “Bydd llawer o fuddion i gymryd rhan yn y rhaglen hon yn cynnwys gwella llesiant corfforol a meddyliol a lefelau canolbwyntio disgyblion. Bydd y fenter hon yn caniatáu i ddisgyblion deimlo’n dda am eu hunain wrth iddynt chwilio am gyfleoedd newydd a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau corfforol yn ddyddiol.” Gall disgyblion gymryd rhan o dan do mewn neuadd neu yn yr awyr agored ar iard neu mewn cae. Gallai hyn fod ar unrhyw adeg o’r dydd gan i’r ysgolion sy’n gysylltiedig â’r cynllun peilot nodi adegau amlwg pan oedd gostyngiad yn lefelau canolbwyntio ddiwedd y bore a chanol y prynhawn. Dywedodd Alwyn Davies, Ceredigion Actif, “Fel ymagwedd syml ac arloesol i wella iechyd a llesiant plant yn ystod y diwrnod ysgol, y gobaith yw y bydd ysgolion cynradd Ceredigion yn cymryd rhan yn Ffit yn 5. Nid oes angen unrhyw amser gosod, offer nag amser newid (mae’r disgyblion yn rhedeg/cerdded yn eu gwisg ysgol), a gellir addasu menter syml Ffit yn 5 i gyd-fynd ag anghenion pob ysgol gynradd. Rydym yn credu bod hon yn ffordd effeithiol a chynaliadwy o sefydlu prosiect tebyg i’r Filltir Ddyddiol gyda mwy o fuddion.” Crëwyd fideo byr i amlinellu’r buddion hyn a sut caiff y prosiect ei redeg a gellir ei weld yma: http://www.ceredigionactif.org.uk/programmes.html Dymuna Ceredigion Actif glywed gan ysgolion sydd â diddordeb yn cymryd rhan yn y prosiect newydd, cyffrous hwn ar gyfer iechyd a llesiant plant y sir. Cymerwch ran ac ewch i www.ceredigionactif.org.uk i ymuno ar-lein a bydd un o swyddogion Ceredigion Actif mewn cysylltiad â’ch ysgol chi.


Pob Plentyn Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio Pob Plentyn, ymgyrch newydd i wella iechyd a lles plant yn y blynyddoedd cynnar. Every Child Wales will bring together a range of new and existing programmes which aim to support parents in giving children a happy and healthy start in life. The new programme will start by focusing on the 10 Steps to a Healthy Weight. Bydd Pob Plentyn yn dwyn ynghyd amrywiaeth o raglenni hen a newydd sy’n anelu at gefnogi rhieni i sicrhau bod plant yn cael dechrau hapus ac iach mewn bywyd. Bydd y rhaglen newydd yn dechrau drwy ganolbwyntio ar 10 Camau i Bwysau Iach. Bydd gwybodaeth am yr ymgyrch Pob Plentyn a’r rhaglenni a fydd yn rhan ohoni ar gael cyn bo hir drwy wefan genedlaethol. Mae’r neges gyffredinol yn canolbwyntio ar hawliau pob plentyn yng Nghymru i gael y dechrau gorau mewn bywyd. Os yw plant yn dechrau eu blynyddoedd cyntaf yn iach ac yn hapus, maent yn fwy tebygol o dyfu’n oedolion iach. Y Rhaglen 10 Camau i Bwysau Iach Datblygodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y rhaglen 10 Cam fel cam cyntaf rhaglen Atal Gordewdra Cymru. Deg cam sy’n seiliedig ar dystiolaeth yw’r rhain, y mae astudiaethau Cohort yn awgrymu sydd fwyaf tebygol o helpu i atal plant rhag bod yn ordew erbyn iddynt gyrraedd 5 oed. Mae’r camau yn dechrau cyn beichiogi ac yn mynd ymlaen drwy gydol blwyddyn gyntaf bywyd i’r cyfnod cyn-ysgol. Mae’r wefan yn darparu offer a syniadau ymarferol i rieni a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd. 10 cam i bwysau iach Cam 1: Ceisiwch gynnal pwysau iach pan fyddwch yn dechrau teulu • Os ydych chi fel rhieni yn cynnal pwysau iach mae eich plentyn yn fwy tebygol o gynnal pwysau iach hefyd. Cam 2: Dylech osgoi magu gormod o bwysau pan fyddwch yn feichiog • Nid yw beichiogrwydd yn amser da i geisio colli pwysau, ond mae sicrhau eich bod yn magu pwysau o fewn lefelau a argymhellir yn syniad da ar gyfer eich iechyd chi ac iechyd eich babi. Cam 3: Bwydwch eich babi ar y fron • Mae babanod sydd wedi’u bwydo ar y fron yn fwy tebygol o gynnal pwysau iach erbyn iddynt gyrraedd oedran ysgol. Cam 4: Arhoswch nes bydd eich babi’n chwe mis oed cyn rhoi bwydydd solet • Cyn bod babanod yn chwe mis oed mae llaeth y fron neu fformiwla babanod yn cynnwys yr holl ddaioni a maethynnau sydd eu hangen ar eich babi. Cam 5: Helpwch eich babi i dyfu’n raddol • Mae babanod sy’n tyfu’n gyflym ym mlwyddyn gyntaf eu bywyd yn fwy tebygol o fod yn ordew pan fyddant yn cyrraedd oedran ysgol. Cam 6: Chwarae yn yr awyr agored bob dydd • Mae plant sy’n chwarae yn yr awyr agored bob dydd yn fwy tebygol o gynnal pwysau iach. Cam 7: Cyfyngu ar amser o flaen y sgrin • Mae plant sy’n treulio llai na 2 awr y dydd yn defnyddio sgrin, gan gynnwys ffôn, llechen, cyfrifiadur neu set deledu, yn fwy tebygol o fod â phwysau iach. Cam 8: Rhowch ffrwythau a llysiau i’ch plant bob dydd • Mae ffrwythau a llysiau yn llawn ffeibr, fitaminau a mwynau sydd i gyd yn helpu i gadw eich plentyn yn iach


Cam 9: Helpwch eich plant i gael digon o gwsg • Bydd cael digon o gwsg yn rheolaidd yn helpu eich plentyn i gynnal pwysau iach. Cam 10: Cadwch at ddŵr a llaeth • Nid yw’r rhain yn cynnwys unrhyw siwgr ychwanegol, felly bydd eich plentyn yn llai tebygol o gynnal pwysau afiach neu ddioddef pydredd dannedd. Dywedodd Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae plentyn iach yn blentyn hapus, ac rydym am i bob plentyn sy’n cael ei fagu yng Nghymru gael y dechrau gorau mewn bywyd. “Fel y dengys canfyddiadau’r Rhaglen Mesur Plant, mae gennym waith i’w wneud i wyrdroi’r gromlin o ran y ffigurau hyn. Rydym yn parhau i bryderu y gallai rhieni a gweithwyr proffesiynol ei chael hi’n anodd adnabod pan fydd plant dros eu pwysau oherwydd ei fod yn beth mwy cyffredin. Mae cryn dipyn o ymchwil sy’n dangos bod rhieni yn fwy tebygol o feddwl bod plant a chanddynt bwysau iach yn blant sydd dan eu pwysau. Gall hyn roi sicrwydd ffug iddyn nhw bod eu plentyn yn iawn.” Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i ddatblygu’r ymgyrch Pob Plentyn er mwyn rhoi ystod eang o adnoddau a chyngor ymarferol hygyrch iddynt i gefnogi rheoli iechyd eu plentyn. Ychwanegodd Dr. Bishop: “Mae hwn yn ddarn uchelgeisiol o waith a 10 cam yw’r rhaglen gyntaf mewn cyfres o raglenni y byddwn yn eu darparu o dan ymbarél yr ymgyrch Pob Plentyn. “Gwyddom fod pob rhiant yn dymuno cael y gorau ar gyfer eu plentyn. Rydym yn awyddus i gefnogi rhieni i wneud hynny. Os byddwn yn sicrhau bod hynny’n digwydd yn ystod y camau cynnar, mae plant yn fwy tebygol o aros yn iach pan fyddan nhw’n tyfu’n oedolion hefyd.” Mae rhagor o wybodaeth am yr Ymgyrch Pob Plentyn a’r Rhaglen 10 cam i bwysau iach, ar gael ar wefan Pob Plentyn - www.pobplentyn.co.uk


Mae Chwarae Cymru yn gofyn am dri pheth ar gyfer chwarae, ar gyfer iechyd, i blant, i bawb Mae Chwarae Cymru yn eirioli y dylai gwneuthurwyr penderfyniadau ar bob lefel ac ym mhob sector flaenoriaethu darpariaeth ar gyfer chwarae, gan gydnabod bod cael amser, rhyddid a mannau da ar gyfer chwarae yn hanfodol bwysig i bob plentyn, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach. Mae ein gwaith eirioli yn seiliedig ar y corff cynyddol o dystiolaeth gadarn sy’n cefnogi buddion hirdymor ac uniongyrchol darparu ar gyfer chwarae plant. Dengys astudiaethau fod buddion iechyd hirdymor chwarae yn cynnwys hybu lefelau gweithgaredd corfforol sydd yn helpu i fynd i’r afael â gordewdra plant, a chefnogi plant i fod yn fwy cadarn. Mae pawb yn gwybod bod chwarae’n dda i blant. Dengys astudiaethau gyda thystiolaeth fod prosiectau chwarae: • yr un mor effeithiol â rhaglenni chwaraeon ac addysg gorfforol yn hybu lefelau gweithgaredd corfforol ac felly’n helpu i fynd i’r afael â gordewdra ymysg plant • yn cefnogi plant i fod yn fwy cadarn trwy ddatblygu eu sgiliau emosiynol a hunanreolaeth gymdeithasol • yn rhoi cyfleoedd pwerus i blant ymgysylltu’n gadarnhaol gyda’u hysgol a’r gymuned ehangach, a chyda natur a’r amgylchedd • annog bod yn gymdogol, gwirfoddoli a gweithredu cymdeithasol, a gwella cydlyniant cymunedol. Mae plant a rhieni’n nodi llawer o rwystrau i chwarae - cyflymder a maint traffig, diffyg mannau awyr agored ac oedolion anoddefgar. Mae angen i ni fynd i’r afael â’r rhwystrau i chwarae; mae hon yn dasg i ni gyd. Mae polisi ar gynllunio, traffig, tai a mannau agored, ysgolion a gofal plant yn cael effaith uniongyrchol ar gyfleoedd i chwarae. Mae’r hawl i chwarae wedi ei gysegru yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC). Mae Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth yr holl bleidiau, wedi cymryd yr awenau yn rhyngwladol yn mabwysiadu Polisi Chwarae a deddfwriaeth fwy diweddar ar gyfer chwarae plant yng Nghymru; y llywodraeth gyntaf yn y byd i wneud hynny, y mae’n derbyn canmoliaeth eang barhaus amdani, yn haeddiannol felly. Er mwyn cynorthwyo plant i wireddu eu hawl i chwarae a gwella eu teimlad o lesiant, mae angen parhau â’r momentwm hwn ac ystyried y set ganlynol o fentrau: Mewn ysgolion: cydnabod yr angen i chwarae cyn ysgol, yn ystod amserau chwarae/egwyl ac ar ôl oriau ysgol. Gallai mynd i’r afael â’r angen hwn gynnwys cymorth amser chwarae yn cynnwys hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ar gyfer staff ysgol a rhieni, ynghyd â darparu offer a deunydd addas ar gyfer chwarae egnïol, creadigol. Gweler ein pecyn cymorth Defnydd o dir yr ysgol ar gyfer chwarae y tu hwnt i oriau addysgu: http://www.playwales.org.uk/eng/schoolstoolkit Mewn cymdogaethau: cydnabod angen plant i chwarae yn eu cymuned. Gallai mynd i’r afael â hyn gynnwys gostwng cyflymder traffig, cefnogi datblygiad sesiynau rheolaidd cau ffyrdd ar strydoedd preswyl, a’i gysylltu â pholisïau teithio egnïol. Hefyd, cefnogaeth i rieni a phreswylwyr i hwyluso prosiectau chwarae ar y stryd trwy leihau’r fiwrocratiaeth yn ymwneud â rheoliadau traffig, ymgynghori, ac yswiriant. Gweler enghraifft o sesiynau chwarae ar y stryd gymunedol yma: http://bit.ly/2sTGIjn Mewn parciau a mannau chwarae cyhoeddus: cydnabod buddion presenoldeb plant mewn parciau a mannau cyhoeddus. Mae amgylchedd chwarae cyfoethog yn un lle gall plant a phobl ifanc wneud ystod eang o ddewisiadau; lle ceir llawer o bosibiliadau er mwyn iddynt allu dyfeisio ac ymestyn eu chwarae eu hunain. Mae’n amgylchedd ffisegol ysbrydoledig a diddorol amrywiol sydd yn cynyddu’r potensial ar gyfer cymdeithasu, bod yn greadigol, yn ddyfeisgar ac am her. Mae’n lle y gall plant deimlo’n rhydd i chwarae yn eu ffordd eu hunain, ar eu telerau eu hunain. Darllenwch fwy am ofod chwarae: http://www.playwales.org.uk/eng/richplayenvironment Mewn gwasanaethau chwarae â staff: cydnabod rôl allweddol oedolion yn hwyluso chwarae plant.


Gallai hyn gynnwys cydnabod buddion uniongyrchol a gohiriedig darpariaeth â staff a buddsoddi mewn prosiectau gwaith chwarae sydd yn cyflwyno prosiectau chwarae wedi eu trefnu’n lleol. Gallwch ganfod mwy am waith chwarae: http://www.playwales.org.uk/eng/playwork Trwy ystyried, cefnogi a buddsoddi mewn chwarae, gall gwneuthurwyr penderfyniadau fod yn hyderus y bydd eu gweithredoedd yn arwain at welliannau yn iechyd a llesiant plant, ac felly gostyngiad yn y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac arian cyhoeddus. Yn ogystal, byddai’r buddsoddiad angenrheidiol yn fach, yn gost effeithiol ac yn cefnogi awdurdodau lleol i gydymffurfio â’u dyletswyddau statudol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardaloedd. Pwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd a llesiant plant Mae chwarae sy’n cael ei ddewis yn rhydd ac yn cael ei gyfeirio gan yr unigolyn yn draddodiadol wedi gwasanaethu’r ddynoliaeth yn dda iawn o ran iechyd a llesiant plant – mae ganddo gyfraniad sylweddol i’w wneud i’r agenda iechyd bresennol. Mae chwarae rhydd, heb ei strwythuro yn golygu bod plant yn gwneud yr hyn y maent yn ei ddymuno yn eu hamser eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain a dyma’r math o chwarae sydd yn cael ei gydnabod yn gynyddol fel rhywbeth sy’n hanfodol i blentyndod iach. Mae chwarae yn hanfodol i iechyd a llesiant corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant ac felly i’w teuluoedd a chymunedau yn gyffredinol. Mae gan blant ddyhead cynhenid i chwarae - mae ymchwil yn awgrymu bod chwarae yn cael effaith ar ddatblygiad corfforol a chemegol yr ymennydd -mae’n dylanwadu ar allu plant i addasu i, goroesi, ffynnu a llunio eu hamgylcheddau cymdeithasol a ffisegol. I blant a phobl ifanc eu hunain, chwarae yw un o agweddau pwysicaf eu bywydau – maent yn gwerthfawrogi amser, rhyddid a mannau o ansawdd i chwarae. Mae ymgynghoriadau gyda phlant a phobl ifanc yn dangos bod yn well ganddynt chwarae yn yr awyr agored mewn mannau ysgogol. Yn y sefyllfa hon, mae plant yn tueddu i fod yn egnïol yn gorfforol a gwthio eu hunain yn gorfforol ac yn emosiynol. Mae pryder cynyddol am iechyd meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc. Ar yr un pryd, mae tystiolaeth gynyddol gan weithwyr iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr fod chwarae yn gwneud cyfraniad sylweddol i ffitrwydd a llesiant plant. Chwarae a gweithgaredd corfforol Wrth gael y cyfle i chwarae, mae plant yn debygol o fod yn egnïol yn gorfforol trwy redeg, neidio, dawnsio, dringo, palu, codi, gwthio a thynnu. Chwarae egnïol yw’r math mwyaf cyffredin o weithgaredd corfforol y mae plant yn cymryd rhan ynddo y tu allan i’r ysgol, a chwarae heb strwythur yw un o’r mathau gorau o weithgaredd corfforol i blant. Chwarae egnïol yw un o’r ffyrdd hawsaf a mwyaf naturiol y gall plant o unrhyw oed wneud y lefelau angenrheidiol o weithgaredd corfforol. Mae’r cyfraniad y mae chwarae’n ei wneud i lesiant corfforol plant yn cynnwys:


• Ymarfer parhaus ac eang sy’n datblygu stamina (chwaraeon anffurfiol, gemau cwrso, dringo, adeiladu. • Mae dringo’n datblygu cryfder, cydlyniant a chydbwysedd, tra bod neidio’n cyfrannu at ddwysedd esgyrn. • Os yw plant yn ailadrodd gweithred fel rhan o’u chwarae maent yn aml yn y broses o raddnodi – dysgu i reoli eu cyrff sydd yn tyfu – a datblygu sioncrwydd, cydlyniant a hyder. Chwarae a llesiant emosiynol Mae chwarae yn caniatáu ar gyfer rhyngweithio gyda chymheiriaid sydd yn gydrannau pwysig o lesiant cymdeithasol ac emosiynol. Wrth chwarae ar eu pen eu hunain, mae plant yn dechrau cydnabod eu hemosiynau, eu teimladau a’u meddyliau eu hunain, a sut i’w rheoli. Mae plant hefyd yn dysgu teimlo’n gyfforddus yn bod ar eu pen eu hunain ac yn dysgu ffyrdd o reoli eu diflastod ar eu pen eu hunain. Trwy chwarae, mae plant yn profi ystod o emosiynau yn cynnwys rhwystredigaeth, penderfynoldeb, cyflawniad, siom a hyder, a thrwy ymarfer, gallant ddysgu sut i reoli’r teimladau hyn. Mae’r cyfraniad y mae chwarae’n ei wneud i lesiant emosiynol plant yn cynnwys y canlynol: • Mae creu a dod ar draws risg neu ansicrwydd yn eu cyfleoedd chwarae yn datblygu cadernid plant a’u gallu i addasu, gan gyfrannu at eu hyder a’u hunan-barch. • Mae cymdeithasu gyda’u ffrindiau neu ar eu telerau eu hunain yn rhoi cyfle i blant ddatblygu cadernid emosiynol, i gael hwyl ac i ymlacio. • Mae chwarae ffantasi yn caniatáu ar gyfer dychymyg a chreadigrwydd, ond gall hefyd fod yn ffordd i blant wneud synnwyr a ‘gweithio trwy’ agweddau anodd a thrallodus o’u bywydau. Mynd i’r Afael â Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod trwy chwarae Hyd yn oed o dan amodau llawn straen parhaus, gellir lleddfu canlyniadau negyddol straen gwenwynig trwy ddarparu cyfleoedd chwarae. Mae chwarae yn creu profiadau cadarn ac uniongyrchol sydd yn ategu llawer o ddatblygiad plentyn. Ceir cytundeb eang bod profiadau cynnar yn dylanwadu’r ffordd y mae plant yn dysgu, yn ymdopi â straen, yn ffurfio cyfeillgarwch a pherthynas ag oedolion, a’r ffordd y maent yn gweld eu hunain a’u byd. Gall perthynas sefydlog, sy’n maethu gydag oedolion gofalgar atal neu wrthdroi effeithiau niweidiol straen gwenwynig. Gellir mynd i’r afael â llawer o’r materion y gall rhieni eu canfod yn heriol trwy wella mynediad i gyfleoedd chwarae a gwasanaethau sy’n cael eu hwyluso gan staff sydd yn deall ac yn eirioli chwarae. Mae darpariaeth o ansawdd yn cynyddu gallu plant i gefnogi eu llesiant eu hunain ac yn cynorthwyo rhieni i ddeall ac ymdopi â datblygiad eu plant. Mae hefyd yn cefnogi plant lle mae cyfleoedd i chwarae yn absennol yn y cartref. Mae amgylcheddau sy’n maethu ac yn gyfeillgar i chwarae – neu prinder amgylcheddau o’r fath – yn effeithio ar ddatblygiad iach plant. Mae amgylchedd chwarae cyfoethog yn hyblyg, yn gallu addasu, yn amrywiol ac yn ddiddorol. Mae’n cynyddu’r potensial ar gyfer cymdeithasu, bod yn greadigol, yn ddyfeisgar, ar gyfer her a dewis. Mae’n ofod y gellir ymddiried ynddo lle mae plant yn teimlo’n rhydd i chwarae yn eu ffordd eu hunain, ar eu telerau eu hunain. Mae nodweddion gofod o ansawdd ar gyfer plant yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer rhyfeddu, cyffro a’r annisgwyl, ond yn bennaf oll, cyfleoedd nad ydynt yn cael eu trefnu a’u rheoli’n ormodol gan oedolion. Mae’r mannau hyn yn hanfodol i ddiwylliant plant ac ar gyfer eu syniad o le a pherthyn. Gall rhaglenni ymyrryd fod yn ddefnyddiol yn lleihau rhywfaint o’r effaith niweidiol, ond mae’n rhaid iddynt gael eu hategu gan ffocws ar gefnogi plant i fod yn gyfranogwyr egnïol yn datblygu eu cadernid eu hunain. Mae’n hanfodol nad yw’r systemau sy’n ategu’r ddarpariaeth ar gyfer plant sydd yn byw mewn ac yn profi amodau niweidiol yn erydu eu hawl i archwilio a datblygu trwy chwarae fel sydd wedi ei gysegru yn UNCRC. Mae chwarae yn ganolog i fywyd iach plentyn. Mae angen mwy o ymyrraeth ar geisio newid ymddygiad neu ddatblygu sgiliau newydd yn nes ymlaen mewn bywyd yn y pen draw ac mae’n ddrutach. Mae’n anodd dylanwadu ar newid cadarnhaol ymysg oedolion sydd yn byw gyda chanlyniadau amgylchiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae’n llawer mwy ymarferol darparu profiadau cymunedol sy’n maethu ac yn gyfeillgar i chwarae yn gynharach mewn bywyd. Rôl gweithwyr iechyd y cyhoedd proffesiynol yn hybu chwarae Fel oedolion, mae angen i ni helpu plant trwy godi chwarae ar yr agenda ar bob cyfle posibl - gyda rhieni


a gofalwyr, gyda thîm rheoli’r ysgol, gyda gwneuthurwyr penderfyniadau a chynllunwyr. Mae angen i ni gefnogi’r ddarpariaeth o ddigon o amser a gofod i blant chwarae bob dydd yn eu cymunedau. Gall fod angen cymorth ar blant â namau yn arbennig, i gael mynediad i chwarae a chymdeithasu gyda’u ffrindiau. Gall y rheiny ohonom sydd â diddordeb, neu gyfrifoldeb am iechyd a llesiant plant gyfrannu trwy: • Hybu pwysigrwydd chwarae mewn ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd iechyd. • Cynnwys cymorth darpariaeth chwarae ar gyfer pob plentyn mewn strategaethau a chynlluniau iechyd neu’n ymwneud ag iechyd, yn cynnwys Cynlluniau Datblygu Lleol, strategaethau tlodi plant a strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant. • Ystyried yr effeithiau ar chwarae plant mewn asesiadau Effaith ar Iechyd ac Effaith ar Degwch Iechyd. • Darparu gwybodaeth i rieni sydd yn amlygu gwerth chwarae a’i rôl mewn ffordd o fyw iach. • Creu cysylltiadau gyda gwasanaethau chwarae lleol. Mae gweithwyr chwarae wedi eu hyfforddi yn hwyluso cyfleoedd sy’n cynorthwyo plant i chwarae’n rhydd gyda’u cyfeillion yn eu cymunedau eu hunain. • Nodi cyllid partneriaeth er mwyn penodi gweithwyr chwarae mewn cymunedau. Rôl ysgolion iach Mae plant yn dweud wrthym mai amseroedd chwarae yw rhan bwysicaf y diwrnod ysgol iddyn nhw. Mae llawer o blant hefyd yn dweud wrthym mai’r ysgol yw’r prif gyfle sydd ganddynt i dreulio amser yn chwarae gyda’u ffrindiau. Mae ysgolion yn aml yn cynnig gofod delfrydol i blant chwarae a rhyngweithio gyda’i gilydd. Mae’n bwysig datblygu elfen gref o chwarae i ddarparu amgylchedd ysgol iach. Gall cydlynwyr ysgolion iach sicrhau bod chwarae wedi ei sefydlu yn yr ymagwedd ysgolion iach trwy: • Eirioli ar gyfer gofod wedi ei ddylunio’n dda y gellir chwarae ynddo pan fydd gwelliannau cyfalaf yn cael eu gwneud. • Eirioli fod digon o amser yn cael ei roi ar gyfer cinio ac amser chwarae (mae plant yn dweud wrthym eu bod yn aml yn rhuthro eu cinio yn yr ysgol er mwyn cael mwy o amser i chwarae. ‘Bydd pobl yn aml yn taflu eu cinio i ffwrdd er mwyn cael mwy o amser i chwarae a bydd pobl eraill yn sleifio allan o’r ffreutur’). • Sicrhau bod amser chwarae wedi ei ddiogelu. Yn aml, tynnir amser i ffwrdd o amser chwarae fel cosb. Mae amser chwarae mewn ysgolion mor bwysig i blant ag y mae amser egwyl i staff yr ysgol. Fel oedolion, mae amser chwarae yn yr ysgol yn rhan o gydbwysedd ‘gwaith/bywyd’ plant. • Eirioli yn erbyn byrhau amser chwarae yn yr ysgol. • Eirioli defnyddio tir yr ysgol y tu allan i oriau addysgu i roi lle i blant chwarae’n rhydd yn eu cymunedau eu hunain. www.playwales.org.uk


Defnyddio cyswllt cofnodion iechyd yn Astudiaeth Carfan y Mileniwm y DU i ymchwilio i ordewdra plant Lucy Griffiths, Ronan Lyons, Carol Dezateux Mae potensial ymchwil cofnodion iechyd electronig i gefnogi polisi cyhoeddus yn cael ei gydnabod. Mae gan y DU enw da yn rhyngwladol am ei astudiaethau carfan genedigaethau, sydd yn cynnwys arolygon lluosog o niferoedd mawr o unigolion o’u genedigaeth a thrwy gydol eu bywydau. Mae’r astudiaethau hyn yn ffynonellau allweddol o dystiolaeth ar gyfer polisi cymdeithasol ac iechyd ac maent wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i’n dealltwriaeth o’r clefyd a llwybrau iechyd ar draws cwrs bywyd. Un nodwedd o’r astudiaethau hyn oedd eu defnydd o gysylltiad cofnodion i wella gwybodaeth a geir yn uniongyrchol gan aelodau’r garfan. Mae ein hastudiaeth yn cysylltu gwybodaeth a gasglwyd mewn astudiaeth garfan gyfoes ar raddfa fawr yn y DU, Astudiaeth Carfan y Mileniwm (MCS) i gofnodion iechyd electronig. Bydd hyn yn caniatáu mynd i’r afael â chwestiynau gwyddonol ac iechyd y cyhoedd sy’n berthnasol i iechyd plant. Sefydlwyd yr MCS i astudio amgylchiadau cymdeithasol, economaidd ac yn ymwneud ag iechyd plant Prydeinig a anwyd ar ddechrau’r ganrif hon. Mae’n cynnwys plant a anwyd rhwng Medi 2000 ac Ionawr 2002 oedd yn byw yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn cynnwys cynrychiolaeth o amgylchiadau o anfantais gymdeithasol a lleiafrifoedd ethnig. Cynhaliwyd yr arolwg cyntaf o bron 19,000 o deuluoedd plant pan oedd y Garfan yn naw mis oed ac ers hynny, maent wedi cael eu harolygu yn dair, pump, saith, 11 ac 14 oed. Ar bob un o’r oedrannau hyn, mae ymchwilwyr wedi casglu ystod o wybodaeth a mesuriadau. Mae cael gwybodaeth am ordewdra mewn plentyndod wedi bod yn flaenoriaeth i’r Garfan hon ac mae mesuriadau taldra, pwysau, maint canol a braster y corff wedi cael eu cymryd sawl gwaith dros y blynyddoedd. Yn saith oed, gofynnwyd i rieni hefyd roi caniatâd i ymchwilwyr gysylltu gwybodaeth a gasglwyd yn yr MCS o gofnodion iechyd electronig eu plant. Yng Nghymru, rhoddodd 1,840 (94.3%) o’r 1,951 o rieni plant ganiatâd i wneud hyn. Mae Ymddiriedolaeth Wellcome wedi ariannu cysylltu ac archwilio’r wybodaeth bwysig hon, gyda’r prosiect yn cael ei arwain ar y cyd gan yr Athro Ronan Lyons ym Mhrifysgol Abertawe a’r Athro Carol Dezateux yn Sefydliad Iechyd Plant Great Ormond Street, Coleg Prifysgol Llundain (UCL) mewn cydweithrediad â Chyfarwyddwr MCS, yr Athro Emla Fitzsimons yn Sefydliad Addysg UCL. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud gan ddefnyddio banc data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw (SAIL), a sefydlwyd yn 2006 i ddod ag ystod eang o ddata yn seiliedig ar y person ynghyd, eu cysylltu a’u gwneud yn ddienw er mwyn cefnogi ymchwil iechyd. Cefnogir y gwaith ymchwil hwn hefyd gan Sefydliad Farr a’r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Iechyd a Llesiant y Boblogaeth. Rydym wedi llwyddo i gysylltu plant MCS â gwybodaeth wedi ei chodio o’r Gronfa Ddata Iechyd Plant Cymunedol Genedlaethol, cofnodion gofal sylfaenol (ymarferydd cyffredinol), cofnodion cleifion mewnol ysbytai a chofnodion adrannau brys. Mae hyn yn ein galluogi i archwilio cwestiynau pwysig am iechyd plant, yn cynnwys anafiadau, asthma, heintiau, imiwneiddio a gordewdra. Gordewdra Plant yw un o elfennau pwysicaf y gwaith hwn am fod hwn yn peri pryder difrifol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Mae’r tîm ymchwil ar hyn o bryd yn archwilio’r problemau iechyd y mae plant sydd yn ordew neu dros bwysau yn eu hwynebu. Bydd y gwaith hwn yn llywio strategaethau ataliaeth a thriniaeth. Dyma un o’r carfanau plant cenedlaethol cynrychioliadol sydd wedi cael ei gysylltu â chofnodion iechyd electronig a’n gobaith yw y bydd yn creu diddordeb a phethau i’w dysgu ar gyfer astudiaethau cysylltu cofnodion eraill sy’n cael eu cynnal yn y DU. Mae’r prosiect hefyd yn cysylltu gwybodaeth o MCS i wybodaeth iechyd electronig yn yr Alban. Bydd set wedi ei dogfennu o amrywiadau sy’n deillio o gofnodion iechyd wedi eu cysylltu yn cael eu rhoi i Archif Data’r DU unwaith y daw’r prosiect i ben. Aelodau’r prosiect: Ronan A Lyons, Karen Tingay, Amrita Bandyopadhyay, Sinead Brophy ac Ashley Akbari yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe. Carol Dezateux, Lucy J Griffiths, Suzanne Walton, Mario Cortina-Borja a Helen Bedford yn Sefydliad Iechyd Plant Great Ormond Street, UCL, Llundain. Emla Fitzsimons yn Sefydliad Addysg UCL, Llundain.


Annog Delwedd Corff Positif Yn Eich Plant Ydych chi’n poeni am farn afrealistig eich plentyn am eu corff? Barn sydd ddim yn un iachus iawn? Yn ein blog arbennig edrychwn ar ystyr ‘delwedd corff’ ac archwilio rhai o’r ffyrdd i ddelio gyda’r agweddau negyddol. Beth mae’r term ‘delwedd corff’ yn ei feddwl? Yn gyffredinol ‘delwedd corff’ ydy’r ffordd rydym ni’n tybio bod ein corff yn edrych i bobl eraill. Gall hyn fod yn faint ein ffigwr, ein hwynebau, ein gwallt, unrhyw ran o’r corff mewn gwirionedd. Delweddau Afrealistig yn y Cyfryngau Pwy bynnag yr ydym, beth bynnag ein hoedran neu ryw, mae’r cyfryngau yn ein cyflwyno gyda pherffeithrwydd sydd yn gallu bod yn afrealistig ac yn un na ellir ei gyflawni i’r mwyafrif ohonom. Ydych chi wedi clywed y dywediad “mae’r camera yn ychwanegu 10 pwys”? Nid yw hyn yn wir heddiw! Cyn i luniau gael eu cyhoeddi mewn cylchgronau neu ar y Rhyngrwyd, mae rhaglenni cyfrifiadur clyfar yn newid man bethau ar luniau. Mae’r rhaglenni yn gallu golygu’r croen i edrych yn gwbl glir o smotiau neu farciau ymestyn. Neu mae’n gallu newid ffigwr rhywun ychydig bwysau’n llai. Ond yn anffodus rydym yn aml yn barnu ein hunain yn llym yn erbyn y safonau afrealistig gosodwyd gan y cyfryngau. Ond pa effaith mae hyn yn ei gael ar ein plant? Nid yn unig sydd raid mynd drwy anawsterau llencyndod, tyfu i fyny a bywyd ysgol, maent hefyd yn delio gyda’r delweddau yma o berffeithrwydd yn cael ei amlygu iddynt yn barhaol. Gall hyn wneud iddynt deimlo’n ddryslyd neu’n annigonol pan fyddant yn cymharu. Delwedd Corff Negyddol Teimladau negyddol am y ffordd rydych chi’n meddwl bod eich corff yn edrych ydy rhywbeth gellir galw yn ‘delwedd corff negyddol’. Mae dioddef gyda delwedd corff negyddol wedi cael ei gysylltu i ymddygiad eraill sydd ddim yn iach, fel anhwylderau bwyta, hunan-niwed, diffyg hunan-barch, arwahanu cymdeithasol ac, mewn rhai achosion, camddefnydd o gyffuriau altro’r corff fel Steroidau. Os ydych chi’n poeni am rywun gall fod yn dioddef o anhwylder bwyta, darllenwch ein herthygl Anhwylderau Bwyta a Sut i Helpu ar wefan PwyntTeulu. Anhwylder Dysmorffia’r Corff Gall delwedd corff negyddol gael effaith hefyd ar iechyd meddwl ac mae wedi’i gysylltu i gyflyrau fel iselder, pryder a hunan-niwed. Mae si fawr wedi bod yn ddiweddar am Ddysmorffia’r Corff. Mae Anhwylder Dysmorffia’r Corff neu BDD yn gyflwr pryder sydd yn arwain at berson yn cael barn wyrgam o’i ymddangosiad. Gall gael effaith enfawr ar fywyd y person yma a gall arwain at ymddygiad obsesiynol/ orfodaethyrol. Mae Galw Iechyd (2017) yn amcangyfrif bod 1 ymhob 100 o bobl yn y DU yn dioddef o BDD a gall y ffigwr yma fod yn uwch, gan ei fod yn hawdd cuddio. Mae gwefan Galw Iechyd yn cynnig gwybodaeth bellach am y cyflwr. Maer holl gyflyrau uchod, gan gynnwys BDD, yn achosion pryder iechyd meddwl difrifol. Os ydych chi’n poeni bod eich plentyn yn dioddef o unrhyw un o’r rhain, dylech chi siarad â’ch doctor. Os nad ydych chi’n sicr os dylid gwneud hyn yna gall Young Minds helpu. Mae ganddynt linell gymorth am ddim i rieni siarad am broblemau iechyd meddwl ar 08088025544. Taclo Delwedd Corff Negyddol • Siarad amdano Mae siarad yn le da i gychwyn. Mae ysgolion yn siarad am ddelwedd corff fwy a mwy a bydd cyfraith addysg newydd yn sicrhau bod y pwnc yma ar y cwricwlwm. Ond mae’n bwysig hefyd i siarad am y peth


gartref. Nid oes posib cysgodi’ch plant o’r delweddau afrealistig yn y cyfryngau, sydd wedi’u golygu i edrych yn berffaith. Yn lle hynny dylid ceisio bod yn agored am y peth a thrafod y pethau maent yn eu gweld i’w gwneud yn fwy ymwybodol. • Clod Dylid rhoi clod i gyflawniadau a rhinweddau da eich plant. Bydd hyn yn cynyddu hyder ac yn gwneud iddynt sylweddoli mai’r pethau maent yn ei wneud sy’n bwysig, ac nid eu hedrychiad. Gwnewch bwynt o’u cyflwyno i bobl yn y cyfryngau sydd yn derbyn clod am eu cyflawniadau a’u rhinweddau yn hytrach na’u golwg. Bydd hyn yn tynnu’r ffocws o’r arwynebol. • Hyrwyddo hyder Anogwch ffordd o fyw iach drwy weithgareddau chwaraeon a gweithgareddau allgyrsiol eraill. Gall hyn fod yn ffordd dda i gynyddu hyder eich plentyn a’u caniatáu i ddod i adnabod eu corff mewn ffordd bositif. • Gosod esiampl dda Mewn grŵp o ffrindiau, mae pawb yn euog o siarad am y methiant ffasiwn ddiweddaraf yn y cylchgronau clecs enwog. Ond meddyliwch sut gall hyn annog eich plentyn i feddwl bod barnu rhywun am eu golwg yn dderbyniol. Gallech chi geisio gosod esiampl dda wrth eu hannog i weld y pethau positif sydd gan berson i’w gynnig, ac nid eu hedrychiad. Gall hyn eu hatal rhag barnu eu hunain yn y ffordd yma hefyd. • Eglurwch realiti perffeithrwydd Eglurwch beth ydy ‘airbrushing’ a pam bod hyn yn cael ei ddefnyddio. Mae’n bwysig eu bod yn ymwybodol bod y ddelwedd wreiddiol yn gallu bod yn wahanol iawn i’r llun cyhoeddwyd. Efallai gallech chi esbonio nad i guddio smotiau yn unig maent yn golygu lluniau, ond i ymestyn coesau, ehangu nodweddion penodol ayb. Chwiliwch YouTube i weld fideos (fel yr un isod) yn dangos sut mae lluniau cylchgrawn yn cael ei greu; efallai bydd yn helpu chi i atgyfnerthu’ch neges. Adnoddau i helpu • Dove – Mae yna lawer o awgrymiadau ar wefan Dove am sut i annog delwedd corff positif. Mae’r Prosiect Hunan-barch wedi’i sefydlu i hyrwyddo ffordd iachus o edrych ar ein cyrff. Mae’r wefan yn darparu adnoddau am ddim i rieni, athrawon a phobl ifanc. • Ymgyrch Be Real – Adnodd arall gwych ydy’r Ymgyrch Be Real sydd yn gweithio gyda chwmnïoedd prydferthwch a’r llywodraeth i hyrwyddo hyder corff. Mae yna lawer o adnoddau a gweithgareddau da, ac mae yna dudalen i rieni hefyd. • Llinell Gymorth PwyntTeulu.cymru – Os ydych chi’n poeni am rywun sy’n agos i chi ac eisiau help pellach yna cysylltwch â’r llinell gymorth PwyntTeulu. Gall ein cynghorwyr siarad gyda chi a’ch trosglwyddo i’r gwasanaethau gall helpu. Mae’r llinell gymorth yn agored 9-5 dydd Llun i ddydd Gwener.


On The Spot Fis yma mae aelod o Grŵp Cynghori Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Lucy Griffiths, dan sylw. Mae Lucy yn epidemiolegydd cymdeithasol ac mae’n gweithio gyda Choleg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Abertawe.

Ble ydych chi’n gweithio ar hyn o bryd a beth yw eich maes arbenigedd?

Rwyf yn uwch Ymchwilydd Cyswllt yn Sefydliad Iechyd Plant Great Ormond Street Coleg Prifysgol Llundain ac mae gennyf benodiad anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar benderfynyddion iechyd ac ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd ymysg plant a phobl ifanc; mae enghreifftiau o fy ngwaith yn cynnwys defnyddio data cwrs bywyd o astudiaeth carfan Brydeinig i archwilio ffactorau risg ar gyfer gordewdra plant a phenderfynyddion gweithgaredd corfforol ac amser eisteddog. Rwy’n angerddol am fy ymchwil a gwella iechyd a llesiant plant a phobl ifanc.

Pam wnaethoch chi ymuno â Grŵp Cynghori PHNC?

Rwy’n cynrychioli maes academia/ymchwil ac yn credu ei fod yn bwysig rhannu gwybodaeth am iechyd plant. Rwy’n cyfrannu at ddatblygiad adnoddau Rhwydwaith, ac mae bod yn rhan o’r grŵp hwn yn fy ngalluogi i ddysgu oddi wrth aelodau arbenigol eraill yn ymwneud â materion iechyd y cyhoedd cyfredol yng Nghymru.

O dan sylw yn yr e-fwletin y mis yma mae Gordewdra Plant. Beth yn eich barn chi yw’r prif heriau sy’n ein hwynebu wrth fynd i’r afael â’r mater hwn yng Nghymru? Beth yw’r neges bwysicaf y dylid ei chyfleu i weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd yn ymwneud â gordewdra plant? Cyfraddau gordewdra plant yng Nghymru yw’r uchaf yn y DU. Mae gordewdra plant yn broblem gymhleth ac aml-ddimensiwn ac mae angen ymdrech barhaus gan y llywodraeth a phartneriaid i leihau’r broblem hon, oherwydd yr effeithiau uniongyrchol a hirdymor ar iechyd corfforol, cymdeithasol ac emosiynol. Ar lefel unigol, mae angen i ni annog pobl ifanc i fod yn fwy egnïol. Mae ystod eang o strategaethau a mentrau wedi eu sefydlu ledled Cymru i gynyddu lefelau gweithgaredd corfforol er mwyn gwella iechyd a llesiant. Er enghraifft, mae Cymru wedi croesawu’r mudiad llythrennedd corfforol, cysyniad trosfwaol sy’n meithrin hyder, ysgogiad, sgiliau corfforol a gwybodaeth a dealltwriaeth o weithgaredd corfforol. Y syniad yw helpu plant i fod yn egnïol nawr ac yn y dyfodol. Rwy’n credu bod gan bawb rhan i’w chwarae yn helpu plant i fod yn llythrennog yn gorfforol.


Rwy’n cefnogi’r syniad y dylai GIG Cymru sicrhau bod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud i bob cyswllt y maent yn ei gael gyda phlant a phobl ifanc sydd dros bwysau neu’n ordew gyfrif; gall trafod pwysau fod yn destun anodd a sensitif a gall fod angen hyfforddiant effeithiol, yn yr un modd â llwybr clir ar gyfer cymorth a thriniaeth.

Beth yn eich barn chi gallai Cymru fod yn ei wneud i hybu neu gymryd rhan yn Wythnos Gordewdra Plant?

Beth am barhau i hybu a chefnogi ymgyrch 10 Cam i Bwysau Iach Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n datblygu ymagwedd cwrs bywyd i atal gordewdra plant, h.y. trwy ddechrau gydag iechyd a llesiant mamau a pharhau gyda deiet a ffordd o fyw iach ar ôl i blant gael eu geni ac wrth iddynt dyfu. Fel enghraifft, mae cam 6 yn canolbwyntio ar roi cyfleoedd i blant chwarae yn yr awyr agored. Gall tywydd fod yn rhwystr i weithgaredd corfforol i rai, ond nid yw’n poeni plant – nid wyf erioed wedi cwrdd â phlentyn ifanc nad yw’n hoffi sblasio mewn pyllau dŵr! Mae angen i ni addysgu a chefnogi rhieni a gofalwyr ar gyfleoedd awyr agored. Mae Cymru’n wlad hardd gydag ardaloedd chwarae, traethau, teithiau cerdded coetir, llwybrau beicio a mynyddoedd hygyrch. Dylem i gyd fod allan yno yn manteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd ar gael.

Pe byddech yn cael 2 ddymuniad beth fyddent?

Mae gennyf ddau ddymuniad mawr: • I rieni, athrawon a phawb arall sy’n gysylltiedig â phlant a phobl ifanc eu helpu i ddatblygu hunan-barch - mae hynny’n elfen hanfodol i’w helpu i dyfu i fyny’n teimlo’n hyderus, yn ddiogel ac wedi eu caru, ac mae’n paratoi’r ffordd ar gyfer llwyddiant. • I leihau anghydraddoldebau mewn gordewdra plant …,mewn gwirionedd, i leihau anghydraddoldebau iechyd plant yn gyffredinol. Mae Adroddiad Cyflwr Iechyd Plant 2017, a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol y Pediatryddon ac Iechyd Plant, yn nodi bod gan blant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig iechyd a llesiant gwell na’u cyfoedion mwy breintiedig, ac mae hyn yn anghydraddoldeb sy’n cynyddu. Heddiw, mae 30% o blant yn y DU wedi eu diffinio i fod yn byw mewn tlodi - mae hyn yn gywilyddus - beth am i ni gyd ddymuno lleihau tlodi plant a gwella eu cyfleoedd mewn bywyd.

Beth yw eich diddordebau personol?

Cerdded ym Mannau Brycheiniog gyda fy nheulu; pobi gyda fy mhlant; edrych o amgylch siopau hen bethau/pethau adferedig/elusen.


Mae’n bleser gan y Gymdeithas Astudio Gordewdra (ASO) gyhoeddi pedwaredd Gyngres y DU ar Ordewdra (UKCO) a gynhelir ym Mhrifysgol De Cymru - Campws Trefforest, Pontypridd, Cymru o 7-8 Medi, 2017.

Y thema eleni yw – Gordewdra, Iechyd ac Anghydraddoldebau Cymdeithasol

Prif Destunau a Siaradwyr Anghydraddoldebau Cymdeithasol, Gordewdra ac Iechyd – Yr Athro Clare Bambra, Prifysgol Newcastle Yr Athro Syr Stephen O’Rahilly, Prifysgol Caergrawnt – Achosion a chanlyniadau gordewdra: Gwersi o eneteg dynol Yr Athro Rachel Battherham, Coleg Prifysgol Llundain – Annormaleddau acsis endocrin y perfedd mewn gordewdra a diabetes math 2 Dr Thomas Yates, Prifysgol Caerlŷr – O sefyll mwy i ymarfer corff dwysedd uchel: Teilwra gweithgaredd corfforol ar gyfer iechyd metabolaidd

Nodweddion y Rhaglen      

Symposia ASO Symposia Diabetes UK (CYMRU) Cyflwyniadau llafar a phosteri Symposia dan arweiniad aelodau Gwobrau am y posteri gorau Cinio bwffe ar gyfer rhwydweithio wedi ei gynnwys wrth gofrestru

Gellir cofrestru nawr! Dyddiad Cau ar gyfer Cofrestru’n Gynnar – Dydd Gwener 14 Gorffennaf I ganfod mwy am y digwyddiad hwn ewch i wefan y Gynhadledd yn www.aso.org.uk/events/ukco


CADWCH Y DYDDIAD! Llesiant yng Nghymru: Cynllunio heddiw ar gyfer gwell yfory Dydd Llun 17 Gorffennaf 2017 Sesiwn Gyntaf 8:00-10:30 Ali Sesiwn 10:30-16:00 Stadiwm SWALEC, Caerdydd CF11 9XR Ar 17 Gorffennaf rydym yn trefnu dau digwyddiad a fydd yn tynnu ar y mewnwelediad y mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi elwa gan adolygu’r asesiadau llesiant ar draws Cymru, er mwyn hyrwyddo a chefnogi dysgu ar y cyd rhwng y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’u partneriaid. Yn gyntaf, cynhelir cyfarfod brecwast (8:00-11:00) ar gyfer arweinwyr uwch a phrif weithredwyr sydd yn aelodau o’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Bydd cyfle i’r arweinwyr i ymchwilio eu rôl fel aelodau’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a sut mae hyn yn ymwneud ag arweinyddiaeth yn eu cyrff cyhoeddus yng nghyd-destun cynllunio ar gyfer llesiant. Bydd yr ail ddigwyddiad (10:30-4:30) yn dod at ei gilydd swyddogion sydd yn cefnogi gwaith y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ynghyd â chyrff eraill sydd â diddordeb mewn gweithio gyda’i gilydd i wella llesiant cenedlaethau heddiw ac yn y dyfodol. Bydd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn trafod hefyd sut bydd ei gwaith a gwaith ei thîm ar y meyseydd blaenoriaeth sydd wedi dod i’r amlwg yn gallu llywio ei chyngor, cefnogaeth a dyletwsyddau. Bydd hyn yn gyfle amserol i chi rannu eich profiadau o’r asesiadau llesiant a’u defnyddio i ddatblgygu eich arddull o gynllunio ar gyfer llesiant. Bydd tîmau’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, y cyrff cyhoeddus a’r academyddion yn gallu: • cysylltu â’i gilydd, a chydweithio i ddefnyddio’r pum ffordd o weithio er mwyn gwneud y gorau o’u cyfraniad i bob un o’r saith nod llesiant; a • herio busnes yn ôl yr arfer gan ddatblygu syniadau i ymateb i’r heriau sy’n effeithio ar gynllunio ar gyfer llesiant a chyflawni’r nodau lleol. Cadwch y dyddiad yn eich dyddiadur os gwelwch yn dda. Bydd mwy o fanylion ar y digwyddiadau a sut i gofrestru yn dilyn cyn bo hir.


Pyncia Llosg Mae rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglyn a gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgrifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiaddau! Os ydych chi’n dynuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost at publichealth.network@wales.nhs.uk. Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!

Teuluoedd Egnïol Mae 2 brif nod i’r prosiect Teuluoedd Egnïol: • darparu rhaglen lle mae plant yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau corfforol allweddol trwy chwarae • i rieni gael hyfforddiant a mentora wrth ddarparu cyfleodd chwarae allweddol ar gyfer eu plant. Ceir 5 Canolfan i Deuluoedd yng Ngheredigion, yn Borth, Penparcau, Tregaron, Llambed a Llandysul. Cynhaliwyd peilot o’r cynllun hwn yn Nhregaron gydag adborth llwyddiannus a chadarnhaol. Yn y Ganolfan i Deuluoedd yn Nhregaron, mae’r rhieni a’r staff bellach yn awyddus i symud y prosiect ymlaen. Mae hwn yn brosiect cynhwysol i deuluoedd sydd yn byw mewn ardal wledig. Mae’r prosiect ar gael i bob plentyn cyn-ysgol sy’n mynychu Canolfannau i Deuluoedd a grwpiau Dechrau’n Deg yng Ngheredigion. Darperir cymorth ac arweiniad gan Chwaraeon Anabledd Cymru er mwyn sicrhau bod pob cyfle i chwarae yn agored neu, lle y bo angen, yn benodol i anghenion plant. Bydd staff y ganolfan yn cael hyfforddiant er mwyn cyflwyno cwrs i rieni ‘Llythrennedd Corfforol yn y Gymuned: Taith Trwy Fywyd’. Darperir sach adnoddau i bob rhiant er mwyn gallu chwarae’r holl gemau/ gweithgareddau yn y ganolfan neu gartref. Darperir set o gardiau sgiliau hefyd sydd yn cynnwys syniadau chwarae ar gyfer rhieni a staff. Bydd staff Ceredigion Actif yn cyflwyno’r hyfforddiant ac yn darparu mentora i sicrhau bod y cyfleoedd chwarae wedi eu sefydlu ar gyfer y plant. Bydd y sach adnoddau yn cynnwys sachau ffa, smotiau nodi, cylchau, sgarff, pêl synhwyraidd, raced tennis bach, pêl fflwff, rhaff sgipio a’r set o gardiau sgiliau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Alwyn Davies, Ceredigion Actif ar Alwyn.Davies@ceredigion.gov. uk


Prosiect ACTIF – Gwella Lefelau Gweithgaredd Corfforol Plant yn eu Harddegau yn Abertawe Mae gordewdra yn yr arddegau yn bryder iechyd sylweddol ym maes iechyd y cyhoedd cyfoes. Mae lefelau gordewdra ymysg pobl ifanc yn eu harddegau ar lefel sy’n peri pryder ar hyn o bryd gydag un ym mhob pedwar yn ei arddegau wedi ei nodi i fod yn glinigol ordew yn 15 oed. Mae’r perygl cynyddol o glefyd y galon, diabetes math dau, canserau a strôc yn nes ymlaen mewn bywyd yn golygu ei fod yn hanfodol bwysig mynd i’r afael â’r lefelau hyn er iechyd pobl ifanc yn eu harddegau nawr ac yn y dyfodol. Ystyrir anweithgarwch yn ffactor risg sylweddol ar gyfer gordewdra yn yr arddegau. Mae’r cynnydd ym mhoblogrwydd gemau consol a’r cyfryngau cymdeithasol yn golygu bod tuedd i bobl ifanc yn eu harddegau fabwysiadu ffordd o fyw mwy eisteddog. Nod Prosiect ACTIF ym Mhrifysgol Abertawe yw mynd i’r afael ag ymddygiad eisteddog trwy dalebau gweithgaredd corfforol. Gellir gwario’r talebau hyn ar weithgareddau o ddewis y person ifanc yn ei arddegau - p’un ai’n ddawnsio, trampolinio, nofio neu sgrialu. Trwy roi dewis i’r grŵp hwn, nod ACTIF yw grymuso pobl ifanc yn eu harddegau i berchnogi eu hymddygiad a theilwra gweithgaredd yn uniongyrchol i’r hyn y maent yn ei fwynhau. Cyn dosbarthu talebau, (Medi – Rhagfyr 2016), cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda bechgyn a merched ar wahân er mwyn cael eu barn am y gweithgareddau oedd eisoes ar gael. Gwnaeth y bobl ifanc yn eu harddegau rai argymhellion allweddol. Byddent yn dymuno i weithgareddau fod yn fwy lleol am eu bod yn gorfod teithio ar hyn o bryd ac mae hyn yn gostus. Byddent hefyd yn dymuno i’r cyfleusterau presennol yn eu hardal gael eu cynnal a’u cadw am eu bod yn dweud bod yr offer mewn parciau lleol wedi torri’n aml a bod sbwriel ym mhob man. Byddai’r bobl ifanc yn eu harddegau yn hoffi cael gweithgareddau sydd yn fwy penodol i bobl yn eu harddegau fel dosbarthiadau ffitrwydd mewn campfeydd. Ar hyn o bryd mae cyfyngiad oedran ar ddosbarthiadau fel Zumba a Ioga a byddai pobl ifanc yn eu harddegau yn hoffi gweld hwn yn cael ei godi. Ystyriwyd bod y ddarpariaeth leol yn ddiflas am mai’r un clybiau chwaraeon sy’n cael eu cynnig bob wythnos. Roedd dewis ac amrywiaeth o weithgareddau yn bwysig i bobl ifanc yn eu harddegau, yn arbennig gweithgareddau y gellir eu gwneud gyda ffrindiau. Byddent yn dymuno gweld mwy o fathau distrwythur o weithgareddau’n cael eu darparu ar eu cyfer (er enghraifft parciau trampolîn, neuaddau chwaraeon a pharciau lle gallent chwarae’n rhydd) yn hytrach na chynnydd mewn clybiau chwaraeon (pêl-droed, pêlrwyd ac ati). Mae’r defnydd o’r talebau yn adlewyrchu hyn, er enghraifft gyda’r rhan fwyaf o’r talebau’n cael eu defnyddio mewn mannau fel y parc trampolîn, parc dŵr (gyda sleidiau a pheiriant tonnau) ac ar gwrs GolffTroed sy’n cyfuno pêl-droed a golff i greu fersiwn hwyliog, llai strwythuredig o’r ddwy gamp. Mae canfyddiadau cynnal ar y llinell sylfaen yn dangos nad oedd 74% o’r disgyblion a gafodd eu profi’n ffit ac roedd gan 16% bwysedd gwaed uchel. Rhagwelir os yw talebau ACTIF yn helpu pobl ifanc yn eu harddegau i fod yn fwy ffit, bydd hyn hefyd yn lleihau nifer y plant sydd â phwysedd gwaed uchel. Yn ogystal, bydd ACTIF hefyd o gymorth i bobl ifanc yn eu harddegau i gael mynediad i ddarpariaethau presennol neu i sefydlu rhai eu hun a byddant yn ceisio sefydlu gweithgareddau amser cinio neu ar ôl ysgol i wella darpariaeth gweithgareddau’n lleol. I wneud hyn, rydym yn gweithio gyda darparwyr gweithgareddau lleol a Chyngor Dinas Abertawe, er mwyn helpu i hwyluso’r cyfle i bobl ifanc yn eu harddegau gael mynediad i ffurfiau llai strwythuredig a llai cystadleuol o’u hoff chwaraeon yn agosach at eu cartrefi. Mae’r ymateb i Brosiect ACTIF gan ddisgyblion ac athrawon wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae’n brosiect deinamig sy’n esblygu’n barhaus sydd yn addo darparu rhagolygon cyffrous o ran gweithgaredd corfforol i bobl ifanc yn eu harddegau yn Abertawe ac, o ganlyniad i hynny, lleihau’r perygl o ordewdra yn y grŵp oedran hwn. Bydd canfyddiadau prosiect ACTIF yn helpu i lywio’r broses o wneud penderfyniadau a datblygiad cyfleoedd chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn lleol. Gallai chwyldroi buddsoddi mewn prosiectau i wella lefelau gweithgaredd corfforol pobl ifanc yn eu harddegau. Michaela James – Rheolwr Treial ACTIF - m.l.james@swansea.ac.uk


‘Dewch i Chwarae’ ar Ynys Môn

Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi lansio’i ganllaw newydd, gwell, ‘Môn Dewch i Chwarae’ fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i blant chwarae. Y canllaw hwn yw’r ail rifyn i Gyngor Sir Ynys Môn ei greu yn y ddwy flynedd diwethaf oherwydd y galw mawr amdano, gan weithio mewn cydweithrediad y tro hwn â Thîm Lleol Iechyd y Cyhoedd i hybu negeseuon ‘10 Cam i Bwysau Iach’. Cafodd y rhifyn cyntaf i gael ei gyhoeddi gan Uned Datblygu Chwarae Môn ei ysbrydoli gan lyfr a gynhyrchwyd gan Dîm Datblygu Chwarae Conwy am eu hardal nhw. Datblygwyd ‘Môn Dewch i Chwarae’ mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn, Llywodraeth Cymru, Teuluoedd yn Gyntaf a Chroeso Môn ac mae’n rhoi cipolwg unigryw i blant a phobl ifanc ar fuddion chwarae yn yr awyr agored, gan roi syniadau newydd i rieni ynghylch ble gallant fynd a pha weithgareddau y gallant eu gwneud wrth chwarae yn yr awyr agored. Mae Swyddog Datblygu Chwarae Ynys Môn wedi gweithio mewn cydweithrediad â’r Tîm Iechyd y Cyhoedd Lleol i gefnogi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i amlygu elfennau o ‘10 Cam i Bwysau Iach’ sydd yn cynnwys argymhellion fel darpar rieni yn cyrraedd pwysau iach cyn dechrau teulu, rhoi cyfle i blant o dan bump oed chwarae yn yr awyr agored bob dydd a chyfyngu eu hamser sgrin. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a chyngor am gyrchfannau niferus, yn cynnwys y traethau, parciau, meysydd chwarae, coed, teithiau cerdded a gwarchodfeydd natur ar yr ynys. Wrth lansio’r canllaw hwn, esboniodd Siwan Owens, Swyddog Datblygu Chwarae Ynys Môn “Mae’r canllaw newydd hwn yn datblygu llwyddiant y fersiwn blaenorol, gan rannu mwy o fannau gwych i bobl ifanc a theuluoedd eu harchwilio a chael hwyl. Ceir map yn dangos bob un o’r 36 lleoliad gorau, yn ogystal ag awgrymiadau defnyddiol ar gyfer manteisio i’r eithaf arnynt. Mae’n ymddangos yn syml, ond mae mynd allan i’r awyr agored a chael hwyl yn hanfodol bwysig i ddatblygiad cywir ac iechyd a llesiant plant, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach ar Ynys Môn.” Dywedodd MsTeresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr “Mae chwarae yn yr awyr agored yn bwysig iawn i iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol plant, gall hyd yn oed eu helpu i gysgu a chanolbwyntio’n well. Gobeithio, gyda chymorth y canllaw hwn, y bydd teuluoedd yn gwisgo eu hesgidiau glaw ac yn rhedeg, neidio, sblasio, dringo, padlo a chropian drwy rai o’r mannau chwarae gorau sydd gan Ynys Môn i’w cynnig!” Ychwanegodd Swyddog Datblygu Chwarae Ynys Môn, “P’un ai’n adeiladu cestyll tywod, rholio i lawr bryniau, neu chwilio am drychfilod, ein gobaith yw y bydd y canllaw hwn yn ysbrydoli pobl i fynd allan, bod yn iachach a mwynhau’r ynys hyfryd hon.”


Gallwch weld y canllaw, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn y: Canllaw Môn Dewch i Chwarae. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y canllaw neu chwarae yn gyffredinol, cysylltwch â Siwan Owens ar 01248 752968 / SiwanOwens@ynysmon.gov.uk. Yng Nghyngor Bwrdeistref Conwy, Mae’r Tîm Datblygu Chwarae wedi argraffu copïau papur o’u ‘Canllaw Conwy Dewch i Chwarae’ yn ddiweddar ac wedi rhoi’r ychwanegiadau o’r llyfryn ar gronfa ddata’r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd. Ceir gwybodaeth am weithgareddau a gynhelir yn ystod gwyliau’r ysgol hefyd ar wefan y Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd: www.gwybodaethideuluoeddconwy.co.uk Mae Swyddog Datblygu Chwarae Cyngor Sir y Fflint wedi nodi bod eu canllaw chwarae’n cael ei argraffu ar hyn o bryd ac y bydd ar gael yn fuan..... Y canllaw, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, http://www.anglesey.gov.uk/Journals/b/l/k/ACC30568Anglesey-Playable-Spaces-ENGLISH-2017-WEB.pdf Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y canllaw hwn neu chwarae yn gyffredinol, cysylltwch â Siwan Owens ar 01248 752968.

Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Bro Morgannwg Mae plant cyn-ysgol ar draws Bro Morgannwg yn gwisgo eu ffedogau, yn golchi eu dwylo, a chyda rhywfaint o gymorth gan yr oedolion, yn coginio ystod o ddanteithion iach a blasus. Mae’n rhan o fenter o dan arweiniad Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Bro Morgannwg, gyda’r nod o hybu iechyd ymysg plant cyn-ysgol, trwy weithio trwy’r lleoliadau gofal plant y maent yn eu mynychu. Mae cyfrannu at yr ymdrechion i leihau gordewdra plant yn nod pwysig i’r cynllun. Gan weithio gyda’r athro a’r hyfforddwr bwyd, Richard Shaw, o Coginio Gyda’n Gilydd, cynhaliwyd sesiynau coginio iach mewn sefydliadau gofal plant ar draws Bro Morgannwg, yn cynnwys plant, gweithwyr gofal plant a rhieni hefyd. Gwnaed ryseitiau syml fel pitsas, cawl a myffins gan y plant, sydd, o dan oruchwyliaeth agos, wedi bod yn gwneud y rhan fwyaf o’r tasgau eu hunain. Mae’r sesiynau wedi bod yn hwyliog, a’r holl gostau’n cael eu talu gan y Cynllun Iach a Chynaliadwy Cyn-ysgol. Y syniad yw y bydd y sesiynau’n dechrau rhaglen o goginio’n iach fydd wedyn yn nodwedd reolaidd mewn sefydliadau gofal plant. Mewn ymdrech i’w wneud mor hawdd â phosibl i bawb gymryd rhan, mae’r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy hefyd wedi datblygu Cynllun Benthyg Offer Coginio. Caiff set o offer yn cynnwys ffwrn, ei ddosbarthu i’r lleoliad, i’w fenthyg am unrhyw beth o 3 wythnos i 2 fis – delfrydol ar gyfer lleoliadau sydd heb gyllid i brynu offer, na’r lle i’w gadw.


Mae Catherine Perry yn cydlynu’r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy ym Mro Morgannwg, ac mae wedi cael ei hannog gan ymgymeriad brwdfrydig sesiynau coginio’n iach a’r cynllun benthyg offer. ‘Mae plant cyn-ysgol yn llawn bywyd ac mae ganddynt ddiddordeb ym mhopeth. Nid ydynt yn gallu aros i ddechrau’r sesiynau coginio hyn ac yn cael cymaint o foddhad wrth allu bwyta’r hyn y maent wedi ei wneud. Rydym yn gobeithio, trwy gynnwys rhieni, a gwneud y ryseitiau ar gael iddynt, y bydd coginio bwyd iach yn rhywbeth y bydd plant yn ei wneud yn rheolaidd, ac y bydd hyn yn datblygu’n ddiddordeb gydol oes mewn bwyta bwyd iach’ Canfu Ceri a’r tîm gofal plant yn Grŵp Chwarae West End yn y Barri’r sesiynau coginio’n iach yn ysbrydoliaeth: ‘Roeddwn eisiau rhoi gwybod i chi pa mor dda oedd ein sesiwn goginio heddiw. Fe wnaethant (y plant) samosas llysiau oedd yn flasus iawn. Mae gan Richard ffordd hyfryd gyda’r plant. Rydym bob amser yn cael ein hysbrydoli ar ôl ei ymweliad. Mae’n fraint cael y sesiwn hon a byddem yn croesawu unrhyw gyfleoedd pellach yn y dyfodol.’ Mae’r holl hyfforddiant a’r adnoddau a ddarperir gan Gynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Bro Morgannwg yn rhad ac am ddim i leoliadau sy’n cymryd rhan. Am fwy o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â: Catherine Perry Uwch Arbenigwr Hybu Iechyd: Ysgolion Iach Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llawr 1af, Global Link, Dunleavy Drive, Caerdydd, CF11 0SN 02921 832131 catherine.perry@wales.nhs.uk

Ymarfer a Rennir Prosiect y mis yw SGILIAU MAE AM OES™. Mae SGILIAU MAETH AM OES™ yn rhaglen o hyfforddiant a mentrau maeth gydag ansawdd wedi ei sicrhau a ddatblygwyd a chydlynwyd gan ddeietegwyr sy’n gweithio yn y GIG yng Nghymru. Nod y rhaglen yw cefnogi ystod eang o weithwyr cymunedol, yn cynnwys y rheiny o sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector i hybu bwyta’n iach ac atal diffyg maeth trwy ymgorffori sgiliau bwyd a maeth yn eu gwaith. Nod y rhaglen yw cyrraedd grwpiau cymunedol sydd efallai heb y wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau i baratoi a bwyta deiet cytbwys, iach. Trwy hyfforddi’r rheiny sy’n gweithio’n agos gyda phobl leol, ac yn deall eu hanghenion, mae’r rhaglen yn cefnogi cymunedau ledled Cymru i ddysgu mwy am fwyta’n iach a rhoi gwybodaeth a sgiliau ar waith yn llwyddiannus. Mae gan gyfranogwyr hefyd gyfle i gaffael cymhwyster achrededig sydd yn arbennig o bwysig i’r rheiny a allai fod wedi gadael addysg ffurfiol yn gynnar. Os hoffech ychwanegu eich prosiect eich hun i’r Cyfeiriadur Ymarfer a Rennir mae ffurflen ar-lein hawdd (sydd ond ar gael i aelodau) ac unwaith y caiff ei chymeradwyo gan un o’r cydlynwyr, bydd eich prosiect wedyn yn ymddangos ar y cyfeiriadur. Mae Pecyn Cymorth Hunanasesu hefyd y gellir ei argraffu neu ei lenwi ar-lein ac mae’n galluogi cydlynwyr i sicrhau ansawdd y datblygiad a darpariaeth prosiectau newydd a phresennol. Os oes angen cymorth arnoch yn cwblhau’r pecyn cymorth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ag un o’r cydlynwyr yn publichealth.network@wales.nhs.uk


Crynodeb o’r Newyddion Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion! Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion lawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Plant a Phobl Ifanc Blant yn yfed diodydd chwaraeon yn ddiangen Mae cyfran uchel o blant 12-14 oed yn yfed diodydd chwaraeon yn rheolaidd gymdeithasol, gan gynyddu eu risg o ordewdra ac erydu dannedd, yn ôl arolwg gan Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd

Alcohol Y Prif Weinidog yn gosod blaenoriaethau deddfwriaethol Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi cyhoeddi blaenoriaethau deddfwriaethol ei Lywodraeth ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Amaethyddiaeth / Amgylchedd Naturiol Tyfu Fyny - rhaglen newydd i gefnogi tyfu cymunedol yng Nghymru Crëwyd prosiect Tyfu Fyny FfFfDGC er mwyn cryfhau’r sector tyfu cymunedol yng Nghymru

Gweithgarwch Corfforol Cymunedau Iach Persimmon

Mae Cymunedau Iach Persimmon yn rhoi £600,000 i ffwrdd i gefnogi pobl ifanc ym maes chwaraeon.


Maethiad Ap wedi ei lansio i alluogi ymyrraeth ataliol a chynnar ar gyfer y rheiny yr amheuir bod ganddynt anhwylder bwyta Mae’r ap Diet or Disorder? sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gyda mewnbwn sylweddol gan Wasanaeth Anhwylderau Bwyta Oedolion Haen 3, dioddefwyr, gofalwyr a’r trydydd sector, gyda chyngor gan Rwydwaith Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd, addysg a gofal iechyd sylfaenol.

Clefydau Anhrosglwyddadwy Calon Iach Eich Nod Mae UEFA, Ffederasiwn y Galon y Byd, Sefydliad y Galon yr Iseldiroedd a Chymdeithas Frenhinol Pêl-droed yr Iseldiroedd (KNVB) yn dod ynghyd yn Euro 2017 Menywod UEFA i hybu iechyd y galon a brwydro yn erbyn clefyd cardiofasgwlaidd, y clefyd sydd yn lladd fwyaf yn byd.

Cliciwch Yma am fwy o newyddion ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Gorffenaf

0 0 0 1 1 1

3 4 6 0 2 2

UCL Health and Society Summer School: Social Determinants of Health Llundain Ymdrechu i Ffynnu: Symud Addysg Gorfforol ymlaen mewn cyfnod o her a newid Burton on Trent Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu’n Gynnar Llundain

Ysgol Haf Cyfweld Ysgogiadol Caerdydd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl Caerdydd

Hyb Cymorth ACE yn cyflwyno CADERNID: Bioleg Straen a Gwyddor Gobaith YMCA Caerdydd

Cliciwch yma am mwy o ddigwyddiadau ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Cysylltu â Ni Rhif 2 Capitol Quarter Llawr 5 Tyndall Stryd Caerdydd CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf anfonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk Dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.


Rhifyn nesaf: Ymwybyddiaeth o’r Haul

Profile for Public Health Network Cymru

Childhood Obesity pdf Welsh HQ  

Childhood Obesity pdf Welsh HQ  

Profile for phwprid