Page 1

Ionawr 2018


Croeso i’r e-fwletin Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd! Croeso i rifyn mis Ionawr o e-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dan sylw fis yma mae ‘Diwrnod Canser y Byd’. Mae Diwrnod Canser y Byd yn ddigwyddiad byd-eang a gynhelir bob blwyddyn ar 4 Chwefror. Mae’r digwyddiad hwn yn uno poblogaeth y byd yn y frwydr yn erbyn canser. Ei nod yw arbed miliynau o farwolaethau y gellir eu hosgoi bob blwyddyn trwy godi ymwybyddiaeth ac addysgu am y clefyd, gan roi pwysau ar lywodraethau ac unigolion ar draws y byd i weithredu. Mae llawer o adnoddau’n ymwneud â’n testun dewisol yng nghronfa ddata adnoddau’r Rhwydwaith. Mae cyflwyniadau a fideos y Seminar Dementia, a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, bellach ar gael ar dudalen ‘Digwyddiadau Blaenorol’ gwefan y Rhwydwaith. Ein Seminar nesaf a gynhelir ar 14 Mawrth 2018 fydd ‘Rôl Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ym maes Iechyd y Cyhoedd.’ Bydd mwy o wybodaeth ar gael yr wythnos nesaf. Cynhelir Cynhadledd Iechyd Rhywiol hefyd ar 22 Mawrth 2018 ac rydym wedi anfon ‘galwad am grynodebau’ felly os oes gennych unrhyw beth addas, cysylltwch â ni. Gellir cofrestru bellach ar gyfer y gynhadledd trwy Eventbrite. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw wybodaeth yr hoffech ei chynnwys ar y wefan neu’r e-fwletin trwy gysylltu â ni yn publichealth.network@wales.nhs.uk


@PHNetworkcymru

/publichealthnetworkcymru

www.publichealthnetwork.cymru


Gallwn Ni. Dwi’n Gall


lu. Diwrnod Canser y Byd Dan Sylw O dan yr arwyddair ‘We Can. I Can.’, bydd Diwrnod Canser y Byd 2016-2018 yn archwilio’r ffordd y gall pawb – ar y cyd neu fel unigolion – wneud eu rhan yn lleihau baich byd-eang canser. Yn yr un modd ag y mae canser yn effeithio ar bawb mewn ffyrdd gwahanol, mae gan bobl y grym i gymryd camau amrywiol i leihau’r effaith y mae canser yn ei gael ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae Diwrnod Canser y Byd yn gyfle i adlewyrchu ar yr hyn y gallwch ei wneud, gwneud addewid a gweithredu. Beth bynnag y byddwch yn dewis ei wneud ‘Gallwn Ni. Gallaf i.’ wneud gwahaniaeth i’r frwydr yn erbyn canser. http://www.worldcancerday.org/about/20162018-world-cancer-day-campaign


Dosbarth Coginio yn Cynnig Cymorth i Gleifion Canser yn Llangollen - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Daeth grŵp o gleifion gwrywaidd â chanser at ei gilydd yn y gegin i helpu gyda'u hadferiad. Mae'r grŵp 'Dewch i goginio' sydd wedi'i leoli yn Llangollen wedi bod yn coginio yn y gegin gan ddysgu sut i wneud cyri iach, salad a phrydau pasta a fydd yn eu helpu i gael yr holl faeth sydd ei angen arnynt yn ystod yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth iddynt wella o ganser. Maent hefyd yn cael gwersi maeth yn ystod y sesiynau coginio ble maent yn dysgu am agweddau gwahanol o fwyd a maeth a pha fath o fwyd fydd fwyaf llesol iddynt. Mae'r grŵp wedi cael eu dysgu i goginio gan ddietegwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a helpodd Pam Wedley, Uwch Swyddog Gwybodaeth a Chefnogaeth Macmillan i sicrhau cyllid ar gyfer y cwrs. Mae'r cwrs yn gwrs achrededig mewn partneriaeth â Sgiliau Maeth am Oes a Addysg Oedolion Cymru. Mynychodd Dai Davies, Cyn gôl-geidwad Cymru, Wrecsam a Everton, y cwrs i'w helpu i ddeall faint gall maeth helpu ei adferiad o ganser y brostad. "Cefais lawdriniaeth i dynnu fy mhrostad ac rwyf yn cael mwy o driniaeth ar hyn o bryd. Clywais am y cwrs drwy'r grŵp cymorth canser y brostad yr wyf yn ei fynychu yn Llangollen. "Mae'n ardderchog. Mae'r cyfeillgarwch yn wych. Mae wedi bod yn ddiddorol. Rydym wedi gwneud nifer o bethau megis pasta a bisgedi gyda llai o siwgr. Rwyf hefyd yn ddiabetig felly po fwyaf o wybodaeth a doethineb sydd gennych ynglŷn â sut i ofalu am eich hun, gorau oll. "Gallwch reoli'ch cyflwr ond bu'n her rheoli dau gyflwr y diabetes a chanser. Yn hytrach na gadael iddo ddifetha eich bywyd, mae'n ymwneud â chael ansawdd eich bywyd yn ôl a rheoli sgîl effeithiau'r driniaeth. Dywedodd Malcolm Beer sydd wedi bod yn dioddef o ganser yr oesoffagws fod y cwrs wedi ei helpu i roi ei fywyd yn ôl at ei gilydd ar ôl i ganser droi ei fywyd o chwith.' Ni all Malcolm fwyta darnau mawr o fwyd bellach oherwydd y llawdriniaeth a gafodd i gael gwared ar y canser felly mae cael y calorïau sydd eu hangen arno bob dydd wedi bod yn her. Dywedodd, "Mae'r cwrs hwn o fantais i mi gan fod cynnal pwysau iach yn heriol iawn, rwyf yn dysgu sut i wneud bwyd addas sy'n iach ond yn fy helpu i gynnal pwysau iach. "Teimlaf fyd mod wedi elwa'n fawr ohono ac mae ar y lefel cywir. Rwyf wedi coginio o'r blaen ar hyd fy oes ond erioed fel hyn. "Mae fy ngwraig wedi ei synnu gyda fy nghynnydd. Mae wrth ei bodd gyda'r bwyd rwyf wedi'i goginio, ac mae wedi rhoi rhywbeth arall i mi ei wneud a fy helpu i ddefnyddio fy amser yn effeithiol. "Ni allaf ddweud digon o bethau da ynglŷn â'r cwrs hwn, mae'n anhygoel oherwydd rydym wedi bod yn coginio bwyd sydd ar gael yn hawdd. "Mae wedi fy helpu gyda fy iechyd a fy adferiad. Nid wyf yn prynu bwydydd parod bellach, rwyf yn gwneud popeth o'r dechrau i’r diwedd. Cafodd fy mywyd ei droi o chwith gan ganser ond mae'r cwrs wedi fy helpu'n fawr yn y broses o'i roi yn ôl at ei gilydd. "Rwyf yn awr eisiau gwneud mwy o gyrsiau coginio wedi i'r cwrs yma orffen ac rwyf yn edrych am gwrs da i'w wneud." Dywedodd Sarah Powell-Jones, arweiniodd ar ddysgu ynglŷn â maeth, "Dechreuodd y grŵp o grŵp cefnogaeth canser y brostad sy'n cyfarfod yn Llangollen ond mae gennym ddynion yma sydd wedi'u heffeithio gan wahanol fathau o ganser.


“Maent i gyd ar wahanol gyfnodau o’u canser, felly cafodd y cwrs ei deilwra i’r heriau gwahanol y maent yn eu hwynebu. “Mae’r cwrs hwn yn unol â gwerthoedd y Bwrdd Iechyd - mae rhoi unigolion yn gyntaf wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud. Gofynnwyd i’r cleifion beth roeddent eisiau a dywedon nhw wrthym. Rydym yn ddiolchgar iawn i Macmillan a Ward Seren Wib drwy Awyr Las am y cyllid i’w gynnal.” Dywedodd Pam Wedley, Uwch Weithiwr Macmillan, “Mae’n ymwneud â meithrin perthynas gydag unigolion nad ydynt wedi eu cyfarfod o’r blaen. Yn y grŵp hwn mae gennym rai cleifion â chanser yr oesoffagws ac mae gan y gweddill ganser y brostad. “Gyda chanser yr oesoffagws, gall effeithiau’r driniaeth fod yn ddifrifol a gall wneud llyncu a bwyta’n anodd iawn. “Addaswyd y cwrs i gyd-fynd â phob claf, er enghraifft, mae’r dynion â chanser yr oesoffagws wedi dysgu sut i wneud rhai ryseitiau sy’n hawdd eu bwyta a’u llyncu ac maent yn llawn calorïau ond yn iach oherwydd y gallant gael trafferth i gael y cyfanswm cywir o galorïau. Mae’n wych eu gweld yn dysgu ond hefyd yn treulio amser gyda’u gilydd.”


HPV – brechlyn i helpu i atal canser Tîm Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru Beth yw HPV? HPV (Feirws Papiloma Dynol) yw’r enw a roddir i deulu o feirysau, y mae rhai ohonynt yn gallu achosi canser. Ceir dros 100 o fathau o HPV. Bydd cymaint â hanner y boblogaeth yn cael eu heintio gyda HPV ar ryw adeg yn eu bywyd. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn cael unrhyw symptomau ac yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw’r feirws yn gwneud unrhyw niwed am fod ein systemau imiwnedd yn clirio’r haint, ond i rai pobl, mae’r haint yn parhau, a gall arwain at broblemau iechyd. Yn y DU, ceir diagnosis o ryw 3,000 o achosion o ganser ceg y groth bob blwyddyn ac mae tua 900 o fenywod yn marw o ganlyniad i hyn. Mae pob achos bron wedi eu hachosi gan HPV. Mae HPV hefyd yn achosi canserau eraill, yn cynnwys canser yr anws a’r pidyn. Gellir priodoli tua 40% o ganserau’r pidyn i HPV. Ar y cyfan, mae canser yr anws yn fwy cyffredin ymysg menywod na dynion, ond ceir cyfraddau uwch ymysg dynion sy’n cael rhyw gyda dynion eraill (MSM). Sut caiff HPV ei ledaenu? Y feirws HPV yw’r haint feirysol mwyaf cyffredin sy’n cael ei drosglwyddo’n rhywiol, ond mae’n gallu cael ei drosglwyddo trwy ddulliau nad ydynt yn rhywiol, yn cynnwys trosglwyddo o’r fam i’r babi. Sut gallwn atal HPV? Mae defnyddio condom yn helpu i atal yr haint rhag cael ei ledaenu ond nid yw’n dileu’r risg. Mae brechu’n helpu i amddiffyn rhag HPV. Defnyddir brechlyn o’r enw Gardasil® ar hyn o bryd yn rhaglen frechu’r GIG. Mae’n amddiffyn rhag pedwar math o HPV sydd, rhyngddynt, yn gyfrifol am fwy na 70% o ganserau ceg y groth yn y DU a defaid gwenerol. Pwy sy’n gallu cael brechlyn HPV gyda’r GIG yng Nghymru? Mae rhaglen frechu HPV ar gyfer merched wedi ei sefydlu er 2008. Mae merched yn cael cynnig cwrs o’r brechlyn HPV fel mater o drefn yn yr ysgol ym mlwyddyn 8. Mae’r brechlyn fel arfer yn gwrs o ddau frechlyn (gydag o leiaf 6 mis rhyngddynt) yn y grŵp oedran hwn. Mae’r daflen hon yn rhoi mwy o wybodaeth: Eich canllaw i’r brechlyn HPV. Mae brechu’r rhan fwyaf o ferched y DU yn golygu bod eu partneriaid gwrywaidd yn y dyfodol yn cael rhywfaint o amddiffyniad hefyd. Fodd bynnag, nid yw dynion sy’n cael rhyw gyda dynion (MSM) yn cael llawer o fuddion iechyd anuniongyrchol o’r rhaglen frechu fel mater o drefn ar gyfer merched. Cyflwynwyd rhaglen frechu HPV ar gyfer MSM yn 2017 yng Nghymru ac mae’n cynnig cwrs o’r brechlyn HPV i MSM hyd at ac yn cynnwys 45 oed wrth fynychu clinigau iechyd rhywiol i gael gwasanaethau iechyd rhywiol. Gall unigolion eraill sydd â pherygl tebyg o gael yr haint HPV gael cynnig y brechlyn wrth fynychu clinig, yn seiliedig ar asesiad clinigol. Mae’r rhain yn cynnwys rhai MSM dros 45 oed, dynion a menywod trawsrywiol, dynion a menywod HIV positif a gweithwyr rhyw. Mae’r brechlyn HPV ar gyfer y rheiny sydd yn 15 oed ac yn hŷn yn gwrs o dri phigiad a roddir dros 4-12 mis. Ceir mwy o wybodaeth ar y daflen hon: ’Brechlyn HPV ar gyfer dynion syn cael rhyw gyda dynion (MSM) Am fwy o wybodaeth am haint HPV cliciwch yma


Pwysigrwydd ffordd o fyw iach yn atal canser Pamela Mason Cafwyd diagnosis a chofrestrwyd cyfanswm o 19,088 o achosion newydd o ganser ymysg y bobl sydd yn byw yng Nghymru yn 2015. O’r rhain, roedd 9,837 ymysg dynion a 9,215 ymysg menywod. Yn gyffredinol, mae hwn yn gynnydd o 10%, sef 1,699 yn fwy o achosion yn 2015 o’u cymharu â deng mlynedd yn flaenorol. Er bod llawer o bobl yn credu bod datblygu canser yn ymwneud â genynnau neu anlwc, mae gweithwyr gofal iechyd y cyhoedd proffesiynol yn gwybod y credir y gellir atal tua thraean o’r 13 math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU trwy ddeiet gwell, gweithgaredd corfforol a phwysau’r corff a’r ffactorau risg amlwg eraill yw smygu a niwed gan yr haul. I unrhyw un sydd yn siarad â phobl am fyw bywyd iach a lleihau’r perygl o ganser, mae ymchwil sylweddol wedi cael ei gwneud i ganllawiau ataliaeth Cronfa Ymchwil Canser y Byd (WCRF) a chânt eu diweddaru a’u datblygu’n barhaus yn unol â’r dystiolaeth orau posibl o adolygiadau systemig a meta-ddadansoddiadau os oes rhai ar gael. Mae’r prif argymhellion ar gyfer unigolion fel a ganlyn: • Byddwch mor denau â phosibl o fewn ystod iach pwysau’r corff. Dylai BMI fod ar begwn isaf yr ystod BMI arferol yn 21 oed a dylid osgoi magu pwysau ac amgylchedd eich canol pan yn oedolyn. Mae tystiolaeth gref fod magu pwysau, gordewdra a bod dros bwysau’n cynyddu’r perygl o 11 o ganserau: canserau’r coluddyn, y fron (ar ôl y menopos), y prostad (datblygedig), y pancreas, endometriaidd, yr aren, yr iau, y goden fustl, yr oesoffagws (adenocarcinoma), yr ofari a’r stumog. • Byddwch yn egnïol yn gorfforol, yn gyfwerth â cherdded yn gyflym, am o leiaf 30 munud bob dydd a gwnewch lai o weithgareddau eisteddog. Wrth i’ch ffitrwydd wella, anelwch am 60 munud o weithgaredd cymedrol neu 30 munud o weithgaredd corfforol mwy dwys bob dydd. Mae ap Active 10 y GIG yn cofnodi cerdded ac yn dangos sawl munud bob dydd yr ydych wedi treulio’n cerdded yn gyflym. • Bwytewch fwydydd sydd yn llawn egni (bwydydd sy’n darparu > 225-275 kcal/100g), yn gymedrol, dylech osgoi diodydd melys a bwyta llai o fwyd brys os o gwbl. Dylid cyfyngu ar sudd ffrwythau hefyd. Nid yw bwydydd heb eu prosesu llawer sydd yn llawn egni fel cnau a hadau wedi cael eu cysylltu â magu pwysau os ydynt yn cael eu bwyta fel rhan o ddeiet arferol. • Bwytewch rawn a/neu lysiau heb eu prosesu llawer gyda phob pryd, ac amrywiaeth o 400g o leiaf (5x80g dogn) o lysiau a ffrwythau di-startsh o liwiau gwahanol bob dydd. • Cwtogwch ar gig coch ac osgoi cig wedi ei brosesu. Dylai pobl sydd yn bwyta cig coch gyfyngu hyn i ddim mwy na 500g yr wythnos heb lawer o gig wedi ei brosesu os o gwbl. • Er mwyn atal canser, mae’n well peidio yfed alcohol. Dylai pobl sydd yn yfed gwtogi ar alcohol a dilyn canllawiau cenedlaethol. • Cwtogwch ar fwydydd hallt a bwydydd wedi eu prosesu gyda halen wedi ei ychwanegu er mwyn sicrhau eich bod yn cael llai na 6g (2.4g sodiwm) bob dydd. Dylech osgoi bwyta grawn a llysiau wedi llwydo er mwyn osgoi cyswllt ag afflatocsinau. • Ceisiwch fodloni anghenion maeth trwy ddeiet yn unig. Nid oes angen atchwanegiadau deietegol i atal canser. • Ceisiwch fwydo babanod ar y fron yn unig am 6 mis. • Dylai goroeswyr canser gael gofal maeth a, lle y bo’n bosibl, ceisio dilyn y canllawiau ar gyfer atal canser. Mae argymhellion WCRF yn addas ar gyfer pob oedolyn iach, gan gyfrannu at iechyd da cyffredinol yn ogystal ag atal canser. Mae’r ffocws ar gynnal pwysau’r corff ar waelod yr ystod BMI arferol sef 20-25 trwy gydol eich oes fel oedolyn a bod yn egnïol yn gorfforol a pheidio yfed alcohol. Mae argymhellion deietegol yn canolbwyntio ar ddeiet o blanhigion, yn cynnwys bwyta grawn a llysiau heb eu prosesu gyda phob pryd a 400g o lysiau a ffrwythau di-startsh yn ddyddiol a chyfyngu ar gig coch, osgoi cig wedi ei brosesu a bwyta unrhyw fwydydd sydd yn llawn egni a/neu fwydydd hallt yn gymedrol iawn. Yn fras, fel y nodwyd mewn ffordd debyg gan y newyddiadurwr o’r UD, bwytewch fwydydd cyflawn heb eu prosesu, planhigion yn bennaf, a

Michael Pollan, dim gormod.

Mae deiet o’r fath yn dda nid yn unig i iechyd y cyhoedd ac i leihau’r perygl o ganser, ond hefyd i iechyd y blaned. Deiet yn seiliedig ar blanhigion, gyda chig neu fwyd anifeiliaid arall (os ydych yn ei hoffi), fel ychwanegiad, yw sylfaen deiet mwy cynaliadwy. Mae gwneud grawn heb ei brosesu, codlys a llysiau yn ganolbwynt y plât yn rhywbeth y dylem i gyd ei ystyried.


Podlediad

Fe wnaethoch ofyn i ni am bodlediadau ac fe wnaethom wrando! Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau i greu podlediadau y gellir eu llwytho i lawr a gwrando arnynt wrth fynd. Mae’r holl bodlediadau ar gael yn adran ‘Cymryd Rhan’ y wefan.


Cael Ei Holi Fis yma, mae Andy Glyde, Rheolwr Materion Cyhoeddus Cymru yn Ymchwil Canser y DU, dan sylw.

Ble ydych chi’n gweithio ar hyn o bryd a beth yw eich arbenigedd?

Fi yw Rheolwr Materion Cyhoeddus Cymru Ymchwil Canser y DU, sy’n golygu fy mod yn datblygu cydberthynas ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Rhwydwaith Canser Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, ymysg eraill, er mwyn gwella canlyniadau canser yng Nghymru. Mae’n swydd amrywiol iawn, sy’n golygu y gallaf fod yn gweithio ar bethau fel diagnosis cynnar, mynediad i driniaethau canser, gordewdra a rheoli tybaco, neu gefnogi ymchwil canser o safon fyd-eang, i gyd mewn un diwrnod. Uchelgais Ymchwil Canser y DU yw gwella cynnydd o ran goroesi canser fel bod 3 mewn 4 o bobl yn goroesi eu canser erbyn 2034. Un ffordd yr ydym yn bwriadu cyflawni hyn yw trwy ariannu ymchwil – y llynedd, ariannwyd dros £4 miliwn o ymchwil canser yng Nghymru. Rydym hefyd yn datblygu polisi ar y ffordd y gellir gwella gwasanaethau a chanlyniadau canser, ac mae rhan fawr o’m swydd yn cynnwys sicrhau ein bod yn cyfathrebu’r polisïau hyn gyda’r bobl iawn.

Mae’r e-fwletin fis yma yn amlygu Diwrnod Canser y Byd. Beth yn eich barn chi yw’r prif heriau yr ydym yn eu hwynebu wrth fynd i’r afael â materion yn ymwneud â hyn yng Nghymru? Mae goroesi canser yn gwella yng Nghymru. Yn ôl yn y 1970au, goroesodd tua 1 mewn 4 o bobl eu canser. Heddiw, ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae’r ffigur hwnnw bellach yn 2 mewn 4. Fodd bynnag, er ein bod yn croesawu’r cynnydd hwn, mae Cymru’n dal yn perfformio’n wael mewn cymariaethau rhyngwladol ar oroesi canser.

Un o’r rhesymau am hyn yw nad ydym yn rhoi diagnosis o ddigon o ganserau yn ystod cyfnod cynnar, pan mae’r driniaeth yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus. Gwyddom eich bod dair gwaith yn fwy tebygol o oroesi os ydych yn cael diagnosis o ganser Cyfnod I/II o’i gymharu â chanser Cyfnod III/IV. Fodd bynnag, ar gyfer rhai canserau, fel canser yr ysgyfaint, y coluddyn a’r oesoffagws, mae llai na hanner y diagnosis yn digwydd yn ystod Cyfnod I/II. Mae hynny’n golygu bod angen ffocws mawr ar roi diagnosis o fwy o ganserau yn ystod y cyfnodau cynharaf. Mae gwaith da eisoes yn cael ei wneud, fel y ddau gynllun peilot o glinig diagnostig yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Ond mae angen i ni hefyd fynd i’r afael â rhai o’r materion anodd iawn, fel sut i leihau bylchau yn y gweithlu diagnostig.


Beth yw’r neges bwysicaf y dylid eu cyfleu i weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd yn ymwneud â’r testun hwn? Os ydym yn gweithio gyda’n gilydd, gallwn wneud gwelliannau sylweddol i ganlyniadau canser yng Nghymru. Wrth gwrs, dim ond un arf yw diagnosis cynnar. Gwyddom fod atal canser yr un mor bwysig – mae 4 mewn 10 canser yn ymwneud â ffactorau risg ataliadwy. Mae cyfraddau smygu yn dal i leihau yng Nghymru ar 19%. Ond rydym eisiau mynd ymhellach. Rydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod uchelgais o ddim tybaco, lle mae llai na 5% o’r boblogaeth ar draws pob grŵp economaidd-gymdeithasol yn smygu, erbyn 2035. Gordewdra yw achos ataliadwy pennaf canser ar ôl tybaco. Mae tua 24% o blant a 59% o oedolion yng Nghymru dros bwysau ac yn ordew. Mae’n hanfodol mai nod y Strategaeth Ordewdra sydd i ddod yw mynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon.

Ydych chi’n credu y gallai Cymru fod yn gwneud mwy i wella ymwybyddiaeth? Rwy’n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn gwybod y gellir gwneud mwy i wella canlyniadau canser yng Nghymru. Mae Diwrnod Canser y Byd, ar 4 Chwefror, yn gyfle i ni uno a chydweithio i wneud hyn.

Pe byddech yn cael 3 dymuniad, beth fyddent? 1. Bod mwy o ganserau yn cael diagnosis yn ystod Cyfnod I/II er mwyn i ni allu gwneud gwelliannau mawr o ran goroesi. 2. Bod gan Gymru gynllun clir ar gyfer sicrhau bod gennym y gweithlu iawn, nawr ac i’r dyfodol, er mwyn bodloni’r gofynion ar gyfer profion canser. 3. Bod Cymru’n arwain y ffordd gyda Strategaeth Ordewdra gref ac yn mabwysiadu uchelgais dim tybaco.

Beth yw eich diddordebau personol/hobïau? Rwy’n gefnogwr pêl-droed brwd (gwylio yn hytrach na chwarae) ac rwy’n ceisio gwylio Arsenal pan wyf yn cael y cyfle. Ers symud i Gymru, rwyf hefyd wedi bod yn dilyn Dinas Caerdydd ac yn cymryd y clod yn llawn am eu perfformiad da y tymor hwn. Yn ogystal â hynny, rwyf wrth fy modd yn darllen, ysgrifennu, cerddoriaeth a gwylio boxset da. Rwyf hefyd wedi canfod fy mod yn hoffi gwneud ychydig o DIY, ond mae hyn wedi bod o reidrwydd yn hytrach na dewis.


Pyncia Llosg Mae rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglyn a gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgrifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiaddau! Os ydych chi’n dynuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost publichealth.network@wales.nhs.uk Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!

Archebwch eich lle i Symposiwm Deintyddol cyntaf Cymru Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Deintyddol Cymru yn cynnal Symposiwm Deintyddol cyntaf Cymru ym mis Mawrth. Cynhelir y ddau ddigwyddiad yng Ngogledd a De Cymru ar 1 Mawrth yn y Ramada Plaza, Wrecsam ac ar 13 Mawrth yn Stadiwm y Principality, Caerdydd – cliciwch ar y dolenni i gofrestru ar gyfer y lleoliad o’ch dewis. Anogir yr holl weithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn iechyd y geg a deintyddiaeth yng Nghymru i fynychu’r symposiwm gan gynnwys y rhai sy’n gweithio mewn timau deintyddol cymunedol, staff ysbyty, gweithwyr Bwrdd Iechyd a chydweithwyr sy’n gweithio i Wasanaethau Deintyddol y GIG, Deoniaeth Cymru, a’r Ysgol Deintyddiaeth yng Nghaerdydd. Bydd y digwyddiadau yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr ysbrydoledig, sesiynau trafod ac ardal farchnad, a bydd digon o gyfleoedd i leisio eich barn a chymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd ym myd deintyddiaeth yng Nghymru. Bydd uchafbwyntiau’r symposiwm yn cynnwys: - Gwella Iechyd y Geg a Gwasanaethau Deintyddol sy’n cyfrannu at Ffyniant i Bawb - Rhaglen Ddiwygio Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol - Arloesi mewn Deintyddiaeth Meddai Dr Colette Bridgman, Prif Swyddog Deintyddol Cymru: “Rydym yn falch iawn o allu cynnal y ddau ddigwyddiad yma ledled Cymru, a’r gobaith yw mai’r rhain fydd y cyntaf o lawer. “Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed am wella iechyd y geg a llywio newid mewn deintyddiaeth yng Nghymru, rwy’n eich gwahodd i ymuno â ni; rydym yn awyddus i glywed eich barn a’ch syniadau. ”Mae’r strategaeth genedlaethol: Ffyniant i Bawb yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â ‘chymryd camau sylweddol i newid o ddull o ganolbwyntio ar drin pobl i ddull o ganolbwyntio ar atal’. “Mae angen diwygio contractau ar draws gwasanaethau deintyddol yng Nghymru ac mae'n rhan sylweddol o'r


ymateb deintyddol i Ffyniant i Bawb, ac mae rhaglen sy’n cynnwys 23 practis deintyddol eisoes ar waith yng Nghymru. Bydd modd i chi gael mwy o wybodaeth yn y symposiwm.” Medd Anup Karki, Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus: “Bydd symposia deintyddol yn rhoi llwyfan i drafodaeth ynglŷn â’r cyfleoedd a’r heriau sy’n ein hwynebu o ran gwella iechyd y geg ymysg y boblogaeth a gwneud gwasanaethau deintyddol ar draws Cymru yn gynaliadwy. “Mae’r rhaglen ar gyfer ein symposiwm cyntaf yn ymdrin â meysydd blaenoriaeth allweddol yng Nghymru ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ymchwilio ymhellach i’r rhain.” Meddai Warren Tolley, Cadeirydd Pwyllgor Deintyddol Cymru: “Gellir mynychu’r gynhadledd hon am ddim, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu bod yn bresennol cyn cofrestru; mae cryn gost yn gysylltiedig â chynnal digwyddiad o’r fath ac rydym eisiau sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu manteisio ar y symposiwm.” Mae lle ar ôl o hyd ar gyfer stondinau arddangos bach yn yr ardal farchnad; mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan unigolion, neu dimau, sy’n gwneud gwaith arloesol yn y maes deintyddol. Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu stondin e-bostiwch Raylene.Roper@wales.nhs.uk. Ewch i dudalennau’r digwyddiad i gofrestru – cofrestrwch ar gyfer Gogledd Cymru yma a De Cymru yma.


Canfod Cysylltiadau MHM Wales

I bobl 16 oed a hyn gan MHM Wales a KPC

Mae MHM Wales yn hwyluso ei raglen Canfod Cysylltiadau o KPC Youth & Community i unrhyw un 16 oed a hŷn Dysgwch sut rydym yn meddwl a’r hyn rydym yn ei wneud, ac archwiliwch sgiliau ymdopi gwahanol, strategaethau ac arfau i’ch helpu i ymdrin â bywyd yn well.

Cynhelir y sesiynau ar brynhawn Mercher, 1pm - 4pm yn KPC Youth & Community, oddi ar Heol Tafarn y Pîl, y Pîl CF33 6AB Rhaglen : 17, 24, 31 Ionawr Yn dilyn y sesiynau, byddwn yn cynnal sesiynau cymorth/gwybodaeth/ hamddenol fel y gallwch barhau i gael cymorth lleol.

Mae’r sesiynau’n gynhwysol, yn rhyngweithiol, yn gefnogol ac yn gyfrinachol ac yn agored i unrhyw un y Bydd gwasanaeth cwnsela un i un hefyd mae ganddo straen a gorbryder, iselder, ar gael. problemau iechyd meddwl neu bryderon am eu lles cyffredinol.

Mae’r sesiynau’n gyfyngedig i 12 y rhaglen, felly cadwch leoedd er mwyn sicrhau bod eich lle’n cael ei gadarnhau. 8Os gallech chi neu rywun rydych yn ei adnabod gael budd o’r sesiynau hyn, cysylltwch: KPC Youth &Community, oddi ar Heol Tafarn y Pîl, y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr CF33 6AB Ffôn: 01656 749219/745399

E-bost: kpcyouth@hotmail.com

MHM Wales: 01656 651450


Sesiynau Adborth ar Fframwaith Newydd Adnabyddiaeth a Sgiliau ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru.

Manylion Fel rhan o baratoadau ni ar gyfer gweithrediad Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, mae’r Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi bod yn paratoi Fframwaith Adnabyddiaeth a Sgiliau newydd a Llwybr Datblygiad i Ymarferydd ar gyfer HIA yng Nghymru.

Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau byr yn ystod mis Chwefror a Mawrth i brofi ein fframwaith a teclyn arbrofi sgiliau i gael amrediad eang o adborth cyn i’r fframwaith cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth. Bydd y fframwaith yn effeithio’r ffordd byddwn yn darparu hyfforddiant yn y dyfodol.

Mae’r sesiynau yma yn berthnasol i unrhywun sydd gyda diddordeb yn gweithlu a datblygiad proffesiynol yn iechyd cyhoeddus, ansawdd ac effaith, asesu’r effaith ar iechyd (HIA), anghyfartaledd yn iechyd, a pholisi cyhoedd iachus.

Dyddiau, Llefydd ac Amseroedd Chwefror 26, Denbigh, Adeilad Caledfryn, Bore 10-12 Mawrth 5, CQ2, Caerdydd, Ysfafell Innovation, Bore 10-12 Mawrth 7, CQ2, Caerdydd, Ystafell Innovation, Bore 10-12 Mawrth 12, Tŷ Matrix, Abertawe, Bore 10-12 I gofrestru, cysylltwch gyda Nerys.S.Edmonds@wales.nhs.uk

Os ydych am ffindo mas mwy am y fframwaith ond yn methu dod i un o’r sesiynau uchod, cysylltwch gyda Nerys.S.Edmonds@wales.nhs.uk i drafod dros y ffon neu ebost.


Economeg Iechyd ar gyfer Ymarfer ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus CWRS BYR 2 DDIWRNOD YM MHRIFYSGOL BANGOR 19fed—21fed Mawrth 2018

Cyfanswm cost: £775 Pris yn cynnwys:

Prydau bwyd a llety o 4pm ddydd Llun 19fed Mawrth tan 1.30pm Ddydd Mercher 21fed Mawrth yn y Ganolfan Rheolaeth, Bangor (https://www.bangor.ac.uk/management_centre/index.php.cy)

Cyfarwyddwr y cwrs: Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, ynghyd â siaradwyr gwadd. Cofrestru’n cau 28 Chwefror 2018* Unrhyw gwestiwn, cysylltwch â : Mrs Ann Lawton Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor Neuadd Ardudwy Bangor. LL57 2PZ Ffôn: 01248 382153 E-bost: cheme@bangor.ac.uk Am ragor o wybodaeth: http://cheme.bangor.ac.uk/health-economics-course-16.php.cy *Tâl canslo o 10% cyn 28fed Chwefror 2018, 50% ar ôl y dyddiad hwn.


Crynodeb o’r Newyddion Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion! Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion Iawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Clefydau Anhrosglwyddadwy BHF a Tesco’n ymuno mewn partneriaeth byw’n iach newydd

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon, Ymchwil Canser y DU a Diabetes UK wedi dod ynghyd gyda Tesco heddiw i fynd i’r afael â rhai o heriau iechyd mwyaf y DU.

Plant a Phobl Ifanc Y BBC a’r Uwch Gynghrair yn Dechrau ‘Super Movers’

Mae’r BBC a’r Uwch Gynghrair wedi dechrau ymgyrch o’r enw Super Movers i helpu athrawon ysgol gynradd i annog plant i fod yn fwy egnïol.

Iechyd Meddwl Meddylgarwch yn rhoi hwb i iechyd meddwl myfyrwyr yn ystod arholiadau, yn ôl astudiaeth

Mae ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt wedi dangos techneg i helpu i ddatblygu cadernid ymysg israddedigion hyd yn oed mewn cyfnodau o straen sylweddol.

Alcohol Maint cynyddol gwydrau gwin yn cyd-fynd ag yfed mwy

Mae maint gwydrau gwin wedi cynyddu saith gwaith dros y 300 mlynedd diwethaf Mae yfed alcohol yn rhan fawr o gyfnod y Nadolig ond gallai yfed mwy fod yn rhannol oherwydd maint cynyddol gwydrau gwin, yn arbennig yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, yn ôl erthygl yn rhifyn y Nadolig o’r BMJ.

Cliciwch yma am fwy o newyddion ar y wefan Cysyllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Chwefror

0 0 1 1 2 2 2

2 6 2 5 0 1 8

Cefnogi Plant Mudol yng Nghymru: Cyd-destun Cymru o ran y Gyfraith, Polisi ac Ymarfer Caerdydd HiAP 2018: Strategaeth ar gyfer Gwella Iechyd y Boblogaeth Y Gymdeithas Feddygol Frenhinol, Llundain

Gweithio Gyda Grwpiau Caerdydd

Cael Cymru i Symud: Cyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Caerdydd Heneiddio Cynaliadwy: Pobl Hŷn a Pholisi Cyhoeddus y tu hwnt i 2020 Academïau Brenhinol ar gyfer Gwyddorau a Chelfyddydau Gwlad Belg Symposiwm Llesiant 2018: Gwneud Iechyd a Llesiant yn Fusnes i Bawb Gwesty Rhyngwladol Ashford, Ashford Cynnwys Plant Anabl Caerdydd

Cliciwch yma am fwy o ddigwyddiadau ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Cysylltu â Ni Rhif 2 Capitol Quarter Llawr 5 Tyndall Stryd Caerdydd CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf afonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk Dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.


Rhifyn Nesaf: Diwrnod M


Merched Rhyngwladol

Profile for Public Health Network Cymru

PHNC Jan Bulletin Welsh HQ  

PHNC Jan Bulletin Welsh HQ  

Profile for phwprid