Page 1

Chwefror 2017


Croeso i’r e-fwletin Croeso i e-fwletin Chwefror sydd yn canolbwyntio ar iechyd y galon. Yn y rhifyn hwn bydd Joanne Oliver, aelod o’r Grŵp Cynghori, yn siarad â ni am ei chyfranogiad i Sefydliad Prydeinig y Galon a’r ffordd y mae ymchwil yng Nghymru yn arwain at fwy o ddealltwriaeth o’r prosesau y tu ôl i Ygyflyrau’r galon sy’n cael eu hetifeddu. Mae gwybodaeth am Brosiect ACTIVE sydd yn ceisio mynd i’r afael ag anweithgarwch ymysg pobl ifanc ac mae Laura Rich o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn esbonio’r perygl i iechyd y galon yn sgil smygu. Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn trefnu nifer o ddigwyddiadau dros y misoedd nesaf yn cynnwys digwyddiad Arddangos Ymchwil yng Nghymru ar 2 Mawrth, cynhadledd ar Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod ar 15 Mawrth a Seminar Newid mewn Ymddygiad a gynhelir ar ddiwedd Ebrill. Rydym hefyd yng nghanol trefnu ein digwyddiadau sioe deithiol flynyddol a gynhelir ym mis Mai. Cadwch olwg ar y wefan ac e-fwletinau yn y dyfodol am fwy o wybodaeth. Os hoffech gyfrannu at ein e-fwletinau a/neu ein gwefan, anfonwch e-bost atom yn publichealth.network@wales.nhs.uk


@PHNetworkcymru

/publichealthnetworkcymru

www.publichealthnetwork.cymru


Murmur


ron y Galon Ymwybyddiaeth o Iechyd y Galon

Pwyslais yr e-fwletin y mis yma yw Iechyd y Galon. Bob 3 munud, mae rhywun yn y DU yn cael eu taro gan glefyd y galon ac mae calon iach yn hanfodol i atal a rheoli clefyd y galon. Gall deiet afiach, anweithgarwch corfforol, straen, y defnydd o dybaco a defnydd niweidiol o alcohol i gyd gyfrannu at glefyd y galon. Ceir hefyd dealltwriaeth well o’r prosesau y tu ôl i gyflyrau cynhenid y galon sydd yn amharu ar rythmau’r galon. (BHF, 2017)


Sefydliad Prydeinig y Galon yng Nghymru – Yr hyn y mae ymchwil yn ei ddweud wrthym am glefydau’r galon sy’n cael eu hetifeddu Gan Joanne Oliver, Sefydliad Prydeinig y Galon Mae Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) wedi gwneud ymchwil sydd yn achub bywydau ers dros 50 mlynedd sydd yn dal i drawsnewid bywydau pobl sydd yn byw gyda chyflyrau’r galon a chylchrediad y gwaed. Y mis yma, mae BHF wedi lansio ymgyrch newydd sydd yn codi ymwybyddiaeth o’r dinistr sydyn y mae clefyd y galon yn ei achosi. Mae amcangyfrifon newydd gan BHF yn dangos bod tua 30,000 o bobl yng Nghymru yn cario genyn diffygiol sydd yn golygu eu bod mewn mwy o berygl o ddatblygu clefyd coronaidd y galon neu farw’n sydyn (1). Yr hyn sydd yn peri pryder yw bod y rhan fwyaf o bobl sydd wedi eu heffeithio heb gael diagnosis ac nid ydynt yn ymwybodol y gallent fod mewn perygl o gael trawiad neu ataliad angeuol y galon. Roedd y ffigur yn uwch na’r amcangyfrifon blaenorol oherwydd dealltwriaeth well o fynychder cyflyrau’r galon sydd wedi eu hetifeddu. Mae BHF Cymru yn rhybuddio y gallai’r ffigur cyffredinol fod llawer uwch oherwydd diffyg diagnosis a genynnau diffygiol sydd heb eu canfod a all gynyddu perygl person o gael y cyflyrau hyn a allai fod yn angheuol. Gall cyflyrau’r galon sydd wedi eu hetifeddu effeithio pobl o unrhyw oed ac mae gan pob plentyn i rywun â chyflwr y galon sydd wedi ei etifeddu siawns o 50 y cant o’i etifeddu. I lawer o deuluoedd, yr arwydd cyntaf bod problem yw pan fydd rhywun yn marw’n sydyn heb unrhyw achos nac esboniad amlwg. A wyddoch chi bob wythnos yn y DU bod tua 12 o bobl sydd yn ymddangos yn iach sydd yn 35 oed neu’n hŷn yn dioddef marwolaeth sydyn y galon heb unrhyw esboniad, yn bennaf oherwydd y cyflyrau dinistriol hyn?(2). Mae’r Athro Alan Williams, Cadeirydd BHF yng Nghymru yn arbenigwr blaenllaw yn ymchwilio agweddau ar gyflyrau rhythm y galon. Mae ar hyn o bryd yn gweithio gyda’i dîm ymchwil, bellach wedi ei leoli yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, er mwyn deall yn well y prosesau y tu ôl i gyflyrau’r galon sydd wedi eu hetifeddu sy’n achosi amhariadau ar rythm y galon. Nid yw amhariadau ar rythm y galon (arrhythmia) yn brif achos marwolaeth ac nid yw triniaethau presennol yn effeithiol iawn. Er bod rhai o’r prosesau sydd yn gysylltiedig ag arrhythmia wedi eu deall, mae llawer o’r digwyddiadau achosol cynnar yn dal yn ddirgelwch. Mae abnormaleddau yn y ffordd y mae celloedd yn y galon yn ymdrin â chalsiwm, arwydd cellol hanfodol, yn dod i’r amlwg fel ysgogwyr pwysig arrhythmia. Nid ydym yn deall y mecanweithiau hyn yn llawn eto. Mae’n hanfodol cael mewnwelediad i’r digwyddiadau cynnar hyn er mwyn gallu atal datblygiad arrhythmia. Bydd ein gwaith yn darparu’r disgrifiadau manwl cyntaf o’r abnormaleddau hyn sydd yn digwydd yn sgil newidiadau i sianeli allweddol rhyddhau calsiwm (a elwir yn dderbynyddion ryanodine) sydd yn eu hanfod yn tanategu arrhythmia difrifol, cynnar. Credir bod newidiadau genetig RyR, a ganfyddir mewn llawer o gleifion y galon, yn achosi rhai cyflyrau’r galon sydd wedi eu hetifeddu, gall cyflyrau sydd yn creu curiadau afreolaidd y galon arwain at farwolaeth sydyn y galon mewn babanod ac oedolion. Nod yr Athro Williams a’i dîm yn Abertawe yw defnyddio offer newydd a ddatblygwyd gan y tîm i ymchwilio i’r diffygion hyn mewn manylder nas gwelwyd o’r blaen. Bydd y gwaith hwn yn arwain at ddealltwriaeth well o’r digwyddiadau hyn ac yn y pen draw, yn gwella triniaeth arrhythmia. Mae ymchwil wedi ei ariannu gan BHF wedi helpu i ganfod llawer o’r genynnau diffygiol sydd yn achosi cyflyrau’r galon sydd wedi eu hetifeddu, sydd wedi arwain at ddatblygiad gwasanaethau profi genetig wedi eu strwythuro ar gyfer y rheiny â’r perygl mwyaf o rai o’r cyflyrau hyn. Fodd bynnag, mae angen mwy o ymchwil ar frys i ganfod a thrin y cyflyrau hyn yn well er mwyn atal y dinistr a achosir i anwyliaid, a allai fod mewn perygl eu hunain. Dywed yr Athro Syr Nilesh Samani, Cyfarwyddwr Meddygol yn Sefydliad Prydeinig y Galon: “Y realaeth yw nad yw cannoedd ar gannoedd o bobl ledled y DU yn ymwybodol y gallent fod mewn perygl o farwolaeth sydyn. Os na chânt eu canfod a’u trin, gall cyflyrau’r galon sydd wedi eu hetifeddu, fod yn angheuol a byddant yn parhau i ddinistrio teuluoedd, gan fynd ag anwyliaid heb rybudd yn aml. Diolch i gymorth caredig y cyhoedd, mae ymchwilwyr wedi eu hariannu gan BHF wedi canfod rhai o’r genynnau sy’n gyfrifol am y cyflyrau brawychus hyn ond mae llawer i’w wneud o hyd. Mae angen i ni ariannu mwy o ymchwil ar frys i ddeall y cyflyrau hyn yn well, gwneud mwy o ganfyddiadau, datblygu triniaethau newydd ac achub mwy o fywydau.” 1) BHF analysis of PHG Foundation, Heart to Heart: inherited cardiovascular conditions services (2009); with revised prevalence estimates for familial hypercholesterolemia (FH) – Nordestgaard et al 2013 - and dilated cardiomyopathy (DCM) (Hershberger 2013) 2) Papadakis, Sharma et al. “The magnitude of sudden cardiac death in the young: a death certificate-based review in England and Wales.” Europace 2009 Rhifyn 11, Rhif 10, tud 1353-1358


ASTUDIAETH ACHOS 1 Mae Syndrom Long QT (LQTS) yn gyflwr wedi ei etifeddu a all achosi amhariadau i rythm y galon. Mae’n digwydd mewn rhyw 1 ym mhob 2,000 o bobl. Roedd Lora D’Alesio, sydd yn byw yng Nghaerdydd, yn 24 pan gafodd ataliad ar y galon gartref. Aeth cydweithiwr oedd wedi cael hyfforddiant i wneud CPR ar gŵn a chathod, â Lora, sydd yn nyrs filfeddygol, gartref y diwrnod hwnnw. Defnyddiodd ei chydweithiwr ei sgiliau a gwnaeth CPR ar Lora nes bod y parafeddygon yn cyrraedd. Roedd Lora wedi marw ers tua 5 munud cyn cael ei dadebru gan y parafeddygon. Roedd Lora wedyn mewn coma wedi ei achosi am dri diwrnod, bu yn yr ysbyty am 3 wythnos ac yn ystod y cyfnod hwn cafodd ddiagnosis o Long QT, cyflwr y galon sydd wedi ei etifeddu. Dau fis cyn cael ataliad ar y galon, soniodd Lora wrth ei meddyg teulu ei bod wedi bod yn cael crychguriadau’r galon, penysgafnder a phoenau yn ei brest ond dywedodd ei meddyg teulu ei bod yn fenyw ifanc oedd yn ffit ac yn iach. Dywedodd Lora: “Rwy’n benderfynol o beidio gadael iddo amharu ar fy mywyd. Nid wyf wedi cael fy nhrwydded yn ôl eto gan y DVLA felly nid wyf yn gallu gyrru sydd yn rhwystredig i mi. Rwy’n dal i redeg er nad wyf i fod gwneud hynny mewn gwirionedd. Cafodd fy rhieni, fy nau frawd a’m chwiorydd brofion ond roeddent i gyd yn normal. Nid oedd unrhyw hanes o farwolaethau sydyn babanod yn fy nheulu. Nid yw’r meddygon wedi siarad â mi am oblygiadau hyn ar fy nyfodol ac o ran dechrau teulu, sydd yn rhywbeth yr hoffwn i ei wneud”. ASTUDIAETH ACHOS 2 Mae ARVC (cardiomyopathi fentrigol dde arrhythmogenig) yn gyflwr y galon sydd wedi ei etifeddu sydd yn achosi cyhyrau’r galon i gael eu disodli gan feinwe ffeibrog a braster ac mae’r fentrigl yn mynd yn denau ac yn cael ei ymestyn, sy’n golygu nad yw’r galon yn pwmpio gwaed o amgylch y corff yn iawn ac mae perygl cynyddol o ataliad y galon sydyn. Gall ARVC hefyd achosi rhythmau annormal y galon, gan fod cynyrfiadau trydanol arferol y galon yn cael eu hamharu wrth iddynt fynd trwy gelloedd cyhyrau sydd wedi eu niweidio a’u creithio. Mae Leigh Manley, o Faesteg, yn dal i aros am ddiagnosis ffurfiol gan feddygon ers syrthio’n anymwybodol ar y peiriant rhedeg yn y gampfa un dydd Sadwrn fis Hydref diwethaf, ond mae’r ymchwiliadau bellach yn awgrymu diagnosis o ARVC. Dywedwyd wrth Leigh i ddechrau gan barafeddygon ei fod wedi dioddef llewyg diniwed, ac ni ddangosodd canlyniadau’r profion unrhyw arwydd bod rhywbeth yn bod nes iddo gael prawf Bruce pan ganfuwyd abnormaledd ar yr ECG. Dywedodd Leigh: “Ers mis Hydref mae fy mywyd wedi cael ei droi ben i waered. Darllenais am achos cricedwr Lloegr, James Taylor, cyn y Nadolig, sy’n dioddef cyflwr y galon sy’n cael ei ysgogi gan ymarfer corff, ARVC a cheisiais gael rhywfaint o ysbrydoliaeth o hyn. Rwyf wedi gorfod addasu fy ffordd o fyw yn sgil y newyddion hyn, ond nid yw wedi bod yn hawdd. Mae’n anodd ar hyn o bryd am fy mod wedi colli hyder i gerdded i fyny’r ffordd hyd yn oed ac rwyf wedi colli fy annibyniaeth am fy mod wedi gorfod ildio fo nhrwydded gyrru am 6 mis ar ôl gosod deffibriliwr. Rwy’n hyderus y gallaf addasu fy ffordd o fyw er gwaethaf fy mywyd egnïol blaenorol. Mae’n rhaid i mi ganolbwyntio ar y darlun ehangach, sef fy nheulu a’m ffrindiau agos. Aberth bach ydyw pan fyddwch yn ei ddadansoddi’n ofalus, ond nid oeddwn wedi disgwyl bod yn y sefyllfa yma”. Am fwy o wybodaeth a chyngor am gyflyrau’r galon sydd wedi eu hetifeddu ac i gynorthwyo BHF i ariannu mwy o ymchwil i ddod â’r dinistr y mae clefyd y galon yn ei achosi i ben, ewch i www.bhf.org.uk/unexpected


Iechyd y Galon Pobl yn eu Harddegau – Prosiect ACTIVE

Gan Michaela James, Rheolwr Treial ACTIVE Mae Prosiect ACTIVE yn brosiect arloesol newydd gan Brifysgol Abertawe gyda’r nod o fynd i’r afael â lefelau anweithgarwch ymysg pobl ifanc. Mae lefelau gweithgaredd corfforol yn yr arddegau yn dangos gostyngiad nodedig. Ymddengys bod pobl yn eu harddegau bellach yn dewis ymddygiad mwy eisteddog; mae hyn yn peri pryder oherwydd y cynnydd yn y perygl o glefyd y galon a chyflyrau cardiofasgwlaidd cysylltiedig eraill sydd yn gysylltiedig ag anweithgarwch. O ganlyniad, mae angen gwneud rhywbeth i gynyddu lefelau gweithgaredd corfforol y boblogaeth hon ac mae Prosiect ACTIVE yn gwneud hyn. Mae ACTIVE yn brosiect wedi ei ariannu gan Sefydliad Prydeinig y Galon gyda’r nod o fynd i’r afael ag anweithgarwch trwy roi talebau i bobl yn eu harddegau i’w gwario ar weithgareddau o’u dewis i leihau’r amser sy’n cael ei dreulio yn eisteddog a lleihau’r perygl o glefyd y galon. Mae’r prosiect wedi ei ddylunio i newid agweddau pobl ifanc, annog pobl yn eu harddegau i groesawu gweithgareddau amgen - p’un ai dawnsio, trampolinio, nofio neu sgrialu. Trwy roi dewis i’r grŵp yma, nod ACTIVE yw grymuso pobl yn eu harddegau i berchnogi eu hymddygiad a theilwra gweithgaredd yn uniongyrchol i’r hyn y maent yn ei fwynhau yn unigol. Mae’r prosiect yn cynnwys disgyblion Blwyddyn 9 (13-14 oed) o 7 ysgol yn Abertawe (4 ymyrraeth a 3 rheoli) i edrych ar broblem gynyddol anweithgarwch pobl yn eu harddegau. Mae’r gwaith hwn yn dilyn ymlaen o astudiaeth flaenorol a wnaed gan Brifysgol Abertawe a ddefnyddiodd un ysgol yn unig gan ddangos agweddau gwell tuag at weithgaredd corfforol a ffitrwydd a lefelau gweithgaredd corfforol gwell. Gan fod clefyd y galon yn lladd un ym mhob pedwar person yn y Deyrnas Unedig, mae’n hanfodol bod prosiectau fel ACTIVE yn ymgorffori ymagwedd ataliol i oblygiadau ymddygiad eisteddog. Os gallwch sefydlu ymddygiad cadarnhaol, egnïol yn gynnar, ein gobaith yw gwella iechyd calonnau’r boblogaeth. Gallwch ddilyn prosiect ACTIVE ar Twitter @ActiveProject_


Mis Iechyd y Galon: Smygu Gan Laura Rich, Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru Smygu yw’r achos salwch a marwolaeth cyn pryd mwyaf y gellir ei osgoi, gan arwain at 1 ym mhob 2 smygwr gydol oes yng Nghymru yn marw o’u harferiad. Mae smygwyr yn cael cyswllt â mwy na 4,000 o gemegau bob tro y byddant yn smygu. Mae’r cemegau hyn yn niweidio leinin rhydwelïau’r galon, sydd yn eu tro yn achosi deunydd brasterog i ddatblygu a rhwystro’r rhydwelïau, gan gyfyngu ar gylchrediad y gwaed. Mae’r cemegau yn gwneud y platennau yn y gwaed yn fwy gludiog, gan achosi’r gwaed i greu clotiau a all arwain at rydwelïau’n cael eu rhwystro a gall achosi trawiadau ar y galon. Mae carbon monocsid sy’n cael ei fewnanadlu wrth smygu yn lleihau faint o ocsigen sydd yng ngwaed smygwr, gan achosi eu calon i weithio’n galetach i gyflenwi ocsigen i’r corff. Mae nicotin sy’n cael ei amsugno trwy smygu hefyd yn ysgogi’r corff, gan greu adrenalin sydd yn gwneud i’r galon guro’n gyflymach a chynyddu pwysedd gwaed. Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn nodi mai clefyd coronaidd y galon yw’r clefyd unigol sydd yn lladd fwyaf yn y DU, gyda rhyw 14% o farwolaethau yn sgil clefyd y galon. Mae gan smygwyr o dan 40 oed risg bum gwaith yn fwy o gael trawiad ar y galon na’r rheiny nad ydynt yn smygu (ASH 2016). Rhoi’r gorau i smygu yw’r un gwelliant mwyaf i iechyd y gall smygwr ei wneud gyda buddion yn cynnwys y canlynol: • O fewn 24 awr o roi’r gorau iddi - bydd carbon monocsid wedi ei ddileu o’r corff • Blwyddyn yn ddi-fwg - mae’r perygl o drawiad ar y galon yn gostwng i ryw hanner yr hyn ydyw i smygwr • 15 mlynedd ar ôl rhoi’r gorau iddi - mae’r perygl o drawiad ar y galon yn gostwng i lefelau tebyg i berson sydd erioed wedi smygu. Y ffordd orau o roi’r gorau i smygu yn llwyddiannus yw gyda chymorth arbenigol a defnyddio meddyginiaethau. Mae Dim Smygu Cymru yn darparu gwasanaeth cyfeillgar, hyblyg, am ddim. Am fwy o wybodaeth am Wasanaethau Rhoi’r Gorau i Smygu y GIG yng Nghymru neu i ddechrau ar eich taith ddi-fwg, cysylltwch â Dim Smygu Cymru. Ewch i: stopsmokingwales.com Ffoniwch: 0800 085 2219


Cael Ei Holi Y mis yma, rydym yn holi Joanne Oliver, aelod o Grŵp Cynghori Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Joanne yw Arweinydd Ymgysylltu’r Gwasanaeth Iechyd ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon.

Beth yw eich maes arbenigedd?

Cymhwysais ym 1980 ac rwy’n dal yn Nyrs Gyffredinol Gofrestredig yn arbenigo mewn nyrsio cardiaidd, Adsefydlu Cardiaidd a Methiant y Galon. Llwyddais i gwblhau fy ngradd Meistr mewn Ymarfer Nyrsio Uwch ym Mhrifysgol Caerdydd ac roedd fy nhraethawd hir yn canolbwyntio ar raglenni addysg i gefnogi darpariaeth arfer gorau mewn Gofal Lliniarol ar gyfer Cleifion Methiant y Galon. Er 2012, rwyf wedi gweithio mewn llawer o rolau gwahanol yn BHF (Rheolwr ardal ar gyfer Cymru, Rheolwr Rhanbarthol ar gyfer Cymru a Gorllewin Lloegr) a chefais fy mhenodi’n Arweinydd Ymgysylltu’r Gwasanaeth Iechyd BHF ar gyfer Cymru ym mis Ebrill 2016. Prif ffocws fy rôl bresennol yw arwain ymgysylltu ar lefel uchel tra’n dylanwadu ar uwch wneuthurwyr penderfyniadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn GIG Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn deall yr angen i flaenoriaethu gofal yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y bobl hynny sydd mewn perygl neu sydd â CVD. Fy nod i yw defnyddio fy ngwybodaeth a maes deallusrwydd i nodi cyfleoedd presennol ac i’r dyfodol ar gyfer gweithredu CVD arloesol, datblygu arfer gorau, lledaenu a mabwysiadu, a chydlynu gweithgareddau i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.

Pam wnaethoch chi ymuno â Grŵp Cynghori PHNC?

Mae ataliaeth ar gyfer y rheiny sydd mewn perygl neu gefnogaeth ar gyfer y rheiny sydd wedi cael diagnosis o gyflyrau CVD gyda chyfle gwell o oroesi mor bwysig yng Nghymru. Rwyf yn awyddus i ddefnyddio pob cyfle i sicrhau bod y materion y mae Cymru’n eu hwynebu yn sgil CVD yn dal yn rhai proffil uchel ym maes iechyd y cyhoedd. Mae’r PHNC yn fy ngalluogi i rannu gwybodaeth yn ogystal â dysgu oddi wrth ei aelodau arbenigol a’r adnoddau rhagorol y mae’r Rhwydwaith yn eu darparu.

Beth yn eich barn chi yw’r prif heriau yr ydym yn eu hwynebu o ran atal a rheoli clefyd y galon yng Nghymru? Yn Chwefror 2017, bydd ymgyrch newydd i BHF godi ymwybyddiaeth o natur gudd a dinistriol cyflyrau clefyd y galon sydd wedi eu hetifeddu yn cael ei lansio. Yr heriau yr ydym yn eu hwynebu wrth atal a rheoli’r mathau hyn o gyflyrau’r galon yw cymhlethdod y cyflyrau, a’r diffyg dealltwriaeth yn ymwneud â rhai o’r prosesau sy’n achosi amhariadau rhythm.


Mae angen mwy o fuddsoddiad mewn ymchwil ar frys i nodi dulliau gwell o roi diagnosis a sgrinio, mwy o driniaethau effeithiol, cymorth o ansawdd ar gyfer cleifion a’u teuluoedd a rheolaeth well o’r cyflyrau. Mae angen gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd hefyd o fynychder y rheiny sy’n byw gyda genyn diffygiol, sy’n golygu bod ganddynt risg uwch o gyflwr y galon ac ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gyda chleifion yn gwrando ac yn gweithredu pan fydd symptomau amhariad ar rythm y galon yn cael eu nodi neu eu hadnabod.

Pa awgrymiadau fyddech chi’n eu rhoi i’n haelodau er mwyn hybu Mis y Galon?

Mae gennym gymaint o adnoddau a chymorth rhagorol ar gael ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes iechyd y galon. Rydym yn annog holl aelodau Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru i achub ar y cyfle i ddefnyddio’r holl wybodaeth i hybu Iechyd y Galon gwell ac i ymuno â’n rhaglen aelodaeth Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol: BHF Alliance – The More We Know, The Stronger We Grow Gellir ymuno â Chynghrair BHF am ddim ac mae’n ceisio datblygu a meithrin rhwydwaith cefnogol ac ysbrydoledig o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd yn gysylltiedig â phobl â pherygl o ddatblygu neu sydd wedi cael diagnosis o Glefyd Cardiofasgwlaidd (CVD). Gall aelod gynyddu eu potensial i wneud gwahaniaeth, rhannu profiadau a chefnogi datblygiad pobl eraill. Mae ymuno yn hawdd, ewch i bhf.org.uk/alliance lle gallwch ddysgu mwy am y buddion, clywed beth sydd gan ein haelodau i’w ddweud a llenwi ffurflen gais fer ar-lein.

Pe byddech yn cael 3 dymuniad beth fyddent?

• Bod gennym adnoddau diderfyn i’w buddsoddi mewn ymchwil sydd yn achub bywydau ar glefyd y galon • Ein bod i gyd yn cymryd cyfrifoldeb dros ddatblygu dealltwriaeth well o gyflyrau’r galon a bod gan bob claf fynediad prydlon i’r gwasanaethau a’r cymorth sydd ei angen arnynt • Ein bod i gyd yn cymryd camau rhagweithiol i ofalu am ein calon ac atal rhai mathau o glefyd y galon fel hyn


Pyncia Llosg Mae rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglyn a gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgrifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiaddau! Os ydych chi’n dynuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost at publichealth.network@wales.nhs.uk. Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Gan Dr Edna Asbury-Ward, Prifysgol Glyndŵr Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth) yn ddiwrnod byd-eang i ddathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae’r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Cynhaliwyd y Diwrnod Menywod cyntaf ar 28 Chwefror 1909, yn Efrog Newydd. Cafodd ei drefnu gan Blaid Sosialaidd America i gofio streic 1908 yr Undeb Gweithwyr Dillad Benywaidd Rhyngwladol. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ymwneud ag undod, dathlu, adlewyrchu, eiriolaeth a gweithredu - ar ba ffurf bynnag yn fyd-eang neu ar lefel leol. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn dal i fod yn llwyfan pwerus yn fyd-eang sydd yn uno cadernid ac yn ysgogi gweithredu dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau, tra’n dathlu cyflawniadau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a gwleidyddol menywod. Trwy ddathliad ystyrlon a gweithredu cadarn wedi ei dargedu, gallwn i gyd fod yn arweinwyr ymatebol a chyfrifol yn creu byd sydd yn cynnwys y ddau ryw yn fwy. Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw #beboldforchange. Mae’r diwrnod yn wyliau swyddogol yn rhai rhannau o’r byd. Deg gwerth Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yw: Cyfiawnder, Urddas, Gobaith, Cydraddoldeb, Cydweithredu, Cadernid, Gwerthfawrogiad, Parch, Empathi, Maddeuant. Mae manylion llawn Diwrnod www.internationalwomensday.com

Rhyngwladol

y

Menywod

ar

gael

yn:

Caerdydd yw’r unig ran o Gymru sydd yn cynnal digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni; mae manylion ar gael yn: Dathliad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Blynyddol Women Connect First yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, Facebook https://www.facebook.com/events/1158067837574664/ Ebost: admin@womenconnectfirst.org.uk Ffôn: 029 2034 3154. Dechreuwyd Women Connect First i wella bywydau menywod a chymunedau BME difreintiedig yn Ne Cymru.


Ymarfer a Rennir Yn yr e-fwletin y mis diwethaf dechreuwyd diweddariad misol o’r prosiectau y gellir eu gweld ar y Cyfeiriadur Ymarfer a Rennir. Prosiect y mis yw #walkandtalk. Cyflwynir y prosiect gan Mind In You sydd wedi datblygu cyfres o raglenni arloesol ac unigryw wedi eu goruchwylio gan Mind In Sport Limited. Nod #walkandtalk yw darparu amgylchedd diogelu i hybu lles cyffredinol trwy ddarparu ymarfer corff dwysedd isel gyda chyfleoedd i ddatblygu perthynas a chymryd rhan mewn therapi anffurfiol os oes angen. Y prif ffocws yw grymuso unigolion i gyrraedd eu llawn botensial gydag ymagwedd gyfannol a rhagweithiol i ddatblygiad personol sydd yn cynnwys themâu allweddol fel hybu iechyd, ffordd o fyw, iechyd meddwl da a gwella perfformiad. Os hoffech ychwanegu eich prosiect eich hun i’r Cyfeiriadur Ymarfer a Rennir mae ffurflen ar-lein hawdd (sydd ond ar gael i aelodau) ac unwaith y caiff ei chymeradwyo gan un o’r cydlynwyr, bydd eich prosiect wedyn yn ymddangos ar y cyfeiriadur. Mae Pecyn Cymorth Hunanasesu hefyd y gellir ei argraffu neu ei lenwi ar-lein ac mae’n galluogi cydlynwyr i sicrhau ansawdd y datblygiad a darpariaeth prosiectau newydd a phresennol. Os oes angen cymorth arnoch yn cwblhau’r pecyn cymorth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ag un o’r cydlynwyr yn publichealth.network@wales.nhs.uk


Partneriaeth Iechyd Chwaraeon Anabledd Gan Catherine Chin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Mae Partneriaeth Iechyd Chwaraeon Anabledd (HDSP) yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) a Chwaraeon Anabledd Cymru (DSW), y cyntaf o’i fath yn y DU. Trwy broses o uwchsgilio gweithwyr iechyd proffesiynol a’u cefnogi i gyfeirio pobl anabl tuag at gyfleoedd gweithgaredd corfforol (yn cynnwys chwaraeon) trwy Lwybr Iechyd Chwaraeon Anabledd, nod HDSP yw gwella iechyd a lles pobl anabl. Yn ystod tair blynedd cyntaf y prosiect, mae 550 o bobl anabl wedi cael eu cyfeirio o iechyd tuag at weithgaredd corfforol (yn cynnwys chwaraeon). Er mwyn asesu’r effaith y mae hyn wedi ei gael ar bobl anabl, ac i archwilio a yw HDSP yn ymyrraeth gost effeithiol y dylid ei chyflwyno ledled Cymru, cynhaliwyd asesiad o’r effaith ar iechyd (HIA) a dadansoddiad o’r elw cymdeithasol ar fuddsoddiad (SROI). Roedd yr HIA yn offeryn gwerthfawr iawn oedd yn ein galluogi ni i sefydlu pa ganlyniadau y mae pobl anabl a’u teulu/ffrindiau wedi eu profi trwy gymryd rhan yn yr HDSP, yn ogystal â’r effeithiau ar Iechyd, Awdurdodau Lleol a’r DSW. Y model SROI oedd y cam nesaf a alluogodd ni i gyflwyno’r canlyniadau hyn o ran gwerthoedd ariannol, rhywbeth oedd yn bwysig i’w ddangos wrth i ni geisio parhau a chyflwyno’r bartneriaeth i fyrddau iechyd eraill. Mae cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol (yn cynnwys chwaraeon) wedi gwella iechyd a lles corfforol a meddyliol y bobl anabl oedd yn gysylltiedig. Roedd y buddion yn cynnwys teimlo’n fwy hyderus, yn llai ynysig yn gymdeithasol a nifer o blant anabl ddim yn cael eu bwlio bellach. Canfuwyd effeithiau negyddol hefyd o ran iechyd a lles rhai aelodau o deuluoedd pobl anabl. Canfu’r canlyniadau, i bob £1 a fuddsoddwyd yn yr HDSP, bod £124 o werth cymdeithasol ychwanegol yn cael ei greu. Roedd yr SROI yn ein galluogi ni i ddangos bod yr HDSP yn fodel cost effeithiol ar gyfer cynyddu lefelau gweithgaredd corfforol (yn cynnwys chwaraeon) ymysg poblogaethau anabl, gan greu gwerth cymdeithasol trwy iechyd a lles gwell pobl anabl, a’u teuluoedd. Mae iechyd a chwaraeon (anabledd) yn gweithio mewn partneriaeth yn cynrychioli ymyrraeth effeithiol sydd yn gwella iechyd a lles pobl anabl ac sy’n gallu cyfrannu at leihau baich anweithgarwch corfforol. I ganfod mwy, gweler ein ap ar-lein www.hdspathway.co.uk Ychwanegodd Lee Parry-Williams o Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru pa mor falch ydoedd i weld HIA ac SROI yn cael eu defnyddio yng ngwerthusiad y prosiect. “Mae’r prosiect hwn yn dangos pwysigrwydd a gwerth gwerthuso ynghyd â defnyddio’r offer a’r fethodoleg briodol. Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd gwerthuso prosiectau i sicrhau ein bod yn dysgu ac yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd i lywio datblygiadau yn y dyfodol. Yn achos yr HDSP, defnyddiwyd yr hyn a ddysgwyd o’r HIA i lywio newidiadau bach yn y ddarpariaeth i gyd-fynd â darpariaeth y prosiect, felly’n ychwanegu gwerth a chryfhau canlyniadau cadarnhaol. Yn ogystal, defnyddiwyd yr effeithiau a nodwyd hefyd i lywio rhan gyntaf proses SROI. Roedd y ddwy fethodoleg yn ategu ei gilydd. Mae’r ddwy set o ganfyddiadau bellach yn cael eu defnyddio i wella’r achos dros gynaliadwyedd a chyflwyno cysyniad Llwybr Chwaraeon Anabledd ymhellach ledled Cymru. Os yw pobl eisiau gwybod mwy am gymhwyso HIA, mae WHIASU yma i roi cyngor ac arweiniad”. Mae llawer o wybodaeth ar gael ar eu gwefan www.whiasu.wales.nhs.uk. I’r rheiny sydd eisiau mewnwelediadarEconomegIechyd, byddcanllawcrynonewyddarEconomegIechydagynhyrchwydgany Ganolfan Economeg Iechyd a Meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru o’r enw ‘Canllaw i Economeg Iechyd ar gyfer y Rheiny sy’n Gweithio ym maes Iechyd y Cyhoedd’ yn ddefnyddiol.


Rhwydweithiau a Phartneriaethau: Cymru’n Cydweithredu dros Iechyd Byd-eang Cynhadledd Flynyddol Dathlu’r Siarter

27 Mawrth 2017, Future Inns, Caerdydd, Cymru Mae’n bleser gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) eich gwahodd i fynychu ail Gynhadledd Dathlu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru Rhwydweithiau a Phartneriaethau: Cymru’n Cydweithredu dros Iechyd Byd-eang, a gynhelir ar 27 Mawrth 2017 yn y Future Inns, Bae Caerdydd, CF10 4AU. Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar fanteisio i’r eithaf ar fuddion rhwydweithiau cenedlaethol a rhyngwladol, datblygu partneriaethau a chydweithrediadau gweithredol a chynaliadwy yn ogystal â dathlu’r cynnydd a wnaed yn gweithredu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru (y Siarter) a sut mae’n cyfrannu at yr agenda iechyd a datblygu cynaliadwy byd-eang. Amcanion y Gynhadledd: 

Rhannu profiadau a chyfleoedd yn cynnwys buddion a heriau cymryd rhan mewn rhwydweithiau a chydweithrediadau rhyngwladol

Archwilio synergeddau ac ymagweddau yn cyflawni iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau ar draws sectorau a rhwydweithiau amrywiol yng Nghymru, y DU, Ewrop ac yn fyd-eang

Dangos rhyngberthynas rhwng gweithredu’r agenda Iechyd Byd-eang, Iechyd 2020, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030

Rhannu cynnydd tuag at weithredu’r Siarter ar draws y GIG trwy bartneriaethau a chysylltiadau yng Nghymru ac ar draws Ewrop a’r byd

Darparu fforwm ar gyfer cyfnewid rhyngwladol, trafodaeth, rhwydweithio a dysgu

Mae hyrwyddo a chefnogi cydweithredu rhyngwladol yn ganolog i waith yr IHCC, sydd yn rhoi canolbwynt ar gyfer gwaith rhyngwladol yn ymwneud ag iechyd ar draws y GIG yng Nghymru. Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r IHCC wedi bod yn cefnogi gweithredu’r Siarter. Gyda set o werthoedd ac egwyddorion y mae holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru wedi ymrwymo iddynt, mae’r Siarter yn offeryn allweddol ar gyfer parhau i ddwyn yr agenda hon ymlaen ac mae’n enghraifft dda o’r GIG yn bod yn gyfrifol yn fyd-eang sydd yn unol â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’n bleser gennym gadarnhau y bydd Vaughan Gething, AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon yng Nghymru, yn agor y gynhadledd eleni ac y bydd Dr. Christoph Hamelmann, Pennaeth Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd dros Fuddsoddi mewn Iechyd a Datblygu, yn rhoi anerchiad yn y digwyddiad ar ran WHO Ewrop. Edrychwn ymlaen yn fawr at ddathlu’r achlysur arbennig hwn gyda chi. Defnyddiwch EVENTBRITE i nodi eich bod yn bwriadu mynychu.


Crynodeb o’r Newyddion

Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion! Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion lawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ysmygu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi’r cyngor diweddaraf ar e-sigaréts

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi heddiw ei ddatganiad sefyllfa diweddaraf sy’n darparu cyngor i’r cyhoedd am effeithiau posibl e-sigaréts ar iechyd.

Alcohol Mae miloedd o yfwyr risg uchel yn marw heb gael mynediad i wasanaethau triniaeth am alcohol

Mae adroddiad yn awgrymu nad oedd mwyafrif sylweddol o bron 8,000 o unigolion a aeth ymlaen i farw o achosion yn gysylltiedig ag alcohol wedi cael unrhyw gysylltiad â gwasanaethau triniaeth am alcohol, er iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty ac i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys dro ar ôl tro.

Plant a Phobl Ifanc Cynllun gordewdra yn ystod plentyndod – astudiaethau achos

Mae’r Adran Iechyd wedi cyhoeddi cyfres o astudiaethau achos gan awdurdodau lleol a busnesau ynghylch y ffordd y maent yn gweithio gyda theuluoedd ac ysgolion i ddarparu cynllun gordewdra yn ystod plentyndod y llywodraeth.


Tlodi Tlodi yn fygythiad i iechyd plant, medd adroddiad Mae’r bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn ein cymdeithas yn peryglu iechyd plant Cymru, meddai adroddiad gan Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.

Yr Amgylchedd Naturiol Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol Mae Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol yn falch o gyhoeddi eu bod wedi sicrhau cyllid i greu rhaglen newydd gyffrous sy’n cefnogi tyfu cymunedol yng Nghymru.

Cliciwch Yma am fwy o newyddion ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Mawrth

02 07 07

08

Ymchwil, Polisi ac Ymarfer Iechyd y Cyhoedd: Cydweithio yng Nghymru Prifysgol De Cymru (Adeilad ATRiuM), Caerdydd Datblygu Gwneud i bob cyswllt gyfrif yng Nghymru - Cynhadledd Rhwydwaith a Dysgu Genedlaethol Gwesty Novotel, Caerdydd Sgyrsiau am ‘yr hyn sy’n bwysig i Plant a Phobl Ifanc?” Conwy

Diwrnod Rhyngwladol Menywod Digwyddiad Cenedlaethol

C ar y w


09 14 17 20 21 24 24 27 30

Tyfu’n Well Gyda’n Gilydd Caerdydd Y Camau Nesaf ar gyfer y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: Recriwtio, Hyfforddi a Chadw Caerdydd Cyflwyniad i Fentrau Gwerthuso Ffordd o Fyw Iach Prifysgol De Cymru, Trefforest

Diwrnod Iechyd y Geg y Byd Byd-eang

Pobl Ifanc LHDTC: Gwneud Pethau’n Gwbl Glir Conwy

Gwella Iechyd Corfforol Oedolion a Salwch Meddwl Difrifol Llundain

Pobl Ifanc a Chamddefnyddio Sylweddau: Pam nad yw’r Cyffuriau’n Gweithio? Caerdydd Rhwydweithiau a Phartneriaethau: Cymru’n Cydweithredu dros Iechyd Byd-eang Future Inns, Caerdydd Deall sut i Ddiogelu Lles Plant a Phobl Ifanc - Cwrs Achrededig Lefel 2 trwy Agored Cymru Caerdydd

Cliciwch yma am mwy o ddigwyddiadau wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Y Bwrlwn Iechyd Cerdded y Byd

Wedi ei ddyfeisio gan yr hyfforddwr adsefydlu cardiaidd, Duncan Galbraith, mae’r ap Cerdded y Byd yn gamfesurydd parhaus, yn cofnodi nifer y camau a gymerir bob dydd. Mae’r defnyddwyr yn dewis llwybrau enwog yn fyd-eang fel Route 66 yn yr Unol Daleithiau neu Lwybr yr Incas ym Machu Picchu, Peru, ac yn ceisio cymryd digon o gamau i’w gwblhau. Mae’r ap yn annog integreiddio cymdeithasol hefyd ac mae’n gadael i gerddwyr ffurfio clybiau rhithwir, gan gydweithio i gyrraedd targedau pellter. (Ar gael ar gyfer iPhone ac Android)

#Seminar TechniHealth i gael ei ffrydio’n fyw Bydd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal seminar o’r enw #TechniHealth – Hybu Iechyd yn yr Oes Ddigidol ar 27 Chwefror 2017. Mae’r digwyddiad hwn yn llawn, ond bydd yn cael ei ffrydio’n fyw ar Twitter felly ni fyddwch yn ei golli! I ymuno, ewch i dudalen PHNC ar twitter a dilynwch y sgyrsiau gan ddefnyddio #Technihealth. Bydd cyfle hefyd i gadw’r sgyrsiau i fynd ar fforwm PHNC sydd newydd gael ei ail-lansio, Draw atoch Chi.

Ymchwil, Polisi ac Ymarfer Iechyd y Cyhoedd Bydd y Gyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cynhadledd i arddangos rhywfaint o’r ymchwil diweddaraf ym maes iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Bydd y digwyddiad, a gynhelir ar 2 Mawrth yng Nghaerdydd (10am – 3pm), yn hyrwyddo ac yn gwella’r ddealltwriaeth o ymchwil yng Nghymru ac yn cryfhau cydweithredu rhwng sefydliadau’r sector cyhoeddus, prifysgolion a’r trydydd sector. I’r rheiny sydd heb gofrestru i fynychu, bydd trydar byw a ffrydio byw ar y cyfrif Ymchwil a Datblygu ar Twitter. Dilynwch @PHRWales i gael diweddariadau, ac os ydych yn trydar eich hun, cofiwch gynnwys #RIW2017.


Cysylltu â Ni Publichealth.network@wales.nhs.uk Rhif 2 Capitol Quarter Llawr 5 Tyndall Stryd Caerdydd CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf anfonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk Dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.


Rhifyn nesaf: Diwrnod Daear y Byd


Profile for Public Health Network Cymru

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Chwefror 2017  

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Chwefror 2017  

Profile for phwprid