Cynllunio ac iechyd y cyhoedd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Page 1

CYNLLUNIO AC IECHYD

Y CYHOEDD: CYFLEOEDD

I WELLA IECHYD A

MYND I’R AFAEL AG

ANGHYDRADDOLDEBAU

RHWYDWAITH IECHYD
CYMRU E-FWLETIN
2024
CYHOEDDUS
MAWRTH

Croeso

Mae ein hamgylchoedd, sef yr amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd naturiol, yn cael effaith wirioneddol ar ein hiechyd a’r ffordd rydym yn teimlo. Gall y ffordd y mae ein cartrefi’n cael eu dylunio, a’u lleoliad, yn enwedig o ran pethau fel trafnidiaeth a gofal iechyd, wneud gwahaniaeth mawr i’n lles cyffredinol.

Mae’r ffordd y mae ein mannau byw wedi’u gosod yn bwysig, hefyd. Gall cael mynediad i fannau gwyrdd a mannau ar gyfer gweithgareddau ein helpu i gadw’n egnïol, a lleihau straen, a chadw ein meddyliau’n iach. Ac os yw ein cartrefi mewn lleoedd sydd â chyfleoedd da ar gyfer gwaith, mae hyn yn helpu ein cyllid yn ogystal â chefnogi ein lles cyffredinol. Mae lleoliad ein cartrefi a’n busnesau yn gallu effeithio ar ansawdd yr aer a anadlwn a’r dŵr a ddefnyddiwn bob dydd.

Gall y ffordd y caiff ein cymunedau eu cynllunio gael effaith wirioneddol ar ein hiechyd a’n lles. Mae’n bwysig meddwl am y pethau hyn wrth gynllunio ein cymdogaethau, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fyw bywyd iach a boddhaus.

Mae’r bwletin hwn yn cynnwys erthyglau sy’n ymdrin â mentrau, polisïau neu raglenni cenedlaethol, rhanbarthol neu leol sy’n ymwneud â gwella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y cymunedau hynny yr effeithir arnynt yng Nghymru.

Yn ddiweddar, cynhaliom gynhadledd ar y pwnc hwn a gallwch ei gweld ar dudalen digwyddiadau’r gorffennol ein gwefan.

2

Cynnwys

4 Penawdau

Polisïau cynllunio gofodol, iechyd y cyhoedd a’r gwasanaeth iechydDigwyddiad cynllunio ac iechyd Iechyd

Cyhoeddus Cymru 2024

Laura Evans, Ymarferydd Iechyd

Cyhoeddus, Uned Asesu’r Effaith ar Iechyd (WHIASU), Iechyd Cyhoeddus

Cymru

Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol a Chyfarwyddwr y Rhaglen ar gyfer

Asesu’r Effaith ar Iechyd, Uned Asesu’r Effaith ar Iechyd (WHIASU), Iechyd

Cyhoeddus Cymru

Creu lleoedd er lles: Aduno Systemau

Cynllunio ac Iechyd

Sophia Bird, Prif Ymarferydd Iechyd

Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Ilona Johnson, Ymgynghorydd

Iechyd Cyhoeddus, Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Medwyn Griffiths, Uwch-ymarferydd

dan Hyfforddiant, Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yr Awyr Agored: Grŵp Lles Awyr Agored i Bobl sy’n Byw gyda Chyflwr

Cynhenid y Galon

Rebecca Wiliams, Cynrychiolydd

Cleifion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Dr Anna McCulloch, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol, Gwasanaeth Clefyd

Cynhenid y Galon i Oedolion De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Defnyddio data amgylcheddol, gweinyddol ac iechyd cysylltiedig i ddeall penderfynyddion ehangach iechyd yn well

Theodora Pouliou, Uwch Wyddonydd Data, Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd ac Iechyd, Gwyddor Data Poblogaeth, Prifysgol Abertawe

Samantha Turner, Uwch Swyddog Ymchwil, Canolfan Ymchwil yr

Amgylchedd ac Iechyd, Gwyddor Data Poblogaeth, Prifysgol Abertawe

Lucy Griffiths, Athro Epidemioleg Bediatrig, Canolfan Ymchwil yr

Amgylchedd ac Iechyd, Gwyddor Data Poblogaeth, Prifysgol Abertawe

Richard Fry, Athro’r Amgylchedd ac Iechyd, Swyddog Ymchwil, Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd ac Iechyd, Gwyddor Data Poblogaeth, Prifysgol Abertawe

Fast Track Cymru: Dod â HIV i Ben yng Nghymru

Dr Adam DN Williams, Arweinydd Ymchwil a Gwerthuso, Fast Track Caerdydd a’r Fro

Naratifau Adnewyddu Personol: Gwneud ac Ysgrifennu gyda Gofalwyr yng Ngorllewin Cymru

Phil Jones, Cynorthwyydd Ymchwil a Chydlynydd Prosiect, Canolfan Prifysgol Aberystwyth er Creadigrwydd a Lles 14

3 Mawrth 2024 Cynllunio ac iechyd y cyhoedd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
a si
12 Trwy glep
Fideos 15 Newyddion & Adnoddau 16 Rhifyn Nesaf

Penawdau

Polisi ac Ymarfer

Polisïau cynllunio gofodol, iechyd y cyhoedd a’r gwasanaeth iechyd - Digwyddiad cynllunio ac iechyd

Iechyd Cyhoeddus Cymru 2024

Laura Evans, Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus, Uned Asesu’r Effaith ar Iechyd (WHIASU), Iechyd Cyhoeddus Cymru

Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol a Chyfarwyddwr y Rhaglen ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd, Uned Asesu’r Effaith ar Iechyd (WHIASU), Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r amgylchedd adeiledig a naturiol yn benderfynydd allweddol o iechyd, gyda chysylltiadau rhwng cynllunio gofodol ac iechyd a llesiant wedi’u cofnodi’n helaeth (1) (2) (3). Fel rhan o waith Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y pwnc hwn, mae’r sefydliad yn cynnal digwyddiad blynyddol i weithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd a chynllunio ddod at ei gilydd i ddysgu mwy am rolau ei gilydd, ac i rannu gwybodaeth a phrofiad. Eleni, cymerodd 141 o unigolion ran yn ein rhithddigwyddiad ar 8 Chwefror, oedd yn canolbwyntio ar bolisïau gwasanaeth iechyd.

Roedd y cyflwyniadau a roddwyd yn cynnwys: ffocws ar ddull partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro o ran cyllid a datblygiadau Adran 106; trosolwg o’r

Ymgynghoriad ar Reoliadau

Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd gan Lywodraeth Cymru; sbotolau ar amgylcheddau bwyd iach gydag astudiaeth achos gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a chyflwyniad ar y Prosiect Cydweithredol Lleoedd Iach sy’n cael ei gynnal gan

Gymdeithas Cyfarwyddwyr

Iechyd y Cyhoedd.

Rhoddodd dau weithdy’r cyfle i’r rhai a oedd yn bresennol i drafod ‘Siopau cludfwyd mewn Trefi: Ble ddylen ni leoli gwasanaethau

bwyd?’ a ‘Rhwystrau rhag dylanwadu ar gyfraniadau

Adran 106 a brofir gan weithwyr proffesiynol ym maes cynllunio ac iechyd a nodi unrhyw ddatrysiadau/camau ymarferol’.

Bu deg grŵp yn trafod y mater o leoliad siopau cludfwyd poeth yn ystod y gweithdy cyntaf dan arweiniad Hywel Butts o Lywodraeth Cymru. Tynnodd y sgyrsiau sylw at yr angen am ddull cyfannol, system gyfan, pwysigrwydd ymgysylltu â chymunedau lleol a’r angen am addysg. Cododd unigolion oblygiadau lleoli gwasanaethau bwyd o fewn/tu allan i’r dref a soniwyd am effaith y pandemig Covid-19.

Yn yr ail weithdy, dan arweiniad Andrew Buroni o Savills, bu’r grwpiau’n trafod y rhwystrau a’r datrysiadau sy’n gysylltiedig â chyfraniadau Adran 106. Ymhlith yr heriau/rhwystrau posibl a nodwyd roedd:

· Profiadau o Rwymedigaethau Cynllunio Canllawiau Cynllunio

Atodol amrywiol ar draws gwahanol Awdurdodau Lleol o fewn un Bwrdd Iechyd;

· Gwahaniaethau rhwng polisïau mewn amrywiol Gynlluniau Datblygu Lleol;

· Cyfyngiadau adnoddau o fewn byrddau iechyd i ddarparu cymorth ar gyfer ceisiadau Adran 106;

· Diffyg arbenigedd o fewn y lleoliad iechyd ar gyfer datblygiadau llai;

· Gallai’r drefn y mae datblygwyr yn penderfynu/gallu rhoi ymrwymiadau Adran 106 ar waith fod yn broblemus.

4 Mawrth 2024 Cynllunio ac iechyd y cyhoedd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Roedd datrysiadau posibl yn cynnwys:

· Ymgysylltu â chynllunwyr a gweithio gyda chymunedau;

· Bod ag agwedd gadarnhaol;

· Bod yn barod i siarad iaith wahanol;

· Deall rolau ac amcanion a rennir y rhai dan sylw.

· Adeiladu iaith gyffredin rhwng gweithwyr proffesiynol;

· Sicrhau bod iechyd y cyhoedd a chynllunwyr yn cymryd rhan yn y broses yn gynnar;

· Meithrin gwybodaeth;

· Defnyddio tystiolaeth a data;

· Meithrin perthnasoedd da. Bu llawer o drafod, dadlau ac ymgysylltu.

Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn; mwynhaodd unigolion y digwyddiad ac roeddynt yn ei ystyried yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol. Dywedodd ychydig llai na thri chwarter y rhai a gymerodd rhan y byddent yn trafod cynnwys y digwyddiad gyda chydweithwyr er mwyn llywio gweithredu.

Edrychwn ymlaen at wneud y cyfan eto’r flwyddyn nesaf!

Mae rhagor o fanylion am y digwyddiad hwn ar gael ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus

Cymru. Gweler gwefan

Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) i gael adnoddau ar Gynllunio Gofodol ac Iechyd.

Cyfeiriadau:

Marmot Review Team (2011) The Marmot Review: implications for spatial planning. Ar gael o: The Marmot Review: Implications for Spacial Planning - IHE (instituteofhealthequity.org)

Public Health England (2017)

Spatial planning for health. Adnodd tystiolaeth ar gyfer cynllunio a dylunio lleoedd iachach. [Ar-lein] Ar gael o: Spatial Planning for Health: an evidence resource for planning and designing healthier places (publishing.service.gov.uk)

Iechyd Cyhoeddus Cymru (2018) Creu Lleoedd a Mannau Iach. [Ar-lein] Ar gael o: Creatinghealthier-spaces-places-Cymru. pdf (phwwhocc.co.uk)

5 Mawrth 2024 Cynllunio ac iechyd y cyhoedd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Creu lleoedd er lles: Aduno Systemau Cynllunio ac Iechyd

Sophia Bird, Prif Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Ilona Johnson, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Medwyn Griffiths, Uwch-ymarferydd dan Hyfforddiant, Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yng Nghymru, mae dros hanner y boblogaeth oedolion bellach dros eu pwysau neu’n ordew; mae bod dros bwysau yn normal.

Mae gwaith wedi’i wneud yng Nghymru i ddatblygu ymagwedd system gyfan at ordewdra yng Nghymru. Fe wnaeth gwaith gyda rhanddeiliaid ym mhob un o’r saith bwrdd iechyd nodi’r rhan hanfodol y mae cynllunio yn ei chwarae wrth lunio ein hamgylchedd ffisegol a’n hamgylchedd bwyd, gan gynnwys ein stryd fawr leol a’n darpariaeth bwyd bresennol, a’r isadeiledd o ran ffyrdd ac adeiladau cyhoeddus, fel ysgolion.

Digwyddiad aduno cynllunio ac iechyd

Daeth digwyddiad ym mis Hydref 2023 â rhanddeiliaid o Lywodraeth Cymru, cynllunio ac iechyd cyhoeddus ynghyd. Y nod oedd ysgogi datblygiad ymagwedd systemau at gynllunio ar gyfer pobl iachach, gan weithio gyda rhanddeiliaid allweddol yn y systemau cynllunio ac iechyd cyhoeddus. Ystyriodd rhanddeiliaid allweddol heriau presennol, camau i fynd i’r afael â’r heriau hyn a’r weledigaeth ar gyfer y system yn y dyfodol.

Defnyddiwyd model y 3 Gorwel i lywio’r gweithdai. Mae’r model cysyniadol hwn yn hyrwyddo cynllunio ar gyfer y tymor hwy, a nodi a chyd-greu trawsnewid. Mae’n ymagwedd sy’n cydnabod

cymhlethdod ac ansicrwydd. Mae’r model hwn:

• Yn annog mynegi dyfodol posibl

• Yn creu gofod i randdeiliaid amrywiol rannu eu safbwyntiau.

• Yn mabwysiadu ymagwedd rheolaeth addasol sydd wedi’i seilio ar dri chategori twf gwahanol, gan ddarparu fframwaith ar gyfer nodi ac ymateb yn systematig i newidiadau yn yr amgylchedd.

Gan ddechrau gyda Gorwel 1 (H1), cafodd cyfranogwyr eu hannog, gyda’i gilydd, i nodi’r system, y tueddiadau a’r problemau presennol, a’r angen am newid.

Yna, symudodd cyfranogwyr ymlaen i H3, y dyfodol a ddymunir ac, yna, yn olaf H2, y gweithredu neu’r camau trawsnewidiol i’w cymryd tuag at y weledigaeth a fynegont gyda’i gilydd ar gyfer y dyfodol.

H1: Systemau presennol ar gyfer cynllunio ac iechyd Disgrifiwyd yn gyffredin fod y systemau presennol yn ddatgysylltiedig, yn gyfyngedig ac nad oeddent yn gweithio’n effeithiol i gefnogi datblygiad gweledigaeth a blaenoriaethau cyffredin.

H2 a H3: Themâu a nodwyd

i symud tuag at y system yn y dyfodol a ddymunir

Fe wnaeth meysydd a nodwyd i gefnogi newid tuag at y system yn y dyfodol a ddymunir gynnwys yr angen i ddatblygu:

• Gweledigaeth a blaenoriaethau cyffredin ar gyfer lles y boblogaeth a lles amgylcheddol,

• Mwy o gydweithredu a newidiadau i ffyrdd o weithio er mwyn galluogi ymagweddau cysylltiedig, holistig a rhagweithiol ar draws gwahanol rannau’r system, fel Cynllunio, Iechyd Cyhoeddus, y GIG a Busnes,

6 Mawrth 2024 Cynllunio ac iechyd y cyhoedd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
Ymarfer

• Newidiadau i gredoau systemau am feysydd dynodedig a’u goblygiadau o ran iechyd a lles,

• Prosesau gwell, wedi’u symleiddio, gyda mwy o gysondeb a systemau wedi’u hintegreiddio,

• Cynyddu’r defnydd o ddata i nodi ble mae angen i newid ddigwydd a chefnogi penderfyniadau.

Mae’r camau nesaf yn cynnwys cydweithio i flaenoriaethu gweithredoedd o fewn yr amgylchedd bwyd a’r amgylchedd adeiledig ar lefel leol a chenedlaethol, yn enwedig o fewn strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach:

• Mapio’r achosion a gweithredoedd lleol a nodwyd yn erbyn gweithgarwch lleol presennol er mwyn nodi synergeddau

• Nodi cyfryngau newid, rhai cyhoeddus a rhai preifat

• Nodi mecanweithiau newid

Casgliad

Daeth y digwyddiad hwn â chydweithwyr ynghyd o bob rhan o feysydd Cynllunio, Iechyd Cyhoeddus, y Llywodraeth a’r Trydydd Sector. Rhoddodd gyfle i gael sgyrsiau a meithrin perthnasoedd, gan helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r heriau presennol o ran gwneud y mwyaf o les a lleoedd cynaliadwy trwy greu lleoedd. Ystyrir bod y digwyddiad hwn yn gam cyntaf ar y daith at ddyfodol lle mae’r system gynllunio yn cefnogi lles pobl yn weithgar, yn benodol ac yn gyson, trwy greu lleoedd mewn ffordd wedi’i dylunio’n dda.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sophia Bird (Sophia. bird@wales.nhs.uk) a gwyliwch ein fideo yn esbonio ein hymagwedd

systemau yma: https:// healthyweight.wales/systems/

7 Mawrth 2024 Cynllunio ac iechyd y cyhoedd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Yr Awyr Agored: Grŵp Lles Awyr Agored i Bobl sy’n Byw gyda Chyflwr Cynhenid y Galon

Rebecca Wiliams, Cynrychiolydd Cleifion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Dr Anna McCulloch, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol, Gwasanaeth Clefyd Cynhenid y Galon i Oedolion

De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Crynodeb Cyflym

Mae risg uwch o lawer y bydd unigolion sy’n byw gyda Chyflwr Cynhenid y Galon yn datblygu cyflyrau iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder. Mae cael profiad o iselder yn ffactor risg o ran difrifoldeb y salwch. Gall hyrwyddo iechyd meddwl da ymhlith y boblogaeth hon leihau’r anghydraddoldebau iechyd a gaiff y garfan hon a gall wella’u hiechyd ac ansawdd eu bywyd yn gyffredinol. Nod y grŵp lles awyr agored hwn oedd gwella lles corfforol a meddyliol pobl sy’n byw gyda chyflyrau cynhenid y galon yn ne Cymru. Cynhaliwyd y prosiect yn y Ddôl Iechyd, Ysbyty Athrofaol Llandochau. Dysgodd y grŵp ofalu am y ddôl, datblygont berthynas â’i gilydd a thrafodont ffyrdd defnyddiol o ymdopi â’u cyflwr iechyd. Addaswyd gweithgareddau yn ôl yr angen er mwyn sicrhau cynwysoldeb. Adroddodd aelodau’r grŵp am welliannau i les, hunanhyder, cysylltiad cymdeithasol ac agweddau at ffitrwydd ac ymarfer corff.

Cefndir

Mae ffactorau niferus sy’n cyfrannu at yr anawsterau seicolegolgymdeithasol y mae pobl sy’n byw gyda chyflwr cynhenid y galon yn eu hwynebu. Gall byw gyda chyflwr cynhenid y galon darfu ar gamau datblygiadol arferol a chael effaith negyddol sylweddol ar gyrhaeddiad

ddeilliannau iechyd wneud heriau o’r fath yn anoddach. Mae lles seicolegol, cysylltiad cymdeithasol a symud a gwneud ymarfer corff yn rhagfynegwyr deilliannau iechyd yng nghlefydau cynhenid y galon. Er enghraifft, mae cysylltiad rhwng cael profiad o iselder neu orbryder a deilliannau iechyd gwaeth (1).

Rydym yn disgrifio cydweithrediad 18 mis rhwng tîm Clefyd Cynhenid y Galon Oedolion De Cymru, Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Down to Earth. Aeth aelodau’r grŵp i sesiynau pedair awr wythnosol yn y Ddôl Iechyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Fe wnaeth y sesiynau gynnwys dysgu sut i ofalu am y ddôl a dysgu sgiliau newydd. Roedd cymorth ar gael i aelodau gan y seicolegydd clinigol a nyrs clefydau cynhenid y galon oedolion. Mae ymyriadau grŵp yn annog cefnogaeth gan gymheiriaid a gall leihau teimladau o unigrwydd. Mae

hunaneffeithiolrwydd (4). Dangosodd adborth ansoddol a meintiol welliannau yn y canlynol:

1. Cysylltiadau â chymheiriaid a theimladau o gysylltiad cymdeithasol a gynhaliwyd y tu hwnt i leoliad y grŵp

2. Teimlo’n gysylltiedig â byd natur

3. Hunanhyder

4. Hyder wrth wneud ymarfer corff a symud

5. Y berthynas â tîm clefydau cynhenid y galon oedolion

6. Sgiliau ymdopi

8 Mawrth 2024 Cynllunio ac iechyd y cyhoedd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
Ymarfer

Mae enghreifftiau o ddyfyniadau’n cynnwys: “Dydw i ddim yn gwybod lle byddwn i heb y grŵp hwn”. “Mae’r bobl eraill rydw i wedi cyfarfod â nhw a beth rydw i wedi’i gyflawni wedi fy annog i a rhoi agwedd bositif i mi”. “Fe wnes i redeg i fyny bryn ddoe. Dydw i erioed wedi gwneud hynny”.

Amlygodd y dysgu allweddol o’r prosiect hwn y canlynol:

• Mae cefnogaeth cymheiriaid yn bwysig i bobl â chlefydau cynhenid y galon ac mae’n annog teimladau o gynhwysiant a chysylltiad cymdeithasol. Arhosodd y cysylltiad hwn ar ôl i’r prosiect orffen.

• Roedd darparu gofod awyr agored ar safle ysbyty yn golygu bod aelodau’r grŵp yn cysylltu’r ysbyty â phrofiadau cadarnhaol ac fe wnaeth leihau’r pryder a geir wrth fynd i apwyntiadau ysbyty.

• Fe wnaeth hyder cleifion i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a’r berthynas rhwng nyrsys a’r claf wella oherwydd bod nyrsys yn mynychu’r sesiynau, gan wneud i apwyntiadau clinigol fod yn llai o straen. Aeth rhai aelodau’r grŵp ymlaen

i wneud ymarfer corff yn annibynnol.

• Roedd gallu cael at seicolegydd clinigol wedi helpu i annog newid mewn meddwl ac ymddygiad.

• Mae pobl sy’n byw gyda chlefyd cynhenid y galon yn wynebu rhwystrau wrth gael at (1) fannau awyr agored, (2) cyfleodd i ddysgu sgiliau newydd a (3) mannau i wneud ymarfer corff. Mae’r prosiect hwn yn dangos buddion darparu grwpiau penodol i wasanaeth er mwyn helpu darparu’r cyfleoedd hyn i gleifion.

Cyfeiriadau

(1) Livecchi, T. & Morton, L. (2023). Healing Hearts and Minds. A Holistic Approach to Coping Well with Congenital Heart Disease, Oxford Press

(2) Kovacs, A.H., Brouilette, J.,

Ibeziako, P., Jackson, J.L., Kasparian, N.A., Livecchi, T., Sillman, C., & Kochilas, L.K. (2022). Psychological Outcomes and Interventions for Individuals with Congenital Heart Disease: A scientific statement from the American Heart Association. Circulation: Cardiovascular Quality and Outcomes, 15, 8.

(3) Capaldi, C.A., Dopko, R. L. , Zelenski, J.M. (2014). The relationship between nature connectedness and happiness: a meta-analysis. Front Psychol, 5, 976

Davies, J., McKenna, M., Bayley, J., Denner, K., & Young, H. (2020). Using engagement in sustainable construction to improve mental health and social connection in disadvantaged and hard to reach groups: a new green care approach. Journal of Mental Health, 29, 3, 350-357.

9 Mawrth 2024 Cynllunio ac iechyd y cyhoedd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
Defnyddio data amgylcheddol, gweinyddol ac iechyd cysylltiedig i ddeall penderfynyddion ehangach iechyd yn well

Theodora Pouliou, Uwch Wyddonydd Data, Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd ac Iechyd, Gwyddor Data

Poblogaeth, Prifysgol Abertawe

Samantha Turner, Uwch Swyddog Ymchwil, Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd ac Iechyd, Gwyddor Data

Poblogaeth, Prifysgol Abertawe

Lucy Griffiths, Athro Epidemioleg Bediatrig, Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd ac Iechyd, Gwyddor Data

Poblogaeth, Prifysgol Abertawe

Richard Fry, Athro’r Amgylchedd ac Iechyd, Swyddog Ymchwil, Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd ac Iechyd, Gwyddor Data Poblogaeth, Prifysgol Abertawe

Mae Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd ac Iechyd (ENVHE) yn defnyddio technegau dadansoddi data uwch i ddeall penderfynyddion cymdeithasol ac amgylcheddol iechyd a lles. Mae ENVHE yn dwyn ynghyd ddaearyddwyr, epidemiolegwyr, ystadegwyr, a gwyddonwyr data sy’n gweithio gyda’i gilydd i greu canfyddiadau sy’n berthnasol i bolisi, o ddata arferol ar y rhyngweithio cymhleth rhwng y byd rydym yn byw ynddo (amgylchedd cymdeithasol ac adeiledig) a’n hiechyd a’n lles unigol.

Mae’r holl ddata’n cael eu cyrchu a’u dadansoddi trwy Fanc Data

Cyswllt Diogel Gwybodaeth

Ddienw (SAIL), Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy (TRE), a gynhelir ym Mhrifysgol Abertawe. Ar gyfer pob ffynhonnell ddata o fewn Banc Data SAIL mae data adnabyddadwy personol yn cael eu tynnu a’u disodli gan Faes Cyswllt Dienw (ALF) ar gyfer pob person i alluogi cysylltu cofnodion o wahanol ffynonellau.

Prosiectau enghreifftiol gan y tîm

ENVHE:

Cysylltiadau lefel aelwyd

Ariannwr: ADR UK ac HDR UK

Mae cysylltiadau lefel cartref yn SAIL yn ein galluogi i greu darlun o fywyd cartref person. Mae

modelau cyfrifiadurol o gartrefi a’r gymuned leol wedi’u datblygu, gan ddefnyddio data cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n cofnodi newidiadau dros amser. Gellir cysylltu’r data hyn yn ddienw yn SAIL â data iechyd a gweinyddol gan ddefnyddio dynodwr priodweddau wedi’i amgryptio (UPRN). Mae hyn yn ein galluogi, er enghraifft, i ddeall cyfansoddiad aelwydydd ac iechyd a chysylltu data geo-ofodol ac amgylcheddol cydraniad uchel ar lefel cyfeiriad.

Mannau Glas a Gwyrdd

Ariannwr: NIHR

Prif amcan y prosiect oedd archwilio’r cysylltiadau posibl rhwng yr amgylchedd ac anhwylderau iechyd meddwl. Crëwyd e-garfan trwy gysylltu data amgylcheddol ac iechyd meddwl â dilyniant 24.9 miliwn o flynyddoedd person. Y prif ganfyddiad oedd bod byw yn agosach at fan gwyrdd yn lleihau’r tebygolrwydd o gael diagnosis o anhwylder meddwl cronig, yn

arbennig ar gyfer cymunedau difreintiedig.

Amgylcheddau Adeiledig ac Iechyd Plant yng Nghymru ac Awstralia (BEACHES)

Ariannwr: MRC ac NHMRC

Astudiaeth ryngwladol yw hon sy’n cymharu amgylcheddau adeiledig ac iechyd plant yng Nghymru ac Awstralia. Yng Nghymru, rydym yn defnyddio cofnodion iechyd electronig cysylltiedig a data o’r Rhaglen Mesur Plant i ymchwilio i Fynegai Màs y Corff (BMI) plentyndod mewn perthynas â nifer o fesurau amgylcheddol adeiledig, megis cerddedadwyedd cymdogaeth, pellter i’r ysgol, mannau gwyrdd lleol a mynediad i barciau a chyfleusterau hamdden.

10 Mawrth 2024 Cynllunio ac iechyd y cyhoedd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
Ymchwil

Gofal Cymdeithasol Plant / Cyfiawnder Teuluol

Ariannwr: Arsyllfa Cyfiawnder

Teuluol Nuffield ac HCRW

Drwy gysylltu data iechyd â setiau data Plant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth, Plant sy’n Derbyn

Gofal a Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass), mae nifer o brosiectau wedi archwilio penderfynyddion cymdeithasol iechyd mewn plant a phobl ifanc (CYP); megis, nodweddion rhieni (iechyd, defnyddio sylweddau a defnydd gofal iechyd) plant a phobl ifanc sy’n ymwneud ag achosion cyfraith gyhoeddus a phreifat, a’r rhai sy’n cael cymorth lles. Mae teithiau a chanlyniadau unigol drwy’r systemau hyn hefyd wedi’u harchwilio, gan ddarparu argymhellion polisi ac arfer i wella profiadau a chanlyniadau.

Iechyd Mamol A Beichiogrwydd a Gwres Uchel (MAGENTA)

Ariannwr: Ymddiriedolaeth

Wellcome

Mae hon yn astudiaeth cyswllt data newydd i ddeall sut mae tymheredd yn effeithio ar ganlyniadau beichiogrwydd i bobl sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig yng Nghymru a Llundain. Mae’r prosiect yn cynnwys modelu gwres yn amgylcheddol ledled Cymru a Llundain; datblygu e-garfan o ddata amgylcheddol ac iechyd cysylltiedig yn ogystal â biosamplu menywod beichiog yn Abertawe i fesur ymateb biolegol i ddigwyddiadau gwres ac yn olaf rhagweld canlyniadau yn y dyfodol mewn perthynas â senarios newid yn yr hinsawdd.

11 Mawrth 2024 Cynllunio ac iechyd y cyhoedd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Trwy glep a si

Fast Track Cymru: Dod â HIV i Ben yng Nghymru

Dr Adam DN Williams, Arweinydd Ymchwil a Gwerthuso, Fast Track Caerdydd a’r Fro

Fast Track Cymru yw rhwydwaith o Ddinasoedd Llwybrau Cyflym ledled Cymru sy’n gweithio’n gydol i gyrraedd targedau 95/95/95

UNAIDS, yn ogystal â chyrraedd dim trawsmissiynau newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030 a nodau

Cynllun Gweithredu HIV Cymru.

Ariennir Fast Track Cymru ar hyn o bryd hyd at fis Mawrth 2025 gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, mae gan Fast Track Cymru bedwar rhanbarth gweithgar –Caerdydd a’r Fro, Casnewydd, Bae Abertawe, a Gogledd Cymru. Mae gan bob un o’r rhanbarthau hyn gonfederasiwn o bartïon â diddordeb yn yr ardal fwrdd iechyd, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol iechyd, awdurdodau lleol, ymchwilwyr academaidd, a grwpiau cymunedol sy’n gweithio ar iechyd rhywiol yn lleol. Er bod pob rhanbarth yn hunan-reolaidd, rydym i gyd yn cyfrannu at rwydwaith cenedlaethol Fast Track Cymru i weithio gyda’n gilydd ac i roi gwybodaeth am ymarfer gorau.

Mae Fast Track Cymru wedi ei adeiladu ar gynghrair o sefydliadau anllywodraethol, gwasanaethau iechyd ymwneud, ac awdurdodau lleol gyda’r nod o wella’r ymateb

i HIV. Mae’r gynghrair hon yn darparu llwyfan cryf a chysylltiedig i wneud gwahaniaeth ar draws ein cymunedau yng Nghymru, gyda’r nod yn y pen draw o ehangu ei gwaith i Gymru gyfan. Mae un o brif ffocys ar gyfer yr uchelgeisiau hyn erioed wedi bod ar ymgysylltu ac yn grymuso cymunedau a chasglu a deall data i yrru arloesedd ac i wella gwasanaethau. Mae’r fenter wedi bod yn

llwyddiannus iawn, gan helpu i ddatblygu Cynllun Gweithredu

HIV Cymru, gan ymgysylltu â chymunedau lleol i leihau stigma HIV, datblygu Wythnos Gwiriad

HIV Cenedlaethol i Gymru, ac ymgymryd â chrynodebau gwahanol.

Rydym ar hyn o bryd yn cwblhau rhaglen waith y flwyddyn nesaf. Byddwn yn dal i weithio ar brofi a phreventio ond un o’n prif nodau ar gyfer 2024 yw cefnogi pobl sy’n byw gyda HIV ac alleuriaid sydd am ddod yn hyrwyddwyr cymunedol HIV ac herio stigma. Mae gennym ystod o gynlluniau rydym yn ymgynghori arnyn nhw gyda sefydliadau partner megis Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, HIV Outcomes UK (gyda chefnogaeth gan National AIDS

Trust) a Dinasoedd Llwybrau Cyflym eraill yn yr Alban.

Rydym yn cynllunio ymgyrch wrthstigma cyffrous iawn ar y cyfryngau cymdeithasol ym mis Mai. Cofiwch lenwi ein harolwg YMA os hoffech fod yn rhan o lunio’r ymgyrch –rydym yn croesawu ymatebion yn arbennig gan bobl sy’n byw gyda HIV, ond mae lle i lleisiau cefnogol hefyd. Unwaith y bydd yr ymgyrch wedi ei dylunio, byddem wrth ein boddau pe gallech eich ysgogi drwy adio, ail-hyfrydu, rhannu ein negeseuon ar Instagram a Facebook, siarad am HIV ac helpu i herio stigma.

Mae herio stigma HIV yn hynod bwysig. Os hoffech chi fod yn rhan o lunio’r ymgyrch, llenwch ein arolwg, os gwelwch yn dda – os oes digwyddiad yr ydych yn credu y byddai’n elwa arnynt, gadewch i ni wybod yn advocacy@hiv.wales. Fel arall, mae gennym fersiwn PDF o’n taflen HIV 101 ar ein gwefan (YMA) y gallwch ei brintio ar eich hamser rhydd.

12 Mawrth 2024 Cynllunio ac iechyd y cyhoedd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
Polisil

Polisil

Naratifau Adnewyddu Personol: Gwneud ac Ysgrifennu gyda Gofalwyr yng Ngorllewin Cymru

Phil Jones, Cynorthwyydd Ymchwil a Chydlynydd Prosiect, Canolfan Prifysgol Aberystwyth er Creadigrwydd a Lles

Mae Naratifau Adnewyddu Personol yn brosiect newydd sy’n archwilio deilliannau lles trwy gelfyddydau rhyngddisgyblaethol. Ar ôl egin brosiect llwyddiannus yn gweithio gyda Staff y GIG a Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mae’r prosiect yn gweithio gyda gofalwyr yng ngorllewin Cymru. Cynigir diwrnodau llawn o greadigrwydd fel saib rhag arferion rheolaidd i helpu gydag unigrwydd, straen iechyd meddwl, a diffyg cyfleoedd i ymwneud â hobïau a’r celfyddydau.

Mae diwrnodau wedi’u curadu’n ofalus yn sefydlu man diogel ond gweithgar i archwilio lles, a bydd gweithgareddau’n cael eu cyflwyno fel nad oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Mae ffyrdd newydd o ystyried, rheoli a mynegi problemau iechyd corfforol neu seicolegol yn cael eu hannog, gan alluogi cyfranogwyr i fynd i’r afael â phrofiad ac emosiynau cymhleth.

Mae’r prosiect hwn yn bartneriaeth newydd rhwng Canolfan Prifysgol Aberystwyth er Creadigrwydd a Lles ac Ymddiriedolaeth Fathom. Mae awduron yn y Ganolfan er Creadigrwydd a Lles wedi bod yn cynnal prosiectau sy’n archwilio ffyrdd effeithiol o ddefnyddio ysgrifennu ac iaith fel ymyriadau mewn lleoliadau gofal iechyd a lles. Yn y cyfamser, mae Ymddiriedolaeth Fathom yn gweithio gydag unigolion a grwpiau ym Mhowys sy’n dioddef straen, gorflinder a chyflyrau

corfforol a seicolegol.

Yn ystod egin raglen 2023, cynigiwyd tridiau o symud, gwneud crefftau ac ysgrifennu creadigol i staff y GIG mewn lleoliadau prydferth. Rhoddodd hyn saib rhag patrymau arferol yr wythnos waith i ddarparu ar gyfer y person cyfan a chynnig llwybrau cadarnhaol at adfer, gwydnwch ac adfywio. Dangosodd gwerthusiad ymateb cadarnhaol llethol: adroddodd 100% o’r cyfranogwyr welliant yn eu lles ar ôl mynychu ac awgrymodd 94% ohonynt ei fod wedi’u hysbrydoli i gyflwyno gweithgarwch creadigol i fywyd bob dydd.

Dywedodd un o’r rhai a gymerodd ran, “Fe wnaeth y dull cyfan chwalu fy rhagdybiaethau am sut gallai gwir iachau deimlo, ac fe wnaeth hollti cragen o ildio i fy ffawd, teimladau sydd wedi bod gen i ers yn rhy hir o lawer. Roedd cyfuno symudiadau corfforol, creadigrwydd chwareus a darganfod cyffyrddol, a myfyrio dwys trwy eiriau a barddoniaeth, wedi’u cyfuno yn gywrain ond yn hynod effeithiol, wedi gweithio’n wych.”

Yn ogystal â gweithio gyda chyfranogwyr, mae’r prosiect yn cynnig canolbwynt newydd i hwyluswyr y celfyddydau sy’n gweithio ym maes lles arloesi gyda dulliau rhyngddisgyblaethol. Mae’r artistiaid sy’n cymryd rhan yn cynnwys Clare E Potter, George Sandifer-Smith, Christina Thatcher a’r artist tecstilau, Laura Thomas.

Caiff hwyluswyr eu hannog i ymwneud â’u gwaith ei gilydd a chydweithredu ar gynllunio sesiynau, gan greu tir ffrwythlon am groesi disgyblaethol ac arwain at sesiynau pwrpasol sydd â llinyn rhyngddisgyblaethol.

Meddai’r hwylusydd, Laura Thomas, “dyma’r tro cyntaf i fi ei gyflwyno yn gydweithredol… Roedd hi’n ysbrydoledig iawn i mi weld pa mor llwyddiannus ydoedd i’r cyfranogwyr. Roeddwn i wrth fy modd yn clywed y geiriau a ysgrifennwyd a ddeilliodd o weithgarwch gwehyddu – gwych.”

Mae cyllid gan Sefydliad Shaw yn dwyn y prosiect yn ei flaen i weithio gyda gofalwyr, y mae gan y gweithgareddau creadigol rhyngddisgyblaethol botensial gwych i fodloni eu hanghenion (1). Trwy broses o weithio mewn partneriaeth a dylunio ar y cyd, mae’r prosiect yn cyrraedd y rhai a fydd yn elwa fwyaf, gyda’r nod yn y pen draw o ddatblygu model effeithiol a chynaliadwy y gellir ei gyflwyno i grwpiau ehangach sydd mewn angen hefyd.

I ddysgu rhagor, cysylltwch â Phil Jones: phj13@aber.ac.uk Carers Trust and prepared for The Department of Health and Social Care and the VCSE Health and Wellbeing Alliance (2022) ‘Social Prescribing and interventions combatting loneliness amongst unpaid carers: Good Practice examples’ https://carers.org/ resources/all-resources/137-socialprescribing-good-practice-andtop-tips-

13 Mawrth 2024 Cynllunio ac iechyd y cyhoedd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Fideos

Blociau adeiladu ar gyfer tegwch rhywedd: Strategaethau ar gyfer dyfodol ffyniannus i fenywod yng Nghymru

Archwiliodd y gweminar hwn y cysylltiadau rhwng rhywedd a phenderfynyddion ehangach iechyd, a thrafododd rôl polisïau rhywedd-gynhwysol wrth ffurfio economïau a systemau iechyd teg. Roedd yn gyfle i edrych ar yr anghydraddoldebau rhywedd cyffredin sy’n effeithio ar iechyd y tu hwnt i wasanaethau iechyd.

Gwylio

Dull mapio systemau cyfranogol ar gyfer archwilio cyflawniad addysgol yng Nghymru – myfyrdod ar theori ac ymarfer

Rhoddodd y weminar hon drosolwg o benderfynyddion ehangach gwaith yr Uned Iechyd mewn perthynas ag addysg fel penderfynydd iechyd.

Gwylio

Polisïau cynllunio gofodol, iechyd y cyhoedd a’r gwasanaeth iechyd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Roedd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar newidiadau yn yr agenda polisi cynllunio, cyfranogiad gwasanaethau iechyd y cyhoedd a gofal iechyd wrth ddylanwadu ar y defnydd o arian Adran 106, polisïau sy’n hwyluso amgylcheddau bwyd iach a diweddariad o Reoliadau Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) Llywodraeth Cymru.

Gwylio

Archwiliwch ein llyfrgell fideo ar-lein

Gweld ein holl fideos

14 Mawrth 2024 Cynllunio ac iechyd y cyhoedd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Newyddion & Adnoddau

Arbenigwyr iechyd yn croesawu’r duedd ar i lawr mewn achosion o dynnu dannedd plant o dan anesthetig cyffredinol

02-04-2024

Mae adnodd meddwl hirdymor yn helpu sefydliadau i ddiogelu iechyd cenedlaethau’r dyfodol

02-04-2024

Rhyddhau astudiaethau achos i ddangos sut y gall sefydliadau uno er mwyn ymateb i gostau byw

20-03-2024

Pob Newyddion

Cadw’n gynnes gartref yn ystod y gaeaf yng Nghymru: Gwahaniaethau mewn ymddygiad gwresogi, strategaethau ymdopi a llesiant o 2022 i 2023

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Y tu hwnt i’r presennol: Sut i gymhwyso meddwl yn hirdymor i leihau anghydraddoldebau iechyd

Iechyd Cyhoeddus Cymru Pob Adnoddau

15 Mawrth 2024 Cynllunio ac iechyd y cyhoedd: cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Rhifyn Nesaf

ADDYSG YNG NGHYMRU

Mae addysg dda yn angenrheidiol ar gyfer iechyd a llesiant, a gall gynyddu ein cyfleoedd i fyw bywyd hir ac iach. Yn eu tro, gall ein hiechyd a’n llesiant effeithio ar ein gallu i ddysgu. Mae addysg yn darparu’r sgiliau, y priodoleddau a’r wybodaeth sydd eu hangen i sicrhau swyddi da a chymryd rhan mewn cymdeithas.

Ar gyfer ein e-fwletin nesaf, byddem yn croesawu erthyglau sy’n cwmpasu mentrau, polisïau neu raglenni cenedlaethol neu leol, wedi’u hanelu at wella neu ymestyn addysg yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys mentrau o fewn lleoliadau, fel sefydliadau cyn-ysgol, ysgolion, sefydliadau addysg uwch neu’r gymuned.

Bydd ein ffurflen cyflwyno erthyglau yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am nifer y geiriau, gosodiad eich erthygl, a chanllawiau ar gyfer delweddau.

Anfonwch erthyglau at publichealth.network@ wales.nhs.uk erbyn 19 Ebrill 2024. Cyfrannu

16

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.