Melin / Mart y Fali, Ynys Môn - Gaeaf 2023

Page 1

MELIN/MART Y FALI, YNYS MÔN

Datblygiad 54 o gartrefi newydd fforddiadwy effeithlon o ran ynni, yn cael eu hadeiladu gan Williams Homes ar ran

ClwydAlyn ac mewn

partneriaeth â Chyngor

Ynys Môn a Llywodraeth

Cymru. Bwriedir gorffen y datblygiad yn ystod haf 2024.

DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD AC EDRYCH YMLAEN

Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda ac mae mynedfa safle newydd wedi ei ffurfio. Bydd Dŵr Cymru a BT Openreach yn dod â’u gwasanaethau i’r safle yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Bwriedir i’r gwaith yma ddechrau ar 27 Chwefror. Bydd goleuadau traffig ar y briffordd am tua 2 wythnos tra bydd y cyfleustodau yma yn cael eu dwyn i’r safle.

Mae’r datblygiad wedi cael ei rannu yn 10 parth. Mae sylfeini concrid wedi eu tywallt ar gyfer y 5 parth cyntaf. Mae’r gwaith o godi’r fframiau pren yn mynd yn ei flaen yn dda gyda’r fframiau ar gyfer Parth 1 wedi eu cwblhau. Gyda’r gwanwyn ar y ffordd, rydym yn edrych ymlaen at barhau’r cynnydd da a wnaed dros yr hydref/gaeaf.

CLWYDALYN.CO.UK
YNYS MÔN GAEAF 2023

RHOI YN ÔL I’R GYMUNED

Yn Rhagfyr bu staff

o Williams Homes

yn gweithio gyda disgyblion blwyddyn

6 yn Ysgol Gymuned y Fali mewn gweithdy cyffrous i annog

ein hadeiladwyr, datblygwyr a phenseiri at y dyfodol! Gan ddefnyddio eu gwybodaeth newydd am egwyddorion adeiladu, adeiladodd y plant dŵr gyda chit tetrahedron, yn yr hyn fydd yn gyfres o weithdai yn yr ysgol i ddatblygu eu sgiliau!

ENWI’R DATBLYGIAD

DISGYBLION YN YSGOL GYMUNED Y FALI YN NODI

DECHRAU SWYDDOGOL Y GWAITH

Ar 27 Ionawr bu disgyblion o Ysgol Gymuned y Fali mewn seremoni i nodi dechrau’r gwaith ym Mart Fali, a chawsant gip ar y gwahanol gamau wrth adeiladu cartref. Wrth arwain y seremoni, roedd yn gyfle i’r plant deimlo’n rhan o’r datblygiad ac i adeiladu ar y berthynas lwyddiannus sy’n cael ei ffurfio gyda’r ysgol.

Rhoddodd Williams Homes y cyfle i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 yn Ysgol Gymuned y Fali i enwi’r strydoedd ar y datblygiad newydd. Treuliodd y plant amser yn edrych ar arwyddocâd daearyddol a hanesyddol yr ardal i gael syniadau. Y cam nesaf fydd gweithio hefo’r plant a’r cyngor cymuned i gytuno ar enw ar gyfer y safle ar ôl ei orffen.

RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU

Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel. Yr oriau gweithredu nodweddiadol yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm a dyddiau Sadwrn 8am hyd 1pm. Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.

CYFLEOEDD GWAITH

Mae dynion yng Ngharchar Ei Fawrhydi Berwyn yn Wrecsam wedi bod yn cynhyrchu paneli ffrâm bren ar gyfer ein datblygiadau yn Glasdir (Rhuthun), Hen Ysgol y Bont, Pentraeth a Melin / Mart y Fali yn Ynys Môn, gan chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y cynlluniau. Sefydlwyd uned ffatri yn y carchar, ac yn awr mae 25 o ddynion wedi cael cyfle i ddysgu sgiliau ymarferol a chymwysterau i’w paratoi i gael gwaith wrth eu rhyddhau.

CYSYLLTWCH Â NI

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Penny Lofts (Rheolwr Tir a Chaffael) ar 01678 521781 a fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau all fod gennych. Fel arall, os byddai’n well gennych gysylltu â ni trwy e-bost, ein cyfeiriad yw: info@williams-homes.co.uk

DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn a Williams Homes ar y cyfryngau cymdeithasol @ClwydAlyn @WilliamsHomes_

Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol

Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.