Tir Ger Lôn Lwyd, Pentraeth, Ynys Môn - Gaeaf 2023

Page 1

TIR GER LÔN LWYD

PENTRAETH, YNYS MÔN

Datblygiad 23 o gartrefi newydd fforddiadwy

effeithlon o ran ynni

(bydd 13 o’r tai yn cael eu

rheoli gan ClwydAlyn a 10 o’r tai yn cael eu rheoli

gan Gyngor Sir Ynys Môn), yn cael eu hadeiladu

gan Williams Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn

partneriaeth â Chyngor

Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.

DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD AC EDRYCH

YMLAEN

Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda a bydd y gwaith yn cael ei gwblhau mewn camau. Bydd Cam 1 yn cael ei orffen yn y gwanwyn, a bydd yn cynnwys 14 o gartrefi. Byddwn yn gweld preswylwyr / teuluoedd yn symud i mewn yn fuan. Allwn ni ddim aros i roi eu goriadau i bawb! Bwriedir gorffen y datblygiad yn ystod haf 2023.

CLWYDALYN.CO.UK
YNYS MÔN GAEAF 2023

CARTREFI YNNI EFFEITHIOL

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

• Pympiau gwres ffynhonnell aer

• Paneli trydan solar

• Batris storio trydan solar

• Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol

• Cyfleusterau gwefru ceir trydan

• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl

• Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

AM GAEL GWYBOD RHAGOR AM SUT MAE PYMPIAU GWRES FFYNHONNELL AER YN

CARTREFI AM OES

Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.

CYFLEOEDD GWAITH

Mae dynion yng Ngharchar Ei Fawrhydi Berwyn yn Wrecsam wedi bod yn cynhyrchu paneli ffrâm bren ar gyfer ein datblygiadau yn Glasdir (Rhuthun), Hen Ysgol y Bont, Pentraeth a Melin / Mart y Fali yn Ynys Môn, gan chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y cynlluniau. Sefydlwyd uned ffatri yn y carchar, ac yn awr mae 25 o ddynion wedi cael cyfle i ddysgu sgiliau ymarferol a chymwysterau i’w paratoi i gael gwaith wrth eu rhyddhau.

ENWI DATBLYGIAD PENTRAETH!

Yr enw stryd newydd a gadarnhawyd gan Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer y datblygiad yw: LLYS LLWYDIARTH

Diolch yn fawr i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 o Ysgol Pentraeth am ein helpu i enwi’r stryd.

RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU

Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel.

Yr oriau gweithredu nodweddiadol yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm a dyddiau

Sadwrn 8am hyd 1pm. Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.

CYSYLLTWCH Â NI

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Penny Lofts (Rheolwr Tir a Chaffael) ar 01678 521781 a fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau all fod gennych. Fel arall, os byddai’n well gennych gysylltu â ni trwy e-bost, ein cyfeiriad yw: info@williams-homes.co.uk

DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn a Williams Homes ar y cyfryngau cymdeithasol @ClwydAlyn @WilliamsHomes_

Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol

Cyflwyniad i Bympiau Gwres Ffynhonnell Aer

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.