Tir Hen Ysgol, Ynys Môn - Gaeaf 2023

Page 1

TIR HEN YSGOL Y BONT YNYS MÔN

Datblygiad 52 o gartrefi newydd fforddiadwy

effeithlon o ran ynni, yn cael eu hadeiladu gan

Williams Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth

â Chyngor Ynys

Môn a Llywodraeth Cymru.

DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD AC EDRYCH YMLAEN

Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda ac mae’n gyffrous cael dweud, ym mis Mawrth, bod 16 o breswylwyr/teuluoedd wedi symud i’w cartrefi newydd. Yn Chwefror, cyn iddyn nhw symud i mewn, cawsant y cyfle i fynd ar daith o gwmpas eu cartrefi newydd a chael digwyddiad croesawu, lle rhoddwyd gwybodaeth iddyn nhw am eu cartrefi newydd a’r technolegau newydd (pympiau gwres ffynhonnell aer) a llawer mwy.

Bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau mewn camau, gyda cham 2 wedi ei orffen yn ystod y gwanwyn, pan fyddwn yn gweld rhagor o breswylwyr / teuluoedd yn symud yno. Allwn ni ddim aros i roi eu goriadau i bawb!

Mae’r gwaith ar gam 3 yn symud ymlaen yn dda hefyd a bydd y 52 cartref wedi eu gorffen yn haf 2023.

Yn rhifyn nesaf y cylchlythyr, byddwn yn gallu dweud wrthych sut yr aeth y diwrnod symud!

CLWYDALYN.CO.UK
YNYS MÔN GAEAF 2023

CARTREFI YNNI EFFEITHIOL

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

• Pympiau gwres ffynhonnell aer

• Paneli trydan solar

• Batris storio trydan solar

• Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol

• Cyfleusterau gwefru ceir trydan

• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl

• Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

AM GAEL GWYBOD RHAGOR AM SUT MAE PYMPIAU GWRES

FFYNHONNELL AER YN

Cyflwyniad i Bympiau Gwres

Ffynhonnell Aer

CARTREFI AM OES

Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.

CYFLEOEDD GWAITH

Mae dynion yng Ngharchar Ei Fawrhydi Berwyn yn Wrecsam wedi bod yn cynhyrchu paneli ffrâm bren ar gyfer ein datblygiadau yn Glasdir (Rhuthun), Hen Ysgol y Bont, Pentraeth a Melin / Mart y Fali yn Ynys Môn, gan chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y cynlluniau. Sefydlwyd uned ffatri yn y carchar, ac yn awr mae 25 o ddynion wedi cael cyfle i ddysgu sgiliau ymarferol a chymwysterau i’w paratoi i gael gwaith wrth eu rhyddhau.

ENWI TIR YN NATBLYGIAD HEN YSGOL Y BONT!

Cadarnhawyd enwau’r strydoedd gan Gyngor Sir Ynys Môn fel a ganlyn: Maes yr Ysgol. Stryd y Bont, sy’n parhau’r ffordd bresennol sydd ger y datblygiad.

RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU

Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel.

Yr oriau gweithredu nodweddiadol yw dydd Llun

i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm a dyddiau

Sadwrn 8am hyd 1pm. Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.

CYSYLLTWCH Â NI

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Penny Lofts (Rheolwr Tir a Chaffael) ar 01678 521781 a fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau all fod gennych. Fel arall, os byddai’n well gennych gysylltu â ni trwy e-bost, ein cyfeiriad yw: info@williams-homes.co.uk

DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn a Williams Homes ar y cyfryngau cymdeithasol @ClwydAlyn @WilliamsHomes_

Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.