Croeso Amcan y llyfryn yma yw rhoi help i chi setlo yn eich cartref newydd ac i wneud yn fawr o'ch pres. Mae Fy Nghartref - Cyfrif Pob Ceiniog yn rhoi syniadau ymarferol i chi o le gallwch arbed pres - ac osgoi mynd i ddyled. Gallwch gyfeirio at bynciau perthnasol a'i ddefnyddio i edrych ar 么l eich pres. Gobeithio y bydd yn eich helpu i symud i'ch cartref heb achosi straen i chi gan ei gwneud hi'n haws i chi gadw llygaid ar eich pres er mwyn atal unrhyw anawsterau yn y dyfodol. Y brif neges yw cael cyngor yn fuan os ydych yn wynebu problemau ariannol. Ein hamcan yw eich helpu i gynnal tenantiaeth lwyddiannus. Edrychwn ymlaen at sefydlu perthynas hir gyda chi.