Agor Drysau – Gwella Bywydau
Tai Anghenion Cyffredinol Rydym yn newid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau i chi. Rydym wedi edrych ar y gwasanaethau rydych yn eu derbyn gennym ac er mwyn i ni barhau i ddarparu ac adeiladu ar y gwasanaeth gwych yr ydym yn ei ddarparu, rydym wedi gwneud newidiadau yn ddiweddar i Anghenion Cyffredinol. Bydd y newidiadau yma yn dod i rym o ddydd Llun, 28 Tachwedd 2016. Gwasanaethau Tai Cyffredinol - mae hyn yn ymwneud â thai Anghenion Cyffredinol; tai, fflatiau a byngalos; ac mae’n cynnwys llety i bobl hŷn nad ydynt yn cael gwasanaeth gan Warden neu Reolwr Cynllun. Mae Timau ar gael yn awr i’ch helpu gyda’ch ymholiadau os na fydd Tîm y Ganolfan Gyswllt yn gallu eich helpu - Tîm y Dwyrain a Thîm y Gorllewin. Mae’r ddau Dîm yn cael eu rheoli gan Arweinwyr Tîm sy’n adrodd yn ôl i’r Pennaeth Gwasanaethau Preswyl – Edward Hughes, sydd newydd ei benodi ac sy’n ymuno â’r Grŵp ar dydd Llun, 9 Ionawr 2017. Yn ychwanegol at eich Swyddogion Tai, mae gennym yn awr Swyddogion Ymweld, a fydd yn ymweld â’r holl breswylwyr dros gyfnod o 12 mis i sicrhau ein bod yn eich cefnogi a’ch helpu.
Mae’r Timau fel a ganlyn -
Swyddog Tai Barry Evans Yvonne Cole Rebecca Halton Laura Stephens Swyddogion Ymweld Angharad Jones Ami Jones
Arweinydd Tîm y Gorllewin - Carol Hooper Warden Gofalwr Glanhawr Jean Brown Amh Rachel Cherrington Steve Sanders Alison Pring Anna Newman William John Roberts