Welsh Home Matters - Autumn Winter 2023

Page 1

CAL N Y CA RT R E F HYDREF / GAEAF 2023

E I C H C Y L C H G R AW N P R E S W Y LW Y R C LW Y DA LY N CYFLE I ENNILL

talebau siopa am gystadlaethau hwyliog

AWGRYMIADAU DA

• Arbed arian • Awgrymiadau diogelwch

RYDYM WEDI CROESAWU

71

o breswylwyr newydd i’w cartrefi newydd

UWCHGYLCHU

AC AWGRYMIADAU DIY GAN LAURA MCKIBBIN

AWGRYMIADAU AR GYFER YR ARDD

AU Hawliwch hadau HADM A M AM DDIM gan DDI #Dylanwadwch

Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Elusennol Gofrestredig


EICH CROESO

Cynnwys: EICH CROESO

EICH DIOGELWCH

03

Croeso’r golygydd – Laura Mckibbin

20

Caethwasiaeth Fodern

03

Dylanwadwch

22

Llwydni a lleithder

24

Diogelwch batris

EICH NEWYDDION

25

Dod i’ch adnabod chi

04

Dewch i gyfarfod aelodau newydd y Pwyllgor Preswylwyr

26

Anifeiliaid Anwes yn ClwydAlyn

28

Awgrymiadau diogelwch at y gaeaf

06

Gwobrau Cymydog Da EICH CIPOLWG AR...

2

EICH CYMUNED

29

Rysáit

07

Newyddion y cymunedau

32

09

Rhoddion banc bwyd

Bywyd Lois Ward, Cydlynydd Cyllid Grant a Gwerth Cymdeithasol

12

Digwyddiadau cymunedol yr haf

14

Datblygu

EICH BARN

16

Tai teg

34

Bag y Post - Ateb eich cwestiynau

EICH CARTREF

EICH CYSTADLEUAETH

17

Proses Drwsio DIY

36

18

Awgrymiadau Uwchgylchu a DIY gan Laura

19

Awgrymiadau garddio

Cyfle i chi ennill talebau siopa


EICH CROESO

Croeso’r golygydd LAURA MCKIBBIN

Helo bawb a chroeso

i’ch rhifyn hydref a gaeaf o Calon y Cartref. Rwyf wrth fy modd hefo natur glyd yr amser yma o’r flwyddyn, pan fydd diod boeth braf a phryd cartrefol yn eich cynhesu y tu mewn. Rwyf wrth fy modd yn gwisgo’n gynnes i fynd am dro, ond rwyf hefyd yn mwynhau cyrraedd adref ar nosweithiau tywyll ac eistedd ar y soffa wedi lapio mewn blancedi ac yn gwisgo fy sanau gwlân a gwylio ffilm. Rydym yn gwybod bod cadw’n gynnes yn y gaeaf yn gallu bod yn anodd tra bod costau byw wedi cynyddu, rydym wedi cynnwys rhai awgrymiadau y tu mewn i’ch helpu i gadw’n gynnes y gaeaf hwn. Rydym wedi cael blwyddyn arall eithriadol o brysur yma yn ClwydAlyn, ac fe fyddwn yn hoffi rhannu ychydig am yr hyn y mae ein staff anhygoel a’n preswylwyr wedi bod yn ei wneud. Rwyf hefyd wedi cynnwys ein cystadlaethau hwyliog; awgrymiadau da i’r cartref a ffyrdd o arbed arian, awgrymiadau diogelwch a chymorth ariannol. Rwy’n gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen ein cylchgrawn, ein rhifyn gwanwyn haf fydd y rhifyn nesaf.

Laura x

A oes gennych chi stori y byddech yn hoffi ei rhannu yn ein cylchgrawn preswylwyr?

Byddem wrth ein bodd yn clywed rhagor amdanoch chi neu eich cymuned. Gallai fod yn stori bersonol, awgrymiadau da neu weithgaredd gwych a gynhaliwyd. Gall fod yn rhywbeth o ychydig frawddegau, ychydig o luniau hyd at erthygl lawn y byddwn ni’n eich helpu i’w hysgrifennu. Cysylltwch os gwelwch yn dda: e-bost Laura.Mckibbin@clwydalyn.co.uk neu gallwch ffonio/ anfon neges WhatsApp ar 07880431004

#Dylanwadwch Dywedwch eich dweud! Mae gennym eisiau clywed eich barn am ein Gwasanaethau. Mae’r preswylwyr yn ganolog i bopeth a wnawn yn ClwydAlyn ac mae arnom angen i ragor ohonoch roi eich syniadau a’ch adborth er mwyn i ni ddarparu’r gwasanaeth gorau allwn ni. Mae llu o ffyrdd gwahanol i chi roi eich syniadau/adborth i ni: • • • •

Trwy neges testun Trwy e-bost Trwy alwad ffôn Trwy ddod i gyfarfodydd

Bydd enwau pawb sy’n cymryd rhan yn ein harolygon misol yn cael eu rhoi mewn raffl i ennill talebau siopa £100! Rhaid i’ch enw fod i mewn i chi ennill! Er mwyn cael gwybod rhagor gallwch fy ffonio ar 07880431004 neu anfon e-bost at influenceus@clwydalyn.co.uk neu gallwch ymuno yma www.clwydalyn.co.uk/influence-us 3


EICH NEWYDDION

DEWCH I GYFARFOD aelodau newydd y Pwyllgo ANDREW O’BRIAN Beth wnaeth i chi fod eisiau ymuno â’r Pwyllgor Preswylwyr? Roeddwn eisiau dod yn fwy gweithredol yn fy nghymuned a bod yn llais i breswylwyr ClwydAlyn i helpu eraill sydd mewn angen a rhoi cefnogaeth trwy fy ngwybodaeth a dysgu lle rwy’n gallu.

A ydych wedi bod ar unrhyw Fwrdd neu Bwyllgor o’r blaen? Roeddwn ar Fwrdd Dyrchafiadau am 8 mlynedd yn cyfweld darpar ymgeiswyr am swydd yn y lluoedd arfog.

Pa agweddau o’r rôl ydych chi’n eu mwynhau fwyaf? Rwyf yn eithaf newydd i’r swydd; ond rwy’n mwynhau dysgu am y sector tai gyda’r cyfle i addysgu fy hun amdani, cyfarfod pobl newydd a dod i adnabod ffrindiau newydd, hefyd gallu cael llais dros y preswylwyr.

A oedd unrhyw beth a wnaeth eich synnu? Nid oeddwn yn sylweddoli pa mor ddiddorol a manwl yw’r sector tai a chymaint sydd i’w ddysgu hefyd beth mae ClwydAlyn yn ei gynnig i gefnogi ei breswylwyr a’r gymuned

Fel preswyliwr beth yw’r peth pwysicaf i chi? Y peth pwysicaf i mi fel preswyliwr ClwydAlyn yw sicrwydd yn fy nhenantiaeth, amgylchedd gymunedol dda gyda pholisïau agored i’r holl breswylwyr gael llais a gwybod bod help a chefnogaeth ar gael os oes eu hangen.

Beth yw eich gobeithion a’ch uchelgais ar gyfer ClwydAlyn?

A oes unrhyw gyngor y byddech yn ei rannu hefo rhywun sy’n ystyried ymuno â’r Pwyllgor Preswylwyr yn y dyfodol? Byddwn yn cynghori unrhyw un sy’n ystyried ymuno â’r Pwyllgor Preswylwyr i ddod â meddwl agored gan fod llawer i’w ddysgu a’i ddarganfod am y sector tai yn bwysicaf oll cofio mai’r preswylwyr yw ClwydAlyn.

Dod yn aelod a werthfawrogir o’r gymuned ynghyd â dysgu sgiliau newydd a gallu eu defnyddio a rhoi cymorth pan fydd yn bosibl.

Mae’r Pwyllgor Preswylwyr wedi cael 12 mis prysur, dyma ychydig o’r gwasanaethu y maen nhw wedi gweithio arnyn nhw. Os oes gennych unrhyw gwestiynau i aelodau’r pwyllgor gallwch anfon e-bost at ResidentCommittee@clwydalyn.co.uk

4


or Preswylwyr

EICH NEWYDDION

CYFLE PWYLL GOR PRESW YLWY R TUDAL EN 33

ASHLEY KNIGHT Beth wnaeth i chi fod eisiau ymuno â’r Pwyllgor Preswylwyr? Y rheswm yr oeddwn am ymuno â’r pwyllgor preswylwyr oedd i ddysgu rhagor am beth sydd gan ClwydAlyn i’w gynnig a deall beth yw bod yn aelod o bwyllgor, i wthio fy hun i wneud rhywbeth newydd a thu hwnt i’r lle rwyf yn gyfforddus, a cheisio gwella fy hun trwy roi profiad o’r swydd wahanol hon i mi fy hun.

A ydych wedi bod ar unrhyw Fwrdd neu Bwyllgor o’r blaen? Nid wyf erioed wedi cael profiad o eistedd ar fwrdd na dod yn aelod o bwyllgor o’r blaen felly mae hyn yn her newydd a chyffrous yr wyf yn gobeithio y byddaf yn ei chyflawni hyd eithaf fy ngallu.

Pa agweddau o’r rôl ydych chi’n eu mwynhau fwyaf? Dim ond dechrau cael fy nghofrestru yn fy sedd newydd ar y pwyllgor yr ydwyf, felly nid wyf wedi cael llawer o brofiad.

Fel preswyliwr beth yw’r peth pwysicaf i chi? Nid yn unig rwyf yn breswyliwr, rwyf hefyd yn un o weithwyr ClwydAlyn. Y peth pwysicaf i mi yw cyfleoedd cyfartal, i sicrhau a helpu llais y preswylwyr i gael ei glywed ac i gyflwyno fy mhrofiadau fy hun.

Beth yw eich gobeithion a’ch uchelgais ar gyfer ClwydAlyn?

A oes unrhyw gyngor y byddech yn ei rannu hefo rhywun sy’n ystyried ymuno â’r Pwyllgor Preswylwyr yn y dyfodol? Fy nghyngor i unrhyw un sy’n edrych ar ymuno â’r pwyllgor hwn yw ewch amdani, mae’n gyfle gwych i ddysgu mwy am ochr wahanol i’r cwmni ac i gyfarfod pobl newydd.

Rwy’n gobeithio, yn y dyfodol, y byddaf yn gallu cefnogi a helpu ClwydAlyn yn y ffordd orau y gallaf a helpu’r cwmni i ddod y gorau o’r gorau a chynnig syniadau newydd.

✓ Polisi Pryderon Preswylwyr (ymddygiad gwrthgymdeithasol i breswylwyr)

✓ Taliadau Gwasanaeth

✓ Ein Haddewid

✓ Cartrefi gwag a pha mor hir nes y byddant yn cael eu hailosod

✓ Polisi Gosod Rhent

✓ Cronfa Preswylwyr (cynyddwyd i 100k)

✓ Polisi Costau Taladwy

✓ Gwasanaeth trwsio a pha mor hir y maen ei gymryd i wneud gwaith trwsio

✓ Polisi Anifeiliaid Anwes

5


EICH NEWYDDION

Y GWOBRAU CYMYDOG DA

Llongyfarchiadau i’n holl breswylwyr a enillodd wobr cymydog da, fe wnaethom dderbyn enwebiadau oedd yn ein cyffwrdd. Mae’r gwobrau yma yn dathlu’r rhai sy’n mynd y filltir ychwanegol a gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau eu cymdogion neu’r gymuned leol.

YNYS MÔN 1af Aylwin Shaw 2il Dyfrig Morris Williams 3ydd Kirsty Edwards

CONWY 1af John Kelly 2il Graham Fantom CYDRADD 3ydd Catherine Watkins / Gladys Hughes

SIR Y FFLINT 1af Susan Peers 2il Holl Breswylwyr Nant Mawr Court 3ydd Ava Davies

GWYNEDD 1af Mr Wladyslaw Solek 2il Pauline Merchant

Mae’r gwobrau’n dathlu pobl sy’n rhoi eu hamser i helpu i wella ein cymunedau ar draws Gogledd Cymru trwy eu gwneud yn gynhwysol a chroesawus.

WRECSAM 1af Eluned Plack 2il Anthony Williams a Sara Douglas 3ydd David Perkins

6

Cyflwynwyd talebau i’r enillwyr gwerth hyd at £100 (2il £75 a 3ydd £50) i ddiolch iddynt am fod yn gymdogion mor dda a mynd y filltir ychwanegol. Diolch i bawb a roddodd eu hamser i enwebu eu cymdogion, mae gennym bobl wirioneddol anhygoel yn ein cymunedau.


GYMUNED

Ni fu cymuned erioed mor bwysig, felly mae’n dda amlygu rhywfaint o’r gwaith gwych y mae ein staff a’n preswylwyr yn ei wneud yn ein cymunedau. Os hoffech chi rannu stori neu ddigwyddiad, anfonwch nhw at communications@clwydalyn.co.uk

FE WNAETHOM DDATHLU PRIDE O GWMPAS EIN GWAHANOL GYNLLUNIAU

Fe wnaeth ein staff a’r preswylwyr fwynhau cacen a dod ag ychydig o liw i’w cynlluniau. Fe wnaeth pawb gael amser gwych. Yn ClwydAlyn, rydym yn benderfynol o ddarparu amgylchedd lle gall pawb fod yn nhw eu hunain neu ddod â nhw eu hunain go iawn i’r gwaith.

7

EICH CYMUNED

O GWMPAS Y


EICH CYMUNED

ENFYSAU’R WAUN DIWRNOD HYFRYD YN LLYS Y WAUN! Roedd ein preswylwyr wrth eu boddau bod y ‘Chirk Rainbows’ wedi ymweld â nhw, gan wneud gweithgareddau a rhannu amser braf gyda’i gilydd.

TAITH GERDDED NODDEDIG

Yn ddiweddar fe wnaethom gwblhau taith gerdded 20 milltir noddedig ar gyfer yr Elusen i’r Digartref, Shelter Cymru! Fe wnaethom osod y targed o godi £1000 ond trwy’r holl roddion caredig fe wnaethom godi £2,527.

DA IAWN I BAWB

Da iawn i bawb a gymerodd ran a diolch yn fawr i chi am yr holl roddion.

CODI £2,527 8


EICH CYMUNED

GWOBRAU TPAS CYMRU Yn ein partneriaeth â Cymru Gynnes rydym wedi cael ein cydnabod yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru 2023 fel yr ail yn y categori ‘Rhaglen Gefnogi/Cynghori Preswylwyr’.

Nod y prosiect Cartrefi, Pobl, Bywydau a Chymunedau Iach yw cefnogi defnyddwyr ynni ar draws Gogledd Cymru. www.clwydalyn.co.uk/clwydalyn-and-warmwales-partnership-runner-up-in-national-awards/

DA IAW N!

DIOLCH I CHI

BANC BWYD

Diolch i’r staff preswylwyr a chontractwyr a gyfrannodd yn hael at ein Casgliad Banc Bwyd Gwyliau Haf i gefnogi teuluoedd lleol. Roedd yr ymgyrch yn rhedeg ym mis Gorffennaf i roi eitemau ar draws Gogledd Cymru ar ddechrau Awst. Diolch yn arbennig i’n Cynlluniau Gofal Ychwanegol a Chartrefi Gofal am roi lle i’r blychau casglu. Gyda’n gilydd gallwn helpu i wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau.

MAE CONNIE A LUCY YN CERDDED 100KM Cododd Connie Cooper Richards, 12 oed ac yn byw yn Sir y Fflint £100 rhyfeddol at Elusen Dementia trwy gerdded cyfanswm o 100km trwy gydol mis Hydref. Yng nghwmni ei chi, Lucy, mae hyn yn gamp drawiadol i’r ddwy gyda’r holl arian a godwyd yn mynd i’r elusen. Da iawn Connie a Lucy!

9


EICH CYMUNED

YSGOL Y FALI

Fe wnaethom dderbyn newyddion hyfryd a lluniau gan Ysgol Gymunedol y Fali ar ôl iddynt dderbyn offer yn ôl ym mis Ebrill gan Williams Homes Bala. Mae’r plant wedi mwynhau treulio amser allan a defnyddio’r offer a roddwyd i greu gardd y maen nhw’n eithriadol o falch ohoni.

WELL DONE TO ALL

10


Efallai eich bod yn cofio i ni gynnal cystadleuaeth luniau ar ein cyfryngau cymdeithasol yn gofyn i breswylwyr anfon eu hoff luniau o’r haf.

EICH CYMUNED

CYSTADLEUAETH FFOTOGRAFFIAETH 1AF

£30

Mae gennym enillwyr! Llongyfarchiadau i Nicole a enillodd y wobr gyntaf gyda’i blodau haul trawiadol mae’r 2il wobr yn mynd i Toni a anfonodd ddau lun hyfryd i mewn. Roedd tri yn gydradd 3ydd, Kirsty, Susan ac Amy. Diolch am gymryd rhan. Rydym yn gobeithio eich bod wedi mwynhau eich gwobr, taleb siopa! Ewch draw i dudalen 36 i gystadlu yn ein cystadleuaeth ffotograffiaeth nesaf.

IL

2 20 £

3 YDD £10

11


EICH CYMUNED

DIGWYDDIADAU CYMUNEDOL YR HAF Yr haf hwn fe wnaethom gynnal digwyddiadau cymunedol ar draws ein siroedd yma yng Ngogledd Cymru. Roedd y digwyddiadau yma yn gyfle gwych i gael diwrnod allan am ddim ond hefyd roeddent yn rhoi cyfle i’n preswylwyr gael gwybodaeth am unrhyw anghenion tai a chefnogaeth. Roedd staff o bob rhan o’r sefydliad ar gael i roi cefnogaeth ynghyd â sefydliadau allanol fel Cymru Gynnes, Undeb Credyd Cambria, We Mind the Gap, Heddlu Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Tân.

12


EICH CYMUNED LLONGYFARCHIADAU

i enillwyr y raffl!

Rhoddwyd enwau’r holl breswylwyr a fu yn ein dyddiau cymunedol i breswylwyr mewn raffl i ennill ipad. Dewiswyd un enillydd o bob sir. Diolch i’n partneriaid Williams Homes, DU construction a Wall Lag am roi’r iPads.

13


EICH CYMUNED

EIN DATBLYGIADAU

Y DIWEDDARAF AM Y CYNNYDD Bydd ein rhaglen ddatblygu yn darparu 1,500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025, trwy fuddsoddi £250 miliwn, gan ddod â chyfanswm y tai sydd yn ein meddiant ac yr ydym yn eu rheoli i dros 7,500.

Rydym wedi croesawu

71

o breswylwyr i’w cartrefi newydd yn ddiweddar.

DYMA’R DIWEDDARAF AM SUT Y MAE RHAI O’N DATBLYGIADAU’N DOD YN EU BLAENAU:

CYNLLUNIAU A GWBLHAWYD • Tir yn Hen Ysgol y Bont, Llangefni Y cyfan o’r 52 cartref wedi eu cwblhau • Tir yn Glasdir, Rhuthun Y cyfan o’r 63 cartref wedi eu cwblhau.

CARTREFI I’W CWBLHAU ERBYN GWANWYN 2024 • Tir ger Lôn Lwyd, Pentraeth, Ynys Môn Bydd y 23 cartref i gyd wedi eu gorffen yng ngaeaf 2024 • Tir ar Stad Bryn Glas, Ynys Môn Bydd y 12 cartref i gyd wedi eu gorffen yng ngwanwyn 2024. • Stryd Edward Henry, Y Rhyl Bydd y 13 cartref i gyd wedi eu gorffen yng ngwanwyn 2024 • Safle Modurdai, Princess Avenue, Sir y Fflint Bydd y 12 cartref i gyd wedi eu gorffen yng ngaeaf 2024. • Cynllun Byw’n Annibynnol i bobl hŷn Neuadd Maldwyn: Bydd y 66 cartref i gyd wedi eu gorffen yng ngwanwyn 2024. • Tir ger Campws Pencraig Coleg Menai Y cyfan o’r 60 cartref i fod yn barod yng ngaeaf 2024 Gallwch gael gwybodaeth am ein holl ddatblygiadau sy’n cael eu hadeiladu ar ein gwefan

clwydalyn.co.uk/our-developments

14


PRESWYLWYR YN SYMUD I MEWN

HEN YSGOL Y BONT, LLANGEFNI, YNYS MÔN Annest, symudodd i’w chartref gyda’i theulu ym mis Mai. “ Mae’n rhyddhad mawr symud i mewn a dweud y gwir. Rwy’n fam i 2 blentyn - mae’r hynaf yn 2 oed ac mae gennyf fabi 9 mis oed. Bydd byw yma yn rhoi cyfle iddyn nhw gael eu hystafell eu hunain; cyn hyn roedden ni’n cael trafferth byw yn nhŷ fy rhieni yn eu hystafell fyw ac roeddwn yn gorfod cysgu ar y soffa. Erbyn hyn mae genno' ni i gyd ein lle ein hunain, a gyda’r ysgol yn agos, mae hyd yn oed yn fwy cyfleus. Rwy’n edrych ymlaen at weld faint y gallaf ei arbed ar filiau mewn cartref effeithlon o ran ynni, a rŵan mod i’n gallu creu patrwm, fe allaf chwilio am waith rhan-amser yn yr ardal leol.”

EICH CYMUNED

Llongyfarchiadau i’n preswylwyr sydd wedi symud i’w cartrefi newydd Glasdir, Rhuthun, Sir Ddinbych, Hen Ysgol y Bont, Ynys Môn, Campws Pencraig Coleg Menai, Ynys Môn.

COLEG MENAI CAMPWS PENCRAIG, YNYS MÔN

CAMPWS PENCRAIG COLEG MENAI, YNYS MÔN

Symudodd Sue i’w chartref gyda’i theulu ym mis Awst.

Symudodd Patricia ac Abdulsalam i’w cartref newydd fis Gorffennaf.

“ Allai ddim credu ein bod ni’n symud i mewn heddiw. Mae hyn yn mynd i wneud gwahaniaeth rhyfeddol i ni! Ryden ni wedi bod yn aros hefo fy mam ers amser, mi fy hun, 3 o blant, ci a fy mam mewn tŷ 3 ystafell wely felly mi fydd hyn mor wahanol! Rwyf yn gwirioneddol edrych ymlaen at allu bod yn y gegin hefo’n gilydd wrth y bwrdd... Mae’r tŷ yn hyfryd, effeithlon o ran ynni sydd y ffordd ymlaen rŵan, rwy’n siŵr y bydd yn ein helpu, nid yn unig yn ariannol ond o ran ein hiechyd a’n lles hefyd. Rydym wrth ein bodd hefo fo ac yn edrych ymlaen gymaint at wneud hwn yn gartref i ni!”

“ Rydym wedi cyffroi yn fawr am symud i’n cartref newydd, â’n babi newydd yn cyrraedd, allai o ddim digwydd ar amser gwell. Fe allwn ni setlo rŵan a chael rhywle lle gallwn ni fod hefo’n gilydd a pheidio gorfod poeni. Bydd cael cartref effeithlon o ran ynni o help mawr, fel cwpl ifanc newydd briodi â babi ifanc, bydd unrhyw arbedion ariannol y gallwn eu gwneud yn gwneud gwahaniaeth.”

15


EICH CYMUNED

DIDDORDEB MEWN GYRFA YN Y MAES ADEILADU?

Mae ClwydAlyn a’n contractwyr yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi pobl sy’n byw yn y gymuned i gael gwaith, hyfforddiant a phrentisiaethau. Os oes gennych ddiddordeb mewn profiad gwaith, lleoliad hyfforddi neu waith / prentisiaeth, mewn amrywiaeth mawr o grefftau adeiladu, cysylltwch â’n contractwyr cyfredol:

CYSYLLTU POBL GYDA CYFLEON TAI CONNECTING PEOPLE WITH HOUSING OPPORTUNITIES

• DU Construction sy’n gweithio gyda ni ar ddau safle ar

Ynys Môn. info@duconstructionltd.co.uk • Williams Homes sy’n gweithio gyda ni ar ddau safle ar Ynys Môn. info@williams-homes.co.uk • GMC Construction sy’n gweithio gyda ni ar ein safleoedd yn Sir y Fflint a Wrecsam. neilgoode@gmc-group.com

A YDYCH YN GYMWYS? • Rydych yn 18 oed neu hŷn • Yn gweithio ag incwm gros yr aelwyd yn flynyddol rhwng £16,000 a £45,000 (gall gynnwys budd-daliadau) • Yn brynwr tro cyntaf neu eich cartref presennol yn anaddas ac nid yw’n bodloni anghenion eich teulu • Nid ydych yn gallu fforddio rhentu ar y farchnad agored a / neu brynu eiddo sydd addas i’ch anghenion

NEUADD MALDWYN

BYW’N ANNIBYNNOL I BOBL HŶN

Mae ein fflat arddangos yn Neuadd Maldwyn ar gael i’w weld erbyn hyn (trwy apwyntiad yn unig). Cynhaliwyd yr ymweliadau cyntaf ddechrau Hydref. Roedd y cyfle i’w gweld ar y dechrau i unrhyw un oedd wedi mynegi diddordeb yn y cynllun neu wedi llenwi ffurflen gais. Mae’r fflat arddangos ar agor i bawb ei weld erbyn hyn! Bydd Neuadd Maldwyn yn darparu 66 o fflatiau 1 a 2 y stafell wely hunangynhwysol ar rent, i unigolion 60 oed a hŷn gydag angen gofal neu gefnogaeth wedi ei asesu. Rhoddir blaenoriaeth i breswylwyr ardal Powys neu sydd â chysylltiadau clos ag ardal Powys. Bydd y cynllun yn cynnwys cyfleusterau cymunedol ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau, bwyty, man parcio ar y safle ac ardaloedd wedi eu tirlunio. Er mwyn gwneud cais i fyw yn y cynllun rhyfeddol hwn, ewch i:

clwydalyn.co.uk/neuadd-maldwyn neu dewch i weld y fflat arddangos ffoniwch:

0800 183 5757 16

SUT I GOFRESTRU: Cofrestrwch gyda Tai Teg trwy: • Fynd i www.taiteg.org.uk • Clicio ar ‘cofrestru gyda Tai Teg’ • Llenwi’r ffurflen gais • Clicio ar ‘cyflwyno cais’ • Bydd Tai Teg yn asesu eich cais • Os byddwch yn bodloni’r meini prawf a’ch bod yn cael eich cymeradwyo gallwch wedyn ymgeisio am eiddo

Gwefan: www.taiteg.org.uk Ffôn: 03456 015 605 E-bost: info@taiteg.org.uk


EICH CARTREF

Y BROSES DRWSIO DIY

A oeddech yn gwybod, os oes gennych fân waith trwsio a’ch bod yn gallu ei drwsio eich hun, y gallwn ni ddarparu’r deunyddiau? Os oes gennych waith trwsio bach ac y byddech yn hoffi cael gwybod rhagor, cysylltwch â ni i drafod. E-bost: help@clwydalyn.co.uk neu ffoniwch 0800 183 5757.

Na Os byddwch chi yn dweud ‘na’ byddwn yn creu ‘archeb gwaith’ a byddwch yn cael eich ychwanegu at amserlen waith y Tîm Cynnal a Chadw.

Byddwn ni yn gofyn Byddwn ni yn gofyn beth yw’r broblem ac yn ceisio ei datrys dros y ffôn. Os na fydd cymorth dros y ffôn yn llwyddiannus a’i bod yn anodd trefnu apwyntiad gyda’r tîm Cynnal a Chadw, yna fe fyddwn yn gofyn a hoffech chi wneud y gwaith eich hun?

Hoffwn Os byddwch chi yn dweud ‘hoffwn’ byddwn yn creu ‘archeb gwaith eich hun’ i chi gwblhau’r gwaith.

Byddwch naill ai’n casglu’r deunyddiau neu byddant yn cael eu dosbarthu ar y dyddiad y cytunwyd arno, a byddwch yn gwneud y dasg eich hun.

Deunyddiau wedi cyrraedd

Bydd eich deunyddiau’n cael eu harchebu Bydd arnom angen gwybod pa ddeunyddiau fydd arnoch eu hangen, ac fe allwn ofyn i chi am luniau o’r gwaith trwsio.

Ewch i drwsio Hwre! Rŵan bod y deunyddiau wedi cyrraedd gallwch wneud y gwaith trwsio yn eich amser eich hun.

Byddwn wedyn yn archebu’r deunyddiau y gwnaethoch ofyn amdanynt ac yn cytuno hefo chi os byddwch chi’n eu casglu neu y byddech yn hoffi iddynt gael eu dosbarthu i’ch cyfeiriad chi.

→ Llongyfarchiadau! Rydych wedi gwneud y gwaith trwsio yn llwyddiannus eich hun. Rydych wedi curo’r ciw ac arbed amser.

17


EICH CARTREF

UWCHGYLCHU AC AWGRYMIADAU DIY

GAN LAURA MCKIBBIN

Ym mhob rhifyn o’r cylchgrawn, rwy’n hoffi cynnwys ychydig o waith uwchgylchu, i ddangos y gall llanast un unigolyn fod yn drysor i rywun arall. Yn y rhifyn hwn dwi’n teimlo fy mod i wedi dod o hud i drysor gwirioneddol. Fe wnes i ddod o hyd i’r ddwy stôl goch yma ar ben sgip pan oedd tŷ ar ein stryd yn cael ei glirio, fe wnes i ofyn cyn eu cymryd ac roedd fy nghymdogion yn falch fy mod yn eu cymryd oddi ar eu dwylo. Darllenwch y cyfarwyddiadau isod i weld sut y gwnes i drawsnewid y stolion bar yma.

CAM 1 Glanhewch y dodrefn yr ydych wedi dewis eu hailgylchu, i’r stolion yma, fe wnes i eu glanhau gydag antiseptig ac wedyn eu rhwbio gyda sebon siwgr.

CAM 3

OS YDYCH YN MWYNHAU UWCHGYLCHU CYMAINT Â FI, FE FYDDWN WRTH FY MODD YN GWELD EICH PROSIECTAU. Anfonwch nhw ataf Laura.Mckibbin@ClwydAlyn.co.uk neu anfonwch eich delwedd ar WhatsApp ar 07880431004.

EICH CARTREF GALLECH ENNILL £30 O DALEBAU SIOPA O’CH DEWIS CHI! 18

Fe wnes yn siŵr bod y dodrefn wedi eu paratoi i’w paentio, fe wnes i hyn trwy lenwi unrhyw graciau â llenwr pren, gan roi papur tywod dros yr arwyneb i sicrhau eu bod yn llyfn ac yn barod i’w paentio. (Paratoi yw’r allwedd i gael gorffeniad da)

ENILLW CH DALEB AU SIOPA

CAM 2 Fe wnes i ddefnyddio chwistrell dodrefn am fy mod am gael gorffeniad meddal neis, roedd llawer o rychau ar strwythur y stôl felly roeddwn yn teimlo y byddai hyn yn gyflym ac yn hawdd i’w wneud.

CAM 4 Ar ôl i’r paent sychu, fe wnes i eu hychwanegu at fy ynys yn y gegin, a dwi wrth fy modd hefo nhw.


EICH CARTREF

TYFU EICH GARDD

am well yfory

Wyddech chi y gallwch chi ddal i blannu a thyfu llysiau a phlanhigion yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf. Dyma rai o’r llysiau sy’n gallu ymdopi â thywydd oerach; rhuddygl, tatws, garlleg, saladau, nionod, letys, sbigoglys, moron a phys. Y planhigion a’r blodau wneith ddal i flodeuo trwy fisoedd y gaeaf yw; coronilla, pansies, hylithr, camellia a saracococca. Bydd y planhigion a’r blodau hyn yn dod â lliw ac yn sionci eich gardd trwy fisoedd y gaeaf.

AU D A H M A M DDI

Roedd ein preswylwyr yn Nant Mawr Court yn lwcus o gael gwobr pecyn gardd Cadwch Gymru’n Daclus. Cafodd y preswylwyr gymaint o hwyl ac maen nhw’n edrych ymlaen at gael gweld popeth yn tyfu ac wedyn eu bwyta gan y preswylwyr a’r staff y flwyddyn nesaf. Hoffem ddiolch i Wendy o Cadwch Gymru’n Daclus am ei help. Os hoffech chi gael gwybod rhagor am Cadwch Gymru’n Daclus ewch draw i’w gwefan

keepwalestidy.cymru

Os hoffech chi sionci eich gardd, cysylltwch â #Dylanwadwch i gael eich pecyn o hadau am ddim. Gadewch i ni wybod os hoffech chi

lysiau, ffrwythau, hadau plannu cyffredinol, gall hyn fod ar gyfer y tu mewn i’r tŷ neu yn yr awyr agored. Anfonwch eich cais trwy e-bost at InfluenceUs@clwydAlyn.co.uk neu ffoniwch 07880431004

19


EICH DIOGELWCH

MAE CAETHWASIAETH FODERN

yn drosedd gudd, gall unrhyw un gael ei dargedu, ond gall rhai pobl fod mewn mwy o risg.

Mae Caethwasiaeth Fodern yn cynnwys • Masnachu Mewn Pobl - mae

dioddefwyr yn cael eu symud rhwng gwledydd neu o gwmpas gwlad er mwyn cam-fanteisio arnyn nhw.

• Llafur Trwy Orfodaeth – achos

diweddar yn ymwneud â dyn oedd yn byw tu allan i’r Deyrnas Unedig a wnaeth gais am swydd ac a gludwyd i Dde Cymru a’i orfodi i weithio a rhoi ei gyflog a’i basport.

• Llinellau Sirol - Tyfu, dosbarthu neu

werthu cyffuriau. Mae Llinellau Sirol yn weithgaredd troseddol sy’n symud cyffuriau anghyfreithlon i un neu fwy o ardaloedd yn y Deyrnas Unedig, maent yn debygol o ddefnyddio pobl ifanc a bregus i gludo, cadw a gwerthu’r cyffuriau.

• Cam-fanteisio ar waith -

adroddiadau diweddar yn y wasg am fyfyrwyr o India y cam-fanteisiwyd arnyn nhw mewn Cartrefi Gofal yng Ngogledd Cymru a’u gorfodi i fyw mewn amodau erchyll, gyda’r pryderon yn cael eu codi gan gydweithwyr.

• Cam-fanteisio Rhywiol – achosion

llys yn collfarnu gangiau, enghraifft o hyn fyddai’r achosion yn Rochdale a Telford lle’r oedd cam-fanteisio rhywiol ar ferched ifanc.

Arwyddion o Gaethwasiaeth Fodern Ymddygiad - encilgar, ofnus, ddim yn barod i siarad.

Ymddangosiad – blêr, heb ddigon o fwyd, ychydig o eiddo, pryderon iechyd. Gwaith - dillad anaddas i’r gwaith, oriau hir, ychydig neu ddim tâl. Ofn awdurdodau - ddim eisiau siarad â’r heddlu na’r awdurdodau. Caethiwed dyled – yn ddyledus i, neu yn ddibynnol ar, rywun arall. Llety - gorlawn, cynnal a chadw’n wael, ffenestri wedi eu duo. Diffyg rheolaeth - dim dogfennau adnabod, dim mynediad i gyfrif banc, cludiant i’r gwaith yn cael ei ddarparu. Diffyg rhyddid – yn methu symud yn rhydd, amharod neu rhy ofnus i adael. Plant - ar eu pen eu hunain, dim perthynas â’r oedolyn sy’n gofalu, dillad/ymddygiad anaddas 20


EICH DIOGELWCH

Beth yw ein cyfrifoldebau? Bydd ein Timau Tai a Byw â Chefnogaeth yn gweithio gyda’r Heddlu a’r Timau Diogelu Awdurdod Lleol pan fydd achosion yn codi yn ein cartrefi. Rydym yn rhoi diweddariad Diogelu blynyddol i’r Bwrdd sy’n rhoi golwg gyffredinol o’r math o broblemau Caethwasiaeth Fodern a Llinellau Sirol yr ydym wedi ymateb iddynt yn ystod y flwyddyn.

Mae’n rhaid i ni hefyd: gynhyrchu datganiad yn flynyddol sy’n cael ei gadw ar ein gwefan nodi’r camau yr ydym yn eu cymryd i sicrhau nad yw Caethwasiaeth Fodern yn digwydd yn ein gweithlu nag yn ein cadwyn gyflenwi, gan sicrhau bod staff yn deall am beth i chwilio amdano.

Beth yw eich cyfrifoldebau? Os oes gennych bryderon, rhaid i chi roi adroddiad amdanynt, mae nifer o ffyrdd y gallwch gael cymorth i roi adroddiad am eich pryderon.

Siaradwch â’ch Swyddog Tai, Uwch Swyddog Prosiect, Warden, Rheolwr Gofal Ychwanegol neu ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0800 1835757 Cysylltwch â Llinell Gymorth Llywodraeth Cymru (sydd hefyd yn rhoi cymorth pan fydd Cam-drin Domestig)

Llinell Gymorth Am Ddim Byw’n Ddi-ofn

0808 80 10 800

ffoniwch • testun • sgwrs fyw • ebost Rhagor o Wybodaeth: Caethwasiaeth | LLYW.CYMRU Caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl - Yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol

www.unseenuk.org Yng Nghymru yn ystod 2021 - cofnodwyd 479 o gyfeiriadau o ddioddefwyr caethwasiaeth posibl. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 25% ers 2020. 21


EICH DIOGELWCH

EICH DIOGELWCH

LLWYDNI TAMPRWYD AC ANWEDD Mae gwahanol fathau o damprwydd a all effeithio ar eich cartref. Roeddem am eich helpu i’w hadnabod a rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os oes gennych broblem.

BETH SY’N EI ACHOSI YN FY NGHARTREF? Diffyg cylchrediad aer yng nghorneli ystafelloedd Aer wedi ei gaethiwo tu ôl i ddodrefn neu lenni Aer cynnes yn anweddu ar ffenestri neu waliau oer Insiwleiddiad nenfwd wedi ei osod yn wael Insiwleiddiad ceudod waliau yn suddo Pibellau yn gollwng

BETH ALLWN NI EI WNEUD AM Y PETH?

Sut allaf fi ei atal? Mae atal llwydni smotyn du yn ymwneud â deall y 3 elfen allweddol yma; LLEITHDER, AWYRU A THYMHEREDD

Am ragor o wybodaeth am lwydni, tamprwydd ac anwedd, edrychwch ar ein llyfryn y gwnaethom ei greu gyda rhai o’n preswylwyr o’r Pwyllgor Preswylwyr a #Dylanwadwch. www.clwydalyn. co.uk/damp-andmould/

Gormodedd o leithder yw prif achos llwydni gan ei fod yn gadael i’r tyfiant dyfu. O goginio i ferwi tegell i olchi a chael cawod, mae llawer o weithgareddau o ddydd i ddydd yn rhyddhau lleithder i’ch cartref. Mae’n bwysig i’r lleithder yma beidio â chael ei gau yn y cartref gan y gall gyfrannu at anwedd a thyfiant llwydni. Dyna pam ei bod yn bwysig awyru eich cartref pryd bynnag y mae’n bosibl. Mae lleithder yn cael ei dynnu at arwynebau oer ac ardaloedd oer. Os yw eich cartref neu rannau penodol ohono yn cael eu gadael yn oer, maent yn fwy tebygol o weld llwydni.

Camau i’w cymryd i leihau anwedd a thyfiant llwydni. Gall dilyn y camau hyn helpu i leihau’r anwedd a’r llwydni sy’n tyfu yn eich cartref.

Cynhyrchu llai o leithder.

Mae gweithgareddau dyddiol arferol yn cynhyrchu llawer o leithder, i leihau hyn: Os oes raid i chi sychu eich dillad dan do, sychwch nhw ar hors yn yr ystafell ymolchi gyda’r drws ar gau a naill ai ffan awyru ymlaen neu ffenestr ar agor. Gorchuddiwch sosbenni wrth goginio a throi i lawr i fud ferwi ar ôl berwi. Peidiwch â gadael i degell ferwi yn hir (mae’n arbed ynni hefyd)! Rhedwch y dŵr oer i’r bath cyn y dŵr poeth. Peidiwch â defnyddio gwresogyddion paraffin na nwy hylif petroliwm (mewn potel) gan eu bod yn cynhyrchu llawer iawn o anwedd dŵr. Gofalwch bod yr aer oddi wrth sychwr dillad yn cael ei yrru allan (byth i’r cartref).

Cliriwch leithder gormodol. Gofalwch sychu ffenestri a sil ffenestri bob bore os bydd dŵr wedi ffurfio. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn yr ystafell wely, ystafell ymolchi a’r gegin. Nid yw dim ond agor y ffenestr yn ddigon gan y bydd y dŵr yn anweddu ac yn cyddwyso yn ôl. Agorwch ffenestri a throi’r ffan awyru ymlaen cyn rhedeg bath a defnyddio’r gawod. Agorwch y llenni i gynyddu’r awyru ac i olau a gwres naturiol ddod i mewn. Cliriwch sil y ffenestri. Gadewch le gwag rhwng cefn dodrefn a waliau oer. Rhowch ddodrefn yn erbyn waliau mewnol yn unig os yw’n bosibl. Awyrwch gypyrddau a chypyrddau dillad ac osgoi eu gorlenwi gan fod hyn yn atal aer rhag cylchredeg. Peidiwch ag atal simneiau a ffliwiau yn llwyr, gosodwch fent awyru iddynt gael eu hawyru’n gyson.

GWNEWCH YN SIŴR EICH BOD YN ANFON CYMAINT O FANYLION AG SY’N BOSIBL, GAN GYNNWYS SUT I GYSYLLTU Â CHI ER MWYN I NI FEDRU TREFNU I GAEL MYNEDIAD I’R EIDDO. 22


EICH DIOGELWCH

RHOWCH ADRODDIAD AM Y PETH!

Mae’n bwysig i ni i gyd gymryd camau i leihau anwedd yn ein cartrefi. Os byddwch yn sylwi ar rywbeth sydd angen ei drwsio neu os byddwch yn cael trafferth gyda thamprwydd yn eich cartref yna gadewch i ni wybod cyn gynted ag sy’n bosibl.

GALLWCH ROI ADRODDIAD AM WAITH TRWSIO TRWY: Anfon e-bost at y Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn help@clwydalyn.co.uk gyda’r math o damprwydd yr ydych yn bryderus amdano ynghyd â lluniau (os yn bosibl), eich cyfeiriad a’ch manylion cyswllt.

Defnyddio FyClwydAlyn ein Porth Preswylwyr - www. myclwydalyn.co.uk neu trwy ein ffurflen ar-lein - www. clwydalyn.co.uk/ formbuilder/ report-repair/ view/

Gallwch ofyn am alwad yn ôl yn ystod oriau swyddfa a byddwn yn eich galw yn ôl heb unrhyw gostau i chi. Siarad â’ch Swyddog Tai.

Ffonio’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar y rhif RHADFFÔN: 0800 183 5757

GALLWCH CHI STOPIO’R BLOCIO Oeddech chi’n gwybod mai cadachau gwlyb ‘wet wipes’ sy’n achosi i’r rhan fwyaf o bibelli flocio? Mae arnom ni angen eich help hefyd! Gwnewch y peth iawn a thaflu’r holl gadachau, bydiau cotwm, cynnyrch merched a phopeth heblaw papur toiled i’r bin. Gallwch helpu hefyd trwy gofio gwaredu’r holl fraster, olew ac irad yn gyfrifol yn y bin yn hytrach na’u tywallt i lawr y sinc. Os byddwch yn cael trafferth gyda phibell wedi blocio, mae gan Dŵr Cymru lawer o wybodaeth a chyngor ar eu gwefan www.dwrcymru.com/en/stop-the-block Os na allwch ddatrys y broblem eich hun, gallwch ffonio ein Tîm Canolfan Gyswllt ar 0800 1835757 neu cofrestrwch eich gwaith trwsio ar y Porth Preswylwyr www.myclwydalyn.co.uk

23


RISGIAU TÂN EICH DIOGELWCH

BATRIS LITHIWM-ION

Mae diogelwch ein staff a’n preswylwyr yn brif flaenoriaeth i ni yma yn ClwydAlyn, ac rydym am sicrhau ein bod yn cynyddu ymwybyddiaeth o risgiau diogelwch yn y cartref. Mae’r risg sy’n gysylltiedig â batris lithiwm yn ddifrifol, gall y rhain achosi niwed neu farwolaeth ynghyd â dinistrio cartrefi oherwydd tân – mae pobl mewn perygl neilltuol os yw’r batris yma yn cael eu gwefru dros nos tra byddan nhw’n cysgu. Gwelir batris lithiwm-ion mewn pob math o offer trydanol domestig gan gynnwys e-sigarets, ffonau symudol, tabledi, gliniaduron, banciau pŵer, e-sgwteri, sgwteri symudedd a beiciau trydan. Trwy ddilyn rhai awgrymiadau syml, gallwch leihau’r risg y bydd hyn yn digwydd i chi.

AWGRYMIADAU DIOGELWCH I GARTREFI

✓ COFIWCH Ddefnyddio cynnyrch trydanol gyda’r marc UKCA neu CE.

Gwefrwch ddyfeisiau yn ystod y dydd pan fydd cyfle i weld diffygion yn gynnar.

Defnyddio’r gwefrwr cywir a ddyluniwyd ar gyfer y ddyfais/batri.

Gwefrwch mewn ardal lle mae larwm mwg awtomatig ar y nenfwd.

Wirio’r ddyfais yn gyson, plygiau’r gwefrwr a’r ceblau am arwyddion o niwed a gorgynhesu.

Os gwelwch chi ddyfais neu fatri yn dechrau gorgynhesu, symudwch o i le diogel yn yr awyr agored.

Taflwch blygiau a cheblau gwefrwyr ar unwaith os gwelwch bod difrod o unrhyw fath iddyn nhw neu eu bod newid lliw neu ymddangosiad. Gwefrwch ddyfeisiau mewn mannau wedi eu hawyru’n dda, heb ddeunyddiau a allai fynd ar dân yn rhwydd e.e. arwyneb gwaith cegin heb unrhyw gypyrddau uwch ei ben.

24

I ddiffodd batri lithiwm os bydd yn dechrau mygu, oerwch o’n gyflym gyda dŵr. Er enghraifft, gollyngwch fatri bach i gwpan o ddŵr. Gwiriwch fatris yn gyson am chwydd, crac neu newidiadau yn eu siâp. Os gwelwch chi rai, taflwch y batri.


Dod i’ch Adnabod Chi Yn fuan iawn byddwn yn gofyn i’n holl breswylwyr lenwi neu ddiweddaru eu manylion ar ein ffurflen ‘Dod i’ch Adnabod Chi’ am yr amrywiaeth o resymau a nodir isod. Mae’n bwysig iawn i ni ein bod yn adnabod ein cymunedau’n dda fel ein bod yn gallu darparu’r gwasanaethau gorau un i bawb.

Cynllunio ymlaen llaw Mae eich data yn ein helpu i wneud penderfyniadau ar ble i gyfeirio ein cynlluniau, mentrau a gwasanaethau. Trwy gael gwybodaeth gyfredol am ein preswylwyr, gallwn sicrhau ein bod yn teilwrio ein gwasanaethau ac yn sicrhau bod ein cynlluniau yn cael effaith ystyrlon yn y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt.

Adnabod ein cymunedau

Rydym am eich adnabod chi! Rydym am sicrhau bod ein staff yn cynrychioli’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym am allu cynllunio digwyddiadau, cynnig cefnogaeth, rhoi cyngor a chyfarwyddyd sy’n addas ac o gymorth. Rydym am wneud gwahaniaeth.

Pan fydd ein preswylwyr yn rhannu eu gwybodaeth, mae’n ein helpu i gael ein gwasanaethau’n iawn. Efallai nad Cymraeg neu Saesneg yw eich iaith gyntaf ac y byddai’n well gennych gyfathrebu mewn iaith wahanol neu bod gennych anabledd ac y byddech yn cael budd o gefnogaeth ychwanegol y gallwn ni ei theilwrio i chi.

Tegwch Mae arnom angen sicrhau ein bod yn deg yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau i bawb, a’n bod yn cael gwared ar unrhyw rwystrau y gall ein preswylwyr eu hwynebu wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.

Cyfrinachol

Mwy cynhwysol Rydym am barhau i adeiladu diwylliant sydd yn hollol gynhwysol i’n preswylwyr ac aelodau o staff. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a chefnogi pobl mewn modd sy’n gweithio iddyn nhw.

Cro eso!

Cael gwasanaethau yn iawn

Pan fyddwch yn rhannu eich gwybodaeth bersonol, rydym yn eich sicrhau y byddwn yn ei gadw yn gyfrinachol ac na fyddwn fyth yn trin unrhyw unigolyn yn wahanol. Dim ond i sicrhau eich bod chi fel person gwyn/du/hŷn/iau/syth/ hoyw/dyn/menyw/anabl yn cael darpariaeth briodol y bydd eich data yn cael ei gadw. Mae cyfreithiau caeth iawn i sicrhau ein bod yn diogelu eich manylion ac yn ymdrin â nhw yn gyfrifol.

Gallwch ddweud wrthym am feindio ein busnes. Os yw’n well gennych beidio â rhannu

eich gwybodaeth bersonol gyda ni, yna gallwch ddewis peidio â chymryd rhan. Ond mae angen i chi ddal i lenwi’r ffurflen dod i’ch adnabod a dweud wrthym y byddai’n well gennych beidio â dweud. 25


EICH DIOGELWCH

Anifeiliaid Anwes yn ClwydAlyn

Perchenogaeth cŵn cyfrifol yn ClwydAlyn (polisi anifeiliaid anwes) Yn ClwydAlyn, rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd byw diogel, croesawus a chytûn i’n holl breswylwyr, gan gynnwys y rhai ag anifeiliaid anwes, cŵn yn enwedig. Gan gadw hyn mewn cof, hoffem eich atgoffa o’n canllawiau anifeiliaid anwes a phwysigrwydd bod yn gyfrifol os ydych yn berchen ar gi. Sawl anifail anwes gaf i ei gadw?

Mae ClwydAlyn yn caniatáu i breswylwyr gadw anifeiliaid anwes, gan gynnwys cŵn, yn eu cartrefi. Ond, er mwyn sicrhau bod yr holl breswylwyr yn gyfforddus a diogel, rydym yn garedig yn gofyn i bob aelwyd gyfyngu’r nifer i un ci. Mewn rhai o’n heiddo nid yw anifeiliaid anwes yn cael eu caniatáu gan nad yw’r llety’n addas, gofynnwch i’ch Swyddog Tai os nad ydych yn siŵr a oes gennych hawl i gael anifail anwes yn eich eiddo, dylai’r manylion fod yn eich cytundeb tenantiaeth. Os byddwch yn dymuno cael mwy nag un anifail anwes, rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan ClwydAlyn i wneud hynny.

26

Rhoi gwybod i ClwydAlyn:

Cyn dod ag anifail anwes newydd i’ch cartref neu os oes gennych fwy nag un ci yn barod, rhowch wybod i’ch Swyddog Tai yn ddi-oed. Rhaid llenwi ffurflen fer, syml i roi’r wybodaeth hanfodol am eich anifail anwes. Mae’r cam yma yn ein helpu i gadw cofnod cywir o’r mathau a’r nifer o anifeiliaid anwes yn ein heiddo, gan adael i ni eich cynorthwyo’n well a chadw at ein polisi anifeiliaid anwes. Mae hefyd yn gadael i ni ychwanegu’r wybodaeth hon at ffeil eich eiddo i atgoffa ein staff y dylent ofyn i breswylwyr eu rhoi mewn ardal ddiogel pan fyddant yn ymweld.


Staff yn ymweld â’ch eiddo:

Bod yn berchennog cyfrifol ar gi:

Rydym yn annog pob perchennog ci i fod yn berchenogion cyfrifol. Mae hyn yn golygu rhoi gofal, hyfforddiant a chymdeithasu priodol i’r ci. Gwnewch yn siŵr bod sglodyn yn cael ei osod yn y ci a’i fod wedi ei frechu gydag yswiriant yn ei le a chymrwch gamau i atal difrod neu amharu ar eich cymdogion.

Baw cŵn:

Mae bod yn berchennog cyfrifol hefyd yn golygu glanhau ar ôl eich ci yn y cartref, yn eich gardd ac mewn ardaloedd cymunedol a chyhoeddus. Ewch â bagiau hefo chi bob amser a rhowch y baw yn y biniau baw cŵn sy’n cael eu darparu. Cofiwch nad gofyn cyfreithiol yn unig yw clirio ar ôl eich ci; mae’n gyfrifoldeb cymdeithasol sy’n cyfrannu at les ein staff a’n preswylwyr.

Rhoi adroddiad am ddigwyddiadau:

Pan fydd unrhyw ddigwyddiadau yn ymwneud â chŵn yn ClwydAlyn, fel brathu neu gŵn yn ymddwyn yn ymosodol neu allan o reolaeth, rydym yn eich annog i roi adroddiad ar unwaith i’ch Swyddog Tai. Trwy gael adroddiad prydlon rydym yn gallu ymdrin â’r pryderon yn gyflym a chadw amgylchedd byw diogel i’r holl breswylwyr.

Parchwch eich cymdogion:

Mae’n bwysig cofio nad yw pob preswyliwr yn berchen ar anifail anwes neu bod rhai yn fwy cyfforddus na’i gilydd o gwmpas anifeiliaid. Parchwch eich cymdogion trwy gadw eich ci ar dennyn mewn ardaloedd cymunedol a chadw problemau sŵn cyn lleied â phosibl. Trwy ddilyn y canllawiau yma rydych yn creu amgylchedd byw sy’n rhoi mwynhad i bawb. Nid yn unig mae bod yn berchen cyfrifol ar gi o fudd i’ch aelwyd chi mae felly i’r gymuned gyfan hefyd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill neu bod arnoch angen gwybodaeth ychwanegol am ein Polisi Anifeiliaid Anwes, mae croeso i chi gysylltu â’ch Swyddog Tai. Rydym yma i’ch helpu yn unrhyw ffordd y gallwn ni.

MANTEISION CAEL ANIFAIL ANWES cynyddu eich gweithgaredd corfforol bod yn gwmni lleihau pryder ychwanegu patrwm i’ch diwrnod help i gyfarfod pobl newydd cynyddu hyder

27

EICH DIOGELWCH

Cyn i staff ClwydAlyn gyrraedd, rhowch eich ci mewn ardal ddiogel a dynodedig yn eich cartref. Mae hyn yn lleihau’r risg y bydd eich ci yn dianc, yn amharu ar waith ein staff, neu yn profi straen ddiangen.


EICH DIOGELWCH

Awgrymiadau Diogelwch yn y Cartref y Nadolig Hwn 1. Archwiliwch oleuadau Nadolig yn ofalus bob blwyddyn a thaflu unrhyw geblau blêr neu gysylltiadau llac. 2. Gwiriwch bod eich addurniadau trydanol yn cydymffurfio â’r Safon Prydeinig. 3. Gofalwch ddiffodd goleuadau Nadolig wrth adael y tŷ yn wag ac wrth fynd i’r gwely. 4. Peidiwch byth â gorlwytho socedi trydanol. 5. Peidiwch byth â chysylltu cebl ymestyn gyda chebl ymestyn arall. 6. Wrth hongian goleuadau y tu allan defnyddiwch dâp inswleiddio neu glipiau plastig yn hytrach na hoelion metel neu daciau i’w cadw yn eu lle. 7. Defnyddio ysgol neu risiau i osod goleuadau? Dewiswch yr ysgol gywir ar gyfer y gwaith a hefyd gofalwch bod rhywun wrth droed yr ysgol pan fydd yn cael ei defnyddio. 8. Profwch eich larymau mwg yn fisol i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio’n iawn. 9. Dylai pob cannwyll gael ei gosod ar rywbeth sy’n atal gwres. Cadwch ganhwyllau allan o gyrraedd plant ac anifeiliaid anwes. Peidiwch ag anghofio diffodd canhwyllau pan fyddwch yn gadael yr ystafell neu’n mynd i gysgu. 10. Peidiwch byth â gadael bwyd sy’n coginio heb rywun yn gofalu amdano. 11. Rhowch amser i weld bod perthnasau a chymdogion mewn oed yn iawn y Nadolig hwn i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel.

MWYNHEWCH NADOLIG LLAWEN A DIOGEL GAN YR HOLL STAFF YN CLWYDALYN 28


EICH CIPOLWG AR...

Digon i

4

Toad in the hole

1. Cynheswch y popty i 180’C

Toad in the hole - rysáit yr ydym ni i gyd wedi clywed amdano ond nad yw’r rhan fwyaf ohonom fyth yn ei wneud. Peidiwch â phoeni, gan ein bod ni wedi gwneud y rysáit mor syml â phosibl. Un y mae’r plant yn siŵr o’i hoffi.

4. Rhowch yng nghanol y popty a’i goginio am 15 munud neu nes bydd y selsig wedi troi yn frown euraidd. Er mwyn sicrhau eu bod wedi brownio drostynt, ysgwyddwch y tun ychydig o weithiau trwy gydol yr amser coginio i droi’r selsig, gan sicrhau eu bod yn coginio’n wastad.

CYNHWYSION:

6-8 selsigen 1 llwy fwrdd olew blodau haul 140g blawd plaen 2 wy 175ml o laeth hanner sgim Halen

OFFER Jwg mesur Clorian Chwisg Tun rhostio Bowlen gymysgu

DEWCH I GOGINIO! 2. Pwyswch y blawd a mesur y llaeth.

3. Paratowch y tun rhostio a thaflu eich selsig i gyd i mewn. 'Sgeintiwch yr olew ac ysgwyd y tun, gan ofalu bod y selsig wedi eu gorchuddio’n dda.

5. Tra bydd y selsig yn coginio, mae’n bryd gwneud y cytew. Tywalltwch y blawd wedi ei bwyso i’r fowlen gymysgu gyda phinsied o halen. Gwnewch bant yng nghanol y blawd gyda’ch bysedd a chracio’r ddau wy yn ofalus i’r pant, gan fod yn ofalus i beidio â gollwng plisgyn i mewn iddo. Cyfunwch yr wyau a’r blawd gan ddefnyddio chwisg yn gytew tew 6. Ychwanegwch y llaeth yn araf gan ddal i droi’r chwisg nes bydd y gymysgedd wedi cyfuno’n dda a gadael iddo sefyll tra bydd y selsig yn gorffen brownio. 7. Ar ôl i’r selsig frownio tynnwch nhw o’r popty. Tywalltwch y cytew yn ofalus dros y selsig, gan ofalu bod pob un wedi ei gorchuddio â’r gymysgedd 8. Dychwelwch y tun rhostio i’r popty ar y silff uchaf a choginio am 20-25 munud neu nes bydd y gymysgedd wedi codi’n dda ac yn euraidd.

Anfonwch eich rysetiau a lluniau i mewn a gallech ennill £30 o dalebau siopa. Anfonwch nhw at Influenceus@clwydalyn.co.uk neu anfonwch nhw trwy neges testun at 07880431004. Dyddiad cau Ionawr 12fed 2024

29


EICH CIPOLWG AR...

CYNGOR ARIANNOL A CHEFNOGAETH CADWCH MEWN CYSYLLTIAD A ydych chi’n derbyn budd-dal gyda phrawf modd fel Credyd Cynhwysol neu Gredyd Pensiwn? Mae nifer o ddarparwyr yn cynnig tariff cymdeithasol i’r rhai sydd ar fudd-daliadau â phrawf modd, gan eich helpu i gadw mewn cysylltiad am lai. TARIFF CYMDEITHASOL www.ofcom.org.uk/phones-telecoms-and-internet/advicefor-consumers/costs-and-billing/social-tariffs

HOLWCH EICH CYFLENWR I WELD PA DARIFF CYMDEITHASOL Y MAE’N EI GYNNIG, GALLECH ARBED LLAWER O ARIAN O WNEUD UN GALWAD FFÔN SYDYN

Trafferth talu eich biliau dŵr? R’yn ni yma i helpu i’ch atal rhag mynd i ddyfroedd dyfnion. Gallwn helpu gyda… • Thariffau i gwsmeriaid ag incwm isel, teulu mawr, nes anhwylder meddygol • Lleihau eich taliadau am gyfnod byr • Gwyliau talu nes eich bod nôl ar ben ffordd • Cynlluniau cymorth gyda dyledion • Cyngor ar effeithlonrwydd dŵr i leihau eich biliau

Am fanylion ewch i dwrcymru.com/cymorthgydabiliau neu ffoniwch ni ar 0800 052 0145

Gall Hafren Dyfrdwy hefyd helpu i gefnogi’r rhai sy’n byw yn Wrecsam gyda phryderon am dalu eu biliau dŵr. Edrychwch ar eu tudalen i weld os gallan nhw eich helpu chi: hdcymru.co.uk

30


Chwiliwch am fanc bwyd yn agos atoch chi: trusselltrust.org

CRONFA PRESWYLWYR

£

EICH CIPOLWG AR...

Mae The Trussell Trust yn cefnogi rhwydwaith genedlaethol o fanciau bwyd ac yn darparu bwyd argyfwng a chefnogaeth i bobl a all fod yn ei chael yn anodd yn ariannol.

Rydym wedi datblygu cronfa fydd yn cynorthwyo ein preswylwyr sydd mewn angen, gall y gronfa hon gefnogi pethau fel trafnidiaeth, dillad, bwyd a thalebau bwyd...a chymaint mwy. Os hoffech chi gael gwybod rhagor gallwch • gysylltu â’ch Swyddog Tai, ewch i’n gwefan www.clwydalyn.co.uk/ benefits-and-money-advice/ • ymgeisio’n uniongyrchol trwy lenwi ein ffurflen gais:

Efallai y gallech gael hyd at 5 taliad i’ch helpu gyda chostau byw os ydych yn cael rhai budd-daliadau neu gredydau treth. Nid yw’r taliadau yma yn drethadwy ac ni fyddant yn effeithio ar y budd-daliadau na’r credydau treth yr ydych yn eu cael. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y taliad costau byw bydd angen i chi fod yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol: · lwfans ceisio gwaith ar sail incwm · lwfans cyflogaeth a chymorth yn gysylltiedig ag incwm · Cymorth Incwm

· · · ·

Credyd Pensiwn Credyd Cynhwysol Credyd Treth Plant Credyd Treth Gwaith

Er mwyn dysgu rhagor, ewch i wefan y llywodraeth yma: gov.uk/guidance/cost-of-living-payment

CYMORTH BUDD-DALIADAU Mae gan ClwydAlyn Dîm Hawliau Lles a Chyngor Ariannol sy’n cynnig gwasanaeth am ddim, cyfrinachol i’n holl breswylwyr a staff i’w cynorthwyo i hawlio budd-daliadau ac i drafod problemau ariannol. Rydym yn annog pawb i gynnal gwiriad budd-daliadau o leiaf unwaith y flwyddyn, bydd hyn hefyd yn dynodi a ydych yn gymwys ar gyfer unrhyw daliadau cymorth costau byw. Gallwch wirio eich hawl i fudd-daliadau yma: entitledto.co.uk Gallwch edrych ar gael cymorth ariannol yma: turn2us.org.uk Gallwch gael cyngor ar ddyledion a chymorth am ddim yma: stepchange.org

Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor, cysylltwch â ni a bydd un o’r tîm yn cysylltu’n ôl. Ffoniwch: 0800 1835757 1835757 E-bost: help@clwydalyn.co.uk 31


Eich golwg ar ddiwrnod ym mywyd…

EICH CIPOLWG AR...

Lois Ward CYDLYNYDD CYLLID GRANT A GWERTH CYMDEITHASOL

Fy Nhaith Datblygu Gwaith ClwydAlyn Fe gychwynnais weithio i ClwydAlyn yn 2016 fel Cynorthwyydd Arlwyo yn Llys Eleanor, un o’n cynlluniau gofal ychwanegol yn Shotton. Roeddwn yn mwynhau gweithio yno; roedd yn wych rhyngweithio wyneb yn wyneb hefo’r preswylwyr ac roedd y tîm yn wych i weithio hefo nhw. Ar ôl 2 flynedd yn gweithio yn Llys Eleanor dywedodd fy rheolwr ar y pryd wrthyf am brentisiaeth Prentis Gweinyddu Busnes yn ein prif swyddfa. Dyna lle cychwynnais fy swyddi nesaf fel Prentis Gweinyddu Busnes lle cefais brofiad yn Cyllid, Llywodraethu, Cyfathrebu a Marchnata ac Adnoddau Dynol a chael cymhwyster Lefel 2 Gweinyddu Busnes. Fe wnes i ymgeisio am y swydd yma am fy mod am gael profiad o wahanol adrannau i roi syniad i mi o’r hyn y byddwn yn hoffi ei wneud yn y dyfodol. Fe wnes fwynhau’r brentisiaeth gan ei fod wedi rhoi cyfle i mi gwblhau cymhwyster gan gael profiad ymarferol. Roedd yn beth da treulio ychydig o fisoedd ym mhob adran oherwydd cefais y cyfle i fod yn rhan o waith gwahanol. Yn ystod fy amser yn Cyfathrebu a Marchnata, roeddwn yn cynorthwyo i drefnu Diwrnod Hwyl y Preswylwyr, o’r syniadau gwreiddiol i wirfoddoli ar y ddau ddiwrnod. Ar ôl cwblhau fy mhrentisiaeth, fe wnes gais am swydd yn Cynnal a Chadw gan ddod yn Drefnydd Cynnal a Chadw i’r tîm Gwaith Ymatebol a Foids am 3 blynedd. Fe welais y swydd yn cael ei hysbysebu fel yr oedd fy mhrentisiaeth ar fin gorffen ac roedd gennyf ddiddordeb mewn mynd i ryw fath o waith trefnu, felly roeddwn yn meddwl bod hyn yn berffaith. Fe wnes i fwynhau gweithio yn rhan o’r tîm cynnal a chadw.

YN PECDION BUD

32

Yn ddiweddar rwyf wedi cychwyn ar fy swydd newydd fel Trefnydd Cyllid Grant a Gwerth Cymdeithasol. Fe wnes i ymgeisio am hon pan welais ei bod yn swydd hollol newydd i ClwydAlyn, felly roeddwn yn meddwl y gallwn roi fy stamp fy hun arni. Roeddwn yn meddwl hefyd y gallwn ddefnyddio rhai o fy sgiliau o’m swydd drefnu flaenorol ynddi. Mae fy swydd yn ymwneud ag arwain ar yr holl waith trefnu grantiau, mesur effaith ar draws y sefydliad gan weithio gyda’r Uwch Reolwyr a staff i ddynodi cyfleoedd i gael cyllid grant a’u cefnogi i fesur effaith a deilliannau’r cyllid. Byddaf yn arwain ar fesur gwerth cymdeithasol a chasglu’r holl wybodaeth ar gyfer adroddiadau blynyddol, gan reoli tîm o hwyluswyr gwerth cymdeithasol i gefnogi cynlluniau tîm gwerth cymdeithasol blynyddol ac ymwreiddio ymarfer da yn y sefydliad. Yn ddiweddar rwyf wedi bod yn ymwneud ag adroddiad gwerth cymdeithasol 2023/24 ac wedi gweithio ar ran o’r adran cyflogadwyedd. Rwy’n meddwl bod hwn yn amser cyffrous i fod yn ymwneud â Gwerth Cymdeithasol ac mae’n wych gweld llwyddiannau ClwydAlyn ar draws y cwmni er budd llesiant. Trwy weithio ar draws y gwahanol swyddi yn ClwydAlyn rwyf wedi cael cyfleoedd gwahanol a chael cymwysterau sydd wedi fy helpu i sicrhau fy swydd newydd. Os hoffech chi gael gwybod rhagor am werth cymdeithasol yn ClwydAlyn, ewch draw i’n gwefan yma www.clwydalyn.co.uk/social-value

Rydym yn cynnig pecyn buddion yn cynnwys aelodaeth o gynllun pensiwn gyda chyfraniadau cyfatebol gan y cyflogwr hyd at 8%, cynllun beicio i’r gwaith, talebau gofal llygaid, pecyn llesiant ariannol, 25 diwrnod o wyliau a Gwyliau Banc yn cynyddu i 30 diwrnod, hyblygrwydd i brynu a gwerthu gwyliau, tâl salwch gwell, pecyn mamolaeth gwell, cyfleoedd gweithio hyblyg, cefnogaeth iechyd a llesiant, yswiriant bywyd, rhaglen EAP a phecyn hyfforddiant cynhwysfawr, y cyfan mewn sefydliad ar sail gwerthoedd gyda diwylliant gwych!


EICH CIPOLWG AR...

Prentisiaeth a chyfle am yrfa Rydym wrth ein bodd yn gweld ein staff yn tyfu a datblygu a bod y gorau y gallant fod yn eu swyddi a’u dewisiadau gyrfa. Rydym wedi cefnogi 67 o staff sydd wedi cael dyrchafiad ers Hydref 2022 ac ar hyn o bryd mae gennym 36 o brentisiaethau, hyfforddeion, neu lwybrau yn eu lle, gan gynnwys arlwyo, toi, gwaith tir, peintio ac addurno.

Rydym hefyd yn cefnogi staff gyda sgyrsiau hyfforddiant gyrfa. Dyma lle’r ydym yn cynnig cyngor CV a chefnogaeth cyfweliad a chyfarwyddyd gyrfa i staff sydd eisiau datblygu ond efallai nad ydynt yn gwybod sut. Os oes arnoch chi hefyd eisiau cefnogaeth gyda’ch profiad gwaith, ysgrifennu CV, sgiliau cyfweliad yna cofiwch gysylltu trwy peopleteam@clwydalyn. co.uk byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

Rydym yn Recriwtio... Aelod y Preswylwyr o’r Bwrdd Os ydych yn breswyliwr ClwydAlyn, yn angerddol am roi yn ôl a sicrhau bod preswylwyr yn ganolog i bopeth a wnawn, gall y swydd yma fod i chi;

• 5 O gyfarfodydd Pwyllgor Preswylwyr y flwyddyn

• Cynefino a hyfforddiant llawn • Hyd at 4 hyfforddiant anffurfiol / dyddiau • •

i ffwrdd anffurfiol ac 1 ymweliad Cynllun Rhwydwaith gefnogaeth gyfeillgar Cyflog- £2,800 y flwyddyn

Rydym yn annog ceisiadau yn neilltuol gan unigolion sydd o gefndiroedd amrywiol a phreswylwyr ifanc sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli ar y pwyllgor er mwyn sicrhau ein bod yn helpu i gyflawni gwell gwasanaethau i bawb.

A oes gennych ddiddordeb?

Er mwyn ymgeisio, anfonwch e-bost at Laura.McKibbin@clwydalyn.co.uk yn amlinellu pam eich bod yn ymgeisio a beth y byddwch yn ei ddwyn i’r swydd. Os oes gennych CV anfonwch hwnnw hefyd. Er mwyn cael gwybod rhagor ffoniwch Laura ar 07880431004

Dyddiad cau Dydd Llun 15 Ionawr 2024 33


EICH BARN…

Bag post Ateb eich cwestiynau

Os oes gennych chi gwestiwn yr hoffech gael ateb iddo yn y cylchlythyr yna anfonwch e-bost atom yn communications@clwydalyn.co.uk

Cwestiwn Preswyliwr

Ateb ClwydAlyn

Beth ddylwn i ei wneud os nad yw fy moeler yn gweithio?

Mae misoedd y gaeaf yn prysur agosáu, ac rydym yn gwybod pa mor bwysig yw boeler sy’n gweithio’n dda. Pan fyddwch chi’n troi eich gwres ymlaen, os byddwch yn gweld nad ydi’r boeler yn gweithio, gallwch ffonio’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid (o 8:00 pm hyd 6:00 pm – Dydd Llun i ddydd Gwener) ar ein rhadffôn: 08800 1835757 i roi adroddiad am y diffyg, yna bydd archeb waith yn cael ei gosod a phan fydd yn addas bydd apwyntiad yn cael ei drefnu. Ar ôl i un o’n Gweithwyr fod allan i wneud unrhyw wiriadau neu i wneud y gwaith trwsio, os bydd angen rhannau newydd ac nad ydynt ar gael yn rhwydd mae achlysuron pan allai fod yn rhaid i chi aros ychydig yn hwy cyn y bydd eich boeler yn rhedeg yn iawn eto. Ar yr achlysuron yma, byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu gwresogyddion trydan i chi i helpu i gadw eich cartref yn gynnes nes y byddwn yn gallu trwsio eich boeler yn llwyr.

Wyddech chi? Os oes raid i chi aros amser ychwanegol i’r boeler gael ei thrwsio yn llawn, ar ôl i ni ymweld â chi a rhoi gwresogyddion trydan, ein polisi yw, ar yr achlysuron yma, rhoi iawndal am yr anghyfleustra a’r costau ychwanegol y gallwch eu tynnu am ddefnyddio dewisiadau trydan gwahanol i wresogi eich dŵr a’ch cartref. Mae gennym ddwy gyfradd wahanol: · £9.00 y dydd. Rhoddir hwn yn ystod y misoedd oerach (Hydref – Mawrth) ac mae’n ystyried y dŵr poeth a’r gwres y bydd arnoch eu hangen. · £4.50 y dydd. Rhoddir hwn yn ystod y misoedd cynhesach (Ebrill – Medi), i gydnabod, yn y rhan fwyaf o achosion na fydd arnoch angen rhoi eich gwres ymlaen nac angen gwresogyddion trydan.

Diolch

Cysylltwch â ni... Os byddwch yn gweld na all un o’n gweithwyr drwsio eich boeler a bod yn rhaid i chi aros amser ychwanegol i’ch boeler gael ei thrwsio yn iawn (ac yn gorfod defnyddio dulliau eraill i gynhesu eich dŵr a/neu eich cartref) ond nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys i gael iawndal, cofiwch gysylltu. Byddwn yn gwirio gyda’r Tîm Gwresogi a gallwn roi gwybod i chi os ydych yn gymwys i hawlio ac ar ba gyfradd. E-bost Complaints@clwydalyn.co.uk Ffôn 01745 536800 Ysgrifennwch at Tîm Cwynion, 72 Ffordd William Morgan, Llanelwy, LL17 0JD

34


AWGRYMIADAU DA GWRESOGI:

GWIRIWCH Y PWYSEDD

Os bydd eich gwres yn cymryd mwy o amser i ddod ymlaen neu bod eich dŵr yn cymryd mwy o amser i gynhesu, gall hyn fod yn arwydd bod problem o ran y pwysedd. Gwiriwch y mesurydd pwysedd, edrychwch a yw eich pibelli yn gollwng. Os na fyddwch yn dod o hyd i fannau sy’n gollwng, gallwch ddefnyddio’r falfiau handlen ar eich system i gynyddu’r pwysedd. Cofiwch ddiffodd eich boeler cyn gwneud hynny. Os na fydd wedi ei ddatrys cysylltwch â pheiriannydd.

Gwiriadau Gwresogi Cyson

Os nad ydych wedi troi eich system wresogi ymlaen ers y gaeaf diwethaf, efallai y byddwch am ei phrofi heddiw. Y peth olaf yr ydych am ei wneud yw ei throi ymlaen ar noson rewllyd, a gweld nad yw’n gweithio’n iawn. Mae’n syniad da troi eich gwres ymlaen ambell waith y mis trwy gydol y flwyddyn i sicrhau bod popeth yn gweithio’n iawn.

DOLEN LENWI GYDA FALFIAU HANDLEN

Gwiriwch eich thermostatau

Gall thermostat diffygiol achosi i’ch ystafell fod yn rhy boeth neu yn rhy oer. Gwiriwch bod eich thermostat yn gweithio yn iawn i gynhesu eich cartref yn iawn.

Gwiriwch y batri ar thermostatau digidol

Os bydd y batri yn eich thermostat yn methu ni fydd gennych wres. Bydd y rhan fwyaf o thermostatau yn dangos symbol batri yn fflachio pan fydd y batri’n mynd yn isel, os nad ydych yn siŵr sut i newid y batri, galwch beiriannydd.

AWGRYMIADAU DA GWRESOGI:

CADWCH YN GYNNES AM LAI Trowch y gwres i lawr o 1 gradd Gwisgwch haen ychwanegol Gosodwch dymheredd gwahanol ym mhob ystafell Rhaglennwch eich gwres Peidiwch ag atal gwres eich rheiddiaduron Caewch unrhyw ddrafftiau allan a chau eich drysau Agorwch y llenni i adael yr haul i mewn a’u cau yn y nos i gadw’r oerfel allan 35


Eich CYSTADLEUAETH Cyfle i ennill talebau siopa Rydym wrth ein bodd yn gweld y pethau gwych y mae ein preswylwyr yn eu gwneud. Felly, eleni, rydym wedi penderfynu cynnal cystadleuaeth luniau eto.

Gwobr 1af taleb £50 2il wobr taleb £25 3ydd wobr taleb £15

Gall fod yn unrhyw beth sy’n eich gwneud yn hapus yr amser hwn o’r flwyddyn. Dyna’r cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud! Ond mae’n rhaid i chi gystadlu i ennill, a dyma beth allwch chi ei ennill…

Er mwyn cystadlu anfonwch eich lluniau a’ch manylion draw at Laura McKibbin, gallwch eu hanfon trwy e-bost InfluenceUs@clwydalyn.co.uk neu anfonwch trwy WhatsApp 07880431004

Anfonwch luniau’r ŵyl atom...

Llongyfarchiadau i enillwyr ein cystadleuaeth haf! Tracy Jon es

Natalie Edwards Tracey Dawson

vans

Joanne E

Y dyddiad cau yw Dydd Mercher 18fed Rhagfyr ENW

Gallwch hefyd gystadlu trwy liwio ein llun Hydref/ Gaeaf a’i anfon draw i’n prif swyddfa, neu dynnu llun o’ch gwaith lliwio a’i anfon trwy e-bost neu WhatsApp.

FFÔN

CYFEIRIAD E-BOST

CYFEIRIAD

Er mwyn bod â chyfle i ennill; Ysgrifennwch eich Enw llawn, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad. Anfonwch i gyfeiriad ein Prif Swyddfa 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 0JD Neges testun at: 07880 431004 neu e-bostio InfluenceUs@clwydalyn.co.uk

ClwydAlyn.co.uk

@ClwydAlyn


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.