Tir ym Mrynsiencyn, Ynys Môn - Haf 2023

Page 1

TIR YM MRYNSIENCYN YNYS MÔN

Datblygiad 12 o gartrefi

newydd fforddiadwy effeithlon o ran ynni, yn cael eu hadeiladu gan DU Construction ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys

Môn a Llywodraeth Cymru.

Y DIWEDDARAF AM Y CYNNYDD

AC EDRYCH YMLAEN

Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda. Tra bod y cartrefi newydd yn cael eu datblygu, fe’u gelwir yn blotiau ac mae plotiau 5-12 wedi cael y fframiau pren, mae’r towyr yn brysur yn rhoi llechi ar y to, i sicrhau eu bod yn dal dŵr cyn y gwaith plastro mewnol.

Mae’r gweithwyr tir yn gweithio ar y sylfeini a’r slabiau concrid ar gyfer plotiau 1-4 yn barod ar gyfer y fframiau pren ym mis Gorffennaf. Bydd y cartrefi i gyd wedi eu gorffen yng ngwanwyn 2024.

DISGYBLION YSGOL YN YMARFER EU GALLU YN YR ARDD

Mae disgyblion Ysgol Brynsiencyn yn ymarfer eu gallu yn yr ardd diolch i gyfraniad gan DU Construction. Mae DU Construction wedi bod yn gweithio’n glos gyda phlant yr ysgol i wneud tri chlwt llysiau wedi eu codi, felly maent yn gallu tyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain am flynyddoedd i ddod! Rydym yn edrych ymlaen at gael gweld beth fyddan nhw’n ei dyfu.

CLWYDALYN.CO.UK YNYS MÔN
2023
HAF

JAMES YN CAEL BLAS AR WAITH AR SAFLE ADEILADU.

Ymunodd James, o Ysgol David Hughes ar Ynys Môn, â DU Construction ym Mrynsiencyn i gael profiad gwaith ar safle adeiladu, mae wedi bod yn mynd yno ddeuddydd yr wythnos ac mae’n ei fwynhau yn fawr, dywedodd;

Rwy’n mwynhau fy hun yn fawr, yn helpu ar y safle, yn cymysgu gyda’r gwahanol grefftwyr ar y safle a gwneud gwahanol swyddi. Rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu parhau i weithio yn y diwydiant adeiladu yn y dyfodol.’

SEREMONI TORRI’R DYWARCHEN YN NODI DECHRAU’R GWAITH YN SWYDDOGOL

Yn Ebrill, nododd seremoni torri’r dywarchen ddechrau’r gwaith ar y prosiect £2.9m yn swyddogol. Mae’r cartrefi teuluol fforddiadwy newydd yn rhan o raglen adeiladu uchelgeisiol ClwydAlyn sy’n cyd-fynd â chynllun uchelgeisiol Cyngor Sir Ynys Môn i gynyddu’r ddarpariaeth dai ar yr ynys. Roedd yn wych gweld pawb yn y digwyddiad ac roedd y Cynghorydd Gary Pritchard, Deiliad Portffolio Tai a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Ynys Môn yno hefyd a dywedodd:

“ Mae’n wych gweld y gwaith yn dechrau ar y cartrefi newydd yma ym Mrynsiencyn. Mae’r Cyngor yn falch o gefnogi’r prosiect hwn a fydd yn darparu eiddo modern sy’n gyfeillgar o ran carbon i deuluoedd y mae galw mawr amdanynt, gyda chartrefi glân a gwyrdd a fydd gobeithio yn cynnig effeithlonrwydd ynni mewn cyfnod lle mae prisiau tanwydd yn codi.”

DIDDORDEB MEWN GYRFA YN Y MAES ADEILADU?

Mae ClwydAlyn a DU Construction yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi pobl sy’n byw yn y cymunedau i waith, hyfforddiant, prentisiaethau. Os oes gennych ddiddordeb mewn profiad gwaith, lleoliad hyfforddi neu waith / prentisiaeth, mewn amrywiaeth mawr o grefftau adeiladu. Cysylltwch â DU Construction ar: info@duconstructionltd.co.uk

RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU

Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel. Yr oriau gweithredu nodweddiadol yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm a dyddiau Sadwrn 8am hyd 4:30pm. Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.

DILYNWCH

CYSYLLTWCH Â NI

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Steven Hughes ar 07557275657 a fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau all fod gennych. Fel arall, os byddai’n well gennych gysylltu â ni trwy e-bost, ein cyfeiriad yw: info@duconstructionltd.co.uk

NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn ar y cyfryngau cymdeithasol. @ClwydAlyn

Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.