TIR YN GLASDIR, RHUTHUN, SIR DDINBYCH
Datblygiad 63 o gartrefi newydd fforddiadwy effeithlon o ran ynni, gan Williams
Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â
Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.
Y DIWEDDARAF AM Y CYNNYDD
AC EDRYCH YMLAEN
Rydym yn falch o ddweud bod y datblygiad yn Glasdir wedi ei gwblhau erbyn hyn, ac mae 63 o breswylwyr / teuluoedd wedi symud i’w cartrefi newydd. Mae’r cartrefi fforddiadwy newydd yma, sydd yn awr yn cael eu galw yn Stryd y Friallen, Llys Bedwen, Ffordd Llwyfen, Rhodfa Criafolen a Llys y Meillionen yn hynod o effeithlon o ran ynni ac yn rhai y gellir eu haddasu ac ymateb i anghenion y preswylwyr fel y maent yn newid, gan eu galluogi i fyw’n annibynnol am cyn hired â phosibl.
UN O’N DATBLYGIADAU TAI MWYAF ARLOESOL ETO!
Gwelir y cartrefi yma fel rhai o’n datblygiadau tai mwyaf arloesol eto, yn costio £15.05m (costau tir, adeiladu a chostau eraill) gyda £10.6m o arian grant gan Lywodraeth Cymru.
Mae Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffyrdd newydd o gyflawni tai fforddiadwy, yn canolbwyntio ar gartrefi carbon isel, effeithlon o ran ynni, gan helpu i daclo tlodi tanwydd. Ymrwymodd ClwydAlyn i archwilio syniadau ar gyfer cartrefi carbon isel a dyluniadau arloesol ac nid yw datblygiad Glasdir yn eithriad, gyda chynaliadwyedd a chymuned yn ganolog i’r cynllunio.
Dewch i weld drosoch eich hun sut mae’r tai newydd anhygoel yma’n edrych:
Cyn i’r preswylwyr olaf symud i mewn, fe wnaethom wahodd rhanddeiliaid allweddol o Gyngor Sir Ddinbych, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill oedd yn gysylltiedig â’r cynllun i gael golwg o gwmpas ein cartrefi carbon isel mwyaf newydd a siarad â’r preswylwyr! Roedd pawb yn gadarnhaol iawn am y cynllun ac yn falch o weld y cartrefi ecogyfeillgar y mae galw mawr amdanynt i bobl Sir Ddinbych.
PRESWYLWYR YN SYMUD I’W CARTREFI!
Llongyfarchiadau i’n holl breswylwyr sydd wedi symud i’w cartrefi newydd, rhai yn fwy diweddar nag eraill! Ar eu diwrnod symud, gofynnwyd i breswylwyr amrywiol beth oedden nhw’n ei feddwl o’u cartrefi newydd, a dyma oedd gan Mark a Paula i’w ddweud…
MARK – SYMUD I MEWN YM MIS TACHWEDD 2022
“ Roedd arnaf angen newid ac mae’n braf iawn cael symud i fy fflat newydd. Mae’n berffaith i mi ac rwy’n teimlo’n gyfforddus yma yn barod. Mae bob man yn lân a newydd, ac mae’n lle braf ac yn olau a digon o le. Ar ôl edrych ar fflatiau eraill, roeddwn yn teimlo’n gartrefol ar unwaith yma, a dwi’n gwenu, a fedrai ddim stopio siarad am y peth. Mae’n wych byw yn rhywle mor fodern, a bydd fy miliau gwres yn gostwng ac ni fydd y fflat yn mynd yn damp chwaith. Hwn fydd fy nghartref rŵan, a dwi am wneud iddo deimlo fel fy fflat i fy hun, a gyda fy nheulu a fy ffrindiau yn ymweld, creu fy atgofion fy hun hefyd.”
BRANDON – SYMUD I MEWN YM MIS TACHWEDD 2022
“ Rwy’n hoffi popeth am fy nghartref newydd. Dim ond fi fydd yn byw yma hefo fy mab 2 flwydd oed, a hefo 2 lofft, byddaf yn gallu gwneud be licia’i heb boeni. Doedden ni ddim yn disgwyl cael y tŷ ond fe wnaethon ni, a dwi wrth fy modd. Mae’r gegin, yr ystafelloedd eraill a’r ardd yn hardd, a gyda phaneli solar, fydd ddim rhaid i ni dalu cymaint am drydan, sy’n fantais fawr.“
PAULA – SYMUD I MEWN YM MIS CHWEFROR 2023
“ Mae fy nghartref newydd yn ffantastig ac yn ddelfrydol i’m gŵr sydd wedi ei barlysu. Mae wedi ei addasu ar gyfer ei anghenion, a gan ei fod yn fyngalo, yn hollol wahanol i’n cartref blaenorol. Fe fydd gymaint gwell iddo gan ei fod wedi bod yn gaeth i’r tŷ ers 2 flynedd, ac mi fydd yn gallu symud o gwmpas y tŷ rŵan ac allan hefyd. Am ei fod yn dŷ llai hefyd bydd yn rhatach i’w redeg, a gan ei fod yn teimlo’r oerfel, mae’r ffaith ei fod wedi ei inswleiddio mor dda yn golygu y bydd yn gynhesach iddo fo hefyd. Bydd symud yma yn cael effaith ar ein bywydau i gyd, a dwi mor falch o gael symud i mewn.”
CANLYNIADAU’R AROLWG
HYD YN HYN!
Er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu’r cartrefi gorau i’n preswylwyr, eu bod yn hapus gyda nhw, ac sy’n gwneud gwahaniaeth i’w bywydau, rydym yn gofyn iddyn nhw lenwi arolwg 6 wythnos ar ôl symud i mewn a 9 mis ar ôl symud i mewn. Gallwn wedyn adolygu a dysgu o’r canlyniadau. Dyma gipolwg ar rai o’r cwestiynau / canlyniadau.
Dros 90% o’r preswylwyr yn fodlon ar safon a gorffeniad eu cartref newydd.
PRESWYLIWR