Tir ar Princess Avenue, Sir y Fflint - Gwanwyn

Page 1

TIR AR PRINCESS

AVENUE

(SAFLE’R MODURDAI) - SIR Y FFLINT

Datblygiad 12 eiddo, dau gartref 3 ystafell wely a 10 o fflatiau 1 a 2 ystafell wely. Yn cael eu hadeiladu gan Gareth

Morris Construction

(GMC) ar ran ClwydAlyn mewn partneriaeth â

Chyngor Sir y Fflint a

Llywodraeth Cymru.

DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD AC EDRYCH YMLAEN

Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda, tra bod y cartrefi newydd yn cael eu datblygu, fe’u gelwir yn blotiau ac mae’r toeau wedi eu hadeiladu ar blotiau 1 a 2, (cartrefi 3 ystafell wely) a bydd y paneli solar PV yn cael eu gosod yn fuan. Mae’r gwaith allanol yn mynd yn ei flaen ac ar y tu mewn mae’r sgrid sment wedi ei roi yn y lloriau isaf. Ar gyfer datblygu plot 3 i 12 (y fflatiau) mae’r sylfeini wedi eu hadeiladu yn barod ar gyfer gosod y paneli ffrâm bren, a fydd yn cael ei wneud gyda chraen ar ddiwedd Mai.

Bydd y cyfleustodau’n cael eu cysylltu’n fuan, bydd hyn yn golygu y bydd gwaith yn digwydd tu hwnt i’r datblygiad ar Princess Avenue. Bydd y drysau a’r ffenestri’n cael eu gosod ym mhlotiau 1 a 2 yn y mis nesaf. Bydd y 12 cartref i gyd wedi eu gorffen yn gynnar yn 2024.

RHOI YN ÔL I’R GYMUNED

Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’r cynllun yn ymrwymo i roi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio ynddyn nhw mewn amrywiaeth eang o ffyrdd yn unol â’n blaenoriaethau tlodi. Bydd hynny yn ei dro yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau trwy roi cefnogaeth lle mae ei angen, boed hynny yn helpu pobl yn ôl i waith, brwydro yn erbyn bod yn ynysig yn gymdeithasol, cefnogi preswylwyr sydd mewn tlodi tanwydd neu roi mynediad at fwyd maethlon.

SIR Y FFLINT
CLWYDALYN.CO.UK
GWANWYN 2023

EIN CENHADAETH: GYDA’N GILYDD

I DRECHU TLODI

Ein blaenoriaethau tlodi:

• Gwaith, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli (Cynyddu)

• Tlodi bwyd (lleihau)

• Tlodi tanwydd (lleihau)

• Cynhwysiant Digidol (cynyddu)

CEFNOGI POBL

I WAITH

Brandon Pilkington ar y safle fel prentis gosod brics. Mae’n parhau crefft ei deulu, gan weithio ochr yn ochr â nhw ar y safle i gael profiad gwaith cyn dechrau yn y coleg ar ôl yr haf.

A ydych yn gwybod am unrhyw grwpiau cymunedol, ysgolion, elusen neu sefydliad nid er elw yn yr ardal sydd angen cefnogaeth? Os felly, byddem yn falch iawn o gael clywed amdanyn nhw, anfonwch e-bost at paulmclachlan@gmc-group.com

HELPU I DACLO TLODI BWYD

Rhoddir dros 90% o’r bwyd a ddosberthir gan fanciau bwyd yn rhwydwaith y Trussell Trust gan y cyhoedd - dyna pam bod rhoddion bwyd yn hollol hanfodol! Mae GMC yn sefydlu mannau i adael bwyd yn Princess Avenue ac ar ein safle arall, Tŷ Nos yn Wrecsam. Mae banciau bwyd yn dibynnu ar eich ewyllys da chi a’ch cefnogaeth. Mae rhoi yn ôl a chefnogi’r cymunedau lle’r ydym yn adeiladu yn rhan allweddol o ethos GMC.

DIDDORDEB MEWN GYRFA YN Y MAES ADEILADU?

Mae ClwydAlyn a GMC yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi pobl sy’n byw yn y cymunedau i waith, hyfforddiant, prentisiaethau. Os oes gennych ddiddordeb mewn profiad gwaith, lleoliad hyfforddi neu waith / prentisiaeth, mewn amrywiaeth mawr o grefftau adeiladu. Cysylltwch â GMC ar: paulmclachlan@gmc-group.com

RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU

Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel. Yr oriau gweithredu nodweddiadol fydd o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm. Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.

MR SNEAD WRTH EI FODD GYDA’I FWRDD POTIO

Pan welodd Rheolwr y Safle, Stuart, Mr Snead, sy’n byw gyferbyn â’r safle, allan yn ei ardd yn gyson, fe sylwodd bod arno angen bwrdd potio newydd yn ei dŷ gwydr. Mae gan Mr Snead gyflwr iechyd difrifol ond mae’n mwynhau treulio llawer o amser yn ei ardd. Yn garedig iawn mae GMC wedi rhoi bwrdd potio newydd i Mr Snead, ac fe gafodd ei synnu’n fawr ac roedd yn ddiolchgar iawn amdano. Rydym wrth ein bodd gyda’r llun yma o dîm y safle’n cyflwyno’r bwrdd.

CYSYLLTWCH Â NI

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Stuart Anderson ar 07812969346 a fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau all fod gennych. Fel arall, os byddai’n well gennych gysylltu â ni trwy e-bost, ein cyfeiriad yw: stuartanderson@gmc-group.com

DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch @ClwydAlyn

Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.