Tir ar Stad Bryn Glas, Brynsiencyn - Gwanwyn 2023

Page 1

TIR AR STAD BRYN GLAS, BRYNSIENCYN

Datblygiad 12 o gartrefi newydd fforddiadwy effeithlon o ran ynni, yn cael eu hadeiladu gan DU

Construction ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun hwn yn rhan o raglen ddatblygu ClwydAlyn i ddarparu 1500 o gartrefi yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 gyda buddsoddiad o £250 miliwn.

RHOI YN ÔL I’R GYMUNED

DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD AC EDRYCH YMLAEN

Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda gyda’r gwaith Archaeoleg ar ben, mae’r peiriannydd wedi bod ar y safle i farcio plotiau 7-12 a bydd hyn yn gadael i ni dyllu’r sylfeini yn barod ar gyfer y gwaith blociau. Bydd y slabiau concrid yn cael eu gosod ar gyfer plotiau 7-12, ac yna bydd y fframiau pren yn dilyn, yn ein diweddariad nesaf bydd newidiadau mawr ar y safle gyda’r tai ar eu traed yn barod am eu toeau a’r gwaith rendro.

Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’r cynllun yn ymrwymo i roi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio ynddyn nhw mewn amrywiaeth eang o ffyrdd yn unol â’n blaenoriaethau tlodi. Bydd hynny yn ei dro yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau trwy roi cefnogaeth lle mae ei angen, boed hynny yn helpu pobl yn ôl i waith, brwydro yn erbyn bod yn ynysig yn gymdeithasol, cefnogi preswylwyr sydd mewn tlodi tanwydd neu roi mynediad at fwyd maethlon.

CLWYDALYN.CO.UK YNYS MÔN
GWANWYN 2023

Ein blaenoriaethau

tlodi i breswylwyr

Cynyddu gwaith, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli

Lleihau tlodi bwyd

Ein cenhadaeth

Gyda’n gilydd i drechu tlodi

Lleihau tlodi tanwydd

Cynyddu cynhwysiant digidol

Cwmpas Gwerth Cymdeithasol: Gweithgareddau a gwasanaethau sy’n mynd tu hwnt i’r gofyn i gyflawni deilliannau gwerth cymdeithasol sy’n cyfrannu at ein blaenoriaethau tlodi a’n cenhadaeth i drechu tlodi.

CARTREFI YNNI EFFEITHIOL

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi

llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan

ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi

newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

• Pympiau gwres ffynhonnell aer

• Paneli trydan solar

• Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol

• Cyfleusterau gwefru ceir trydan

• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl

• Canfod deunyddiau gan

weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

A ydych yn gwybod am unrhyw grwpiau cymunedol, ysgolion, elusen neu sefydliad nid er elw yn yr ardal sydd angen cefnogaeth? Os felly, byddem yn falch iawn o gael clywed amdanyn nhw, anfonwch e-bost at: info@duconstructionltd.co.uk

DIDDORDEB MEWN GYRFA YN Y MAES ADEILADU?

Mae ClwydAlyn a DU Construction yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi pobl sy’n byw yn y cymunedau i waith, hyfforddiant, prentisiaethau. Os oes gennych ddiddordeb mewn profiad gwaith, lleoliad hyfforddi neu waith / prentisiaeth, mewn amrywiaeth mawr o grefftau adeiladu. Cysylltwch â DU Construction ar: info@duconstructionltd.co.uk

RHEOLI’R SAFLE AC

ORIAU GWEITHREDU

Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel.

Yr oriau gweithredu nodweddiadol yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm a dyddiau

Sadwrn 8am hyd 4.30pm. Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn

parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.

CYSYLLTWCH Â NI

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â

Steven Hughes ar 07557275657 a fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau all fod gennych. Fel arall, os byddai’n well gennych gysylltu

â ni trwy e-bost, ein cyfeiriad yw: info@duconstructionltd.co.uk

DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn ar y cyfryngau cymdeithasol. @ClwydAlyn

Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.