Tir Ger Lôn Lwyd, Pentraeth, Ynys Môn - Hydref 2022

Page 1

YNYS MÔN

TIR GER LÔN LWYD, PENTRAETH, YNYS MÔN

Datblygiad 23 o gartrefi newydd fforddiadwy effeithlon o ran ynni (bydd 13 o’r tai yn cael eu rheoli gan ClwydAlyn a 10 o’r tai yn cael eu rheoli gan Gyngor Sir Ynys Môn), yn cael eu hadeiladu gan Williams Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Ynys Môn a Llywodraeth Cymru. DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD AC EDRYCH YMLAEN

Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda, mae to ar 12 o’r cartrefi erbyn hyn! Mae’r slab concrid hefyd wedi cael ei osod ar gyfer yr eiddo i lefel y deunydd atal lleithder (sy’n atal lleithder rhag codi). Mae’r gwaith gosod cychwynnol o ran plymio, trydanol a chwistrell wedi dechrau ar ambell rai o’r tai. Mae’r sgaffaldiau wedi eu tynnu a’r gwaith allanol (llwybrau 7 o ffyrdd at y tai) wedi dechrau. Rhoddwyd tarmac hefyd ar ffordd y safle. Bwriedir gorffen y datblygiad yn ystod haf 2023.

CLWYDALYN.CO.UK

HYDREF 2022

ENWI’R DATBLYGIAD

Rhoddodd Williams Homes y cyfle i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 yn Ysgol Pentraeth enwi’r strydoedd ar y datblygiad newydd ar y tir ger Lôn Lwyd, Pentraeth. Yn ddiweddar treuliodd Penny Lofts (Rheolwr Tir a Chaffael) Williams Homes, amser gyda’r disgyblion, yn trafod yr enwau gwahanol y gellid eu defnyddio ac arwyddocâd daearyddol a hanesyddol yr ardal. Awgrymwyd nifer o enwau, a dewiswyd y ffefryn i’w gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo, rhoddwyd tocyn llyfr i’r disgybl a wnaeth gynnig yr enw buddugol.


RHOI YN ÔL I’R GYMUNED

Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’r cynllun yn ymrwymo i roi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio ynddyn nhw mewn amrywiaeth eang o ffyrdd yn unol â’n blaenoriaethau tlodi. Bydd hynny yn ei dro yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau trwy roi cefnogaeth lle mae ei angen, boed hynny yn helpu pobl yn ôl i waith, brwydro yn erbyn bod yn ynysig yn gymdeithasol, cefnogi preswylwyr sydd mewn tlodi tanwydd neu roi mynediad at fwyd maethlon.

EIN CENHADAETH: GYDA’N GILYDD I DRECHU TLODI

Ein blaenoriaethau tlodi:

• • • •

Gwaith, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli (Cynyddu) Tlodi bwyd (lleihau) Tlodi tanwydd (lleihau) Cynhwysiant Digidol (cynyddu)

CEFNOGI POBL MEWN GWAITH

Mae nifer o brentisiaid ar gamau gwahanol yn eu NVQ gyda Williams Homes. Yn ddiweddar mae David, un o’r prentisiaid wedi gorffen ei brentisiaeth ac mae’n awr wedi cymhwyso fel saer. Da iawn, David! “ Cychwynnais fy mhrentisiaeth yn Rhagfyr 2020. Roeddwn yn gweithio ochr yn ochr â seiri profiadol yn ogystal â mynd i’r coleg unwaith yr wythnos. Fe wnes i gwblhau fy mhrentisiaeth yng Ngorffennaf 2022 gyda Chymhwyster Lefel 2 NVQ mewn Gwaith Coed. Mae’r profiad wedi rhoi’r wybodaeth sydd arnaf ei hangen i symud ymlaen yn fy ngyrfa gwaith coed yn ogystal â rhagori mewn bywyd”. Ymunodd Nicola â’r tîm yn ddiweddar, ar ôl cael ei chyfeirio gan MÔN CF (sy’n cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith).

“ Mae’r bobl yma yn Williams Homes yn bleser i weithio hefo nhw. Mae’r diwydiant adeiladu yn amgylchedd newydd i mi, ac rwy’n gwerthfawrogi eu croeso a help pawb yn llwyr. Rwy’n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o redeg swyddfa’r safle”.

www.moncf.co.uk

DIDDORDEB MEWN GYRFA YN Y MAES ADEILADU?

Mae ClwydAlyn a Williams Homes yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi pobl sy’n byw yn y cymunedau i waith, hyfforddiant, prentisiaethau. Os oes gennych ddiddordeb mewn profiad gwaith, lleoliad hyfforddi neu waith / prentisiaeth, mewn amrywiaeth mawr o grefftau adeiladu, cysylltwch â Williams Homes ar: info@williams-homes.co.uk

RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU

Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel. Yr oriau gweithredu nodweddiadol yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm a dyddiau Sadwrn 8am hyd 1pm. Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.

CYSYLLTWCH Â NI

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Penny Lofts (Rheolwr Tir a Chaffael) ar 01678 521781 a fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau all fod gennych. Fel arall, os byddai’n well gennych gysylltu â ni trwy e-bost, ein cyfeiriad yw: info@williams-homes.co.uk

DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn a Williams Homes ar y cyfrynga cymdeithasol @ClwydAlyn @WilliamsHomes_


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.