Neuadd Maldwyn - Hydref 2022

Page 1

POWYS

NEUADD MALDWYN,

BYW’N ANNIBYNNOL I BOBL HŶN

Datblygiad 66 o fflatiau un a dwy ystafell wely o safon uchel, i unigolion 60 oed a hŷn sydd ag angen gofal neu gefnogaeth wedi ei asesu. Mae Neuadd Maldwyn yn cael ei adeiladu gan Anwyl Partnerships ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Powys a Llywodraeth Cymru. Bwriedir gorffen y datblygiad yn 2024.

CLWYDALYN.CO.UK

HYDREF 2022

DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD AC EDRYCH YMLAEN

Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda, mae’r gwaith daear wedi ei gwblhau, ar ben chwith eithaf y safle, wrth ymyl y gamlas, gosodwyd llawr y llawr isaf ac mae’r gosodwyr brics wedi cael y dasg o godi’r waliau hyd at y llawr cyntaf.

Am yr ychydig fisoedd nesaf, rhagwelir mai mwy o’r un fath fydd i raddau helaeth wrth i gragen y bloc newydd yng nghefn y safle ddal i gael ei adeiladu, mwy o friciau a blociau, mwy o forter a mwy o waith craen!

Yn y cyfamser, ar ochr arall y safle, agosaf at y cylchdro, mae codi a gosod slabiau concrid yr ail lawr wedi ei orffen ac rydym yn nesu at lefel y to.

Er mwyn cynorthwyo ymhellach wrth ddosbarthu’r miloedd lawer o frics o gwmpas y safle, bydd ail graen tŵr trydan yn cael ei godi.

O ran yr adeilad sy’n bodoli, gosodwyd y sgaffaldiau o’i gwmpas ac mae’r gwaith ar drwsio’r to wedi dechrau, ac adnewyddu’r ffenestri sash, yn fewnol gwnaed newidiadau i ffurfio drysau newydd.

Gallwch ddal i ddisgwyl gweld llif cyson o lorïau yn cludo deunyddiau i’r safle, briciau a blociau yn bennaf. Tua diwedd y flwyddyn, fe welwch chi’r trawstiau to pren cyntaf yn cyrraedd, arwydd pendant o gynnydd!


RHOI YN ÔL I’R GYMUNED

Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’r cynllun yn ymrwymo i roi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio ynddyn nhw mewn amrywiaeth eang o ffyrdd yn unol â’n blaenoriaethau tlodi. Bydd hynny yn ei dro yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau trwy roi cefnogaeth lle mae ei angen, boed hynny yn helpu pobl yn ôl i waith, brwydro yn erbyn bod yn ynysig yn gymdeithasol, cefnogi preswylwyr sydd mewn tlodi tanwydd neu roi mynediad at fwyd maethlon.

EIN CENHADAETH: GYDA’N GILYDD I DRECHU TLODI

Ein blaenoriaethau tlodi:

• • • •

Gwaith, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli (Cynyddu) Tlodi bwyd (lleihau) Tlodi tanwydd (lleihau) Cynhwysiant Digidol (cynyddu)

A ydych yn gwybod am unrhyw grwpiau cymunedol, ysgolion, elusen neu sefydliad nid er elw yn yr ardal sydd angen cefnogaeth ac sydd efallai’n cydfynd â’n blaenoriaethau tlodi? Os felly, byddem yn falch iawn o gael clywed amdanyn nhw, anfonwch e-bost at neuadd.maldwyn@clwydalyn.co.uk

NEUADD MALDWYN – BYW’N ANNIBYNNOL I BOBL HŶN

Cynllun byw’n annibynnol yw Neuadd Maldwyn, yn darparu 66 o fflatiau un a dwy ystafell wely o safon uchel, i unigolion 60 oed a hŷn sydd ag angen gofal neu gefnogaeth wedi ei asesu. Bydd y cynllun yn cynnwys cyfleusterau cymunedol ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau, bwyty, man parcio ar y safle ac ardaloedd wedi eu tirlunio.

RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU

Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel. Yr oriau gweithredu nodweddiadol fydd o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 5pm. Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.

Efallai bod gennych ddiddordeb mewn byw yma eich hun neu efallai eich bod yn meddwl am rywle i aelod o’r teulu neu ffrind fyw. Pam na wnewch chi gael rhagor o wybodaeth, ewch i: clwydalyn.co.uk/neuadd-maldwyn, ffoniwch 0800 183 5757, e-bost: help@clwydalyn.co.uk

CYSYLLTWCH Â NI

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Bryn Davies (Rheolwr Safle) bryn.davies@anwyl.co.uk a Daren Edwards (Rheolwr Prosiect); daren.edwards@anwyl.co.uk fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych.

DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn ac Anwyl Partnerships ar y cyfryngau cymdeithasol @ClwydAlyn @AnwylPartnerships Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.