Melin / Mart y Fali, Ynys Môn - Hydref 2022

Page 1

YNYS MÔN

MELIN / MART Y FALI, YNYS MÔN

Datblygiad 54 o gartrefi newydd fforddiadwy effeithlon o ran ynni, yn cael eu hadeiladu gan Williams Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Ynys Môn a Llywodraeth Cymru. Bwriedir gorffen y datblygiad yn ystod haf 2024. DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD AC EDRYCH YMLAEN

Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda, dechreuodd y gwaith o baratoi’r safle er mwyn gallu adeiladu, gan gynnwys dymchwel yr hen farchnad anifeiliaid. Agorwyd mynedfa’r safle ac mae’r gwaith ar osod y draeniau wedi dechrau. Yn anffodus, rydym wedi dod ar draws mwy o ithfaen glas nag y disgwyliwyd, arweiniodd hyn at fwy o sŵn, ac felly, rydym yn ymddiheuro i’n cymdogion am hyn.

CLWYDALYN.CO.UK

HYDREF 2022

RHOI YN ÔL I’R GYMUNED

Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’r cynllun yn ymrwymo i roi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio ynddyn nhw mewn amrywiaeth eang o ffyrdd yn unol â’n blaenoriaethau tlodi. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau trwy roi cefnogaeth lle mae ei angen, boed hynny yn helpu pobl yn ôl i waith, brwydro yn erbyn bod yn ynysig yn gymdeithasol, cefnogi preswylwyr sydd mewn tlodi tanwydd neu roi mynediad at fwyd maethlon.

EIN CENHADAETH: GYDA’N GILYDD I DRECHU TLODI

Ein blaenoriaethau tlodi:

• • • •

Gwaith, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli (Cynyddu) Tlodi bwyd (lleihau) Tlodi tanwydd (lleihau) Cynhwysiant Digidol (cynyddu)


A ydych yn gwybod am unrhyw grwpiau cymunedol, ysgolion, elusen neu sefydliad nid er elw yn yr ardal sydd angen cefnogaeth? Os felly, byddem yn falch iawn o gael clywed amdanyn nhw, anfonwch e-bost at info@williams-homes.co.uk

Fe wnes i gwblhau fy mhrentisiaeth yng Ngorffennaf 2022 gyda Chymhwyster Lefel 2 NVQ mewn Gwaith Coed. Mae’r profiad wedi rhoi’r wybodaeth sydd arnaf ei hangen i symud ymlaen yn fy ngyrfa gwaith coed yn ogystal â rhagori mewn bywyd”.

CEFNOGI POBL MEWN GWAITH

Mae Williams Homes yn ymroddedig i gefnogi pobl i waith boed hynny’n brentisiaid neu bobl yn dychwelyd i’r gweithlu neu’n annog rhagor o ferched i’r byd adeiladu. Yn ddiweddar mae David, un o’r prentisiaid wedi gorffen ei brentisiaeth ac mae’n awr wedi cymhwyso fel saer. Da iawn, David!

Ymunodd Nicola â’r tîm yn ddiweddar, ar ôl cael ei chyfeirio gan MÔN CF (sy’n cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith). “ Mae’r bobl yma yn Williams Homes yn bleser i weithio hefo nhw. Mae’r diwydiant adeiladu yn amgylchedd newydd i mi, ac rwy’n gwerthfawrogi eu croeso a help pawb yn llwyr. Rwy’n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o redeg swyddfa’r safle.”

“ Cychwynnais fy mhrentisiaeth yn Rhagfyr 2020. Roeddwn yn gweithio ochr yn ochr â seiri profiadol yn ogystal â mynd i’r coleg unwaith yr wythnos. www.moncf.co.uk

DIDDORDEB MEWN GYRFA YN Y MAES ADEILADU?

Mae ClwydAlyn a Williams Homes yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi pobl sy’n byw yn y cymunedau i waith, hyfforddiant, prentisiaethau. Os oes gennych ddiddordeb mewn profiad gwaith, lleoliad hyfforddi neu waith / prentisiaeth, mewn amrywiaeth mawr o grefftau adeiladu, cysylltwch â Williams Homes ar: info@williams-homes.co.uk

RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU

Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel. Yr oriau gweithredu nodweddiadol yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm a dyddiau Sadwrn 8am hyd 1pm. Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.

CYSYLLTWCH Â NI

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Penny Lofts (Rheolwr Tir a Chaffael) ar 01678 521781 a fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau all fod gennych. Fel arall, os byddai’n well gennych gysylltu â ni trwy e-bost, ein cyfeiriad yw: info@williams-homes.co.uk

DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn a Williams Homes ar y cyfrynga cymdeithasol @ClwydAlyn @WilliamsHomes_


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.