Tir Hen Ysgol, Ynys Môn - Hydref 2022

Page 1

YNYS MÔN

TIR HEN YSGOL Y BONT YNYS MÔN

Datblygiad sy’n cynnwys 52 o gartrefi newydd fforddiadwy effeithlon o ran ynni, yn cael eu hadeiladu gan Williams Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Ynys Môn a Llywodraeth Cymru. DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD AC EDRYCH YMLAEN

Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda. Bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau mewn camau ac maent ar gyfnodau gwahanol yn y broses ddatblygu. Ar gam 1 mae’r cysylltiadau gwasanaethau (dŵr, draeniad a thrydan) wedi cael eu gwneud a’r gwaith allanol (fel rendro, cladio a thirlunio) yw prif ffocws y gwaith. Ar gam 2, mae’r holl dai yn awr wedi eu hadeiladu. Ar gam 3 (tu ôl i stad Tan Capel), y rhain yw’r tai olaf i’w datblygu. Bydd y 52 cartref wedi eu cwblhau yn haf 2023, gyda cham 1 a 2 o bosibl wedi eu gorffen erbyn hydref 2022.

CLWYDALYN.CO.UK

HYDREF 2022

RHOI YN ÔL I’R GYMUNED

Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’r cynllun yn ymrwymo i roi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio ynddyn nhw mewn amrywiaeth eang o ffyrdd yn unol â’n blaenoriaethau tlodi. A fydd yn ei dro yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau trwy roi cefnogaeth lle mae ei angen, boed hynny yn helpu pobl yn ôl i waith, brwydro yn erbyn bod yn ynysig yn gymdeithasol, cefnogi preswylwyr sydd mewn tlodi tanwydd neu roi mynediad at fwyd maethlon.

EIN CENHADAETH: GYDA’N GILYDD I DRECHU TLODI

Ein blaenoriaethau tlodi:

• • • •

Gwaith, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli (Cynyddu) Tlodi bwyd (lleihau) Tlodi tanwydd (lleihau) Cynhwysiant Digidol (cynyddu)


WILLIAMS HOMES YN HELPU I DACLO TLODI BWYD

Mae Williams Homes wedi chwarae rhan allweddol wrth greu man i ddarparu bwyd sy’n ymdrin â thlodi bwyd a gwastraff bwyd, gan roi yn ôl i’r gymuned trwy gefnogi’r gwaith o sefydlu Bwyd Da Môn. Dywedodd Owain Williams o Williams Homes: “Roedd Williams Homes yn barod iawn i gefnogi datblygu Bwyd Da Môn, prosiect newydd cyffrous sy’n defnyddio bwyd a fyddai fel arall yn mynd i safle tirlenwi i helpu i leddfu tlodi bwyd ar Ynys Môn. Roedd ein Rheolwr Tir a Chaffael yn rhan o’r prosiect o’r dechrau ac wrth ei ddatblygu, ac rydym yn hapus iawn ein bod yn ei chefnogi yn ystod y cyfnod datblygu ac i lunio a gosod cownter i’r diben ar y safle newydd.” www.bwyd-da-mon.org.uk/

CEFNOGI POBL MEWN GWAITH

Mae nifer o brentisiaid ar gamau gwahanol yn eu NVQ gyda Williams Homes. Yn ddiweddar mae David, un o’r prentisiaid wedi gorffen ei brentisiaeth ac mae’n awr wedi cymhwyso fel saer. Da iawn, David!

“ Cychwynnais fy mhrentisiaeth yn Rhagfyr 2020. Roeddwn yn gweithio ochr yn ochr â seiri profiadol yn ogystal â mynd i’r coleg unwaith yr wythnos. Fe wnes i gwblhau fy mhrentisiaeth yng Ngorffennaf 2022 gyda Chymhwyster Lefel 2 NVQ mewn Gwaith Coed. Mae’r profiad wedi rhoi’r wybodaeth sydd arnaf ei hangen i symud ymlaen yn fy ngyrfa gwaith coed yn ogystal â rhagori mewn bywyd”. Ymunodd Nicola â’r tîm ar safle Hen Ysgol y Bont yn ddiweddar, ar ôl cael ei chyfeirio gan MÔN

CF (sy’n cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith). “ Mae’r bobl yma yn Williams Homes yn bleser i weithio hefo nhw. Mae’r diwydiant adeiladu yn amgylchedd newydd i mi, ac rwy’n gwerthfawrogi eu croeso a help pawb yn llwyr. Rwy’n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o redeg swyddfa’r safle.”.

www.moncf.co.uk

AR GYFER PWY FYDD Y CARTREFI YMA?

Cynigir y cartrefi i bobl sy’n byw a gweithio yn yr ardal a byddant yn cael eu dyrannu trwy Gofrestr Tai Ynys Môn. Er mwyn cofrestru, ffoniwch: 01248 750057. Rhoddir blaenoriaeth i bobl sydd ag angen tai dan y Polisi Dyrannu Tai Cyffredin.

RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU

Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel. Yr oriau gweithredu nodweddiadol yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm a dyddiau Sadwrn 8am hyd 1pm. Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu’n gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.

CYSYLLTWCH Â NI

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Penny Lofts (Rheolwr Tir a Chaffael) ar 01678 521781 a fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau all fod gennych. Fel arall, os byddai’n well gennych gysylltu â ni trwy e-bost, ein cyfeiriad yw: info@williams-homes.co.uk

DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn a Williams Homes ar y cyfrynga cymdeithasol @ClwydAlyn @WilliamsHomes_


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.