Mae Eich Barn o Bwys Arolwg o’r Tenantiaid a’r Preswylwyr

Page 1

Mae Eich Barn o Bwys Arolwg o’r Tenantiaid a’r Preswylwyr

Agor Drysau - Gwella Bywydau

Fel un o breswylwyr Clwyd Alyn a Tŷ Glas mae eich adborth yn cyfrif. Mae eich barn yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn cynllunio a chyflawni ein gwasanaethau a gwneud gwelliannau. Yn ystod yr haf, cwblhaodd cwmni ymchwil marchnad annibynnol arolwg ffôn ac ar-lein o 839 o’n preswylwyr tai Anghenion Cyffredinol a Chynlluniau Cysgodol. I’r preswylwyr hynny na chafodd y cyfle i lenwi arolwg gallwch rannu eich Canmoliaeth, Pryderon a Chwynion â ni trwy anfon e-bost at complaints@clwydalyn.co.uk. Os hoffech chi’r cyfle i gael cyfathrebiadau yn y dyfodol trwy neges e-bost neu’r ffôn gallwch ddiweddaru eich manylion cyswllt trwy ddefnyddio’r Porth Preswylwyr neu trwy anfon e-bost at ein Canolfan Gyswllt yn contactcentre@clwydalyn.co.uk. Mae Clwyd Alyn a Chymdeithas Tai Tŷ Glas yn croesawu awgrymiadau i wella ein gwasanaethau a chynnig gwell gwerth am arian i chi ein preswylwyr. Ceisir awgrymiadau yn arbennig sy’n flaengar a buddiol i ni trwy leihau gwastraff ac aneffeithiolrwydd, a chynyddu’r cysylltiad a’r boddhad â gwasanaethau cwsmeriaid. Gall preswylwyr gyflwyno syniad sy’n cynnig gwerth am arian ar unrhyw amser trwy anfon e-bost at vfmsuggestions@pennaf.co.uk. Diolch i bawb a gymerodd ran. Byddwn yn edrych yn fanwl ar yr holl ganlyniadau a’u cymharu â’r arolwg diwethaf fel ein bod yn gwybod ble mae angen i ni wella’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i chi. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys y canlyniadau allweddol ar gyfer Anghenion Cyffredinol a Thai Cysgodol.

Bodlonrwydd ar wasanaethau Anghenion Cyffredinol a Chysgodol BODLONRWYDD AR WASANAETHAU ALLWEDDOL Gwasanaeth Cynnal a Chadw a Thrwsio – Cysgodol Gwasanaeth Cynnal a Chadw a Thrwsio – Anghenion Cyffredinol Gwerth am arian o’r Tâl Gwasanaeth – Cysgodol Gwerth am arian o’r Tâl Gwasanaeth – Anghenion Cyffredinol Gwerth am arian o’r rhent – Cysgodol Gwerth am arian o’r rhent – Anghenion Cyffredinol Cymdogaeth fel lle i fyw – Cysgodol

92.00% 87.00% 79.00% 74.00% 70.00%

88.00%

81.00% 71.00% 91.00% 88.00% 85.00% 83.00% 99.00% 95.00%

Cymdogaeth fel lle i fyw – Anghenion Cyffredinol Ansawdd eich cartref – Cysgodol Ansawdd eich cartref – Anghenion Cyffredinol

88.00% 82.00% 93.00% 94.00% 80.00% 83.00% 2012

2016

Mae’r bodlonrwydd ar ein gwasanaethau allweddol wedi lleihau mewn pedwar o’r pum maes wrth eu cymharu â’r arolwg bodlonrwydd diwethaf a gynhaliwyd yn 2012. Gwelodd yr arolwg bod mwy o fodlonrwydd o ran sawl agwedd yr ydym yn eu trafod yn fanylach isod. Byddwn yn defnyddio eich adborth a’ch sylwadau i wella’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i chi.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.