Byd Brynrefail Hydref 2022

Page 1

UCHELGAIS / AMBITION PARCH / RESPECT DYCNWCH / RESILIENCE Byd Brynrefail Yn y rhifyn yma: / In this edition: Rhifyn 18 Issue 18 Tymor yr Hydref 2022 Autumn Term 2022 ‘Gyda’n gilydd am y copa’

Mae’r ysgol wedi bod ar agor am bymtheg wythnos ers cychwyn y flwyddyn ysgol ar Fedi’r 1af, ac mae’r amser wir wedi hedfan! Mae mor braf gweld digwyddiadau arferol ysgol yn ail ddechrau wedi’r pandemig. Yn sicr, bydd effaith y pandemig ar unigolion ac yr gymuned yn gyffredinol yn parhau am flynyddoedd i ddod. Mae pob ysgol yn gweld fod mwy o ddisgyblion angen mwy o gymorth, a bod effaith wedi bod ar lefelau presenoldeb ac ar iechyd meddwl nifer gynyddol o’n disgyblion. Ond drwy weithio gyda’n gilydd rydym yn ffyddiog y gallwn ymateb i’r her yma.

Ymhlith uchafbwyntiau’r tymor oedd gweld yr Eisteddfod Ysgol a Pharti Pendalar yn cael eu cynnal am y tro cyntaf ers tair blynedd. Uchafbwynt arall oedd gweld y brif neuadd a’r neuadd chwaraeon yn atsain gyda’r disgyblion yn bloeddio canu’r anthem genedlaethol wrth baratoi i wylio gem Cymru yng nghwpan y byd. Ddywedai ddim mwy am y gem na’r canlyniad!

Mae’r ysgol yn llawn dop ar hyn o bryd gydag 800 o ddisgyblion ac mae’r nifer fynychodd ein Noson Agored ym mis Tachwedd yn awgrymu y bydd blwyddyn fawr yn ymuno gyda ni fis Medi nesa eto. Roedd yn braf iawn croesawu disgyblion o chwe ysgol gynradd y dalgylch wrth iddyn nhw dreulio cyfnod gyda ni yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol Iechyd a Lles a Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Wrth gwrs fel pob ysgol rydym yn awyddus i wneud gwelliannau i’n gwaith bob dydd a bydd sylw penodol yn cael ei roi eleni i;-

• gryfhau’r cymorth ar gyfer cefnogi Iechyd a Lles ein disgyblion

• cyflwyno’r cwricwlwm newydd gan ddatblygu sgiliau digidol, llythrennedd a rhif y disgyblion

Braf hefyd oedd gweld ein disgyblion ni yn cydweithio gyda disgyblion Ysgolion Cynradd Dolbadarn a Bethel ar brosiect GwyrddNi yn trafod datrysiadau er mwyn gwarchod ein bro rhag mwy o effaith dinistriol newid hinsawdd. Bu nifer o glybiau amser cinio yn cael eu cynnal; yn cynnwys rhai oedd yn cael eu cynnal gan y Chweched Dosbarth fel rhan o’u gwaith Bagloriaeth Cymru.

Gwych oedd gweld disgyblion Blwyddyn 10 yn trefnu Ffair Dolig ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 ac 8 fel rhain o waith Menter ar gyfer y Bac. Cafodd yr arfer o gynnal Dyddiau Sgiliau ei ail gychwyn a chafwyd diwrnod amrywiol iawn gyda bwrlwm a chyffro yn amlwg o amgylch yr ysgol.

Rydw i’n awyddus iawn i gryfhau’r berthynas gyda rhieni a byddwn yn awyddus iawn i glywed gennych os oes gennych ddiddordeb cyfrannu i grwp ffocws rhieni yn fuan yn 2023. Gallwch gofrestru ar gyfer hynny drwy ddilyn y linc isod neu sganio’r cod QR;-

https://forms.gle/MdAR1kjbfZfNwyc59

Rydym hefyd yn awyddus i wybod eich barn am y ffordd rydym yn defnyddio Satchel:One. Y bwriad ydy rhannu mwy o wybodaeth gyfredol gyda chi am sut mae eich plentyn yn perfformio yn yr ysgol. Gallwch roi eich barn drwy glicio isod neu sganior cod QR;-

https://forms.gle/CjTTyxHjmCDmN2vQ9

Cofiwch fod modd i chi gysylltu gyda ni unrhyw bryd os ydych yn bwriad trafod unrhyw fater gyda ni. Diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth a nadolig llawen iawn i chi i gyd!

Gair gan y Pennaeth / A word form the Headteacher UCHELGAIS / AMBITION Annwyl Rieni / Warchedwaid
1
Arwyn Williams Pennaeth Esteddfod Ysgol / School Eisteddfod Parti Pendalar / Pendalar Party Clwb Garddio / Gardening Club Ffair Nadolig / School Fair Diwrnod Sgiliau / Skills Day Diwrnod Sgiliau / Skills Day

Dear Parents / Guardians

The school has been open for fifteen weeks since the start of the year on September 1st, and the time has really flown by! It's great to see activities and events starting to get back to normal following the pandemic. The impact of the pandemic on individuals and the community in general will certainly continue for years to come. All schools are seeing that more pupils need more support, and that there has been an impact on attendance levels and the mental health of an increasing number of our pupils. But by working together we can be confident that we can rise to this challenge.

This term’s highlights included seeing the return of ‘Parti Pendalar’ and the school Eisteddfod for the first time in three years. Another highlight was seeing the main hall and sports full to capacity with the pupils singing the national anthem with conviction in preparation to watch Wales in the World Cup. Least said the better about the game and the result!

The school is currently full to capacity with 800 or so pupils, and the attendance at our Open Evening in November suggests that a large year group will be joining us next September again. It was really nice to welcome pupils from the six primary schools in our catchment area. They spent time with us taking part in practical and hands-on activities in Health and Wellbeing and Science and Technology.

As with all schools, we intend to make improvements to our daily work this year and particular attention will be given to;

• Develop the provision to support the Health and Wellbeing of our pupils

• Introducing the new ‘Curriculum for Wales’ developing pupils’ digital, literacy and number skills.

It was also great to see our pupils working with pupils from Ysgol Dolbadarn and Ysgol Bethel Primary on the GwyrddNi project, discussing solutions to protect our local area from the devastating impact of climate change. A number of lunchtime clubs were held, including some run by the Sixth Form as part of their Welsh Baccalaureate work.

It was great to see Year 10 pupils organising a Christmas Fair for year 7 and 8 pupils as part of their Enterprise Challenge for the Bac. Skills Days was re-started and we had a very varied day with a noticeable buzz and excitement around the school.

I am very keen to strengthen the relationship with parents and I would like to hear from you if you are interested in joining a parent focus group that will meet early in 2023. You can register for that by following the link below or by scanning the QR Code;-

https://forms.gle/MdAR1kjbfZfNwyc59

We're also keen to know your thoughts on how we use Satchel One. The intention is to share with you more up-to-date information about how your child is performing in school. You can give your opinion by clicking below or by scanning the QR Code;-

https://forms.gle/CjTTyxHjmCDmN2vQ9

Cofiwch fod modd i chi gysylltu gyda ni unrhyw bryd os ydych yn bwriad trafod unrhyw fater gyda ni. Diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth a nadolig llawen iawn i chi i gyd!

Gair gan y
/ A word form
UCHELGAIS / AMBITION
Pennaeth
the Headteacher
2
Esteddfod Ysgol / School Eisteddfod Parti Pendalar / Pendalar Party Clwb Garddio / Gardening Club Ffair Nadolig / School Fair Diwrnod Sgiliau / Skills Day Diwrnod Sgiliau / Skills Day

Roedd hi’n hynod o braf eleni cael ail afael yn yr arferiad o gynnal Noson Wobrwyo i ddathlu llwyddiannau disgyblion TGAU a Lefel A yn yr haf. Wedi dwy flynedd o fethu cyfarfod yn neuadd yr ysgol i gynnal nosweithiau o’r math yma ar Fedi’r pymthegfed cawsom noson fendigedig i longyfarch yn gynnes iawn nifer fawr o’n disgyblion. Yr oedd pawb a safodd arholiadau llynedd yn haeddu eu llongyfarch am eu camp yn dilyn dwy flynedd mor anodd o ganlyniad i’r cyfnodau clo. Rhoddwyd clod arbennig i’r disgyblion hynny oedd wedi ennill graddau A* ac A yn eu harholiadau TGAU a Lefel A. Yn ychwanegol at hyn roedd pob adran wedi enwebu un disgybl i ennill gwobr cynnydd ac un i dderbyn gwobr safon yn eu pwnc ar lefel TGAU a Safon Uwch. Llongyfarchiadau i’r disgyblion hyn oll am ganlyniadau arbennig a dymuniadau gorau i’r rhai hynny sydd bellach wedi cychwyn ar eu cyrsiau coleg a phrifysgol a phrentisiaethau gwahanol. Cofiwch bod croeso nôl yma i chi yn Ysgol Brynrefail unrhyw bryd.

We were very glad this year to get back to the practice of holding our annual Awards Evening to celebrate the successes of our GCSE and A Level pupils during the summer. After two years of failing to meet in the school hall to hold this type of event we had a wonderful evening on the 15th of September to congratulate a large number of our pupils. Everyone who sat exams last year deserved to be congratulated for their achievement following two difficult years as a result of the lockdown periods. Special praise was given to those pupils who had achieved A* and A grades in their GCSE’s and A Level examinations. In addition to this, each department had nominated one pupil to win a progress award and one to receive a standard award in their subject at GCSE and A level.

Congratulations to all these pupils for their exceptional results and best wishes to those who have now started their college and university courses and different apprenticeships. Remember that you are welcome back here at Ysgol Brynrefail at any time.

UCHELGAIS / AMBITION
3 Noson Wobrwyo / Awards Evening

Wedi mis o etholiadau yn ystod Medi ar bob lefel yn yr ysgol penodwyd dau gynrychiolydd i bob dosbarth, deuddeg o gynrychiolwyr i bob blwyddyn ac unarbymtheg o aelodau i’r Cyngor Ysgol. Ers blwyddyn bellach rydym wedi ehangu’r cyfle i wrando ar lais y dysgwyr yn Ysgol Brynrefail trwy greu pedwar pwyllgor atebol i’r Cyngor Ysgol sy’n trafod materion hollbwysig i fywyd yr ysgol. Y pwyllgorau hyn yw’r Pwyllgor Lles, Cymuned, Cydraddoldeb ac Addysg. Bydd y pwyllgorau hyn, cynghorau dosbarth a blwyddyn yn ogystal a’r Cyngor Ysgol ei hun yn cyfarfod yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn i sicrhau bod barn disgyblion yn cael ei glywed yn glir. Yn y llun fe welwch aelodau’r Cyngor Ysgol eleni yn dilyn eu cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd ar Hydref 13eg.

After a month of elections during September at all levels in the school, two representatives were appointed for each class, twelve representatives for each year and eleven members for the School Council. For a year now we have expanded the opportunity to listen to the voice of the learners at Ysgol Brynrefail by creating four committees that are answerable to the School Council which discuss issues crucial to the life of the school. These committees are the Welfare, Community, Equality and Education Committee. These committees, class and year councils as well as the School Council itself meet regularly during the year to ensure that pupils' views are heard. In the photo you will see this year's School Council members following their first meeting held on the 13th of October.

PARCH / RESPECT 4
Cyngor Ysgol 2022-23/ School Council 2022-23

/

Macmillan Coffee Morning

Bellach mae gennym ddwy ardd yn Ysgol Brynrefail ac mae’r ffordd maent wedi datblygu dros y misoedd diwethaf yn gyffrous iawn. Mae gennym arddwyr brwdfrydig a llwyddiannus yma yn amlwg. Yn yr Hydref cafwyd cnwd da o foron a thomatos o ardd yr ysgol a rannwyd i rai staff a disgyblion. Yn y llun fe welwch Alfie o flwyddyn 7 oedd wrth ei fodd hefo’r cawl moron wnaeth o goginio adref hefo moron gardd Brynrefail! Mae blwyddyn 7 ac 8 yn enwedig yn mwynhau dod i’r Clwb Garddio ar amser cinio unwaith yr wythnos. Rydym yn edrych ymlaen i ddatblygu’r ardd ymhellach y flwyddyn nesaf trwy blannu coed ffrwythau yma hefyd.

We now have two gardens at Ysgol Brynrefail and the way they have developed over the last few months is very exciting. We clearly have enthusiastic and successful gardeners here. In the Autumn there was a good crop of carrots and tomatoes from the school garden which were distributed to some of our staff and pupils. In the picture you will see Alfie from year 7 who was delighted with the carrot soup he cooked at home with carrots from the Brynrefail garden! Year 7 and 8 especially enjoy coming to the Gardening Club at lunchtime once a week. We are looking forward to developing the garden further next year

PARCH / RESPECT
Bore Coffi Macmillan Llongyfarchiadau i ddisgyblion Agored Cymru Bl.11 ar gynnal arwerthiant cacennau gwerth chweil ar gyfer Bore Coffi Macmillan ar ddiwedd Medi. Fe wnaethant gydweithio’n dda fel tim er mwyn trefnu’r digwyddiad. Llwyddwyd i godi £168 tuag at yr elusen drwy bobi amrywiaeth o gacennau a'u gwerthu yn ystod amser egwyl yn yr ysgol. Congratulations to the Year 11 Agored Cymru pupils for holding a cake sale for the Macmillan Coffee Morning at the end of September. They worked effectively as a team to organize the event. They managed to raise £168 towards the charity by baking a variety of cakes and selling them during break time at school. by planting fruit trees as well.
5
Gardd Ysgol Brynrefail yn mynd o nerth i nerth!/ Ysgol Brynrefail's garden is going from strength to strength!

Dangos y

/ Show Racism the Red Card Day

Mae cefnogi Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn hen arfer gennym bellach yn Ysgol Brynrefail. Cafwyd cyfle i bawb gefnogi trwy wisgo coch ar ddydd Gwener Hydref 15. Rydym yn cefnogi’r elusen yma yn flynyddol gan ein bod yn ysgol sydd yn erbyn unrhyw fath o ragfarn tuag at bobl ac yn yr achos yma yn gwrthwynebu hiliaeth o unrhyw fath. Diolch i’r holl disgyblion am gefnogi’r diwrnod pwysig yma. Rydym yn falch ein bod wedi codi £420 ar y diwrnod i gefnogi’r elusen yma sy’n gweithio i sicrhau bod pob person waeth bynnag beth fo lliw ei groen yn cael ei drin yn deg ac â pharch bob amser.

Ar yr un diwrnod daeth Ameer o Hansh draw atom i gynnal gweithdy gyda disgyblion blwyddyn 8 ar faterion yn ymwneud â hiliaeth hefyd – mwynhaodd y disgyblion y sesiynau yn fawr.

We have a longstanding practice of supporting Show Racism the Red Card at Ysgol Brynrefail. There was an opportunity for everyone to support by wearing red on Friday October 15th. We support this charity annually as we are a school that is against any kind of prejudice towards people and in this case oppose racism of any kind.

Thank you to all the pupils for supporting this important day. We are proud to have raised £420 to support this charity which works to ensure that every person regardless of the colour of their skin is always treated fairly and with respect.

On the same day, Ameer from Hansh came over to hold a workshop with our year 8 pupils where they discussed issues related to racism - the pupils really enjoyed the sessions.

Yn y llun fe welwch Begw Elain Roberts o flwyddyn 13, fu'n rhan o ddiwrnod go arbennig ym mis Hydref. Roedd

yng Nghwpan y Byd yn ddiweddar ar Radio Cymru a Radio Wales. Nod y diwrnod oedd annog mwy i ddilyn ôl ei throed. Da iawn Begw!

In the picture you will see Begw Elain Roberts from year 13, she was part of a special day in October. She was part of the Golwg 360 sports panel together with one of Ysgol Brynrefail's other successful former pupils, Malcolm Allen. Begw is now an old hand at commentating and reporting on sporting events, I'm sure you've heard her discuss the Welsh women's football team and Wales' performances in the World Cup recently on Radio Cymru and Radio Wales. The aim for the day was to encourage more to follow in her footsteps. Well done Begw!

UCHELGAIS / AMBITION
6
Diwrnod Cerdyn Coch i Hiliaeth yn rhan o banel chwaraeon Golwg 360 ar y cyd gydag un o gyn-ddisgyblion eraill llwyddiannus Ysgol Brynrefail, Malcolm Allen. Mae Begw'n hen law bellach ar sylwebu a gohebu ar ddigwyddiadau chwaraeon, mae’n siwr eich bod wedi ei chlywed yn trafod tim pel-droed merched Cymru a pherfformiadau Cymru Gohebydd Chwaraeon Addawol yn yr Ysgol! / Promising Sports Reporter at School!

Ar y dydd Mercher olaf ond un cyn gwyliau’r hanner tymor cawsom ddiwrnod prysur iawn yn Ysgol Brynrefail. Roedd Hydref 19ain, sef diwrnod sgiliau cyntaf y calendr ysgol, yn ddiwrnod llwyddiannus, hwyliog a phrysur. Cyfrifoldeb myfyrwyr Blwyddyn 12 oedd paratoi diwrnod o weithgareddau i Flwyddyn 7 fel rhan o’r gwaith Bac. Eu briff oedd datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd y disgyblion mewn modd hwyliog a bywiog. Gweithiodd y myfyrywr yn galed iawn drwy’r dydd yn cynnal gweithgareddau hynod greadigol fel ‘Murder Mystery’, drama a chwarae rôl ar thema Calan Gaeaf, helfa drysor a saethu ‘nerf guns’! Mwynhaodd y disgyblion yn fawr iawn gan roi adborth cadarnhaol iawn i’r 6ed.

Drama a pherfformio oedd thema diwrnod Blwyddyn 8 a chafodd y disgyblion nifer o wahanol brofiadau yn y maes Celfyddydau Mynegiannol - maes pwysig iawn sy’n codi hyder a rhoi cyfle i ddisgyblion fynegi eu hunain yn greadigol. Daeth Iola a Chloe atom o gwmni dawns Hudoliaeth; roedd cyfle i fod yn rhan o weithdy roc yn y Melody; roedd cyfle i greu fidios meimio i ganeuon enwog a chyfle i ddysgu mwy am ‘Shakespearean Insults’. Ar ddiwedd y dydd daeth pawb at ei gilydd yn y neuadd chwaraeon i wylio rhai perfformiadau.

Cafodd Blwyddyn 9 ddiwrnod o weithgareddau STEMC sef maes dysgu Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Cyfrifiadureg. Roedd tri gweithgaredd yn y cylchdroi yn ystod y dydd sef rasio Formiwla 1, Lego Mindstorms ac arfbrofion gwyddonol.

Gyrfaoedd a beth i’w wneud nesaf oedd thema’r diwrnod i ddisgyblion Blwyddyn 10. Dyma gyfle pwysig i’r disgyblion ddechrau meddwl am beth maen nhw eisiau ei wneud yn y dyfodol a chael blas ar wahanol swyddi sydd allan yna yn yr ardal leol a thu hwnt. Diolch i Gyrfa Cymru am gydweithio gyda’r ysgol i sicrhau profiadau gwerthfawr iddynt.

Cafodd disgyblion Blwyddyn 11 ddiwrnod i ganolbwyntio ar sut i adolygu’n llwyddiannus. Fe rannodd rai o athrawon a myfyrwyr Blwyddyn 12 dechnegau adolygu gyda nhw ac roedd gweithdai yoga, bwyta’n iach a chwarae ar gastell neidio wedi eu trefnu iddynt hefyd. Mae hon yn flwyddyn allweddol i’r disgyblion ac mae cael y balans rhwng gweithio’n galed yn academaidd ac edrych ar ôl eu hunain yn feddyliol ac yn gorfforol yn hollbwysig er mwyn gallu llwyddo yn eu arholiadau. Mae hon yn flwyddyn gwbl allweddol i fyfyrwyr Blwyddyn 13 felly roedd cyfle iddynt barhau gyda’r ymchwil unigol, sy’n cyfri am hanner eu gradd Bac, a chyfle i gefnogi disgyblion iau mewn gweithgareddau ar draws yr ysgol. Roedd cyfraniad nifer ohonynt yn allweddol i lwyddiant y diwrnod a’r athrawon a’r disgyblion iau yn gwerthfawrogi cefnogaeth y rhai a ddaeth i helpu. Rydym yn gobeithio felly bod diwrnod sgiliau cyntaf Ysgol Brynrefail wedi bod yn ddiwrnod buddiol a chofiadwy i’r disgyblion.

PARCH / RESPECT

7 Diwrnod Sgiliau - Hydref 2022/ Skills day – October 2022

On the penultimate Wednesday before the half term holidays we had a very busy day at Ysgol Brynrefail. October 19th, the first skills day in the school calendar, was a successful, fun and busy day. It was the responsibility of Year 12 students to prepare a day of activities for Year 7 as part of the BAC work. Their brief was to develop the pupils' literacy and numeracy skills in a fun and lively way. The student worked very hard all day carrying out highly creative activities such as 'Murder Mystery', drama and role play on a Halloween theme, a treasure hunt and shooting 'nerf guns'! The pupils enjoyed it very much and gave very positive feedback to the 6th form students.

Drama and performing was the theme of the Year 8 day and the pupils had a number of different experiences in the area of Expressive Arts - a very important area which raises confidence and gives pupils the opportunity to express themselves creatively. Iola and Chloe came to us from Hudoliaeth dance company; there was an opportunity to be part of a rock workshop at the Melody; there was an opportunity to create mime videos to famous songs and an opportunity to learn more about 'Shakespearean Insults'. At the end of the day everyone came together in the sports hall to watch some performances.

Year 9 had a day of STEMC activities which is the learning area of Science, Technology, Engineering, Mathematics and Computing. There were three activities in the rotation during the day which were Formula 1 racing, Lego Mindstorms and scientific experiments.

Careers and what to do next was the theme of the day for Year 10 pupils. This is an important opportunity for the pupils to start thinking about what they want to do in the future and get a taste of the different jobs that are out there in the local area and beyond. Thank you to Careers Wales for working together with the school to ensure valuable experiences for them.

Year 11 pupils had a day to focus on how to review successfully. Some Year 12 teachers and students shared revision techniques with them and yoga, healthy eating and playing on a bouncy castle workshops were also organized for them. This is a key year for the pupils and having the balance between working hard academically and looking after themselves mentally and physically is crucial in order to succeed in their exams. This is an absolutely key year for Year 13 students so there was an opportunity for them to continue with the individual research, which counts for half of their BAC qualification, and an opportunity to support younger pupils in activities across the school. The contribution of many of them was key to the success of the day and the teachers and younger pupils appreciated the support of those who came to help. We therefore hope that Ysgol Brynrefail's first skills day has been a beneficial and memorable day for the pupils.

PARCH
/ RESPECT
8 Diwrnod Sgiliau - Hydref 2022/ Skills day – October 2022

Ar Hydref y deunawfed aeth Pwyllgor Cymuned yr ysgol ar ymweliad arbennig â gwahanol fannau yn yr ardal sydd yn gwneud gwaith da yn ymgeisio i ddatrys rhai problemau amgylcheddol. Trefnwyd y diwrnod gwerth chweil mewn partneriaeth gyda GwyrddNi. Cafwyd ymweliadau cofiadwy â Thyddyn Teg ger Bethel, Caban Brynrefail, Pen Llyn ac Ynni Padarn Peris. O ganlyniad i’r ymweliadau bydd y Pwyllgor Cymuned yn eu cyfarfod nesaf yn meddwl am ddefnyddio rhai o'r syniadau a welwyd heddiw fel datrysiadau yn ein hysgol ni.

On October the eighteenth the school's Community Committee went on a special visit to different places in the area that are working to try and solve some environmental problems. The worthwhile day was organised in partnership with GwyrddNi. There were memorable visits to Tyddyn Teg near Bethel, Caban Brynrefail, Pen Llyn and Ynni Padarn Peris. As a result of the visits the Community Committee will at their next meeting think about using some of the ideas seen today as solutions in our school.

UCHELGAIS / AMBITION
9 GwyrddNi / GwyrddNi

6 Transition Visits

Roedd hi’n hynod o braf cael croesawu disgyblion blwyddyn 6 atom yn nhymor yr Hydref am y tro cyntaf ers tair blynedd.

Ar ddydd Mercher y 15fed o Dachwedd a dydd Iau 16eg daeth criwiau blwyddyn 6 o Ysgol Waunfawr a Ysgol Dolbadarn i ymweld â’r ysgol. Roedd dau weithgaredd iechyd a lles wedi eu paratoi ar eu cyfer. Yn yr Adran Addysg Gorfforol cawsant gyfle i gydweithio wrth gyfeiriannu a gwneud cysylltiad rhwng egni a siwgr mewn diodydd. Wrth symud wedyn i'r adran Bwyd a Maeth cawsant gyfle i flasu a chreu diodydd egni iach eu hunain yn ogystal â dysgu am effeithiau mae diodydd sydd gyda gormod o siwgr a chaffin ynddynt yn ei gael ar y corff.

O ddydd Gwener yr 17eg tan ddydd Mercher yr 22ain daeth ysgolion cynradd Llanrug, Bethel, Penisarwaun a Gwaun Gynfi draw atom. Cawsant hwy gyfle i wneud gweithgareddau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ystod y bore lle roeddan yn cael y cyfle i ddylunio a lansio rocedi allan o boteli plastig ac i gynnal arbrawf past dannedd eliffant. Roedd pawb wedi mwynhau a chael hwyl, ac rydym yn edrych ymlaen i'ch croesawu yma ym Mis Medi!

It was extremely nice to welcome year 6 pupils to us in the autumn term for the first time in three years.

On Wednesday the 15th of November and Thursday the 16th year 6 groups from Ysgol Waunfawr and Ysgol Dolbadarn came to visit the school. Two health and wellness activities had been prepared for them. In the Physical Education Department they had the opportunity to work together in orienting and making a connection between energy and sugar in drinks. Moving then to the Food and Nutrition department they had the opportunity to taste and create their own healthy energy drinks as well as learning about the effects that drinks with too much sugar and caffeine have on the body.

From Friday the 17th until Wednesday the 22nd Llanrug, Bethel, Penisarwaun and Gwaun Gynfi primary schools came over to us. They had the opportunity experience Science and Technology activities during the morning where they looked at designing and launching their own rockets made out of plastic bottles and took part in an experiment to create some elephant toothpaste. Everyone enjoyed and had fun, and we look forward to welcoming you back in September!

UCHELGAIS / AMBITION
10
6 / Year
Ymweliadau Pontio blwyddyn

Mewn Angen / Children in Need

Aethom ati yn brysur fel ysgol i gasglu arian i Blant Mewn Angen yn ôl yr arfer. Roedd y diwrnod yn fodd i’r staff a’r disgyblion gael ychydig o hwyl wrth wisgo gwisg ffansi yn ystod y dydd. Felly ar ddydd Gwener, Tachwedd 18fed creodd sawl aelod o staff a disgyblion y chweched dosbarth dipyn o gynnwrf a hwyl oherwydd eu gwisgoedd doniol!

Penderfynodd staff yr adran Gymraeg wisgo fel cymeriadau o wahanol nofelau Cymraeg fel ‘Cywion Uffern’ gan Sonia Edwards. Eleni gwisgodd staff yr adran Wyddoniaeth fel cymeriadau gêm Nintendo Mario a gwisgodd staff yr adran Saesneg fel plismyn a lladron! Cymeriadau o America oedd yr adran Ddyniaethau ac un cymeriad, sef Donald Trump yn codi braw ar bawb! Chwarae teg i’r chweched dosbarth a wnaeth ymdrech hefyd yn eu gwisgoedd James Bond, tylwyth teg a’u pyjamas! Roedd y disgyblion wrth eu boddau a chasglwyd swm anrhydeddus o £480 tuag at yr achos arbennig yma. Diolch i’r holl staff a ddaeth yn eu gwisgoedd ffansi ac i bawb a gyfrannodd ar y diwrnod.

We set about busy as a school to collect money for Children in Need as usual. The day was a way for the staff and pupils to have some fun while wearing fancy dress during the day. So on Friday, November 18th several members of staff and sixth form pupils created quite a stir and fun because of their funny costumes!

The Welsh department staff decided to dress up as characters from different Welsh novels such as 'Cywion Uffern' by Sonia Edwards. This year the Science department staff dressed as Nintendo Mario game characters and the English department staff dressed as policemen and robbers! The Humanities section was made up of characters from America and one character, Donald Trump, terrorized everyone! Fair play to the sixth form who also made an effort in their James Bond costumes, fairies and pyjamas! The pupils were delighted and a respectable sum of £480 was collected towards this special cause. Thank you to all the staff who came in their fancy dress and to everyone who contributed on the day.

UCHELGAIS / AMBITION
11
Plant

Mae Ynys Blastig yn falch o’r cyfle i weithio ar brosiect Cylchdro mewn partneriaeth gyda’r Urdd a Chyngor Gwynedd trwy nawdd Y Loteri Cenedlaethol wedi ei ddosbarthu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Bwriad Cylchdro yw cydweithio yn greadigol gyda merched ifanc i greu adnoddau digidol sy’n dathlu a hyrwyddo merched mewn pêl-droed gan ystyried effaith y mislif ar hynny. Gyda Chwpan y Byd 2022 yn cael ei gynnal dros 28 diwrnod, rydym am ddathlu llwyddiant Y Wal Goch o berspectif merched sy’n chwarae pêl-droed a’u cylchdro misol.

Rydym am annog trafodaeth gonest, diogel ac agored er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth merched o’u cyrff a chefnogi eu llesiant. Byddwn yn cynnal gweithdai creadigol wyneb yn wyneb ac ar lein gan sicrhau bod y cynnwys yn briodol o ran oed ac yn cyd-fynd â Pholisi Amddiffyn a Diogelu Plant Ynys Blastig. Bydd cynnyrch y gweithdai yn cael eu defnyddio o fewn yr adnoddau , a hynny yn ddi-enw, er mwyn annog trafodaeth gonest a chadarnhaol am effaith y mislif ar fywydau merched. Caiff yr adnoddau eu rhannu gyda ysgolion, clybiau pêl-droed a chymdeithasau yn genedlaethol ac yn y Gymraeg.

Cafodd gweithdai creadigol eu cynnal gan Iola Ynyr yma yn Ysgol Brynrefail gyda merched blynyddoedd 8 – 12 sy’n chwarae pel-droed yn cyflwyno ysgrifennu creadigol a chelf gweledol. Mwynhaodd pawb a gymerodd ran y gweithdy a diolch i Iola am ddod atom i’w cynnal.

Ynys Plastig is proud of the opportunity to work on the Cylchdro project in partnership with the Urdd and Gwynedd Council through the sponsorship of The National Lottery distributed by the Council.

Cylchdro's intention is to collaborate creatively with young women to create digital resources that celebrate and promote women in football, taking into account the effect of menstruation on that. With the 2022 World Cup taking place over 28 days, we want to celebrate the success of Y Wal Goch from the perspective of women who play football and their monthly rotation.

We want to encourage honest, safe and open discussion in order to promote women's understanding of their bodies and support their well-being. We will hold creative face-to-face and online workshops ensuring that the content is age appropriate and in line with Ynys Plastig's Child Protection and Safeguarding Policy. The products of the workshops will be used within the resources, anonymously, in order to encourage an honest and positive discussion about the impact of menstruation on women's lives. The resources are shared with schools, football clubs and associations nationally and in the Welsh language.

Creative workshops were held by Iola Ynyr here at Ysgol Brynrefail with girls from years 8 - 12 who play football presenting creative writing and visual art. Everyone who took part enjoyed the workshop and thank Iola for coming to us to host it.

PARCH /
12
RESPECT
Cylchdro - Merched, mislif a phêl-droed / Cylchdro - Women, menstruation and football

World Cup

Ar ôl 64 o flynyddoedd hir o ddisgwyl i Gymru ennill lle yn gwpan y byd pêl droed roedd hi yn amser i gefnogir tîm wrth iddyn nhw gystadlu yn Qatar. Gyda’r gystadleuaeth wedi cychwyn roedd hi yn wych allu wylio a chefnogi Cymru fel ysgol wrth iddyn nhw chwarae yn erbyn Iran. Er y sgôr siomedig roedd hi yn brofiad anhygoel o allu cefnogi’r tîm gydag ein gilydd.

After a long 64 years of waiting for Wales to qualify for the football world cup it was time to support the team as they competed in Qatar. With the competition having started it was great to be able to watch and support Wales as a school as they played against Iran. Despite the disappointing score it was an amazing experience to be able to support the team together as a school.

PARCH / RESPECT 13 Cwpan y Byd /

Blwyddyn 10/ Year 10 Christmas Fair

Fel rhan o’u gwaith tuag at y Fagloriaeth Gymreig bu blwyddyn 10 yn brysur iawn yn ystod mis Tachwedd yn trefnu y Ffair Nadolig sydd yn rhan o’r her Fentergarwch. Dewiswyd Tŷ Gobaith fel yr elusen i’w chefnogi a gwerthfawrogodd y disgyblion y cyfle i gael bod yn rhan o’r bartneriaeth hon rhyngddynt hwy a Thŷ Gobaith. Cafodd blwyddyn 7 ac 8 fwynhau’r Ffair. Roedd y Neuadd yn fwrlwm hapus a nadoligaidd iawn!

Llongyfarchiadau mawr i flwyddyn 10, roedd sgiliau a doniau’r holl flwyddyn ar waith. Braf iawn oedd cael cynnal y Ffair eto! Llwyddwyd i gasglu’r swm anrhydeddus o £922.86 tuag at Tŷ Gobaith.

As part of their work towards the Welsh Baccalaureate, year 10 were very busy during November organising the Christmas Fair which is part of the Entrepreneurship challenge. Tŷ Gobaith was chosen as the charity to support and the pupils appreciated the opportunity to be part of this partnership between them and Tŷ Gobaith. Year 7 and 8 enjoyed the Fair and the school hall had a very happy and Christmassy buzz!

Congratulations to year 10, the skills and talents of the whole year were obvious during the day. It was great to host the Fair once again! We also managed to collect a sum of £922.86 towards Tŷ Gobaith

UCHELGAIS /
AMBITION
14
Ffair Nadolig

Barn y disgyblion

Eisteddfod Brynrefail 2022. Wel, lle i gychwyn?! Cafodd y cystadleuwyr ddigonedd o hwyl yn ymarfer ar gyfer cystadlaethau canu, adrodd, actio, chwarae offeryn a dawnsio o flaen llaw gyda’u tai a mynd ar nerfau’r capteiniaid druan! Gobeithio cafodd y gynulleidfa ddiwrnod bythgofidawy hefyd. Yn ystod y dydd roedd llawer o gystadlu i’n cadw ni’n brysur, gan gynnwys unawd, cân ysgafn, sgets, llefaru unigol a mynydd o berfformiadau anhygoel gan unigolion buddugol yn y cystadlaethau offerynol blwyddyn 7 i 9. Er ei fod yn ddiwrnod hir, roedd pawb yn dal yn llawn egni yn y nos i roi popeth (a weithiau gormod os wnaethoch golli’ch llais) i fewn i’r llefaru, corau, chwarae offerynau a seremoni’r orsedd. Yn sicr, uchafwbynt yr Eisteddfod oedd gweld hogiau hŷn yr ysgol mewn ffrogiau del, yn cael ei ddilyn yn agos gan gyfarfod neb llai na James Bond Brynrefail ei hun! Eilian oedd y tŷ buddugol ar ôl yr adloniant i gyd, a chlowyd yr Eisteddfod yn galonog efo ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn cael ei floeddio dros y lle Gobeithio bydd Eisteddfod y flwyddyn nesaf yr un mor fyrlymus, a gobeithio mai Elidir fydd yn fuddugol!

Llyr Elwyn

Digwyddodd rhywbeth anhygoel ar Ddydd Iau, y pymthegfed o Ragfyr…. Eisteddfod Ysgol Brynrefail! Yr Eisteddfod gyntaf mewn tair blynedd! Nid yw’r eisteddfod hon fel eisteddfod arferol, ddiflas gyda ymarfer diddiwedd - na, mae hon yn wahanol. Mae pwyslais Eisteddfod Ysgol Brynrefail ar gael hwyl a mwynhau (rhywbeth a wnaeth y bechgyn hŷn yn arbennig – yn dawnsio o flaen yr ysgol gyfan mewn ‘crop tops’!)

Er gwaetha’r ‘crop tops’, mae angen rhoi diolch mawr i ddisgyblion y chweched dosbarth, am wythnosau o waith cyn y diwrnod mawr, i drefnu’r digwyddiad holl bwysig hwn. Yn ogystal a’n helpu ni i baratoi ar gyfer y cystadlaethau, i’r pwynt lle’r oedd rhai wedi colli eu lleisiau!

Roedd nifer o’r cystadlaethau yn y prynhawn gan gynnwys unawdau offerynol a lleisiol, partion canu, a dawnsio disgo. Gyda’r nos cafwyd seremoni gadeirio, y partion llefaru ac uchafbwynt yr eisteddfod - y corau. Canwyd ‘Yma o Hyd’ gan gorau y pedwar tŷ, ond Gwyrfai ddaeth yn fuddugol.

Llongyfarchiadau mawr i Eilian am ddod yn fuddugol yn yr Eisteddfod gyda sgor sylweddol o dros fil dau gant, a’r holl ddisgyblion a gymerodd ran. Gobeithio y bydd mwy fyth o ddisgyblion yr ysgol yn cymryd rhan y flwyddyn nesaf i wneud yr Eisteddfod hyd yn oed yn fwy llwyddiannus.

Mati Roberts

Roedd Eisteddfod Ysgol Brynrefail yn anhygoel! Roedd hi’n wych gweld y plant i gyd yn dod at ei gilydd er mwyn dangos i bawb beth roedd yr ysgol yn gallu ei wneud. Fesul tŷ daeth y plant ar y llwyfan i gystadlu ar gyfer ennill pwyntiau tuag at eu tŷ; Eilian, Gwyrfai, Eryri neu Elidir. Roedd gwylio’r disgyblion yn cael hwyl dros yr wythnosau yn ymarfer a’u gwylio nhw yn cystadlu ar yr llwyfan yn werth ei weld. Cystadlaethau, côr, partiôn merched a bechgyn, unawdau a hyd yn oed pefformiadau offerynnol cerddorol.

Mae’r amrywiaeth o bethau rydych yn gallu wneud yn anferth ac mae yna rywbeth at ddant pawb. Un o uchafbwyntiau’r dydd pawb oedd y parti iaith dramor. Roedd gwylio’r disgyblion yn canu ‘Waka Waka’ yn anhygoel ac roedd bwrlwm y disgyblion yn y neuadd a’r llwyfan yn wych.

Roedd Eisteddofod Ysgol Brynrefs yn brofiad arbennig ac rydw i’n edrych ymlaen i’w wylio am flynyddoedd i ddod.

Erin Bowness

Wedi tair mlynedd hir mae'r eisteddfod yn ôl o’r diwedd! Ar y pymthegfed o Ragfyr caswsom ni’r fraint o gynnal eisteddfod yn neuadd fawr yr ysgol i weld doniau difyr ein disgyblion unwaith eto.Cychwynodd y diwrnod ar nodyn gwych o berfformiadau cerddorol ac unigol gan ddisgyblion hyderus blwyddyn 7-9 ac yna ymlaen i bartion actio’r chweched ddosbarth.

Ar ôl bwrlwm o berfformiadau, ymlaen a ni i barti bechgyn a merched a dawnsio disgo tra’n disgwl yn amyneddgar am yr canlyniadadau .Ar ôl egwyl fach daeth pawb yn ôl i ddangos mwy o’u talentau i’w cyfoedion. Coronwyd y noson gyda seremoni’r cadeirio ble cafodd genethod Ysgol Bethel gyflwyno’r Ddawns Flodau – roedden nhw’n wych! Roedd yn anhygoel cael cefnogi ein tai sef Elidir,Eryri,Eilian a Gwyrfai, ond Eilian ddaeth i’r brig efo’ nifer mwyaf o bwyntiau

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran ac alla i ddim disgwyl tan y flwyddyn nesaf – mae’n brofiad bythgofiadwy !

PARCH / RESPECT
15
Ysgol Brynrefail 2022 / Brynrefail
2022
Eisteddfod
School Eisteddfod
PARCH / RESPECT 16
Eisteddfod Ysgol Brynrefail 2022 / Brynrefail School Eisteddfod 2022

Pupils' opinion

Brynrefail Eisteddfod 2022. Well, where to start?! The contestants had plenty of fun rehearsing for singing, reciting, acting, playing an instrument and dancing competitions beforehand with their houses and getting on the poor captains' nerves! I hope the audience had an unforgettable day too. During the day there was a lot of competition to keep us busy, including a solo, a light song, a sketch, a solo speech and a range of amazing performances from winning individuals in the year 7 to 9 instrumental competitions. Although it was a day long, everyone was still full of energy in the night to give everything (and sometimes too much if you lost your voice) into the speaking, choirs, playing instruments and the charing ceremony itself. Certainly, the highlight of the Eisteddfod was seeing the older boys of the school in long dresses, followed closely by meeting none other than Brynrefail's own James Bond! Eilian was the winning house after all the entertainment, and the Eisteddfod closed heartily with 'Hen Wlad Fy Nhadau'. I hope next year's Eisteddfod will be just as lively, and I hope Elidir will be the winners!.

Something incredible happened on Thursday, the fifteenth of December…. Brynrefail School’s Eisteddfod! The first Eisteddfod in three years! This eisteddfod is not like a normal, boring eisteddfod with endless practice - no, this is different. Ysgol Brynrefail Eisteddfod's emphasis is on having fun and enjoying (something the older boys did in particulardancing in front of the whole school in 'crop tops'!)

Despite the 'crop tops', we need to give a big thank you to the sixth form pupils, for weeks of work before the big day, to organize this very important event. As well as helping us prepare for the competitions, to the point where some had lost their voices!

There were a number of competitions in the afternoon including instrumental and vocal solos, singing parties, and disco dancing. In the evening there was a chairing ceremony, the speech parties and the highlight of the eisteddfod - the choirs. 'Yma o Hyd' was sung by the best of the four houses, but Gwyrfai came out victorious.

A big congratulations to Eilian for winning the Eisteddfod with a significant score of over one thousand two hundred point, and to all the pupils who took part. I hope that even more pupils from the school will take part next year to make the Eisteddfod even more successful

Mati Roberts

Brynrefail’s School Eisteddfod was amazing! It was great to see all the children come together to show everyone what the school was capable of. House by house the children came on stage to compete for points towards their house; Eilian, Gwyrfai, Eryri or Elidir

Watching the pupils have fun over the weeks practicing and watching them compete on stage was worth seeing. Competitions, choir, girls' and boys' party, solos and even musical instrumental performances.

The variety of things you can do is huge and there is something for everyone. One of the highlights of everyone's day was the foreign language party. Watching the pupils sing 'Waka Waka' was incredible and the excitement of the pupils in the hall and on the stage was fantastic.

Eisteddfod Ysgol Brynrefs was a special experience and I'm looking forward to watching it for years to come.

Erin Bowness

After three long years the eisteddfod is finally back! On the fifteenth of December we had the privilege of holding the eisteddfod in the school's great hall to see the entertaining talents of our pupils once again. The day started on a great note with musical and individual performances by confident year 7-9 pupils and then on to parties sixth form acting.

After a flurry of performances, we went on to a boys and girls party and disco dancing while we waited patiently for the results. After a short break everyone came back to show more of their talents to their peers. The evening was crowned with the chairing ceremony where the Ysgol Bethel girls presented the Flower Dance - they were fantastic! It was amazing to be supported by our houses which are Elidir, Eryri, Eilian and Gwyrfai, but Eilian came out on top with the most points.

Congratulations to everyone who took part and I can't wait until next year - it's an unforgettable experience!

PARCH / RESPECT
17
Eisteddfod Ysgol Brynrefail 2022 / Brynrefail School Eisteddfod 2022
PARCH / RESPECT 18
Eisteddfod Ysgol Brynrefail 2022 / Brynrefail School Eisteddfod 2022

Ymgyrch T4U & Banc Bwyd/ Operation T4U

Unwaith

Once

PARCH /
19
RESPECT
eto blwyddyn yma mae'r ysgol wedi bod yn rhan o ymgyrch T4U o dan arweiniad Mrs Anwen Powell. Gyda disgyblion yn creu bocsys esgidiau llawn nwyddau ac anrhegion Nadolig er mwyn cael ei ddarparu i blant llai ffodus. Da iawn bawb am eu hymdrechion unwaith eto blwyddyn yma! again this year the school has been part of the T4U campaign led by Mrs Anwen Powell. With pupils creating shoe boxes full of goods and Christmas gifts to be given to less fortunate children. Well done everyone for their efforts once again this year! Ras Hwyl Sïon Corn / Santa Fun Run Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion blwyddyn 7, 8 a 9 am gymryd rhan yn y Ras hwyl Sïon Corn. Fydd yr arian sydd yn cael ei gasglu yn mynd tuag at fanc bwyd lleol. Da iawn i bawb am gymryd rhan a chefnogi. Congratulations to our year 7, 8 and 9 pupils for taking part in the Santa Fun Run. The money collected will go towards a local food bank. Well done to everyone for taking part and supporting such a good cause.

Parti Pendalar / Pendalar Party

PARCH / RESPECT 20
Diwrnod arbennig Parti Nadolig Pendalar yn Ysgol Brynrefail ar y 21ain o Ragfyr. Diolch i fyfyrwyr Bl.12 am eu gwaith yn croesawu 55 o ddisgyblion cynradd Ysgol Pendalar yma am fwyd, canu a dawnsio. Cafodd pawb anrheg gan Sion Corn hefyd. Diolch mawr i Gwilym Bowen Rhys am y canu gwych. The special day of the Pendalar Christmas Party at Ysgol Brynrefail on the 21st of December. Thank you to Year 12 students for their work in welcoming 55 primary school pupils from Ysgol Pendalar here for food, singing and dancing. Everyone got a present from Father Christmas too. Many thanks to Gwilym Bowen Rhys for the wonderful singing.

Sports Achievements

PARCH / RESPECT 21 Llwyddiannau Chwaraeon
Pêl Fasged o dan U15s - Gorffen yn ail yn twrnament Pêl Fasged Eryri ac yn symud ymlaen i Gystadleuaeth Pêl Fasged Gogledd Cymru / U15s Basketball - Finished second in the Eryri Basketball tournament and progressed to the North Wales Basketball Competition. Pêl droed Bechgyn blwyddyn 7 - ennill tair gem ac felly drwodd i rownd 16 olaf Cymru / Year 7 Boys' Football - won three games and now through to the round of 16 through Wales. Genethod o dan18 Pencampwyr Pêl rwyd Arfon a trwodd i rownd Eryri ar ôl Nadolig / Girls under 18 Arfon Netball Champions and through to the Eryri round after Christmas. Genethod o dan 16 Pencampwyr Pêl rwyd Eryri a trwodd i’r rownd genedlaethol / Girls under 16 Eryri Netball Champions and through to the national round. Hoci Dan 14 – Pencampwyr Arfon Dan 14 / Under 14 Hockey – Arfon Under 14 Champions. Hoci Dan 16 - Pencampwyr Arfon Dan 16 / Under 16 Hockey - Arfon Under 16 Champions. Badminton - Bechgyn blwyddyn 9 a 10, genethod blwyddyn 9 a 10, bechgyn 7 a 8 wedi curo twrnament yn ddiweddar a drwodd i rownd nesaf yn Deeside ym mis Mawrth / Badminton - Boys year 9&10, girls year 9&10, boys 7&8 recently won a tournament and ar enow through to the next round in Deeside in March. Pêl-droed Genethod Dan 15 wedi ennill tair gem a drwodd i rownd 16 olaf Cymru / Girls Under 15’s Football team won three games and ar enow through to the last 16 round of Wales.

Sports Achievements

PARCH / RESPECT 22 Llwyddiannau Chwaraeon
Pencampwriaeth sgïo Ysgolion Cymru - Leia 1af, Megan 1af, Molly 1af, Gruff 3ydd a Merlin 10fed. Y genethod yn 2ail fel tîm ac felly yn mynd ymlaen i gystadlu ym mhencampwriaeth Prydain / Welsh Schools Ski Championship - Leia 1st, Megan 1st, Molly 1st, Gruff 3rd and Merlin 10th. The girls were 2nd as a team and will move on to compete in the British championship. Megan, Molly, Summer a Leia wedi cymryd rhan yn y Bencampwriaeth Sgïo Ysgolion Prydain yn Stoke / Megan, Molly, Summer and Leia took part in the British Schools Ski Championship in Stoke. Osian a Gruff yn chwarae i RGC ar Parc Eirias mewn gêm gystadleuol. Y ddau wedi perfformio’n wych a Gruff yn sgorio dau gais / Osian and Gruff playing for RGC at Parc Eirias in a competitive game. Both performed brilliantly and Gruff scored two tries. Llongyfarchiadau Molly sydd wedi cael ei ddewis er mwyn ymuno a sgwad sgïo Cymru / Congratulations Molly who has been selected to join the Welsh ski squad. Cyngor Chwaraeon yr ysgol 2022 / 2023 / School Sports Council 2022 / 2023. Prynhawn o Bêl-droed i blant Bl6 Dalgylch Ysgol Brynrefail. Braf roedd gweld disgyblion yn mwynhau a dangos parch tuag at ei gilydd / An afternoon of Football for the children of Ysgol Brynrefail Catchment Area. It was nice to see pupils enjoying and showing respect for each other. Ras hwyl Sïon Corn yn yr adran i hel pres tuag at fanc bwyd lleol / Santa fun run in the department to raise money for a local food bank. Gwenno Williams o 7S wedi ennill cystadleuaeth dangos ceffylau dros y penwythnos Wedi derbyn un wobr 1af a ‘Reserves Champion’. Gwych a llongyfarchiadau i chdi / Gwenno Williams from 7S won a horse showing competition over the weekend. Received one 1st prize and 'Reserves Champion’. Well done and congratulations.
UCHELGAIS / AMBITION PARCH / RESPECT DYCNWCH / RESILIENCE Ffordd Crawia, Llanrug, Caernarfon LL55 4AD Rhif Ffôn / Telephone: 01286 672381 Gwefan / Website: www.ysgolbrynrefail.org Ebost / Email: swyddfa@brynrefail.gwynedd.sch.uk Pennaeth / Head Arwyn Williams ‘Gyda’n gilydd am y copa’

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.