Hydref 10–13
Dathliad bywiog o’r amgylchedd, o gymuned a chreadigedd
A vibrant celebration of the environment, community and creativity
Croeso i Ŵyl Cynhaeaf Arall – dathliad bywiog o’r dirwedd, yr amgylchedd a’n pobl yma yng Ngwynedd. Rhyfeddodau natur, hanes, creadigrwydd, mentergarwch, meddylgarwch a byw’n wyrdd….maen nhw i gyd yn rhan o’r ŵyl newydd hon yn ardal Caernarfon. Dewch i fwynhau sgyrsiau a thrafodaethau sy’n procio’r meddwl, teithiau gwych, perfformiadau cerddorol ac amryw o weithgareddau ysbrydoledig eraill. P’un ai’n chwilfrydig, yn greadigol, neu’n angerddol am y dirwedd a’r amgylchedd o’n cwmpas, mae ‘na rywbeth i bawb yng Ngŵyl Cynhaeaf Arall.
Welcome to Gŵyl Cynhaeaf Arall – a lively celebration of landscape, environment and people here in Gwynedd. The wonders of the natural world, creativity, enterprise, mindfulness and sustainable living….these all feature in this new autumn festival in and around Caernarfon. Enjoy thought-provoking talks and discussions, fascinating walks, musical performances and many other inspiring activities. Whether curious, creative or passionate about the landscapes and environment in which we live, there’s something for everyone at Gŵyl Cynhaeaf Arall.
Sgwrs
Talk
Taith
Tour
Cerddoriaeth
Music
Ffilm
Film
Hyfforddiant
Training
Plant
Children
Digwyddiad Cymraeg
Welsh Language Event
Digwyddiad Saesneg
English Language Event
Cyfleusterau Cyfieithu
Translation Facilities
Tocynnau Gwyl Cynhaeaf Arall
Gwyl Cynhaeaf Arall Tickets
Mae’r rhan helaeth o ddigwyddiadau
Gŵyl Cynhaeaf Arall yn rhad ac am ddim i’w mynychu. Fodd bynnag, mae angen prynu tocynnau bore neu brynhawn i fynychu casgliadau penodol o ddigwyddiadau.
Tocynnau Aml-fynediad
Tocyn Bore Sadwrn
Mynediad i 6 digwyddiad yn ystod bore Sadwrn
Tocyn Prynhawn Sadwrn
Mynediad i 5 digwyddiad yn ystod prynhawn Sadwrn
Tocyn Prynhawn Sul
Mynediad i 5 digwyddiad yn ystod prynhawn Sul
Lle i gael tocynnau
Mae tocynnau ar gael o wefan Gŵyl Arall, gwylarall.com – neu mae modd talu wrth y drws.
£5
Most of Gŵyl Cynhaeaf Arall’s event are free to attend. However, morning or afternoon tickets will be needed to attend specific collections of events.
Multi-event Tickets
Saturday Morning Ticket
Access to 6 events on held on
£5
Saturday Afternoon Ticket
Access to 5 events on held on Saturday afternoon
£5
Sunday Afternoon Ticket
Access to 5 events on held on Sunday afternoon
£5
£5
Where to get tickets
Tickets are available from Gŵyl Arall’s website, gwylarall.com – or you can purchase tickets at the events.
£5
The Anthropologist
Iau, Hydref 10 / Thurs, October 10
7.30pm, Lle Arall, Caernarfon
Am ddim / Free
Cyfle prin i weld ffilm sy’n dilyn yr anthropolegydd Susie Crate a’i merch Katie wrth iddyn nhw ymweld â chymunedau brodorol sydd dan fygythiad oherwydd newid hinsawdd.
A fascinating film that follows the anthropologist Susie Crate and her teenage daughter Katie as they visit indigenous communities threatened by climate change.
Crafu’r Wyneb Scratching the Surface
Gwe, Hydref 11 / Fri, October 11
7.30pm, Lle Arall, Caernarfon
Am ddim / Free Cyfranydd: Dr Dafydd Gwyn
Mae ardal lechi Gwynedd bellach yn Safle Treftadaeth y Byd’ – fel y Taj Mahal a Machu Picchu. Beth yn union berswadiodd UNESCO fod yr ardal yn haeddu’r statws?
Gwynedd’s slate landscape is now a World Heritage Site, alongside places like Machu Picchu and the Taj Mahal. What exactly are the stand-out features of the slate landscape?
Straeon y Traeth Mawr
Traeth Mawr and its Stories
Gwe, Hydref 11 / Fri, October 11
10.30am–3.30pm
Maes Parcio Tafarn Y Ring, Llanfrothen
Am ddim / Free
Cyfranwyr: Rhys Gwynn, Hywel Madog ac eraill
Taith gerdded oddeutu 5 milltir mewn bro sy’n llawn cymeriadau a straeon hynod. Dewch gyda ni i ddysgu mwy, a chlywed am brosiect dyddiaduron 19eg ganrif Owen Edwards, Prenteg.
A guided walk of approx. 5 miles through the stunning Traeth Mawr landscape, and a chance to delve into its fascinating history.
Angen bod yn ffit a iach. Y tir yn arw a gwlyb mewn mannau. Angen esgidiau cryf sy’n gwrthsefyll dŵr a dillad glaw a haenau cynnes. Dewch â bwyd a diod. Dim cŵn. Cysylltwch os ydych chi’n bwriadu mynychu drwy ebostio: gwylcynhaeafarall@gmail.com
Need to be fit and well. Ground under foot will be wet and uneven. Will need strong shoes that are waterresistant as well as warm layers. Bring food and water. No dogs allowed. Contact if you intend to join by emailing: gwylcynhaeafarall@gmail.com
Galwad Cynnar
(BBC Radio Cymru)
Sad, Hydref 12 / Sat, October 12
6.30am, Lle Arall, Caernarfon
Am ddim / Free Rhaglen fyw o Ŵyl Cynhaeaf Arall. Croeso i fore-godwyr ymuno gyda ni!
Live broadcast of the popular Galwad Cynnar programme from the festival.
Suddo i Swn Byd Natur
Surrounded by Sound
Sad, Hydref 12 / Sat, October 12
8.30am, Lle Arall, Caernarfon
Tocyn bore Sadwrn
Saturday morning ticket
Cyfranydd: Leisa Mererid
Awr feddylgar o ymestyn ac ymlacio gyda sŵn cynefinoedd a bywyd gwyllt gogledd Cymru yn gefndir.
A mindful hour of gentle stretches and relaxation, accompanied by wildlife soundscapes of north Wales.
Siarcod Cymru
Welsh Sharks
Sad, Hydref 12 / Sat, October 12
10am, Lle Arall, Caernarfon
Tocyn bore Sadwrn
Saturday morning ticket
Cyfranydd: Jake Davies
Cyfle i glywed mwy am siarcod rhyfeddol Cymru gyda’r arbenigwr o Ben Llŷn.
Learn more about Wales’ seas and amazing sharks with the expert Jake Davies.
Trychfilwr Moel Tryfan
A Rare Obsession
Sad, Hydref 12 / Sat, October 12
10.30am, Lle Arall, Caernarfon
Tocyn bore Sadwrn
Saturday morning ticket
Cyfranydd: Sion Dafis
Nid pawb sy’n dotio ar wenyn a chacwn fel Sion, ac mae sawl prosiect arfordirol yn galw am ei help y dyddiau hyn.
Sion’s unusual passion for bees and wasps means that he’s currently in demand for several coastal projects.
Achub ein Gwenoliaid Duon
A Call for Swift Action
Sad, Hydref 12 / Sat, October 12
11am, Lle Arall, Caernarfon
Tocyn bore Sadwrn
Saturday morning ticket
Cyfranydd: Ben Stammers
Mae sŵn sgrechian gwenoliaid duon yn
rhan o gymeriad Caernarfon. Ond mae’r adar hyn yn prinhau, ac angen ein help.
Caernarfon wouldn’t be the same without the sound of screeching swifts. But swifts are in trouble, and need our help.
Morwellt – Trysor
Cenedlaethol?
Seagrass – A National
Treasure?
Sad, Hydref 12 / Sat, October 12
12pm, Lle Arall, Caernarfon
Tocyn bore Sadwrn
Saturday morning ticket
Cyfranydd: Nia Haf Jones
Mae cynlluniau ar droed i sefydlu rhagor o welyau morwellt ar hyd ein glannau. Pam?
Work is underway to create new seagrass meadows around our coastline. Why?
Glaswelltir Gwych
Unlocking Grassland Secrets
Sad, Hydref 12 / Sat, October 12
11.30am, Lle Arall, Caernarfon
Tocyn bore Sadwrn
Saturday morning ticket
Cyfranydd: Dr Gareth Griffith
Beth sy’n gwneud darn o laswelltir yn
wirioneddol arbennig? Gall y pethau
lleiaf oll fod yn bwysig...
What makes a piece of grassland really special? Some of the smallest things can be hugely important...
Helyg Lleu a Fi
My ‘Helyg Lleu’ Life
Sad, Hydref 12 / Sat, October 12
1.30pm, Lle Arall, Caernarfon
Tocyn prynhawn Sadwrn
Saturday afternoon ticket
Cyfranydd: Eirian Muse
Cyfle i glywed gan fasgedwraig ddawnus am ei siwrnai i’r maes, ac am droi diddordeb yn fusnes bychan.
Hear about a talented basketmaker’s crafting journey, and how her passion led to establishing a small business.
Gwerth Llysiau Llesol
Tapping into Wild Plants
Sad, Hydref 12 / Sat, October 12
2pm, Lle Arall, Caernarfon
Tocyn prynhawn Sadwrn
Saturday afternoon ticket
Cyfranydd: Catrin Roberts
Mae diddordeb ac arbenigedd Catrin
ym myd ‘llysiau llesol’ yn rhan fawr o’i bywyd a’i gwaith erbyn hyn.
Catrin’s interest in the beneficial properties of wild plants is woven into her everyday life and work.
Sesiwn Seiat: Ynni
Cymunedol
Panel Session: Community Energy
Sad, Hydref 12 / Sat, October 12
2.30pm, Lle Arall, Caernarfon
Tocyn prynhawn Sadwrn
Saturday afternoon ticket
Cyfranwyr: Dan arweiniad Dr Paula Roberts
Trafodaeth ar ynni cymunedol ymhlith arbenigwyr ac arweinwyr lleol sydd wedi sbarduno nifer o fentrau. Cyfle i holi hefyd.
A panel discussion (+Q&A) with local experts and leaders who have spearheaded community energy initiatives in the area.
Ar Flaen y Gad yn Bontnewydd
Leading the Way in Bontnewydd
Sad, Hydref 12 / Sat, October 12
3.30pm, Lle Arall, Caernarfon
Tocyn prynhawn Sadwrn
Saturday afternoon ticket
Cyfranydd: Sioned Hughes
Mae gwaith cynhyrfus ar y gweill i sicrhau y bydd Ysgol Bontnewydd yn
un o’r esiamplau gorau drwy Gymru o adeiladu cynaliadwy.
Exciting plans are afoot to ensure that Ysgol Bontnewydd will shortly be one of the best examples of sustainable construction in Wales.
Madarch!
Mushrooms!
Sad, Hydref 12 / Sat, October 12 4pm, Lle Arall, Caernarfon
Tocyn prynhawn Sadwrn
Saturday afternoon ticket
Cyfranwyr: Dominic Kervegant, Dr Gareth Griffith
Cyfle i adnabod, trafod, a blasu rhai mathau o fadarch gwyllt.
An opportunity to learn about, and taste some wild mushrooms.
Cynefin: Mynd Dan
Groen y Dirwedd
Cynefin: Digging Deep
Sad, Hydref 12 / Sat, October 12
7.30pm, Lle Arall, Caernarfon
Am ddim / Free
Cyfranwyr: Jon Gower, Tom Bullough, Owen Shiers
Noson o sgwrs a miwsig yng nghwmni tri dawnus sy’n ymateb i’r amgylchedd mewn ffyrdd creadigol, amrywiol.
An evening of conversation and music in the company of three talented individuals who all respond creatively to the environment in their own ways.
’Nabod Cerrig Caernarfon
Reading Caernarfon’s Stones
Sul, Hydref 13 / Sun, October 13
10.30am, Lle Arall, Caernarfon
Am ddim / Free
Cyfranydd: Dr Math Williams
Mynd am dro rownd Caernarfon i ddysgu mwy am rai o’r cerrig yn yr adeiladau.
A guided walk around Caernarfon to learn more about the stones used in the town’s buildings.
Suddo i Swn Byd Natur
Surrounded by Sound
Sul, Hydref 13 / Sun, October 13
8.30am, Lle Arall, Caernarfon
Am ddim / Free Cyfranydd: Leisa Mererid
Awr feddylgar o ymestyn ac ymlacio gyda sŵn cynefinoedd a bywyd gwyllt gogledd Cymru yn gefndir.
A mindful hour of gentle stretches and relaxation, accompanied by wildlife soundscapes of north Wales.
Gofalu am Goed Afalau
Caring for Apple Trees
Sul, Hydref 13 / Sun, October 13
10.30am, Ardal Caernarfon
Am ddim / Free Cyfranydd: Ian Sturrock
Oes gynnoch chi hen goeden neu berllan flêr yn eich gardd? Dysgwch sut i docio a gofalu amdanyn nhw.
A practical session to help people learn how to prune and care for overgrown apple trees.
Niferoedd cyfyngedig. Cysylltwch â gwylcynhaeafarall@gmail.com
Limited numbers. Contact gwylcynhaeafarall@gmail.com
Ysbrydoliaeth Cae Lal
Cae Lal – A Place of Inspiration
Sul, Hydref 13 / Sun, October 13
10.30am, Cae Lal
Am ddim / Free
Cyfranydd: Bethan Lloyd
Ymweliad safle i glywed mwy am y weledigaeth ar gyfer menter adfywiol
sy’n rhoi’n ôl i natur a chymunedau lleol.
A visit to Cae Lal to hear about the vision for a regenerative, nature-based enterprise.
Niferoedd cyfyngedig. Cysylltwch â gwylcynhaeafarall@gmail.com
Limited numbers. Contact gwylcynhaeafarall@gmail.com
Llunio’n Dyfodol drwy Greadigrwydd
Shaping our Future through Creativity
Sul, Hydref 13 / Sun, October 13
1.30pm, Lle Arall, Caernarfon Tocyn prynhawn Sul
Sunday afternoon ticket
Cyfranwyr: Manon Awst, Iestyn Tyne
Cyfle i glywed am waith amgylcheddolgreadigol gan ddau ddawnus a dderbyniodd Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol 2024–25.
A chance to hear from two local recipients of the Wales Future Fellowship (2024–25) awards about their current environmental projects.
Sesiwn Seiat: Sgwennu Natur yng Nghymru
Panel Session: Nature
Writing in Wales
Sul, Hydref 13 / Sun, October 13
3pm, Lle Arall, Caernarfon Tocyn prynhawn Sul
Sunday afternoon ticket
Cyfranwyr: Dan arweiniad Jon Gower
Sesiwn fywiog gyda phanelwyr amrywiol i edrych ar ‘sgwennu natur’ yn Nghymru (ac yn y Gymraeg) heddiw.
A lively panel discussion to consider the current state of nature writing in Wales (and in Welsh).
Camu i Fyd yr ‘Hot Poets’
Penpont and the ‘Hot Poets’
Sul, Hydref 13 / Sun, October 13
2.30pm, Lle Arall, Caernarfon
Tocyn prynhawn Sul
Sunday afternoon ticket
Cyfranydd: Ifor ap Glyn
Cawn glywed am waith Ifor gyda mudiad rhyngwladol yr ‘Hot Poets’, a’i brosiect ar stad Penpont ger Aberhonddu.
We’ll hear from Ifor about his involvement with the international ‘Hot Poets’ organisation, and his work on the Penpont estate near Brecon.
Chelsea, Treborth a’r Trofannau
Chelsea, Treborth and the Tropics
Sul, Hydref 13 / Sun, October 13
4pm, Lle Arall, Caernarfon
Tocyn prynhawn Sul
Sunday afternoon ticket
Cyfranydd: Dan Bristow
Cawn glywed gan Dan am yr ardd fedalaur ryfeddol a phwysig a ddyluniodd eleni ar gyfer Sioe Chelsea eleni.
We’ll hear from Dan about the incredible and vitally important gold-medal garden that he designed this year for Chelsea.
Caneuon y Cynhaeaf
Songs at the Season’s
Turning
Sul, Hydref 13 / Sun, October 13
4.30pm, Lle Arall, Caernarfon
Tocyn prynhawn Sul
Sunday afternoon ticket
I gloi’r ŵyl, beth yn well na set o ganeuon tymhorol gan y digymar Gwilym Bowen Rhys.
A performance of seasonal folk songs by Gwilym Bowen Rhys to close the festival.
Antur Natur
Sul, Hydref 13 / Sun, October 13
2pm–4pm, CARN, Caernarfon
Am ddim / Free
Cyfranydd: Antur Natur
Sesiwn o weithgareddau amrywiol yn ymwneud â byd natur i blant 6–11 oed.
An afternoon of nature-related activities for 6–11 year old children.
Niferoedd cyfyngedig. Cysylltwch â gwylcynhaeafarall@gmail.com
Limited numbers. Contact gwylcynhaeafarall@gmail.com