Adroddiad Effaith Cymru ffurfiol cyntaf Partneriaethau Lleol. Rwy’n gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen am y llwyddiannau rydym yn helpu ein cleientiaid sector cyhoeddus i’w cyflawni ledled Cymru. Fel cynghorwyr sector cyhoeddus y gellir ymddiried ynddynt, mae ein holion bysedd i’w gael ar draws y sector cyhoeddus ac mae crychdonnau ein heffaith yn ymestyn ymhell ac agos. Yn ganolog i’n gwaith mae ethos sector cyhoeddus a’r awydd i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i gyflawni blaenoriaethau ein perchnogion er budd cymunedau ledled Cymru.
rydym yn helpu i brysuro’r gwaith o ddarparu seilwaith mawr, yn mynd i’r afael
â heriau hinsawdd trwy gynigion effeithlonrwydd gwastraff ac ynni adnewyddadwy, yn llenwi’r bwlch gallu masnachol, yn galluogi mentrau creu lleoedd ehangach, ac yn darparu gwerth gorau yn gyffredinol i’r sector cyhoeddus
RHAGAIR
Mae Partneriaethau Lleol mewn sefyllfa unigryw yn y sector cyhoeddus drwy ein perchnogaeth ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol a Thrysorlys E M. Rydym yn ffurfio pont rhwng polisi llywodraeth ganolog a darpariaeth leol ac yn hwyluso deialog ystyrlon rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat. Drwy hyn, rydym yn helpu i brysuro’r gwaith o ddarparu seilwaith mawr, yn mynd i’r afael â heriau hinsawdd trwy gynigion effeithlonrwydd gwastraff ac ynni adnewyddadwy, yn llenwi’r bwlch gallu masnachol, yn galluogi mentrau creu lleoedd ehangach, ac yn darparu gwerth gorau yn gyffredinol i’r sector cyhoeddus.
Roedd yn bleser gennyf groesawu Leon Wong i’r Bwrdd yn 2023 fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru. Mae hon yn rôl allweddol wrth i’n gwaith i gefnogi cyfraddau ailgylchu uchelgeisiol Cymru a sicrhau effaith gadarnhaol ehangach ar yr hinsawdd a sbarduno twf, barhau ochr yn ochr â chyflawni gwerth ar draws tirwedd y sector cyhoeddus. Diolch i’w ragflaenydd Steve Davies am ei gyfraniadau ers cymryd ei swydd fel cynrychiolydd cyntaf Llywodraeth Cymru ar ein Bwrdd yn 2018.
Mae fy niolch diffuant hefyd yn mynd i’n holl staff profiadol ac ymroddedig, hebddynt ni fyddem yn gallu cefnogi ein cleientiaid, a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. O ystyried yr heriau sy’n wynebu’r sector cyhoeddus, eleni rydym wedi croesawu wynebau newydd i’r tîm sy’n gwella ymhellach ein set sgiliau ar y cyd a’n gallu i gefnogi’r sector cyhoeddus. Mae gennym
13 o staff yng Nghymru sy’n ymroddedig i gefnogi mentrau allweddol a hirhoedlog megis y Gwasanaeth Ynni, Ynni Cymru a’r
Model Buddsoddi Cydfuddiannol, ynghyd ac eraill sy’n gweithio ar y prosiectau hyn i rannu arbenigedd. Mae nifer sylweddol o’r sefydliad yn gweithio’n ddwyieithog fel siaradwyr Cymraeg rhugl neu gynhenid, gan gynnwys ein Prif Weithredwr, Adele Gritten.
I gefnogi ein gwaith ar brosiectau ledled Cymru, rydym yn falch
o rannu gofod swyddfa gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru yn 1 Canal Parade, Caerdydd ac rydym yn falch iawn
o gael swyddfa yn y gogledd bellach, yng nghyfleuster M-SParc yn Ynys Môn.
Edrychaf ymlaen at ehangu a datblygu ein gwaith ledled Cymru, gan gefnogi’r agenda trawsnewid â ffocws er budd pobl a lleoedd Cymru yn 2025 a thu hwnt.
Keith Fraser Cadeirydd (Annibynnol), Partneriaethau Lleol
Hoffwn ganolbwyntio ar ein hymrwymiad
i’r agenda swyddi gwyrdd a thwf, gan greu swyddi cynaliadwy sy’n mynd
i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac yn adfer byd natur
Adele Gritten Prif Weithredwr
Cefais fy ngeni a’m magu mewn pentref ger Abertawe, ac rwy’n hynod falch o’m treftadaeth Gymreig. Fel siaradwr Cymraeg brodorol, roeddwn yn falch iawn o gymryd yr awenau fel prif weithredwr Partneriaethau Lleol yn 2022 lle mae ehangder y gefnogaeth a ddarparwn i’r sector llywodraeth leol wedi creu argraff arnaf. Rydym yn gweithio gyda phob un o’r 22 awdurdod yng Nghymru ac yn cyfrif Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ymhlith ein rhanddeiliaid allweddol. Am y seithfed flwyddyn yn olynol, byddai 100% o’n cleientiaid yn ein hargymell i eraill. Mae hyn yn wir yn dyst i galibr ac ymrwymiad ein staff ymroddedig.
CYFLWYNIAD
Mae Partneriaethau Lleol yn falch o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni nifer o ymrwymiadau eu Rhaglen Lywodraethu gan gynnwys helpu Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach ar y daith uchelgeisiol i gyrraedd sero net erbyn 2030 ac i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Yn ei dro, mae hyn yn cefnogi creu swyddi gwyrdd a thwf gwyrdd yng Nghymru gan adeiladu economi gryfach, wyrddach wrth iddo gymryd yr awenau wrth wneud y cynnydd mwyaf tuag at ddatgarboneiddio.
Hoffwn ganolbwyntio ar ein hymrwymiad i’r agenda swyddi gwyrdd a thwf, gan greu swyddi cynaliadwy sy’n mynd i’r afael
â’r argyfwng hinsawdd ac yn adfer byd natur.
Er mwyn cefnogi syniadau a all wneud Cymru yn ganolfan fyd-eang o dechnolegau llanw newydd, fe arweinion ni yr Her Môr-lynnoedd Llanw. Ym mis Mawrth 2024, derbyniodd tri enillydd gyllid gwerth cyfanswm o £750,000 i gwblhau eu prosiectau ymchwil. Fe weithion ni gyda phrosiect arddangos llif llanw Morlais oddi ar arfordir Ynys Môn i ddatblygu ystod o opsiynau ariannu creadigol i alluogi’r prosiect i barhau’n gynaliadwy a chynyddu’r defnydd o ddyfeisiau ffrwd llanw, gan arwain at fuddsoddiad ecwiti gan Lywodraeth Cymru o £8 m.
Er mwyn galluogi manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd gwynt ar y môr fel y bo’r angen yn y Môr Celtaidd, buom yn gweithio gyda phorthladdoedd Port Talbot ac Aberdaugleddau i sicrhau £1 m yr un i ariannu arolygon cychwynnol a gwaith dylunio i gefnogi uwchraddio porthladdoedd.
Er mwyn ehangu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru, gan barhau â’r ymrwymiad a nodir yn y cytundeb cydweithredu rhwng Plaid
Cymru a Llywodraeth Cymru, rydym wedi sefydlu Ynni Cymru i gefnogi ynni adnewyddadwy lleol a chymunedol clyfar ac arloesol a phrosiectau sy’n sicrhau’r buddion lleol mwyaf, gan sicrhau cyllid grant cyfalaf o £10 m i ariannu 32 o brosiectau ynni gwyrdd cymunedol ledled Cymru.
Er mwyn cyflymu datblygiad prosiectau ynni adnewyddadwy ar ystad gyhoeddus ehangach Cymru fel cyflenwad ynni gwyrddach a mwy cynaliadwy a gwneud y mwyaf o’u gwerth i bobl Cymru, fe sefydlon ni Trydan Gwyrdd Cymru, i weithio ochr yn ochr â Chyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu ffermydd gwynt ar yr ystâd goetir ac ymgysylltu â chymunedau lleol.
Er mwyn helpu Cymru i bontio i economi gylchol, sy’n canolbwyntio ar werthfawrogi adnoddau, diogelu’r amgylchedd, lliniaru newid yn yr hinsawdd, a chadw bioamrywiaeth, drwy’r Rhaglen Effeithlonrwydd Adnoddau a’r Economi Gylchol, fe gefnogon ni awdurdodau lleol i ddatblygu strategaethau a gweithredu newidiadau i leihau gwastraff, cynyddu ailddefnyddio ac atgyweirio a chyrraedd a rhagori ar y targed ailgylchu o 70%.
‘Iechyd da’ – Cymru Iachach – gwella mynediad at ofal cymdeithasol
Rydym wedi cefnogi cynnydd rhaglen o 50 o Ganolfannau Iechyd a Gofal Integredig ledled Cymru, sy’n canolbwyntio ar hybu iechyd a lles ac atal afiechyd er mwyn sicrhau bod adnoddau cyfunol yn cael yr effaith fwyaf bosibl mewn ardal leol.
CYFLWYNIAD
Yn Partneriaethau Lleol, rydym yn cael ein hysgogi i helpu’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyflawni ei nodau. Mae chwe phwynt allweddol yr hoffwn i chi eu gwybod am yr hyn yr ydym yn ymdrechu i’w gyflawni, a sut y gallwn eich cefnogi:
1 Rydym yma i helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau sero net uchelgeisiol: sector cyhoeddus carbon-niwtral erbyn 2030, allyriadau sero-net erbyn 2050, 70% o drydan adnewyddadwy erbyn 2030, ac 1 G W o ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol erbyn 2030
2 Rydym yn mynd i’r afael â’r angen i gwrdd â galwadau cynyddol gyda chyllidebau sy’n crebachu, a gwella gwasanaethau cyhoeddus drwy ddarparu cymorth ymarferol, rheoli prosiectau, cyngor llywodraethu, hyfforddiant ac arbenigedd technegol i gael y gorau o bob punt
3 O gyflenwi tai i seilwaith, rydym yn partneru â chleientiaid yn y sector cyhoeddus i gyflawni lleoedd cynaliadwy, a llunio cymunedau bywiog
4 Rydym yn hybu arbenigedd masnachol, yn hogi sgiliau masnachol timau’r sector cyhoeddus, gan eu helpu i reoli contractau’n well, gweithredu’n fasnachol, a chynyddu incwm
5 Mae lleihau gwastraff, atgyweirio, ailddefnyddio ac ailgylchu wrth wraidd ein gwaith, gan sicrhau bod Cymru ar y blaen o ran cynaliadwyedd, gan hyrwyddo economi gylchol
6 Rydym yn grymuso sefydliadau’r sector cyhoeddus i harneisio data ar gyfer penderfyniadau callach, sy’n hwyluso prosesau gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata ar gyfer mentrau allweddol.
Beth bynnag fo’ch her, rydyn ni yma i gefnogi eich taith bob cam o’r ffordd. Cysylltwch â mi adele.gritten@localpartnerships.gov.uk neu unrhyw un o’m cydweithwyr drwy ein gwefan localpartnerships.gov.uk os hoffech drafod ein gwaith ymhellach. Diolch.
Adele Gritten Prif Weithredwr, Partneriaethau Lleol @LP_AdeleG | 07771 838 817
CIPOLWG AR: PWRPAS EIN GWAITH
Mae Partneriaethau Lleol yn darparu gwerth ac effeithiolrwydd i bwrs y wlad. Cawsom ein sefydlu i helpu sefydliadau’r sector cyhoeddus i wynebu’r her gynyddol o fodloni’r galw cynyddol am wasanaethau, gyda chyllidebau’n crebachu.
Rydym yn ymgynghoriaeth fewnol yn y sector cyhoeddus sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol a Thrysorlys E M ar y cyd. Rydym yn gweithio i’r sector cyhoeddus yn unig, gan gynnwys awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd Lleol. Rydym yn falch o fod yn rhan o deulu’r sector cyhoeddus.Mae bod mewn safle unigryw yn y sector cyhoeddus, yn golygu fod Partneriaethau Lleol yn hwyluso newid trwy weithio’n ddiduedd ac yn gydweithredol ar draws pob rhan o’r sector cyhoeddus.
Boed yn cefnogi ac yn prysuro’r gwaith o ddarparu seilwaith mawr, yn siapio a chreu twf cynaliadwy seiliedig ar le, yn mynd i’r afael â heriau hinsawdd drwy brosiectau effeithlonrwydd adnoddau ac ynni adnewyddadwy, neu’n gweithio gydag awdurdodau i ddatblygu eu galluoedd masnachol, rydym yn helpu i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus.
Rydym yn rhannu ein cyfalaf deallusol er budd y sector cyhoeddus ac yn cyhoeddi canllawiau rheolaidd ac arfer gorau cyfochrog. Mae enghreifftiau’n cynnwys ein Pecyn Cymorth
Addasu Hinsawdd, Canllaw Arfer Da Ynni Adnewyddadwy, Canllawiau Adolygu Cwmnïau Awdurdodau Lleol a’n Glasbrint Prif Weithredwyr, sydd i gyd ar gael am ddim yn adran Hwb Adnoddau ein gwefan. Rydym hefyd yn cynnal gweminarau rheolaidd, sydd am ddim i gynrychiolwyr y sector cyhoeddus.
Mae ein tîm o arbenigwyr yn dod â chyfuniad aruthrol o brofiad yn y sector cyhoeddus a phreifat gan gynnig cymorth o’r ansawdd uchaf a mwyaf effeithiol i’r sector cyhoeddus.
Rydym yn sefydliad ymarferol ac yn gweithio ar y cyd er budd ein cleientiaid, yn aml yn eistedd ochr yn ochr â thimau prosiect, yn hytrach na darparu cyngor o bell. Rydym yn darparu capasiti a gallu lle bo angen, gan ddarparu cyngor arbenigol ac adnoddau ymarferol ochr yn ochr â chymorth cyflawni prosiectau a rhaglenni, gan alluogi gwasanaethau cyhoeddus i ffynnu.
Gan barhau i fod yn ymroddedig i helpu llywodraethau lleol, cenedlaethol a’r D U i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn fwy effeithlon ac effeithiol, rydym yn falch iawn o’r llwyddiannau rydym wedi helpu ein cleientiaid i’w cyflawni.
Trefnir ein gweithgaredd yn dair uned fusnes, Hinsawdd, Masnachol a Lle a dwy ddisgyblaeth drawsbynciol, Data a Dadansoddeg a Sicrwydd, sy’n gweithio ar draws ein hunedau busnes. Rydym yn darparu cymorth ymarferol gan gynnwys rheoli prosiectau a rhaglenni, cyngor llywodraethu, adolygiadau sicrwydd prosiect, hyfforddiant, astudiaethau dichonoldeb, datblygu achosion busnes, cyngor technegol, ymgysylltu â rhanddeiliaid, cymorth strategol, masnachol a chontract.
HINSAWDD SICRWYDD
Darparwyd seilwaith gwerth
£1bn
drwy’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (M I M)
Wedi gosod
44.5 MW
o gapasiti adnewyddadwy newydd—digon i bweru 18,000 o gartrefi
Dadflocio safleoedd tai cymdeithasol
Wedi cefnogi
Wedi cyflawni
£210 m
mewn buddsoddiadau ers 2018, gan ariannu prosiectau ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni, gwresogi carbon isel, a phrosiectau allyriadau sero
Sefydlu
Ynni Cymru
trwy gymorth ar ffosffadau a niwtraliaeth maetholion
awdurdodau lleol i ddatblygu Cynlluniau Ynni Ardal Leol
Cefnogi gweithredu Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle (Cymru) 2023
Sicrhawyd
£20 m
ar gyfer cynorthwyo i ddatgarboneiddio cyfleusterau addysg uwch ac addysg bellach
a dyfarnu
£10 m
mewn grantiau cyfalaf i 32 o brosiectau ynni cymunedol
Wedi hwyluso gosod
715 kW
o baneli solar ar draws 14 o ysgolion yn Nhorfaen
Sicrhawyd
£1m
i Gyngor Ynys Môn er mwyn gosod pympiau gwres ffynhonnell aer yn lle boeleri nwy
Helpu i sefydlu Trydan Gwyrdd Cymru
i ddatgloi potensial ynni adnewyddadwy Cymru
Arbedwyd
£1m
i’r sector gyhoeddus drwy gefnogi caffael cydweithredol dros 300 o gerbydau trydan
Helpu 9
awdurdodau lleol i ddrafftio a chymeradwyo strategaethau gwastraff ac adnoddau newydd
Helpu i sefydlu
Cwmni Egino Ltd.
gan sicrhau ailddatblygiad ar safle niwclear Trawsfynydd
EIN HEFFAITH GYFFREDINOL
Map prosiect yn
dangos Awdurdodau
Lleol, Byrddau
Gwasanaethau
Cyhoeddus a Chyd-bwyllgorau
Corfforaethol a gefnogwyd yn
uniongyrchol ac yn
anuniongyrchol drwy
Lywodraeth Cymru yn 2024
ALLWEDD
Ymateb i’r Hinsawdd
Masnachol
Lle Egni
Gwastraff ac effeithlonrwydd adnoddau
Map manwl yn dangos ardal Caerdydd
CIPOLWG AR: HINSAWDD
Yn fyd-eang, newid yn yr hinsawdd yw’r her fwyaf sy’n wynebu ecosystemau a dynoliaeth. Mae gan y sector cyhoeddus rôl ganolog i’w chwarae, gan brysuro graddfa a chyflymder y ddarpariaeth trwy ddod o hyd i atebion arloesol a’u cyflawni.
Mae ein gwaith hinsawdd yn cefnogi’r sector cyhoeddus i:
` darparu dulliau ac atebion strategol ac ymarferol i gyflawni trosglwyddiad cyfiawn i sero net
` cynllunio ar gyfer hinsawdd sy’n newid, trwy asesu effeithiau lleol a newidiadau angenrheidiol
` cyflawni prosiectau seilwaith ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni
` datblygu a darparu atebion i leihau gwastraff a hwyluso economi gylchol.
Rydym yn darparu cymorth gyda llwybrau i sero net, cynlluniau gweithredu, ymgysylltu ardal gyfan, datblygu a chyflawni prosiectau, cyllid gwyrdd, caffael a threfniadau masnachol.
Rydym yn cefnogi cyrff y sector cyhoeddus i ddatblygu cynlluniau addasu hinsawdd drwy ein Pecyn Cymorth Addasu Hinsawdd rhad ac am ddim sydd wedi’i gymeradwyo gan y Swyddfa Dywydd i’w ddefnyddio gyda’i Wasanaeth Hinsawdd Awdurdod Lleol.
Gydag arbenigedd mewn Effeithlonrwydd Adnoddau a’r Economi Gylchol, rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ledled Cymru i roi polisi ar waith, cyrraedd targedau ailgylchu a dargyfeirio gwastraff, gwella effeithlonrwydd adnoddau, ysgogi economi gylchol a chyflawni’r gofynion seilwaith cysylltiedig.
Mae gennym brofiad sylweddol mewn datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy a rhaglenni strategol mawr. Gan gynnig dull gweithredu sy’n seiliedig ar fasnach rydym yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i roi cyngor ar raglenni a phrosiectau ynni ar bob cam o’u datblygu a’u darparu gan gynnwys ôl-osod, rhwydweithiau gwres, ynni adnewyddadwy a storio ynni.
Mae ein cyngor wedi’i seilio ar atebion ymarferol, ac rydym yn cynnig cymorth technegol, masnachol a chaffael i helpu ein cleientiaid i gynllunio’n strategol, datrys materion masnachol cymhleth, rheoli rhaglenni neu brosiectau’n effeithiol a chynyddu hyder cyflenwi.
Mae gennym brofiad sylweddol mewn
datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy a rhaglenni strategol mawr
CIPOLWG AR: MASNACHOL
Mae pwysau parhaus ar y sector cyhoeddus i weithredu mewn ffordd fasnachol i ddarparu gwasanaethau’n effeithlon a gwneud y gorau o’r incwm y mae sefydliadau’n ei gynhyrchu.
Mae cynghorau, o sylweddoli nad yw eu sefyllfa ariannol bresennol yn gynaliadwy, yn troi at weithgarwch masnachol i gynhyrchu refeniw cyflymach. Mae canlyniadau caffaeliadau neu fuddsoddiadau nad ydynt yn cael eu rheoli’n dda neu sydd wedi’u barnu’n wael wedi’u dogfennu’n dda. Mae’r bwlch masnachol a gallu systemig yn y sector cyhoeddus yn effeithio ar broffil risg y sector cyhoeddus, y sicrwydd y gall sefydliadau ei roi mewn perthynas â gwariant grant neu fuddsoddiad, a gallu sefydliadau’r sector cyhoeddus i ddangos gwerth am arian.
Mae cynghorau’n wynebu heriau cynyddol o ran recriwtio a chadw staff ac mae ganddynt heriau o ran capasiti a gallu yn enwedig mewn perthynas â:
` swyddogaethau corfforaethol allweddol megis masnachol, cyllid a chaffael
` gweithgareddau croes-dorri megis datblygu achosion busnes, modelu ariannol ac ailgynllunio gwasanaethau
` meysydd gwasanaethau arbenigol megis tai, adfywio a gofal cymdeithasol.
Mae contractau P P P cynnar ar fin dod i ben ac mae angen cymorth ar awdurdodau contractio drwy’r broses gymhleth hon ac i ddarpariaeth gwasanaeth newydd. Yn aml nid oes gan y sector cyhoeddus y gallu na’r sgiliau sydd eu hangen i reoli’r trawsnewid hwn ond mae ein tîm ymroddedig o arbenigwyr masnachol yn cefnogi awdurdodau contractio. Gallwn eich helpu i gyflawni arbedion effeithlonrwydd ar draws ystod o feysydd o reoli contractau, ail-ariannu ac adolygu arbedion i feincnodi, profi’r farchnad ac adolygu cyfrifiadau rhannu risg premiwm yswiriant.
Mae gennym dîm ymroddedig o arbenigwyr sy’n gwella ac yn cynyddu set sgiliau masnachol a gwybodaeth y sector cyhoeddus i ymdrin yn effeithiol â threfniadau contractio cymhleth. Rydym yn rhannu arfer gorau, yn paratoi nodiadau canllaw, offer a thempledi.
Mae’r rhain yn cynnwys deunydd sy’n cefnogi rheoli contractau, pecynnau cymorth mapio prosesau masnachol a busnes yn ogystal â chanllawiau ar adolygu cwmnïau sy’n eiddo i awdurdodau lleol.
Mae gennym dîm ymroddedig o arbenigwyr sy’n gwella ac yn cynyddu set sgiliau masnachol a gwybodaeth y sector cyhoeddus i ymdrin yn effeithiol â threfniadau contractio cymhleth
CIPOLWG AR: LLE
Rydym yn datblygu, yn darparu ac yn adolygu ymyriadau sy’n cyfrannu at greu lleoedd llwyddiannus. Mae hyn yn gymhleth ac yn heriol oherwydd nifer yr elfennau dan sylw a’u cyd-ddibyniaeth.
Mae cynghorau yn wynebu heriau lluosog seiliedig ar leoedd ac anghenion y sector cyhoeddus gan gynnwys:
` diffyg adnoddau ar draws gwasanaethau seiliedig ar leoedd. Mae uwch reolwyr lleoedd yn aml yn gyfrifol am ystod eang ac amrywiol o wasanaethau ac nid oes gan lawer ohonynt yr adnoddau a’r arbenigedd penodol sydd eu hangen
` bodloni’r raddfa a’r cyflymder gofynnol ar gyfer darparu tai, gan gynnwys nodi a darparu opsiynau i ddiwallu’r angen am dai fforddiadwy a llety dros dro
` cynyddu’r pwysau ynghylch buddsoddi yn y stoc tai presennol, wedi’i ysgogi gan newidiadau rheoleiddio a’r symudiad i sero net, gyda chapasiti cyfyngedig ar gyfer meysydd allweddol megis rheoli contractau neu benderfyniadau cyrchu
` rolau lleoedd sy’n newid yn gyflym, yn enwedig canol trefi a’r angen i sicrhau bod y seilwaith gofynnol yn ei le
` angen am gymorth masnachol ym maes contractio iechyd a gofal cymdeithasol
` rheoli chwyddiant a heriau’r farchnad lafur ar gyfer cyflawni cynlluniau seilwaith hanfodol yn llwyddiannus.
Mae ein tîm yn dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad
i gefnogi dull strategol o greu lleoedd. Rydym yn helpu cleientiaid i ddatblygu a chyflwyno prosiectau sy’n ymateb i anghenion newidiol lleoedd, yn enwedig y gofynion seilwaith. Rydym yn cefnogi:
` cyflenwi tai a mynediad at dai
` gwella ansawdd y tai presennol
` diffinio a darparu rhaglenni gwaith cyfalaf cymhleth
` cymorth ar gyfer comisiynu, rheoli’r farchnad a rheoli contractau awdurdodau lleol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
` integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a’i alluogwyr
` datblygu achosion strategol cymhellol ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith, a chynhyrchu achosion busnes model pum achos
` diffinio, datblygu a chynnal asedau ffisegol
` gweithio gyda meysydd sy’n dymuno archwilio strwythurau amgen fel rhan o ymgyrchoedd effeithlonrwydd
` asesiad o ba mor gyflawnadwy yw prosiectau mewn ymateb i gyllid grant cyfalaf.
Mae ein pecynnau cymorth, adroddiadau ac adnoddau eraill yn cynnwys: y Pecyn Cymorth i Hwyluso Cyflenwi Tai, Llawlyfr Ôl-osod
Domestig, Model Llety Dros Dro, Pecyn Cymorth Atal Digartrefedd a Blaenoriaethu Piblinellau Tai.
CIPOLWG AR: SICRWYDD
Mae ein gwasanaethau sicrwydd prosiect yn darparu asesiad annibynnol a gwrthrychol o iechyd a pherfformiad unrhyw brosiect. Gallwn helpu i nodi problemau posibl yn gynnar, lliniaru risg a gwella’r tebygolrwydd o lwyddiant prosiect. Mae ymgymryd ag adolygiad o’r fath yn helpu i feithrin hyder ymhlith arweinwyr strategol, aelodau etholedig a sefydliadau ariannu bod y prosiect mewn dwylo da, a bod nawdd parhaus i’r prosiect yn ddymunol ac yn wir yn briodol. Mae buddsoddi mewn cymorth sy’n cynyddu llwyddiant prosiect yn allweddol felly, yn ogystal â sicrhau bod eich sefydliad yn defnyddio’r holl offer sydd ar gael ichi.
Rydym wedi datblygu cyfres o offer a gwasanaethau sicrwydd sydd wedi’u hanelu’n benodol at amrywiaeth o anghenion:
` adolygiadau contract unigol
` adolygiadau dichonoldeb ac achosion busnes
` adolygiadau datblygu tai
` gwiriadau iechyd, adolygiadau prosiect byr a manwl
` adolygiadau pwrpasol, yn canolbwyntio ar elfen neu ddisgyblaeth benodol (caffael, cyfathrebu ac ati).
Mae llawer o’n personél wedi’u hachredu fel arweinwyr ac aelodau tîm adolygu Gateway, ac wedi cymryd rhan mewn nifer o adolygiadau sicrwydd Gateway gan Lywodraeth Cymru.
CIPOLWG AR: DATA A DADANSODDEG
Mewn oes o wneud penderfyniadau sy’n cael eu gyrru gan ddata, mae’n hollbwysig i sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio data yn effeithiol er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniadau wedi’u cadarnhau a chefnogi datblygiadau a darpariaeth rhaglenni allweddol.
Rydym yn darparu mewnwelediad sy’n seiliedig ar ddata a thystiolaeth, offer a gwasanaethau gallu ar gyfer ein cleientiaid yn y sector cyhoeddus. Mae gan ein tîm y sgiliau a’r gallu, ynghyd â dealltwriaeth y sector cyhoeddus, i gefnogi ein cleientiaid yn effeithiol.
Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar:
` darparu mewnwelediadau cymhellol sy’n cael eu gyrru gan ddata cynhyrchu pecynnau cymorth
` delweddu data gan gynnwys dangosfyrddau gwybodaeth am y farchnad
` modelu data a geo-ofodol, gan gynnwys ehangu llif gwastraff a modelu ynni adnewyddadwy
` modelu a dadansoddi ariannol i gefnogi datblygiad achosion busnes.
Rydym yn darparu mewnwelediad sy’n seiliedig ar ddata a thystiolaeth, offer a gwasanaethau gallu ar gyfer ein cleientiaid sector cyhoeddus
HINSAWDD: YMATEB I HINSAWDD
Rachel Toresen-Owuor
Vicky Kingston
Y Cynulliad Cenedlaethol, fel y’i gelwid bryd hynny, oedd y senedd gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019 ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 ac allyriadau sero net i Gymru erbyn 2050, gyda thargedau interim a chyllidebau carbon.
Mae Partneriaethau Lleol yn cefnogi sefydliadau sector cyhoeddus ledled Cymru gyda’u hamcanion datgarboneiddio ac addasu i newid yn yr hinsawdd.
Addasu i newid yn yr hinsawdd
Comisiynwyd Partneriaethau Lleol gan
Is-adran Iechyd y Cyhoedd, Llywodraeth Cymru i gefnogi ei Chynlluniau Ymaddasu Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd “Adapting to Climate Change: Progress in Wales, ym mis Medi 2023 ”. Wedi’i gyhoeddi ym mis Hydref 2024, arweiniodd y gwaith at ddatblygu’r
Pecyn cymorth addasu i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac mae’n dilyn asesiad sylfaenol o weithgarwch presennol ar draws y sector yng Nghymru. Yn gyson gyda’n hymagwedd ehangach, fe adolygon ni a chyfeirio at ddogfennau a chanllawiau
presennol, nodi bylchau a chyfleoedd a theilwra’r pecyn cymorth i amgylchiadau a gofynion penodol y sector yng Nghymru, a pharatoi deunyddiau hyfforddi. Fe gydgyflwynon ni weithdy hyfforddi gyda
Llywodraeth Cymru ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru ym mis Hydref 2024. Mae’r pecyn cymorth hwn wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio ar lefel tîm unigol, lefel gwasanaeth neu sefydliad. Mae’r pecyn cymorth yn ymdrin â thermau a chysyniadau allweddol, sut i gael gafael ar y wybodaeth i archwilio sut y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar sefydliadau a darpariaeth gwasanaethau. Mae offer ac adnoddau ychwanegol wedi’u hamlygu drwyddi draw a fydd yn cefnogi datblygiad cofrestrau a chynlluniau risg.
Fe weithion ni gyda Phrifddinas-Ranbarth
Caerdydd (P R C) i gyflwyno gweithdai addasu, gan ddod â chynghorau’r rhanbarth ynghyd i archwilio’r risg o ran darparu gwasanaethau i bobl a gwasanaethau yn seiliedig ar leoedd mewn hinsawdd sy’n newid. Datblygwyd cofrestr risg lefel uchel gychwynnol i gefnogi P R C gyda’i asesiad risg hinsawdd a bregusrwydd yn adrodd i C D P (Prosiect Datgelu Carbon yn flaenorol).
Jo Wall
YMATEB I HINSAWDD
Mae’r argymhellion a ddarparwyd gennym i P R C wedi’u cymryd drwy ei weithdrefn lywodraethu i gefnogi risg hinsawdd ac addasu i’w hymgorffori yn y broses o gynllunio gwasanaethau yn y rhanbarth.
Lleihau allyriadau a llwybrau i sero net
Rydym yn cefnogi sefydliadau gyda gwaith lleihau allyriadau gan gynnwys cyfrifo carbon, cynllunio llwybrau i Sero Net, datblygu achosion busnes prosiect, gwaith ôl-osod adeiladau, trawsnewid fflyd a chynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Mae gwaelodliniau allyriadau, cyllidebu carbon a datblygu cynlluniau gweithredu effeithiol yn arfau allweddol i sicrhau gostyngiadau ymarferol mewn allyriadau. Ers 2020 rydym wedi bod yn galluogi awdurdodau lleol i wneud mwy o’u cyfrifon carbon eu hunain. Mae ein harbenigedd a’n profiad yn ein helpu i ddarparu cymorth i sefydliadau yng Nghymru sy’n adrodd ar allyriadau i Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio dull adrodd a methodoleg Cymru, yn enwedig mewn perthynas ag allyriadau Cwmpas 3.
Yn 2024, fe ddatblygon ni a diweddaru’r Taflwybrau Sero Net ar gyfer pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
YMATEB I HINSAWDD
Dadansoddwyd y data sydd ar gael gennym ar gyfer adeiladau awdurdodau lleol, goleuadau stryd a fflyd i amcangyfrif y gost gyffredinol, wedi’i rhannu fesul awdurdod lleol, i bob awdurdod ddatgarboneiddio erbyn 2030 (targed sector cyhoeddus Cymru). Fe ddatblygon ni Offeryn Cynllunio Senario safonedig ar gyfer Sero Net ar gyfer pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i helpu i archwilio opsiynau senario ar gyfer cyrraedd sero net ar gyfer eu gweithrediadau eu hunain erbyn 2030, gan ddarparu adroddiad tystiolaeth terfynol cynhwysfawr, gan gynnwys data llawn, cyfeiriadau, a chrynodebau.
Rheoli rhaglenni
Mae cyflwyno rhaglenni newid yn yr hinsawdd yn gymhleth ac mae cynnal llywodraethu a ffocws rhaglenni yn allweddol i gyflawni llwyddiannus. Fe ddarparon ni gymorth swyddfa rheoli’r rhaglen i Raglen Caerdydd Un Blaned Cyngor Caerdydd, drwy: ` sefydlu adroddiadau a monitro gweithgaredd sydd wedi’i gynnwys yn y cynllun gweithredu
` cefnogi prosesau llywodraethu
` datblygu Map Ffordd Cerbydau Trydan, sy’n nodi’r gofynion ar gyfer seilwaith gwefru yn y ddinas
` optimeiddio prosiect yng Ngwaith Hydro Cored Radur.
Fe wnaeth ein hymyriadau wella cyfathrebu a threfniadau contract ffurfiol rhwng y cyngor a’r gweithredwr, gan arwain at waith adfer a pherfformiad gwell. Mae’r gwaith yn perfformio’n sylweddol well nag o’r blaen, gan sicrhau ffrwd incwm gadarn i’r cyngor a chyflawni ei amcan ynni adnewyddadwy’n well.
Canllawiau a Phecynnau Cymorth
Hinsawdd
Cafodd ein Pecyn Cymorth Addasu
Hinsawdd a’r matrics risg cysylltiedig, a ddatblygwyd gyda’r Rhaglen Effaith Hinsawdd y D U gynt, eu hadolygu yn 2024 ac fe’u cymeradwyir gan y Swyddfa Dywydd i’w defnyddio gyda’i Gwasanaeth Hinsawdd Awdurdodau Lleol. Rydym yn parhau i ddatblygu’r canllawiau a’r offer cysylltiedig ac i sicrhau aliniad â gofynion adrodd. Mae’r pecyn cymorth wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio gan dimau, gwasanaethau neu sefydliadau unigol.
Hwylusodd Partneriaethau Lleol y gwaith o gynhyrchu ein hasesiad risg a bregusrwydd hinsawdd rhanbarthol (C R V A). Buont yn gweithio mewn partneriaeth â ni (Prifddinas-Ranbarth Caerdydd), y 10 awdurdod lleol yn y rhanbarth a rhanddeiliaid rhanbarthol eraill i ddatblygu fframwaith cadarn ar gyfer asesu risg i ddarpariaeth gwasanaethau cynghorau.
Diolch i chi, Partneriaethau Lleol am ddarparu fframwaith strwythuredig i bartneriaid gydweithio ar addasu hinsawdd ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.”
Emma Wakeham Rheolwr Rhaglen Cynllun Ynni
Ardal Leol, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Mike Williams
Tony Lawson
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hybu cynnydd ar draws swyddi gwyrdd a thwf fel un o’i phedwar maes allweddol – creu swyddi gwyrdd sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac adfer byd natur, tra’n gwneud teuluoedd yn well eu byd; a chyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau:
` cynhyrchu 70% o ddefnydd trydan Cymru o ynni adnewyddadwy erbyn 2030
` bod 1GW o gapasiti ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn eiddo lleol erbyn 2030
` pob prosiect ynni adnewyddadwy i gael o leiaf elfen o berchnogaeth leol o 2020.
Mae Partneriaethau Lleol yn cefnogi mentrau allweddol yn y sector ynni adnewyddadwy.
Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru
Mae Partneriaethau Lleol yn bartner cyflawni yng Ngwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a ddarperir mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Garbon a’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. Rydym wedi bod yn rhan o’r gwasanaeth hwn ers ei sefydlu. Gyda’n gilydd, rydym yn
darparu cymorth ymgysylltu strategol a chyflawni prosiectau i bob corff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru (77 o sefydliadau cymwys gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, prifysgolion a sefydliadau addysg bellach) er mwyn cyflymu a lleihau’r risg o brosiectau sy’n cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o sector sero net erbyn 2030.
Yn 2024, roedd ein gwaith yn cynnwys cynyddu effeithlonrwydd ynni adeiladau, adeiladu cyfleusterau cynhyrchu ynni adnewyddadwy, trosglwyddo fflydoedd cerbydau i bŵer trydan, a gwella caffael i leihau cynnwys carbon mewn nwyddau a gwasanaethau a brynir. Rydym wedi cynorthwyo sefydliadau unigol ond hefyd wedi annog cydweithio drwy gefnogi cynllunio ynni ardal leol a rhanbarthol, gan helpu i sicrhau gwell arbedion maint.
Mae cyflawniadau allweddol yn cynnwys:
` datblygu proses gaffael cerbydau trydan arloesol ar y cyd ar draws cynghorau
Cymru, gan arbed i’r sector cyhoeddus
c. £1 m ar gyfer dros 300 o gerbydau ar draws 13 math o gerbydau, a lleihau amseroedd aros
` am ddosbarthu hyd at 18 mis. Enillodd y fenter hon y “Darpariaeth Gaffael
Orau” yng Ngwobrau GO 2024 a Gwobr Swyddogaeth Fasnachol y Llywodraeth am y “Prosiect Caffael Bach Gorau”
` cynyddu’r ganran gyffredinol o gerbydau trydan ar draws pob math o fewn y sector cyhoeddus o 6% i bron i 10% drwy’r caffael cydweithredol a grant cerbydau trydan â chymorth gan Lywodraeth Cymru
` sicrhau cais fferm solar 20 M W â chaniatâd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref
Sirol Caerffili
` cymorth i ddatblygu Cynlluniau Ynni
Ardal Leol ar gyfer 18 awdurdod lleol, eu cymeradwyo a’u gweithredu ledled Cymru ar lefelau lleol a rhanbarthol
` datblygu tri phrosiect rhanbarthol ar gyfer Cyd-Bwyllgor Corfforaethol Deorllewin Cymru, ar gyfer taliadau trydan cydweithredol y sector cyhoeddus rhanbarthol, prosiectau ôl-osod domestig rhanbarthol ac ymgyrchoedd newid ymddygiad ochr yn ochr â grwpiau ynni cymunedol
YNNI
` cymorth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen gyda chyflwyniad prosiectau solar ar draws 14 o ysgolion, a chyfanswm o 715 k W o baneli solar ar y to, sy’n cyfateb i c. 180 o systemau cartref
` datblygu cais llwyddiannus i Gyngor Sir Ynys Môn am £1 m i osod pympiau gwres
` ffynhonnell aer yn lle boeleri nwy
` cymorth i Gyngor Sir Caerfyrddin gyda 18 o bympiau gwres ffynhonnell aer ar draws eu hystâd
` cymorth i Lywodraeth Cymru sicrhau a defnyddio c. £20 m i ariannu mentrau hirdymor i ddatgarboneiddio’r sectorau addysg uwch ac addysg bellach o dan gynllun Digarbon, gyda dyfarniadau sylweddol yn cael eu rhoi i Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe.
Ers ei sefydlu yn 2018 mae’r Gwasanaeth Ynni wedi:
` cyflawni buddsoddiad o £210 m ar draws y sector cyhoeddus a mentrau cymunedol i osod ynni adnewyddadwy, adeiladu effeithlonrwydd ynni, gwres carbon isel a phrosiectau fflyd sero allyriadau Cynhyrchu ynni
` gosod 44.5 M W o gapasiti ynni adnewyddadwy newydd yng Nghymru, digon i bweru tua 18,000 o gartrefi
` cynhyrchu amcangyfrif o £367 m mewn incwm lleol ac arbedion dros oes y prosiectau.
Trydan Gwyrdd Cymru
Fel un o ymrwymiadau allweddol
Llywodraeth Cymru, fe sefydlon ni Trydan Gwyrdd Cymru fel datblygwr ynni adnewyddadwy hyd braich sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru i gyflymu’r gwaith o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar ystâd goetir ehangach Llywodraeth Cymru, a chynyddu ei werth i bobl Cymru.
Roedd ein cymorth yn cynnwys cynhyrchu’r
Achos Busnes, a nodi a datblygu’r prosiectau gwynt sylweddol sydd ar y gweill ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Fe arweinion ni ar bob agwedd ar sefydlu’r cwmni newydd, gan gynnwys dylunio sefydliadol, recriwtio staff, sefydlu’r Bwrdd, gweithredu systemau craidd, hunaniaeth gorfforaethol a brandio a chofrestru ffurfiol yn Nhŷ’r Cwmnïau.
Lansiwyd y cwmni ym mis Gorffennaf 2024 a’i dasg yw darparu 1 G W o brosiectau ynni adnewyddadwy erbyn 2040.
Mae Local Partnerships yn parhau i ddarparu cymorth arbenigol gwerthfawr iawn i raglenni pwysig o fewn Llywodraeth Cymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ehangder profiadau a sgiliau perthnasol cydweithwyr Local Partnerships wedi bod yn hanfodol i ddatblygu Trydan Gwyrdd Cymru ac Ynni Cymru.
Ed Sherriff Dirprwy Gyfarwyddwr, Llywodraeth Cymru
Ynni Cymru
Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu Ynni Cymru i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy lleol a chymunedol clyfar ac arloesol sy’n dod â chynhyrchu ynni, storio, galw a seilwaith ynghyd. Y nod yw sicrhau bod ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol yn cael ei gyflenwi i’r lle iawn, ar yr amser iawn i wella effeithlonrwydd, cynyddu effeithlonrwydd grid a sicrhau’r buddion lleol mwyaf.
Fe sefydlon ni grwpiau rhanddeiliaid allweddol i helpu i lywio gweithgareddau
ac ymgysylltu ag amrywiaeth o brosiectau ynni yn y sector cyhoeddus a chymunedol i nodi lle gall Ynni Cymru ychwanegu gwerth gorau at y system ynni gyfan yn y blynyddoedd i ddod. Rydym yn bwrw ymlaen â rhaglen o weithgareddau gan gynnwys gwasanaeth gwirio iechyd asedau ynni adnewyddadwy presennol a pherchnogaeth gymunedol, ffrwd waith System Ynni Lleol Blaengar gynhwysfawr, gwasanaeth cymorth grid i ddangos yr hyn y gellir ei gysylltu â’r grid heddiw ac yn y dyfodol, a datblygu offer cyflawni prosiect newydd i lywio’r cymhlethdodau sy’n ymwneud â storio ynni batri a dewis technoleg gwres.
Sicrhaodd Ynni Cymru grant cyfalaf
o £10 m ar gyfer y flwyddyn ariannol hon y mae sefydliadau sector cyhoeddus, grwpiau cymunedol a mentrau bach a chanolig sydd am ddatblygu prosiectau System Ynni Lleol Clyfar yng Nghymru wedi gwneud cais am arian iddo. Derbyniwyd dros 110 o geisiadau, a dyfarnwyd cyllid i 32 o brosiectau ynni gwyrdd cymunedol ar draws y sectorau cymunedol, cyhoeddus a busnes. Mae’r prosiectau’n cynnwys defnyddio popeth o baneli solar a phympiau
YNNI
gwres i storio batris a phwyntiau gwefru cerbydau trydan. Byddant yn cefnogi’r defnydd o ynni ar draws ystod eang o sefydliadau gan gynnwys ysgolion, canolfannau hamdden, cartrefi gofal, parciau busnes, a chanolfannau cymunedol a gweithgareddau.
Fe wnaeth ein rôl ar Ynni Cymru ein galluogi i recriwtio tîm o bum aelod o staff o Gymru a sicrhau gofod swyddfa yng nghyfleuster M-Sparc yn Ynys Môn, fel canolfan ar gyfer ein cymorth.
Re:fit ac ol-osod adeiladau
Mae datgarboneiddio adeiladau yn dasg sylweddol ac anodd. Mae Partneriaethau Lleol yn darparu cyngor a chefnogaeth wrth ddatblygu a chyflawni prosiectau. Mae hyn yn cynnwys y Llawlyfr Ôl-osod Domestig sy’n rhoi cyngor ar ddatblygu a gweithredu prosiectau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Partneriaethau Lleol wedi bod yn gydberchennog (gydag Awdurdod Llundain Fwyaf) y fframwaith contract perfformiad ynni Re:fit.
Yn 2024, defnyddiodd naw awdurdod lleol a bwrdd iechyd ledled Cymru y fframwaith Re:fit i gychwyn ar eu teithiau effeithlonrwydd ynni
a datgarboneiddio. Hwyluswyd hyn gan
ein tîm amlddisgyblaethol o arbenigwyr gwella perfformiad cyfreithiol, technegol, ariannol, ynni a charbon ar gyfer:
` Cyngor Caerdydd
` Cyngor Sir Ceredigion
` Cyngor Sir y Fflint
` Cyngor Abertawe
` Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
` Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
` Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
` Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
` Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Gyda’i gilydd, mae’r prosiectau hyn yn targedu arbedion o leiaf 3,200 tunnell o garbon, 15,300 M Wh o ynni ac yn sicrhau
£3.1 m o arbedion ariannol y flwyddyn.
Rhaglen Ynni Morol
Wrth i Gymru newid i gyflenwad trydan di-garbon, mae graddfa arloesedd a maint prosiectau yn cynyddu’n gyflym.
Mae Partneriaethau Lleol yn cefnogi Llywodraeth Cymru gyda’u Rhaglen Ynni Morol sy’n canolbwyntio ar dechnolegau
llif llanw gwynt ar y môr a môr-lynnoedd llanw sy’n arnofio.
Mae gan ynni gwynt ar y môr y potensial i ddod â chyflogaeth sylweddol yng
Nghymru, ond mae hyn yn dibynnu ar seilwaith addas a chadwyn gyflenwi integredig leol gyda gweithwyr Cymreig medrus sydd wedi’u hyfforddi’n dda. Buom yn gweithio gyda phorthladdoedd
Port Talbot ac Aberdaugleddau i sicrhau
£1m yr un gan Lywodraeth Cymru ar gyfer arolygon cychwynnol a gwaith dylunio i gefnogi uwchraddio porthladdoedd.
Yn ddiweddar, gofynnwyd i ni ddarparu’r ysgrifenyddiaeth i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ynni Gwynt ar y Môr.
Fe weithion ni gyda phrosiect arddangos llif llanw Morlais oddi ar arfordir Ynys
Môn i ddatblygu ystod o opsiynau ariannu creadigol i alluogi cynaliadwyedd prosiectau a chynyddu’r defnydd o ddyfeisiau llif llanw i’r uchafswm a ganiateir ar gyfer y safle – 240 M W.
O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi buddsoddi £8 m ym
Menter Mon Morlais Ltd (y cwmni sy’n gweithredu’r safle) yn gyfnewid am gyfran ecwiti. Gyda balans y cyfranddaliadau ym mherchnogaeth Menter Môn yn
YNNI
gwmni buddiant cymunedol, bydd yr holl fuddion buddsoddi felly yn cael eu cadw yng Nghymru.
I gefnogi’r sector llif llanw ymhellach, rydym yn gweithio gydag un o’r datblygwyr sydd a docfa ym Morlais, i fuddsoddi o bosibl mewn prosiect arddangos, unwaith eto drwy gyfran ecwiti. Y nod yw profi gwelliannau mewn amodau go iawn i dyrbinau a fydd yn cael eu defnyddio gan dri o’r pedwar datblygwr sydd ar hyn o bryd â Chontractau Gwahaniaeth (C f D s) ym Morlais. Gyda’i gilydd, mae’r buddsoddiadau hyn wedi annog Inyanga i ddod â’u neuadd ymgynnull tyrbinau i Ynys Môn gan greu swyddi lleol.
Yn ystod 2024, fe arweinion ni Her Morlyn Llanw Llywodraeth Cymru. Sicrhaodd y gronfa grant arloesol hon fod £750,000 ar gael i gonsortia ymchwil i ddangos y potensial naill ai i leihau neu ddileu rhwystr sy’n atal môr-lynnoedd llanw rhag cael eu datblygu ar hyn o bryd neu helpu i fesur budd posibl datblygu morlynnoedd llanw. Un o’r prosiectau yw casglu data ar batrymau mudo pysgod trwy dagio.
Mae’r dyfarniadau cyllid hyn, a’n cymorth ni, wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gyflawni’r ymrwymiad hwn yn y Rhaglen Lywodraethu ar gyfer Her y Morlyn Llanw.
Prosiectau ynni adnewyddadwy eraill
Fe gefnogon ni Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tydfil i ddatblygu cynlluniau solar wedi’u cefnogi gan “wifren breifat” a chysylltiad, a Chytundeb Prynu Pŵer masnachol i drydydd parti. Fe adeiladon ni fodelau ariannol i gefnogi datblygiad achosion busnes a darparu cyngor masnachol i ddatblygu’r cytundebau.
Arweiniad ac Offer Ynni
Rydym yn cefnogi awdurdodau lleol
gyda’n Offeryn Rhagolwg Trydan cyflym a chadarn, rhad ac am ddim, hawdd ei ddefnyddio, i ragweld defnydd trydan cynghorau yn y dyfodol yn well, cyflawni gwell effeithlonrwydd ynni a llywio anghenion caffael ar ôl ystyried effeithiau ymyriadau datgarboneiddio a meysydd twf.
Mae ein Canllaw Arfer Da ar Ynni
Adnewyddadwy yn darparu gwybodaeth mewn perthynas â diwydiant a pholisi i helpu aelodau a swyddogion awdurdodau lleol sy’n ystyried perchnogaeth asedau i ddeall y risgiau a’r buddion posibl a sut y gellir eu rheoli, i hwyluso datblygiad prosiectau ynni lleol.
YNNI
DYFODOL
DIWASTRAFF
Derek Rooney
Kristy Spindler
Symud Cymru Ymlaen Tuag at Economi Gylchol
Yn 2024 cyflawnodd Cymru’r gyfradd ailgylchu ail uchaf yn fyd-eang, gyda phum awdurdod lleol yn rhagori ar y targed ailgylchu uchelgeisiol o 70% ar gyfer y flwyddyn. Cyrhaeddodd gwastraff ag anfonwyd i safleoedd tirlenwi ei lefel isaf erioed, gan nodi carreg filltir arwyddocaol. Mae Partneriaethau Lleol yn falch o fod wedi chwarae rhan hanfodol yn y cyflawniadau hyn trwy ein gwaith ar y Rhaglen Effeithlonrwydd Adnoddau ac Economi Gylchol a’r Rhaglen Newid Strategol.
Gyrru Polisi a Newid Systemig
Mae ein gwaith wedi bod yn allweddol
i helpu Cymru i bontio i economi gylchol sy’n canolbwyntio ar werthfawrogi adnoddau, diogelu’r amgylchedd, lliniaru newid yn yr hinsawdd, a chadw bioamrywiaeth. Trwy ein cyfraniadau
i Raglen Effeithlonrwydd Adnoddau
a’r Economi Gylchol Llywodraeth Cymru rydym yn:
` cynnal ymchwil ar bolisïau ailddefnyddio ac atgyweirio byd-eang i lywio
datblygiad polisïau economi gylchol blaengar
` darparu cymorth rheoli rhaglenni a phrosiectau i hyrwyddo ymrwymiadau’r llywodraeth mewn perthynas â Chyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr
` darparu dadansoddiad arbenigol i lywio gofynion polisi a seilwaith strategol yn y dyfodol i sicrhau bod seilwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn parhau i gyflawni’r canlyniadau gorau, gan sicrhau’r gwerth gorau am arian i’r sector cyhoeddus yng Nghymru
` cydweithio ar draws y sector cyhoeddus i roi mentrau ar waith i fynd i’r afael â deunyddiau anodd eu hailgylchu, fel plastigau anhyblyg
` hwyluso’r symudiad tuag at gerbydau allyriadau isel iawn ar gyfer casgliadau sbwriel ac ailgylchu
` gweithio mewn partneriaeth â WRAP Cymru i gefnogi awdurdodau lleol i leihau gwastraff, a gwella gwasanaethau ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu, gan sicrhau bod targedau statudol yn cael eu cyrraedd
DYFODOL DIWASTRAFF
` darparu rheolaeth contract ac adnoddau arbenigol i awdurdodau lleol sy’n rheoli contractau Partneriaeth CyhoeddusPreifat (P P P) bwyd a gwastraff gweddilliol.
Rhaglen Newid Gydweithredol
Fe gefnogon ni awdurdodau lleol drwy ddatblygu strategaethau a gweithredu newidiadau i leihau gwastraff, cynyddu ailddefnyddio ac atgyweirio, a chyrraedd a rhagori ar y targed ailgylchu o 70%. Yn 2024 rydym ni wedi:
` cefnogi Cynghorau Sir y Fflint, Torfaen, Blaenau Gwent, Gwynedd, Powys, Conwy, Wrecsam, Sir Benfro a Chaerffili i ddatblygu, a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer adnoddau newydd a strategaethau gwastraff. Yn dilyn datblygu’r strategaethau hyn buom yn cefnogi awdurdodau gyda’r broses o geisio cymeradwyaeth y Cabinet drwy brosesau llywodraethu lleol gan gynnwys ymgynghoriadau cyhoeddus
` darparu cymorth a chyngor i Gynghorau Powys, Sir y Fflint, Ynys Môn, Caerffili a Blaenau Gwent i adolygu eu cynlluniau seilwaith gwastraff lleol a datblygu opsiynau seilwaith addas
DYFODOL DIWASTRAFF
` a fydd yn caniatáu iddynt gyflawni eu hamcanion strategol
` darparu arbenigedd i Gynghorau
Caerffili, Torfaen, Ynys Môn, Conwy ac Abertawe i ddatblygu achosion busnes i geisio cyllid gan Lywodraeth Cymru tuag at welliannau i adnoddau lleol a seilwaith gwastraff ac i helpu i gyrraedd targedau carbon net sero.
Gwastraff Masnachol ac Ailgylchu yn y Gweithle
Yn 2024, fe gefnogon ni Llywodraeth Cymru i weithredu Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle (Cymru) 2023. Fe wnaeth ein harbenigedd rheoli prosiect a thechnegol gadarn helpu i lunio’r gwaith o osod rheoliadau ategol.
Ochr yn ochr â hyn, fe gefnogon ni 15 o awdurdodau lleol i alinio eu gwasanaethau gwastraff masnachol â Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle (Cymru) 2023. Roedd hyn yn cynnwys adolygu gwariant, strwythurau prisio, a pharatoi ar gyfer casglu deunyddiau newydd. Sicrhaodd ein harweiniad fod gwasanaethau’n gosteffeithiol ac yn cydymffurfio.
Treialon Plastigau Hyblyg
Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddylunio a chyflwyno dau dreial casglu a thrin plastig hyblyg gyda chynghorau
Abertawe a Bro Morgannwg sydd i fod i ddechrau yn 2025. Bydd y treialon yn llywio’r broses o gyflwyno casgliad gorfodol o blastigau hyblyg o ymyl y ffordd yn y D U yn ystod 2027.
Adnoddau a Seilwaith Gwastraff
Darparwyd cymorth arbenigol gennym drwy’r Rhaglen Caffael Seilwaith Gwastraff. Ar ôl cefnogi awdurdodau lleol yn flaenorol i gaffael saith contract trin gwastraff bwyd ar y cyd a thri chontract trin gwastraff gweddilliol o dan bartneriaethau cyhoeddus preifat hirdymor, mae ein tîm o drafodwyr ymroddedig ac arbenigwyr cyfreithiol, ariannol a thechnegol yn parhau i gefnogi newid yn narpariaethau’r gyfraith, ail-ariannu, ac agweddau contractio cymhleth eraill a pharatoi ar gyfer newid polisi.
Rydym yn hwyluso rhwydweithiau a grwpiau defnyddwyr rheolaidd i feithrin cydweithrediad ar draws awdurdodau yng
Nghymru, yr Alban a Lloegr gan sicrhau prosesu gwastraff sy’n amgylcheddol gynaliadwy a chost-effeithiol, gan sicrhau’r gwerth gorau am arian ar draws y sector cyhoeddus.
Catalydd ar gyfer Arloesi Gwyrdd
Mae ein hymrwymiad i sicrhau buddsoddiad mewn technolegau gwyrdd wedi hybu twf economaidd a chreu swyddi tra’n hyrwyddo newid systemig. Trwy wreiddio egwyddorion yr hierarchaeth adnoddau, gallwn helpu i liniaru allyriadau nwyon tŷ gwydr, arbed ynni, a mynd i’r afael â gorddefnyddio.
Am ragor o wybodaeth am Hinsawdd ewch i’n gwefan
MASNACHOL: PARTNERIAETHAU CYHOEDDUS-PREIFAT
Georgia Lewis
Neil Okninski
Mae gwaith masnachol Partneriaethau Lleol yn cefnogi’r sector cyhoeddus trwy ddarparu gallu a chapasiti masnachol pwrpasol i:
` cynnal a gwella gwasanaethau
` cynhyrchu ac uchafu incwm
` datblygu ffyrdd arloesol o arbed arian a gwella canlyniadau
` cyflawni mwy o werth a chyflawni effeithlonrwydd gweithredol o gontractau
cymhleth, megis y rhai o brosiectau Mentrau Cyllid Preifat a Phartneriaethau
Cyhoeddus-Preifat (P F I/P P P)
Contract yn dod i ben
Prif ffocws gwaith P P P Partneriaethau Lleol yw cefnogi prosiectau P F I i baratoi ar gyfer dod i ben wrth i fwy o brosiectau symud i’r cyfnod hollbwysig hwn. Rydym yn
coladu profiad o’r farchnad i bennu cynsail sy’n dod i’r amlwg o amgylch dulliau cytundebol ac anghytundebol.
Mae gennym berthynas strategol pedair blynedd gyda’r Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau (D V L A) mewn
perthynas â’u prosiect llety P F I sy’n dod i ben ym mis Mawrth 2025, yn ymwneud â’u pencadlys yn Nhreforys yn Abertawe. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r D V L A
i weithredu eu strategaeth ar gyfer dod i ben sydd wedi golygu:
` adolygiad manwl o’u model ariannol sylfaenol a nodi’r materion masnachol
` cymorth i ddatblygu strategaeth negodi fasnachol
` hwyluso trafodaeth ar faterion strategol
` gweithio ochr yn ochr â’r D V L A i bennu eu model gweithredu targed ar gyfer gwasanaethau rheoli cyfleusterau caled a meddal yn y dyfodol.
Buom yn cynorthwyo gyda’r gwaith o gynllunio a chyflawni’r arolwg pan ddaw i ben, adrodd nol ar gywirdeb ariannol y cwmni sector preifat, a sefydlwyd
PARTNERIAETHAU CYHOEDDUS-PREIFAT
i gyflawni’r prosiect, a chefnogi datblygiad strategaeth a dull rheoli perfformiad ar gyfer y contract gwasanaethau rheoli cyfleusterau called i’w gosod gan y D V L A ar ôl iddo ddod i ben.
Trwy drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau i dîm y D V L A mae ein mewnbwn bellach wedi datblygu i un o gyngor lefel uchel a chefnogaeth strategol.
Model Buddsoddi Cydfuddiannol (M I M)
Mae Partneriaethau Lleol wedi bod yn allweddol wrth ddarparu arbenigedd masnachol, ariannol a chaffael i ddatblygu’r
Model Buddsoddi Cydfuddiannol (M I M) ac i ddatblygu prosiectau unigol gan ddefnyddio M I M.
Y llynedd (2024) hefyd agorwyd yr ysgolion cyntaf o dan y Rhaglen Cymunedau
Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, sef ysgolion
Llanilltud Faerdref a Phenygawsi yn Rhondda Cynon Taf. Mae’r rhain yn rhan o brosiect ysgolion cynradd grŵp gwerth £53 m, a champws addysgiadol pob oed gwerth £65 m ym Mynydd Isa, Sir y Fflint. Mae’r rhain yn dilyn ffurfio cwmni datblygu Cyd-fenter, WEPCo. Ymrwymwyd i’r
Cytundeb Partneriaeth Strategol
PARTNERIAETHAU CYHOEDDUS-PREIFAT
10 mlynedd rhwng WEPCo, Llywodraeth
Cymru a’r rhan fwyaf o awdurdodau addysg lleol a Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru, sy’n cynrychioli cyfle gwirioneddol i sicrhau gwerth hirdymor ar draws ystâd addysgol Cymru.
Mae Canolfan Ganser newydd Felindre a ddaeth i ben yn ariannol ym mis Mawrth 2024 yn brosiect adeiladu gwerth c £310 m, a ddatblygwyd i gydymffurfio â Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a darparu’r ysbyty mwyaf cynaliadwy yn y D U. Mae’r ysbyty newydd yn rhan o Raglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser
De Ddwyrain Cymru Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Bydd yn darparu gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd uchel i gleifion a gofalwyr, gan ddarparu’r triniaethau mwyaf effeithiol tra hefyd yn arwain addysg, ymchwil ac arloesedd cenedlaethol a rhyngwladol mewn gofal cleifion canser. Dechreuodd y gwaith adeiladu yn syth ar ôl i’r sefyllfa ariannol gau, a disgwylir i’r Ganolfan Ganser agor ym mis Ebrill 2027.
Rydym yn parhau i gefnogi’r
Ymddiriedolaeth yn uniongyrchol i sicrhau bod y prosiect yn cyflawni’r buddion a gynhwysir yng nghynigion y contractwr,
yn ogystal â chynnal perthynas effeithiol a chynhyrchiol â phartner sector preifat yr Ymddiriedolaeth. Rydym hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth gydlynu’r gwaith o adeiladu’r ganolfan newydd gyda’r holl brosiectau cysylltiedig i adlewyrchu natur gyfannol rhaglen ehangach Canolfan Ganser Felindre Newydd, gan gynnwys y gwaith galluogi sydd ei angen i sicrhau bod y safle’n hygyrch a’r offer i’w cynnwys yn y cyfleuster newydd.
Yn flaenorol, fe gefnogon ni gaffael prosiect deuol yr A465, prosiect M I M gwerth £550 m i ddeuoli 18 km o ffordd Blaenau’r Cymoedd yr A465 rhwng
Dowlais a Hirwaun, y rhagwelir y bydd wedi’i gwblhau yn haf 2025, gyda chyfnod gweithredu o 30 mlynedd.
Mae buddion cysylltiedig uniongyrchol o leihau amseroedd teithio ynghyd â mwy o hygyrchedd yn yr ardaloedd cyfagos, yn golygu bod y prosiect wedi rhagori’n sylweddol ar y targedau proffil cytundebol ar draws yr holl KPIau Budd Cymunedol.
Mae’n darparu llawer o fanteision cymunedol eraill, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â lleihau diweithdra hirdymor yn y rhanbarth, hygyrchedd i weithwyr difreintiedig, defnyddio prentisiaid lle bo’n bosibl a chyflwyno mentrau cymunedol.
Hyd yma, mae cyfanswm gwerth cyfalaf c £1 biliwn a ddarperir o dan M I M yn fuddsoddiad ychwanegol ar gyfer seilwaith newydd na fyddai wedi digwydd fel arall.
Mae’r M I M hefyd yn sicrhau manteision cymunedol sylweddol ac yn caniatáu i Lywodraeth Cymru, drwy Fanc Datblygu Cymru, gymryd cyfran ecwiti ym mhob prosiect a rhaglen.
Daeth tîm Partneriaethau Lleol â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i’n rhaglen
MIM Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Roedd cefnogaeth Partneriaethau Lleol yn amhrisiadwy wrth sefydlu’r cydfenter gyflawni yn y lle cyntaf ac, yn fwy diweddar, dod â’r ddau brosiect cyntaf i ben yn wyneb anawsterau economaidd sylweddol. Yn bwysicaf oll, integreiddiodd y tîm eu hunain yn llawn â Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau ein llwyddiant.
Emyr Harries Dirprwy Gyfarwyddwr – Cynllunio a Busnes Addysg a Llywodraeth, Llywodraeth Cymru
TRAWSFFURFIAD
Sarah-Joy Lewis
Buom yn gweithio gyda Chynghorau
Blaenau Gwent a Thorfaen yn ystod cyfnod darganfod lle bu’r ddau gyngor yn archwilio ffyrdd agosach o weithio ac yn rhannu rôl y Prif Weithredwr.
Nododd ein hadolygiad nifer o fanteision ffyrdd newydd ac arloesol o weithio, gan gynnwys cyfleoedd i sicrhau effeithlonrwydd ariannol, i greu diwylliant o wella gwasanaethau, i sicrhau canlyniadau gwell i drigolion ac i ysgogi cydweithio a rhannu gwybodaeth. Roedd tystiolaeth hefyd o fanteision yn sgil mwy o ddarpariaeth, cynllunio strategol cryfach a gwell datblygiad staff o fewn y cynghorau.
Mae hyn wedi arwain yn ddiweddar at y cynghorau yn cytuno i benodi Cyd-
Brif Weithredwr parhaol ar gyfer y ddau gyngor. Mae’r dull cyffrous ac arloesol hwn yn cefnogi cynaliadwyedd hirdymor y cynghorau.
Rydym hefyd wedi gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Torfaen ar ddyfodol darpariaeth y ganolfan hamdden gan greu cynllun gwella a chontract 10 mlynedd trwy gaffaeliad agored. Roedd dyluniad gwasanaethau’r dyfodol wedi’i seilio’n gryf ar uchelgeisiau’r cyngor a’r cynllun ar gyfer
canlyniadau iechyd gwell. Cyfunwyd hyn â chreu gwasanaethau cynaliadwy sy’n diwallu anghenion trigolion tra’n fasnachol hyfyw.
Rydym yn cefnogi rhaglen trawsffurfio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan geisio cyflawni targed arbedion o £25 m. Gan weithio’n agos gyda thîm y rhaglen, rydym yn rhannu arfer gorau er mwyn galluogi gwneud penderfyniadau gwybodus, gan ganolbwyntio ar feysydd allweddol gan gynnwys gofal cymdeithasol, gwasanaethau amgylcheddol a rheoli asedau. Rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr â thîm y rhaglen i sicrhau bod strwythurau rheoli arfer da a llywodraethu ar waith i gefnogi canlyniadau gwell.
Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy i ddisodli system flaenorol Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE (P A C) o gymorth i ffermwyr yng Nghymru. O dan y cynllun newydd, byddai ffermwyr yn cael eu talu am gamau gweithredu sy’n arwain at ganlyniadau amgylcheddol, lles anifeiliaid a chanlyniadau cymdeithasol, y tu hwnt i’r gofynion cyfreithiol sylfaenol,
TRAWSFFURFIAD
a byddai’n ofynnol iddynt gyflawni cyfres o “Weithredoedd Cyffredinol” ac am hyn yn derbyn Taliad Sylfaenol Cyffredin.
Fe adolygon ni drefniadau llywodraethu presennol y cynllun a’r cynnydd o ran cyflawni, gan dynnu allan y gwersi a ddysgwyd, a chynhyrchion rhaglen y cytunwyd arnynt, gofynion cynllunio ychwanegol a llwybr hollbwysig i gyrraedd cerrig milltir yn y dyfodol. Rydym bellach yn rheoli’r gwaith o lywodraethu’r rhaglen ar gyfer lansio’r cynllun ym mis Ionawr 2026. Rydym yn gwneud hyn drwy adolygu’r llwybr critigol yn barhaus a chefnogi’r gwaith o’i gyflawni, rheoli dangosfyrddau, nodi a chyfeirio materion a risgiau i lefel uwch ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol. Rydym hefyd yn cefnogi datblygiad yr achos busnes ar gyfer yr ymrwymiad hollbwysig hwn yn y Rhaglen Lywodraethu.
Canllawiau a Phecynnau Cymorth
Trawsffurfio
Yn unol â’n hymrwymiad i rannu ein harbenigedd â’r sector yn rhydd, cyhoeddwyd ein Matrics Blaenoriaethu Trawsffurfio. Mae hwn yn offeryn amhrisiadwy sydd wedi’i gynllunio i gynorthwyo’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i nodi’r prosiectau newid mwyaf addawol i’w datblygu, wedi’u llywio gan ein gwaith trawsffurfio diweddar, sydd wedi amrywio o ddatblygu offer ymarferol a chynnal dadansoddiadau opsiynau i ddarparu cymorth strategol, ac yn gyson ysgogi penderfyniadau dylanwadol a gwybodus.
CAPASITI MASNACHOL
David Crowe
Simon Bandy
Pecynnau Cymorth a Chanllawiau Masnachol
Mae’r dirwedd economaidd heriol ynghyd â’r disgwyliad cynyddol o ran darparu gwasanaethau yn golygu y bydd llawer o gynghorau yn parhau i ddibynnu ar fuddsoddiadau a mentrau masnachol i ddarparu ffrydiau incwm. Er mwyn gwella sgiliau a galluoedd masnachol awdurdodau lleol, rydym wedi cynhyrchu ystod o becynnau cymorth, templedi a chanllawiau. Er bod y rhain wedi’u datblygu drwy gyllid Llywodraeth y D U a Grant L G A, maent ar gael am ddim i awdurdodau lleol Cymru drwy ein gwefan:
Fe ddatblygon ni ganllawiau ar gyfer sefydlu a rhedeg Swyddfa Rheoli
Rhaglenni (P M O) sy’n cynnwys arfer gorau, meysydd i’w hystyried a pheryglon i’w hosgoi.
Cynhyrchwyd amrywiaeth o offer, templedi a chanllawiau ar gyfer Rheoli Contractau gennym, a’u profi a’u treialu gydag awdurdodau lleol i sicrhau defnyddioldeb, gan ddarparu’r sgiliau, y sicrwydd a’r gwydnwch sydd eu hangen.
Cynhyrchwyd pecyn cymorth gennym ar gyfer Mapio Prosesau Busnes ar gyfer Caffael a Rheoli Contractau sy’n
mynd â chynghorau drwy ganllaw cam wrth gam wrth iddynt gynnal eu mapio prosesau eu hunain, ynghyd ag offer a chanllawiau cysylltiedig. Mae’r pecyn cymorth yn cwmpasu’r cylch bywyd comisiynu cyfan, gan alluogi cynghorau i ystyried gwelliannau i’w proses bresennol, yn ogystal â chynllunio ar gyfer beth fyddai “da” wrth reoli contractau.
Fe ddiweddarwyd ein Canllawiau Adolygu Cwmnïau Awdurdodau Lleol (LATCo) sy’n rhoi cyngor ynghylch sefydlu a rheolaeth barhaus LATCos yn ogystal â rhestr wirio arfer da sy’n cwmpasu pob agwedd ar lywodraethu da o safbwynt y cyngor a’r cwmni.
Lansiwyd Pecyn Cymorth Masnachol i helpu awdurdodau lleol i ymdopi â heriau masnacheiddiwch. Mae’n rhoi dull strwythuredig a chadarn i gynghorau o ystyried gweithgarwch masnachol a gall helpu i sicrhau llwyddiant unrhyw fenter fasnachol.
Bydd y dirwedd economaidd heriol ynghyd â’r disgwyliad cynyddol o ran darparu gwasanaethau yn golygu bod llawer o gynghorau’n debygol o barhau i ddibynnu ar fuddsoddiadau a mentrau masnachol i ddarparu ffrydiau incwm.
CAPASITI MASNACHOL
Fe wnaethom ddatblygu Glasbrint C E O sy’n mynd â Phrif Swyddogion Gweithredol cynghorau drwy ddull gweithredu angengwybod, strwythuredig, ymwybodol o risg ac sy’n gynaliadwy yn ariannol i ddatblygu mentrau masnachol. Mae’n galluogi Prif Weithredwyr i fod yn hyderus bod ganddynt yr holl ganolfannau wedi’u cwmpasu o ran masnacheiddiwch cynghorau.
Y prif bwrpas yw cynyddu’r siawns o lwyddo. Mae wedi’i strwythuro o amgylch cylch bywyd gweithgaredd masnachol gan ganolbwyntio ar ystyriaethau allweddol ar bob cam mewn perthynas â meysydd fel strategaeth, arweinyddiaeth, llywodraethu, gwerthuso, gallu, risg a rheoli perfformiad.
Am ragor o wybodaeth am Fasnach ewch i’n gwefan
Martin Walker
Rydym yn cefnogi ein cleientiaid sector cyhoeddus i nodi, ariannu a datblygu’r elfennau amrywiol niferus sy’n cyfrannu at greu lleoedd a siapio lleoedd yn llwyddiannus. Mae hyn yn gymhleth ac yn heriol oherwydd y nifer enfawr o rannau symudol, eu cyd-ddibyniaeth a’u heffaith ar ei gilydd. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd seilwaith ar gyfer datblygu lleoedd o safon. Rydym yn cefnogi’r sector cyhoeddus i hybu twf tai a mynd i’r afael â heriau, gan ddarparu cymorth wedi’i deilwra ar gyfer datblygu piblinellau tai, dadflocio safleoedd sydd wedi’u hatal, galluogi darpariaeth uniongyrchol, a llawer mwy.
Dadflocio safleoedd ar gyfer tai fforddiadwy
Fe gefnogon ni Llywodraeth Cymru gyda rhaglen i ddadflocio safleoedd tai cymdeithasol ledled Cymru a oedd mewn perygl o arafu oherwydd materion yn ymwneud â ffosffadau mewn afonydd gall cael eu gwaethygu gan gynnydd yn y boblogaeth leol yn deillio o ddatblygiadau tai newydd. Drwy gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, datblygwyr ac awdurdodau cynllunio, buom yn gweithio i nodi a mynd i’r afael â materion fesul safle. O restr wreiddiol o 68 o safleoedd, mae 902 o gartrefi ar 37 o safleoedd ledled Cymru bellach yn gallu bwrw ymlaen, yn amodol ar brosesau cynllunio a datblygu arferol. Mae hyn yn cynnwys 799 o gartrefi fforddiadwy a 103 o gartrefi preifat.
Cartrefi Clyd
Nod y Rhaglen Cartrefi Clyd yw gwella effeithlonrwydd ynni hirdymor yr aelwydydd incwm isel lleiaf effeithlon o ran thermol yng Nghymru, drwy ddarparu gwasanaeth cyngor ynni cenedlaethol a thrwy ôl-osod a datgarboneiddio cartrefi aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd.
Ail-gaffaelodd Llywodraeth Cymru eu contract Cartrefi Clyd nodedig gyda chymorth rheoli contract strategol gan Partneriaethau Lleol. Llwyddwyd i gefnogi’r pontio trefnus a’r parhad gwasanaeth didor rhwng prosiectau presennol a newydd a helpu i sicrhau bod y contract newydd yn cael ei lansio mewn pryd.
Buom yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ymgorffori arferion a gweithdrefnau rheoli contract
effeithiol ar gyfer y contract newydd, i’w mabwysiadu gan swydd rheolwr contract parhaol yn Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod aliniad ac integreiddio priodol ar waith rhwng y contract Cartrefi Clyd newydd a rhaglenni effeithlonrwydd a thlodi tanwydd eraill Llywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i roi cymorth i’r rheolwr contract newydd yn ôl yr angen, gan ganolbwyntio ar reoli’r tensiynau rhwng datgarboneiddio a gostwng biliau tanwydd.
Canllawiau a Phecynnau Cymorth Tai
Rydym wedi cynhyrchu ystod o asedau sy’n rhad ac am ddim i’r sector cyhoeddus eu defnyddio a gellir eu llwytho i lawr o adran Hwb Adnoddau ein gwefan.
Gan gydnabod pwysigrwydd gwella effeithlonrwydd ynni yn y stoc tai, o ran sero net a mynd i’r afael â thlodi tanwydd, adnewyddwyd y Llawlyfr Ôl-osod Domestig ar gyfer Awdurdodau Lleol, sy’n rhoi cyngor ymarferol i awdurdodau lleol ar ddechrau eu taith ôl-osod, gyda diweddariadau i adlewyrchu biliau ynni cynyddol a lefelau cynyddol o dlodi tanwydd.
Mae digartrefedd yn parhau i fod yn broblem enbyd ar draws cynghorau.
Lansiwyd ein Model Llety Dros Dro ar gyfer dangos yr achos ariannol dros fuddsoddi cyfalaf i leihau costau refeniw llety dros dro.
Mae tir dros ben sy’n eiddo i’r cyngor yn
cynnig adnodd pwysig ar gyfer darparu cartrefi newydd i ddiwallu anghenion tai lleol. Mae deall pa safleoedd allan o restr hir o safleoedd sydd â’r potensial mwyaf i’w dwyn ymlaen – a’r mecanweithiau priodol ar gyfer sicrhau eu cyflawni – yn gynyddol bwysig i gynghorau sy’n ceisio targedu adnoddau cyfyngedig yn yr ardaloedd cywir, darparu tai newydd ac adfywio eu hardaloedd. Paratowyd Teclyn Blaenoriaethu Piblinellau Tai sy’n defnyddio methodoleg sydd wedi’i phrofi i arwain y broses o ddewis a blaenoriaethu safleoedd preswyl addas.
Mae hyn yn galluogi awdurdodau lleol i baratoi rhaglen ddatblygu fesul cam i sicrhau bod adnoddau’n cael eu targedu yn yr ardaloedd hynny sydd â’r potensial mwyaf i ddarparu cartrefi newydd sy’n diwallu anghenion lleol.
Amcangyfrifir bod mwy na 200 o gynghorau yn y D U eisoes wedi sefydlu cyfrwng cyflenwi tai. Gyda materion tai yn fwy blaenllaw ym meddwl llywodraeth leol nag ers cenhedlaeth, mae llawer o gynghorau – p’un a ydynt wedi eu sefydlu ai peidio – yn adolygu eu gweithgareddau yn y maes hwn. Mewn ymateb i’r angen clir hwn gan y sector, fe wnaethom aillansio fersiwn wedi’i ddiweddaru o’n
Pecyn Cymorth Cyfrwng Cyflenwi Tai.
Kevin Jones
Canolfannau Iechyd a Gofal Integredig
Buom yn gweithio gyda Llywodraeth
Cymru i gefnogi’r achos busnes ar gyfer rhaglen o 50 o Ganolfannau Iechyd a Gofal Integredig ledled Cymru fel rhan o ymrwymiad rhaglen y Llywodraeth.
Mae’r canolfannau hyn yn canolbwyntio ar hybu iechyd a lles, ac atal afiechyd.
Mae gwasanaethau gan awdurdodau
lleol, y G I G a’r sector gwirfoddol wedi’u hintegreiddio yn y canolfannau i sicrhau yr effaith mwyaf o adnoddau cyfun mewn ardal.
Fe ddarparon ni hefyd hyfforddiant ac arweiniad i’r saith Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol yng Nghymru ar ddatblygu a rheoli rhaglenni cyfalaf i gefnogi datblygiad eu cyfrifoldebau yn y maes hwn.
Cwmni Egino
Bu Partneriaethau Lleol yn cefnogi
Llywodraeth Cymru i sefydlu Cwmni Egino Ltd, cwmni datblygu a grëwyd i hyrwyddo defnydd newydd ar gyfer safle niwclear Trawsfynydd yng Ngwynedd. Fel sefydliad newydd gydag adnoddau
cyfyngedig, roedd Cwmni Egino yn wynebu sawl her uniongyrchol y bu Partneriaethau Lleol yn helpu i fynd i’r afael â nhw. Roedd y rhain yn cynnwys rhoi’r swyddogaethau busnes sylfaenol sydd eu hangen ar unrhyw endid newydd ar waith, creu strwythurau llywodraethu newydd ar ffurf bwrdd cwmni a darparu setiau sgiliau allweddol a chapasiti gweithredol hyd nes y gellid recriwtio staff parhaol.
Bu Partneriaethau Lleol hefyd yn cefnogi Cwmni Egino i gyflawni rhan gyntaf eu cynllun busnes cychwynnol. Fe ddarparon ni’r sgiliau a’r gallu Rheoli Rhaglen i ddatblygu amserlen gychwynnol ar gyfer y rhaglen, offer rheoli risg cychwynnol ac achos busnes amlinellol drafft i gefnogi’r ddadl dros ragor o arian cyhoeddus yn y dyfodol.
Canllawiau Llety a Phecynnau
Cymorth
Mae gweithio hyblyg a hybrid yn cael effaith ddramatig ar natur a maint y swyddfeydd sydd eu hangen a goblygiadau ehangach i fywiogrwydd ein trefi a’n dinasoedd lle mae deiliadaeth swyddfeydd cyfartalog yn sefydlogi
SEILWAITH
tua 30%. Mae llawer o sefydliadau’n lleihau maint, ond yn ansicr pa mor fawr y dylent fod a pha leoliadau gwaith i’w creu.
I awdurdodau lleol, mae’r sefyllfa’n argyfyngus, mae llawer yn wynebu argyfwng ariannu ac ni allant fforddio cadw a chynnal lle dros ben. Roedd ein cyfres “Swyddfeydd er Da” o weminarau yn ystod 2024 ac erthyglau yn canolbwyntio ar sefydlu rhaglen gydweithredol, ymarferol i helpu awdurdodau lleol i ymateb i’r materion ac ynghylch sut olwg sydd angen ar ystâd swyddfeydd addas i’r diben yn y dyfodol a sut y gellir ei chyflawni.
Am ragor o wybodaeth am Le ewch i’n gwefan
Am ragor o wybodaeth am Sicrwydd ewch i’n gwefan
Mae Partneriaethau Lleol wedi cynnal nifer sylweddol o adolygiadau sicrwydd ar gyfer Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol unigol Cymru dros y blynyddoedd. Mae’r rhain wedi amrywio o adolygiadau arddull Gateway llawn i gynhyrchion sicrwydd pwrpasol, wedi’u targedu yn seiliedig ar bwnc penodol.
Penododd Cyfoeth Naturiol Cymru (C N C) ni i ymgymryd ag adolygiad sicrwydd ar gyflawni Rhaglen Buddsoddi Cymru mewn Rheoli Perygl Llifogydd. Edrychodd ein hadolygiad ar sawl elfen o’r rhaglen gan gynnwys sut y caiff ei datblygu a’i chostio, sut yr eir i’r afael â risg y rhaglen a sut y cafodd perfformiad dros y flwyddyn ei reoli a’i gyfleu. Gweithiodd y tîm adolygu gyda C N C i ddatblygu darlun clir o’r rhaglen ynghyd ag ymdeimlad cryf o’r hyn a oedd yn gweithio’n dda a’r meysydd y gallent ddymuno eu gwella. Yn bwysig, roedd C N C yn gallu dangos i’w gyllidwyr bod y rhaglen mewn dwylo da gydag archwaeth amlwg am hunanfyfyrio a gwelliant parhaus.
Fe gynhalion ni Adolygiad Sicrwydd
Porth 2 o Raglen Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (E P R) Llywodraeth Cymru.
Mae amcanion polisi trosfwaol y Rhaglen
E P R ar gyfer pecynnu yn uchelgeisiol, gyda’r nod o helpu i gyflawni dim gwastraff yng Nghymru erbyn 2050, cefnogi lleihau’r defnydd o ddeunyddiau crai a chyfrannu at symudiad Cymru at economi gylchol, digarbon. Yn 2024 adolygodd Partneriaethau
Lleol Raglen E P R Llywodraeth Cymru i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr uchelgeisiau hyn yn cael eu gwireddu. Roedd hwn yn canolbwyntio ar gyfiawnhad busnes, tystiolaeth o strategaeth gyflawni briodol a chadarn, cynllun realistig hyd at gwblhau a rheolaethau a threfniadaeth prosiect, rheolaethau ariannol ac argaeledd adnoddau digonol a phriodol. Roedd canfyddiadau’r adolygiad yn cydnabod y gwaith da yr oedd Llywodraeth Cymru wedi’i wneud hyd yn hyn, yn enwedig o ran Rheoli Rhaglenni. Gwnaeth yr adolygiad hefyd argymhellion ar gyfer gwelliannau i dîm y rhaglen eu hystyried, yn enwedig mewn ffyrdd o weithio gyda gwledydd datganoledig eraill.
Kevin Jones
LLYWODRAETHIANT
Aelodau’r Bwrdd
Keith Fraser
Cadeirydd, Annibynnol Anweithredol
Adele Gritten Prif Weithredwr
Jackie Belton Uwch Anweithredol Annibynnol
Robert Razzell Annibynnol Anweithredol
Leon Wong Penodai Llywodraeth Cymru
Y Cynghorydd Julian German Penodai L G A
Y Cynghorydd Howard Sykes M B E Penodai L G A
Y Cynghorydd Morris Bright Penodai L G A
Y Cynghorydd Peter Marland Penodai L G A
Henry Elks Penodai H M T
Ruby Thompson Penodai H M T
Lucy Quinton Ysgrifennydd Corfforaethol
Ein Bwrdd
Mae cylch gorchwyl a chyfrifoldebau ein Bwrdd a’n Pwyllgorau wedi’u nodi yn ein Cytundeb Aelodau a’n Fframwaith Llywodraethu a gafodd eu hadolygu a’u cytuno gan ein Haelodau yn 2024.
Mae gan y Bwrdd awdurdod i oruchwylio’r sefydliad yn gyffredinol gan gynnwys gosod y strategaeth a monitro perfformiad yn erbyn y cynllun busnes blynyddol ar ran yr Aelodau sy’n cadw nifer o faterion a gadwyd yn ôl.
EIN GWASANAETHAU
Arloesedd
Datblygu achos busnes
Darparu mewnwelediad a dadansoddiad
Gweithredu a chyflenwi
Darparu gallu technegol
• Astudiaethau dichonoldeb
• Nodi modelau darparu (amgen)
• Arbedion, nodi a gweithredu
• Cefnogaeth arweinyddiaeth meddwl (a pholisi) – e.e. llyfrau chwarae, pecynnau cymorth ac astudiaethau achos
• Datblygu ac adolygu achos busnes
• Diwydrwydd dyladwy
• Dadansoddiad masnachol
• Dadansoddiad strategol
• Dadansoddeg data
• Dadansoddiad ffrind beirniadol
• Gwerthuso a dadansoddi opsiynau
• Gweithredu modelau cyflenwi
• Cefnogi a gweithredu polisi
• Cymorth caffael a thrafod contractau
• Hyfforddiant ac uwchsgilio gan gynnwys lledaenu ymarfer gorau
• Modelu a gwerthuso ariannol
• Cefnogaeth a dehongliad dogfen gyfreithiol/contract
• Mewnwelediad technegol i’r pwnc
Cynnal adolygiadau
Cymorth prosiectau/rhaglenni
• Sicrwydd a gwiriadau iechyd
• Adolygiad masnachol/strategol
• Adolygiadau llywodraethiant
• Cymorth rheoli newid
• Cymorth ceisiadau am gyllid
• Rheoli rhaglenni a phrosiectau
• Ymgysylltu â rhanddeiliaid
CYSYLLTWCH A NI
Mae Partneriaethau Lleol yn fenter ar y cyd rhwng y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Trysorlys E M a Llywodraeth Cymru.
Rydym mewn safle unigryw yn y sector cyhoeddus. Rydym yn hwyluso newid drwy weithio’n ddiduedd ac ar y cyd ar draws pob rhan o lywodraeth ganolog, lleol a rhanbarthol, a’r gweinyddiaethau datganoledig.
Rydym yn gweithio er budd y sector cyhoeddus yn unig. Mae ein harbenigwyr yn darparu cymorth a chyngor proffesiynol y gellir ymddiried ynddynt
dros ddisgyblaethau lluosog, gan helpu awdurdodau lleol a chyfunol i wneud y defnydd gorau o adnoddau cyfyngedig wrth i’r galw am wasanaethau barhau i gynyddu.
Mae Partneriaethau Lleol yn falch o fod yn rhan o deulu’r sector cyhoeddus.
Rydym yn dod â phrofiad o’r sector cyhoeddus a phreifat sy’n rhoi hyder, gallu a chapasiti, gan helpu cynghorau ac awdurdodau cyfun i gyflawni a chynnal gwytnwch ariannol.