Mae’r prosiect hwn yn hannu o waith comisiwn a ddyfarnwyd i Mared Lewis, fel rhan o alwad agored gan Llenyddiaeth Cymru yn gynharach eleni. Roedd y prosiect yn cynnig gweithdai ysgrifennu creadigol i ddysgwyr Cymraeg dros Skype, yn ogystal â chyfle i gael adborth unigol ar eu gwaith ysgrifennedig.
Mae 10 o’r grŵp wedi penderfynu rhannu rhai o’u gwaith mewn casgliad arbennig. Gallwch ddarganfod rhagor am bob un o’r awduron, a darllen eu gwaith, rhwng cloriau'r gyfrol hon.