Llyfryn Dathliadol Roald Dahl 100 Cymru

Page 1


Blwyddyn o antur gyda Roald Dahl Gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates

© Nick Treharne

2


Roald Dahl oedd meistr yr annisgwyl – gyda’i ddychymyg dyfeisgar creodd storïwr gorau’r byd amrywiaeth eang o gymeriadau rhyfeddol, ac fe gynhaliwyd digwyddiadau yr un mor rhyfeddol ac anhygoel yng Nghymru yn 2016. Cyn blwyddyn ei ganmlwyddiant, nid pawb oedd yn ystyried Roald Dahl fel Cymro. Gobeithio fod hynny wedi newid erbyn hyn! Un o’m huchafbwyntiau personol i oedd cymryd rhan yn City of the Unexpected Roald Dahl ym mis Medi – roedd yn brofiad bythgofiadwy ac roeddwn wrth fy modd bod cynifer o bobl wedi teithio i Gaerdydd i weld y fath sioe. Gallwn ymfalchïo yn yr hyn a gyflawnwyd – ni chynhaliwyd digwyddiad cystal yn unman arall yn y byd. Roedd penwythnos City of the Unexpected hefyd yn adlewyrchu blwyddyn gyfan o ddathlu ledled Cymru; rydym wedi gweld cryn ddyhead am ddigwyddiadau celfyddydol i ddathlu ein llenyddiaeth. Gobeithiaf y bydd Diwrnod Roald Dahl, a gynhelir yn flynyddol ar 13 Medi, yn rhoi cyfle parhaus i ni ddathlu’r awdur a’i gysylltiadau â Chymru. Mae Roald Dahl wedi chwarae rhan flaenllaw ym Mlwyddyn Antur Cymru. Mae tirweddau, straeon a threftadaeth ei wlad enedigol wedi bod yn ysbrydoliaeth ar gyfer straeon i blant ac oedolion sy’n tywys y darllenydd ar gyfres gofiadwy o deithiau trwy fydoedd amrywiol i archwilio, cyffroi a chyflawni breuddwydion. O anturiaethau Charlie mewn ffatri siocled ysblennydd i James a’i eirinen wlanog; o gampau Matilda, y ferch fywiog, i hanes y mwyaf

a’r mwynaf o’r Cewri; mae geiriau Roald Dahl yn ein gwahodd i fyd lle mae unrhyw beth yn bosib a’r annisgwyl bob amser ar yr agenda. Roedd dathliadau Roald Dahl 100 yn 2016 yn dipyn o antur. Mae cynllun allestyn Llenyddiaeth Cymru, Dyfeisio Digwyddiad wedi gwneud cannoedd o ddigwyddiadau amrywiol yn bosib. Nod y cynllun, a noddwyd gan Llywodraeth Cymru, oedd dod â phobl o bob cwr o’r wlad i gysylltiad â darllen, ysgrifennu a llenyddiaeth lafar. Mae cynllun Dyfeisio Digwyddiad wedi cefnogi dros 200 o ddigwyddiadau a gweithdai ledled Cymru ers mis Ionawr, gan ymgysylltu â dros 30,000 o blant, pobl ifanc ac oedolion hyd yn hyn. Cafodd plant ledled Cymru gyfle i gymryd rhan ym mhrosiect Gwlad y Gân, gan ddefnyddio rhaglen o ganeuon wedi eu hysbrydoli gan Roald Dahl i ddarganfod gwefr canu mewn ffordd egnïol a hyderus. Uchafbwynt prosiect Gwlad y Gân Canolfan Mileniwm Cymru ac Only Kids Aloud oedd tri chyngerdd byw a gynhaliwyd ar yr un pryd yn Llandudno, Aberystwyth a Chaerdydd. Yn ogystal, cafodd corws Only Kids Aloud y cyfle i ganu ‘Revolting Children’ o Matilda a ‘Pure Imagination’ o Charlie and the Chocolate Factory gerbron Ei Huchelder Brenhinol, Duges Cernyw, yn ystod ei hymweliad ym mis Gorffennaf.

arddangosfa fawr o’i waith yn Amgueddfa Cymru Caerdydd. Rhoddodd Quentin Blake: Inside Stories gipolwg unigryw ar darddiad rhai o greadigaethau mwyaf eiconig Blake. Dyma un o arddangosfeydd mwyaf poblogaidd Amgueddfa Cymru erioed. Mae ein rhaglen blwyddyn o hyd wedi rhoi cyfle i bobl ledled Cymru ddod i adnabod Dahl yn well a dathlu ei waith drwy gân, dawns a llên. Yn 2016, wrth i ni ddathlu Blwyddyn Antur a chanmlwyddiant Roald Dahl, doedd unman gwell i fod na Chymru: lle mae’r dirwedd a’r atyniadau yn ein gwahodd i fod yn anturus a rhoi cynnig ar weithgareddau newydd sbon – hedfan i lawr llinell zip, ymlwybro ar hyd yr arfordir a bwydo ein dychymyg o fewn muriau rhai o gestyll mwyaf trawiadol y byd. Mae Cymru yn cynnig digon o antur i bara oes. Nawr edrychwn ymlaen at 2017 a’n Blwyddyn Chwedlau yma yng Nghymru – sydd unwaith eto yn addas iawn i un o storïwyr gorau’r byd. Dysgwch ragor: www.roalddahl100.cymru Llun y clawr © Richard Swingler

Mae cydweithiwr adnabyddus Roald Dahl, Quentin Blake, wedi dod â chynifer o gymeriadau Roald Dahl yn fyw drwy ei ddarluniau, ac fel rhan o’r dathliadau cafwyd 3


“Bu 2016 yn flwyddyn ragorol i Roald Dahl wrth i bobl ym mhob cwr o’r byd ddathlu ei ganmlwyddiant mewn ffyrdd amrywiol a chyffrous.

Sicrhaodd Cymru ei bod wrth galon y dathliadau gyda digwyddiadau uchel eu proffil megis cyd-greu Byd Wondercrump Roald Dahl a thrawsnewid dinas Caerdydd yn lwyfan i Roald Dahl’s City of the Unexpected, yn ogystal â gweithgareddau llawr gwlad mewn ysgolion, llyfrgelloedd a chymunedau trwy Gymru gyfan. Rydym yn hynod ddiolchgar i Llywodraeth Cymru, 4

sefydliadau celfyddydol allweddol ac unigolion amrywiol am eu holl gefnogaeth. Wrth i’r flwyddyn hudolus hon ddirwyn i ben, nid oes unrhyw amheuaeth fod Roald Dahl yn un o awduron enwocaf Caerdydd.” John Collins, Cyfarwyddwr Marchnata Brand, Ystâd Lenyddol Roald Dahl


Roedd 2016 yn nodi 100 mlynedd ers geni Roald Dahl – un o storïwyr gorau’r byd – ym mhrifddinas Cymru. Cafwyd dathliadau arbenigwych ar hyd a lled y DU, ac yn wir, ar draws y byd yn ystod 2016. Mae’n amhosib rhestru’r holl weithgareddau a gynhaliwyd rhwng ymylon y dudalen hon, ond dyma rai o’r uchafbwyntiau: • Cyhoeddiadau sy’n torri tir newydd gan gynnwys The Oxford Roald Dahl Dictionary (Oup), Love From Boy: Roald Dahl’s Letters To His Mother (John Murray), The Gloriumptious Worlds Of Roald Dahl (Carlton) ac argraffiad newydd o The BFG yn cynnwys darluniau gwreiddiol Quentin Blake. • Lansiad byd-eang y ffilm The BFG a gyfarwyddwyd gan Steven Spielberg. • Llwybr gyda 50 o Jariau Breuddwydion y BFG, a ddyluniwyd gan enwogion amrywiol, trwy ganol Llundain. • Creu THE WONDERCRUMP WORLD OF ROALD DAHL, siwrnai hudolus a rhyngweithiol, a gynhyrchwyd ar y cyd gan y Southbank Centre, Llundain a Chanolfan y Mileniwm, Caerdydd gyda chefnogaeth y Roald Dahl Museum and Story Centre. • Cyhoeddi bod Ei Huchelder Brenhinol, Duges Cernyw wedi ei henwi’n Noddwr Roald Dahl 100. • Sioe Flodau Chelsea yn lansio rhosyn swyddogol Roald Dahl David Austin. Mae disgwyl iddo godi £100,000 ar gyfer y Roald Dahl’s Marvellous Children’s Charity. • Rhoi’r thema Darllen Mawr Direidus i HER DDARLLEN YR HAF. Mae dros 800,000 o blant wedi cymryd rhan eleni. • Dwy arddangosfa fawr o waith celf Quentin Blake ar gyfer llyfrau Roald Dahl – THE BFG IN PICTURES (a ddechreuwyd gan The House of Illustration ac sydd bellach ar daith drwy’r DU) ac INSIDE STORIES (yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd).

•T ymor o raglenni ar y teledu a’r radio gan y BBC gan gynnwys ffilm ddogfen newydd a rhaglenni arbennig ar Blue Peter, BBC Breakfast a Countryfile.

Dysgwch ragor: www.roalddahl.com @roald_dahl

• Roald Dahl’s Most Marvellous Book ar Channel 4 oedd yn cynnwys pleidlais Twitter byw lle dewisodd y defnyddwyr Matilda fel eu hoff lyfr. • Ymgyrch ryngweithiol ar BBC Radio Wales i ddarganfod pwy yw hoff gymeriad Roald Dahl y Cymry, gyda buddugoliaeth arall i Matilda. • Gwobrwyo Roald Dahl gyda Bathodyn Aur Blue Peter – y cyntaf erioed i’w wobrwyo ar ôl marwolaeth. • Partïon mewn ysgolion, llyfrgelloedd a siopau llyfrau ymhob cwr o’r DU, yr UD ac ar draws y byd ar Ddiwrnod Roald Dahl. • Trawsffurfio Caerdydd, y ddinas ble cafodd ei eni, yn ROALD DAHL’S CITY OF THE UNEXPECTED gan Ganolfan Mileniwm Cymru a National Theatre Wales. • Profiad theatr a phryd o fwyd arloesol o’r enw DINNER AT THE TWITS, cynhyrchiad ar y cyd rhwng Les Enfants Terribles ac ebp a dderbyniodd adolygiadau rhagorol. • Dathliadau trwy gydol y flwyddyn yn y Roald Dahl Museum and Story Centre. • Animeiddiad teledu newydd o Roald Dahl’s Revolting Rhymes gan Magic Light (caiff ei ddarlledu ar y BBC yn nhymor y Nadolig 2016).

5


Dod â dewiniaeth a direidi i Gymru Gan Lleucu Siencyn Prif Weithredwr, Llenyddiaeth Cymru

Gallwch ddychmygu Roald Dahl ei hun yn adrodd geiriau Willy Wonka: “Unwaith iddynt ddechrau darllen, Byddan nhw o hyd yn llawen”. Agorwch unrhyw un o’i lyfrau ac fe ymgollwch mewn byd sy’n llawn dychymyg ac antur, tristwch a llawenydd. Byd o anifeiliaid herllyd, plant amddifad mentrus, modrybedd creulon, ac un cawr mawr mwyn. Rhwng y cloriau cewch wledd o farddoniaeth, geiriau gwyllt a defnydd anhygoel o iaith. Cymerwn yn ganiataol fod pawb yn gwybod mai yng Nghaerdydd y ganwyd Roald Dahl. Fodd bynnag, pan ddechreuwyd trafod sut y gallem ddathlu canmlwyddiant un o’n hawduron gorau, prin y gwyddai pobl mai bachgen o Landaf ydoedd. Golyga hyn fod dathlu’r canmlwyddiant yng Nghymru hyd yn oed yn fwy arwyddocaol; roedd angen i ni hawlio awdur plant mwyaf poblogaidd y byd fel un ohonom ni unwaith eto.

6

Yn ddigon ffodus, roedd Llywodraeth Cymru yn gytûn, ac fe dderbyniwyd cymorth ariannol er mwyn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau cenedlaethol drwy gydol 2016. Roedd yn hollbwysig i bawb a fu’n rhan o gynlluniau’r canmlwyddiant fod y dathliad hwn yn un i Gymru gyfan, nid yn unig i Gaerdydd. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, lansiodd Llenyddiaeth Cymru Dyfeisio Digwyddiad, sef cynllun nawdd ac allestyn newydd oedd yn cynnig cymorth ariannol i drefnwyr er mwyn dathlu Roald Dahl 100, a weithredir ar y cyd â chynllun Awduron ar Daith Llenyddiaeth Cymru. Yn ogystal cyflwynodd Llenyddiaeth Cymru a’i bartneriaid raglen allestyn oedd yn canolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol, gan sicrhau bod pobl o bob oedran a chefndir yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y dathliadau. Roedd tair elfen, neu “bennod”, i gynllun Dyfeisio Digwyddiad, gyda phob un yn targedu math penodol o ddigwyddiad llenyddol.


Roedd Pennod 1 Dyfeisio Digwyddiad yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer gwyliau a digwyddiadau mawr, preswylfeydd a rhaglenni o weithgaredd estynedig. Cafodd rhai o brif sefydliadau celfyddydol a diwylliannol Cymru nawdd trwy’r Bennod hon, gan gynnwys: Gŵyl y Gelli; yr Eisteddfod Genedlaethol; Oriel Davies, y Drenewydd; Galeri Caernarfon; Urdd Gobaith Cymru; Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru; Beyond the Border Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru; Gŵyl Spread the Word Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens and George ym Merthyr Tudful; Gŵyl Ryngwladol Abertawe; Gŵyl Grai – gŵyl gelfyddydau ieuenctid genedlaethol newydd; a’r Velvet Coalmine yn y Coed Duon. Hefyd trefnwyd gweithgareddau i’r teulu wedi’u hysbrydoli gan Roald Dahl gan Gyngor Sir Ddinbych; Cyngor Gwynedd a Siop Lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon; Datblygu Celfyddydau Caerffili; a Techniquest ym Mae Caerdydd. Roedd Pennod 2 wedi’i hanelu at ddigwyddiadau unigol llai, ac er mwyn helpu’r trefnwyr fe gomisiynwyd nifer o ddigwyddiadau parod gan rai o awduron ac artistiaid gorau Cymru. Ymhlith y digwyddiadau hyn roedd gweithdai a sgyrsiau gan yr awduron poblogaidd Bethan Gwanas, Angharad Tomos, Dan Anthony a Sarah KilBride, yn ogystal â beirdd sy’n perfformio eu gwaith megis Mab Jones, Rufus Mufasa ac Awdur Pobl Ifanc Cymru, Sophie McKeand. Mae’r rhain oll yn ymarferwyr hynod brofiadol sydd â’r gallu i gyfathrebu â chynulleidfaoedd o bob math.

Ym Mhennod 3 buom yn cydweithio gyda’n partneriaid er mwyn sicrhau bod dathliadau’r canmlwyddiant mor gynhwysol â phosibl. Mae Llenyddiaeth Cymru o’r farn bod llenyddiaeth yn perthyn i bawb ac ar gael ym mhobman – ac mae Roald Dahl yn ysgogydd perffaith i rannu’r genhadaeth hon. Ym mhob un o’i lyfrau mae’n rhoi grym yn nwylo’r gwan ac yn dathlu’r ffaith fod pawb yn wahanol. Mae’n ein galluogi i gredu bod unrhyw beth yn bosibl, ni waeth pwy ydych na ble y cawsoch eich geni. Gwnaethom gynnal sesiynau yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, y Ffatri Fisgedi ym Merthyr a chartrefi gofal preswyl yn y gogledd a Chasnewydd. Buom yn gweithio gyda gofalwyr ifanc, cybiau a sgowtiaid, Teithwyr-Sipsiwn Roma, oedolion ifanc ag anableddau dysgu, a cheiswyr lloches a ffoaduriaid. Er iddynt gael eu hysbrydoli gan lyfrau Roald Dahl i blant ac oedolion, roedd llawer o’r gweithdai hyn yn cyfuno llenyddiaeth ag amrywiaeth o ddisgyblaethau eraill. Yn eu plith roedd gwneud llusernau, archwilio gwyddoniaeth, creu llyfrau comic, gwneud bisgedi, creu gwaith animeiddio, dysgu technegau clownio ac ymarfer sgiliau bît-bocsio. Mae llenyddiaeth yn fan cychwyn delfrydol i nifer o sianelau creadigol eraill. Felly, o Fôn i Fynwy ac o Gaernarfon i Gaerffili, bu’r dathliad hwn yn un i Gymru gyfan. Rydym wedi ailgyflwyno Roald Dahl i bobl o bob oedran mewn ffordd sy’n eu galluogi i ymgysylltu â’i waith gan ddefnyddio eu creadigrwydd a’u dychymyg eu hunain. Mae darllen yn un o’r pethau mwyaf hudolus y gallwch ei wneud – o’r eiliad yr agorwch lyfr cewch eich cludo i fyd newydd yn llawn antur a dychymyg. Mae Roald Dahl yn perthyn i bob un ohonom – ac eleni, ymhob cwr o Gymru, fe’i gwelwyd ymhob man.

Dysgwch ragor: www.llenyddiaethcymru.org @LlenCymru @LitWales 7


Gweithgareddau Allestyn Dyfeisio Digwyddiad Defnyddiodd cynllun Dyfeisio Digwyddiad Llenyddiaeth Cymru eiriau hudolus Roald Dahl i ysgogi creadigrwydd ymhlith pobl o bob oed yng Nghymru. Roedd pwyslais y prosiect ar gyfiawnder cymdeithasol, a buom yn gweithio mewn ardaloedd penodol a gyda grwpiau targed er mwyn annog cynhwysiant. Ymhlith y grwpiau roedd: Ardaloedd Arloesi, Cymunedau yn Gyntaf, Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid, Gofalwyr Ifanc, unigolion NEET, pobl hŷn mewn cartrefi preswyl, defnyddwyr Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Carchardai, Teithwyr-Sipsiwn Roma, ac oedolion ifanc ag anableddau dysgu. Mae Llenyddiaeth Cymru yn gosod llenyddiaeth wrth wraidd polisïau lles, llythrennedd, cyflogaeth a sgiliau i sicrhau y caiff ei gweld fel rhan annatod o fywyd cytbwys, amrywiol ac iach.

8

Uchafbwyntiau’r prosiect: Gorymdaith Gorhudwych Direidi Lleoliad: Wrecsam Cyfranogwyr: Teuluoedd mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Nid yn aml y gwelwn deuluoedd traddodiadol yn straeon Roald Dahl. Diben y prosiect hwn yw dathlu teuluoedd o bob lliw a llun. Bu Awdur Pobl Ifanc Cymru, Sophie McKeand, yn cydweithio â’r artist Rhi Moxon, gyda grŵp o deuluoedd lleol o Wrecsam. Gyda’i gilydd, crëwyd helfa drysor hwyliog drwy’r dref fel rhan o Ŵyl Stryd Wrecsam.

Daubscribblish Doodlesagas Lleoliad: Carchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr Cyfranogwyr: Carcharorion a’u teuluoedd Cafodd preswylwyr Carchar y Parc ym Mhen-y-bont, ynghyd â’u teuluoedd, y cyfle i weithio gyda’r darlunydd Sarah Edmonds a’r storïwr Michael Harvey i greu llyfr stori enfawr, gyda darluniau hyfryd. Roedd y prosiect yn plethu perfformio, ysgrifennu creadigol a’r celfyddydau gweledol er mwyn ysbrydoli oedolion a phlant fel ei gilydd i fagu hyder a meithrin sgiliau creadigol. Creadigrwydd a Phêl-droed Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd Cyfranogwyr: Tadau a’u meibion Ysbrydolwyd Creadigrwydd a Phêldroed gan atgofion Roald Dahl o ymweld â Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd pan yn fachgen ifanc a phrofi’r wefr o wylio gêm bêldroed am y tro cyntaf. Bu tadau


Creu Cewri gyda GISDA Lleoliad: Blaenau Ffestiniog Cyfranogwyr: Pobl ifanc sy’n agored i niwed 14 - 25

a’u meibion yn gweithio gyda’r bardd Mike Church a Chydlynydd Llythrennedd Sefydliad Cymunedol Dinas Caerdydd, Tom Knight. Crëwyd ffilm o’r prosiect gan Carter Films mewn partneriaeth â Ffilm Cymru – Inspiration, My First Match – a ddangoswyd i dros 13,000 o bobl yn ystod hanner amser gêm rhwng Dinas Caerdydd a Leeds. Pencampwyr Atgofion Lleoliad: Caernarfon a Chasnewydd Cyfranogwyr: Pobl hŷn mewn cartrefi preswyl Yn y prosiect hwn bu’r beirdd Martin Daws a Patrick Jones, y cerddor Dan Amor a’r artist Ailsa Richardson yn gweithio â phobl hŷn mewn cartrefi preswyl – nifer ohonynt â dementia cynnar. Roedd y prosiect yn archwilio atgofion gan ddefnyddio Boy: Tales of Childhood, Going Solo a James and the Giant Peach fel mannau cychwyn. Cafodd yr atgofion a’r profiadau hyn eu dwyn ynghyd drwy farddoniaeth, cerddoriaeth a gwaith celf a grëwyd gan y bobl hŷn. Cysylltodd y prosiect

â rhaglen cARTrefu Age Cymru, sydd â’r nod o sicrhau bod mwy o bobl hŷn mewn gofal preswyl yn gallu mwynhau profiadau o ansawdd yn y celfyddydau. Merthyr a’r Ffatri Fisgedi Lleoliad: Merthyr Tudful Cyfranogwyr: Cyflogeion OP Chocolates, Merthyr Tudful, a Sgwad ‘Sgwennu Merthyr “Many years ago, Merthyr made the finest biscuits in its mysterious biscuit factory” - Dyna ddechrau’r stori swynol a’r ffilm fisgedi wedi’i hanimeiddio a grëwyd fel rhan o brosiect Merthyr a’r Ffatri Fisgedi. Cymerodd rhai o weithwyr OP Chocolates, eu teuluoedd, ac aelodau o Sgwad ‘Sgwennu Pobl Ifanc Merthyr, ran mewn cyfres o weithdai creu stori ryngweithiol ac animeiddio bisgedi yn Llyfrgelloedd Merthyr gyda’r bardd Mike Church, Head4Arts a Breaking Barriers.

Prosiect mewn partneriaeth â GISDA sy’n cynnig cyfleoedd i bobl sy’n agored i niwed yng ngogledd gorllewin Cymru i wella eu hansawdd bywyd fel na fyddant o dan anfantais oherwydd tlodi. Gweithiodd y grŵp gyda’r awdur Bethan Gwanas a’r dylunydd graffeg Ceri Redman mewn sesiynau ysgrifennu creadigol, darlunio a dylunio graffeg er mwyn ddod â’u syniadau’n fyw ar y dudalen. Clowns a Twits Lleoliad: Sir Fynwy Cyfranogwyr: Pobl ifanc ag anableddau dysgu “Mae’n rhaid i ti gael dy ymestyn”, meddai Mr Twit – mae crefft clown yn ein hannog i chwarae, i gael hwyl ac i fod yn fregus, yn ddewr ac yn wirion. Galluogodd y prosiect i’r cyfranogwyr drochi yn naws cymeriadau a geiriau Roald Dahl, gan ddod â hwy’n fyw drwy symudiadau corfforol. Cafodd y prosiect ei arwain gan y perfformwyr Clare Parry-Jones a Denni Dennis a’i gefnogi gan Theatr Ffynnon. Darganfod mwy: www.roalddahl100.cymru www.llenyddiaethcymru.org

9


Roald Dahl’s City Of The Unexpected Gan Canolfan Mileniwm Cymru a National Theatre Wales

10

Y weledigaeth oedd llwyfannu digwyddiad a fyddai’n syfrdanu’r ddinas; cyfres o olygfeydd a pherfformiadau annisgwyl, o’r bychan i’r enfawr. Ni fyddai’r rhaglen o ddigwyddiadau yn gyhoeddus ymlaen llaw, ac ni fyddai straeon Dahl yn cael eu rhannu mewn modd confensiynol. Yn hytrach, Caerdydd a’i chymunedau fyddai’r llwyfan, a byddai ei strydoedd a’i hadeiladau eiconig yn cael eu trawsnewid yn Ddinas yr Annisgwyl. Dyma oedd y weledigaeth ar gyfer y digwyddiad celfyddydol mwyaf a welodd Cymru erioed.

© Farrows Creative

Ar y cyfan, dim ond darllenwyr mwyaf selog Roald Dahl oedd yn ymwybodol iddo gael ei eni a’i fagu am flynyddoedd cynnar ei fywyd yma yng Nghaerdydd. Yn ystod wythnos ei ganmlwyddiant, llwyddodd Roald Dahl’s City of the Unexpected, a gynhyrchwyd gan Ganolfan Mileniwm Cymru a National Theatre Wales gyda’r cyfarwyddwr Nigel Jamieson, roi’r ddinas ar y map yn ogystal ag ad-hawlio un o hoff awduron y byd mewn modd ysblennydd. Roedd yn brofiad y byddai’r ddinas gyfan yn ei gofio am genhedlaeth.


© Farrows Creative

Roedd cyfranogiad cymunedol yn allweddol i lwyddiant y digwyddiad. Yn ystod Ebrill 2016, cyhoeddwyd galwad am gast arbennig yn cynnwys aelodau corau, dawnswyr, gyrwyr Morris Minor, dynion moel, consurwyr, bandiau pres, gyrwyr jac codi baw, dynion tân, artistiaid syrcas, perfformwyr awyr, dringwyr clogwyni, neiniau a theidiau, plant a llygoden sy’n perfformio. Roedd yr ymateb yn anhygoel, ac aeth y cynhyrchwyr ati i drefnu cyfres o ymarferion ar raddfa nas gwelwyd yng Nghymru erioed o’r blaen. Dysgwyd sgiliau newydd, hybwyd hunanhyder a ffurfiwyd sawl cyfeillgarwch. Creodd miloedd o blant ledled Cymru eu jariau breuddwydion eu hunain i’w harddangos yn y digwyddiad. Cymerodd dros 5,000 o bobl ran; fel aelodau o’r Ministry of the Predictable, ymgyrchwyr Achub yr Eirinen Wlanog, perfformwyr cylchoedd hwla, côr enfawr a chymeriadau lliwgar niferus eraill a ymddangosodd o’r unman.

Dyma ddywedodd rai o’r cyfranogwyr hynny am y profiad: • “Diolch i chi am roi caniatâd i’r plentyn ynof fi gael perfformio” • “Hudol, lliwgar ac afreolus… roeddwn yn teimlo’n ifanc unwaith eto” • “Wedi adfer fy ffydd yn y natur ddynol” • “Roedd yr ymdeimlad o gymuned yn amlwg” • “Profiad hyfryd… roedd yn wych gallu chwarae mewn ffordd mor unigryw.” Nid y cyhoedd yn unig fu’n rhan o’r digwyddiad – roedd sawl person proffesiynol wedi ymgymryd â rôl, o Swyddogion yr Heddlu, aelodau’r Gwasanaeth Tân, a hyd yn oed y Prif Weinidog, Carwyn Jones. Cyfranogiad gwirioneddol, ystyrlon a chwareus gan gast amrywiol, brwd ac ymroddedig.

© Dan Green

Os nad oeddech chi’n un o’r 300,000 o bobl yng Nghaerdydd ar 17-18 Medi 2016, nac wedi cael y cyfle i wylio’r uchafbwyntiau ar raglen ddogfen BBC Cymru yr wythnos ganlynol, dyma flas o’r hyn wnaethoch chi ei golli; eirinen wlanog 7 metr yn cyrraedd Stryd Wood,

a thorfeydd enfawr yn dilyn ei thaith i Gastell Caerdydd ar gyfer croeso dinesig mawreddog; llwynog drygionus yn cael ei erlid gan ffermwyr ar draws canol y ddinas, yn osgoi eu picffyrch â parkour, acrobateg a thrwy gerdded ar hyd rhaff uchel; bachgen o’r enw James yn cael ei dynnu o’r eirinen wlanog, ynghyd â buwch goch gota a briododd Pennaeth y Gwasanaeth Tân yn ddiweddarach mewn seremoni ysblennydd yn Neuadd y Ddinas; darlleniadau agos-atoch o waith Dahl gan ddarllenwyr amlwg, mewn lleoliadau annisgwyl ar draws y ddinas; picnic pyjamas mawr ym Mharc Bute, lle llwyddodd y llwynog i ddianc o’i ddalfa, cyn i’r eirinen wlanog enfawr ddiflannu yn y pellter, a llawer mwy.

11


Roedd Roald Dahl’s City of the Unexpected wedi synnu a rhyfeddu torfeydd mawr drwy gydol y penwythnos; dyma rai enghreifftiau o’u hymateb: • “Wedi fy synnu gan y perfformiadau gan bawb! Dim ond ers 2 flynedd rwy’ wedi byw yng Nghaerdydd ac roeddwn i mor falch o weld y profiad ac yn falch o fyw yng Nghaerdydd. Ac roedd y picnic yn wych!! Methu credu’r peth!” • “Efallai ‘mod i’n 67 ond dyma’r peth gorau a welwyd yng Nghaerdydd erioed.” • “Fe wnes i chwerthin, crïo, dawnsio a chanu, a gadael yn teimlo’n bositif a hapus” • “Adloniant anhygoel, trawiadol a hudolus am ddim.” • “Mae’n amhosib dod o hyd i’r geiriau i fynegi pa mor hynod o hudolus fu’r penwythnos. Mae fy mhlant a minnau wedi crïo dagrau o lawenydd a thristwch – doedden ni ddim am iddo orffen… byddai Roald wedi bod yn falch.”

© Craig Kirkwood

Roedd y digwyddiad yn ‘trendio’ ar Twitter a cafodd sylw ar BBC Breakfast, yn y New York Times ac ar BBC Radio 6 Music. Cyhoeddwyd lluniau anhygoel o’r eirinen wlanog a’r torfeydd mewn papurau newydd ar draws y byd; yn y Sunday Times, y Sunday Mirror a’r Sydney Morning Herald. Yn anad dim, mae’r dathliad hynod hwn wedi profi’n ddi-os bod awydd amlwg am ddigwyddiadau celfyddydol ar raddfa fawr yma yng Nghymru – awydd i gymryd rhan, i wylio ac i ymgysylltu. Mae’n gyfnod pwysig iawn o safbwynt hyder Caerdydd ar lwyfan cenedlaethol, ac yn well fyth, mae wedi dangos fod gan y ddinas y gallu i gynhyrchu digwyddiad hynod, uchelgeisiol a bythgofiadwy, o safon gystal ag unrhyw berfformiad cyhoeddus ar lefel byd-eang. Ar ôl 2016, yn fwy nag erioed, mae’n teimlo fel petai unrhyw beth yn bosibl. © Dan Green

Dysgwch ragor: www.cityoftheunexpected.wales/cy www.nationaltheatrewales.org/cy www.wmc.org.uk © Richard Swingler

© Farrows Creative

12


© Farrows Creative

13


Cynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau llawr gwlad ledled Cymru drwy gydol 2016, gan greu blwyddyn gyfan o ddanteithion a rhyfeddodau bendigodidog.

14

© Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Roald Dahl yw un o storïwyr mwyaf direidus, dyfeisgar a dawnus y byd. Fel ei wlad enedigol, mae Cymru yn falch o fod wedi cael chwarae rhan arbennig yn nathliadau Roald Dahl 100.


Quentin Blake: Inside Stories Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Roedd arddangosfa Quentin Blake: Inside Stories yn dathlu gwaith un o ddarlunwyr pwysicaf a mwyaf poblogaidd y byd. Yn fwyaf adnabyddus am ei ddarluniau yn llyfrau Roald Dahl, mae gwaith Quentin Blake yn gyfarwydd ledled y byd. Rhoddodd y casgliad gipolwg unigryw ar darddiad rhai o greadigaethau mwyaf eiconig a phoblogaidd Blake.

Gwlad y Gân Canolfan Mileniwm Cymru ac Elusen Aloud

Fel rhan o’u harddangosfa, Antur ar Bob Tudalen, fe arddangoswyd tudalennau o lawysgrifau gwreiddiol Roald Dahl (ar fenthyg o Amgueddfa a Chanolfan Straeon Roald Dahl), gan gynnwys James and the Giant Peach.

Cafodd plant oed cynradd ledled Cymru gyfle i gymryd rhan ym mhrosiect Gwlad y Gân, gan ddefnyddio llyfr caneuon ar-lein wedi’i ysbrydoli gan Roald Dahl i ddarganfod gwefr canu mewn ffordd egnïol a hyderus. Uchafbwynt y prosiect oedd tri chyngerdd byw a gynhaliwyd ar yr un pryd yn Llandudno, Aberystwyth a Chaerdydd ym mis Mehefin.

Gŵyl y Gelli Dathlodd Gŵyl y Gelli Roald Dahl 100 gyda rhaglen arbennig ac amrywiol, gan gynnwys Dahl’s Most Villainous Villains, lle bu’r awduron poblogaidd Francesca Simon, Steven Butler, Philip Ardagh ac Andy Stanton yn dadlau o blaid eu hoff ddihiryn o dan oruchwyliaeth y cyflwynydd Blue Peter, Lindsey Russell; ac aeth dilynwyr Roald Dahl, crefftwyr geiriau a chyw awduron ati i swashfoglo drwy eiriau godidog prif storïwr y byd yn The Word Wizards’ Guide to Roald Dahl. Cefnogwyd gan Dyfeisio Digwyddiad.

Roald Dahl ar Ffilm Canolfan Ffilm Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter

© Nick Treharne

Mae dros 3,000 o ddisgyblion ysgol naill ai wedi ymweld â’r arddangosfa neu wedi cymryd rhan mewn gweithdai yn gysylltiedig â hi, a chymerodd bron 1,000 o bobl ran mewn gweithdai darlunio ac ysgrifennu yn ystod gwyliau’r haf, gan gynnwys llawer o grwpiau dysgu teuluol Cymunedau yn Gyntaf.

Antur ar Bob Tudalen Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Dyfeisio Dahl Canolfan Mileniwm Cymru ac Elusen Aloud

Roedd tymor Roald Dahl ar Ffilm yn llawn dop o ddangosiadau ffilm rhyngweithiol, profiadau sinema cyffrous, gweithdai a mwy. Ledled Cymru a’r DU, roedd cynulleidfaoedd wrth eu bodd gyda Matilda ‘Crafu ac Arogli’, a bu cryn gyffro ynghylch y ffilm hir-ddisgwyliedig, The BFG a ryddhawyd yn 2016.

Cymerodd dosbarthiadau o bum ysgol gynradd yng Nghaerdydd, Abertawe, Caerffili, Caergybi a’r Rhyl ran mewn sesiynau gyda’r artistiaid Caryl Parry Jones ac Ed Holden i gyfansoddi eu caneuon eu hunain wedi’u hysbrydoli gan Roald Dahl. Fel rhan o’r prosiect llenyddol a cherddorol hwn, cafodd y bobl ifanc gyfle i ysgrifennu geiriau, recordio’r caneuon yna eu perfformio i’w cyd-ddisgyblion a’u rhieni. © Mary Perez

15


Dadorchuddio placiau newydd yn Llandaf

Yr Eisteddfod Genedlaethol Roedd Maes yr Eisteddfod yn y Fenni yn ferw gwyllt o straeon a swyn Roald Dahl. Cafwyd darlleniadau, gweithdai a pherfformiadau mewn lleoliadau annisgwyl ac anarferol, gan gynnwys eirinen wlanog anferth wrth gwrs! Taniodd egin-ddarlunwyr eu dychymyg gyda’r artist Bethan Clwyd a bu’r actor Gareth Potter yn eu diddanu drwy ddarllen o Y Twits. Bu Eisteddfodwyr hefyd yn mwynhau helfa drysor ar thema Roald Dahl a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr ŵyl. Cefnogwyd gan Dyfeisio Digwyddiad. Gwyddoniaeth Gwefrigedig Techniquest, Bae Caerdydd Ydych chi erioed wedi meddwl a oedd ffordd hawdd o ddod o hyd i docyn aur? Allwch chi symud pethau gyda’ch meddwl fel Matilda? A all swigod arnofio am i lawr fel yn The BFG? Cawsom yr atebion i’r cwestiynau hyn a mwy yn sioe theatr wyddoniaeth newydd gwefrigedig Techniquest. Cefnogwyd gan Dyfeisio Digwyddiad. Y Penwythnos Anferthol Cyngor Gwynedd a Palas Print

16

Cafodd y sioe theatr mewn addysg newydd hon i blant cynradd CA2 ei chreu gyda’r nod penodol o annog plant i ddarllen. Caiff y gynulleidfa ei chyflwyno i Alf – cymeriad lliwgar, hynod ddiddorol sy’n gwirioni ar ddarllen. Mae Alf yn rhannu ei fwynhad o ddarllen, ac yn datgelu’r anturiaethau a gaiff pan fydd yn pori drwy’r tudalennau. Ei hoff awdur yw Roald Dahl ac mae’n cyflwyno’r pum llyfr y mae’n eu hoffi fwyaf gan yr awdur mewn ffordd ryngweithiol a hwyliog. Sgript gan Fardd Plant Cymru, Anni Llŷn.

Byd Wondercrump Roald Dahl Canolfan Mileniwm Cymru, Canolfan Southbank ac Amgueddfa a Chanolfan Straeon Roald Dahl Siwrnai hudolus a rhyngweithiol i ddarganfod holl gyfrinachau hoff awdur plant o bob oed. Dysgodd ymwelwyr â Wondercrump am fywyd hynod Roald Dahl a’r ysbrydoliaeth syfrdanol y tu ôl i’w gymeriadau a’i straeon enwocaf. Roedd y daith yn cynnwys eitemau unigryw o archifdy Amgueddfa a Chanolfan Straeon Roald Dahl.

Cystadleuaeth Straeon Difyr Dahl Cyngor Llyfrau Cymru Gwahoddwyd plant yng Nghymru i ysgrifennu stori antur wedi’i hysbrydoli gan Roald Dahl ar gyfer cystadleuaeth ysgrifennu creadigol gyffrous a difyr i blant o Flynyddoedd 3 i 13. Cafodd y straeon eu beirniadu gan yr awduron Phil Carradice, Horatio Clare ac Elin Meek. Caiff y sawl fydd yn fuddugol a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer eu cyhoeddi mewn blodeugerdd.

© Victor Frankowski

Cynhaliwyd, yng nghanol tref Caernarfon, benwythnos yn llawn gweithgareddau creadigol a difyr i blant a theuluoedd a ysbrydolwyd gan waith Roald Dahl. Bu plant yn creu cewri Cymreig gyda’r awdur Bethan Gwanas, yn sgriblan gyda Huw Aaron, ac yn grefftus wrth adeiladu eu crocodeilod enfawr eu hunain. Cefnogwyd gan Dyfeisio Digwyddiad.

Roald Dahl: Dychmygwch! Cyngor Llyfrau Cymru a Mewn Cymeriad/In Character

Cydlynodd Cymdeithas Llandaf y broses o ddadorchuddio pedwar plac, gan Ddirprwy Bennaeth Llysgenhadaeth Frenhinol Norwy, Llundain, Ms Ragnhild Imerslund, ar adeiladau yn Llandaf sydd â chysylltiad hanesyddol â Roald Dahl. Cafwyd dau blac glas, un ar gyfer ei fan geni yn Villa Marie a’r ail ar gyfer ei gartref yn Cumberland Lodge (sef meithrinfa Ysgol Howell’s erbyn hyn). Yn ogystal cafodd safleoedd blaenorol y ddwy ysgol a fynychwyd gan Roald Dahl, sef Elm Tree House ac Ysgol yr Eglwys Gadeiriol, eu coffáu â phlaciau yn lliwiau’r ysgol.


Wonderman Gagglebabble a National Theatre Wales gyda Chanolfan Mileniwm Cymru

© Nick Treharne

Perfformiwyd Wonderman, drama gerddorol wedi’i haddasu o straeon i oedolion Roald Dahl, yn y Tramshed, Caerdydd ym mis Medi, gan agor ar union ddyddiad canmlwyddiant Dahl. Llwyddodd y cynhyrchiad newydd sbon hwn i gyflwyno straeon byrion cynnar Roald Dahl i oedolion mewn ffordd unigryw, trwy gyfuno cerddoriaeth wreiddiol, band byw bendigedig, plotiau arswydus, dychymyg anhygoel a throeon trwstan gwefreiddiol, â’r cyfan yn llawn hiwmor tywyll direidus. Ymweliad Brenhinol

Diwrnod Roald Dahl Dathliad pen-blwydd mwyaf erioed Roald Dahl ledled y byd! Daeth ysgolion, llyfrgelloedd, siopau llyfrau a grwpiau cymunedol ledled Cymru a thu hwnt ynghyd i ddathlu 100 mlynedd ers genedigaeth Roald Dahl. Ar yr un pryd, dathlwyd y Diwrnod Gwisg Ffansi Dahlwych hynod boblogaidd mewn ysgolion ar draws y DU gan gefnogi elusen Marvellous Children’s Charity Roald Dahl.

Dysgwch ragor: www.roalddahl100.cymru

Roald Dahl ar Film © Guest Who

Fel Noddwr Roald Dahl 100, cafodd Ei Huchelder Brenhinol, Duges Cernyw, flas ar y gweithgareddau dathliadol a gynhaliwyd yng Nghymru. Hefyd yn bresennol yn ystod yr ymweliad â Chaerdydd roedd gweddw Roald Dahl, Felicity Dahl, a’r bywgraffydd swyddogol, Donald Sturrock. Cyfarfu Ei Huchelder Brenhinol â’r bardd Rufus Mufasa, a fu’n gweithio gyda phlant o Ysgolion Cynradd Grangetown a Cadoxton i greu darnau o rap a barddoniaeth lafar a ysbrydolwyd gan Cerddi Ffiaidd Roald Dahl; a chyflwynodd yr amryddawn Caryl Parry Jones berfformiad o ddarnau o’r prosiect Dyfeisio Dahl gan ddisgyblion o Ysgol Gynradd Windsor Clive, Trelái. Y Dduges oedd un o’r cyntaf i weld ‘Peiriant Moddion Rhyfeddol George’, sef un o’r creadigaethau ar gyfer City of the Unexpected Roald Dahl. I gloi’r ymweliad, cafwyd perfformiad gwych gan aelodau o Gorws Only Kids Aloud, dan arweiniad Tim RhysEvans.

Hefyd, Gŵyl Lenyddiaeth Plant Caerdydd, Eisteddfod yr Urdd, Gŵyl Radur a Phentre-poeth, Darllen Mawr Direidus, Cynhadledd Canmlwyddiant Roald Dahl Prifysgol Caerdydd, Gŵyl Ryngwladol Abertawe, Cynhadledd Fantastic Mr Fiction Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ‘No Book Ever Ends’ yng Nghanolfan Dylan Thomas, Gladfest, Gŵyl The Edge Solfach, Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, Velvet Coalmine yn y Coed Duon, Gŵyl Lenyddol Spread the Word Ymddiriedolaeth Stephens and George ym Merthyr Tudful, Gŵyl Ymylol Llangollen Sir Ddinbych, ‘Concert of the Unexpected’ Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd, and a Gŵyl Grai i enwi dim ond rhai...

17


Roald Dahl: Cawr Caerdydd? Gan Damian Walford Davies

Hanner milltir i’r gogledd o Landaf wrth gylchfan Danescourt, ewch ar hyd Danescourt Way i Rachel Close a mynwent eglwys Sant Ioan. Wrth fur gorllewinol y fynwent ceir croes Celtaidd pen olwyn wenithfaen, lliw pinc-brown. Mae’n ddatganiad diedifar, sy’n dynodi bedd Harald Dahl a’i ferch annwyl Astri. Cafodd lludw gwraig Harald, Sofie Magdalene, eu gwasgaru yma hefyd. Dywed bywgraffydd Roald Dahl, Donald Sturrock, y gallai’r gofeb fod yn symbol o ymrwymiad cyhoeddus y teulu Dahl i’r rhan o Gymru lle y gwnaeth ymgartrefu. 18


Y diwydiant glo a groesawodd Roald Dahl i’r byd ar 13 Medi 1916 mewn tŷ newydd ysblennydd sy’n dal i sefyll ar Fairwater Road, Llandaf. Porthladd prysur, rhyngwladol Caerdydd a ddaeth â’i dad, Harald, o Norwy drwy Baris i Gymru ar ryw bwynt yn yr 1890au i sefydlu cwmni llongau a ffitiai lyngesau masnachol y byd. Er na allai neb honni bod ganddo saim rhaffau llong a llwch y pyllau yn ei wythiennau (yr agosaf a ddaeth i hynny oedd chwarae ar lawr swyddfeydd ei dad ar Stryd Bute yn blentyn), mae Roald Dahl yn gynnyrch ffyniant diwydiannol de Cymru. Ar ôl i’w wraig gyntaf farw yn sydyn, priododd Harald â Sofie Magdalene, a oedd hefyd yn dod o Norwy, a symudodd y teulu i Dŷ Mynydd, Radur gweler llun ohono ar y dde – adeilad anferth, a gafodd ei ddymchwel yn yr 1960au, yng nghanol ystad fferm hyfryd. Byddai Dahl yn treulio gweddill ei oes yn ceisio ail-greu’r amser a’r lle hwn. Yn dilyn marwolaeth Astri yn saith oed, ac ychydig fisoedd wedyn ei thad, a oedd wedi torri ei galon, dychwelodd y teulu i ardal gefnog Llandaf ac i gartref llai o faint, ond a oedd yn dal i fod yn nodedig, sef Cumberland Lodge (sydd bellach yn gartref i feithrinfa Ysgol Howell’s). Mae’r darlun gan Quentin Blake ar glawr Roald Dahl: Wales of the Unexpected (Gwasg Prifysgol Cymru) yn dangos Dahl yng ngwisg Ysgol y Gadeirlan, Llandaf yn edrych i fyny yn llawn chwilfrydedd arno ei hunan yn ei henaint, gyda meindwr yr eglwys gadeiriol yn arwain llygad y bachgen bach i fyny tua’i ddyfodol fel brand chwethroedfedd-chwe-modfedd, byd-enwog. Er mai’r ieithoedd Norwyeg a Saesneg a oedd i’w clywed ar aelwyd y Dahl ifanc yn Llandaf, pwysleisia’r sawl a gyfrannodd at Wales of the Unexpected y byddai’n rhaid iddo fod wedi dod yn gyfarwydd ag amleddau’r Gymraeg a hynodrwydd diwylliant y Cymry. Byddai’r fath amrywiaeth a gwahaniaeth hefyd yn pennu ei ysgrifennu mewn ffyrdd na ellid eu gwadu, er nad oeddent bob amser yn amlwg.

Yn narlun Quentin Blake, mae Dahl yr oedolyn yn edrych fel Eingl-werinwr – persona y mabwysiadodd ar ôl ymgartrefu yn Great Missenden yn Swydd Buckingham. Ac eto, roedd Dahl bob amser yn ystyried ei hun yn ddieithryn ac ni chafodd byth ei dderbyn gan y sefydliad llenyddol Seisnig mewn gwirionedd. At hynny, yn America y derbyniodd ei gyhoeddiadau eu llwyddiannau cyntaf. Anfonwyd ef yno fel Attaché Awyr Cynorthwyol anturlon – ac asiant cudd-wybodaeth Prydeinig – ar ôl i’w Gloster Gladiator syrthio o’r awyr yn anialwch gorllewinol Libya ym mis Medi 1940. O’r cychwyn cyntaf, roedd Dahl yn hybrid diwylliannol cymhleth, yn gynnyrch cymysglyd o hunaniaethau diwylliannol a chysylltiadau paradocsaidd. Ffigwr hollbwysig yn ei fywyd cynnar oedd garddwr o’r enw Joss Spivvis (ei enw iawn oedd Jones ond ni wyddom fwy na hynny), sef garddwr y teulu Dahl yn Cumberland Lodge a fyddai’n mynd â Dahl i wylio Caerdydd yn chwarae ym Mharc Ninian ar ddydd Sadwrn. Mewn traethawd bywgraffiadol a gyhoeddwyd yn 1987, cofiai Dahl Joss yn ei gyfareddu â hanes ei daith ddychrynllyd 19


gyntaf pan yn fachgen i berfeddion pwll glo yng Nghwm Rhondda, wedi’i gaethiwo mewn tywyllwch diwydiannol, gan ddisgyn ar gyflymder i’r gwythiennau lle daliwyd y to i fyny gan byst pwll a elwid yn ‘Norways’. Yr hyn a gyfleodd Joss i’r Dahl ifanc oedd ymdeimlad o ddychryn, cyffro, gwahaniaeth diwylliannol ac ieithyddol – a grym cyfareddol geiriau pan fo’r gwreiddiau mewn pethau bob dydd, yn ogystal â’r ffantasïol. Mae’r ffaith bod y disgrifiad o ddisgyn i’r pwll a roddir gan Dahl yn ei draethawd eisoes wedi ymddangos yn ei waith, yn yr un ffordd yn union bron, wrth ddisgrifio’r lifft gwydr mawr yn disgyn yn Charlie and the Chocolate Factory (1964) yn dweud cyfrolau. Rhaid chwilio’n galed am olion o Gymru yn ei waith, ond maent yno. Yn Boy: Tales of Childhood (1984) dywed Dahl ei hun wrthym, ar ôl cael chwip din gan y pennaeth yn Ysgol yr Eglwys Gadeiriol am y ‘Cynllwyn Llygoden Mawr’ enwog yn siop losin Mrs Pratchett (tecawê Tsieineaidd â phlac glas bellach), a chael ei hel ymaith gan ei fam gynddeiriog i ysgol baratoi yn Weston-super-Mare, byddai’n troi ei olygon tuag adref bob nos gan sicrhau ei fod yn wynebu ei deulu yn ôl yng Nghymru ar draws Môr Hafren. Mae’r disgrifiad a geir ar ddechrau James and the Giant Peach (1961) o’r bachgen bach, wedi’i garcharu yn nhŷ ei fodrybedd atgas, yn dwyn i gof 20

y weithred honno o ddychwelyd i Gymru: mae James yn edrych yn hiraethus tuag at gartref ei rieni sydd wedi marw, dros dirlun bugeiliol cyfoethog sy’n dwyn i gof ystad y teulu Dahl yn Radur. Yn The BFG (1982) clywn gan rywun o’r tu allan – cawr nad yw’n perthyn i fyd y cewri nac ymhlith pobl gyffredin, lle mae ar y cyrion ac yn y cysgodion. Mae’n siarad iaith hybrid, greadigol y mae’n cyfeirio ati fel ‘terrible wigglish’ – sy’n ein hatgoffa’n syth o Wenglish y byddai Dahl, heb os, wedi dod ar ei draws i ryw raddau pan oedd yn blentyn. Aiff y Cawr Mawr Mwyn ymlaen i sôn am y ffordd y mae’r dieithryn hwn yn dysgu sut i siarad ‘yn iawn’, a sut y caiff ei dderbyn i’r sefydliad diwylliannol Seisnig gan neb llai na Brenhines Lloegr. Yr hyn a welwn yma yw Dahl yn myfyrio ar ei brofiad yntau o’i ymadawiad diwylliannol â Chymru a’i Gymreictod cymhleth – o ganfyddiad o fod ar y ‘cyrion’ i fod ‘wrth wraidd’ diwylliant Seisnig (er na chafodd ei dderbyn yn gyfan gwbl, fel y gwelsom). Yr hyn y mae Roald Dahl: Wales of the Unexpected yn ceisio ei ddangos – gan ddyfynnu datganiad enwog Dahl am gyfrinachau – yw bod Cymru i’w gweld yn ei waith wedi’i chuddio yn y mannau mwyaf annisgwyl. Lluniau: © RDNL, trwy garedigrwydd y Roald Dahl Museum and Story Centre

Golygwyd Roald Dahl: Wales of the Unexpected, gan Damian Walford Davies a gellir ei brynu gan Wasg Prifysgol Cymru: www.uwp.co.uk


Daeth nifer helaeth o sefydliadau ac unigolion o Gymru a thu hwnt ynghyd er mwyn sicrhau bod geiriau hudolus Roald Dahl wedi cael eu dathlu o Fôn i Fynwy yn ystod 2016.

• • • • • • • • • •

Llywodraeth Cymru Llenyddiaeth Cymru Ystâd Lenyddol Roald Dahl Canolfan Mileniwm Cymru National Theatre Wales Cyngor Celfyddydau Cymru Cyngor Llyfrau Cymru Amgueddfa Genedlaethol Cymru Llyfrgell Genedlaethol Cymru Roald Dahl Museum and Story Centre

• Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd

• • • • • •

Cynulliad Cenedlaethol Cymru The Aloud Charity Cyngor Dinas Caerdydd British Council Cymru The Llandaff Society The Radyr and Morganstown Society

• • • • • • • • •

Canolfan Celfyddydau Chapter

• • • • • • • •

Cyhoeddiadau Rily

Canolfan Ffilm Cymru Into Ffilm Ffilm Cymru Wales

Gyda diolch arbennig i lyfrgelloedd, ysgolion, amgueddfeydd, siopau llyfrau, sefydliadau a chymdeithasau diwylliannol ar draws Cymru sydd wedi cyfrannu at ddathliadau Roald Dahl 100.

Hay Festival Eisteddfod Genedlaethol Cymru Urdd Gobaith Cymru Awdurdod Harbwr Caerdydd Roald Dahl’s Marvellous Children’s Charity

Ceir rhestr lawn o’r sefydliadau a phartneriaid a gefnogwyd drwy gynllun nawdd ac allestyn Dyfeisio Digwyddiad Llenyddiaeth Cymru ar www.roalddahl100.cymru

• Darluniau gan Sarah Edmonds • Dyluniwyd gan Yogi Communications

BBC Cymru S4C TramShed Caerdydd Creo Gwasg Prifysgol Cymru Anni Llŷn – Bardd Plant Cymru Sophie McKeand – Awdur Ieuenctid Cymru

• Prifysgol Caerdydd • Caerdydd Creadigol

21


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.