Bridgend Local Authority- Cymraeg

Page 1

Astudiaeth Achos Sefydliad: Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr Math o ddarparwr AB: Dysgu Oedolion a Chymunedol Canola acha: Dechnoleg

Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Ffôn: 0207 936 5798 E-bost: advice@lluk.org www.lluk.org

“Bellach mae gan diwtoriaid adnoddau gwell ac maent yn fwy parod i ddefnyddio detholiad o dechnolegau yn eu hamgylcheddau.” Cefndir Cynhelir sesiynau dysgu oedolion a chymunedol mewn nifer o amgylcheddau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft mewn canolfannau bywyd mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol ac ysgolion. Mae’r amrywiaeth o offer TGCh yn amrywio’n sylweddol rhwng lleoliadau. Ble na cheir adnoddau TGCh, mae gan diwtoriaid fynediad at ddetholiad o liniaduron i fynd gyda nhw, neu byddant yn ceisio symud lleoliad y dysgu yn ystod rhan o’r cwrs er mwyn i’r dysgwyr allu cael mynediad i’r rhyngrwyd. Dechreuodd Donna weithio fel tiwtor TG wyth mlynedd yn ôl wedi gweithio fel hyfforddwr TGCh mewn canolfan feddygol. Yn ystod ei blwyddyn gyntaf fel tiwtor bu Donna yn dysgu ambell ddosbarth ochr yn ochr â’i swydd arall ac yna cafodd swydd fel tiwtor TG llawn amser. Wedi dwy flynedd, fe’i gwnaethpwyd yn rheolwr dysgu cymunedol a’r llynedd cafodd swydd fel prif swyddog ar gyfer dysgu oedolion a chymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Nid oedd gan Donna sgiliau TGCh pan adawodd yr ysgol, er bod TG yn rhan o gwrs busnes a ddilynodd. Ni ddechreuodd ddysgu sgiliau TGCh yn swyddogol nes iddi fynd yn ôl i astudio fel oedolyn yn dysgu oedolion a chymunedol. Mae wedi diweddaru ei sgiliau’n gyson trwy fynychu cyrsiau, ennill cymwysterau neu ddysgu wrth ei gwaith.


Defnyddio technoleg Y ffordd bwysicaf o ddefnyddio technoleg gyda dysgu oedolion a chymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw trwy ganiatáu mynediad iddo mewn ystod eang o leoliadau ledled y sir. Prynwyd offer i diwtoriaid pob pwnc eu defnyddio, gan gynnwys eitemau cyfarwydd megis taflunyddion a gliniaduron, yn ogystal ag offer mwy anarferol megis recordwyr llais digidol, a ddefnyddiwyd yn llwyddiannus mewn cyrsiau iaith i ddarparu tystiolaeth o allu dysgwyr i sgwrsio a gwrando. Mae tiwtoriaid dysgu oedolion a chymunedol wedi bod yn defnyddio camerâu fideo digidol ers amser maith i alluogi dysgwyr i gasglu tystiolaeth o’u dysgu. Mae tiwtoriaid dysgu oedolion a chymunedol hefyd wedi defnyddio technoleg mewn dysgu traws gwricwlwm ble mae gwahanol ddosbarthiadau’n dod ynghyd a rhannu eu profiadau dysgu. Er enghraifft, bu dosbarth coginio yn paratoi bwyd Sbaenaidd i ddysgwyr Sbaeneg, a ddysgodd y dosbarth coginio a dosbarth ffotograffiaeth ddigidol sut i siarad Sbaeneg, a bu’r dosbarth ffotograffiaeth ddigidol yn tynnu lluniau o’r digwyddiad a dangos i’r cogyddion a’r dosbarth Sbaeneg sut i ddefnyddio eu camerâu a’u gliniaduron.

Datblygiad proffesiynol parhaus Yn wreiddiol, fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus, anogwyd tiwtoriaid dysgu oedolion a chymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr i baratoi cynlluniau gwersi yn defnyddio TGCh. Yn dilyn hyn, trefnodd Donna i Gydweithfa Sgiliau Adfywio Cymru gynnal digwyddiad hyfforddiant e-ymwybyddiaeth ble dangoswyd i diwtoriaid mewn mwy o fanylder sut i ddefnyddio technoleg. Mynychodd cryn dipyn o diwtoriaid y digwyddiad hwn, ac mae ei lwyddiant yn amlwg i’w weld yng ngwaith y tiwtoriaid felly mae diwrnod arall ar y gweill gyda Chydweithfa Sgiliau Adfywio Cymru. Tair gwaith y flwyddyn, mae tiwtoriaid yn cwrdd mewn grwpiau ansawdd cwricwlwm a ddefnyddir ar gyfer datblygiad staff; yn cynnwys datblygu sgiliau staff wrth ddefnyddio TGCh i gynorthwyo profiad y dysgwr. Mewn un enghraifft o diwtoriaid yn rhannu arfer da, gwelwyd un tiwtor yn mynd ati i ffilmio gwersi o gwrs ffotograffiaeth fideo ar ‘ddod yn gyfarwydd â’ch camera’, ac yn ei rannu gyda thiwtoriaid eraill. Bydd dulliau o ddefnyddio TGCh i gyfoethogi dysgu yn aml yn cael eu rhannu yn y grwpiau hyn. Cynigir hyfforddiant mewnol cychwynnol ar sgiliau tiwtora cychwynnol i diwtoriaid newydd (y rhai hynny nad ydynt wedi cyflawni eu cymhwyster dysgu eto), ac yn rhan ohono mae cyfle i ddefnyddio technoleg i

gwblhau ‘dysgu micro’. Yma fe ofynnir i diwtoriaid ddefnyddio bwrdd gwyn rhyngweithiol, cyflwyniadau neu fideos, er enghraifft, er mwyn gwreiddio diwylliant ar gyfer defnyddio technoleg gan diwtoriaid newydd ar gam cynnar.

Effaith/gwersi allweddol Bellach mae gan diwtoriaid adnoddau gwell ac maent yn fwy parod i ddefnyddio ystod o dechnolegau yn eu hamgylcheddau. I ddysgwyr, cafwyd effaith o ran eu gallu i ddefnyddio ystod o dechnolegau dysgu, gan ddefnyddio eitemau cyffredin megis eu ffonau symudol mewn modd cwbl wahanol; efallai na fyddai dysgwyr wedi ystyried defnyddio eu ffonau symudol i recordio llais i wrando arno tu allan i’r dosbarth. Mae tiwtoriaid wastad yn defnyddio technoleg sy’n berthnasol, ac y gall dysgwyr ei ddefnyddio tu allan i’r amgylchedd dysgu. Cafwyd manteision ehangach hefyd. Yn yr Arddangosfa Celf a Chrefft Dysgu Oedolion a Chymunedol flynyddol, sy’n cynnwys ffotograffiaeth ddigidol a delweddu effeithiau arbennig, datganodd y dysgwyr eu bod wedi gwneud defnydd o sgiliau a ddysgwyd mewn meysydd eraill o’u bywyd megis yn eu gwaith, ar bwyllgorau ac mewn grwpiau maent yn aelodau ohonynt. Ar gyfer Seremoni Gwobrau Dysgwyr Oedolion Pen-y-bont ar Ogwr yn 2009, cyfwelwyd yr enillwyr cyn y seremoni a dangoswyd clipiau o’r cyfweliadau yn y seremoni. “Dyma yw Dysgu Oedolion a Chymunedol yn ein barn ni - pawb yn rhoi cynnig arni. Rydym yn ceisio creu cyfleoedd i bawb ddefnyddio technoleg sydd eisoes yn eu meddiant wrth ddysgu megis ffonau symudol, yn ogystal â darparu cyfleoedd i roi cynnig ar dechnolegau eraill i wella dysgu.”

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol Mae Donna’n teimlo ei bod yn bwysig i gadw’n gyfoes â’r datblygiadau technolegol diweddaraf a chynnig cyfle i bobl ddysgu am y datblygiadau hyn. Ei nod mwyaf yw cynnwys technoleg ym mhob pwnc, ac mae’n teimlo mai’r allwedd i hyn yw bwydo dafnau o dechnoleg yn araf bach i’r rhai sydd ofn ei ddefnyddio fel y gall ledaenu trwy bopeth arall. Datblygiad allweddol arall i’r dyfodol fydd i sefydlu a defnyddio Moodle. Bydd yr ardal gyntaf ar gyfer tiwtoriaid ac yna agorir ardal i ddysgwyr. Bydd hyn naill ai’n cynnwys deunydd atodol i ddysgwyr yn dilyn gwersi, neu gellid ei ddefnyddio i gyflwyno deunydd i’r rhai sydd wedi colli gwersi.

RW05/09/CS021

Cyswllt Dysgu Gydol Oes yn y DU 5th Floor St Andrew’s House 18-20 St Andrew Street London EC4A 3AY

Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor

020 7936 5798 E-bost: advice@lluk.org

Mae’r wybodaeth yma ar gael mewn fformatau eraill gan Ddysgu Gydol Oes yn y DU

www.lluk.org


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.